Chwilio uwch
 
1 – Moliant i Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin o Fuellt, capten Mantes yn Ffrainc
Golygwyd gan Barry J. Lewis


1Oer oedd weled urddolion
2A’r ieirll yn dyfod o Rôn.
3Pob capten o sifften Sais
4O waelod Lloegr a welais.
5Pond rhyfedd (o’r mawredd mau!),
6Beili Mawnt, ble mae yntau?
7Bual du a blodeuyn
8Buellt dir, ni bu well dyn.
9O gwelais lawer galawnt,
10Gorau am win oedd garw Mawnt,
11Y marchog dyledog daid
12A’r sêr ar ei gwrseriaid,
13Syr Rhisiart goethwart Gethin,
14Serchog faedd tarianog trin.
15O Fair ddi-wair, a ddaw ef
16Yn hydr yng nghefn Hydref,
17Myrdd wynfyd (Mair i’w ddanfon!),
18Mab Rhys ar frys o dref Rôn?

19Medd rhai, ‘Nid oes modd yrhawg,
20Nis gad y wlad oludawg.
21Cadw’r dref y mae ef ym Mawnt
22Er perigl aer aparawnt
23Ac ynnill â gwayw uniawn
24Gair a chlod goruchel iawn,
25Anturiaw, modd y daw dis,
26Ymwan Pyr ym min Paris,
27Pwyntiaw maelys, pwynt Melan;
28Pobl y gŵr, pob elw a gân’.’

29Glew oedd ef a gloyw ei ddart,
30Gwlad a dâl trwsiad Rhisiart.
31Gwagedd browysedd Bresawnt
32Wrth wŷr a meirch Arthur Mawnt.
33Paun aur ddaly, pen urddolion,
34Pan ddêl yr angel o Rôn,
35Pwy a fedr ond edrych?
36Pond ef yn y dref yw’n drych,
37A’i ddeulu yn ei ddilin,
38A’i ddwy law yn gwallaw gwin,
39A phawb yn cyfarch, parch pêr,
40I’r galawnt aur ei goler?
41Llewpart yw Rhisiart yn Rhôn,
42Llew du’n ystaenu dynion,
43Llew Lloegr a’i llaw a’i llygad,
44Llew terwyn glew tir ein gwlad.

45Gŵr bellach a grybwyllwn,
46Gem ar holl Gymru yw hwn,
47Corf llorf llu deutu Dotawnt,
48Capten ac arglwydd mên Mawnt.
49Unair ag Arthur yno
50Yw ar faes â’i wŷr efô,
51Ac unwedd, fonedd fynag,
52Unglod â Lawnslod di Lag.
53Cadr gwrser yn cadw’r garsiwn,
54Cadw’r tir yn hir a wna hwn,
55Cadw Rhôn, feilïon flaenawr,
56A chadw Mawnt â chadwayw mawr
57(Cadr mel Otiel ytiw)
58A chadw Ffrainc, iechyd i’w ffriw!

1Trist oedd gweld marchogion
2a’r ieirll yn dod o Rouen.
3Pob capten o Sais sy’n bennaeth
4o berfeddion Lloegr a welais.
5Onid yw’n rhyfedd (o fy mawredd!),
6beili Mantes, ble mae yntau?
7Ych gwyllt gwalltddu a blodeuyn
8tir Buellt, ni fu dyn gwell erioed.
9Os wyf wedi gweld llawer gŵr cwrtais,
10y gorau am roi gwin oedd carw Mantes,
11y marchog a’i daid yn fonheddig
12a’r sêr ar ei gwrseriaid,
13Syr Rhisiart Gethin, gwarchodwr cain,
14baedd hynaws y frwydr yn dwyn tarian.
15O Fair bur, a ddaw ef
16yn eofn yng nghanol Hydref,
17gwynfyd i liaws (boed i Fair ei anfon!),
18mab Rhys ar frys o dref Rouen?

19Medd rhai, ‘Nid oes modd am amser maith,
20ni fydd y wlad gyfoethog yn caniatáu iddo.
21Gwarchod y dref y mae ef ym Mantes
22rhag perygl etifedd eglur
23ac ennill â gwaywffon syth
24fri a chlod uchel iawn,
25mentro, yn y modd y syrthia dis,
26ymwan fel Pyrrhus wrth ymyl Paris,
27trywanu maels, pwynt o ddur Milan;
28pobl y gŵr hwn, fe gânt bob elw.’

29Dewr oedd ef a llachar ei ddart,
30mae trwsiad Rhisiart yn werth gwlad gyfan.
31Gwagedd yw disgleirdeb offer Brescia
32o’i gymharu â gwŷr a meirch Arthur Mantes.
33Paun sy’n gwisgo aur, pennaeth marchogion,
34pan ddaw’r angel o Rouen,
35pwy a all beidio ag edrych?
36Onid ef yw ein drych yn y dref,
37a’i ddau lu yn ei ddilyn,
38a’i ddwy law yn gweini gwin,
39a phawb yn cyfarch, parch melys,
40y gŵr cwrtais sy’n gwisgo coler aur?
41Llewpart yw Rhisiart yn Rouen,
42llew du sy’n staenio dynion [yn goch],
43llew Lloegr a’i llaw a’i llygad,
44llew tanbaid dewr tir ein gwlad.

45Gŵr a folwn o hyn ymlaen,
46gem ar Gymru gyfan yw hwn,
47colofn a philer i lu ar ddwy ochr Dotawnt,
48capten ac arglwydd mên Mantes.
49O’r un bri ag Arthur yno
50yw efe ar faes brwydr gyda’i wŷr,
51ac o’r un dull, tyst i’w fonedd,
52o’r un clodydd â Lawnslod du Lac.
53Cwrser gwych yn gwarchod y garsiwn,
54gwarchod y tir yn hir a wna hwn,
55gwarchod Rouen, pennaeth beilïaid,
56a gwarchod Mantes â gwaywffon frwydr fawr
57(gwych fel Otiel ydyw)
58a gwarchod Ffrainc, iechyd i’w wyneb!

1 – In praise of Sir Richard Gethin ap Rhys Gethin of Builth, captain of Mantes in France

1Sad it was to see knights
2and the earls coming from Rouen.
3Every English chieftain who is a captain
4from the depths of England I saw.
5Is it not strange (my goodness!),
6the bailli of Mantes, where is he?
7The black bison and flower
8of the land of Builth, never was there a finer man.
9If I have seen many a gallant,
10The stag of Mantes was the best for dispensing wine,
11the knight whose grandfather was noble,
12with the stars upon his coursers,
13Sir Richard Gethin, a fine protector,
14a gentle boar of battle, bearing a shield.
15O pure Mary, will he come
16valiantly in the middle of October,
17the joy of a multitude (may Mary be there to send him!),
18the son of Rhys in haste from Rouen town?

19Say some, ‘There’s no chance for a long while,
20the rich country won’t let him.
21He is holding the town in Mantes
22against the danger of the heir apparent
23and winning with unbending spear
24fame and glory most exalted,
25venturing, the same way as a die falls,
26combat beside Paris like that of Pyrrhus,
27piercing mail armour, a point of Milanese steel;
28this man’s people, they get every profit.’

29He was bold and his dart was bright,
30Richard’s equipment is worth a whole country.
31The splendour of gear from Brescia is nothing
32compared with the men and horses of the Arthur of Mantes.
33A peacock who wears gold, chief of knights,
34when the angel comes from Rouen,
35who will be able to help themselves but look?
36Is he not our mirror in the town,
37with his two hosts following him,
38and his two hands dispensing wine,
39and everyone saluting, sweet adulation,
40the gold-collared gallant?
41Richard is a leopard in Rouen,
42a black lion who stains men red,
43England’s lion and her hand and her eye,
44the fierce bold lion of the land of our country.

45Let us praise a man from now on,
46he is the jewel of all Wales,
47column and pillar of a host on both sides of the Dotawnt,
48captain and mesne lord of Mantes.
49Of the same fame as Arthur there
50is he with his men on a field of battle,
51and of the same manner, witness to his noble blood,
52of the same glory as Lancelot du Lac.
53Splendid courser holding the garrison,
54this man will hold the land for long,
55hold Rouen, chief of baillis,
56and hold Mantes with a mighty battle-spear
57(he is splendid like Otiel)
58and hold France, good health to his countenance!

Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 26 llawysgrif. Ystyriwyd 15 ohonynt wrth lunio’r testun golygedig. Y prif wahaniaeth rhyngddynt yw trefn llinellau 3–16 lle mae’r copïau yn ymrannu fel a ganlyn: (i) LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114, Pen 152; (ii) Pen 82, BL 14989, LlGC 3046D, C 1.2; (iii) BL 14965 a phum copi Llywelyn Siôn (LlGC 970E, LlGC 21290E, LlGC 6511B, C 5.44 a Llst 134). Mae Stowe 959 yn wahanol eto. Er bod Pen 152 yn ochri â grŵp (i) yn gyffredinol, ceir peth tebygrwydd hefyd rhyngddi a BL 14989 a C 1.2, ac efallai ei bod yn destun cyfansawdd. Collwyd rhannau o destun BL 14984 oherwydd difrod i’r llawysgrif a chollwyd testun Stowe 959 ar ôl llinell 41 yn sgil colli dalen. Dechrau pob llinell yn unig a geir yn Pen 82.

Trawsysgrifiadau: LlGC 3057D, C 2.114, Pen 82, BL 14989, BL 14965, LlGC 6511B.

stema
Stema

2 a’r  Llywelyn Siôn a.

2 dyfod  C 2.114 a C 1.2 dowad.

2 o  BL 14894, LlGC 3046D a C 1.2 i.

3–16  Mae trefn y llinellau hyn yn amrywio’n sylweddol yn y llawysgrifau. Dilynir BL 14894 a C 2.114; mae LlGC 3057D yn unffurf ac eithrio bod 5–6 a 7–8 wedi eu trawsosod. Mae trefn y copïau hyn yn rhoi rhediad synnwyr cryf a dealladwy, ac fe’i dilynwyd yn GGl hefyd. Y drefn yn Pen 82, BL 14989 a LlGC 3046D yw 9–14, 3–6, 15–16, 7–8, fel hefyd yn C 1.2 (lle na cheir 15–16). Amheuir bod y drefn hon wedi tarddu drwy i rywun roi 9, llinell sy’n cynnwys y ferf gwelais, wrth 1–2, sy’n cynnwys y berfenw weled. Fe sylwir bod cysylltiad cyffelyb yn y drefn a dderbyniwyd yn y testun golygedig: ceir welais yn 4. Hawdd fyddai drysu gan ddwyn i gof y cwpled anghywir yma. Mae’r drefn a dderbyniwyd yn rhagori: mae’n esbonio’n syth pwynt y tristwch yn 1–2 (oer oedd weled), gan dynnu sylw at y ffaith nad oedd gwrthrych y gerdd i’w weld ymhlith yr urddolion a ddeuai o Rouen. Yn ôl trefn Pen 82, &c., mae’r bardd yn mynd yn syth i ganmol Syr Rhisiart, gan ohirio esbonio ergyd 1–2 am rai llinellau eto. Fel y saif, mae’r drefn hon fel petai’n awgrymu bod Syr Rhisiart ymhlith urddolion 1–2, a dim ond yn nes ymlaen y clywn nad ydyw. Am y rheswm hwn rwyf yn hyderus na all trefn Pen 82 gael ei derbyn rhagor trefn BL 14894 a’i chymheiriaid. Gwahanol eto yw trefn BL 14965 a chopïau Llywelyn Siôn: 11–16, 3–10 (ond ni cheir 9–10 yn BL 14965). Mae’r drefn yn llai boddhaol fyth yn y rhain: collir y cysylltiad â weled yn 1, a chyflwynir disgrifiad o Syr Rhisiart yn syth ar ôl 1–2, heb egluro rhediad y meddwl. Yn olaf, mae Stowe 959 yn cynnig 3–4, 11–14, 5–6, 15–16, 9–10, 7–8. Mae’n unigryw, felly, ymhlith y copïau sy’n anghytuno â BL 14894, &c., o ran cyd-fynd â hwy a rhoi 3–4 ar ôl 1–2. Dyma ateg bellach i’r drefn 1–4, yr wyf eisoes wedi dadlau ei bod yn gryf ac yn rhoi synnwyr da.

A derbyn ar sail ystyr mai BL 14894 a’i chymheiriaid sydd wedi cadw’r drefn orau, cyfyd y cwestiwn a yw’r fersiynau llwgr yn y copïau sy’n anghytuno â hwy yn tarddu o un llygriad cychwynnol ynteu a lygrwyd y testun fwy nag unwaith yn annibynnol. Mae hyn yn gwestiwn pwysig iawn o ystyried bod y darlleniad yn 11 (dyledog daid neu blodeuog blaid), a dilysrwydd 17–18 a 27–8 yn eu crynswth, yn dibynnu ar yr ateb: mae’r holl gopïau sy’n anghytuno â BL 14894, &c., o ran trefn 3–16 hefyd yn anghytuno â hwy yn y tri achos hyn. Eithriad yw C 1.2, sy’n cytuno â BL 14894, &c., o ran peidio â chynnwys 17–18 na 27–8 ond sy’n cytuno â’r copïau eraill yn 11. Os yw’r holl broblemau yn 3–16 yn tarddu yn y pen draw o un llygriad cychwynnol, hynny yw mewn cynsail gyffredin, ni fyddai achos mor gryf dros y darlleniad dyledog daid yn 11 a dilysrwydd 17–18 a 27–8, gan y gallent oll fod yn tarddu o’r un gynsail honno. Ar y llaw arall, os llygrwyd trefn 3–16 fwy nag unwaith yn annibynnol, nid oes rhaid derbyn bod yr holl gopïau ac eithrio BL 14894, &c., yn tarddu o un gynsail. Gan ei bod yn anodd gweld beth fyddai’r cam cyntaf a roddai fod i’r gwahanol fersiynau o 3–16, haws cymryd bod y drefn wedi ei disodli fwy nag unwaith yn annibynnol. Gan hynny, nid oes rheswm i olrhain y darlleniad dyledog daid yn 11 a bodolaeth 17–18 a 27–8 i ffynhonnell unigol, a chryfheir yr achos dros eu derbyn. Ar y llaw arall, ymddengys yn debygol fod BL 14894, &c., yn perthyn yn agos i’w gilydd, nid yn unig oherwydd absenoldeb 17–18 a 27–8, ond hefyd ar sail y darlleniad blodeuog blaid yn 11. Er gwaethaf hyn, mae rhediad llyfn yr ystyr yn 3–16 yn awgrymu y dylid eu dilyn o ran trefn y llinellau hyn, fel y dadleuwyd eisoes.

3 pob  Nis ceir yn BL 14989.

3 o sifften  Pen 152 o sifflen, BL 14989 siffden o, Stowe 959 ssawden o, LlGC 21290E, LlGC 6511B a Llst 134 o sawden.

5 pond  Pen 82 a LlGC 3046D pont, LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114 a BL 14989 ond, Pen 152, C 1.2 a BL 14965 pand, Stowe 959 pond, Llywelyn Siôn bond. Ceir digon o dystiolaeth yma dros dderbyn ffurf yn p-.

5 o’r  LlGC 3057D a BL 14989 y.

8 dir  LlGC 970E a C 5.44 yw, LlGC 6511B a Llst 134 du, LlGC 21290E du (cywirwyd yn yw).

9–10  Nis ceir yn BL 14965.

9 o  LlGC 3046D or.

11 dyledog daid  Dilynir LlGC 3046D, BL 14989, C 1.2 a BL 14965 dyledoc daid, Stowe 959 dlyedog daid, Llywelyn Siôn dyl\yedog daid; gthg. LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114 a Pen 152 blodevog blaid. Ymranna’r llawysgrifau yn ddau grŵp, felly, gyda’r holl rai sy’n cynnig trefn wahanol ar gyfer 1–16 yn bleidiol i dyledog daid neu’r tebyg, a’r holl gopïau sy’n cynnwys y drefn a dderbyniwyd yma yn rhoi blodeuog blaid. Mae’n anodd dewis rhyngddynt ar sail ystyr, ac o ran y mesur a’r gynghanedd mae’r ddau ddarlleniad yn dderbyniol ac y rhoi sain drosgl. Ceir y llinell Y marchog blodeuog blaid ar ddechrau cywydd i Syr Gruffudd Fychan (m. 1447), sef IGE2 cerdd CV. Canwyd hi 1422x1444 (ibid. xliii–xliv), gan Hywel Cilan, efallai. Gall fod y llinell agoriadol drawiadol hon wedi dylanwadu ar y llinell yng ngherdd Guto’r Glyn yn ystod ei throsglwyddiad. Nid yw’r ddadl hon yn gryf iawn, fodd bynnag: gellid honni hefyd fod Guto ei hun wedi mabwysiadu’r llinell ar ôl clywed y cywydd i Ruffudd Fychan, neu hyd yn oed fod bardd y cywydd i Ruffudd Fychan wedi dwyn y llinell oddi wrth Guto. Yn y bôn, derbynnir dyledog daid yma am nad oes rheswm i gredu bod y llawysgrifau sy’n ei gynnwys yn perthyn yn agos i’w gilydd; ar y llaw arall, mae absenoldeb 17–18 a 27–8 o’r copïau lle ceir blodeuog blaid yn awgrymu mai un grŵp ydynt. Cf. 3–16n. Afraid dweud nad yw’r ddadl yn ddigwestiwn: dibynna ar ddilysrwydd 17–18 a 27–8!

12 A’r sêr ar ei gwrseriaid  LlGC 3057D ar syr ar i gwrseriaid, BL 14894 a C 2.114 ar sirri(f) ar kwrseriaid, Pen 152 gwr siwr ar i gwrseriaid; mae’r lleill yn cynnig y darlleniad a dderbyniwyd, ac eithrio BL 14989 lle ceir y talfyriad sr’ (am syr?) yn lle sêr. Ar sail pob copi ond BL 14894 a C 2.114 gallwn dderbyn mai A’r sêr/sŷr ar ei gwrseriaid yw’r darlleniad mwyaf tebygol (gthg. GGl a ddilynodd C 2.114), ond mae’n anodd gwybod pa ffurf luosog, ai sêr neu sŷr, y dylid ei derbyn. Ceir y ddwy ffurf gan Guto mewn mannau eraill, e.e. 22.2 a 16 (sêr yn cynnal y brifodl), 88.22 (sŷr yn cynnal y brifodl). Diau fod siri(f), darlleniad BL 14894 a C 2.114, yn tarddu o sŷr. Cefnogir sŷr, felly, gan LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114 ac efallai BL 14989. Ar y llaw arall, rhydd sêr gynghanedd ddwbl, sef traws a llusg, ac mae’n ddarlleniad cyfoethocach o’r herwydd. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, ac am awgrym fod LlGC 3057D, BL 14894 a C 2.114 (sef y llawysgrifau sy’n cefnogi sŷr yma, ac eithrio BL 14989) yn agos gysylltiedig â’i gilydd, gw. 3–16n, 11n.

13 goethwart  BL 14989 goeth warth.

15–16  Nis ceir yn C 1.2.

15 o  Pen 82 ie.

15 a  Llywelyn Siôn na.

16 yn hydr  Dyma ddarlleniad LlGC 3057D (ond yn hydyr yno), BL 14894, Pen 82, LlGC 3046D, BL 14989, BL 14965 a Stowe 959 (yn hydyr eto); gthg. C 2.114 a Llywelyn Siôn yn hyder. Gellid dilyn y rhai olaf hyn a darllen ein hyder, gan greu llinell reolaidd ei hyd, ond mae’r gynghanedd yn erbyn hynny (mae angen -dr a atebir yn hydref). Ar y llaw arall, mae cytundeb y llawysgrifau eraill o blaid y gair gweddol anghyffredin hydr yn ffafrio’r darlleniad hwnnw. Gellir awgrymu bod hydr neu nghefn yn cael ei ynganu’n ddeusill. Yn Pen 152 ceir yn hydr yma.

16 yng nghefn  LlGC 3057D ofiawn, BL 14965 ym ynghefn. Nid oes sail i ddarlleniad GGl, yma ’nghefn, yn y llawysgrifau: ymgais i reoleiddio hyd y llinell ydyw, cf. y nodyn blaenorol.

17–18  Nis ceir yn LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114 na Pen 152, hynny yw, yn y copïau y seiliwyd trefn y llinellau arnynt hyd yn hyn, nac ychwaith yn C 1.2. A ddylid derbyn y cwpled hwn? Nid oes dim yng nghynnwys na chrefft y cwpled yn awgrymu nad yw’n ddilys, ac mae’r ffaith ei fod yn rhoi enw cywir tad Syr Rhisiart o’i blaid, efallai. Mae hefyd gymeriad llythrennol â 19 a chysylltiad rhwng Fair (15) a Mair (17) a hefyd adlais o linell 2. Cf. 3–16n lle awgrymir nad oes rheswm dros gredu bod yr holl gopïau sy’n cynnwys y cwpled hwn yn tarddu o gynsail gyffredin yn y pen draw.

17 i’w  BL 14989 i, ond yw yn y lleill lle ceir y cwpled hwn. Nid yw’n arferol treiglo’r goddrych ar ôl yw, gw. TC 287, felly er mor gryf yw’r demtasiwn i ddarllen Myrdd wynfyd, Mair, yw ddanfon / Mab Rhys, rhaid deall y gystrawen yn wahanol. Deellir mab Rhys mewn cyfosodiad ag ef yn 15, a deellir Mair i’w ddanfon ar wahân; am y gystrawen hon mewn deisyfiadau, cf. 112.28 Yma ’rioed, Mair i’w adu, GGMD i, 2.24 Duw o’i adu a GMBen 15.52 Mair i’w adael.

18 ar  BL 14965 a Stowe 959 drwy.

19–20  Nis ceir yn C 1.2.

19 oes  BL 14894 oedd.

21 cadw’r dref  LlGC 3057D kadw y dre, LlGC 3046D kadw tref.

21 y  LlGC 3046D, BL 14989 a Llywelyn Siôn; nis ceir yn y lleill. Efallai nas ceid yn wreiddiol a bod cadw wedi ei gyfrif yn ddeusill.

21 ym  C 1.2 a.

22 er  Dim ond Pen 152, C 3.37 a Llywelyn Siôn sy’n cynnig y darlleniad hwn; yn y lleill ceir ar. Credir hefyd fod C 3.37 yn tarddu o C 2.114, lle ceir ar, felly diwygiad neu lygriad yw er yno. Mae mwyafrif mawr y llawysgrifau, felly, o blaid ar, ac mae hyn yn benbleth. Ni ellir cael y ffurf ddidreiglad perigl ar ôl yr arddodiad ar, ac nid yw’r gair wedi ei dreiglo yn yr un o’r copïau; hefyd, mae’r gynghanedd yn gwarantu p-. Os derbynnir ar, felly, rhaid mai a’r neu â’r ydyw. Gall perigl fod yn ansoddair, gw. GPC 2784, ac os felly, efallai mai ‘a’r/gyda’r aer aparawnt peryglus’ yw’r ystyr. Ond pwy fyddai’r perigl aer aparawnt a ymladdai ochr-yn-ochr â Syr Rhisiart Gethin ym Mantes? Yn y cyd-destun mae’n anodd ar y naw credu bod aer aparawnt yn cyfeirio at neb ond Charles, dauphin Ffrainc, sef y gelyn. Gan hynny, o’r braidd fod y dehongliad yn tycio. Gan fod y darlleniad ar mor anodd ei ddeall, derbyniwyd er yma. Efallai fod ar wedi codi oherwydd bod y sain a yn digwydd droeon yn y llinell ac ar ddechrau’r llinell nesaf.

22 perigl  BL 14965 peril, Stowe 959 paril.

22 aer  LlGC 3057D, BL 14965, Stowe 959 a Llywelyn Siôn (ac eithrio LlGC 970E) ail, LlGC 970E yr, Pen 152 a dur.

22 aparawnt  Pen 152 parawnt.

23 ac ynnill  Llywelyn Siôn yn ennill; ni cheir ond ynill yn BL 14965; Pen 152 di a gynnull.

23 â gwayw  LlGC 3046D yn dec, BL 14965 a Llywelyn Siôn ai wayw /n/.

25 modd  LlGC 3057D a BL 14989 fal.

25 daw  BL 14989 dawr.

26 Pyr  Stowe 959 pyrr, yr holl gopïau eraill pur. Nid yw’r ansoddair pur yn rhoi ystyr arbennig o dda yma, ac yn sicr byddai cyfeiriad at arwr chwedlonol yn gweddu’n dda yn y cyd-destun. Am Pyr, sef Pyrrhus, mab Achilles, gw. GLlLl 17.16n (pyrr yn y llawysgrif), GDC 3.16n a GIRh 4.42n.

27–8  Fel 17–18, nis ceir yn LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114 na Pen 152, hynny yw, yn y copïau y seiliwyd trefn y llinellau arnynt, nac ychwaith yn C 1.2. Gan fod 17–18 wedi eu derbyn yma, anodd cyfiawnhau peidio â derbyn y rhain hefyd, yn enwedig gan nad oes dim yn eu cynnwys na’r mesur na’r gynghanedd sy’n awgrymu nad ydynt yn ddilys.

27 pwyntiaw  BL 14989 peintiaw, Stowe 949 pwyn tyay.

27 maelys  Yn Pen 82 yn unig y ceir maelas, a ddehonglir yma’n ffurf ar maelys. Mae gweddill y copïau’n cynnig malais (LlGC 3046D a Llywelyn Siôn) neu malis(s) (BL 14989, BL 14965 a Stowe 959). Yn ôl GPC 2327 amrywiad ar malais yw malis. Gellid dadlau dros pwyntiaw malais pwynt Melan ‘trefnu malais pwynt (cleddyf/gwaywffon) o ddur Milan’. Ar y llaw arall, mae’r cyfosodiad mael(y)s a Melan yn un hysbys, cf. 98.54; GHD 19.60.

28 gŵr  Llywelyn Siôn gwyr (ac eithrio C 5.44 gwr a LlGC 21290E lle cywirwyd gwyr yn gwr).

29 glew  Stowe 959 glan.

29 ei  Stowe ny.

30 dâl  LlGC 3057D ddal.

30 trwsiad  LlGC 3046D towssiad.

31 gwagedd  BL 14894, Pen 82 a Llywelyn Siôn gwragedd, Pen 152 gwag oedd.

31 browysedd  Ceir y darlleniad hwn yn BL 14989 (browyssedd); cf. LlGC 3057D brewyssedd, Stowe 959 a brywssedd, Llywelyn Siôn brywyswedd, LlGC 3046D browssedd, C 1.2 bresedd, BL 14965 brewssedd, Pen 152 brwysoedd; gthg. BL 14894 ffriw assedd a C 2.114 ffriw ossedd. Mae’r darlleniadau yn ff- yn debygol o darddu o ffrowysedd, er na nodir y gair yn GPC 1318. Fe geir ffrowys, amrywiad ar browys, gw. ibid., ac os felly, dichon y ceid ffrowysedd i gyfateb i browysedd. Awgryma mwyafrif llethol y copïau mai browysedd a ddylai fod yma.

31 Bresawnt  Felly LlGC 3057D, LlGC 3046D, BL 14989, BL 14965, Stowe 959 a Llywelyn Siôn; cf. C 1.2 browysawnt, Pen 152 o besawnt; gthg. BL 14894 a C 2.114 ffressawnt. Nid oes fawr o amheuaeth am y darlleniad, felly, ond nid yw ei arwyddocâd yn eglur. Ni nodir presawnt fel amrywiad posibl ar presen(t) yn GPC 2877 ac ni ddisgwylid treiglad meddal yma. Ymddengys, gan hynny, mai enw priod yw Bresawnt; am awgrymiadau, gw. 1.31n (esboniadol).

32 wrth wŷr  Llywelyn Siôn a thir, ac eithrio Llst 134 lle ceir llinell 10 eto yn lle’r llinell hon. Ni cheir wŷr yn BL 14989.

32 a meirch  Stowe 959 mayrch yw.

33 paun  BL 14965 pan vn, Stowe 959 paen, Llywelyn Siôn pwy n.

33 ddaly  Ceir ddala yn y rhan fwyaf o’r copïau (LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114, BL 14989, C 1.2, BL 14965 a Stowe 959). Mae ddala yn gwneud y llinell yn rhy hir a gwelir sawl ymgais i ddatrys y broblem, megis dileu aur (BL 14894) neu ddileu sillaf olaf ddala (Stowe 959). Ceir ddal yn LlGC 3046D, ddaulv yn LlGC 970E, LlGC 21290E, C 5.44 a Llst 134 a ddaly yn LlGC 6511B, ddail yn Pen 152. Mae’n debygol mai’r ffurf unsill ddaly a geid yma’n wreiddiol. Trodd daly yn dala neu dal ar lafar, ac mae’r llawysgrifau’n aml yn rhoi ffurfiau amrywiol. Cf. cerdd 2 am enghreifftiau eraill.

34 ddêl  Stowe 959 el.

34 o  LlGC 3057D, C 1.2, BL 14965 a Pen 152 i, LlGC 3046D a Stowe 959 y. Mae mwyafrif y copïau o blaid o, a ategir gan linell 2.

35 pwy  C 1.2 pawb.

35 a  Felly LlGC 3057D, LlGC 3046D, BL 14965, Pen 152 a Llywelyn Siôn; gthg. C 2.114, Pen 82, BL 14989, C 1.2 a Stowe 959 ni. Mae’r gystrawen ni allaf/fedraf ond gwneud yn gyffredin, ond yma mae’r pwyslais ar pwy, a byddai pwy ni fedr ond edrych yn cyfleu syndod na all neb wrthsefyll y demtasiwn i syllu ar Syr Rhisiart yn hytrach na gofyn yn rhethregol a all unrhyw un ei gwrthsefyll.

35 ond  Felly LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114, C 1.2 a Stowe 959; gthg. LlGC 3046D, BL 14965, LlGC 970E, Llst 134, LlGC 21290E a C 5.44 onid (cywiriad o ond yn y ddau achos olaf), BL 14989, Pen 152 a LlGC 6511B ond i. Amheuir mai ond a geid yng nghynsail Llywelyn Siôn yma. Mae’r llinell yn fyr o sillaf, a gellid osgoi hynny drwy ddarllen onid. Fodd bynnag, mae’r llawysgrifau yn ffafrio ond. Y tebyg yw bod fedr i’w gyfrif yn ddeusill a bod onid ac ond i yn gynigion gwahanol i reoleiddio hyd y llinell gan gopïwyr na dderbyniai hynny.

36 pond  Felly Pen 82, BL 14965 a Llywelyn Siôn (ac eithrio Llst 134), cf. LlGC 3046D a Llst 134 ponid, LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114, BL 14989, Pen 152 a Stowe 959 pand, C 1.2 pam. Er cysondeb â llinell 5 mabwysiadwyd pond.

36 yw’n  LlGC 3046D yw r.

37 a’i  Pen 152 i.

38 a’i ddwy law  LlGC 3046D a ffob llaw.

38 gwallaw  LlGC 3057D gwallawr.

41 yn  Pen 152 y.

42 ystaenu  C 1.2 estynv.

43–6  Nis ceir yn Pen 152.

43 a’i llaw  C 1.2 i llaw.

44 terwyn  LlGC 3046D tarian.

44 glew  BL 14894 glo, C 2.114 gloyw.

46 ar  BL 14965 yr, Llywelyn Siôn ar wyr.

47 corf llorf  Llywelyn Siôn korff llorff, C 2.114 llen gorff. Cywirodd rhywun yr holl linell yn C 2.114 yn korff llorf llv deulu deLawnt.

47 llu  C 1.2 y llv.

47 deutu  C 2.114 (drwy gywiriad) a Pen 152 devlv.

47 Dotawnt  Felly LlGC 3057D, BL 14894 (dot[  ]), C 2.114, BL 14989, C 1.2, BL 14965 a Llywelyn Siôn; gthg. LlGC 3046D datawnt, C 2.114 (drwy gywiriad) deLawnt, Pen 152 delawnt. Mae’r darlleniad yn eglur ond nid felly’r arwyddocâd. Efallai mai enw afon yn Normandi ydyw, ond ar afon Seine y saif Mantes. Yn GGl ceir Detawnt, nas ceir sail eglur iddo yn y llawysgrifau.

48 ac  Nis ceir yn LlGC 3046D.

48 mên  BL 14894 (drwy gywiriad) a BL 14965 maen, am na ddeellid ystyr mên, bid sicr.

49 unair  Pen 82 mair.

50 ar  BL 14894 r.

50 â’i  LlGC 3057D gida i, C 2.114 ar i, Pen 152 i.

50 efô  LlGC 3057D, C 2.114, LlGC 3046D a C 1.2 fo.

51 ac unwedd  BL 14989 agwedd i.

52 unglod  LlGC 3057D, Pen 82, LlGC 3046D, BL 14989, Pen 152, C 1.2, BL 14965 a Llywelyn Siôn ac vn glod. Cf. y nodyn nesaf.

52 di  Nis ceir yn LlGC 3046D, BL 14989, Pen 152, C 1.2, BL 14965 a chopïau Llywelyn Siôn. Mewn enghreifftiau eraill o’r enw yng ngwaith y beirdd mae’r arddodiad Ffrangeg yn bresennol, cf. DN XX.58, GLMorg 76.62. Y tebyg yw bod ac wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r llinell dan ddylanwad y llinell flaenorol, ac yna hepgorwyd di er mwyn cadw hyd rheolaidd.

53 cadr  BL 14989 kidai.

53 yn  Nis ceir yn BL 14989.

53 garsiwn  LlGC 3046D gaesiwn.

54 a wna  C 2.114 i may.

55 feilïon  Diwygiad petrus. Mae’r llawysgrifau i gyd yn cynnig darlleniadau gwan o ran ystyr neu sy’n tanseilio’r gynghanedd: LlGC 3057D ail fyion, BL 14894 ail flion, C 2.114 ail fion, LlGC 3046D ail ion yn, BL 14989 ai linon, Pen 152 a C 1.2 ail fy ion, BL 14965 a Llywelyn Siôn val ion yn. Derbyniwyd y darlleniad olaf yn GGl: mae’n rhoi cynghanedd gywir, ond mae’r ystyr yn dila ac mae’n anodd deall sut y byddai’r darlleniadau eraill yn tarddu ohono, yn enwedig paham y byddai fal yn troi yn ail mewn cymaint o gopïau, er bod y gynghanedd yn diogelu f. O ran y gynghanedd, mae angen fl- o flaen yr acen ac efallai -n- ar ei hôl, ac mae angen tair sillaf. Rhaid hefyd wrth yr odl -on. Gelwir Syr Rhisiart yn feili yn 6, a hawdd deall sut y gallai copïwyr diweddarach faglu ar y gair dieithr hwn. Yr unig ffurf luosog a nodir yn GPC 269 mewn enghraifft ganoloesol yw beilïaid, ond nodir hefyd -au, -od fel terfyniadau lluosog eraill. Ansicr iawn, felly, yw feilïon yma, ond mae o leiaf yn rhoi ystyr dda ac yn bodloni anghenion y gynghanedd a’r mesur.

55 flaenawr  BL 14989 lan awr.

56 chadwayw  BL 14989, Pen 152 a C 1.2 choedwaiw, Llywelyn Siôn chydwaew.

57–8  Ychwanegwyd y cwpled hwn at gopi LlGC 3057D ddwywaith gan ddwy law wahanol. Yn 152 ceir y drefn 58, 57.

57 cadr  BL 14894 kadwr (cywirwyd yn kader), LlGC 3046D, LlGC 21290E, C 5.44 a Llst 134 kadarn, LlGC 6511B kadar; ond cadr yn LlGC 3057D, C 2.114, Pen 82, BL 14989, C 1.2, BL 14965 a LlGC 970E; Pen 152 ai chadw. Nid oes llawer o amheuaeth, felly, nad y gair cymharol anghyffredin cadr (a gafwyd eisoes yn 53) a oedd yma’n wreiddiol; mae’r gwahanol ddarlleniadau yng nghopïau Llywelyn Siôn yn awgrymu mai cadr a oedd yn ei gynsail yntau, a’i fod wedi sylwi bod y llinell yn fyr ac wedi ceisio diwygio. Rhaid bod cadr yn cael ei gyfrif yn ddeusill yma, oni chollwyd rhyw air unsill o rywle arall yn y llinell. Ond rhyfedd fyddai colli gair o bob copi, gan nad oes awgrym arall fod un gynsail iddynt oll.

57 mel  LlGC 3057D mel yn yr ychwanegiad cyntaf (gw. uchod), ond a wnel yn yr ail (fel yn Pen 152), LlGC 3046D vel, BL 14965 va ail, C 1.2 mal, Llywelyn Siôn val; ond mel yn BL 14894, C 2.114, Pen 82 a BL 14989. Mae angen -el ar gyfer y gynghanedd sain. Nodir mel fel amrywiad ar mal (fal, fel &c) yn GPC 2325–6 d.g. mal1, gydag enghreifftiau o’r 13g. ymlaen. Ni ellir derbyn mêl yma am nas treiglir ar ôl yr ansoddair cadr.

57 Otiel ytiw  LlGC 3057D odiel ydiw, BL 14989 ottiwel y yttiw, Llywelyn Siôn aidial (Eidial, idial) ydiw.

58 i’w  BL 14894 a Llywelyn Siôn (ac eithrio LlGC 21290E) oi, C 2.114 a BL 14989 a C 1.2 ir, BL 14965 i.

Milwr proffesiynol oedd Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin ab Owain o Fuellt, yn ymladd yn Ffrainc gyda byddin Lloegr. Y tebyg yw bod Guto’r Glyn wedi cwrdd ag ef yn Ffrainc yn 1436, a bod y cywydd hwn yn perthyn i 1437/8, ar ôl i Guto ddychwelyd adref (llinellau 1–6n). Derbyniodd Guto glogyn euraid gan Syr Rhisiart yn gyfnewid am ei ganmol gartref yng Nghymru, arwydd o haelioni a ysgogodd gywydd mawl gan Ieuan ap Hywel Swrdwal sy’n adleisio rhannau o’r cywydd hwn (GHS cerdd 24).

Mae’r bardd yn dechrau gan resynu na welodd Syr Rhisiart yn dychwelyd o Ffrainc gyda’r capteiniaid eraill (1–6). Syr Rhisiart, afraid dweud, yw’r gorau ohonynt (7–14). Paham, felly, nad oes gobaith iddo ddychwelyd i’w fro, hyd yn oed ar ôl i’r bardd apelio ar y Forwyn Fair am ei chymorth (15–18)? Y rheswm, wrth gwrs, yw bod dyletswydd yn ei gadw yn y wlad oludawg (19–20). Mae tref Mantes dan ei ofal ef, a bygythiad y gelyn, Charles o Ffrainc, yn amlwg (21–2). Ond nid dyletswydd yn unig sy’n ei gadw, ond hefyd y cyfle i gael hwyl a sbri (25–8). Mae Syr Rhisiart yn ennill clod yn y brwydro: dyna ddigon o reswm dros aros. Yna mae’r bardd yn troi i’w ganmol fel y gorau o’i fath (29–32). Pan ddaw ef adref yn y diwedd, bydd yn sicr o ddenu llygaid edmygus pawb (33–40). Syr Rhisiart yw pen-campwr Lloegr (41–4; sylwer ar y modd y mae Guto, yng nghyd-destun y rhyfeloedd yn Ffrainc, yn ymuniaethu’n rhwydd ag achos Lloegr). Gellir ei gymharu ag Arthur a Lawnslod (45–52). Gorffen y cywydd gan ddymuno hir oes i’r arwr yn amddiffyn Mantes rhag y gelyn (53–8). Ceir yma gyffyrddiadau o ieithwedd beirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae dylanwad Iolo Goch yn benodol yn eglur (47n, 53–8n). Mae’r cywydd cynnar hwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr, felly, am gynhysgaeth farddol Guto’r Glyn.

Dyddiad
1437x1438. Mae’r dyddiad yn dibynnu ar y ffaith fod Syr Rhisiart yn diflannu o gofnodion swyddogol ar ôl 1438. Mae hynny’n awgrymu ei fod wedi marw tua diwedd y flwyddyn honno neu’n fuan wedyn, sef cyn ymweliad sicr Guto â Ffrainc yn 1441. O’r herwydd, mae’n debygol fod Guto’r Glyn eisoes wedi mynd i Ffrainc ar gyfer ymgyrch cyntaf Richard, dug Iorc, yn 1436. Rhoddai hynny gyfle iddo gwrdd â Syr Rhisiart Gethin yno. Canwyd y cywydd yng Nghymru, ac felly ar ôl i Guto ddychwelyd adref. Mae hynny’n awgrymu 1437 neu 1438. Ymdriniaeth lawnach: Syr Rhisiart Gethin.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd I.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 58 llinell.
Cynghanedd: croes 40% (23 llinell), traws 14% (8 llinell), sain 45% (26 llinell), llusg 2% (1 llinell).

1 oer  Mae’r gair hwn yn aml yn dynodi ‘trist’ yn yr Oesoedd Canol, gw. GPC 2624 (b).

1–6  Mae’r cywydd ar ei hyd yn dangos bod Guto yng Nghymru, nid yn Normandi (cf. 15–18 yn enwedig). Yn 1–6 mae’n edrych yn ôl ar olygfa a welodd (neu un y mae’n honni ei fod wedi ei gweld). Ymhle mae’r olygfa yn y llinellau hyn yn digwydd? Dyma dri ateb posibl: i. yn ôl yng Nghymru, a Guto’n disgwyl dychweliad y capteiniaid o Ffrainc; ii. mewn porthladd yn ne Lloegr, a Guto ar ei ffordd adref o’r Cyfandir, ond yn methu gweld Syr Rhisiart ymhlith y rhai sy’n dychwelyd gydag ef; iii. yr un fath â ii., ond rywle yng ngogledd Ffrainc, a Guto eto ar ei ffordd adref, a phobl eraill yn ymlwybro o Rouen adref, ond Rhisiart heb fod yn eu plith. Cyfeiria o waelod Lloegr yn 4 at gynefin y capteiniaid Seisnig, nid at leoliad yr olygfa hon.

2 ieirll  Richard, dug Iorc, oedd arweinydd y fyddin a aeth i Normandi yn 1436. Gydag ef roedd ieirll Suffolk a Chaersallog (Barker 2009: 249). Gwasanaethodd tan fis Tachwedd 1437 (Johnson 1988: 30, Barker 2009: 260). Tybed ai diwedd 1437, felly, yw dyddiad yr olygfa a ddisgrifir yn 1–6?

2 Rhôn  Rouen, prifddinas Normandi a chanolfan grym y Saeson yng ngogledd Ffrainc.

6 beili  Ffrangeg bailli, sef swyddog a oedd yn gyfrifol am ranbarth o Normandi (Powicke 1913: 71–3).

6 Mawnt  Mantes, tref a leolir ar afon Seine rhwng Rouen a Pharis, ychydig y tu allan i Normandi heddiw. Roedd Syr Rhisiart Gethin yn gapten ar y dref yn y cyfnod 1432–7. Collodd y Saeson Baris yn 1436, ac felly roedd Mantes yn amddiffyn ffin y tir a oedd yn dal i fod yn eu meddiant.

8 Buellt  Casglodd Fychan (2007) gyfeiriadau llên gwerin at dad Rhisiart Gethin, Rhys Gethin, yn ardal Buellt.

11 dyledog daid  Cyfeiriad cyffredinol, efallai, at daid Rhisiart Gethin fel gŵr o dras, yn hytrach nag at unrhyw hynodrwydd arbennig a berthynai iddo. Taid Rhisiart ar ochr ei dad oedd Owain o Lwyn-y-gwch (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9). Priododd tad Rhisiart ddwywaith, felly nid yw’n sicr pwy oedd ei daid ar ochr ei fam, ai Llywelyn Fychan (WG ‘Seisyll’ 4) neu Risiart o Fuellt (WG ‘Elystan Glodrydd’ 12). Gan fod taid hefyd yn ffurf luosog tad, gallai olygu ‘cyndadau’ yma.

12 cwrseriaid  Meirch rhyfel cyflym, gw. GPC 649.

15 di-wair  Ffurf ar diwair a acennir ar y sillaf olaf, fel y mae’r gynghanedd yma’n mynnu. Gw. GPC 1054.

16 yng nghefn  Am yr ystyr ‘canol’, gw. GPC 446.

18 mab Rhys  WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9. Ymladdodd Rhys Gethin ar ochr Owain Glyndŵr.

20 y wlad oludawg  Cyfeiriad dadlennol. Nid yw’n syndod fod gwŷr a oedd yn gyfarwydd â thirwedd mor anial â Buellt yn ystyried Normandi yn lle delfrydol i ennill ffortiwn.

22 aer aparawnt  Yr etifedd eglur, yn Saesneg ‘heir apparent’, etifedd nad oes disgwyl iddo gael ei ddisodli gan unrhyw ymgeisydd arall; arferir y term yn aml am y mab hynaf. Yma mae’n cyfeirio at Charles VII o Ffrainc. Yn sgil Cyfamod Troyes (1420) dietifeddwyd ef gan ei dad, Charles VI, a gwnaed brenin Lloegr yn etifedd Coron Ffrainc. Yn 1422 bu farw Charles VI ac o dan amodau’r Cyfamod, Harri VI o Loegr a ddaeth yn frenin Ffrainc. Parhaodd Charles VII i frwydro i gael ei gydnabod yn frenin, fodd bynnag. Galwai’r Saeson ef yn wawdus ‘The Dauphin’, sef teitl traddodiadol a roddid i fab hynaf brenin Ffrainc, yr etifedd eglur.

26 Pyr  Pyrrhus, mab Achilles, gw. GLlLl 17.16n, GDC 3.16n a GIRh 4.42n.

26 ym min Paris  Rhyw 30 milltir sydd rhwng Mantes a Pharis.

27 pwyntiaw  GPC 2952 d.g. pwyntiaf2 ‘pennu, penodi, gosod, trefnu, ordeinio’, ond nid yw hynny’n arbennig o addas yma. Cf. yn lle hynny yr ystyr ‘to prick with something sharp; to pierce, stab’ a nodir yn OED Online s.v. point, v.1. Gan fod yr enw pwynt yn fenthycair, byddai’n rhesymol derbyn bod y ferf sy’n tarddu ohono, pwyntio, yn dwyn ystyron tebyg i’r ferf Saesneg gyfatebol.

27 Melan  Milan yn yr Eidal, dinas enwog am gynhyrchu dur o ansawdd uchel.

31 Bresawnt  Gallai fod yn enw person neu le: cadfridog Ffrengig yr ymladdai Syr Rhisiart ag ef, efallai, neu ryw gymeriad hanesyddol neu chwedlonol y cymherir Syr Rhisiart ag ef, neu efallai dref neu ardal yn Ffrainc yr ymosodai Syr Rhisiart arni. Ond yn ei gyd-destun, digon posibl mai cyfeiriad ydyw at Brescia yn yr Eidal, tref a oedd yn enwog am gynhyrchu arfau dur. Mae’r bardd eisoes wedi sôn am Milan yn 27, a byddai cyfeiriad at arfau gwych yn cyd-fynd yn dda â 30 (am browys yn yr ystyr ‘disglair’, gw. GPC 334 (b)). Efallai fod Guto’n gyfarwydd â Brescia drwy gyfrwng y Ffrangeg: enw Ffrangeg ar ardal Brescia yw Le Bressan, ffurf ddigon agos i’r hyn a geir yn y gerdd. Llai tebygol yw ffurf dreigledig presawnt, a allai fod yn amrywiad ar presen, present, neu presan, presant: ni restrir presawnt yn GPC.

36 drych  Am ei fod yn ddelfryd iddynt, ac am fod ei arfau’n disgleirio fel drych.

40 aur ei goler  Nod amgen marchog.

42 ystaenu  O’r ystyr ‘difwyno’ fe ddatblygodd yr ystyr ‘bwrw i’r cysgod, rhagori ar’, a allai fod yn berthnasol yma, gw. GPC 3326 d.g. staeniaf.

45 Gŵr bellach a grybwyllwn  Cf. GIG VIII.67 a XX.20 Gŵr bellach a grybwyllir.

47 Corf llorf llu deutu Dotawnt  Llinell anarferol o gain, yn cynnwys cynghanedd sain ddwbl a chyfuniad geiriol (corf llorf) sy’n dwyn i gof waith y Gogynfeirdd fel Gruffudd ap Maredudd: cf. GGMD i, 2.2 Llorf corf cad, ceimiad camon dasgu, ac enghreifftiau eraill yn ibid. 3.21, 74, 4.28 &c. Mae’r adlais yn cyd-fynd â dyddiad cynnar y gerdd hon yng ngyrfa’r bardd.

47 Dotawnt  Anhysbys: enw afon neu nant, efallai.

48 arglwydd mên  Arglwydd sy’n dal tir o dan arglwydd arall, Saesneg ‘mesne lord’. Harri VI oedd priod arglwydd Mantes (yn ôl cred y Saeson) ac roedd Syr Rhisiart Gethin yn ei dal dan ei awdurdod ef.

50 maes  Hynny yw, maes brwydr: cyffredin oedd defnyddio maes ar ei ben ei hun yn yr ystyr hon, yn yr un modd ag y defnyddid ‘field’ yn Saesneg y cyfnod am ‘battle(field)’.

52 Lawnslod di Lag  Lancelot du Lac, arwr rhamant.

53–8  Mae’r adran hon o’r gerdd wedi ei chanu ar batrwm GIG II.73–82, sef diwedd cywydd Iolo Goch i Syr Hywel y Fwyall, lle anogir ef i gynnal castell Cricieth. Mae 53–4 yng nghywydd Guto yn unffurf â 73–4 yno, ac mae’r llinell olaf yn adleisio llinell olaf cywydd Iolo (A chadw’r gaer – iechyd i’r gŵr!). Roedd Syr Hywel yntau’n enwog am ei wasanaeth yn Ffrainc.

57 Otiel  Un o arwyr chwedlau Siarlymaen, gw. GGLl 12.48n; GGMD iii, 2.35n. Otwel yw’r ffurf yn 72.17.

Llyfryddiaeth
Barker, J. (2009), Conquest: The English Kingdom of France 1417–1450 (London)
Fychan, C. (2007), Pwy Oedd Rhys Gethin? Yr Ymchwil am Gadfridog Owain Glyndŵr (Aberystwyth)
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Powicke, F.M. (1913), The Loss of Normandy (1189–1204) (Manchester)

The recipient is Sir Richard Gethin ap Rhys Gethin ab Owain of Builth, a professional soldier who fought in the English armies in France. It is likely that Guto’r Glyn met Sir Richard Gethin while he was in France in 1436, and that this poem belongs to the period 1437/8, after Guto returned home (lines 1–6n). Guto received a golden cloak from Sir Richard in exchange for praising him back home in Wales, a mark of generosity which in turn inspired a praise poem by Ieuan ap Hywel Swrdwal which echoes parts of Guto’s poem (GHS poem 24).

The poet begins by lamenting the fact that he failed to see Sir Richard among the captains coming home from France (1–6). Sir Richard, it scarcely needs saying, is the best of them (7–14). Why, then, is there no prospect of his returning to his native soil, even after the poet has appealed to the Virgin Mary to exercise her influence (15–18)? The reason, of course, is that duty compels him to remain in y wlad oludawg ‘the wealthy country’ (19–20). The town of Mantes is in his care, and the enemy, Charles of France, an obvious threat (21–2). But it is not merely duty which keeps him there, but also the opportunity for sport (25–8). Sir Richard is winning fame in the action: that is sufficient reason to remain. Next the poet turns to praising Sir Richard as the best of his kind (29–32). When he does eventually come home, he will certainly draw the admiring gaze of all onlookers (33–40). Sir Richard is England’s champion (41–4; note how Guto, in the context of the French wars, readily identifies with the cause of England). Sir Richard may be compared with Arthur and Lancelot (45–52). The poem ends by wishing a long life to the hero in his defence of Mantes from the enemy (53–8). The style is reminiscent of the fourteenth-century poets, and the influence of Iolo Goch in particular is clear (47n, 53–8n). This early poem thus offers valuable information regarding Guto’s poetic inheritance.

Date
1437x1438. The date depends on the fact that Sir Richard vanishes from official records after 1438. That suggests that he died towards the end of that year or soon afterwards, before Guto’s attested visit to France in 1441. That makes it likely that Guto’r Glyn had fought previously in France, i.e. as part of the duke of York’s first expedition in 1436, which would have allowed him to meet Sir Richard Gethin there. The poem was performed in Wales, i.e. after Guto returned home. That suggests 1437 or 1438. Fuller discussion: Sir Richard Gethin.

The manuscripts
This poem occurs in 26 manuscripts. Of these 15 were used for the edition. The biggest difference between them is the order of 3–16, in respect of which the copies divide as follows: (i) LlGC 3057D, BL 14894, C 2.114, Pen 152; (ii) Pen 82, BL 14989, LlGC 3046D, C 1.2; (iii) BL 14965 and Llywelyn Siôn’s five copies (LlGC 970E, LlGC 21290E, LlGC 6511B, C 5.44 a Llst 134). Stowe 959 is different again. Although Pen 152 generally agrees with group (i), it also shows some similarities with BL 14989 and C 1.2, and it may be composite. Parts of the text in BL 14984 are lost through damage to the manuscript and the text of Stowe 959 is missing after line 41 owing to the loss of a leaf. Pen 82 contains only the beginning of each line.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem I.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 58 lines.
Cynghanedd: croes 40% (23 lines), traws 14% (8 lines), sain 45% (26 lines), llusg 2% (1 line).

1–6  The poem taken as a whole shows that Guto is in Wales, not Normandy (cf. 15–18 in particular). In 1–6 he is recalling a scene which he observed (or claims to have observed). Where is this scene playing out? Three possible answers are: i. back in Wales, with Guto expecting the return of the captains from France; ii. in a port in the south of England, with Guto on his way home from the Continent, but not seeing Sir Richard amongst those who are making the journey with him; iii. like (ii), but somewhere in northern France, Guto still being on his way home, other people likewise making their way from Rouen, but Richard not among them. In 4 o waelod Lloegr refers to the home of the English captains, not the place where this scene occurred.

1 oer  This word often means ‘sad’ in the Middle Ages, see GPC 2624 (b).

2 ieirll  Richard, duke of York, led the army which went to Normandy in 1436. With him were the earls of Suffolk and Salisbury (Barker 2009: 249). He served until November 1437 (Johnson 1988: 30, Barker 2009: 260). Does that therefore mean that the scene described in 1–6 took place in late 1437?

2 Rhôn  Rouen, capital of Normandy and the centre of English power in northern France.

6 beili  French bailli, the title of an official responsible for a region of Normandy (Powicke 1913: 71–3).

6 Mawnt  Mantes, a town on the river Seine between Rouen and Paris, just outside today’s Normandy. Sir Richard Gethin was captain of the town in the period 1432–7. The English lost Paris in 1436, which meant that Mantes became a frontier post.

8 Buellt  Fychan (2007) collects references from folklore to Richard Gethin’s father, Rhys Gethin, in the Builth area.

11 dyledog daid  A non-specific reference, perhaps, to Richard Gethin’s grandfather as a man of lineage, rather than an indication that there was anything particularly special about him. Richard’s grandfather on his father’s side was Owain of Llwyn-y-gwch (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9). Richard’s father married twice, so it is not certain who Richard’s grandfather was on his mother’s side, either Llywelyn Fychan (WG ‘Seisyll’ 4) or Richard of Builth (WG ‘Elystan Glodrydd’ 12). Since taid can also be a plural form of tad ‘father’, it may also mean ‘forefathers’ here.

12 cwrseriaid  Coursers, swift warhorses, see GPC 649.

15 di-wair  A variant of diwair with the final syllable stressed, as the cynghanedd requires here. See GPC 1054.

16 yng nghefn  For the meaning ‘centre’, see GPC 446.

18 mab Rhys  WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9. Rhys Gethin fought for Owain Glyndŵr, see background note.

20 y wlad oludawg  A revealing comment. It is not surprising that men used to the harsh landscape of Builth considered Normandy to be an ideal place to earn their fortune.

22 aer aparawnt  English ‘heir apparent’, an heir who is not expected to be displaced by any other heir; often used of the eldest son. Here it refers to Charles VII of France. Under the Treaty of Troyes (1420) he was disinherited by his father, Charles VI, and the king of England was declared to be heir to the Crown of France. In 1422 Charles VI died, and under the terms of the treaty Henry VI of England became king of France. Charles VII continued to fight to be recognised as king, however. The English mockingly called him the ‘Dauphin’, a title traditionally enjoyed by the eldest son of the king of France, the heir apparent.

26 Pyr  Pyrrhus, son of Achilles, see GLlLl 17.16n, GDC 3.16n and GIRh 4.42n.

26 ym min Paris  Mantes is about 30 miles from Paris.

27 pwyntiaw  GPC 2952 s.v. pwyntiaf2 ‘appoint, assign, set, order’, but these meanings do not fit especially well here. Cf. instead the meanings ‘to prick with something sharp; to pierce, stab’ which are noted in OED Online s.v. point, v.1. Since pwynt is a loan-word, it would be reasonable to assume that the derived verb pwyntio could bear similar meanings to the matching English verb.

27 Melan  Milan in Italy, a city famous for producing high-quality steel.

31 Bresawnt  This might be the name of a person or a place: a French commander against whom Sir Richard fought, perhaps, or some historical or legendary character with whom Sir Richard is being compared, or perhaps a town or region of France which Sir Richard attacked. However, in the context, it is quite likely to refer to Brescia in Italy, a town famous for producing steel weapons. The poet has already mentioned Milan in 27, and a reference to splendid arms would follow on well from 30 (for browys with the meaning ‘bright, splendid’, see GPC 334 (b)). Perhaps Guto knew of Brescia through French: the French name for the Brescia region is Le Bressan, which is quite close to the form in the poem. Less likely, it could be a lenited form of presawnt, a conceivable variant of presen, present, or of presan, presant: but presawnt is not listed in GPC.

36 drych  Both because he is an ideal for them, and because his arms shine like a reflective mirror.

40 aur ei goler  The gold collar was the sign of a knight.

42 ystaenu  From the meaning ‘blemish’ there developed the figurative meaning ‘eclipse, overshadow, surpass’, which might be relevant here, see GPC 3326 s.v. staeniaf.

45 Gŵr bellach a grybwyllwn  A reminiscence of Iolo Goch, cf. GIG VIII.67 and XX.20 Gŵr bellach a grybwyllir.

47 Corf llorf llu deutu Dotawnt  An unusually ornate line, containing cynghanedd sain ddwbl and a verbal collocation (corf llorf) which is reminiscent of the works of the Gogynfeirdd like Gruffudd ap Maredudd: cf. GGMD i, 2.2 Llorf corf cad, ceimiad camon dasgu, and other examples ibid. 3.21, 74, 4.28 &c. The echo fits the early date of this poem in the poet’s career.

47 Dotawnt  Unknown: possibly a river or stream.

48 arglwydd mên  A mesne lord, a lord who holds land under a higher lord. Henry VI was lord of Mantes (from the English point of view) and Sir Richard Gethin held it under the king’s authority.

50 maes  That is, a battlefield: it was common to use maes on its own with this meaning, just as ‘field’ was used in the English of the period to mean ‘battle(field)’.

52 Lawnslod di Lag  Lancelot du Lac, a romance hero.

53–8  This section of the poem is based on GIG II.73–82, the end of Iolo Goch’s poem for Sir Hywel of the Battleaxe, in which he is urged to defend Cricieth castle. 53–4 of Guto’s poem are identical to 73–4 of Iolo’s, and the last line echoes the last line of Iolo’s poem (A chadw’r gaer – iechyd i’r gŵr!). Sir Hywel was famous for his exploits in France.

57 Otiel  A hero of the Charlemagne cycle, see GGLl 12.48n; GGMD iii, 2.35n. Otwel is the form found in 72.17.

Bibliography
Barker, J. (2009), Conquest: The English Kingdom of France 1417–1450 (London)
Fychan, C. (2007), Pwy Oedd Rhys Gethin? Yr Ymchwil am Gadfridog Owain Glyndŵr (Aberystwyth)
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Powicke, F.M. (1913), The Loss of Normandy (1189–1204) (Manchester)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin o Fuellt, 1424–38

Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin o Fuellt, fl. c.1424–38

Top

Canodd Guto’r Glyn ddau gywydd i Syr Rhisiart Gethin (cerddi 1 a 2), a chanwyd un arall gan Ieuan ap Hywel Swrdwal (GHS cerdd 24). Ar sail y rhain gwyddom fod Syr Rhisiart yn gysylltiedig â Buellt (1.8, 2.20, GHS 24.16). Gwyddom hefyd mai Rhys Gethin oedd enw ei dad (1.18 a GHS 24.10) ac mai enw ei daid, sef tad Rhys Gethin, oedd Owain (GHS 24.10). Mae Ieuan ap Hywel Swrdwal yn disgrifio Rhys Gethin fel gŵr a dorrai siad Sais (GHS 24.32). Gan fod y bardd eisoes wedi awgrymu y carai Rhisiart Gethin achub ei wlad ef ei hun, sef Cymru, rhag gormes, mae hyn yn edrych fel awgrym fod Rhys Gethin wedi ymladd o blaid Owain Glyndŵr, ac yn wir fe geir tystiolaeth sy’n ategu hynny (Fychan 2007: 11–17).

Achres
Ceir ach Syr Rhisiart Gethin yn WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9. Mae’n cytuno â’r cerddi o ran enw’r tad a’r taid. Dangosir y rheini a enwir gan Guto mewn print trwm a thanlinellir enw’r noddwr.

lineage
Achres Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin

Gyrfa Syr Rhisiart Gethin
Yn ôl nodyn yn Pen 121, yn Ffrainc yr urddwyd Rhisiart Gethin yn farchog (gw. WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9). Mae’r beirdd hwythau’n cyfeirio ato fel marchog (1.11, 1.40, GHS 24.2, 24.68). Rhaid ei fod wedi ei urddo erbyn 1433/4 oherwydd mae dogfen sy’n dwyn y dyddiad hwnnw yn ei alw’n Richardus Ghethyne, chevalier, de Wallia (Stevenson 1864: 543).

Mae’r cyfan sy’n hysbys am ei yrfa yn ymwneud â’i wasanaeth yng ngogledd Ffrainc. Dyma amlinelliad o’i yrfa, gan nodi mewn cromfachau y ffynhonnell wreiddiol neu’r ffynhonnell eilaidd a ddefnyddiwyd:

1424 (17 Awst) Ymladdodd ym mrwydr Verneuil (rhestr o enwau’r sawl a ymladdodd yno, mewn trawsysgrifiad o’r 16g., Stevenson 1864: 394). 1424 (19 Hydref) Capten Exmes (mwstwr, SoldierLME (www.medievalsoldier.org)) 1429 (Mai–Mehefin) Roedd gyda Mathau Goch yn dal Beaugency yn erbyn Jeanne o Arc; fe’u gorfodwyd i ildio’r dref (cronicl Jehan de Waurin, Hardy 1879: 282). 1429 (Gorffennaf/Awst) Arweiniodd gwmni o 160 o wŷr ym myddin John, dug Bedford, i amddiffyn cyffiniau Paris rhag Jeanne o Arc (Curry 1994: 61, ar sail dogfen yn y Bibliothèque nationale). 1432 (oddeutu Mai) Yn gapten Mantes, rhoddodd 1,100 o livres tournois yn fenthyg i John, dug Bedford, ar gyfer costau gwarchae Lagny (Williams 1964: 214, ond nid yw hi’n enwi ei ffynhonnell). 1432 (21 Medi) Capten Mantes (Marshall 1975: 259). 1433–4 Nodir ei enw fel capten a beili Mantes, gan restru’r niferoedd dan ei reolaeth, a’i alw’n chevalier, sef marchog (dogfen yn rhestru’r capteiniaid yn Ffrainc rhwng Gŵyl Fihangel 1433 a Gŵyl Fihangel 1434, Stevenson 1864: 543). 1434 (29 Mawrth) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME). 1434 (16 Ebrill) Capten ar fyddin yn y maes (mwstwr, SoldierLME). 1434 (29 Mehefin) Roedd canran o arsiwn Mantes i ffwrdd yn y Gâtinais ac yng ngwarchae Montfort (mwstwr, SoldierLME). Nid yw’n eglur a oedd Rhisiart Gethin gyda hwy. 1435 Nodir ei enw fel un o gapteiniaid dug Bedford, heb nodi ei fod yn gapten ar unrhyw dref (rhestr o enwau capteiniaid John dug Bedford, mewn trawsysgrifiad o’r 16g., Stevenson 1864: 436). Mae’n bosibl ei fod yn gapten ar Conches am gyfnod: noda Marshall (1975: 240) fod dogfen yn cyfeirio ato fel capten y dref, rywdro cyn tua mis Medi 1435. Ond roedd Henry Standish yn gapten yno ar 6 Gorffennaf (Marshall 1975: 240), Richard Burghill tua mis Medi (Marshall 1975: 241) a Standish eto ar 6 Hydref (SoldierLME). 1435 (1 Tachwedd) Nodir ei fod yn farchog, yn feili ac yn gapten Mantes (derbynneb am gyflogau’i filwyr, Siddons 1980–1: 535). 1436 (30 Mawrth) Capten Mantes (Marshall 1975: 259). 1437 (26 Chwefror) Capten Mantes (Marshall 1975: 259). 1437 (22 Mai) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME). 1437 (12 Tachwedd) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME). 1438 (31 Mawrth) Capten Conches (mwstwr, SoldierLME). 1438 (22 Ebrill) Nodir ei fod yn farchog, yn gyn-feili ac yn gyn-gapten Mantes (derbynneb am gyflogau’i filwyr, Siddons 1980–1: 536). 1438 (5 Mai) Nodir ei fod yn feili Evreux ac yn gapten Conches (derbynneb a gyfeiriwyd at rysyfwr cyffredinol Normandi, Siddons 1980–1: 536). 1438 (7 Tachwedd) Capten Conches (mwstwr, SoldierLME). 1438 (20 Rhagfyr) Comisiynydd dros Edmund Beaufort yn Maine ac Anjou (enwir ef mewn cytundeb rhwng Beaufort a John II, dug Alençon, a Charles o Anjou, Joubert 1889: 269–76).

Blynyddoedd olaf Syr Rhisiart Gethin a dyddiadau’r cerddi
Ymddengys fod Syr Rhisiart Gethin wedi gadael Mantes rywdro rhwng 12 Tachwedd 1437, sef dyddiad ei fwstwr olaf yno, a 28 Chwefror 1438, pan oedd Sir Thomas Hoo yn gapten (SoldierLME). Mae’r rheswm yn amlwg: fe’i gwnaed yn gapten Conches ac yn feili Evreux. Fe’i hapwyntiwyd yn gapten Conches erbyn 31 Mawrth, ond yn fuan wedyn mae’n diflannu: dyddiad ei fwstwr olaf yn Conches yw 7 Tachwedd 1438. Mwstrodd Richard Burghill y garsiwn yn Conches ar 21 Tachwedd (SoldierLME), felly nid oedd Rhisiart Gethin bellach yn gapten ar y dref honno. Erbyn hynny mae’n debygol ei fod yn gwasanaethu yn Maine ac Anjou, fel y tystia llythyr Edmund Beaufort, dyddiedig 20 Rhagfyr 1438. Nid oes sôn amdano wedi hynny.

Mae diflaniad Syr Rhisiart Gethin o’r cofnodion ar ôl diwedd 1438 yn awgrymu’n gryf iawn ei fod wedi marw tua’r adeg honno. Os felly, ni all fod cerddi Guto’r Glyn yn perthyn i gyfnod ei wasanaeth dan Richard, dug Iorc, yn 1441, gwasanaeth y ceir tystiolaeth ddogfennol drosto, nac i unrhyw gyfnod wedi hynny. Mae’n ymddangos bod rhaid derbyn, felly, fod Guto wedi gwasanaethu yn Ffrainc cyn 1441. Yr achlysur amlwg fyddai ymweliad cyntaf dug Iorc, sef yn 1436.

Mae Guto’n dweud yn eglur fod Rhisiart yn rheoli Mantes (1.6 beili Mawnt, 1.10, 21, 32, 48, 56, 2.10 nêr Mawnd, 2.54). Nid cyfeirio at y gorffennol y mae: anogir Rhisiart i gadw’r dref rhag y Ffrancwyr. Nid yw Guto’n crybwyll Conches. Mae Ieuan ap Hywel Swrdwal, ar y llaw arall, yn fwy annelwig: mae’n sôn am fynd i chwilio am Risiart yn Rouen, Mantes a Conches (GHS 24.9–14). Prifddinas Normandi oedd Rouen, ac felly byddai’n ddigon naturiol sôn amdani yn y cyd-destun, ond mae’r lleill yn lleoedd arbennig: rhaid bod rhyw gysylltiad rhwng Syr Rhisiart â’r ddau le hyn.

Roedd perthynas Rhisiart Gethin â Mantes wedi dechrau yn 1432, fe ymddengys, a pharhaodd tan ddiwedd 1437 neu ddechrau 1438. Gan hynny, rhaid bod y ddau gywydd o eiddo Guto’r Glyn wedi eu canu yn ystod y blynyddoedd 1436–8. Gan fod Ieuan ap Hywel Swrdwal yntau’n sôn am wasanaeth milwrol Guto yn Ffrainc, rhaid bod ei gywydd yntau’n perthyn i’r un cyfnod. Ond mae’r cyfeiriad at Conches yn awgrymu y dylid ei briodoli i’r flwyddyn 1438, oherwydd nid oes cysylltiad hysbys rhwng Syr Rhisiart a’r dref honno cyn hynny. Mae’r posibilrwydd ei fod wedi bod yn gapten ar y dref am ysbaid fer yn 1435 yn tywyllu pethau, oherwydd os gwir hynny, gallai Ieuan fod wedi crybwyll Conches fel lle ac iddo gysylltiad â Syr Rhisiart unrhyw bryd yn y cyfnod 1436–8.

Yn ymarferol, rhaid gwrthod 1436: dyna’r amser pan oedd Guto ei hun yn Ffrainc. Cyrhaeddodd lluoedd dug Iorc Normandi ym mis Mehefin. Os gwasanaethodd Guto am chwe mis, fel roedd yn gyffredin, byddai wedi gadael ddiwedd 1436 neu tua dechrau 1437. Y tebyg yw iddo ganu cerdd 1 yn ôl yng Nghymru yn y flwyddyn honno neu yn 1438. Gan fod Ieuan ap Hywel Swrdwal yn cyfeirio at gywydd Guto ar gyfer Syr Rhisiart, ac yn wir yn adleisio darnau o gerdd 1 gan Guto, rhaid bod ei gywydd yntau’n dyddio i 1437x1438, i 1438 yn ôl pob tebyg ar sail y cyfeiriad at Conches.

Mae dyddiad cerdd 2 yn ansicr. Mae’n sôn am fraw a gafodd y bardd wrth glywed yn anghywir fod Syr Rhisiart wedi ei ddal gan y gelyn. Nid oes modd dyddio’r digwyddiad hwn yn sicr, ond mae’n werth awgrymu un posibilrwydd. Fel y nodwyd, gwnaed mwstwr garsiwn Mantes ar 12 Tachwedd 1437, a Syr Rhisiart Gethin yn gapten ar y pryd. Ar 30 Tachwedd ceir cofnod o fwstwr arall (SoldierLME). Y tro hwn, milwyr a anfonwyd i Mantes dan Sir Lewis Despoy a fwstrwyd. Gelwir hwy yn ‘expeditionary army/garrison reinforcements’. Ni chlywn ddim am Syr Rhisiart mewn perthynas â Mantes ar ôl 12 Tachwedd: y cyfeiriad nesaf ato yw fel capten Conches ar 31 Mawrth 1438. Rhaid bod rhywbeth wedi digwydd yn Mantes neu gerllaw i orfodi’r Saeson i anfon byddin yno ym mis Tachwedd 1437. Awgrymaf fod rhyw wrthdaro rhwng y garsiwn a’r Ffrancwyr wedi digwydd, ac mai dyna’r achlysur pan aeth Syr Rhisiart Gethin ar goll am ysbaid, gan godi’r sïon gwag y cwyna Guto mor hallt amdanynt.

Canodd Lewys Glyn Cothi i nai Syr Rhisiart Gethin, sef Lewis ap Meredudd o Lanwrin, Cyfeiliog (GLGC cerdd 197). Yn y gerdd honno mae’n atgoffa Lewis o gampau ei ewythr ar y Cyfandir (ibid. 197.28, 35–8, 51–2).

Llyfryddiaeth
Curry, A. (1994), ‘English Armies in the Fifteenth Century’, A. Curry and M. Hughes (eds.), Arms, Armies and Fortifications in the Hundred Years War (Woodbridge), 39–68
Fychan, C. (2007), Pwy Oedd Rhys Gethin? Yr Ymchwil am Gadfridog Owain Glyndŵr (Aberystwyth)
Hardy, W. (1879) (ed.), Recueil des croniques et anciennes istoires de la Grant Bretaigne, a present nomme Engleterre par Jehan de Waurin (London)
Joubert, A. (1889), ‘Documents inédits pour servir à l’histoire de la guerre de Cent-Ans dans le Maine de 1424 à 1444, d’après les Archives du British Muséum et du Lambeth Palace de Londres’, Revue historique et archéologique de Maine, 26: 243–336
Marshall, A.E. (1975), ‘The Role of English War Captains in England and Normandy, 1436–1461’, (M.A. Wales [Swansea])
Siddons, M. (1980–2), ‘Welsh Seals in Paris’, B xxix: 531–44
Stevenson, J. (1864) (ed.), Letters and Papers Illustrative of the Wars of the English in France During the Reign of Henry the Sixth, King of England, ii.2 (London)
Williams, E.C. (1963), My Lord of Bedford, 1389–1435: being a life of John of Lancaster, first Duke of Bedford, brother of Henry V and Regent of France (London)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)