Chwilio uwch
 

Gutun Owain, fl. c.1451–98

Canwyd marwnad Guto gan Gutun Owain, bardd o dras uchelwrol a fu’n weithgar yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn bennaf. Ceir dros drigain o gerddi wrth ei enw, yn gerddi mawl a marwnad yn bennaf ynghyd â cherddi gofyn a serch.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Iarddur 1; HPF iii: 385–6; GO VIII.17–22; DE 101. Tanlinellir enw noddwr Guto.

stema
Achres Gutun Owain

Ymddengys bod Gutun yn nai i’r Abad Siôn ap Rhisiart o Lyn-y-groes.

Ei yrfa
Roedd Gutun yn gysylltiedig â rhannau o’r Mers yng ngogledd swydd Amwythig heddiw, sef plwyfi Llandudlyst a Llanfarthin, ac roedd ganddo dir yn nhrefgordd Ifton. Roedd yn ddisgybl i Ddafydd ab Edmwnd a bu’n bresennol gyda’i athro barddol yn eisteddfod Caerfyrddin c.1451, pan roes Dafydd, ynghyd â beirdd eraill, drefn newydd ar gerdd dafod eu dydd. Cofnodwyd y drefn honno maes o law mewn gramadegau barddol yn llaw Gutun. Abadau Glyn-y-groes oedd ei brif noddwyr, yr Abad Siôn ap Rhisiart a’r Abad Dafydd ab Ieuan, ond canodd hefyd i nifer o uchelwyr eraill a fu’n noddwyr i Guto yntau. Nid oedd cystal bardd â Guto, ond perthyn naws chwaethus a myfyriol i nifer o’i gerddi, yn arbennig ei gerddi gofyn dychmygus. Yn ogystal â’i ddysg farddol helaeth, roedd Gutun yn arbenigwr hefyd ar agweddau eraill ar ddysg ddiwylliannol, megis achyddiaeth, herodraeth, testunau crefyddol, croniclau a brudiau, ac roedd ei ddiddordebau’n amrywiol ac eang. Ymddengys iddo farw cyn troad yr unfed ganrif ar bymtheg, a’i gladdu yn Llanfarthin.

Ymhellach, gw. DNB Online s.n. Gutun Owain; GO; Williams 1997; ByCy Ar-lein s.n. Gutun Owain.

Llyfryddiaeth
Williams, J.E.C. (1997), ‘Gutun Owain’, A.O.H. Jarman and G.R. Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature ii: 1282–c.1550, revised by D. Johnston (second ed., Cardiff), 240–55