Chwilio uwch
 

Syr Rhisiart Herbert o Golbrwg, fl. c.1457–m. 1469

Noddwr nodedig oedd Syr Rhisiart Herbert, er mai dim ond un cywydd a erys iddo gan Guto’r Glyn (cerdd 22). Ceir awdl iddo gan Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 114), cywydd mawl gan Ieuan Deulwyn (Lewis 1982: cerdd 26) ac awdl gan Huw Cae Llwyd i’w fab, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg, a ganwyd efallai tra oedd Rhisiart yn dal yn fyw (HCLl cerdd 2). Ceir hefyd ymryson rhwng Ieuan Deulwyn a Bedo Brwynllys a gynhaliwyd ar ei aelwyd ef yng Ngholbrwg (Lewis 1982: cerddi 28 a 29). Yn olaf, ceir marwnadau gan Fedo Brwynllys (Lewis 1982: cerdd 30) a Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 31) a marwnad i Risiart a’i frawd Wiliam, iarll Penfro, gan Huw Cae Llwyd (HCLl cerdd 4).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Godwin’ 8; WG2 ‘Godwin’ 8B1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Syr Rhisiart Herbert o Golbrwg

Roedd Rhisiart yn ail fab cyfreithlon i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan a’i ail wraig, Gwladus ferch Dafydd Gam o Aberhonddu. Ei frawd hynaf oedd Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro (m. 1469). Ei wraig oedd Margred ferch Tomas ap Gruffudd ap Nicolas (Griffiths 1972: 116). Gadawodd feibion, sef Syr Wiliam Herbert o Golbrwg ac eraill. At hynny, roedd yn hanner brawd i feibion Syr Rhosier Fychan.

Ei gartref
Trigai yng Ngholbrwg, tŷ i’r de-ddwyrain o’r Fenni, bellach yn sir Fynwy (SO 3112; Thomas 1994: 85). Ceir disgrifiad estynedig o’r tŷ yng ngherdd 22, ac mae’n amlwg fod Syr Rhisiart wedi gwario’n hael i’w adnewyddu. Ysywaeth, dymchwelwyd y tŷ yn 1954 a bellach dim ond y parc sy’n nodi lle safai (Smith 1957).

Ei yrfa
Ymddengys Syr Rhisiart Herbert yn bennaf fel cydymaith a chefnogwr i’w frawd, Wiliam, iarll cyntaf Penfro. Derbyniodd bardwn yn 1457 ar yr un pryd â’i frawd (Thomas 1994: 85). Awgryma hynny ei fod yn cefnogi Wiliam Herbert yn yr ymgiprys rhwng noddwr Herbert, Richard, dug Iorc, a phlaid y Brenin Harri VI. Noda Thomas (ibid.) ei fod wedi ymladd gyda’i frawd ym mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd llu Siasbar Tudur gan Edward, mab dug Iorc. Ar ôl i Edward gael ei gydnabod yn frenin ymddengys Rhisiart droeon gyda’i frawd yn cyflawni swyddogaethau pwysig yn ne Cymru. Ef, er enghraifft, oedd cyd-arweinydd yr ymgyrch yn erbyn castell Carreg Cennen yn 1462. Delid y castell yn erbyn Edward IV gan Domas ac Owain ap Gruffudd ap Nicolas, ond bu’n rhaid iddynt ildio i Risiart Herbert erbyn Mai 1462 (Griffiths 1993: 28). Roedd Rhisiart yn ddirprwy i’w frawd fel ustus Deheubarth Cymru yn 1464 a 1466, yn siedwr siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi 1461–9 ac yn gwnstabl Aberteifi o 1463 (Thomas 1994: 86). Daliai swyddi hefyd yn arglwyddiaeth Casnewydd, a reolid gan ei frawd (ibid.). Pan ymestynnodd grym Wiliam Herbert i ogledd Cymru, dilyn a wnaeth Rhisiart. Yn 1468 arweiniodd un o dri rhaniad byddin Wiliam Herbert a aeth yn erbyn castell Harlech, a ddelid gan y Lancastriaid. Ar y ffordd yno fe drechodd lu Siasbar Tudur ger tref Dinbych (Ross 1974: 114). Fel ei frawd, gwobrwywyd Rhisiart Herbert yn hael gan y brenin; rhestrir y tiroedd a dderbyniodd, llawer ohonynt yn swyddi Henffordd a Chaerloyw, yn Thomas (1994: 86).

Ei farwolaeth
Am yr amgylchiadau, gw. Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro. Daliwyd Rhisiart a’i frawd ym mrwydr Edgecote, 24 Gorffennaf 1469, gan gefnogwyr eu gelyn, Richard Neville, iarll Warwick. Aethpwyd â hwy i Northampton a’u dienyddio. Mae’r beirdd Cymraeg yn dweud bod Rhisiart wedi ei ladd ddiwrnod cyn ei frawd, sef ar 26 Gorffennaf (Lewis 2011: 108–9). Dygwyd ei gorff yn ôl i’r Fenni a’i gladdu yno yn eglwys Priordy Mair. Gellir gweld ei feddrod ysblennydd yno o hyd.

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith, P. (1957), ‘Coldbrook House’, Arch Camb cvi: 64–71
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)