Chwilio uwch
 

Bywgraffiad

Cynnwys

Bywyd Guto'r Glyn

EURIG SALISBURY A BARRY J. LEWIS

Perthyn i Guto'r Glyn hynodrwydd nid yn unig fel un o feirdd mwyaf y bymthegfed ganrif yng Nghymru, ond fel y bardd Cymraeg cyntaf y gellir llunio amlinelliad gweddol ddiogel o'i fywyd. Yn wahanol i'w ragflaenydd enwocaf, Dafydd ap Gwilym, roedd Guto'n fardd mawl proffesiynol. Ni roes ei fryd ar ganu cerddi serch i ferched na wyddys fawr ddim amdanynt heddiw, eithr fe ganodd yn uniongyrchol i ddynion y mae eu henwau a'u gweithredoedd yn aml wedi eu cofnodi mewn dogfennau o'r cyfnod. At hynny, cafodd Guto yrfa faith iawn a chanodd gerddi i nifer o bobl bwysicaf ei oes.

Wedi dweud hyn oll, mae'n debygol mai cyfran gymharol fechan o'i waith sydd ar glawr. Goroesodd tua 120 o'i gerddi yn y llawysgrifau (cyfanswm o 7569 o linellau), swm go helaeth o'i gymharu â mwyafrif beirdd y cyfnod, ond cyfanswm llai trawiadol mewn cymhariaeth â'r cruglwyth o 238 o gerddi Lewys Glyn Cothi a oroesodd, y mwyafrif yn llaw'r bardd ei hun. Ac ystyried bod Guto wedi cael oes feithach na Lewys i bob golwg, ac o gymryd ei fod lawn mor gynhyrchiol ag ef, mae'n debygol fod dros hanner cynnyrch Guto wedi mynd yn angof. At hynny, mae'r rhan fwyaf o'r hyn a fu unwaith yn hysbys amdano wedi mynd dros gof hefyd, megis ym mhle y cafodd ei eni, pwy oedd ei athro barddol a phryd y bu farw.

Mae'r ychydig sydd wedi goroesi, er hynny, yn nodedig am ddau reswm. Y cyntaf yw rhychwant amseryddol canu Guto'r Glyn; cynrychiolir yn ei waith y rhan fwyaf o'r bymthegfed ganrif wedi gwrthryfel Owain Glyndwr. Yr ail yw ehangder daearyddol y canu; yr unig ran o Gymru lle na bu Guto'n arbennig o weithgar, hyd y gwyddys, yw'r de-orllewin. Er mor anghyflawn yw'r darlun ar adegau, eto fe gawn gipolygon cyffrous ar Guto mewn lleoliadau arbennig ar adegau arbennig, ac yn raddol fe ddaw i'r amlwg amlinelliad o yrfa bardd ac iddi arwyddocâd gwir genedlaethol a rhyngwladol.

Ailddarganfod y bardd

Yn 1939 y cyhoeddwyd y casgliad cyntaf o farddoniaeth Guto gan Wasg Prifysgol Cymru dan olygyddiaeth Ifor Williams, Gwaith Guto'r Glyn, a'r cerddi wedi eu casglu gan J. Llywelyn Williams. Ers hynny cafwyd sawl ymdriniaeth ar fywyd y bardd, yn fwyaf nodedig gan Saunders Lewis (1976) a J.E. Caerwyn Williams (1997). Er cyfoethoced yr ymdriniaethau hynny, fe'u seiliwyd o reidrwydd ar olygiad cymharol annigonol o waith Guto a luniwyd ar frys ac a gwblhawyd 'ar fyrder' yn nannedd yr Ail Ryfel Byd (GGl vii). Rhaid cydnabod bellach fod llawer o'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu am fywyd Guto'n frith o fân gamdybiaethau sy'n seiliedig ar destunau annerbyniol o'i gerddi. Mae'r unig gofiant a luniwyd iddo (Rees 2008), yn pwyso ar yr un seiliau simsan ac, at hynny, mae'n euog o hau rhai camdybiaethau newydd am y bardd. Gobaith yr ymdriniaeth bresennol yw y bydd modd elwa ar olygiad trylwyr o waith Guto er mwyn claddu rhai o'r camdybiaethau hynny a rhoi astudiaethau ar fywyd y bardd ar sail gadarnach. Er hynny, mae llawer yn ansicr o hyd, a'n gobaith yw y bydd yr astudiaeth hon yn ysbardun i eraill i fynd i'r afael â'r problemau a erys.

Bywyd bardd yn y bymthegfed ganrif

Cyn troi at yrfa Guto'n benodol, byddai'n fuddiol amlinellu'r hyn a wyddys am weithgarwch y beirdd proffesiynol yn ei amser ef. Eu gwaith, yn y bôn, oedd diddanu noddwyr. Amrywiai'r rhain o wyr uchel iawn eu statws, fel Wiliam Herbert o Raglan a ddaeth yn iarll cyntaf Penfro, i fân ysgwieriaid fel Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter. Ond uchelwyr - gwyr o dras a feddai ar ystadau a chartrefi cyfforddus yn ôl safon eu hoes - oeddynt i gyd. Byddai rhai aelodau o'r dosbarth hwn yn dilyn gyrfa yn yr Eglwys ac, unwaith eto, amrywio a wnâi statws y gwyr hyn. Canai Guto i ddeon Bangor ac i offeiriaid plwyf, a hefyd i abadau rhai o'r tai Sistersaidd, hwythau'n perthyn i deuluoedd uchelwrol lleol. Ar adegau, byddai nawdd ar gael gan ferched a gwragedd, weithiau ochr yn ochr â'u gwyr, droeon eraill yn rhinwedd eu statws fel gweddwon. Rhaid hefyd grybwyll noddwyr eithriadol, megis Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, ac yn bennaf oll y Brenin Edward IV. Mae'n annhebygol y byddai'r gwyr dyrchafedig hyn yn medru Cymraeg, ac mae lle i ddadlau a fwriadwyd y cerddi ar gyfer cynulleidfa o'u cefnogwyr lleol yn unig ynteu, os oeddynt mewn gwirionedd yno i'w clywed, a gyflëwyd byrdwn y canu iddynt yn Saesneg o flaen y perfformiad neu ar ei ôl. Yn y 1470au derbyniodd Guto arian am ganu i Edward, Tywysog Cymru, yn Amwythig, felly ni ddylid gwrthod yn ddifeddwl y posibilrwydd fod y cerddi i'r iarll ac i'r brenin wedi eu datganu yn eu gwydd.

Pennaf gorchwyl y bardd oedd canmol ei noddwr ar fydr. Mae'r math hwn o farddoniaeth, y canu mawl, mor greiddiol i waith y beirdd fel ei fod bron yn gyfystyr â'u crefft. Un enw go gyffredin ar y canu mawl oedd y glod. Defnyddid hefyd y ferf prydu. Ystyr wreiddiol y ferf hon yw 'ffurfio' neu 'siapio', ond daeth i olygu 'llunio mawl' yn benodol. Sonnid hefyd am y cywydd gwr, ac mae Guto yn ei alw ei hun yn [b]rydydd gwr. Mae'r termau hyn yn crisialu gwirionedd pwysig am y canu mawl: dathliad o wryweidd-dra ydyw yn anad unpeth. Y cyneddfau a folir yw'r rheini a nodweddai'r gwr delfrydol, sef dewrder ar faes y gad; cadernid wrth amddiffyn ei fuddiannau ei hun a sicrhau lles y sawl a ddibynnai arno; haelioni a charedigrwydd tuag at y sawl a oedd yn deilwng o dderbyn y rhain (sef dilynwyr, beirdd, gwesteion yn gyffredinol); ac ymlyniad wrth gyfiawnder ac wrth gadw trefn a thegwch o fewn y gymdeithas. Mynegiant gloyw o'r syniadau hyn yw'r topos 'gwrdd wrth wrdd, gwâr wrth wâr' sy'n digwydd drosodd a throsodd yn y farddoniaeth. Dylai ymddygiad y gwr delfrydol amrywio yn ôl natur y sawl yr oedd yn ymwneud â hwy. Hynny yw, dylai ddangos cadernid a beiddgarwch hyd at greulonder tuag at ei elynion a'r sawl a'i heriai, ond disgwylid iddo drin ei gyfeillion a'i ddilynwyr, fel hefyd y gwan a'r diamddiffyn - sef merched yn gyffredinol a chardotwyr - gyda haelioni di-ben-draw ac wyneb siriol. Cysylltid y rhinweddau hyn yn dynn wrth arucheledd tras. Cred holl gyffredin yn y gymdeithas ganoloesol oedd mai tras a fyddai'n gwarantu bod gwr yn meddu ar gyneddfau felly. Tras gwr hefyd a oedd yn pennu ei hawl i etifeddu tir a statws cymdeithasol ei deulu. Dyna paham y mae'n cymryd lle mor fawr yn y canu mawl.

Er bod themâu'r mawl yn eithaf cyfyng ac ailadroddus, ceir amrywiaeth diderfyn yng nghyflawniad y weithred o foli. Nid yw unrhyw gywydd neu awdl o fawl yn dilyn patrwm yn slafaidd, a cheir amrywiaeth o ran y dewis o themâu, y drefn y cyflwynir hwy, y mynegiant a'r delweddau, a'r pwysleisiau. Gellir adnabod rhai genres, neu is-genres, o fewn y canu mawl. Cenid cerddi gofyn i ymbil am ffafr neu rodd, weithiau er lles y bardd ei hun, droeon eraill ar gais noddwr arall. Cenid hefyd i ddiolch am rodd a roddwyd. Cenid i ddathlu priodas ac i goffáu codi ty newydd. Ond y pwysicaf a'r mwyaf nodedig o'r is-genres oedd y farwnad, a genid nid yn unig i gadw cof am y marw ond hefyd i sicrhau bod ffynhonnell y nawdd i'r beirdd yn parhau i'r genhedlaeth nesaf.

Diddanwch yn ystyr helaethaf y gair a geir yn y canu mawl. Yr oedd, fodd bynnag, rai mathau eraill o farddoniaeth nad oedd mor agos gysylltiedig â moli unigolyn. Un dull o esgor ar ddigrifwch oedd gosod y beirdd i ddychanu ei gilydd. Cymerodd Guto ran mewn sawl ymryson (sef cystadleuaeth farddol). Sail yr hiwmor yn yr ymrysonau hyn oedd gor-ddweud byrlymus a defnydd ffraeth a gwreiddiol o ddelweddau. Gallai'r pynciau a osodid fod yn rhai digon pigog, megis cyhuddo bardd arall o or-ddweud a hau anwiredd, o ddangos diffyg menter, o fod yn feddwyn esgeulus neu o fod yn dioddef gan ryw salwch annymunol. Nid oedd ymddangosiad nac effeithiolrwydd yr organau rhywiol y tu hwnt i gwestiwn ychwaith.

Mae corff gwaith Guto'n nodedig ymhlith beirdd y bymthegfed ganrif am ei fod yn gyfyngedig, i bob pwrpas, i'r genres a grybwyllwyd uchod. Ni cheir canu serch na chanu crefyddol ganddo, ac eithrio un cywydd crefyddol a ganwyd, fel y mae Guto ei hun yn cyfaddef, ar gais noddwr o glerigwr a gwynai nad oedd y bardd yn ymboeni ddigon am gyflwr ei enaid ei hun (cerdd 118). Efallai nad oedd Guto yn arfer ymhél â'r genres hyn, ond peryglus fyddai dweud hynny ar sail y ganran o'i waith sydd wedi goroesi. Yn sicr, dengys cerdd i offeiriad Merthyr Tudful (cerdd 16), sy'n darlunio'r berthynas rhyngddo a'i nawddsantes yn nhermau carwriaeth, a'r cywydd digrif am serch Gwladus o Lyn-nedd (cerdd 34), ei fod yn llwyr gyfarwydd â dulliau'r canu crefyddol a'r canu serch fel ei gilydd.

Mae ochr ymarferol y grefft farddol yn anodd iawn ei hail-greu heddiw ar sail y dystiolaeth annigonol sydd wedi goroesi. Mae'n demtasiwn troi at ddogfennau'r unfed ganrif ar bymtheg, sy'n dweud mwy am waith, trefn a rheolau'r urdd farddol, ond mae'n anodd gwybod pa mor ddilys yw'r cyfarwyddyd hwnnw o'i gymhwyso ar gyfer y bymthegfed ganrif. Diogelach yw pwyso ar dystiolaeth canu Guto a'i gyfoeswyr yn unig.

Ni wyddys sut y deuai dyn yn fardd yn y bymthegfed ganrif. Yn sicr, roedd rhai beirdd yn dilyn traddodiad teuluol, megis meibion Hywel Swrdwal, Tudur Penllyn a Huw Cae Llwyd. Ond ni cheir tystiolaeth fod tad Guto'n fardd, ac mae hynny'n wir am lawer o feirdd eraill. Mae addysg y beirdd yn fwlch mawr yn ein gwybodaeth, a thrafodir isod yr ychydig y gellir ei gasglu neu, a bod yn gywirach, ei ddyfalu. Ni wyddys ychwaith sut y datblygai bardd ei rwydwaith o noddwyr yn y lle cyntaf, ond y tebyg yw bod disgwyl iddo ddilyn ei feistr o gwmpas y tai, cyn mynd yn annibynnol ei hun.

Treuliai'r beirdd proffesiynol amser maith ar y ffordd, ac mae blinderau teithio'n bwnc achlysurol yn y canu. Ymwelai beirdd â'u noddwyr ar dri achlysur rheolaidd yn ystod y flwyddyn, sef adeg y Nadolig, y Pasg a'r Sulgwyn - y tair gwyl arbennig y sonnir yn dra aml amdanynt. At hynny, ymwelai beirdd ar ddyddiau gwyl y seintiau hefyd, yn enwedig ar wyl nawddsant y plwyf. Achlysuron eraill a'u denai oedd priodasau, codi ty newydd ac, yn amlach o lawer, farwolaethau. Ni chenid y marwnadau o reidrwydd yn ystod yr angladd ei hun neu unrhyw wledd a'i dilynai. Cymerai amser i'r newyddion trist gyrraedd clustiau'r bardd yn y lle cyntaf, ble bynnag y digwyddai fod, ac yna byddai arno angen amser i gyfansoddi marwnad deilwng, ac yna fwy byth o amser i deithio i gartref y marw. Cynhelid gwasanaethau coffa fis a blwyddyn ar ôl marwolaeth - y month's mind a'r year's mind yn Saesneg - a gall mai yn ystod y rhain y cenid marwnadau gan amlaf. Ar wahân i amgylchiadau arbennig fel y rhain, ni wyddys a allai beirdd daro heibio ar hap, neu a oedd rhai cartrefi'n agored iddynt drwy'r amser - efallai mai dyna yw ystyr y gair rhydd a arferir droeon gan Guto wrth ganmol rhai cartrefi nawdd penodol (13.1-8). Sut, hefyd, y gwyddai bardd y byddai croeso iddo? Ceir peth sôn am wahoddion, sy'n awgrymu bod disgwyl i fardd aros am gael ei wahodd (47.17-20; 55.1-8; 63.1-2).

Cwestiwn diddorol arall yw ble yr arhosai bardd dros nos tra oedd ar ei ffordd i rywle penodol. A gâi alw ar noddwyr heb fod ganddo gerdd benodol yn barod ar eu cyfer? Gellir amau y câi, ac y byddai'n talu am ei fwyd a'i wely drwy adrodd cerddi eraill, megis rhai Dafydd ap Gwilym (tystia un o gywyddau Guto i Harri Gruffudd o'r Cwrtnewydd fod galw am glywed y rheini; cerdd 35). Os felly, byddai rhai o'i ymweliadau'n llai ffurfiol nag eraill. Nid yw'n eglur o gwbl faint o amser y disgwyliai bardd ei dreulio ym mhob ty, a'r tebyg yw fod hynny'n amrywio yn ôl adnoddau, haelioni neu amynedd y noddwr. Mae'n bosibl nad oedd Guto'n meddu ar ei aelwyd ei hun ar bob amser yn ei yrfa, yn enwedig tua'r dechrau, ond ei fod yn hytrach yn treulio ei holl amser yn symud o dy nawdd i dy nawdd. Gallai abaty Ystrad-fflur neu Raglan fod wedi cynnig lloches iddo am amser estynedig, efallai. Fodd bynnag, mae'n ddigon posibl hefyd fod gan Guto gartref yn rhywle. Gwyddys iddo fyw yng Nghroesoswallt ar ryw adeg yn ei yrfa.

Ar lafar, o flaen y noddwr ac yn ngwydd cynulleidfa ehangach y datgenid barddoniaeth Guto a'i gyfoeswyr. Mae'r dystiolaeth y seiliwyd y gosodiad hwn arni i gyd yn deillio o'r cerddi eu hunain, ond dim ond copïau ysgrifenedig o'r rhain sydd ar gael, ac mae felly berygl o ddadlau mewn cylch o ran natur lafar y canu. Eto i gyd, mae'r cyfeiriadau yn y farddoniaeth at berfformio cyhoeddus - gan gynnwys yr achlysuron, y cyfeiliant cerddorol ac arferion y beirdd o ymweld â'u noddwyr er mwyn elwa o'u perchentyaeth - mor niferus fel nad oes angen poeni'n ormodol am hyn. Mae angen ystyried, fodd bynnag, berthynas y bardd â thestunau ysgrifenedig. Sonia Guto am ddarllen llyfrau gyda'i noddwyr, yn enwedig Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd (cerdd 15). Yn eu plith roedd y Brut, sef rhyw fersiwn Cymraeg o 'Historia Regum Britanniae' Sieffre o Fynwy, mae'n debyg, a hefyd fucheddau'r saint, Trioedd ac ystorïau, sef chwedlau rhyddiaith a allai fod yn grefyddol yn ogystal â secwlar. Crybwyllir hefyd farddoniaeth y gorffennol - yn benodol, cerddi Cynddelw Brydydd Mawr - barddoniaeth a oedd erbyn amser Guto yn ddigon hynafol ei naws ac yn anodd ei deall, gellir amau, hyd yn oed i fardd dysgedig. Eto, Rhys ap Siancyn oedd yr athro a Guto oedd y disgybl, o leiaf yn ôl y cywydd. Cymerir bod Guto'n llythrennog, heb fod modd profi hynny'n derfynol. Byddai'n dda gwybod a ofynnai rhai o'i noddwyr am gael copïau ysgrifenedig o'i gerddi. Un llawysgrif yn unig a erys o'i amser ef ei hun sy'n cynnwys casgliad o'i gerddi, sef Peniarth 57, gwaith a gomisiynwyd gan yr Abad Rhys o Ystrad-fflur, yn ôl pob tebyg. Mae'r testunau ynddi yn gywir iawn yr olwg, a gall yn hawdd mai o destunau llafar neu ysgrifenedig gan Guto ei hun y'u codwyd - dwy law a fu wrthi yn eu copïo, ac nid yw'n amhosibl fod y naill neu'r llall yn eiddo Guto ei hun (Johnston 2013: 22).

Ei enw

Ffurf anwes yw Guto ar yr enw mwy safonol, Gruffudd (Morgan and Morgan 1985: 102-5), ond ni cheir tystiolaeth iddo erioed arddel y ffurf safonol honno. Guto ydoedd, yn ôl pob tebyg, o'r cychwyn, er i rai o'i gyd-feirdd gyfeirio ato wrth ffurf anwes arall debyg, sef Gutun, gan amlaf yn sgil gofynion y gynghanedd (101a.1n). Credai rhai o ysgolheigion yr ugeinfed ganrif nad yr un gwr oedd Guto'r Glyn a Guto ap Siancyn, ond tanseiliwyd y gred honno bellach (Salisbury 2007a). Guto ap Siancyn oedd yr enw a arddelai ar gychwyn ei yrfa, ond mabwysiadodd yn fuan wedyn ail enw ei dad, Siancyn y Glyn. Roedd ei enw cyntaf yntau, fel ei fab, yn ffurf anwes ar enw safonol, sef Ieuan (Morgan and Morgan 1985: 137-8). Ceir y dystiolaeth gynharaf ynghylch enw Guto yn llawysgrif Peniarth 57, a ysgrifennwyd cyn c.1440 ac a gysylltir ag Ystrad-fflur, lle priodolir cerddi i Gutto ap Jankyn. Ategir yr wybodaeth honno mewn cywydd o waith Ieuan ap Hywel Swrdwal a berthyn, o bosibl, i'r cyfnod c.1437-41 (gw. isod). Geilw Ieuan ef Y Guto, eos y Glyn a Guto'r mawl, a dywed mai ef yw mab Siancyn y Glyn (GHS 24.38, 42, 54, 62). Ategir y ffurfiau hyn gan ddau briodoliad diweddarach: y naill gan law anhysbys wrth gywydd lled-ddychan i Harri Gruffudd o'r Cwrtnewydd yn swydd Henffordd (cerdd 35) yn llawysgrif Peniarth 55 (c.1500), y gyto ab siankyn y glyn; a'r llall gan Thomas Rees o Gaerfyrddin wrth gywydd i ofyn saeled gan ac ar ran uchelwyr o'r gogledd-ddwyrain (cerdd 73) yn llawysgrif LlGC 16964A (c.1600-50), Gytto ssiankyn y glyn. Mae cyswllt Peniarth 57, Peniarth 55 a LlGC 16964A â de Cymru yn awgrymu bod y cof am y ffurf gynnar ar enw Guto wedi goroesi'n hirach mewn rhai ardaloedd deheuol.

Torrwyd enw Guto ar restr fwstwr byddin Richard dug Iorc ar ddiwedd mis Mai 1441, yn ôl pob tebyg gan swyddog o Sais yn Portsmouth a hepgorodd y fannod gan drin Glyn fel cyfenw yn unol â'r dull Seisnig: Gitto Glyn (Salisbury 2007a: 1). Goroesodd tair enghraifft arall gyfoes o'i enw. Perthyn y ddwy gyntaf i'r un cyd-destun, sef dau achlysur rhwng 1476 ac 1478 pan dderbyniodd Guto daliad ar y cyd â gwr o'r enw Walter Harper am ei wasanaeth fel bardd yn Amwythig (ceir trafodaeth isod). Fel yn achos y rhestr filwyr o 1441, mae'r fannod yn absennol gan mai Sais, yn ôl pob tebyg, a dorrodd yr enw Gutto Glyn ar y memrwn. Priodoliad yw'r drydedd enghraifft, yn llaw'r bardd Hywel Dafi, wrth gywydd i ofyn corn hela gan ac ar ran uchelwyr o'r gogledd-ddwyrain (cerdd 99) yn llawysgrif Peniarth 67 (c.1483). Y ffurf yno yw Gytto or glynn.

Fel Guto'r Glyn, felly, yr adwaenid ef yn gyffredinol wedi c.1440, fel y gwelir yng ngwaith pump o'i gyd-feirdd a gyfeiriodd ato wrth yr enw hwnnw, sef Ieuan ap Gruffudd Leiaf (93.3-4), Hywel Dafi (18a.68), Dafydd ab Edmwnd (68a.10), Llywelyn ap Gutun (65a.2) a Gutun Owain (126.6, 23). Fel y gwelir yn rhai o'r enghreifftiau uchod, defnyddid y fannod weithiau wrth gyfeirio ato wrth ei enw cyntaf yn unig, hynny yw, y Guto. Ceir y ffurf honno yng ngwaith Hywel Dafi (18a.9, 59; 20a.60) a Llywelyn ap Gutun (65a.49, 54) ac, yn wir, yng ngwaith Guto wrth iddo gyfeirio ato ef ei hun (113.31; 114.61). Ffurfiau anwes yn bennaf, megis Guto, Dai a Bedo, a ddefnyddid gyda'r fannod yn y dull hwnnw (TC 3; Morgan and Morgan 1985: 34).

Ei linach

Mae'r ffaith fod Guto'n arddel ffurf anwes ar ei enw yn lle'r ffurf safonol Gruffudd yn cyd-fynd i raddau ag absenoldeb ei linach o'r achresi. Yr awgrym cryf yw nad oedd yn perthyn i'r un haen gymdeithasol â'r noddwyr yr oedd yn eu moli. Nid oes fawr ddim yn hysbys am ei linach ac eithrio enw ei dad, Siancyn y Glyn, a'i gaifn (sef ei drydydd cefnder), Gruffudd ap Dafydd. Roedd Gruffudd yn un o dri bardd iau a geisiodd ddisodli Guto o abaty Glyn-y-groes, yn ôl cerdd a ganodd Guto yn ei henaint, a disgrifir y berthynas waed rhwng y ddau fel [c]erennydd gron 'perthynas lawn'. Hyd nes y lleolir y Gruffudd hwnnw (am drafodaeth, gw. 116.31-3n), rhaid pwyso ar gyfeiriadau eraill llai penodol at ei linach, megis yr un yng ngherdd Guto. Canodd Guto'r cywydd hwnnw er mwyn cystwyo Gruffudd a'r ddau fardd arall, gan ddadlau mai ef oedd y bardd gorau er gwaethaf y ffaith fod y tri bardd arall yn Uwch o waed achau nag ef (116.49). Ac yntau'n perthyn i un ohonynt, cesglir nad oedd Guto'n dlotyn di-dras a bod rhywfaint o waed uchelwrol ynddo, eithr nad oedd ei dras yn ddiledryw.

Ceir rhywfaint o ateg i dras cymysg Guto yn ei ymryson byr ag Ieuan ap Gruffudd Leiaf (cerdd 93), lle cydnebydd ei fod o dras is na'i gyd-fardd. Fodd bynnag, ac ystyried bod Ieuan yn disgyn yn uniongyrchol o dywysogion Gwynedd, ni ddywed hynny fawr ddim am statws Guto. Ni wnaed ei linach yn destun gwawd gan yr un o'r beirdd a ganodd gywyddau dychan iddo ac, at hynny, go brin y byddai wedi derbyn addysg farddol pe na bai gan ei deulu rywfaint o fodd i fyw. Gall yn syml fod Siancyn y Glyn yn fân uchelwr yr aeth ei linach ar ddifancoll. Ond rhaid ystyried hefyd y posibilrwydd nad oedd yn uchelwr, ond yn hytrach yn ddeiliad o fath a wasanaethai uchelwr ac a oedd yn gaeth i'r tir ond a fedrai, mewn achosion arbennig, ennill ei ryddid (Carr 1982: 128, 144-50). Nid yw'n amhosibl fod Siancyn y Glyn wedi manteisio yn y dull hwnnw yn sgil y cyni a ddilynodd ymweliadau'r pla â Chymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Bu ad-drefnu cymdeithasol pellach yn dilyn methiant gwrthryfel Owain Glyndwr, pan aeth nifer o daeogion ati i brynu eu rhyddid ar draul uchelwyr a gollasant eu grym (Davies 1995: 318-19).

A sôn am Owain Glyndwr, rhaid rhoi sylw i un posibilrwydd diddorol ynghylch tad Guto. Canodd Llawdden gywydd i ofyn cleddyf a bwcled gan Phylib ap Rhys, mab yng nghyfraith i Owain, ar ran gwr o'r enw Siancyn y Glyn. Yn y cywydd hwnnw gelwir Siancyn yn [f]rawd o gyfraith i'r noddwr ac yn [g]âr i'w wraig, Gwenllïan, a oedd yn ferch i Owain Glyndwr. Y tebyg yw, felly, mai mab anghyfreithlon i Owain, a elwid yn aml yn Owain y Glyn, oedd Siancyn (GLl 181). Trafodir isod y posibilrwydd fod Guto wedi ei eni yng Nglyndyfrdwy, er na ellir torri'r ddadl yn derfynol. Ac yntau'n fab i wr o'r enw Siancyn y Glyn, mae'n nodedig fod gwr o'r enw hwnnw'n fab i'r enwocaf o drigolion Glyndyfrdwy. Serch hynny, ac ystyried y cyfeiriadau uchod at dras cymharol isel Guto, mae'n bur annhebygol ei fod mewn gwirionedd yn wyr i Owain Glyndwr, pennaf olynydd tywysogion Cymru yn ei ddydd.

Bro ei febyd

Ni cheir sicrwydd ynghylch lleoliad y Glyn yn enw Guto'r Glyn. Awgrymwyd yn ddiweddar Lanfihangel Genau'r Glyn, gan fod gwr o'r enw Guto ap Siancyn ap Llawdden yn weithgar yng nghantref Penweddig c.1434-46 (Salisbury 2009: 58-60), ond ni cheir tystiolaeth bellach o blaid credu bod Guto'n wr o Geredigion. Y gred gyffredinol yw mai Glyn Ceiriog oedd cartref gwreiddiol Guto, gan mai dyna oedd barn Ifor Williams yn ei ragymadrodd i Gwaith Guto'r Glyn (GGl xxii), ond nid yw'r dystiolaeth lawn mor ddiamwys â'r disgwyl.

Pwysodd Ifor Williams ar linellau agoriadol cywydd mawl Guto i dref Croesoswallt, lle dywed Guto iddo fod yn flaeneuwr yn ei ieuenctid (102.1), sef llanc o'r mynydd-dir. Dadleuodd Ifor Williams 'y dylid chwilio am ei gartref yn y bryniau cyfagos', a hynny'n unol â'r ffaith fod Guto wedi canu mwyafrif ei gerddi i 'wyr o Bowys a'r Goror' ac wedi disgrifio Syr Rhys, a gysylltir gan Ifor Williams â'r Dre-wen ger Croesoswallt, fel f'eglwyswr i a [f]y nghurad (101.13, 14). Yn sicr, yn y gogledd-ddwyrain, ac yng nghyffiniau Llangollen yn arbennig, y canodd Guto fwyafrif ei gerddi yn ôl tystiolaeth y llawysgrifau. Fodd bynnag, ni ellir pwyso'n drwm ar y ffaith honno gan fod mwy o destunau o'r gogledd-ddwyrain wedi goroesi nag o unrhyw ran arall o Gymru. Yn y gornel honno o'r wlad y blodeuodd gweithgarwch cadwriaethol mawr o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, sy'n rhoi'r argraff mai prin, mewn cymhariaeth, oedd y nawdd a roed i feirdd mewn ardaloedd eraill. Dengys cerddi Lewys Glyn Cothi, ar y llaw arall, fod digonedd o nawdd ar gael i feirdd yng Ngheredigion a Sir Gâr ond, am resymau cadwriaethol, fe gollwyd mwyafrif y cerddi a ganwyd yn y rhan honno o'r wlad. Perthyn mwyafrif cerddi cynharaf Guto i'r De, ond nid yw hynny'n sail i gredu mai deheuwr ydoedd. At hynny, er bod modd cysylltu Syr Rhys â'r Dre-wen, ni pherthyn arwyddocâd arbennig i ddisgrifiadau Guto o'i gyd-fardd ac eithrio fel modd i ddangos fod y ddau'n byw yn ardal Croesoswallt pan ganwyd y gerdd. Ni cheir sicrwydd, felly, fod Guto'n sôn yn benodol am yr ucheldir i'r gorllewin o Groesoswallt ar ddechrau ei gywydd i'r dref honno.

Tynnodd Ifor Williams sylw at un darn arall o dystiolaeth er mwyn cefnogi ei ddadl ynghylch Glyn Ceiriog, sef cyfeiriad mewn erthygl yn 1879 at fan geni Guto yng Nglyn Ceiriog, 'whence he derived the appellation ... of Guto (or Griffith) of the Glen' (Lloyd 1879: 43). Diau fod yr wybodaeth honno, ynghyd â gwybodaeth debyg a gyhoeddwyd yng ngwaith llu o hynafiaethwyr o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen (cf. Watkin 1920: 66; Huws 2011: 57), yn deillio o lyfryn ar hanes Croesoswallt a gyhoeddwyd yn 1819 dan enw'r hynafiaethydd enwog o blwyf Chwitffordd yn sir y Fflint, Thomas Pennant (Pennant 1819: 35):

Gutto or Griffith a native of Glyn Ceiriog, who lived in the middle of the fifteenth century ...

Cyfeirir at Guto yn y llyfryn hwnnw mewn cyswllt â'r cywydd mawl a ganodd i Groesoswallt, a dyfynnir cyfieithiad Saesneg o rannau o'r gerdd honno. Bu farw Pennant yn 1798, felly dygwyd y llyfryn drwy'r wasg gan Thomas Edwards (a fu farw yn 1871), argraffydd o Groesoswallt a fu, yn ôl teitl y llyfryn, yn gyfrifol am lunio Notes and Considerable Additions i waith Pennant (Watkin 1920: 85, 198). Nid yw'n eglur ar hyn o bryd pwy oedd awdur yr wybodaeth am Guto, ai Pennant ynteu Edwards. Os Pennant, ymddengys y dylid olrhain yr wybodaeth i draddodiad lleol a oedd yn fyw ar ddechrau'r 1770au, pan fu'r hynafiaethydd yn teithio drwy Gymru yn casglu gwybodaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn ei Tours of Wales (1778-83). Ni chyfeirir at Guto yn yr adran ar Groesoswallt yn y gwaith enwog hwnnw, felly mae'n bosibl mai Edwards a gofnododd yr wybodaeth yn 1819. Gan nad oes llawer yn hysbys am y gwr hwnnw, ac eithrio iddo olynu ei dad fel argraffydd a chael ei benodi'n faer Croesoswallt yn 1853 (Cathrall 1885: 166; Watkins 1920: 187, 198), ni ellir ond dyfalu a gododd yntau ei wybodaeth o draddodiad lleol.

Ymddengys fod traddodiad lleol am Guto yn fyw yng nghyffiniau Glyn Ceiriog yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, pan gofnododd William Rhys Jones (Gwenith Gwyn), gweinidog y Bedyddwyr yn y pentref rhwng 1912 ac 1923, y gred fod y bardd wedi ei eni 'yn y rhan honno o blwyf Llangollen a elwir Traian [sic] y Glyn, neu ar lafar gwlad y Glyn, sef y rhan o blwyf Llangollen a orwedd yn nyffryn Ceiriog' (LlGC Papurau Gwenith Gwyn I, 330; Huws 2011: 57-8). Dyma gysylltu Guto gydag ardal gymharol anadnabyddus a oedd yn agos eithr ar wahân i Lyn Ceiriog, a hawdd credu y gallai Glyn Ceiriog fod wedi disodli Traean y Glyn mewn cyswllt â Guto gan fod Glyn Ceiriog yn fwy adnabyddus y tu hwnt i ddyffryn Ceiriog.

Fodd bynnag, er mor ddeniadol yw'r cyswllt posibl â Glyn Ceiriog ac â Thraean y Glyn, rhaid ei drin yn ofalus iawn fel tystiolaeth ynghylch man geni Guto. Gan mor fawr yw'r bwlch rhwng y bymthegfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'n bosibl mai sail yr hyn a gofnodwyd gan Pennant (neu Edwards) a Jones ill dau oedd ymgais gan drigolion dyffryn Ceiriog i hawlio'r bardd mawr yn wyneb y ffaith fod yr wybodaeth am ei fan geni wedi hen fynd yn angof. Ac ystyried yr holl dystiolaeth ynghyd, mae'n bosibl fod y gred am gyswllt bore oes Guto â dyffryn Ceiriog yn bennaf seiliedig ar y ffaith fod y dyffryn hwnnw'n gorwedd rhwng Croesoswallt, lle ymgartrefodd Guto'n oedolyn, ac abaty Glyn-y-groes, lle treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd. Gall ystyriaethau o'r fath fod yn gamarweiniol, oherwydd go brin yr honnid bod Lewys Glyn Cothi'n ogleddwr ar sail y ffaith iddo ymgartrefu am gyfnod yng Nghaer (GLGC xxvi-xxvii).

Mentrodd Enid Roberts (1977: 14-15) anghytuno â barn Ifor Williams, gan ddadlau y byddai'n fwy priodol ystyried Glyndyfrdwy fel man geni Guto. Cyfeiria, heb fanylu, at ddarlleniadau mewn copïau llawysgrif o gywydd cymod Guto i Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern nas defnyddiwyd yng ngolygiad Ifor Williams sy'n 'awgrymu fod Guto'n perthyn i Ieuan Fychan'. Ar sail yr honiad hwnnw, dadleuir y gallai Guto fod yn perthyn i deuluoedd a oedd â'u gwreiddiau yn nyffryn Dyfrdwy, er gwaethaf y ffaith fod Pengwern i'r de o Langollen gryn dipyn yn agosach at Lyn Ceiriog na Glyndyfrdwy. Fodd bynnag, ni cheir lle i gredu bod Guto ac Ieuan Fychan yn perthyn ar sail y golygiad newydd o'r cywydd hwnnw, a seiliwyd ar dystiolaeth yr holl lawysgrifau (cerdd 106). Prif sail dadl Enid Roberts yw'r honiad mai Glyndyfrdwy oedd y glyn enwocaf 'i bobl y cyfnod'. Mae'n sicr y defnyddid Glyndyfrdwy fel cyfenw (ac (Y) Glyn fel ffurf gryno) gan ei drigolion yn ystod y bymthegfed ganrif. Geilw Guto ei hun yr enwocaf ohonynt, Owain Glyndwr, yn Owain Glyn (52.21-2; 107.46). Fodd bynnag, dadl fregus yw honno mewn gwirionedd gan nad yw enwogrwydd Glyndyfrdwy ar ei ben ei hun yn sail ddigonol i gysylltu'r fan honno gyda Guto. Yr un fyddai ei enw pe bai wedi ei eni yng Nglyn Ceiriog neu yn Nhraean y Glyn.

Daethpwyd o hyd i ddau gyfeiriad at y glyn yn enw Guto mewn llawysgrifau o'r ddeunawfed ganrif sy'n cynnwys rhai o'i gerddi. Mae'r cynharaf yn debygol o fod yn llaw David Lewis o Goetre yn Llanelltyd ac o Fronwïon ym Mrithdir (fl.1738-m.1766). Rywbryd rhwng 1752 ac 1758, ychwanegodd nodyn wrth enw Guto wrth droed y cywydd 'Porthmona' (cerdd 44) yn llawysgrif Harvard Welsh e 8 (LlGC 16129D): Glyndyfrdwy maen debygol Glyn ceiriog rwy'n meddwl. Tystia i'r ansicrwydd a fodolai ynghylch man geni'r bardd ym Meirionnydd erbyn canol y ddeunawfed ganrif. O ran yr ail gyfeiriad, ceir ar dudalennau olaf llawysgrif Cwrtmawr 10 (1766) fynegai fesul bardd yn llaw David Ellis o Ddolgellau (1736-95) sy'n cynnwys enw Gutto'r Glynn Dyfrdwy. Fel y dywed Ellis ar dudalen vi, ysgrifennodd gynnwys y llawysgrif pan oedd yn byw yn Llanberis, a hynny'n ôl pob tebyg cyn iddo dreulio cyfnod fel curad yn Nerwen i'r gogledd o Gorwen rywdro rhwng 1764 ac 1788 (ByCy Ar-lein). Nid yw'n amhosibl fod y cyfeiriad at Guto'n deillio o wybodaeth leol yn nyffryn Dyfrdwy, ond mae'n fwy tebygol, ac ystyried y ffaith fod o leiaf 80 o gopïau o gerddi Guto yn llaw Ellis (ceir tair yn Cwrtmawr 10, yn cynnwys cerdd 118 i'r Abad Dafydd ab Ieuan), mai dyfaliad ydoedd ar sail cyswllt Guto â Glyn-y-groes.

Rhy ddiweddar o lawer, mewn gwirionedd, yw'r dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn ynghylch bro mebyd Guto. Rhaid troi at dystiolaeth gyfoes â'r bardd ei hun am fwy o oleuni. A chanolbwyntio ar Lyn Ceiriog a Glyndyfrdwy, gall fod yn arwyddocaol iawn fod y naill le ym Mhowys a'r llall, fe ymddengys, yng Ngwynedd.

Ceir dau gyfeiriad mewn llawysgrifau o'r bymthegfed ganrif at wr o'r enw y gutto o bywys neu y gutto powys. A chymryd mai at yr un gwr y cyfeirir yn y ddau achos, roedd y Guto hwnnw i. yn fardd a ganodd gywydd cynganeddol gaeth iawn i ofyn llurig gan Siôn Abral o'r Gilwch yn swydd Henffordd cyn c.1443 (cerdd 120, ceir y copi cynharaf yn Peniarth 53, c.1484); ii. yn wr a dorrodd ei enw ar gopi o 'Frut y Brenhinedd' (c.1330) tra oedd yn abaty Glyn-y-groes, fe ymddengys, rywbryd yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys yn gyd-ddigwyddiad hynod fod Guto'r Glyn yntau wedi canu mawl i uchelwyr yn swydd Henffordd a'r cyffiniau cyn c.1443 a'i fod yn gysylltiedig â Glyn-y-groes o c.1465 ymlaen, os nad cyn hynny. Os yr un gwr oedd y ddau, yna Powys oedd ei gynefin a'r tebyg yw mai Glyn Ceiriog a'r cyffiniau oedd ei gartref. Eto i gyd, anodd deall pam y byddai Guto, ac yntau'n enwog fel Guto'r Glyn o c.1441 ymlaen (gw. uchod), yn ei alw ei hun y gutto powys yn ystod ail hanner y ganrif. Llawer mwy tebygol, fe ymddengys, yw bod y Guto o Bowys yn fardd gwahanol a fabwysiadodd ei ail enw rhag cymysgu â Guto'r Glyn. Os felly, rhaid chwilio am leoliadau y tu hwnt i Bowys ar gyfer y glyn yn enw Guto.

A bwrw nad oedd Guto'n wr o Bowys, rhaid diystyru'r gred ei fod wedi ei eni yng Nglyn Ceiriog neu yn Nhraean y Glyn. Rhaid wedyn ystyried o ddifrif y posiblirwydd mai gwr o Wynedd ydoedd. Fel y dywed Hywel Dafi, nid oedd Guto'n wr o dde Cymru, eithr yn Un o feirdd ... / Gwynedd (20a.39-40). Geilw Guto yntau Hywel yn un o'r Deheuwyr (20.47), a gwyddys i sicrwydd fod Hywel wedi ei fagu yn y de-ddwyrain, o bosibl yn Rhaglan. Eto i gyd, nid yw bwriad Hywel wrth gyfeirio at Wynedd yn gwbl ddiamwys. Canodd ei gywydd mewn ymateb i gerdd ddychan gan Guto sy'n cloi gyda'r haeriad fod Guto'n wr o Fôn (20.77 Eled i Fôn, y wlad fau). Nid yw'n amhosibl fod Guto wedi ei fagu ym Môn ond, fel yn achos Llanfihangel Genau'r Glyn, ni cheir unrhyw dystiolaeth arall i ategu hynny. Mae'n annhebygol fod Guto'n cyfeirio at yr ynys fel bro ei febyd. Yn hytrach, y tebyg yw fod Môn, a oedd yn enwog am ei nawdd, yn cynrychioli Gwynedd yn ei chrynswth, a diau fod safle'r ynys ym mhen draw gogleddol y wlad yn ddefnyddiol fel gwrthbwynt daearyddol llwyr i gartref Hywel yng Ngwent. Mewn cywydd mawl i Ddafydd ap Gwilym o Lwydiarth ym Môn, geilw Guto'r ynys Fy nhrigfan, fy nhiriogaeth / ... lle gorau fy maeth, / Fy nghartref, fy nghynefin, a sonia am fynd Adref unwaith drwy Fenai, hynny yw, i Fôn (62.35-7, 42). Y tebyg yw mai gwthio confensiwn barddol i'w bendraw a wneir yma, sef uniaethu cartref y bardd â chartref ei noddwr, oherwydd deil Guto yn llinell olaf ei gerdd i Ddafydd fod ei enaid ym Môn (44). Hynny yw, syniai Guto am yr ynys fel cartref ysbrydol (cf. 65.63-6) ar sail y ffaith fod haelioni ei huchelwyr yn ddiarhebol drwy Gymru gyfan. Er enghraifft, canmolodd Guto Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron yng Ngheredigion, gwr heb fawr ddim cyswllt â Gwynedd, fel Pennaeth byrddau maeth beirdd Môn (10.10; cf. 91.15n). O ganlyniad, mae'n bosibl fod Hywel Dafi yntau'n parhau â'r cysêt hwnnw pan eilw Guto'n Un o feirdd ... / Gwynedd, a hynny tu yma i Ddyfi (20a.45), gan gyfeirio at ymlyniad Guto wrth Fôn yn hytrach nag at ei gartref gwirioneddol.

Er gwaethaf yr amwysedd, mae'n annhebygol y byddai Hywel wedi galw Guto'n Un o feirdd ... / Gwynedd pe na bai Guto'n agos gysylltiedig â'r rhan honno o'r wlad. O chwilio am lyn amlwg yng Ngwynedd yn y bymthegfed ganrif, yr amlycaf o dipyn yw Glyndyfrdwy, a oedd yn rhan o gwmwd Edeirnion (Lewis 2013: 173). Y ddadl honno, mewn gwirionedd, yw'r ddadl gryfaf o blaid lleoli cartref Guto, er na ellir torri'r ddadl yn derfynol ar sail y dystiolaeth sy'n hysbys ar hyn o bryd.

Ni rydd yr unig ddisgrifiad o'r glyn yng ngwaith Guto fawr o arweiniad. Mewn cywydd diolch a ganodd i Risiart Cyffin, deon Bangor, geilw ef ei hun y mab o'r Glyn maith (58.42). Gallai'r Glyn maith fod yn ddisgrifiad digon addas o unrhyw ddyffryn sylweddol, ond gall hefyd mai cyfeiriad syml ydyw at ddyffryn a oedd gryn bellter i ffwrdd o blas y deon yn Arfon. Yn wir, yn sgil absenoldeb unrhyw gyfeiriad dadlennol at y glyn yng ngwaith Guto nac yng ngwaith ei gyfoeswyr, rhaid ystyried faint o gyswllt mewn gwirionedd a oedd gan Guto â'r glyn hwnnw. Ym marwnad enwog Lewys Glyn Cothi i'w fab fe'i henwir yn Siôn y Glyn, gan ddilyn ffurf ar enw Lewys ei hun a ddefnyddiai o dro i dro wrth lofnodi copïau o'i gerddi, Lewys y Glyn (GLGC xxii, 237.6). Nid yw'n eglur a aned Siôn y Glyn yng Nglyn Cothi, ond gall fod y Glyn yn gyfenw yn ei achos ef a drosglwyddid i'r genhedlaeth nesaf ni waeth beth oedd cyswllt y genhedlaeth honno â Glyn Cothi. Tybed a oedd yr un peth yn wir yn achos Guto fab Siancyn y Glyn, ac nad oedd cyswllt Guto â'r Glyn lawn mor agos â chyswllt ei dad? Cofier mai Guto ap Siancyn yw'r enw wrth droed cywyddau Guto a gofnodwyd yn Peniarth 57, a ysgrifennwyd cyn c.1440, ac mai Guto'r Glyn yw'r enw ar restr y milwyr a hwyliodd i Ffrainc yn 1441. Diau y byddai'r swyddog o Sais a luniodd y rhestr honno mewn dwy golofn hirfaith, y naill ar gyfer enwau cyntaf a'r llall ar gyfer cyfenwau, wedi holi Guto beth oedd ei gyfenw. Tybed a ddaeth ef i'r casgliad fod 'Glyn', er nad oedd wedi arddel yr enw hwnnw'n gyffredinol cyn hynny, yn ateb cais y swyddog hwnnw'n well nag enw ei dad, Siancyn?

Ei ddyddiadau

Fel y trafodir isod yng nghyswllt gyrfa gynnar Guto, mae'n bur debygol ei fod yn weithgar fel bardd erbyn c.1431. Ni cheir tystiolaeth ynghylch pryd y gallai bardd ifanc a gawsai hyfforddiant er yn blentyn ddechrau ennill ei fywoliaeth, ond gellid dyfalu na fyddai fawr iau na phymtheg oed. Os felly, gall fod Guto wedi ei eni c.1415, a'i fod ychydig dros ugain oed pan ganodd y cerddi cynharaf sydd ar glawr c.1437.

Fodd bynnag, yn union islaw enw Gitto Glyn ar restr y milwyr a deithiodd i Ffrainc yn 1441 (gw. isod) fe geir yr enw Thomas Gitto. Awgrymodd Johnston (2008: 141) y gall mai mab y bardd oedd y Tomas hwnnw, a'i fod wedi teithio i Normandi fel gwas i'w dad. Yn enwau'r ddeuddyn hyn y ceir yr unig ddwy enghraifft o'r enw Gitto yn rhestr gyfan y milwyr, dogfen sy'n cynnwys dros bedair mil o enwau, a byddai'n gryn gyd-ddigwyddiad pe bai enwau'r ddau wedi eu cofnodi ynghyd heb fod rhyw gymaint o gyswllt rhyngddynt. Pe bai Thomas Gitto yn llanc ifanc iawn ac yn was i Guto yng ngwir ystyr y gair (efallai fel saer saethau), go brin y cawsai ei enw ei gofnodi fel milwr ar restr o gatrodau'r fyddin. Roedd y cofnod hwnnw'n dyst i'r ffaith fod pob milwr unigol wedi ymrwymo'n ffurfiol i wasanaethu arweinydd ei gatrawd am gyfnod penodol o amser. Os felly, rhaid derbyn nad oedd Tomas yn iau na thua un ar bymtheg oed yn 1441, a'i fod wedi ei eni c.1425 ar yr hwyraf (am oedrannau milwyr yn yr Oesoedd Canol, gw. Boardman 1998: 73, 75, 182). A bwrw am eiliad mai Guto oedd ei dad, rhaid ei fod yntau'n ddigon hen i genhedlu c.1425, a dylid gwthio dyddiad geni Guto'n ôl i c.1410 neu hyd yn oed c.1405. Os felly, byddai Guto'n agosach at ddeg ar hugain oed pan deithiodd i Ffrainc yn 1441, ac wedi ei eni yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr. Mae'r gwaith a wnaed ar ddyddio cerddi Guto'n dangos yn eglur iddo weithio fel bardd proffesiynol am chwe degawd rhwng c.1430 a c.1490, a go brin y gallai neb ddadlau ag ef pan honnodd yn un o'i gerddi olaf mai Hynaf oll heno wyf i (117.2). Fel y trafodir isod, canodd ei gerddi olaf yn ystod y blynyddoedd wedi 1485, ond ni cheir sicrwydd ynghylch union flwyddyn ei farwolaeth. Ni ellir ond awgrymu iddo farw c.1490 ac yntau oddeutu pedwar ugain oed, un o nifer o feirdd mawr a gafodd oes faith ac a fu farw ar ddiwedd y ganrif.

Ei addysg

Ac ystyried ehangder ei wybodaeth a gloywder y grefft yn ei gerddi cynharaf fel yn ei gerddi olaf, rhaid bod Guto wedi derbyn addysg farddol drylwyr pan oedd yn ifanc iawn. Yn ei henaint yn abaty Glyn-y-groes mae'n datgan iddo [f]oli ... ymylau byd a chablu er yn chweblwydd (118.9, 11) - nid yn llythrennol, efallai, ond mae'r cyfeiriad yn rhyw gymaint o awgrym iddo ddod i gyswllt â cherdd dafod cyn ei arddegau. Dwg hyn i gof sylw Lewys Glyn Cothi am fy nghyw yn dysgu fy nghân yn ei farwnad ingol i'w fab, Siôn y Glyn, a fu farw'n bum mlwydd oed yn ôl un ffynhonnell (GLGC 237.37 a thudalen 633). At hynny, yn ôl traddodiad darganfu Rhys Goch Eryri ddawn farddol Dafydd Nanmor yntau pan oedd yn blentyn (Powell 2004: 101-12).

Ni ellir ond dyfalu ym mhle y derbyniodd Guto ei addysg farddol a phwy a fu'n gyfrifol am ei addysgu. Ar sail y gred ei fod wedi ei eni yng nghyffiniau Llangollen (gw. uchod), awgrymwyd abatai Ystrad Marchell (Lewis 1976: 81-2) a Glyn-y-groes (Huws 2011: 59) fel lleoliadau posibl, yn arbennig am fod mwy nag un abad Sistersaidd wedi rhoi nawdd iddo maes o law. Mae'n bur debygol fod ysgol yng Nglyn-y-groes yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif a'i bod yn gysylltiedig â theulu'r Treforiaid, prif noddwyr Guto yn nyffryn Dyfrdwy (Thomson 1982: 76-7). Perthyn dwy lawysgrif sy'n tystio i fodolaeth ysgol yn yr abaty i'r cyfnod c.1460-1480au (LlGC 423D; Peniarth 356), pan fu dau abad o Gymro wrth y llyw, Siôn ap Rhisiart a Dafydd ab Ieuan. Mater arall yw a geid ysgol debyg yno yn negawdau cyntaf cythryblus y ganrif dan nawdd Robert o Lancaster, a fu'n abad 1409-33 (Williams 2001: 298).

Os cafodd Guto erioed addysg mewn abaty, yna addysg eglwysig a gafodd. Er mor ddeniadol yw'r posibilrwydd, ni cheir tystiolaeth fod mynachlogydd yn ganolfannau dysg farddol. Aeth Ystrad Marchell â bryd Saunders Lewis am mai yno y canodd Guto farwnad i Lywelyn ab y Moel yn 1440, ond gan mai fel athro gwawd y disgrifir Llywelyn (82.40), ac nid yn ddiamwys fel [fy]athro gwawd, nid aeth Saunders mor bell â'i enwi'n athro barddol Guto eithr honna bod ei ddylanwad ar y bardd ifanc yn fawr. Hawdd credu hynny, gan fod Llywelyn a Guto'n feirdd-filwyr a chan fod ôl dylanwad awen y naill ar y llall (Salisbury 2007b: 151-2). Yr hyn sy'n debygol yw bod Guto wedi cydglera gyda Llywelyn yn ystod tridegau'r ganrif ac, o bosibl, ar ddiwedd yr ugeiniau. Gwyddys bod yr unig noddwr y gellir ei gysylltu'n agos â Llywelyn wedi rhoi nawdd i Guto yntau, sef Syr Wiliam ap Tomas o Raglan. Symbylwyd Llywelyn i ganu cywydd i Wiliam gan gywydd Rhys Goch Eryri i'r un noddwr, lle gofynna Rhys am wregys aur yn rhodd, a'r tebyg yw bod y ddwy gerdd wedi eu canu yn Rhaglan ddiwedd 1433 neu ddechrau 1434 (GRhGE 207; GSCyf 183). Ni fyddai'n fawr o syndod pe bai Guto'n bresennol yn llys Wiliam pan ganwyd y cerddi hyn ac mai drwy ei gyswllt â Llywelyn y teithiodd i Went am y tro cyntaf. Roedd Rhys Goch yntau, a fu'n ymrysona â Llywelyn ar fwy nag un achlysur ac a ganodd farwnad iddo, yn enwog am ei ganu i deulu'r Penrhyn yng Ngwynedd, llys pwysig arall y ceir tystiolaeth fod Guto wedi ymweld ag ef yn ei ieuenctid.

Ni ellir rhoi llawer o goel ar awgrym Williams (1997: 201) ynghylch addysg Guto, sef iddo dderbyn hyfforddiant farddol yn ogystal â nawdd gan Ddafydd Cyffin o Langedwyn, a hynny ar sail y ffaith fod Guto'n cyfeirio ato fel yr Athro Ddafydd mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain, person Llandrinio (84.5). Nid oherwydd rhyw arwyddocâd personol ynghylch ei addysg gynnar y dewisodd Guto gyfeirio at Ddafydd ac at noddwr arall iddo, Syr Bened, person Corwen, eithr yn syml am y byddai Siôn yn gyfarwydd â hwy fel gwyr dysgedig yn ei ran ef o'r wlad. At hynny, cyfeiriad at ddysg Dafydd yw'r teitl Athro, yn hytrach nag at unrhyw addysg a dderbyniodd Guto ganddo, ac ni cheir lle i gredu ei fod yn arbenigo mewn addysg farddol eithr yn y Gyfraith Ganon a'r Gyfraith Sifil (a hynny o c.1444 ymlaen).

Y casgliad mwyaf tebygol o ran addysg Guto yw bod y gwr a'i cyflwynodd i gerdd dafod yn fardd yn hytrach nag yn fynach, neu'n gywirach, efallai, mân fardd a oedd yn troi mewn cylchoedd a gynhwysai'n achlysurol feirdd o bwys, megis Llywelyn ab y Moel a Rhys Goch Eryri. Gellid ei gymharu ag athro barddol Llywelyn yntau (ac, o bosibl, Rhys Goch), sef Rhys ap Dafydd, gwr nad oes odid ddim yn hysbys amdano ac y diogelwyd ganddo wyth llinell yn unig (GSCyf 171; GRhGE cerdd Atodiad 2). Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth arall, ni ellir ond awgrymu bod a wnelo tad Guto, Siancyn y Glyn, ryw gymaint â chamau cyntaf ei fab ym myd cerdd dafod. Lluniodd Saunders Lewis (1976: 81) ddarlun o ryw ddeallusyn yn sylwi ar 'addewid eithriadol' Guto pan oedd yn ifanc iawn ac yn rhoi iddo addysg, ond go brin y câi llanc cyffredin gyfle i arddangos unrhyw addewid pe na bai gan ei deulu ryw gymaint o gyswllt â cherdd dafod yn y lle cyntaf.

Ei bryd a'i wedd

Lluniodd Saunders Lewis (1976: 81) ddarlun pur ddeniadol o Guto fel '[b]achgen eithriadol ... [a] dyfodd yn gyflym i fod yn llanc tal, mawr o gorff, pryd tywyll, gwrdd wyneb, bwyall o drwyn, gwallt du - fe aeth yn foel cyn canol oed - dwylo fel dwylo gof - ai gof oedd ei dad? - yn bencampwr ar fwrw maen ac ar farchogaeth.' Diau y perthyn rhai o'r manylion hyn i ddychymyg byw Saunders, ond ategir y darlun cyffredinol yng ngwaith Guto a'i gyfoeswyr.

Canodd Syr Rhys a Llywelyn ap Gutun ill dau gerddi dychan i Guto, y naill yn chwedegau'r bymthegfed ganrif a'r llall yn yr wythdegau. Ergyd y gwawd yn y ddwy gerdd yw'r ffaith fod Guto wedi bod yn wr cydnerth yn ei ieuenctid, ond ei fod yn wannach o lawer yn ei henaint (65a.29; 101a.31-6). Ategir yr wybodaeth honno gan gyfeiriad Guto ei hun at y clod a enillodd wrth daflu maen (33.43-4), camp y cyfeiriodd Gutun Owain yntau ati yn ei farwnad i Guto (126.16). Mae'n werth nodi hefyd mai fel saethydd yr ymunodd Guto â byddin Richard, dug Iorc, yn 1441. Dengys nifer o gyfeiriadau at saethu yn ei gerddi ei fod yn gyfarwydd iawn â'r gamp (cerdd 11; 31.33-62), a diau fod ei gryfder ac, o bosibl, ei daldra yn gaffaeliad iddo yn hynny o beth (cf. Hardy 1994: 179; am drafodaeth lawnach am Guto fel saethydd ac fel milwr, gw. Day 2013).

Rhaid lliniaru rhywfaint ar ddychan Syr Rhys a Llywelyn ynghylch eiddiledd y Guto oedrannus, oherwydd cyfeddyf y ddau ei fod, er hynny, yn wr o gryn faint. Geilw'r ddau ef yn [g]yff 'boncyff', a diau mai maintioli Guto sy'n amodi disgrifiadau digrif Llywelyn o wahanol rannau o'i gorff fel trigfan i lu o greaduriaid y môr (65a.7-32; 101a.55). Rhaid lliniaru hefyd ar rai o ddisgrifiadau Dafydd ab Edmwnd o Guto mewn cywydd dychan lle honnir i'r bardd ddioddef anaf yn sgil codi pwysau pan oedd yn ifanc. Er nad yw'n eglur a dorrodd Guto ei lengig ai peidio, ymddengys fod maintioli Guto'n darged hawdd i fardd a oedd, yn ôl y dychan a roes Guto iddo, yn wr llawer llai o faint. Deil Dafydd fod Guto'n foliog (68a.11), a cheir cyfeiriadau mewn cerddi eraill at natur fwyteig y bardd (cf. Salisbury 2011: 101-2). Fodd bynnag, y tebyg yw mai at y tor llengig y cyfeiria Dafydd. Ac ystyried y ffaith i Guto gael oes faith iawn ac iddo deithio'n helaeth gydol ei oes, mae'n annhebygol ei fod yn dew eithr fod ei gorff yn naturiol fawr. Yn wir, disgrifia Syr Rhys ef fel annair gul 'heffer denau' yn ei dostrwydd honedig yng Nghroesoswallt (101a.26).

Cyfeiria Llywelyn ap Gutun at fwyall drwyn ac wyneb arth ei gyd-fardd (65a.14, 20), a cheir gan Guto ei hun ddisgrifiad arall digon cofiadwy o'i wyneb a'i ben mawr mewn cywydd mawl i'r Abad Tomas o Amwythig: Mae i mi wyneb padrïarch / A chorun mwy no charn march (77.59-60). Yr ergyd, fe ymddengys, yw fod ganddo wyneb mawr hen ei olwg pan ganodd i'r abad, a'i fod yn moeli. Dywed mewn cerdd arall a berthyn i ddegawd olaf ei fywyd fod ganddo [d]rawswch a [b]arf (109.40, 55), ond mae'n debygol mai ei farf oedd yr unig dyfiant a oedd ganddo ar ei ben bryd hynny, oherwydd diau iddo golli ei wallt yn bur ifanc. Geilw Hywel Dafi ef yn [f]oel brydydd mewn cerdd ddychan a berthyn, yn ôl pob tebyg, i hanner cyntaf y bymthegfed ganrif (18a.64). Cyngor Guto ei hun i'w gyd-fwrdeisiaid yng Nghroesoswallt yw y dylid gohirio ei daliad am fwrdeisiaeth nes ym dyfu gwallt (102.47-50) - hynny yw, byth! Gall fod y gerdd honno'n perthyn i chwedegau'r ganrif. Ryw ddau ddegawd yn ddiweddarach, fe'i ceir yn ei ddisgrifio ei hun yn ystod yr wythdegau fel eidion moel yn llys Wiliam ap Gruffudd yng Nghochwillan (55.31-2).

Ond roedd gan Guto wallt un tro, a hwnnw'n wallt du yn ôl pob tebyg. Yn sgil canmol gwallt tywyll Harri Gruffudd, ymddengys fod Guto'n ei enwi ei hun ymysg y pethau gwych eraill sy'n dwyn y lliw du, ynghyd â gwallt Iesu, felfed a muchudd (33.1-10). Mewn cywydd mawl i noddwr arall o bryd tywyll, deil Guto mai gorau lliw dyn ydyw ac, at hynny, dychana Dafydd ab Edmwnd ef drwy gyfeirio at ei geilliau duon (17.13; 68a.65).

Un nodwedd arall y mae'n werth ei chrybwyll yw'r ffaith fod Guto wedi colli ei olwg ar ddiwedd ei oes. Perthyn yr holl gyfeiriadau at ei ddallineb ac eithrio un i'w flynyddoedd yng Nglyn-y-groes (114.62; 116.45-8; 117.14, 49-50; 119.3), lle bu'n dioddef o ddiffyg yn ei glyw hefyd (119.4), ond dengys cywydd i ddiolch am farch gan Ddafydd ap Meurig Fychan ac Elen ferch Hywel o Nannau iddo barhau i glera am gyfnod pan oedd ei olwg yn dirywio. Mae'n ei gymharu ei hun â gwr arall a gollodd ei olwg ond a wrthododd ildio i'w anabledd, sef Ffwg fab Gwarin, a deil Guto fod gwir angen y march arno er mwyn efelychu ei arwr ac ymlid fel o'r blaen fil o'r glêr fân (51.41-52).

1. Y canu cynnar, c.1430-50

1.1 Y canu cynharaf

Er nad yw union flwyddyn geni Guto'n hysbys, mae'n bur debygol iddo ddod i'r byd naill ai yn ystod neu'n fuan wedi gwrthryfel Owain Glyndwr. Daeth y brwydro ffyrnicaf i ben yn 1406 ond parhaodd y gwrthdaro hyd c.1417. Erbyn y flwyddyn honno roedd Owain yn ei fedd a thiroedd nifer fawr o wrthryfelwyr wedi eu fforffedu a'u trosglwyddo i afael tirfeddianwyr newydd. Ond roedd nifer o gyn-wrthryfelwyr ymhlith y tirfeddianwyr hynny, gwyr a ddaliodd eu gafael ar eu tiroedd fforffed, gan ailymsefydlu, yn aml er gwell, yn y gymdeithas newydd. Yr uchelwyr hyn, a'u meibion yn benodol, a fu'n cynnal awen Guto.

Un cyn-wrthryfelwr a fu'n arwain y ffordd wrth feddiannu tiroedd fforffed oedd Gwilym ap Gruffudd o'r Penrhyn, uchelwr grymusaf y Gogledd ar ddechrau'r ganrif. Er na oroesodd cerdd gan Guto i Wilym, ef yw'r noddwr cynharaf y ceir tystiolaeth i Guto ei foli. Mewn cywydd i fab Gwilym, Wiliam Fychan, dywed Guto'n bur ddiamwys iddo dderbyn nawdd gan y tad (56.19-20n):

Adeilais glod i Wilym,
Adail ei fab awdl fu ym.

Bu farw Gwilym ar ddechrau 1431 (Carr 1990: 17). Os canodd Guto farwnad iddo'r flwyddyn honno (fel y gwnaeth Rhys Goch Eryri a Gwilym ap Sefnyn, GRhGE cerdd 2; Bowen 2002: 74), mae'n nodedig fod bwlch o rai blynyddoedd rhwng hynny a'r cerddi cynharaf sydd ar glawr, ond nid yw'n amhosibl ychwaith iddo ganu mawl i Wilym pan oedd hwnnw ar dir y byw.

Bu'r cyfeiriad cynnar hwn at ganu coll yn faen tramgwydd i Roberts (1977: 14) rhag uniaethu Guto'r Glyn a Guto ap Siancyn, gan ei bod yn honni mai tua 1455/60 y dechreuodd Guto'r Glyn ganu. Ond, a'r ddau bellach wedi eu huniaethu'n derfynol, nid yw fawr o syndod, mewn gwirionedd, fod Guto'n canu mor gynnar â c.1430. Crefft farddol aeddfed iawn a welir yn y cerddi cynharaf a oroesodd, tyst i'r ffaith fod Guto wedi meithrin ei ddawn ar deithiau clera cynnar na wyddys fawr ddim amdanynt. Os cafodd Guto ei fagu yng nghyffiniau Llangollen, byddai wedi bod yn naturiol iddo gyrchu Gwynedd ar ei deithiau clera cynharaf y tu hwnt i fro ei febyd, cyn mentro i'r De rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Yn wir, efallai fod cysylltiadau priodasol rhwng teulu'r Penrhyn a theulu'r Treforiaid yn nyffryn Dyfrdwy wedi hwyluso ei yrfa. Cesglir bod corff o'i ganu i noddwyr yn y Gogledd a'r De c.1430-5 wedi ei golli, o bosibl oherwydd nad oedd eto wedi ennill ei blwyf fel bardd.

1.2 Bardd o filwr yn Normandi

Perthyn y cerddi cynharaf sydd ar glawr y gellir eu dyddio ag unrhyw sicrwydd i ddiwedd 1437 neu ddechrau 1438, ac fe'u canwyd i uchelwr o Gymro a fu'n byw yn Ffrainc er o leiaf 1424. Yn wir, gall mai eu hynodrwydd yn hynny o beth a sicrhaodd eu goroesiad. Dau gywydd mawl ydynt i Syr Rhisiart Gethin o Fuellt, rhyfelwr proffesiynol a enillodd fri yn ymladd dros y Goron yn Normandi (cerddi 1 a 2). Ac yntau'n fab i Rys Gethin, gwr a fu'n ymladd ym mhlaid Owain Glyndwr ddechrau'r ganrif, roedd rhyfela'n ffordd o fyw i Risiart, ac enwir ef fel capten Mantes o 1432 ymlaen. Dyma ddegawdau olaf yr hyn a elwir heddiw y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Lloegr a Ffrainc, ymgiprys hir a chostus am dir a choron Ffrainc a ddaeth i ben yn 1453, pan fwriwyd y Saeson yn derfynol o Normandi a Gwasgwyn. Fel y trafodir yn nes ymlaen, gwyddys i sicrwydd fod Guto wedi gwasanaethu Richard dug Iorc yn 1441 fel rhan o ail ymgyrch filwrol y dug yn Ffrainc. Ond y tebyg yw iddo hefyd fod yn rhan o ymgyrch gyntaf y dug ac yn aelod o fyddin a laniodd yn Honfleur ar 7 Mehefin 1436 (Johnson 1988: 29). Yn anffodus, nid ymddengys fod rhestr y milwyr a fwstriwyd yn Honfleur wedi goroesi. Mae'r ffaith fod enw Rhisiart Gethin yn absennol o'r cofnodion o ddiwedd 1438 ymlaen yn awgrymu'n gryf ei fod wedi marw tua diwedd y flwyddyn honno neu'n fuan wedyn. Mae'n bur debygol fod Guto wedi teithio i Normandi yn 1436/7 ac wedi cyfarfod ei noddwr yno. Teithiodd y dug i Rouen, ei bencadlys yn Ffrainc, ond ni ellir manylu ymhellach ynghylch symudiadau Guto. Mae'n bosibl iddo deithio i Mantes, lle'r oedd Rhisiart yn gapten, ond mae hefyd yn bosibl fod y dug wedi gwysio Rhisiart i Rouen ac mai yno y cyfarfu'r bardd â'i noddwr. Dychwelodd y dug i Loegr oddeutu 8 Tachwedd 1437 (ibid. 30), ond gall fod Guto wedi dychwelyd gryn dipyn yn gynharach wedi i'w gyfnod swyddogol fel milwr ddod i ben, sef chwe mis yn ôl yr arfer gyffredin. Fe olygai hynny ei fod wedi gadael Ffrainc naill ai ddiwedd 1436 neu ddechrau 1437, ac mae'n bur debygol ei fod wedi canu ei ddau gywydd i Risiart yn fuan wedi iddo ddychwelyd i Gymru (nid yn Ffrainc, fel yr honnodd Saunders Lewis 1976: 86-90).

Tua'r un adeg fe ganodd Ieuan ap Hywel Swrdwal yntau gywydd nodedig ar ran Guto i ddiolch i Risiart am hugan aur a gawsai Guto ganddo'n rhodd, yn ôl pob tebyg yn gyfnewid am y cerddi mawl a ganodd iddo (GHS cerdd 24). Yr awgrym cryf yw bod Ieuan yn bwriadu cludo diolch Guto o Gymru i Ffrainc er mwyn ei gyflwyno i Risiart yn y cnawd. Er na cheir tystiolaeth fod Ieuan wedi gwasanaethu fel milwr yn Normandi, cofnodir enw ei dad, Hywel Swrdwal, fel milwr yng ngwasanaeth Richard dug Iorc yn Rouen yn 1445 ac 1447 (Soldier LME s.n. Howell Sourdoual, Houel Sourdonel). A chymryd bod y cywydd diolch i Risiart wedi ei briodoli'n gywir i Ieuan yn y llawysgrifau, yn hytrach na Hywel ei dad, mae'n debygol fod Ieuan yntau naill ai wedi teithio i Ffrainc neu wedi bwriadu mynd yno ryw ben.

Dychwelodd Guto i Normandi yn niwedd Mehefin 1441. Cofnodir ei enw fel Gitto Glyn ar restr o filwyr a fwstriwyd yn Portsmouth yn niwedd Mai (Salisbury 2007a: 1; Johnson 1988: 35). Saethydd ydoedd yng nghatrawd bersonol dug Iorc. Roedd y dug yn arweinydd ar fyddin lawer mwy sylweddol ar ei ail ymgyrch yn Normandi, a'r tebyg yw fod y profiadau a gawsai Guto yntau gryn dipyn yn wahanol i'r rhai a gafodd yn 1436. Mae'n rhesymol tybio iddo deithio gyda'r dug yn syth i Pontoise er mwyn adfer y dref o afael Siarl VII. Cyfarfu'r fyddin â Siôn Talbod a'i fyddin yntau yn Juziers ar 13/14 Gorffennaf a chipiasant Pontoise yn ddiwrthwynebiad rai dyddiau'n ddiweddarach (Pollard 1983: 55-6). Wedi atgyfnerthu'r dref, aethant ati i erlid Siarl gan groesi afon Oise yn Beaumont cyn i Siarl ymgilio i Poissy i'r de o afon Seine. Ar 24 Gorffennaf aeth byddinoedd y dug a Thalbod ar drywydd Siarl eto, gan ailgroesi afon Oise yn Heuville. Ond daeth byddin y dug i wrthdrawiad â lluoedd Ffrengig gan ddioddef colledion difrifol, a'r tebyg yw fod y dug wedi arwain ei fyddin i Rouen yn fuan wedyn a bod Talbod wedi arwain ei lu yntau ymlaen i Poissy mewn ymgais aflwyddiannus i ddal Siarl. Cyrhaeddodd y dug Rouen ar 1 Awst, 'his troops haggard, starving and exhausted' (ibid. 57). Dros fis yn ddiweddarach, ailgipiodd Siarl dref Pontoise. Os cymerodd Guto ran yn y digwyddiadau hyn, y mwyaf y gallai ymfalchïo ynddo oedd ei fod wedi cyfrannu at y gwaith o atal cynnydd y Ffrancwyr yn Normandi. Y tebyg yw iddo dreulio cyfnod o chwe mis yn Ffrainc cyn dychwelyd i Gymru naill ai ddiwedd 1441 neu ddechrau 1442.

Mae dwy gerdd arall yn tystio i ymwneud agos Guto â Ffrainc. Y cyntaf yw cywydd mawl i Fathau Goch, rhyfelwr arall o Gymro a fu'n brwydro dramor o 1423 hyd at 1450, ychydig flynyddoedd cyn diwedd y rhyfel (cerdd 3). Fel y cerddi a ganodd Guto i Risiart Gethin, y tebyg yw fod y gerdd i Fathau wedi ei chanu yng Nghymru, ac nid yw'n eglur a gyfarfu Guto ei noddwr erioed. Nid yw'n hysbys ym mhle'r oedd Mathau yn 1436/7 yn ystod ymweliad cyntaf tebygol Guto â Normandi, er y gellid disgwyl y byddai Mathau'n ymweld yn gymharol gyson â phrifddinas yr ardal yn Rouen. Roedd yn gapten Bayeux o 1439 i 1442, dinas i'r gorllewin o Caen, gryn bellter o'r ardal rhwng Pontoise a Rouen lle bu Guto'n milwra yn 1441. Ond cymerodd Mathau ran yn y gwaith o warchae a chipio Harfleur ym mis Hydref 1440, ac nid yw'n amhosibl ei fod yn y dref o hyd pan laniodd byddin y dug yno, o bosibl, ym mis Mehefin 1441. Ond os na welodd Guto'r rhyfelwr enwog erioed, mae'n sicr y byddai wedi clywed digon amdano gan Risiart Gethin, a fu'n cydfrwydro ag ef yn erbyn Jeanne o Arc yn Beaugency yn 1429.

Mae'r ail gerdd sy'n ymwneud â Ffrainc yn un o gywyddau mwyaf nodedig Guto, sef mawl i Domas ap Watgyn o Landdewi Rhydderch yng Ngwent (cerdd 4). Yn y gerdd mae Guto'n rhag-weld ymgyrch filwrol yn Ffrainc drwy lwyfannu ffug frwydr rhwng Tomas, ei feirdd a'i ddatgeiniaid ar y naill law a gwinoedd Ffrengig, i gynrychioli arweinwyr enwog y Ffrancwyr, ar yr ochr arall. Mae'n byrlymu o asbri a chynnwrf criw o ddynion a oedd yn paratoi i fynd i ryfel, ac mae'n bosibl fod Guto wedi ei chanu cyn iddo deithio i Ffrainc yn 1436. Fodd bynnag, gan na cheir sicrwydd fod Tomas yn rhan o'r ymgyrch honno, mae'n llawer mwy diogel cymryd bod y gerdd yn perthyn i wanwyn neu ddechrau haf 1441, oherwydd ceir enw Thomas Watkyns fel saethydd (ynghyd â'i frawd, Johan Watkyns, fel milwr arfog ar geffyl) ar restr y milwyr a hwyliodd o Portsmouth ym Mehefin y flwyddyn honno (Salisbury 2007a: 44n115; Soldier LME s.n.).

Ceir enwau dau o noddwyr eraill Guto ar y rhestr honno o filwyr ym myddin dug Iorc yn 1441. Y mwyaf nodedig oedd Syr Wiliam ap Tomas o Raglan (Salisbury 2007a: 39n52; Soldier LME s.n. William ap Thomas), uchelwr o gryn awdurdod a gododd yn gyflym yng ngwasanaeth y dug yn ystod y tridegau ac a oedd yn aelod o'i gyngor yn 1441. Canodd Guto gywydd mawl trawiadol i Wiliam lle geilw ef yn iustus doeth (19.18), cyfeiriad at swydd dirprwy ustus tywysogaeth y De a ddaliodd Wiliam o 1439 hyd ei farwolaeth yn 1445. Fel y soniwyd eisoes, mae'n bosibl fod Guto wedi ymweld â Rhaglan mor gynnar ag 1433 yng nghwmni Llywelyn ab y Moel a Rhys Goch Eryri, ac nid yw'n syndod ei weld yn derbyn nawdd gan Wiliam rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'n bosibl hefyd mai Guto oedd awdur marwnad a ganwyd i Wiliam yn 1445 na ddiogelwyd ond dryll ohoni yn y llawysgrifau (cerdd 125). At hynny, ac eithrio cartref Rhisiart Gethin ym Muallt a chartref Mathau Goch ym Maelor, go brin y ceid lleoliad gwell yng Nghymru na Rhaglan i berfformio'r cerddi a ganodd Guto yn absenoldeb y ddau ryfelwr hynny.

Mae rhestr y milwyr yn cynnwys hefyd enw Henry Griffith Eskuier, uchelwr o blwyf Bacton yn swydd Henffordd a elwid gan Gymry'n Harri Gruffudd (Salisbury 2007a: 39n51; Soldier LME s.n.). Diau fod Guto a Harri'n gyfoeswyr go agos a bod a wnelo'r ffaith fod Guto wedi milwra o gwbl gryn dipyn â'r ffaith fod Harri yntau'n gyfarwydd iawn â byd y rhyfelwr. Roedd Harri'n aelod o arsiwn Carentan yng ngogledd Normandi yn 1431 dan awdurdod Syr Nicholas Burdet o swydd Warwick (Chapman 2013: 108). Er mai cerddi Guto i Risiart Gethin yw'r rhai cynharaf y gellir eu dyddio ag unrhyw sicrwydd, mae'n ddigon posibl fod rhai cerddi eraill wedi eu canu cyn 1436, ac un o'r rheini yw cywydd mawl i Harri (cerdd 32). Cofnodwyd y gerdd yn llawysgrif Peniarth 57 rywdro cyn c.1440 (RepWM; Salisbury 2007a: 11-12), er mai dryll ohoni'n unig a oroesodd. Trueni o'r mwyaf yw'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r gerdd wedi ei cholli, oherwydd gallai ei chynnwys yn hawdd iawn daflu mwy o oleuni ar y cyfnod cyffrous hwn yng ngyrfa gynnar Guto. Yn ei absenoldeb, rhaid pwyso ar yr hyn a ddywed Guto yn ei farwnad i Harri (36.23-5):

Dug fi at y dug of Iorc
Dan amod cael deunawmorc.
Fy ngwaith fu eilwaith foliant,
Fwrw gwawd hwn i frig tant.

Gwelir mai dan anogaeth Harri, yn ôl pob tebyg, yr aeth Guto ati i wasanaethu'r dug fel milwr, a hynny rywbryd rhwng tuag 1433, pan oedd Harri wedi dychwelyd i Gymru o Carentan (Chapman 2013: 109), ac 1436. Ceir agosatrwydd anghyffredin yng ngherddi Guto i Harri sy'n adlewyrchu cyfeillgarwch y tu hwnt i berthynas arferol bardd a'i noddwr. Canodd Guto gywydd mawl nodedig i foli gwallt du Harri - o bosibl gan fod gan Guto ei hun wallt tywyll - lle cyfeiria at ragoriaeth y ddau yn y gamp o daflu maen (cerdd 33). Harri, wrth reswm, sydd drechaf, fel y mae hefyd mewn cywydd arall diddorol a ganodd Guto ar ei ran er mwyn cystadlu yn erbyn y bardd Ieuan Gethin am serch Gwladus o Lyn-nedd (cerdd 34). Ymddengys fod Gwladus, a allai fod yn ferch i un o noddwyr Guto, Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd, yn ddisgybl barddol i Ieuan, ond cyngor Guto iddi yw peidio ag ymhél â'r henwr hwnnw ac yn hytrach gyrchu llys Harri ifanc, lle caiff ei digoni'n llwyr. Cyfeirir at Wladus eto mewn cywydd arall a ganodd Guto i Harri, y tro hwn er mwyn cystwyo ei noddwr am wrthod talu arian i'w feirdd (cerdd 35). Rhydd Harri ddigonedd o win eithr prin yw ei dâl ariannol, cwyn a fyddai'n sicr o fod wedi ei gythruddo ac sy'n adlewyrchu natur ei berthynas â Guto. Go brin y byddai Guto wedi teimlo'n ddigon cartrefol yng nghwmni noddwyr eraill i fedru lleisio'r un gwyn am gybydd-dod. Mae'n eglur fod Guto'n adnabod Harri'n ddigon da i deimlo y gallai ddweud a fynnai yn ei gerddi iddo, a ganwyd yn ôl pob tebyg yn ystod y pedwardegau a'r pumdegau.

Rhaid cyfeirio at un gerdd arall mewn cyswllt â gyrfa filwrol Guto, sef cywydd mawl i Siôn Talbod, ail iarll Amwythig (cerdd 78). A chymryd bod Guto wedi gweld tad ei noddwr, y rhyfelwr Siôn Talbod (a wnaed yn iarll cyntaf Amwythig yn 1442), yn cydfilwra â dug Iorc yn Pontoise a'r cyffiniau yn 1441, mae'n demtasiwn awgrymu iddo ddod i gyswllt â'r ail iarll drwy ei gysylltiadau milwrol. Mae tystiolaeth fewnol y gerdd yn awgrymu iddi gael ei chanu rhwng c.1437 a dechrau 1445. Nid cyd-ddigwyddiad, efallai, yw bod Guto wedi canu mawl i fab dug Iorc yntau maes o law (cerdd 29).

1.3 Cylch clera yn y De?

Yn ogystal â gweddillion cywydd mawl i Harri Gruffudd, ceir yn llawysgrif Peniarth 57 ddyrnaid o gerddi eraill gan Guto a ganwyd cyn c.1440. Gellir cysylltu un gerdd â Harri, sef cywydd mawl i'w ewythr, Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter yn nyffryn Gwy (cerdd 30). Gall fod Phylib yn ddeiliad i Harri, ond nid yw Guto'n cyfeirio at berthynas yr ewythr a'i nai eithr at un arall o'i noddwyr - yn wir, ei brif noddwr yn ei ieuenctid - sef yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur. Fe ymddengys fod Guto wedi tyngu llw i Phylib y byddai'n ymweld ag ef yn hytrach na'r abad, ond torrodd ei air gan mor hael oedd y nawdd a gawsai yn yr abaty. Bellach rhoes yr abad rwydd hynt i Guto gyrchu llys Phylib. Y tebyg yw na ddylid deall y cyfyngiadau a roes yr abad ar symudiadau ei fardd yn rhy llythrennol, ond yr awgrym cryf yw bod Guto ar ganol taith glera a oedd yn cwmpasu rhannau o Geredigion, y de-ddwyrain a'r Cymoedd. Mae'n debygol fod y cylch hwnnw'n cynnwys y Cwrtnewydd, cartref Harri yn swydd Henffordd, a chartrefi o leiaf ddau noddwr arall y ceir cerddi iddynt yn Peniarth 57, sef Syr Wiliam, offeiriad Merthyr Tudful, a Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd. Mae'r ddwy gerdd yn nodedig: y naill, y gerdd gynharaf y gellir ei chysylltu â Merthyr, am ei phortread meistrolgar o serch offeiriad tuag at nawddsantes ei blwyf (cerdd 16); a'r llall am y cipolwg a rydd o noddwr yn darllen ac yn cyd-drafod ceinion llenyddol gyda'i fardd (cerdd 15).

Nid yw'n amhosibl fod Rhaglan ac, efallai, gartref Tomas ap Watgyn yn Llanddewi Rhydderch yn rhan o'r un cylch clera, ynghyd â chartref Siancyn Hafart yn Aberhonddu. Yn ei gywydd mawl i Siancyn (cerdd 31), cymhara Guto ei noddwr i fwa o bren ywen da sy'n anelu saethau o aur at ei feirdd, adlais cryf o'r ffaith mai fel saethydd y recriwtiwyd Guto i fyddin dug Iorc. Ond gan na ddiogelwyd y gerdd yn Peniarth 57, hyd y gwyddys, efallai ei bod yn fwy diogel tybio bod Guto wedi ei chanu ar ymweliad diweddarach ag Aberhonddu, o bosibl yn ystod y pedwardegau a thua'r un adeg ag y canodd ei gywydd miniog o led-ddychan i Harri Gruffudd (cerdd 35), a drafodir uchod. Lleisir yr un gwyn gyffredinol yn y cywydd i Siancyn, lle cymherir uchelwyr sy'n gyndyn o roi nawdd i fwâu brau, toredig, a'u melltithio am gefnu ar eu gwreiddiau Cymreig (31.29-32):

Yr hwn a fu'n rhoi ennyd,
Efô fydd gybydd i gyd,
Ac eraill gynt a gerais
A bryn swydd a breiniau Sais.

Mae'r ddwy gerdd yn gofnod pwysig o'r anawsterau y byddai rhaid i'r beirdd eu hwynebu'n achlysurol, ac adleisir eu hagwedd gan fân gyfeiriadau mewn cerddi eraill gan Guto ar hyd ei yrfa. Yr argraff a grëir gan fwyafrif y cerddi sydd ar glawr yw bod y genedl yn llawn noddwyr gwaetgoch a gadwai ddrysau eu haelwydydd yn gyson agored i bob clerwr a ddigwyddai alw heibio. Deil rhai o gerddi Guto y gallai realiti'r sefyllfa fod gryn dipyn yn wahanol i ddelfryd y farddoniaeth, gyda rhai noddwyr yn rhwym o flaenoriaethu lles eu gyrfaoedd ar draul eu haelioni fel noddwyr. Tystiant hefyd i barodrwydd Guto yntau i fynegi ei anfodlonrwydd yn ôl y galw.

Cerdd arall sy'n arddangos adnabyddiaeth Guto o gamp y saethydd yw ei gywydd mawl i Rys ap Dafydd o Uwch Aeron yng Ngheredigion (cerdd 11). Fel yn ei gywydd i Siancyn Hafart, mae'r saethu yn drosiadol, ond y tro hwn y noddwr yw targed y bardd a'i fawl iddo yw'r saethau, trosiad estynedig a gynhelir o'r llinell gyntaf hyd yr olaf. Diogelwyd y gerdd yn Peniarth 57, ynghyd â chywydd mawl i noddwr arall o gyffiniau afon Aeron, Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron (cerdd 10). Y trosiad y tro hwn yw gafael Hywel ar fawl y beirdd fel petai'n bêl ddwyfol a drosglwyddwyd i'w feddiant o genhedlaeth i genhedlaeth er cyfnod y Tri Hael. Prawf y ffaith fod y ddwy gerdd wedi eu diogelu yn Peniarth 57 eu bod wedi eu canu cyn c.1440 (at hynny, bu farw Rhys yn 1439/40), ac mae'n bosibl hefyd eu bod yn rhan o'r un cylch clera â rhai o'r cerddi uchod a ganwyd yn y de-ddwyrain. O'u hystyried oll ynghyd, gall fod y cerddi'n ffrwyth taith farddol a groesai'r ucheldir o Ystrad-fflur i ddyffrynnoedd y Mynyddoedd Duon ar y Gororau, cyn troi i Ferthyr Tudful ac yna flaenau dyffryn Nedd. Oddi yno byddai'r daith yn ôl i'r abaty wedi arwain y bardd drwy sir Gâr i Geredigion, ac ni fyddai'n syndod pe bai aelwydydd Rhys a Hywel wedi ei ddenu i olwg y môr. Os felly y bu, diddorol yw nodi y gall fod y daith o'r Cymoedd i ddyffryn Aeron wedi arwain heibio Llanybydder a chartref uchelwr arall a roes ei nawdd i Guto, sef Dafydd ap Tomas o Flaen-tren. Fodd bynnag, fel yn achos y gerdd fawl i Siancyn Hafart a'r lled-ddychan i Harri Gruffudd, mae'r ffaith fod y cerddi a ganodd Guto i Ddafydd yn absennol o lawysgrif Peniarth 57 yn awgrymu eu bod yn perthyn i gyfnod diweddarach. Yn wir, yn ei awdl fawl feistrolgar i Ddafydd, cyfeiria Guto at ei [d]aith faith i lys ei noddwro Fôn i oror Aeron / ... drwy Fabwynion (12.47-8), a dyfod trwy Deifi a wnaeth er mwyn canu ei gywydd mawl iddo (13.4). At hynny, dywed Guto ei fod wedi treulio pedair blynedd (15) yn y Mers cyn dychwelyd i Flaen-tren, awgrym cryf ei fod wedi clera yn sir Gâr wedi c.1440, o bosibl yn ystod y pedwardegau neu'r pumdegau. Canmolir Dafydd, ymhlith pethau eraill, am ei ddawn fel bardd serch (12.37-42), cyfeiriad cynnar yng ngwaith Guto at noddwr a ymddiddorai yng nghrefft cerdd dafod yn ogystal â'i noddi.

1.4 Morgannwg a Gwent

Cafodd Guto nawdd gan o leiaf ddau noddwr arall yn y de-ddwyrain yn ystod y pedwardegau neu'r pumdegau, ond ni cheir lle i gredu bod eu llysoedd yn rhan o'r cylch clera a amlinellir uchod. Y noddwr cyntaf y gwyddys i sicrwydd fod Guto wedi canu iddo yn yr ardal hon yw Dafydd Mathau, gwr o Landaf a thestun cywydd mawl lle canmolir hefyd ei bedwar mab a'i wraig, Gwenllïan, a oedd yn gyfnither i Syr Wiliam ap Tomas. Gwelir corffddelw Dafydd hyd heddiw yn yr eglwys gadeiriol yn Llandaf.

Yr ail yw Morgan ap Rhosier o Wynllwg ger Casnewydd, noddwr dau gywydd hynod gan Guto a Hywel Dafi. Eiddo Hywel yw'r cywydd cyntaf, lle cyhudda Guto (gyda'i dafod yn ei foch, efallai) o wenieithio wrth ganu mawl i'w noddwyr (cerdd 18a). Ni fyn Hywel ei hun fod yn euog o'r bai hwnnw, a cheisia foli Morgan heb ildio i'r demtasiwn o organmol. Ateb onest Guto yw ei fod, wedi'r cyfan, yn canu gweniaith weithiau, eithr nad yw hynny'n anghydnaws â natur y grefft farddol (cerdd 18). Mae mawl Guto'n llawn gorganmol gan mai cerdd felly y myn ei noddwr a'i gynulleidfa ei chlywed. At hynny, mae mawl yn y dull hwnnw'n llawer tecach na'r hyn y mae Hywel yn ei gynnig, a phrawf Guto hynny drwy foli Morgan yn ei ddull dihafal ei hun. Mae'r ddau gywydd yn ffurfio trafodaeth ddiddorol a soffistigedig ynghylch prif weithgarwch y beirdd, sef canu mawl, ac yn rhagflaenu mwy o ddadlau cellweirus rhwng y ddau fardd yng nghastell Rhaglan maes o law.

Noddwr arall y mae'n bosibl i Guto ganu mawl iddo yn y cyfnod hwn yw Trahaearn ab Ieuan o Ben-rhos. Fel y gwelir isod, canodd Guto gywydd gofyn iddo yn yr wythdegau, lle ceir yr argraff ei fod yn adnabod Trahaearn yn dda. Tybed a aeth cerddi cynharach iddo dros gof?

1.5 Yr Abad Rhys ap Dafydd

Ni waeth faint o gartrefi yr ymwelodd Guto â hwy ar ei deithiau clera cynnar yn y De, mae'n sicr iddo ddychwelyd dro ar ôl tro i abaty Ystrad-fflur. Diogelwyd yn Peniarth 57 dri chywydd i'r gwr a'i 'rhwystrodd' rhag cyrchu llys Phylib ap Gwilym Llwyd yn Nhrefgwnter, yr Abad Rhys ap Dafydd. Mae Rhys yn haeddu sylw arbennig gan mai ef, hyd y gwyddys, oedd prif noddwr Guto yn ei ieuenctid. Rhys, yn ôl pob tebyg, a fu'n gyfrifol am noddi'r gwaith o gynhyrchu Peniarth 57 yn Ystrad-fflur, ac nid yw'n amhosibl mai ef biau un o ddwy brif law'r llawysgrif (Salisbury 2007a: 18-19). Pe na bai'r llawysgrif fechan honno wedi ei chomisiynu yn y lle cyntaf, a phe na bai wedi goroesi, byddai'r hyn sy'n hysbys am yrfa gynnar Guto yn dlotach o gryn dipyn. Canodd Guto ddwy gerdd arall i Rys nas ceir yn Peniarth 57, sef awdl fawl a marwnad. Yn achos y rhan fwyaf o noddwyr, un neu ddwy gerdd iddynt ar y mwyaf a oroesodd, cerddi digon cyfoethog mewn rhai agweddau eithr rhai sy'n aml yn cyfleu un agwedd yn unig ar berthynas y bardd a'i noddwr. Rhydd y tri chywydd i Rys yn Peniarth 57 gipolwg llawnach ar y berthynas honno, oherwydd nid mawl digymysg yn unig yw eu cynnwys eithr hefyd bryder ac ansicrwydd ynghylch helyntion yr abad a'i absenoldeb mynych o'r abaty.

Yn ôl un cywydd roedd Rhys yn dioddef o ryw afiechyd neu anaf corfforol a'i gorfododd i adael Ystrad-fflur (onid oedd eisoes oddi cartref pan drawyd ef yn wael), a deil Guto y bydd yn trechu'r cystudd hwnnw'n union fel y trechodd y gelynion a geisiodd ei ddisodli o'i abadaeth (cerdd 5; Salisbury 2009: 65-9). Mewn cywydd arall, gwelir Guto'n mynegi ei anfodlonrwydd ynghylch y ffaith fod Rhys wedi gadael yr abaty er mwyn ymweld â Rhydychen, o bosibl adeg sefydlu coleg Sistersaidd Berned Sant yno yn 1437/8 (cerdd 6; Salisbury 2009: 69-74). Mae'n debygol fod y ddwy gerdd hyn wedi eu canu ar ymweliad â'r abaty rhwng cyfnod cyntaf Guto fel milwr yn Ffrainc yn 1436 a'i ail gyfnod yn 1441. Ceir llai o sicrwydd yn achos y trydydd cywydd i Rys, lle darlunnir ymddiddan rhwng y bardd a'i dafod ynghylch yr abad (cerdd 7; Salisbury 2007b: 149-55; 2009: 74-7). Cywydd byr ydyw mewn cymhariaeth â phob cerdd arall a berthyn i'r cyfnod cyn c.1450 (namyn 44 llinell), a gwelir arno'n eglur ddylanwad awen Llywelyn ab y Moel, a ganodd yntau gywydd ymddiddan â'i dafod (Salisbury 2007b: 151-2; GSCyf cerdd 12). Mae hynny, ynghyd ag adeiladwaith syml y gerdd, yn awgrymu'n gryf mai hi yw'r gerdd gynharaf o waith Guto a oroesodd. Ac ystyried ei fod yn weithgar fel bardd mor gynnar â c.1431, nid yw'n amhosibl fod y gerdd wedi ei chanu rhwng 1429/30, pan benodwyd Rhys yn abad Ystrad-fflur, ac 1436.

Tystia cerddi Guto i Rys, a'i awdl yn arbennig (cerdd 8), i weithgarwch diwylliannol a phensaernïol yr abad yn Ystrad-fflur. Ceisiodd Rhys ei orau i adfer cyflwr a ffyniant Ystrad-fflur wedi cyfnod o ddifrodi helaeth yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr, ond aeth ei weledigaeth yn drech nag ef ac fe'i carcharwyd yng Nghaerfyrddin yn sgil ei ddyledion yn 1439/40. Bu farw yn y carchar tua diwedd 1440 neu ddechrau 1441, a chanodd Guto farwnad fawreddog iddo (cerdd 9). Mae'r gerdd honno ymhlith y cywyddau hiraf a ganodd Guto ac yn deyrnged deimladwy i noddwr a oedd, o bosibl, yn gyfoeswr agos iddo. Ond ceir yn y gerdd awgrym hefyd fod meddwl Guto ar grwydr a'i fod eisoes wedi ymrwymo i wasanaethu dug Iorc fel milwr ym misoedd yr haf 1441, rai cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o gythrwfl yr abaty yng Ngheredigion (9.13-20).

1.6 Clera yn y Gogledd

Canwyd yr holl gerddi a drafodwyd hyd yn hyn i uchelwyr yn ne Cymru. Yr unig eithriad posibl yw'r gerdd i Fathau Goch o Faelor, ond nid oes wybod ym mhle'n union y canwyd y gerdd honno ac ystyried bod ei gwrthrych yn rhyfela yn Ffrainc ar y pryd. Gwyddys bod Guto wedi canu yn y Penrhyn ger Bangor c.1431, ond rhaid neidio ymlaen bron ddegawd cyn bod cerdd ogleddol ar glawr y gellir ei dyddio'n bendant. Ym mis Chwefror 1440, oddeutu blwyddyn cyn iddo ganu ei farwnad drawiadol i'r Abad Rhys yn Ystrad-fflur, canodd Guto farwnad i Lywelyn ab y Moel yn Ystrad Marchell (cerdd 82). Fel y nodwyd eisoes uchod, mae'n debygol iawn fod a wnelo Llywelyn gryn dipyn â gyrfa gynnar Guto fel bardd proffesiynol, er nad ymddengys mai ef oedd ei athro barddol. Canodd Rhys Goch Eryri yntau farwnad i Lywelyn, y gerdd olaf o'i eiddo y gellir ei dyddio ag unrhyw sicrwydd (GRhGE cerdd 10). Roedd achlysur canu'r ddwy gerdd yn groesffordd yn hanes arddull y cywydd, y naill gan yr henwr Rhys yn goferu'n sangiadol yn unol â'r hen ddull, a'r llall gan y Guto ifanc yn symud yn gyson o'r naill gwpled taclus i'r nesaf.

Dim ond dwy gerdd arall a berthyn i yrfa gynnar Guto y gellir bwrw amcan go sicr ynghylch dyddiadau eu canu. Y gyntaf yw cywydd mawl i bedwar mab Edward ap Dafydd o Fryncunallt yn arglwyddiaeth y Waun, gwr a oedd yn perthyn i Owain Glyndwr ac a ymladdodd yn ei blaid yn ystod y gwrthryfel (cerdd 103). Er mai rhinweddau'r meibion yw prif bwnc y gerdd, molir Edward hefyd am rai llinellau ac mae'n eglur ei fod yn fyw adeg ei pherfformio. Bu farw Edward ar 25 Ebrill 1445, a chanodd Guto farwnad iddo (cerdd 104). Er na ellir cynnig dyddiad manylach ar gyfer y cywydd mawl i feibion Edward, ac ystyried y ffaith fod Guto yn abaty Ystrad Marchell adeg marwolaeth Llywelyn ab y Moel yn 1440, nid yw'n amhosibl ei fod yn perthyn i'r un cyfnod. Y cerddi hyn yw'r rhai cynharaf y gellir eu cysylltu â'r gogledd-ddwyrain.

Mae'r gerdd nesaf y gellir cynnig dyddiad pendant ar ei chyfer yn perthyn i gyfnod ychydig yn ddiweddarach yng ngyrfa Guto, sef ei farwnad i Robert Trefor (a drafodir isod), ond y tebyg yw fod rhai cerddi eraill ar glawr sy'n perthyn i'w yrfa gynnar. Canwyd un gerdd yn Amwythig, arwydd eglur o ehangder daearyddol y cylchoedd clera yng nghyfnod Guto (cerdd 77). Noddwr y gerdd oedd yr Abad Tomas o abaty Benedictaidd y dref, a deil Guto'n gellweirus y myn droi'n glerigwr fel y gall dreulio ei holl amser yng nghwmni'r abad.

Canodd Guto dri chywydd mawl o gryn hynodrwydd i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch ger Llansilin, gwr y ceir ei enw mewn cofnodion rhwng 1408/9 ac 1416/17. Roedd ei dad, Ieuan Fychan ab Ieuan Gethin, yn bresennol yng Nglyndyfrdwy ym Medi 1400 pan gyhoeddwyd Owain Glyndwr yn Dywysog Cymru. Safai llys enwog Owain yn Sycharth nid nepell o gartref Ieuan ym Moeliwrch, a llosgwyd y ddau le'n ulw gan luoedd y Saeson ym Mai 1403 (Huws 2007: 106-7). Canodd Guto un o'i gerddi i Hywel ar achlysur ailadeiladu Moeliwrch (cerdd 90), digwyddiad o gryn bwys a ddenodd feirdd eraill i'r ty gwyngalchog ar lethr uchel uwchben Llansilin, megis Ieuan ap Gruffudd Leiaf ac, o bosibl, Syr Rhys. Yn wir, mae'n bosibl mai Moeliwrch oedd lleoliad canu englynion rhwng Ieuan a Guto, lle dywed y naill na fyn rannu ei wely â'r llall gan ei fod yn un o'r glêr (cerdd 93). Etyb Guto drwy atgoffa Ieuan nad oedd ei linach yntau'n gwbl ddiledryw. Fel yn achos y ddau gywydd arall a ganodd Guto i Hywel, ni ellir cynnig dyddiad manwl ar gyfer y gerdd fawl i Foeliwrch, ond mae dyddiadau hysbys Hywel, ynghyd â gwneuthuriad cynganeddol y cerddi, yn awgrymu dyddiad cynnar, o bosibl c.1440. Mewn cywydd arall i Hywel, cyfeiriodd Guto at abad draw yr oedd wedi gwneud amodau iddo na fyddai'n ei adael (91.59-62). Ni cheir dim yn y gerdd i awgrymu at ba abad y cyfeirir, ond dwg y llinellau i gof yr hyn a ddywedodd Guto yn ei gywydd mawl i Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter, sef ei fod wedi tyngu llw i'r Abad Rhys o Ystrad-fflur na fyddai'n ymweld â noddwyr eraill. Os at Rys y cyfeirir, gellid cyfrif cerddi Guto i Hywel ymhlith ei gerddi cynharaf.

Mae cywydd Guto i Hywel sy'n cynnwys y cyfeiriad at yr abad ymhlith ei gerddi hynotaf (cerdd 91). Tua hanner ffordd drwy'r gerdd dywed fod beirdd eraill yn anfodlon â'r ffaith ei fod yn canu cyn lleied i noddwyr eraill, cyhuddiad sy'n deillio, fe haerir, o genfigen am y berthynas agos rhyngddo a Hywel. Ateb Guto yw cyflwyno'r berthynas honno ar lun priodas, ond nid priodas ddaearol rhwng gwas a gwen eithr un ddwyfol a weinyddid gan Dduw. Rhydd y cywydd ddarlun cain ac unigryw o berthynas gyd-ddibynnol y bardd a'i noddwr, ac felly hefyd gywydd arall a ganodd Guto i Hywel pan anafodd y noddwr ei ben-glin (cerdd 92). Mae Guto'n gwneud defnydd llawn o dopos cyffredin mewn cerddi tosturi, lle gwelir y bardd ei hun yn dioddef yn enbyd pan fo ei noddwr yn wael. Ond nid bardd cyffredin mo Guto, a chynigia iacháu Hywel drwy rym ei farddoniaeth yn union fel y llwyddodd y Taliesin chwedlonol i ryddhau ei noddwr yntau, Elffin, o garchar gyda'i awen. Geilw Guto wedyn ar gymorth lliaws o seintiau er mwyn gwella'r briw a sicrhau y bydd Hywel yn iach eto i'w noddi.

Roedd Mali ferch Iolyn, un o gyfnitherod Hywel, yn wraig i un o noddwyr Guto yng nghwmwd Deuddwr, sef Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o'r Collfryn. Ceir enw Guto wrth yr unig gopi o gerdd fawl a ganwyd i Ruffudd, cywydd treisgar iawn sy'n coffáu campau'r noddwr yn ymladd rhyw Sais a ddaeth i ysbeilio ei fro (cerdd 83). Y tebyg yw mai gwrthdaro coll yn ystod neu yn sgil gwrthryfel Owain Glyndwr oedd hyn. Mae arddull sangiadol y gerdd yn bur wahanol i'r rhan fwyaf o'r cerddi eraill a ganodd Guto yn ei ieuenctid, ond gall fod yn arwyddocaol nad yw'r bardd ei hun yn cofio'r digwyddiad, ac felly, o bosibl, wedi ei eni ar ôl yr ymladd (83.49-58). Os Guto yw'r awdur, gallai'n hawdd fod yn atgoffa Gruffudd a'i gynulleidfa o ddewrder ei noddwr flynyddoedd yn ôl, a gall fod y gerdd ymhlith ei gerddi cynharaf oll.

Perthyn yr unig gerdd arall sydd wedi goroesi o gyfnod ieuenctid Guto i'r gogledd-orllewin, sef cywydd i ofyn ffaling gan Elen ferch Robert Pilstwn o'r Llannerch yn Llyn (cerdd 53). Yn wir, hon yw'r unig gerdd a ganwyd yn y gogledd-orllewin y gellir ei chysylltu â gyrfa gynnar Guto, a hynny ar sail ei gwneuthuriad cynganeddol a'r ffaith fod Elen yn nith i Owain Glyndwr. At hynny, hon yw cerdd ofyn gynharaf Guto, genre y gwnaeth ddefnydd helaeth ohoni yn ddiweddarach yn ei yrfa. Dengys y cais cynnar hwn am fantell Wyddelig allu dyfeisgar Guto i ddisgrifio rhodd yn ddychmygus, ynghyd â'i hoffter o frolio'r ffaith ei fod yn fardd â'i lygad ar ffasiynau'r oes.

2. Guto yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, c.1450-70

Ceir awgrym cryf yn y canu sydd wedi goroesi fod Guto wedi treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn y cyfnod hwn mewn dwy ardal yn y Gororau. Gellir synio am dref Croesoswallt, lle bu'n byw fel bwrdais am gyfnod, fel canolfan i'w weithgarwch yn y Gogledd, a chastell Rhaglan, gorsedd nawdd rymus yr Herbertiaid yng Ngwent, yn y De. Eithr nid dyna'r stori'n llawn, ac mae'n debygol iddo glera cryn dipyn mewn ardaloedd eraill, yn arbennig yng Ngwynedd.

2.1 Clera yn y gogledd-ddwyrain

Un gerdd yn unig o eiddo Guto y gellir ei dyddio'n bendant yn ystod pumdegau'r ganrif, sef marwnad i un o swyddogion dug Iorc yn arglwyddiaeth Dinbych, Robert Trefor o Fryncunallt, mab hynaf i'r Edward ap Dafydd a fuasai'n noddwr iddo gynt. Yn y farwnad fawreddog hon i Robert (cerdd 105), a gyfansoddwyd yn 1452, cyfeirir at ei feibion fel pedwar twr sy'n debyg i dyrau enwog castell Caernarfon. Roedd Siôn Trefor yn un o'r meibion hynny, gwr a roes ei nawdd i Guto maes o law eithr ni oroesodd dim o'r cerddi.

Mae'n bosibl fod cerddi eraill wedi eu canu ar y Gororau yn ystod y pumdegau, megis dau gywydd a ganwyd ar aelwyd Syr Siôn Bwrch a'i wraig Siân yn y Drefrudd, swydd Amwythig, a berthyn i'r cyfnod 1439-71. Maent yn codi cwestiwn diddorol, am ei bod yn ansicr iawn a allai'r naill na'r llall o'r pâr priod ddeall Cymraeg: Saeson oeddynt i bob golwg. A fedrai Guto'r iaith Saesneg? Anodd peidio â meddwl ei fod. Ond pam, wedyn, y noddai'r rhain farddoniaeth mewn iaith na ddeallent? Diau am fod esiampl y dosbarth uchelwrol yng Nghymru yn ddylanwadol yng nghymdeithas gymysg y Gororau. Canodd Guto gywydd mawl i Syr Siôn (cerdd 80) a chywydd mawl i'w wraig, Siân (cerdd 81). Mae'n diolch yn wresog i Siân a'i merch Isbel am ofalu amdano tra oedd yn sâl yn eu ty.

Cerdd arall ddigon problematig a ganwyd rywbryd yn ystod y blynyddoedd 1448-1476/7 yw cywydd a ganodd Guto i ofyn cymod Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern ger Llangollen (cerdd 106). Nid yw'n hysbys beth oedd asgwrn y gynnen rhwng y bardd a'i noddwr, ond, ac ystyried mor ysgafn yw naws y cywydd, anodd ei gysylltu â charchariad meibion Ieuan Fychan yn 1457, fel y gwna ambell lawysgrif a rhai ysgolheigion diweddar.

A symud i'r Gororau ac i Faelor Gymraeg, canodd Guto gerdd farwnad i Siôn ap Madog Pilstwn o Hafod-y-wern ger Wrecsam rywbryd wedi 1461 (cerdd 72). Mae'n bosibl ei fod yn cylch-droi yn yr ardal oddeutu'r adeg honno, a bod un o'i gerddi gofyn mwyaf trawiadol yn perthyn i'r un cyfnod. Canodd gywydd i ofyn saeled gan Wiliam Rodn o Holt ar ran Dafydd Bromffild o Fers (cerdd 73), lle darlunnir arfwisg gyfan ac eithrio'r helmed ddur ar ei phen. Dyfelir y saeled yn hynod ddyfeisgar, gan ei hymrithio'n lamp, yn esgopty, yn [d]orth ddur ac, yn llinellau olaf y gerdd, yn haul llachar a fydd yn gwawrio yn y dwyrain ac yn machludo yn y gorllewin - gan ddilyn hynt arfaethedig y rhodd o Holt i'r Bers. Tybed hefyd a deithiodd Guto i Gaer yn yr un cyfnod, ac ymbil yno ar y grog enwog yn eglwys Ioan Fedyddiwr i wella briw un o'i noddwyr? Canodd gywydd yn datgan ei fwriad i wneud hynny ar ran Dafydd ab Ieuan, a gawsai anaf i'w goes gan saeth (cerdd 92), ond yn anffodus ni ellir lleoli'r noddwr hwnnw'n hyderus.

Soniwyd eisoes am ganu trawiadol Guto i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch, a berthyn i'w gyfnod cynnar fel bardd, ond fe barhaodd i ganu i aelodau eraill o deulu estynedig Hywel yn nyffrynnoedd dwyreiniol y Berwyn yn ystod y pumdegau a'r chwedegau. Ymgartrefodd cefnder Hywel, Dafydd Cyffin ab Iolyn, yng nghyffiniau Llangedwyn yn nyffryn Tanad, a chanodd Guto gywydd mawl iddo rywdro rhwng 1444 ac 1462 (cerdd 94). O ddilyn afon Tanad i lawr y dyffryn fe gyrhaeddir cartref un arall o noddwyr Guto yn ystod y cyfnod hwn, sef Abertanad, ar y ffin rhwng Powys ac arglwyddiaeth Croesoswallt. Dyma gartref un o frodyr Hywel o Foeliwrch, sef Gruffudd ab Ieuan Fychan. Achlysur trist a ysgogodd y cywydd cyntaf sydd ar glawr i deulu Abertanad, sef marwolaeth gwraig Gruffudd, Gweurful ferch Madog (cerdd 88). Cawn ynddo ddarlun pruddglwyfus o'r ty gwag a'r bedd tawel yn eglwys Llanymlodwel. Yn yr ardal ffiniol hon, roedd Cymro uniaith yn destun digrifwch i rai o'i gymdogion, fel yn achos mab Gruffudd a Gweurful, Dafydd Llwyd ap Gruffudd. Mae cerdd fawl a ganodd Guto i Ddafydd yn amddiffyniad gloyw o ymlyniad Dafydd wrth ei famiaith, yn ogystal â rhinweddau mwy arferol, megis ei gadernid a'i haelioni wrth ei westeion (cerdd 86). Awgrymir yno, fel yn y cywydd marwnad i fam Dafydd, fod Guto'n ymwelydd eithaf cyson ag Abertanad ers amser hir. Ar achlysur arall, canodd Guto i ddiolch i wraig Dafydd, sef Catrin ferch Maredudd, am roi pwrs newydd iddo (cerdd 87). Bu farw Dafydd a Chatrin yn 1465. Teimladwy iawn yw'r cywydd marwnad a ganodd Guto i goffáu Dafydd (cerdd 89), lle cyfeirir at y cornwyd a ymddangosodd ar ei gorff dri diwrnod ynghynt, yn arwydd ei fod yn dioddef o'r pla. Bu farw ei wraig Catrin ynghynt, yn ôl pob tebyg o'r un afiechyd.

2.2 Croesoswallt

Perthynai Dafydd Llwyd o Abertanad i noddwr arall, sef Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, un o brif noddwyr Guto yn y gogledd-ddwyrain. Er mai anodd yw dyddio'n hyderus yr un o'r cerddi i Sieffrai, mae'n sicr fod Guto'n canu iddo cyn marwolaeth Dafydd Llwyd yn 1465. Canodd Guto gywydd i ofyn brigawn gan Sieffrai ar ran Dafydd (cerdd 98), lle dywed fod Sieffrai'n dal swydd yn nhref Croesoswallt a elwir yn gapteniaeth. Gwyddys bod Sieffrai'n un o feilïaid y dref yn 1463, a gall, felly, fod y gerdd honno'n perthyn i hanner cyntaf y chwedegau, ond mae dyddiad yn y pumdegau'n bosibl hefyd. Mae'r un peth yn wir am y cywydd mawl sy'n enwi gwraig Sieffrai, Siân (cerdd 97). Os dilynwn yr hynafiaethydd o'r unfed ganrif ar bymtheg, Gruffudd Hiraethog, yna fe briododd Sieffrai â'i ail wraig Ann yn 1467, sy'n rhoi terminus ante quem ar gyfer y gerdd honno. Ar y llaw arall, mae'n debygol fod dwy gerdd arall a ganwyd i Sieffrai, sef cywydd mawl (cerdd 96) a chywydd i ofyn dau filgi gan Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor (cerdd 100), yn perthyn i gyfnod diweddarach. Mae'n bur debygol fod y cywydd i ofyn corn hela ar ran Siôn Eutun (cerdd 99) wedi ei ganu c.1475, pan oedd Sieffrai'n ddistain arglwyddiaeth swydd y Waun. Nodedig iawn yw'r sylw a roes Guto i Sieffrai fel teithiwr, yn enwedig yn y gerdd a ganwyd iddo ef a'i wraig (cerdd 97), lle dywedir iddo fynd ar bererindod i Rufain ac ymhellach fyth i'r Tir Sanctaidd. Yn ôl Guto, roedd tad Sieffrai, Morus, yn deithiwr o fri hefyd - aeth ef i Prussia ac i Aras.

Mae'r canu i Sieffrai Cyffin yn agos gysylltiedig ag un o gerddi mwyaf nodedig Guto, sef ei gywydd mawl i dref Croesoswallt (cerdd 102). Canmolir y dref yn hael a dywed Guto ei fod yn fwrdais yno. Cadarnheir, mewn dogfen o'r unfed ganrif ar bymtheg, fod Guto wedi ennill statws bwrdais drwy ganu cerdd o fawl i'r dref. Dywed Guto ei fod gynt, pan oedd yn ifanc, yn flaeneuwr - hynny yw, rhywun a drigai mewn bryndir - ond ei fod bellach yn hen wr sy'n dewis y bywyd trefol cyfforddus. Mae'n bosibl fod y gerdd wedi ei chanu yn ystod y chwedegau a bod a wnelo cwnstablaeth Sieffrai yng Nghroesoswallt gryn dipyn â'r ffaith fod Guto wedi ei dderbyn yn fwrdais yn y dref ar gownt ei awen. Fodd bynnag, nid yw'n eglur pryd yn union yr ymgartrefodd yno nac ychwaith a oedd wedi byw yno am beth amser cyn ennill statws bwrdais.

Er nad enwa Guto'r un o'i gyd-fwrdeiswyr yn y cywydd i Groesoswallt, mae'n bur debygol fod Sieffrai a'i nai, Maredudd ap Hywel, yn eu plith. Canodd Guto gywydd mawl grymus i Faredudd sy'n perthyn, yn ôl pob tebyg, i'r un cyfnod (cerdd 95). Cerddi eraill sy'n sicr yn perthyn i'r un cyfnod yw'r cerddi ymryson rhwng Guto a'r bardd-offeiriad Syr Rhys, oherwydd mae Guto'n cyfeirio ato mewn cywydd mawl i Sieffrai (97.25-8). Yn ôl Syr Rhys, roedd Guto wedi methu teithio i abaty Glyn-y-groes oherwydd salwch, ac â Syr Rhys rhagddo i ddychanu'r bwyd pitw a gafodd Guto yn ei gartref ei hun yn lle'r wledd fawreddog a arhosai amdano yn yr abaty (cerdd 101a). Etyb Guto drwy gyhuddo Syr Rhys o dderbyn gwahoddiad ganddo yntau i fwyta yn ei gartref, ac yna o ymddwyn yn floesg ac yn afradlon yn ei ddiod (cerdd 101). Ni ddywedir mai yng Nghroesoswallt yr oedd Guto'n byw ar y pryd, ond mae'r bara ar ei fwrdd yn [f]wrdeisiaidd, sy'n hynod awgrymog. Yn y cywyddau ymryson hyn y ceir yr unig wybodaeth ynghylch y ffaith fod Guto'n wr priod. Dwgws yw enw ei wraig, sef ffurf anwes ar Dyddgu. Nid yw'n eglur pa mor hir y buasai Guto'n briod â hi. Mae'r sylw gan Syr Rhys fod Guto wedi mynd yn wan yn ei henaint o gymharu â'r gwr cryf a fu gynt, a bod y ffaith yn annymunol i Ddwgws, yn awgrymu eu bod yn briod ers ieuenctid Guto - ond ni ddywedir hynny'n hollol ddiamwys. Siôn ap Rhisiart oedd abad Glyn-y-groes ar y pryd, gwr a lywodraethodd yr abaty o c.1455 hyd 1480 ond, ysywaeth, ni chadwyd gair o fawl Guto iddo. Eto, mae'n eglur fod Guto eisoes yn ymwelydd go ffyddlon â Glyn-y-groes yn y chwedegau.

2.3 Clera yn y canolbarth a'r gorllewin

Ymddengys fod Guto'n treulio'r rhan helaethaf o'i amser tua chanol y ganrif yn nwyrain y wlad ac yn y Gororau. Yn wir, un gerdd yn unig i noddwr y tu allan i'r ardaloedd hynny y gellir ei dyddio'n bendant yn ystod y cyfnod hwnnw. Cwta fis ar ôl coroni Edward IV yng Ngorffennaf 1461, bu ffrwgwd yn ei lys rhwng Sais na wyddys ei enw a Siôn Dafi, Cymro o Felwern yn swydd Amwythig yn wreiddiol a ymgartrefodd yn Llundain. Cosbwyd Siôn drwy dorri ei law yn gyhoeddus yn y farchnad yn Cheapside, ryw ddydd Gwener o fis Awst. Canodd Guto gywydd brathog i goffáu'r achlysur (cerdd 41). Ymddengys mai yn y Cemais, ger Machynlleth, y'i canwyd ef, yn absenoldeb Siôn, a oedd yn Llundain. Nid yw cysylltiad Siôn Dafi â'r lle hwnnw yn hysbys, ond canodd y bardd lleol, Dafydd Llwyd o Fathafarn, gywydd dychan iddo rywbryd yn ystod teyrnasiad Edward IV, yn cyhuddo Siôn o fod wedi pardduo ei enw o flaen Edward, felly gallwn hyderu bod Siôn yn wyneb cyfarwydd yn yr ardal honno.

Fodd bynnag, ceir wrth enw Guto nifer o gerddi i noddwyr yn y canolbarth a'r gogledd-orllewin. Ni ellir dyddio'r cerddi hyn yn fanwl, ond y tebygrwydd cryf yw eu bod yn perthyn i'r cyfnod 1450-70. Ceir cywydd mawl i Ddafydd Llwyd ap Dafydd o'r Drenewydd, er enghraifft, a ganwyd cyn i Ddafydd farw rywdro rhwng 1465 ac 1469 (cerdd 37). Ynddo mae Guto'n rhyw ffug-gwyno nad oes deunydd cerddi ar ôl iddo ganu i Ddafydd gan fod cymaint o feirdd eraill wedi canu i'r noddwr hwnnw, gyda Gwilym ab Ieuan Du, Llawdden ac un o'r Swrdwaliaid yn eu plith. Nid nepell i'r gogledd o'r Drenewydd roedd cartref noddwr arall, sef Maredudd ab Ifan Fychan o Gedewain. Canodd Guto gywydd i ofyn march ganddo ar ran perthynas iddo o'r Trallwng, sef Rheinallt ap Rhys Gruffudd (cerdd 39). A dilyn afon Hafren i'r dwyrain, deuir at y Faenor, cartref Edward ap Hywel a Gwenllïan ferch Rhys ychydig i'r de-orllewin o Aberriw. Mae'n bosibl fod y Faenor wedi ei difrodi yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr, a chanodd Guto gywydd mawl i'r adeilad newydd a gododd Edward a Gwenllïan ar y bryn uwch Aberriw (cerdd 38). Cymherir y ty â hen gartref Owain ei hun yn Sycharth arfryn gynt yn nwyfron garth, ac roedd yn enghraifft dda o'r gweithgarwch adeiladu mawr a welwyd yng Nghymru yn ystod y bymthegfed ganrif.

Os gwir yw nodyn yn llaw Thomas Evans (a ysgrifennwyd rhwng 1604 ac 1624), i'r de o'r Drenewydd, rywle yng nghyffiniau Llananno yn ôl pob tebyg, y canodd Guto ac eraill gyfresi o englynion i ddychan Tudur Penllyn yn neithior Dafydd ap Maredudd Fychan. Dyma'r enghraifft gynharaf sicr o'r hyn a elwir yn draddodiad y cyff clêr, lle gwnaed pencerdd yn destun gwawd gan ddyrnaid o feirdd ar sail rhyw stori led-ffug, cyn y canai'r pencerdd yntau ei ateb. Y testun y tro hwnnw oedd fod blaidd wedi llarpio ceilliau Tudur, ac roedd ei fab, Ieuan, ymhlith y rhai a dynnodd ei goes (cerdd 46a). Yn wir, englynion Ieuan a Guto (cerdd 46) yn unig a oroesodd o blith y cerddi sy'n dychanu Tudur, er i Dudur enwi wyth o feirdd eraill yn ei englynion yntau, yn cynnwys Gutun Owain (cerdd 46b). Ni ellir dyddio'r achlysur yn fanwl, ond roedd y beirdd a enwir yn eu blodau rhwng y pumdegau a'r saithdegau.

Y tebyg yw fod Guto wedi ymweld â Nannau, cartref nawdd enwog ger Dolgellau, rywdro yn ystod y chwedegau er mwyn canu mawl i Feurig Fychan ap Hywel Selau a'i wraig, Angharad ferch Dafydd, eu mab, Dafydd, a'i wraig yntau hefyd, Elen ferch Hywel (cerdd 49). Rhydd Guto sylw i'r pedwar unigolyn yn eu tro, mawl digon arferol ac eithrio'r hyn a ddywed am Elen (49.37-48). Rhoes Elen, a oedd yn wyres i Weurful ferch Madog, ymgeledd i'r bardd ac eraill rywdro yn y gorffennol, a hynny yn y Bala, nid nepell o'i chartref teuluol yn y Rug ger Corwen. Mae Guto'n datgan ei fwriad i ymweld â Nannau eto od af i oes hen, ac ymddengys iddo gyflawni ei addewid maes o law. Ceir adlais cryf o gywydd mawl a ganodd Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn y bedwaredd ganrif ar ddeg i daid noddwr Guto, Meurig Llwyd, a'i frawd yntau, Hywel, lle mae Llywelyn yn datgan ei fwriad i gyd-fyw â noddwyr Nannau yn ei henaint (GLlG cerdd 8).

Os ymwelodd Guto erioed â chartref teulu Elen ferch Hywel yn y Rug, yn anffodus ni oroesodd ddim o'i farddoniaeth i'r teulu hwnnw. Ond gwyddys iddo dreulio cryn amser yn Edeirnion yn ystod y pumdegau neu'r chwedegau, yn arbennig ar aelwyd Syr Bened, person Corwen. Enwir Syr Bened fel deiliad y swydd honno yn 1439, felly gall fod peth o ganu Guto iddo'n ymestyn yn ôl i'r tridegau neu'r pedwardegau. Canodd Guto awdl foliant iddo (cerdd 43), ond mwy arbennig o lawer yw'r cywydd 'porthmona' (cerdd 44). Edrydd hanes helyntion Guto yn mynd ag wyn Syr Bened i'w gwerthu ym marchnadoedd canolbarth Lloegr. Er bod ganddo ddau was i'w gynorthwyo, ni fu porthmona'r bardd yn llwyddiant, os credir yr hyn a ddywed yn ei gywydd. Collodd lawer o'r wyn mewn damweiniau, ac nid oedd neb yn fodlon cynnig pris teg iddo am y lleill. Aeth mor bell â Coventry a phendroni a ddylai fynd ymhellach i Efrog, ond yn y pen draw fe fodlonodd ar ymweld â Lichfield a Stafford, cyn ymlwybro'n ôl i Edeirnion. Ac er bod Syr Bened yn fodlon ei gyflogi eto, taera na fydd byth eto'n mentro ar y fath fusnes. Diau fod Guto'n disgrifio taith nad oedd yn hollol ffuglennol, oherwydd nododd mewn cywydd i Syr Siôn Mechain (cerdd 84) ei fod wedi ymgymryd â theithiau porthmona ar ran Syr Bened yn aml. Ysgogodd y cywydd ateb digrif gan y bardd Tudur Penllyn (cerdd 44a), ac aeth yn gystadleuaeth rhwng y ddau (cerdd 45). Ceir hefyd farwnad gan Guto ar gyfer Syr Bened, a fu farw yn 1464 (cerdd 47).

Ychydig i'r de o Gorwen, yn y bryniau uwchben afon Dyfrdwy rhwng Cynwyd a Llandrillo, ceid cartref un arall o noddwyr Guto yn Edeirnion, sef Ieuan ab Einion o'r Cryniarth. Molodd Guto ei noddwr a'i wraig, Angharad ferch Dafydd, ynghyd â'u hwyth plentyn, gan roi sylw arbennig i Ddafydd ab Ieuan, a oedd eisoes wedi bod yn ymladd yn Ffrainc ac a fyddai, maes o law, yn amddiffyn castell Harlech yn erbyn yr Herbertiaid, noddwyr grymus Guto yn y de-ddwyrain (cerdd 48). Yn nghantref cyfagos Penllyn roedd cartref nawdd arall, sef Llechwedd Ystrad yn y bryniau uwchben Llangywer ar lan Llyn Tegid. Dyma gartref Einion ap Gruffudd, gwr y canodd Guto farwnad deimladol iddo lle molir ef fel bardd o fri yn ogystal â noddwr hael, a chrybwyll ei gladdu dros y Berwyn yn eglwys Pennant Melangell (cerdd 42).

Diau fod Guto wedi clera'n aml yn sir Gaernarfon yn y pumdegau a'r chwedegau, ond yn anffodus ni ellir dyddio'n hyderus fawr ddim cerddi i noddwyr yr ardal hon yn ystod y cyfnod hwnnw. Soniwyd eisoes fod Guto wedi ymweld â'r Penrhyn ger Bangor pan oedd yn fardd ifanc iawn er mwyn moli Gwilym ap Gruffudd, a dychwelodd yno i foli mab Gwilym, Wiliam Fychan, efallai rhwng 1457 ac 1463. Diogelwyd dwy gerdd fawl i Wiliam yn y llawysgrifau, y naill yn cynnwys cyfeiriad at grefft y saethydd (nid yn annhebyg i gerddi Guto i Rys ap Dafydd ac i Siancyn Hafart) a'r llall yn nodi dylanwad Wiliam mewn gwahanol ardaloedd yng Ngwynedd (cerddi 56 a 57). Cyfeirir ar ddechrau'r ail gerdd at reolaeth Wiliam dros fferi Porthaethwy, a gludai deithwyr yn ôl ac ymlaen o'r tir mawr i Fôn. Diau fod Guto wedi defnyddio'r fferi honno er mwyn ymweld â noddwyr ym Môn tua'r un adeg ag y canodd i Wiliam, gan ganu i un teulu o noddwyr yn benodol, sef disgynyddion Llywelyn ap Hwlcyn o Brysaeddfed. Canodd Guto gywydd mawl i un o wyrion Llywelyn, Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth, rywdro wedi 1450/1, lle cyfeiria at Fôn fel cartref ei enaid (cerdd 62). Mae'n sicr iddo dderbyn llawer o nawdd ar yr ynys, oherwydd ceir cerdd arall ganddo i bum mab Llywelyn ap Hwlcyn, cerdd a berthyn, o bosibl, i'r chwedegau (cerdd 63). Neilltuir dau gwpled o fawl i bob brawd, gan ddechrau gyda'r hynaf a gorffen gyda'r ieuengaf, cyn dwyn i gof gywydd Iolo Goch yntau i bedwar mab Tudur Fychan o Fôn (GIG cerdd V). Yna ceir dau gwpled arall o fawl i bob brawd, lle uniaethir pob un yn ei dro â charreg wyrthiol: Meurig yw maen yr athronydd, Huw Lewys yw'r diemwnt, Dafydd y riwbi, Gruffudd yr almwnt a saffir yw Rhys. Tebyg yw'r gerdd o ran ei genre i'r cerddi mawl a ganodd Guto i bedwar mab Edward ap Dafydd o Fryncunallt ac i wyth plentyn Ieuan ab Einion o'r Cryniarth, eithr mae'r gerdd i'r pum mab ym Môn yn rhagori o ran cywreindeb ei hadeiladwaith.

2.4 Dafydd ab Edmwnd

Bu Guto'n ymryson â nifer o'i gyd-feirdd - Hywel Dafi, Tudur Penllyn, Syr Rhys a Llywelyn ap Gutun - ond ceir rhywfaint o ddirgelwch ynghylch natur ei berthynas â bardd arall a oedd yn un o benceirddiaid mwyaf dylanwadol y bymthegfed ganrif. Ceir wrth enw Guto dri chywydd dychan i Ddafydd ab Edmwnd o Bwll Gwepra yn Llaneurgain (cerddi 66, 67 a 68), bardd a ddaeth i amlygrwydd fel enillydd y gadair arian mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin tua 1451 dan nawdd Gruffudd ap Nicolas, ac a fu'n athro barddol i Gutun Owain a Thudur Aled.

Ymddengys mai rhyw fost a wnaeth Dafydd oedd sail o leiaf un o'r cerddi dychan, efallai mewn cyswllt â'i gais i ddiwygio cerdd dafod yn yr eisteddfod yng Nghaerfyrddin (66.6, 26). Enwir pump o feirdd a fydd yn erlid Dafydd fel haid o gwn, ond ni cheir sicrwydd ynghylch awduraeth y gerdd gan ei bod yn debygol fod Guto'n un o'r beirdd a enwir. Er nad enwir Gwilym ab Ieuan Hen yn un o'r beirdd hynny, gall fod ei gywydd dychan yntau i Ddafydd yn seiliedig ar yr un gynnen, gan fod yn y cywydd hwnnw sôn am fost y bardd mewn cyswllt â beirdd eraill (yn cynnwys Guto, o bosibl; GDID cerdd XXIII). Ac eto ceir tebygrwydd rhyngddo a chywydd arall a briodolir i Guto, sef dychan mwy bas lle gwawdir ymddangosiad truenus Dafydd (cerdd 67). Fe'i darlunnir fel milwr sydd, er gwaethaf ei wrhydri ar faes y gad, yn dwyn olion anarwrol y frwydr ar ei ddillad a'i gorff eiddil. Gelwir Dafydd yn gor Syr Rys mewn cyswllt â chanu brud (67.46), geiriau a adleisir yng nghywydd Gwilym mewn cyd-destun tebyg, ond tywyll yw'r arwyddocâd. Eglurach o dipyn yw cyd-destun cywydd dychan arall a ganodd Guto, oherwydd goroesodd y cywydd gan Ddafydd a dynnodd flewyn o drwyn Guto yn y lle cyntaf (cerdd 68a). Sail y dychan, boed wir neu au, yw bod Guto wedi torri ei lengig wrth godi pwysau, camp y deil Guto ei hun mewn cerdd arall iddo arbenigo arni yn ei ieuenctid (33.39-46; cf. 126.16). Canodd Dafydd englyn ar yr un pwnc (cerdd 68b). Cwbl fasweddus yw'r dychan, ynghyd ag ateb Guto (cerdd 68), lle bwria ei sen ar gal fawr afiach Dafydd. Hynod anodd yw dyddio na lleoli'r un o'r cerddi hyn, ond mae cyfeiriadau Guto at Syr Rhys a chyfeiriad ar ddiwedd cywydd Dafydd at wraig Guto yn awgrymu dyddiad yn ystod y pumdegau neu'r chwedegau.

Gan na cheir golygiad awdurdodol o waith Dafydd nac ychwaith astudiaeth fanwl o'i ymdrechion i ddiwygio cerdd dafod yn yr eisteddfod yng Nghaerfyrddin, ni ellir ond dyfalu pam y canodd Guto fwy o gerddi dychan iddo nac unrhyw fardd arall. Roedd Guto a Dafydd yn sicr yn ddynion gwahanol iawn, y naill yn gyn-filwr cydnerth a farddonai am ei fywoliaeth, a'r llall yn wr byr a ganai ar ei fwyd ei hun. Os nad oedd yn dda gan Guto'r hyn a wnaeth Dafydd yn yr eisteddfod - a chofier bod Guto, a fu'n canu am ryw ddau ddegawd erbyn 1451, yn absennol o'r eisteddfod, hyd y gwyddys - ni cheir awgrym clir o hynny yn ei gerddi (yn wahanol i Lawdden, a leisiodd ei farn mewn englynion dychan, GLl cerddi 34, 36). Ni ellir ar hyn o bryd ddweud ychwaith a aeth cerddi Guto'n fwyfwy caeth erbyn diwedd ei oes yn unol â'r diwygio a wnaed yng Nghaerfyrddin ynteu'n annibynnol arno.

2.5 Wiliam Herbert a'i deulu

Noddwr amlycaf Guto'n ddi-os oedd Wiliam Herbert o Raglan. Mab ydoedd i Syr Wiliam ap Tomas, ac etifeddodd gastell Rhaglan yn sgil marwolaeth ei dad yn 1445. Mae'n ansicr pryd y daeth Guto i'w sylw, ond y tebyg yw fod gwasanaeth Guto ymhlith y pethau eraill a etifeddodd Herbert oddi wrth ei dad. Bu Guto'n ymwelydd cyson â Rhaglan ac yn dyst i dwf anhygoel grym Herbert ar hyd ei yrfa wrth i'r uchelwr chwarae rhan flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Lloegr yn ystod y gwrthdaro a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Roedd y blynyddoedd 1449-53 yn rhai cythryblus i deyrnas Lloegr. Yn 1449 lansiodd y Ffrancwyr ymgyrch difaol yn erbyn y trefi yn Normandi a oedd ym meddiant y Saeson. Ni allai'r Saeson wrthsefyll grym Siarl VII ac o fewn llai na blwyddyn fe gollasant bob modfedd o Normandi. Brwydr Formigny yn 1450, lle trechwyd y Saeson yn llwyr, a benderfynodd dynged Normandi. Ymysg y capteiniaid a ddaliwyd yno'r oedd yr Wiliam Herbert ifanc. Fe'i rhyddhawyd ar ôl talu arian mawr, a llwyddodd i ddychwelyd i Gymru yn fyw ac yn iach, ond ni fu Mathau Goch mor ffodus. Lladdwyd ef yn Llundain yn 1450 yn ystod gwrthryfel Jack Cade. Yn 1453 wedyn daeth ergyd arall wrth i Wasgwyn gael ei goresgyn gan y Ffrancwyr - buasai troedle gan y Saeson yno er y ddeuddegfed ganrif. Bellach, tref Calais oedd yr unig lecyn yn Ffrainc a ddaliai i fod ym meddiant Coron Lloegr.

Yn sgil y trychinebau yn Ffrainc, bu'r 1450au yn ddegawd anodd. Torrodd gwrthyfel Cade allan yng Nghaint, ac er i hwnnw gael ei fygu'n ddigon cyflym, cynyddu'r oedd y tyndra rhwng Richard, dug Iorc, a phlaid y brenin Harri VI. Roedd yn anochel y tynnid llawer o noddwyr Guto i mewn i'r cweryl, a hwythau'n denantiaid ac yn ddilynwyr y dug. Yn y cyfamser, fodd bynnag, daliai Guto i arfer ei grefft. Ni ddylid ei alw'n fardd 'Iorcaidd', ac o ran hynny ni ddylid galw ei noddwyr ym mhlaid y dug yn 'Iorciaid' ychwaith yn ystod y 1450au. Ymgiprys am barch a dylanwad gyda'r brenin oedd asgwrn y gynnen rhwng y dug a theulu estynedig Harri VI, nid ymgiprys am y Goron ei hun. Nid tan ddiwedd 1460 yr hawliodd Richard, dug Iorc, yr orsedd, a hyd yn oed mor ddiweddar â hynny ceir tystiolaeth fod llawer o'i ddilynwyr yn anfodlon mynd mor bell â diorseddu brenin eneiniedig. Dymuniad mwyafrif llethol y boneddigion, yng Nghymru fel yn Lloegr, oedd gweld cymod ar delerau teg rhwng y ddwy blaid. Gallwn ddyfalu y byddai bardd proffesiynol, ac yntau'n dibynnu ar rwydwaith o noddwyr amrywiol ym mhob rhan o Gymru, yn arbennig o awyddus i weld cydfod yn eu plith.

Erbyn y pumdegau roedd Wiliam Herbert yn un o brif gefnogwyr dug Iorc. Diau fod Guto'n ymwelydd eithaf cyson â Rhaglan yn ystod y pumdegau, ond aeth unrhyw gerddi a ganodd i Herbert yn uniongyrchol yn y cyfnod hwn i ebargofiant. Fodd bynnag, y gerdd gyntaf o waith Guto ar glawr a noddwyd gan Herbert yw'r cywydd ymryson (cerdd 20) sy'n cyhuddo Hywel Dafi o dreulio gormod o amser yn elwa ar berchentyaeth Herbert yn Rhaglan. Gellir dyddio hwn i ryw dro cyn diwedd 1453, gan ei fod yn sôn am fam Herbert fel petai'n fyw o hyd (ni cheir sicrwydd, fodd bynnag, ynghylch dyddiad marwolaeth Gwladus Gam). Parchedig ofn, efallai, yw nod amgen y cywydd hwn, er gwaethaf y tynnu coes a gyfeirir at Hywel druan, a ganodd gywydd ateb yn ei dro (cerdd 20a). Eisoes yn y cyfnod cynnar hwn, nid oedd Herbert yn wr i dynnu'n groes iddo.

Coronwyd mab Richard, dug Iorc, yn frenin Edward IV yn 1461. Bregus iawn oedd gafael y brenin newydd ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a oedd ar yr adeg hon yn cydweithio'n ddigon hapus, ond nid ymestynnai gair Edward IV fawr i'r gorllewin nac i'r gogledd. Y misoedd pryderus hyn ar ôl brwydr Towton, ddiwedd Mawrth 1461, a welodd gychwyn ar y proses o ddyrchafu Wiliam Herbert i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru. Penodwyd ef yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, yn eu plith Brycheiniog a Gwynllwg. Ymlaen â'r gwyr newydd, wedyn, i orllewin Cymru. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, gan adael i gastell Penfro syrthio i ddwylo Herbert. Yn y castell roedd y bachgen bach pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerodd Herbert ef adref gydag ef i Raglan ac yno y magwyd Harri hyd 1469. Yn y cyfamser, trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a bu raid iddo ffoi i Iwerddon.

Yn sgil hyn roedd Herbert bellach yn tra-arglwyddiaethu dros dde-orllewin Cymru. Yr unig fan lle na dderbynnid ei awdurdod oedd castell Carreg Cennen, a ddelid gan Domas ac Owain ap Gruffudd ap Nicolas. Bu raid i Herbert arwain ail ymgyrch, yn 1462, er mwyn cipio'r cadarnle hwn oddi wrthynt. Ni wyddom a welodd Guto ymgyrchoedd Herbert â'i lygaid ei hun, ond byddai'n cyfeirio atynt yn ganmoliaethus iawn yn y cywydd a ganai i Herbert yn 1468, ar anterth ei rym (cerdd 21).

Bu 1468 yn flwyddyn bwysig yng ngyrfa Guto. Y flwyddyn honno, o'r diwedd, y penderfynodd Edward IV fynd i'r afael o ddifrif â'r gwrthyfelwyr yng Ngwynedd, a rhoddodd i Herbert yr awdurdod a'r adnoddau yr oedd eu hangen arno er mwyn dwyn y maen i'r wal. Yn wir, mae Adam Chapman (papur heb ei gyhoeddi a draddodwyd yng Nghynhadledd Guto'r Glyn, Aberystwyth, 2012) wedi dangos bod y swm a wariwyd ar ymgyrch 1468 yn debyg i gost un o'r ymgyrchoedd blynyddol yn Normandi yn gynharach yn y ganrif - swm aruthrol o arian i'w dalu er mwyn cipio un castell, waeth pa mor gadarn ydoedd. Gallwn amau'n gryf iawn nad oedd castell Harlech ond yn ben ar y mwdwl. Prin, mewn gwirionedd, oedd awdurdod Edward IV ar draws tair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert a'i gyd-gapteiniaid ddod â byddin anferth a hau dychryn ar hyd a lled Gwynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd castell Harlech iddo ar 14 Awst, a chanodd Guto gywydd grymus iawn i longyfarch Herbert ac i ymbil arno i ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd, a llawer o noddwyr Guto yn eu plith (cerdd 21). Braf fyddai gwybod ar ba achlysur y canwyd hwn, o flaen pwy, i ba raddau y cymeradwywyd ef gan Herbert, ac a fu rhan gan eraill yn ei gomisiynu i ddynodi eu hymostyngiad i'r cwncwerwr o'r De. Fodd bynnag, y cyfan y gellir ei wybod yw ei fod wedi ei ganu cyn 8 Medi, pan ddyrchafwyd Herbert yn iarll Penfro. Cwbl anghredadwy fyddai canu iddo ar ôl hynny heb grybwyll y fath anrhydedd unigryw.

Un gwr a elwodd, o bosibl, yn sgil apêl Guto at Wiliam Herbert oedd Syr Rhosier Pilstwn o Emral, os cywir yw barn golygydd y cywydd a ganodd Guto iddo ei fod yn perthyn i'r cyfnod rhwng mis Mawrth 1469, pan dderbyniodd Rhosier bardwn gan Edward IV, a'i farwolaeth rywbryd yn nes ymlaen yn yr un flwyddyn (cerdd 74). Buasai Rhosier yn un o arweinwyr plaid Lancastr yng ngogledd Cymru yn y 1460au. Sonia Guto am [f]lynyddoedd blin ac am y costau y bu raid i Rosier eu talu; ai er mwyn cynnal achos Lancastr yn filwrol, ynteu er mwyn prynu ffafr y brenin (a Herbert hefyd, efallai), ni ddywed Guto wrthom.

Perthyn dau gywydd arall i'r ychydig fisoedd rhwng buddugoliaeth y brodyr Herbert a'u cwymp ym mis Gorffennaf 1469. Sonia un ohonynt (cerdd 23) am Herbert fel iarll. Aethai i Gaerloyw i fygu rhyw anghydfod yno, ar ran Edward IV yn ddiau; mae'n nodedig y byddai marwnad Guto iddo ychydig yn nes ymlaen yn sôn am elyniaeth gwyr swydd Gaerloyw tuag ato. Bellach, roedd Herbert wedi symud ymlaen i Lundain, a'r bardd yn poeni am ei ddiogelwch ymysg y Saeson dichellgar. I ddarllenwyr heddiw, gall ymddangos fel proffwydoliaeth, ond ni allai Guto rag-weld digwyddiadau haf 1469 a rhamantiaeth ddi-sail yw gosod y gerdd hon yn ystod ymgyrch trychinebus Banbury. I Lundain yr aethai Herbert, nid i ganolbarth Lloegr i wynebu gwrthryfelwyr. Mae'r ail gerdd sy'n perthyn i'r amser hwn wedi ei ganu i Risiart Herbert, ac mae'n canmol y gwaith adeiladu mawreddog yr ymgymerodd ag ef yng Ngholbrwg, ei gartref ar gyrion y Fenni (cerdd 22). Unwaith eto, anodd yw darllen am y gwario rhyfygus hwn heb gofio y byddai pen Rhisiart yn gorwedd ar y bloc mewn dim o dro. Mae dyddiad y gerdd yn ddiogel oherwydd mae'n sôn eto am iarllaeth Wiliam Herbert.

2.6 Brwydr Edgecote (Banbury), 1469

Ym mis Gorffennaf 1469 fe ddaeth gyrfa anhygoel Wiliam Herbert i derfyn disyfyd a gwaedlyd. Codwyd gwrthryfel yng ngogledd Lloegr. Er mai 'Robin of Redesdale' oedd arweinydd y gwrthryfelwyr, mae'n ddiau mai Richard Neville, iarll Warwick, a George, dug Clarence, a oedd y tu ôl iddynt. Aeth Edward IV i'r gogledd i'w hwynebu, gan wysio Herbert o dde Cymru a Humphrey Stafford, iarll Dyfnaint, o dde-orllewin Lloegr i ymuno ag ef. Ynyswyd Edward yn Nottingham, ond aeth y gwrthyfelwyr heibio iddo. Ar 24 Gorffennaf cyfarfuant â byddin Wiliam Herbert ger Edgecote, pentref yn swydd Northampton yn agos i Banbury. Ymddengys na fu Humphrey Stafford yno, neu ei fod wedi ffoi yn ystod y frwydr. Trechwyd byddin Herbert a chipiwyd ef a'i frawd yn fyw. Aethpwyd â hwy i Northampton, lle dedfrydwyd hwy i farwolaeth gan Warwick a Clarence. Dienyddiwyd Rhisiart ar 26 Gorffennaf a'i frawd y diwrnod wedyn. Erys ar glawr atodiad i ewyllys Herbert a ysgrifennodd yn ei law ei hun y bore hwnnw.

Cwbl ysgytwol oedd effaith y digwyddiadau hyn ar y garfan o feirdd a oedd wedi ymgasglu o gwmpas Herbert ym mlynyddoedd ei oruchafiaeth, a Guto yn eu plith. Marwnad Herbert yw ateb Guto (cerdd 24), cerdd a ganwyd ychydig fisoedd yn ddiweddarach, gellir tybied, gan ei fod yn crybwyll marwolaeth Humphrey Stafford yn Bridgwater, Gwlad yr Haf (17 Awst). Dyma, yn ddiamheuaeth, yw o gerddi marwnad grymusaf yr iaith Gymraeg. Egyr drwy gymharu tranc yr Herbertiaid â dawns angau, llun defosiynol a oedd newydd gyrraedd Prydain o'r Cyfandir. â ymlaen i resynu bod llafn bwyell wedi cyffwrdd â'r gwddf a arferai wisgo coler aur, a beiir y Tair Tynged glasurol am dorri edefyn bywyd yr iarll hwn. Taer yw awch y bardd am weld dial ar y Saeson am y drychineb. Nid erys dim iddo yntau, bellach, heblaw mynd yn wallgof a chrwydro'r coedwigoedd fel Myrddin Wyllt. Fodd bynnag, cloir y gerdd â thinc o obaith, wrth i'r bardd gofio bod meibion a hanner brawd yr iarll, Syr Rhosier Fychan o Dretwr, yn dal yn fyw i amddiffyn y wlad.

3. Yr ugain mlynedd olaf, c.1470-90

3.1 Y saithdegau

Ni ddaeth ymwneud Guto â'r Herbertiaid i ben wedi marwolaeth Wiliam Herbert. Yn wir, parhaodd i ganu i aelodau eraill o'r teulu yn y saithdegau. Y cyntaf, o bosibl, oedd mab Wiliam, sef Wiliam Herbert arall, ail iarll Penfro. Canodd Guto gywydd mawl iddo, o bosibl yng ngaeaf 1471/2, yn ei annog i ddial marwolaeth ei dad yn 1469 a marwolaeth ei ewythr, Syr Rhosier Fychan, ym Mai 1471 (cerdd 25). Llym iawn yw'r cyngor gwleidyddol ynghyd â'r cyngor ynghylch y modd y dylai uchelwr ifanc fel Wiliam ymddwyn - nid, yn ôl Guto, drwy fod yn falch hyd drahauster eithr drwy ddilyn esiampl ei dad. Diddorol fyddai gwybod beth oedd barn y Wiliam ifanc am y cyngor hwnnw, ac yntau'n olynydd i un o uchelwyr mwyaf balch ei oes yng Nghymru. Fodd bynnag, pylu a wnaeth awdurdod ail iarll Penfro gydol y saithdegau ac yn ei sgil ddylanwad yr Herbertiaid yn llys y brenin.

Cerdd arall a ganwyd oddeutu'r un adeg yw cywydd mawl Guto i fam Wiliam, Ann Herbert, gwraig yr iarll cyntaf (cerdd 26). Cysuro yw prif ddiben y gerdd, un o'r ychydig gerddi a ganodd Guto i ferched yn uniongyrchol, ond caiff ei mab gryn dipyn o sylw hefyd fel olynydd perffaith i'w dad. Cerdd arall sy'n rhoi sylw i ail iarll Penfro ac a ganwyd yn gynnar yn y saithdegau yw cywydd mawl i'w hanner brawd hyn, Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi, mab anghyfreithlon i'r iarll cyntaf (cerdd 28). Molir yr ail iarll a'i hanner brawd fel olynwyr teilwng i'r iarll cyntaf - yn wir, deil Guto fod ei noddwr yr un ffunud â'i dad - a phwysleisir teyrngarwch ffyddlon y brawd i'r iarll cyntaf. Roedd Wiliam o Benfro yn drysorydd ac yn stiward i'w dad yn ei iarllaeth yn y de-orllewin, a'r tebyg yw mai yno'r oedd ei brif gartref. Fodd bynnag, er i Guto enwi llefydd ym Mhenfro yn ei gerdd, mae'r un mor bosibl iddo ei chanu ar ymweliad Wiliam ag un o gartrefi ei deulu estynedig yng Ngwent.

Cerdd hynod a gyfansoddwyd ar gais yr Herbertiaid, o bosibl, yw cywydd mawl Guto i Edward IV (cerdd 29). Mae tystiolaeth y gerdd yn awgrymu ei bod wedi ei chanu rhwng 1473 ac 1475, efallai yng ngwydd Wiliam yr ail iarll ar ymweliad y brenin ag Amwythig ym mis Mehefin 1473. Os felly, gellir dehongli'r cywydd fel ymgais gan Wiliam i ennill ffafr Edward, gan bwysleisio ei deyrngarwch tuag ato ar adeg pan roedd dylanwad yr Herbertiaid ar drai. Ceir yn y gerdd gymysgedd diddorol o ganu brud traddodiadol, yn cynnwys anogaeth i ymgymryd â chroesgad, ynghyd â deisyfu mwy uniongyrchol ynghylch anghenion y Cymry, sef adfer trefn, cyfraith a chrefydd.

Os gwir i Guto gyflwyno'r gerdd gerbron y brenin yn Amwythig yn 1473, mae'n bosibl iddo ganu i noddwyr eraill yn y gogledd-ddwyrain oddeutu'r un adeg. Rai milltiroedd i'r de-ddwyrain o Groesoswallt roedd cartref Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin, gwr y canodd Guto ei fawl yn fuan wedi Mai 1471, pan urddwyd Rosier yn farchog gan Edward ar faes brwydr Tewkesbury (cerdd 79). Cyfeiria Guto at yr anrhydedd hwnnw ac at y ffaith fod Rosier wedi ymladd ym mrwydr Barnet ym mis Ebrill y flwyddyn honno, pan drechwyd Richard, iarll Warwick (yn wir, mae'n bosibl mai Rosier a'i lladdodd). Gwneir yn fawr o'r ffaith fod Rosier wedi parhau'n ffyddlon i Edward pan orfodwyd hwnnw i ffoi i'r cyfandir yn 1470, ac eglura Guto'n ddireidus ei fod wedi gohirio canu mawl iddo hyd nes y'i gwneid yn farchog.

Noddwr arall y mae'n bur debygol i Guto ymweld ag ef yn hanner cyntaf y saithdegau yw Syr Siôn Mechain, person Llandrinio, rai milltiroedd i'r de o'r Cnwcin. Goroesodd dau gywydd iddo gan Guto. Mawl bywiog yw'r naill (cerdd 84), lle cyfeiria Guto at ddau noddwr arall iddo yn y rhan honno o'r wlad a fu farw (diau y byddai Siôn wedi eu hadnabod), sef Dafydd Cyffin o Langedwyn a Syr Bened, person Corwen (am y canu iddynt, gw. uchod). Bellach deil Guto y bydd Siôn yn llenwi'r bwlch ar eu hôl, gan ofyn cwestiwn a welir mewn ffurfiau gwahanol mewn cerddi i wyr eraill a folwyd gan Guto wrth iddo heneiddio: Pwy a'm pyrth, o syrth oes hen? (84.51). Mae'n sicr fod Guto wedi derbyn nawdd gan Siôn ar fwy nac un achlysur, oherwydd canodd gywydd mawl i gartref newydd y person yn Llandrinio (cerdd 85). Dengys Guto ei adnabyddiaeth o ganu Iolo Goch ar ddechrau'r gerdd, lle dwg i gof y nawdd a gawsai hwnnw gan Ithel ap Robert o Goedymynydd yn sir y Fflint, ac ar ddiwedd y gerdd rhydd ei fendith ar yr adeilad, yn yr un modd ag y dymunir llwyddiant i dy newydd Moeliwrch mewn cywydd arall a berthyn i'w yrfa gynnar (cerdd 90).

I'r gogledd o Landrinio ac i'r gorllewin o Groesoswallt safai arglwyddiaeth y Waun, lle'r oedd Sieffrai Cyffin yn ddistain yn 1475. Roedd Guto eisoes wedi canu mawl y noddwr hwnnw pan oedd yn gwnstabl castell Croesoswallt ar ddechrau'r chwedegau, a Guto yntau'n fwrdais yn ei dref, ond bellach roedd Sieffrai wedi symud i fyd y gyfraith eithr gan barhau i gynnig nawdd i'w fardd. Tua'r flwyddyn honno, o bosibl, fe ganodd Guto gywydd i ofyn corn hela gan Sieffrai ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun i'r de o Wrecsam (cerdd 99). Mae'r gerdd yn llawn dyfalu dyfeisgar ac roedd yn hynod o boblogaidd ymysg copïwyr y llawygrifau - yn wir, ceir y copi cynharaf ohoni yn llaw'r bardd Hywel Dafi. Yn ogystal â rhagori ym myd y gyfraith, dywed Guto fod Sieffrai'n hyddysg hefyd mewn cerdd dafod. Cerdd arall a ganwyd oddeutu'r un adeg, efallai, yw cywydd a ganodd ar ran Sieffrai i ofyn dau filgi gan Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor yn Arllechwedd (cerdd 100). Yn ogystal â'i disgrifiadau meistrolgar o'r cwn hela, mae'r gerdd yn arbennig hefyd am ei sylwebaeth ar arferion gofyn y cyfnod. Canmolir Sieffrai am ymwrthod â gofyn am rodd fawr fel march neu ych, ac yn hytrach erchi anifeiliaid llai fel adar a chwn.

Ym Maelor Saesneg i'r de-ddwyrain o Wrecsam roedd cartref Siôn Hanmer o Halchdyn, gwr arall y mae'n bosibl iddo noddi Guto ar ddau achlysur yn y saithdegau (bu farw yn 1480). Roedd Siôn yn nai i Owain Glyndwr, perthynas y dwg Guto sylw ati yn ei gywydd mawl iddo (cerdd 75). Ar gais Siôn y canodd Guto gywydd gofyn am gyllell hela gan Ruffudd ap Rhys o Iâl, lle dyfelir y rhodd yn gain gan dynnu sylw at ddwy gyllell arall lai a gedwid yn yr un god â hi, a ddisgrifir yn hoffus fel merched i'w mam (cerdd 76).

Mae un o'r cerddi olaf a ganodd Guto i noddwr o'r De yn cydgysylltu dwy ardal ar y Gororau lle bu Guto'n weithgar iawn yn y saithdegau, sef Powys a Gwent. Roedd Water Herbert yn fab i Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, ac yn frawd iau i Wiliam Herbert, ail iarll Penfro. Nid yw'n eglur ym mhle'r oedd ei gartref pan ganodd Guto iddo - diau fod ganddo drigfan rywle yng Ngwent fel gweddill ei deulu - ond gwna Guto'n fawr o'i gyswllt â Phowys yn ei gywydd mawl iddo (cerdd 27), ac mae'n debygol mai rywle ym Mhowys y canwyd ef. Rhoddwyd arglwyddiaeth Powys yng ngofal yr Herbertiaid yn 1467, gan fod yr etifedd dan oed, a'r tebyg yw ei bod yn parhau ym meddiant y teulu, a Water yn arbennig, pan folwyd ef gan Guto c.1475. Roedd perthynas yr Herbertiaid â'r brenin yn dirywio erbyn 1478 o leiaf, ac fe ymddengys fod Guto yntau wedi cilio oddi wrth ei noddwyr erbyn y cyfnod hwnnw. Y tebyg yw mai yn sgil heneiddio a gorfod cyfyngu cylch ei glera y digwyddodd hynny, ond nid cyd-ddigwyddiad, efallai, yw'r ffaith fod diwedd ar ymwneud Guto â'r Herbertiaid yn cyd-daro â chyfnod cythryblus i'r teulu pan gollasant eu ffafr gwleidyddol. Cerdd Guto i Water yw'r un olaf sydd ar glawr ganddo i aelod o'r teulu hwnnw.

Nid ymwelodd Guto â chartrefi nawdd yng Ngwent wedi c.1475, ac mae'n bosibl fod y gerdd olaf a ganodd yn y De wedi ei chanu yn y Dyffryn Aur yn swydd Henffordd. Dychwelodd yno er mwyn canu marwnad i un o'i noddwyr cynharaf, Harri Gruffudd o'r Cwrtnewydd (cerdd 36), a fu farw yn 1476 neu 1477. Fel y gwelwyd eisoes, roedd Guto a Harri yn gyfoeswyr a fu'n cyd-ymladd, yn cyd-wledda ac, o bosibl, yn cyd-ymarfer campau megis taflu maen ers y 1430au, a diau fod llawer mwy nag ystrydebu moel yng ngalaru Guto yn ei farwnad iddo. Ceir rhyw dinc o euogrwydd hefyd, oherwydd ymddiheura Guto yn y gerdd am ganu cywydd i ddychan Harri am fod yn gybyddlyd (cerdd 35), ac mae'n bosibl nad oedd y ddau wedi cymodi cyn marw'r noddwr. Mae'r gerdd yn ddiweddglo ar bennod helaeth yng ngyrfa Guto fel bardd o fri a ymwelai â chartrefi yn ne Cymru ac yn y de-ddwyrain yn benodol. Mae'n annhebygol iddo ddychwelyd eto i'r De, a cherddi i noddwyr yn y Gogledd bron yn ddieithriad a ganodd o ail hanner y saithdegau ymlaen.

Er na ellir dyddio'r un gerdd yn sicr yn ystod ail hanner y saithdegau, diogelwyd cofnod diddorol iawn sy'n dangos bod Guto'n weithgar fel bardd yn Amwythig yn 1476-7 ac yn 1477-8. Gelwir Guto a gwr o'r enw Walter Harper (ei delynor, yn sicr) yn ministral[es] principis 'clerwyr y tywysog' yng nghofnodion beilïaid y ddinas ar ddau achlysur yn ystod y blynyddoedd hynny (Harper 2013: 185). Nid yw union arwyddocâd y disgrifiad yn eglur, nac ychwaith natur y ddau achlysur, ond mae'n bur debygol fod Guto a Walter (ynteu Gwallter) wedi gwasanaethu Edward, Tywysog Cymru, sef mab cyntaf Edward IV a aned yn 1470. Nid oes wybod pa gerddi a ddatganodd Guto nac ychwaith a gomisiynwyd ef i gyfansoddi cerddi newydd ynteu i ailberfformio hen gerddi (megis ei gywydd mawl i'r brenin, tad y tywysog). Gellir dehongli'r cofnod fel arwydd o statws Guto fel bardd ar ddiwedd ei oes ynghyd â'i flaengarwch wrth ddod o hyd i ffynonellau nawdd newydd. Dylid cadw mewn cof, at hynny, mai prif gynghorwr y tywysog ifanc oedd ei ewythr, Anthony Woodville, gwr dysgedig a bardd o fath a fu'n ymweld â'r Eidal yn ystod y Dadeni, a bod ei siambrlen, Syr Thomas Vaughan o Drefynwy, yn wr o dras Cymreig.

Cyn gadael y saithdegau, rhaid nodi tair cerdd sy'n awgrymu'n gryf fod Guto'n parhau i glera yn y gogledd-orllewin hefyd. Ni ellir dyddio'r un o'r cerddi hyn yn fanwl iawn, ond mae eu gwneuthuriad cynganeddol a rhai cyfeiriadau ynddynt yn rhoi lle i gredu eu bod yn perthyn i'r saithdegau. O safbwynt arddull gynganeddol, y patrwm cyffredinol yn y bymthegfed ganrif oedd gwneud mwy a mwy o ddefnydd o gynganeddion cytsain cywrain ar draul y gynghanedd sain. Hynny yw, wrth i'r ganrif fynd rhagddi, fe âi'r cerddi'n fwyfwy caeth (LlU 99-100). Cerdd gaeth iawn yn gynganeddol yw cywydd marwnad Guto i Hywel ab Owain o Lanbryn-mair, gwr a oedd yn gefnder drwy ei fam i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ac a oedd, fel Sieffrai, yn medru cerdd dafod (cerdd 40). Canodd Guto farwnad arall gaeth iawn i Feurig Fychan ap Hywel Selau ac Angharad ferch Dafydd o Nannau ger Dolgellau, pâr priod a roes eu nawdd i Guto yn ystod y chwedegau (cerdd 50). Fel pâr priod arall a farwnadwyd gan Guto, sef Dafydd Llwyd a Chatrin ferch Maredudd o Abertanad, y tebyg yw fod Meurig Fychan ac Angharad hwythau wedi marw o haint y nodau. Fe'u claddwyd ynghyd yn abaty Cymer. Ond ni cheir yn y farwnad i'r pâr o Nannau y math o alar dwys a fynegwyd yn y cywydd a ganodd Guto yn Abertanad, yn ôl pob tebyg am eu bod wedi byw i oedran teg ac am fod eu plant eisoes yn oedolion. Ni chyfeiriodd Guto yn ei farwnad at eu hetifedd, Dafydd ap Meurig Fychan, ond ceir ar glawr gywydd i ddiolch am farch a gafodd ganddo ef a'i wraig, Elen ferch Hywel (cerdd 51). Yn ôl y gerdd honno, clywodd Dafydd fod Guto wedi colli ei farch du ac felly anfonodd farch newydd ato, un a fedrai drotian yn ogystal â charlamu ac a oedd yn addas i gludo gwr dall fel Guto. Ond er mai Dafydd yw'r rhoddwr, clodforir Elen yn llinell olaf y gerdd am annog ei gwr i roi'r march i'w fardd. Mae'n wir nad yw'r gerdd ddiolch mor gynganeddol gaeth â'r farwnad i rieni Dafydd, nodwedd a allai awgrymu dyddiad cynnar, ond eto mae'r cyfeiriad at ddallineb y bardd fel pe bai'n rhagfynegi'r sôn mynych am yr anabledd hwnnw yng ngherddi Guto yn ystod yr wythdegau. Ar ddiwedd y gerdd gwelir Guto'n chwarae â'r syniad o dreulio ei flynyddoedd olaf yn [nh]y Ferned, sef abaty Cymer, o bosibl, nid nepell o Nannau. Er mai mewn abaty arall y cafodd Guto le yn y pen draw, mae'n amlwg eisoes erbyn diwedd y saithdegau ei fod yn rhag-weld adeg ym machlud ei oes pan fyddai'n gorfod cyfyngu ei orwelion i un lle arbennig.

3.2 Yr wythdegau

Marwnad yw'r gerdd gyntaf y gellir ei dyddio'n hyderus yn yr wythdegau. Yn fuan wedi marwolaeth Edward IV ar 9 Ebrill 1483, bu farw dau o noddwyr Guto yn y Gogledd, sef Wiliam Fychan ap Gwilym o'r Penrhyn ger Bangor a Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol i'r de o Harlech. Cyfeiriodd Guto at y tair marwolaeth ar ddechrau ei gywydd marwnad i Ruffudd Fychan (cerdd 52), ac mae'r cyfeiriadau mynych at leoliadau yn nyffryn Dyfrdwy yn awgrymu'n gryf mai ar aelwyd Elisau, brawd Gruffudd, yng Ngwyddelwern y canwyd y gerdd yn hytrach na chartref Gruffudd yng Nghorsygedol. Y tebyg yw fod Guto'n clera yn y gogledd-ddwyrain tua diwedd 1483 a dechrau'r flwyddyn ganlynol, oherwydd rywdro yn ystod y cyfnod hwnnw fe ganodd gywydd mawl i Domas Salbri ap Harri Salbri o Leweni ger Dinbych (cerdd 71). Roedd Tomas, a fu farw yn 1490, yn hen wr pan ganwyd y gerdd a rhoir sylw helaeth, o ganlyniad, i'w wraig a'i ddeg plentyn, yn arbennig i'w fab, ail Domas Salbri, ac i ferch o'r enw Elsbeth. Roedd y mab a'r ferch yn rhannu'r un enwau â'r ddau riant. Er mor afieithus yw campau cynganeddol Guto wrth ganmol y deg plentyn a'u rhieni yn niweddglo'r gerdd, yn wahanol i nifer o gerddi eraill a ganodd Guto tua diwedd ei oes, gwaith trwyadl broffesiynol ydyw lle gwelir Guto'n cadw pellter rhyngddo a'i noddwr. Cerdd debyg iawn yn hyn o beth ac un a ganwyd, efallai, ar yr un daith glera, yw cywydd mawl i Syr Hywel ap Dai o Laneurgain i'r de o'r Fflint, lle cyferchir y noddwr yn y trydydd person drwy gydol y gerdd (cerdd 70).

Yn dilyn marwolaeth Edward IV, cipiodd ei frawd ieuengaf y goron ar 6 Gorffennaf gan ddwyn y teitl Richard III. Cafodd priod olynydd Edward IV, y Tywysog Cymru ifanc gynt y bu Guto'n ei wasanaethu fel bardd yn Amwythig rhwng 1476 ac 1478, ei garcharu gan ei ewythr yn Nhwr Llundain. Yno y cafodd ei lofruddio, yn ôl pob tebyg, ynghyd â'i frawd iau, Richard, ar orchymyn Richard III tua diwedd yr haf 1483. Ni bu Richard yn frenin am hir. Er iddo lwyddo i wastrodi gwrthryfel yn ei erbyn yn yr hydref y flwyddyn honno, cynyddu a wnaeth y gefnogaeth i'r unig gynrychiolydd a oedd yn weddill i achos y Lancastriaid, y gwr a oedd â'i fryd ar hawlio'r goron ond a fu'n byw'n alltud yn Llydaw ers 1471 - Harri Tudur. Dychwelodd Harri i Brydain yn yr haf 1485, gan lanio ger Aberdaugleddau a gorymdeithio drwy Gymru i faes Bosworth yng nghanolbarth Lloegr erbyn 22 Awst, lle trechwyd lluoedd y brenin a lladd Richard ei hun ar faes y gad. Dyrchafwyd Harri yn Harri VII yn y fan a'r lle.

Cymerodd o leiaf dri o noddwyr Guto ran ym mrwydr Bosworth. Roedd Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais yn nyffryn Tywi yn un o brif gefnogwyr Harri Tudur yng Nghymru. Fe'i hurddwyd yn farchog dridiau wedi brwydr Bosworth. Canodd Guto ei glodydd yn fuan wedi'r fuddugoliaeth (cerdd 14), ac mae ei gyfeiriad diddorol at [l]add y baedd, sef Richard III, yn dystiolaeth werthfawr a allai awgrymu mai gwyr Rhys ei hun a'i lladdodd. Gan na cheir lle i gredu bod Guto'n dal i glera yn y De erbyn 1485/6, mae'n debygol fod y cywydd wedi ei gludo i Abermarlais a'i berfformio o flaen Rhys gan ddatgeiniad. Posibilrwydd arall yw nad Guto a ganodd y cywydd hwn, gan fod rhywfaint o le i amau dilysrwydd y priodoliad. Nid yw'n amhosibl, fodd bynnag, fod Guto wedi derbyn nawdd gan Rys cyn iddo ennill bri ar faes Bosworth.

Y tebyg yw fod Siôn Edward o Blasnewydd yn y Waun wedi ymladd ym Mosworth ym myddin Sir William Stanley. Bu Stanley yn Iorcydd pybyr am y rhan fwyaf o'i oes, ond ymddengys iddo newid ei liw yn 1485, o bosibl yn sgil amheuon ynghylch dilysrwydd teyrnasiad Richard, a chefnogi achos Harri Tudur. Fodd bynnag, aros ei gyfle ar ymyl y frwydr a wnaeth ym Mosworth, gan ymladd yn erbyn y brenin ar yr eiliad olaf. Yn ôl Guto, bu Siôn yn hir iawn yn dychwelyd gartref o faes y gad, a chanodd gywydd mawl i ddathlu ei ddychweliad ddau fis wedi'r frwydr (cerdd 107). Mae'r agosatrwydd a deimlir yn y gerdd, sy'n cynnwys mawl i wraig Siôn yn ogystal, Gwenhwyfar ferch Elis Eutun, ynghyd â chyfeiriadau at nawdd Siôn mewn cerddi eraill, yn dangos yn eglur fod Guto wedi derbyn nawdd gan y ddau ar fwy nag un achlysur a'i fod yn eu hadnabod yn dda. Gwneir defnydd hefyd o'r ddelwedd o'r bardd fel saethydd a anelai ei fawl at ei noddwr, delwedd y manteisiodd Guto'n helaeth arni yn gynharach yn ei yrfa. Mae'r gerdd yn dadlennu cyfeillgarwch rhwng y bardd a'i noddwr yn hytrach na pherthynas broffesiynol yn unig.

Cerddi a ganwyd yn y cywair personol hwnnw yw'r rheini a ganodd Guto i noddwyr yng Ngwynedd oddeutu'r un adeg. Y trydydd o'r gwyr a fu'n ymladd ym mhlaid Harri Tudur ym Mosworth oedd Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan yn nyffryn Ogwen. Fe'i gwobrwywyd am ei wasanaeth ar 24 Medi 1485 drwy ei benodi'n siryf Caernarfon am oes, ac fel siryf y'i cyferchir mewn cywydd mawl a ganodd Guto iddo yn fuan wedyn (cerdd 55). Clodforir Wiliam am ei wrhydri, ei haelioni ac am ei ymddangosiad, yn arbennig ei wallt gwyn hir, a wrthgyferbynnir yn gynnil â moelni'r bardd. Mae'n amlwg fod Guto'n teimlo'n gartrefol iawn ar aelwyd Cochwillan, mor gartrefol, yn wir, nes iddo honni na fyddai'n gadael y lle hyd nes y byddai'n marw. Ystrydeb oedd honiad o'r fath gan amlaf, ond diau fod ychydig mwy o wirionedd yn perthyn i'r cais yn yr achos hwn, fel yn achos diweddglo'r gerdd ddiolch am farch a ganodd i Ddafydd ap Meurig Fychan o Nannau (cerdd 51).

Mae'n debygol fod Guto wedi teithio i'r gogledd-orllewin ddechrau 1485 hefyd er mwyn canu cerdd i un o'i hen noddwyr ym Môn. Yng ngaeaf 1484, pan oedd Harri Tudur yn Ffrainc o hyd a Richard III yn ceisio cryfhau ei afael ar yr orsedd, roedd Guto yng nghantref Penllyn pan glywodd am anffawd a gawsai Huw Lewys o Brysaeddfed (cerdd 64). Tua dechrau Rhagfyr y flwyddyn honno, o bosibl, fe gwympodd Huw oddi ar ei geffyl wrth geisio croesi cors beryglus Malltraeth ar yr ynys. Roedd Guto eisoes wedi canu clodydd Huw ynghyd â'i bedwar brawd, o bosibl yn y chwedegau (cerdd 63). Yn y cyfamser bu farw dau o'r brodyr, gan adael yr hynaf, Meurig, a'r ieuengaf, Rhys, yn ogystal â Huw ei hun. Fel yn achos y cywydd a ganodd Guto pan frifodd Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch ei ben-glin (cerdd 92), tosturiodd Guto â Huw gan honni ei fod yntau'n glaf hefyd yn sgil y ddamwain. Ond yn wahanol i'r cywydd i Hywel, aeth Guto i eithafion braidd wrth gydymdeimlo â Huw. Honnodd ei fod ei hun wedi dioddef yr un anffawd, bron, gan fod y dagrau a wylodd ef ac eraill am Huw mor niferus nes creu môr i'r bardd foddi ynddo. Rhaid bod yr empathi eithafol hwnnw wedi cosi clustiau clerwr a oedd yn weithgar yng Ngwynedd ar y pryd, sef Llywelyn ap Gutun, bardd-delynor terfysglyd o Felwern ger y Trallwng. Cymerodd Llywelyn arno fod Guto ei hun wedi boddi ym Malltraeth, a chanodd gywydd dychan digrif iawn iddo, yn ôl pob tebyg fel rhan o ddathliadau'r Nadolig 1484 yn Llwydiarth ym Môn (cerdd 65a). Disgrifir corff mawr Guto is y tonnau - mae ei gorpws yn llawn mecryll, penfreision a llysywod - ac yna ei helyntion fel ysbryd blinderus ar dir sych. Ym mis Mawrth 1485, fe ymddengys, canodd Guto gywydd dychan digrif i ateb Llywelyn, gan gyhuddo ei gyd-fardd o feddwi'n dwll ar haelioni Huw Lewys a'i berthynas, Cynwrig ap Dafydd, a breuddwydio'r holl stori yn ei feddwdod (cerdd 65). Tacteg gyfrwys oedd cyhuddiad felly, gan ei fod yn wfftio Llywelyn ac ar yr un pryd yn dyrchafu'n anuniongyrchol haelioni ei noddwyr, sef prif nod ei gywydd gwreiddiol i Huw yn y lle cyntaf.

Mae'n bur eglur fod Guto'n rhannu ei amser rhwng Gwynedd a'r gogledd-ddwyrain o c.1480 hyd o leiaf ddiwedd 1485. Ond nid haelioni uchelwyr seciwlar y ddwy diriogaeth hynny'n unig a'i denai, eithr nawdd estynedig gan ddau o noddwyr crefyddol pwysicaf eu dydd, sef Rhisiart Cyffin, deon Bangor, a'r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes.

3.3 Rhisiart Cyffin, deon Bangor

Cafodd Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd ei benodi'n ddeon Bangor rywbryd rhwng 1472 ac 1478, a gall fod peth o ganu Guto iddo'n perthyn i'r saithdegau. Fel ei gefnder, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, roedd Rhisiart yn perthyn i un o deuluoedd mwyaf dylanwadol Gwynedd ac yn un o gefnogwyr Harri Tudur. Bu'n ddeon Bangor drwy gydol yr wythdegau a bu'n hynod hael ei nawdd i o leiaf saith o feirdd. Ni ellir dyddio'r un o'r chwe cherdd a ganodd Guto iddo'n fanwl, ac fel corff o waith mae'n nodedig nad yw'r un ohonynt yn gerdd fawl seml. Llwyddodd Guto i foli'r deon yn helaeth drwy gyfrwng genres eraill, yn bennaf y canu gofyn a diolch.

Er mai gwr crefyddol oedd Rhisiart wrth ei broffes, ymddwyn fel noddwr seciwlar a wnâi wrth gyfnewid rhoddion â'i fardd ac â pherthnasau pell ac agos. Cyfyrder iddo oedd Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares, gwr y canodd Guto gywydd ar ei ran i ofyn gwalch gan Risiart (cerdd 60). Roedd Huw yn ddirprwy gwnstabl castell Conwy ar y pryd, swydd a ddaliodd o 1482 ymlaen. Cywydd arall a ganodd Guto i ofyn rhodd gan Risiart yw'r un a luniodd ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Henllan ger Dinbych, gwr arall yr honnir ei fod yn perthyn i'r deon (cerdd 61). Roedd Syr Gruffudd yn dymuno ail-doi to gwellt ei gartref â theils o Eryri, a deil Guto y bydd Rhisiart yn eu hanfon ato dros fôr o Fangor i aber afon Clwyd ac i fyny'r afon i Henllan. Rhydd y gerdd gipolwg gwerthfawr ar ddyddiau cynnar y diwydiant llechi yng Ngwynedd.

Canodd Guto ddwy gerdd ddiolch i Risiart am rodd bersonol, y naill am bwrs a'r llall am baderau. Cerdd sy'n cynnwys mwy o fawl i Risiart nag i'r rhodd yw'r cywydd i ddiolch am bwrs (cerdd 58). Adleisir mewn mannau linellau o gywydd arall a ganodd Guto i ddiolch am bwrs gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad ryw ddau ddegawd yn gynharach (cerdd 87), cerdd sy'n cynnwys disgrifiadau helaeth o'r rhodd. Ychydig yn wahanol yw pwyslais y cywydd a ganodd i ddiolch i Risiart am baderau, sy'n cynnwys lliaws o ddisgrifiadau dyfeisgar o'r rhodd, sef cyfres o ddeuddeg glain a ddefnyddid i gyfri gweddïau i Fair (cerdd 59). At hynny, tra brolir rhinweddau materol y rhodd yn y cywydd i'r pwrs, mae'r mawl a roir i'r paderau'n arwain at ddyhead i fod yn feudwy. Dymunir hir oes i Risiart ar ddiwedd y cywydd i'r pwrs, a hynny'n ôl confensiwn y genre, ond mewnblyg iawn yw agwedd Guto ar ddiwedd ei gywydd i'r paderau, arwydd arall, efallai, fod ei fryd ar ymgilio o'r byd.

Os gobeithiai Guto ganfod lloches ym Mangor yn ei ddyddiau olaf, ni fynegodd hynny'n uniongyrchol yn ei gerddi. I ddyffryn Dyfrdwy, ac i abaty Glyn-y-groes yn benodol, y trodd yn y pen draw. Ceir ar glawr ddwy gerdd bwysig gan Guto sy'n amlygu'r cyswllt agos a ffurfiodd drwy ei waith rhwng Bangor a Glyn-y-groes. Cerdd ofyn yw'r gyntaf, cywydd a ganodd ar ran Rhisiart i erchi dau ych yr un gan bedwar noddwr o'r gogledd-ddwyrain (cerdd 108). Ni ddiogelwyd cerddi eraill gan Guto i ddau o'r noddwyr hynny, sef Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris a Siôn Trefor o Bentrecynfrig, er ei bod yn debygol fod corff helaeth o ganu i'r ail wedi ei golli. Y ddau noddwr arall oedd Siôn Edward o Blasnewydd, gwr a folwyd gan Guto yn fuan wedi brwydr Bosworth, a'r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes. Trafodir canu Guto i'r abad yn fanwl isod. Mae'r ail gerdd sy'n pontio rhwng Bangor a Glyn-y-groes yn amlygu, o bosibl, y rheswm pam y dewisodd Guto ymgilio i Lyn-y-groes (cerdd 109). Dywed yn y gerdd iddo syrthio a thorri tair o'i asennau, damwain a ddigwyddodd, gellid tybio, nid nepell o'r abaty ac a'i gorfododd i geisio ymgeledd yno. Ond clywodd Rhisiart am ei anffawd ac anfonodd gusan o Fangor at ei fardd drwy gyfrwng gwefusau'r Abad Dafydd, a fu'n ymweld â Bangor, mae'n debyg. Er i asennau Guto wella, yn ôl pob tebyg, diau y byddai'r ddamwain wedi rhoi terfyn ar unrhyw gynlluniau a oedd ganddo i glera ymhell o gyffiniau Glyn-y-groes am sbel.

3.4 Yr Abad Dafydd ab Ieuan

Penodwyd Dafydd ab Ieuan yn abad abaty Sistersiaidd Glyn-y-groes tua 1480, gan olynu abad arall a fu'n noddi Guto, Siôn ap Rhisiart. Yn wahanol i Siôn, nas diogelwyd yr un o gerddi Guto iddo yn y llawysgrifau, goroesodd peth wmbreth o ganu Guto i'r Abad Dafydd ac ystyrir nifer o'r cerddi hyn yn uchafbwynt ei yrfa. Fel yn achos canu Guto i Risiart Cyffin, anodd iawn yw dyddio'r un o'r cerddi i'r abad yn fanwl, ond y tebyg yw i Guto dderbyn nawdd ganddo drwy gydol yr wythdegau. Yn wir, ceir cryn debygrwydd rhwng Rhisiart a'r Abad Dafydd - cenhedlwyd y ddau, yn ôl pob tebyg, y tu allan i briodas a bu'n rhaid iddynt geisio caniatâd y Pab er mwyn dal swydd grefyddol, ac roedd y ddau'n gefnogwyr brwd i Harri Tudur. Cafodd Dafydd ei benodi gan Harri VII yn 1485 i arwain y gwaith o lunio achres Gymreig y brenin. At hynny, bu Rhisiart a Dafydd yn hynod o hael eu nawdd i Guto yn ei henaint, mor hael, yn wir, nes ennyn cenfigen beirdd eraill. Tra ym Mangor fe ganodd Syr Siôn Leiaf (mab Ieuan ap Gruffudd Leiaf a ganodd englynion dychan i Guto; cerdd 93) gywydd mawl i Risiart sy'n cynnwys dychan agored i Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain (Salisbury 2011: 101-3). Cyhuddodd Ieuan ei gyd-glerwyr o fanteisio ar haelioni Rhisiart a gwledda'n ormodol yn ei lys ym Mangor. Cyfeiriodd Guto at yr anghydfod hwnnw mewn cywydd a ganodd i ateb cyhuddiad arall tebyg yn ei erbyn, y tro hwn yng Nglyn-y-groes (cerdd 116). Dywed fod tri bardd iau wedi herio ei hawl i fwynhau nawdd yr Abad Dafydd yn yr abaty, sef Maredudd ap Rhys, Gruffudd ap Dafydd (perthynas i Guto, yn ôl y gerdd) ac Edward ap Dafydd. Amddiffynnodd Guto ei le'n feistrolgar, gan fynnu fod ei awen ef, er dalled yw ac er mor fusgrell yw ei gorff bellach, yn ddigon cryf i drechu cerddi gwan ei gyd-feirdd, a oedd o dras uwch nac ef.

Ac aros a wnaeth yng Nglyn-y-groes, gan grwydro'n lleol a dychwelyd yn gyson (yn arbennig yn y gaeaf) i foli'r Abad Dafydd mewn mwy nag un genre. Un gerdd a ganodd ar ran yr abad oedd cywydd i ofyn am gael benthyg Llyfr y Greal gan Drahaearn ab Ieuan o Ben-rhos ger Caerllion ar Wysg (cerdd 114). Goroesodd yr union lyfr hwnnw hyd heddiw, sef Peniarth 11, copi o gyfieithiad Cymraeg o chwedlau'r Greal yn Ffrangeg. Gan fod Guto, yn ôl ei addefiad ei hun, yn henwr dall pan ganodd y gerdd, mae'n annhebygol iddo ei chanu gerbron Trahaearn (er y gall iddo dderbyn nawdd ganddo yn gynharach yn ei yrfa). Yn hytrach, y tebyg yw fod datgeiniad wedi perfformio'r gerdd ar ei ran, naill ai ym Mhen-rhos neu mewn llys a oedd yn eiddo iddo rywle yng nghyffiniau Hwlffordd. Cerdd arall a ganodd Guto i'r abad ynghylch rhodd oedd cywydd i ddiolch am fwcled, sef tarian gron fechan, a ganwyd yng nghartref yr abad yn Nhrefor, efallai (cerdd 110). Rhodd bersonol oedd hon, a bwriadai Guto ei hoffrymu (ynghyd â chleddyf byr) i'r abaty pan fyddai farw, yn y gobaith y byddai'r arfau'n cael eu darlunio mewn carreg ar ei fedd. Mae'r deisyfiad yn adlais o'i ddyddiau cynnar, pan wasanaethodd ddug Iorc fel milwr yn 1441, ac yn arwydd cryf mai fel milwr yn ogystal â bardd yr hoffai gael ei gofio (ymhellach, gw. Day 2013: 256, 280-1). Canodd Guto gerdd i abad arall naill ai ar gais yr Abad Dafydd o Lyn-y-groes neu yn rhinwedd ei gyswllt ag ef, sef cywydd mawl i'r Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell (cerdd 115). Ynghyd â'r farwnad a ganodd i Lywelyn ab y Moel yn 1440 (cerdd 82), dyma'r ail gerdd yn unig o eiddo Guto y gellir ei chysylltu ag Ystrad Marchell, ac mae'n sicr fod swmp helaeth o ganu ganddo i'r abaty wedi mynd ar ddifancoll. Molir Dafydd ab Owain am ei ddoniau fel amaethwr da, ac yn arbennig fel bridiwr ceffylau. Cloir y gerdd drwy ddymuno ei ddyrchafu'n esgob, swydd y penodwyd ef iddi yn Llanelwy yn 1503.

Yn ogystal â'r cerddi achlysurol hyn, canodd Guto dair cerdd fawl i Ddafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes. Cywydd yw un ohonynt, cerdd sy'n rhoi sylw helaeth i waith yr abad yn ailadeiladu ac yn adnewyddu'r fynachlog (cerdd 112). Cyflwynir darlun llawen iawn o fywyd ffyniannus yr abaty, sydd â'i storfeydd yn orlawn o yd a'i hadeiladau wedi eu toi â phren coed derw o Fron Hyrddin gerllaw. Tebyg yw naws y ddwy gerdd fawl arall, dwy awdl gelfydd iawn sy'n dangos yn eglur nad oedd gallu Guto i lunio cerddi hynod gywrain wedi pylu wrth iddo heneiddio. Perthyn un o'r awdlau (cerdd 111) i'w ddyddiau cynnar fel bardd Glyn-y-groes, yn ôl pob tebyg, lle molir Dafydd fel abad perffaith a datgenir bwriad y bardd i ymgartrefu yn yr abaty ar ddiwedd ei oes. Yn wahanol i ddatganiadau tebyg mewn cerddi i noddwyr eraill, gwireddwyd ei ddymuniad y tro hwn - Yn y diwedd yno deuaf ... Yn ei gwreiddion y gorweddaf (111.62, 64) - a diau fod Guto wedi derbyn addewid gan yr abad i'r perwyl hwnnw. Ailadroddir yr un dymuniad yn yr awdl arall (cerdd 113), ond ar fywyd yr abaty ac ar ddoniau Dafydd yn benodol y canolbwyntir yn y gerdd honno. Cyfeirir at y perllannau, y coedwigoedd a'r gerddi gwenyn yn ogystal â chryfder yr abad a'i ddiddordeb arbennig mewn cerdd dafod a cherdd dant.

Erys dwy gerdd arall a ganodd Guto i Ddafydd, dau gywydd a berthyn i'w flynyddoedd olaf. Cywydd mawl sy'n enwog am ei gwpled agoriadol yw un ohonynt - Mae'r henwyr? Ai meirw'r rheini? / Hynaf oll heno wyf i - a thebyg, er nad mor ddigalon, yw naws gweddill y gerdd (cerdd 117). Dywed Guto fod ei gylch clera wedi crebachu, ond nid oedd wedi ei gyfyngu i'r abaty eto eithr i'w gyffiniau:

Clera Môn, cael aur a medd,
Gynt a gawn, Gwent a Gwynedd;
Clera'n nes, cael aur a wnaf,
Yma 'n Iâl, am na welaf.

Enwa dri noddwr arall, yn ogystal â'r Abad Dafydd, sy'n ei gadw rhag anobeithio yn ei henaint, sef Siôn Trefor o Bentrecynfrig, Siôn Edward o Blasnewydd a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris - yr un pedwar noddwr y canodd Guto gywydd iddynt i ofyn dau ych yr un ar ran Rhisiart Cyffin (cerdd 109). Cywydd llai enwog yw'r llall, ond un mwy arwyddocaol, os rhywbeth (cerdd 118). Cerdd ydyw a ganodd Guto ar gais Dafydd - Erchi ym, a'i orchymyn, / Foliannu Duw o flaen dyn. Ac yntau wedi rhagori ar ganu cerddi mawl i ddynion ar hyd ei oes, atgoffir Guto gan ei noddwr yn ei flynyddoedd olaf y dylai ganu mawl i Dduw er mwyn paratoi ei enaid ar gyfer y byd a ddaw. Molir Dafydd ei hun yn sgil hynny, wrth reswm, ond cysegrir rhan helaethaf y gerdd i Dduw, peth hynod brin yng ngwaith y bardd. Myfyria ar ei henaint, ar ryfeddod y Drindod, ar Grist ac ar y creu, ac yna canolbwyntia ar farwolaeth Crist ac ar ei farwolaeth ef ei hun. Daw i'r casgliad mai edifarhau ac addoli Duw yw ei waith bellach, yn y gobaith y caiff ymgartrefu yn y nefoedd maes o law.

Gall mai'r cywydd myfyrgar hwnnw yw'r gerdd olaf o eiddo Guto sydd ar glawr. Mae'n debygol mai yng Nglyn-y-groes yr oedd pan gyfansoddodd ddau englyn marwnad i'w gyd-feirdd, Dafydd Nanmor ac Ieuan Deulwyn, a fu farw rywdro rhwng c.1485 a c.1490 (cerdd 54). Yr englynion hyn yw'r unig dystiolaeth fod Guto'n adnabod Dafydd ac Ieuan, a gladdwyd ill dau, fe ymddengys, yn abaty Sistersiaidd Hendy-gwyn yn Sir Gâr. Fel yn achos rhai cerddi eraill a ganodd Guto oddeutu'r un adeg, mae'n debygol mai drwy gyfrwng datgeiniad y cludwyd yr englynion hynny i'r De, os felly y bu. Englyn arall a berthyn i'r cyfnod olaf un ym mywyd Guto, yw englyn a ganodd i gwyno ynghylch poenau henaint (cerdd 119):

Gwae'r gwan dau oedran nid edrych, - ni chwardd,
Ni cherdda led y rhych,
Gwae ni wyl yn gynilwych,
Gwae ni chlyw organ a chlych!

Yn ôl nodyn wrth ymyl copi o'r englyn yn llaw Thomas Wiliems (1590au), collodd Guto wasanaeth yr offeren yn yr abaty am iddo gysgu drwy alwadau'r organ a'r clychau. Pan ddeffrodd a sylweddoli ei gam, tarfodd yr hen fardd dall a byddar ar y gwasanaeth. Ceir adlais cryf yn y stori o ddisgrifiad Guto ohono ef ei hun yn ei gywydd mawl i'r Abad Dafydd, lle dywed mor flinderus yw gwaith y mynaich a ofalai amdano yn ei fusgrellni.

Gall mai fel corodïydd, sef gwr a gawsai le yn ei henaint mewn mynachlog (naill ai drwy dâl neu drwy gael ei ddewis am ei wasanaeth yn y gorffennol), y treuliodd Guto ei amser yng Nglyn-y-groes (Bowen 1995: 153-6), er ei bod yn ddigon posibl mai fel bardd preswyl yr hawliodd ei le yno. Ni waeth beth oedd y trefniadau ffurfiol, go brin y cafodd aelodau'r abaty lawer o ddweud yn y mater. Cafodd Guto hyd i noddwr yn yr Abad Dafydd a fyddai'n barod i'w gynnal am weddill ei oes. Adlewyrchir eu perthynas glòs yn amrywiaeth y canu iddo - ceir canu gofyn a diolch o bob math yn ogystal â chanu mawl ar amrywiaeth o fesurau, a'r canu hwnnw'n cynnwys pob math o themâu nas disgwylid fel arfer mewn canu o'r fath, megis herio beirdd eraill a chanu crefyddol dwys. Diweddglo taclus yw gweld Guto'n treulio ei flynyddoedd olaf dan nawdd Dafydd ab Ieuan yn abaty Glyn-y-groes, ac yntau wedi derbyn cymaint o nawdd ar ddechrau ei yrfa gan abad arall, yr Abad Rhys o Ystrad-fflur. Gwahanol iawn oedd tynged y ddau, y naill yn ddyledwr a fu farw yng ngharchar a'r llall yn abad llwyddiannus a ddyrchafwyd yn esgob yn ei flynyddoedd olaf. Nid oes wybod pryd yn union y bu farw Guto, ond mae'n annhebygol o fod ymhell o c.1490, ac yntau tua phedwar ugain oed. Yn ogystal â noddi ei awen pan oedd ar dir y byw, dan nawdd Dafydd hefyd y canwyd cywydd marwnad Guto yn yr abaty gan Gutun Owain (cerdd 126). Fe'i claddwyd, yn ôl ei ddymuniad, yn nhir Glyn-y-groes.

4. Llyfryddiaeth

Boardman, A.W. (1998), The Medieval Soldier in the Wars of the Roses (Stroud)

Bowen, D.J. (1995), 'Guto'r Glyn a Glyn-y-groes', YB XX: 149-82

  • (2002), 'Y Canu i Gwilym ap Gruffudd (m. 1431) o'r Penrhyn a'i Fab Gwilym Fychan (m. 1483)', Dwned, 8: 59-78

Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)

  • (1990), 'Gwilym ap Gruffydd and the Rise of the Penrhyn Estate', Cylchg HC 15: 1-20

Chapman, A. (2013), 'Dug fi at y dug of Iorc "He Took Me to the Duke of York" - Henry Griffith, a "Man of War" ', D.F. Evans, B.J. Lewis and A. Parry Owen (eds.), 'Gwalch Cywyddau Gwyr': Essays on Guto'r Glyn and Fifteenth-century Wales, 103-34

Day, J. (2013), ' "Arms of stone upon my grave": Weapons in the Poetry of Guto'r Glyn', D.F. Evans, B.J. Lewis and A. Parry Owen (eds.), 'Gwalch Cywyddau Gwyr': Essays on Guto'r Glyn and Fifteenth-century Wales (Aberystwyth), 233-81

Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyn Dwr (Oxford)

Hardy, R. (1994), 'The Longbow', A. Curry and M. Hughes (eds.), Arms, Armies and Fortifications in the Hundred Years War (Woodbridge), 161-81

Harper, S. (2013), 'Musical Imagery in the Poetry of Guto'r Glyn', D.F. Evans, B.J. Lewis and A. Parry Owen (eds.), 'Gwalch Cywyddau Gwyr': Essays on Guto'r Glyn and Fifteenth-century Wales, 177-202

Huws, B.O. (2007), 'Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndwr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch', Dwned, 13: 97-137

  • (2011), 'Guto'r Glyn: Un o Feirdd y Ffin' Dwned, 17: 55-71

Huws, D. (2004), 'Rhestr Gutun Owain o Wyr wrth Gerdd', Dwned, 10: 79-88

Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411-1460 (Oxford)

Johnston, D. (2008), 'Cofiant Creadigol', Taliesin, 135: 000

Lewis, B.J. (2013), 'Bardd yn y Tirlun: Cymru a'i Rhanbarthau drwy Lygaid Guto'r Glyn', D.F. Evans, B.J. Lewis ac A. Parry Owen (goln.), 'Gwalch Cywyddau Gwyr': Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif, 149-76

Lewis, S. (1976), 'Gyrfa Filwrol Guto'r Glyn', YB IX: 80-99

Lloyd, H.W. (1879), 'Ancient Welsh Poetry, Illustrative of the History of Powysland', MontColl xii: 29-51

Morgan, T.J. and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)

Pennant, T. (1819), Some Account of the Ancient and Present State of Oswestry, by Thomas Pennant Esq., with Notes and Considerable Additions by Thomas Edwards (Oswestry)

Pollard, A.J. (1983), John Talbot and the War in France 1427-1453 (London)

Powell, M.W. (2004), 'Dyfalu Dafydd Nanmor', LlCy 27: 86-112

Rees, E.A. (2008), A Life of Guto'r Glyn (Tal-y-bont)

Roberts, E. (1977), Y Beirdd a'u Noddwyr ym Maelor (Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Cylch)

Salisbury, E. (2007a), Ar Drywydd Guto'r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)

  • (2007b), 'Tair Cerdd Dafod', Dwned, 13: 139-68
  • (2009), ' "Y Traed Ataw a Redant": Golwg ar Ganu Guto'r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur', LlCy 32: 58-84
  • (2011), 'Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor', Dwned, 17: 73-118

Thomson, D. (1982), 'Cistercians and Schools in Late Medieval Wales', CMCS 3: 76-80

Watkin, I. (1920), Oswestry (London, Oswestry)

Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)

Williams, J.E.C. (1997), 'Guto'r Glyn', A.O.H. Jarman and G.R. Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature ii: 1282-c.1550, revised by D. Johnston (second ed., Cardiff), 197-221