databas cerddi guto'r glyn

Meirch


Mae barddoniaeth yr Oesoedd Canol yn llawn cyfeiriadau at feirch neu geffylau. Marchogaeth ceffylau oedd y ffordd orau i deithio, ac i fardd a oedd yn crwydro’r wlad, roedd marchogaeth yn ffordd llawer mwy effeithiol i deithio nag ar droed. Mae’n debyg bod i geffylau hefyd arwyddocâd arbennig yn y traddodiad Cymreig ers y Cyfnod Cynnar mewn rhyddiaith ac yn y farddoniaeth.[1] Mae Guto a’i gyfoeswyr yn sôn o hyd am feirch enwog o’r gorffennol gan eu cysylltu â seintiau ac arwyr mytholegol (cerdd 39.45-7).

Mae canmol noddwr am ei ddarpariaeth o geffylau yn gyffredin ym marddoniaeth y cyfnod. Dywedodd Guto’r Glyn am Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral, Oedd aml ei dda a’i emys ‘roedd yn helaeth ei gyfoeth a’i feirch’ (cerdd 74.36), a chanmolodd Syr Siôn Bwrch am ddarparu’r ceffylau gorau i’w feirdd a’i denantiaid (cerdd 81.43). Roedd rhai uchelwyr yn bridio ceffylau, megis yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell. Yn ei gerdd o foliant iddo, mae Guto’n sôn am geffylau’r abad (cerdd 115) gan ganmol tir yr abaty lle tyfir bwyd o safon ar gyfer ceffylau:

Ni bu dir yn y byd well, 
Bwyd meirch lle bu ŷd Marchell, 
Gwenithdir, gweirdir a gwŷdd, 
A galw ’dd wyf Arglwydd Ddafydd 
Ni bu tir gwell yn y byd,
bwyd i geffylau lle bu ŷd Marchell,
tir yn tyfu gwenith, tir ar gyfer gwair a choed,
a galw Arglwydd Dafydd a wnaf

(cerdd 115.13-16)


Roedd Powys yn enwog am ei cheffylau ers dyddiau Gerallt Gymro, a bu Cynddelw Brydydd Mawr yntau’n fawr ei ganmoliaeth i geffylau tywysogion Powys yn y ddeuddegfed ganrif.[2]
A falconer riding his horse to show the month of May in a calendar in the 'De Grey Book of Hours', NLW MS 15537C, f.5.
A falconer and his horse
Click for a larger image

Yn y cerddi sy’n diolch neu yn gofyn am anifeiliaid, y march yw’r anifail mwyaf poblogaidd.[3] Canodd Guto’r Glyn ddwy gerdd i ofyn ac i ddiolch am geffylau, sef i ofyn march gan Faredudd ab Ifan Fychan o Gedewain ar ran Rheinallt ap Rhys (cerdd 39) ac i ddiolch am farch gan Ddafydd ap Meurig Fychan o Nannau (cerdd 51). Mae’n amlwg fod dwyn anifeiliaid yn rhywbeth cyffredin iawn yn y cyfnod hwn gan fod Guto, yn y ddwy gerdd, yn nodi mai lladrata ceffyl (sef ceffyl ei noddwr yn achos cerdd 39 a’i geffyl ef ei hun yn achos cerdd 51) fu’r rheswm dros y cais am rodd.

Mae cerdd 39 yn gerdd ofyn am farch gan Faredudd ab Ifan Fychan o Gedewain ar ran Rheinallt ap Rhys Gruffudd. Defnyddir sawl term yn y gerdd i gyfeirio at yr anifail a ddeisyfir, sef: march, gorwydd, eddestr, a planc. Gair anghyffredin a hynafol am geffyl yw eddestr a benthyciad yw planc neu blanc o’r Saesneg Canol blank ‘horse, steed’ (GPC 2816 d.g. planc²). Mwy cyfarwydd yw’r gair gorwydd, sef term sy’n cyfateb i’r Saesneg stallion. Gair benthyg o’r Saesneg yw hacnai, sef ceffyl o faintioli canolig neu geffyl marchogaeth. Disgrifir y ceffyl trwy ei ddyfalu’n fanwl iawn:

Peddestr o eddestr addwyn, 
Prior ffraeth yn pori’r ffrwyn. 
Os bwrw naid dros aber nant, 
Ef yw’r trechaf o’r trychant. 
March fal gwddf alarch yw fo, 
O myn y ffroenwyn ffrwyno, 
A’i fwnwgl yn addfwynwych 
Fal bwa’r crwth, flew byr crych, 
A’i fwng yn debig ddigon 
I fargod tŷ neu frig ton. 
Cerddedwr o farch gwych,
prior parablus yn cnoi’r ffrwyn.
Os rhydd naid dros geg nant,
ef yw’r trechaf o’r tri chant.
March megis â gwddf alarch yw ef,
os myn y creadur ffroenwyn ei ffrwyno,
a’i wddf yn lluniaidd
fel bwa’r crwth, blew byr crych,
a’i fwng yn debyg ddigon
i fondo tŷ neu frig ton.

(cerdd 39.55-64)


March teirblwydd dulas y gofynnir amdano a hwnnw heb ei wisgo â phedolau a ffrwyn eto. Tynnir sylw neilltuol at ei flew hir, fel blew llew neu flaidd, a’i fwng sydd fel bondo tŷ neu frig ton.

Diolch am geffyl a gafodd yn rhodd a wna Guto’r Glyn yn y gerdd i Ddafydd ap Meurig Fychan ac Elen ferch Hywel o Nannau (cerdd 51). Y tro hwn, cochliw yw’r ceffyl ac mae ei rinweddau yn cynnwys drotian gofalus a’i gyflymder wrth garlamu:

Llawn o nerth, llyna ei nod, 
Llew rhudd unlliw â’r hyddod. 
Da rhed deubarc, draed diball, 
Da iawn ei duth yn dwyn dall. 
Nid arbed, er dalled wyf, 
Ŵr neu wal, er na welwyf. 
Yn llawn nerth, dyna ei nodwedd,
llew cochliw o’r un lliw â’r ceirw.
Da y rhed tros ddau barc, traed di-feth,
da iawn ei drotian yn cludo un dall.
Nid yw’n ceisio cilio rhag, er dalled wyf,
ŵr neu wal, er na allaf weld.

(cerdd 51.39-44)


Dywed Guto wrthym nad yw ei olwg cystal ag y bu, ac felly bod angen ceffyl diogel a gofalus ei gam arno er mwyn teithio i gartrefi ei noddwyr.

Offer marchogaeth
Roedd amrywiaeth mawr o offer yn ymwneud â’r ceffyl yn oes Guto fel heddiw. Rhaid oedd cael cyfrwy, ffrwyn a phedolau, wedi eu llunio’n ofalus o ledr a haearn. Canodd Lewys Glyn Cothi gywydd i ofyn am gyfrwy a hefyd am harnais a chyfrwyac yn y ddwy gerdd mae’r harnais a’r cyfrwy yn cael eu disgrifio’n fanwl.[4] Rhan bwysig o’r cyfrwy oedd y corf sef ‘bwa cyfrwy’, gair a ddefnyddir mewn cysylltiadau ffigurol gan Guto. Disgrifia tyrau ar ben muriau adeilad (neu simneiau tŷ) fel corfau cyfrwyau, gan gyfeirio at y ddau gorn blaen ac ôl a godai’n bur uchel ar y cyfrwy (cerdd 22.64).

Yn ogystal â’r cyfrwy, y ffrwyn a’r pedolau, defnyddir nifer o daclau eraill, gan ddibynnu ar waith y ceffyl.[5] Arfer gyffredin oedd i farchog addurno ei geffyl â math o arfwisg neu orchudd arbennig a oedd yn dangos arwyddion herodrol. Ceir awgrym o hyn mewn cerdd gan Guto i Syr Rhisiart Gethin wrth iddo ddisgrifio ei noddwr fel Y marchog dyledog daid / A'r sêr ar ei gwrseriaid (1.11-12: ‘marchog a'i daid yn fonheddig / a'r sêr ar ei gwrseriaid’). Ceffyl cyflym oedd y cwrser, gair sy’n fenthyciad o’r Saesneg Canol coursere ‘courser’, GPC 649) Wrth foli meibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt cyfeiria Guto at eu meirch gemawg, ond anodd iawn yw gwybod yn union beth oedd ystyr hynny:

O daw rhyw ymdaro rhawg 
Ac ymwan ar feirch gemawg, 
Enw gwiwlan, yno gwelir 
Ceirw teg yn cwncwerio tir. 
Os daw rhyw ymrafael yn y man
a brwydro ar feirch wedi eu haddurno â gemau,
yno y gwelir, yn deilwng a phur eu clod,
y ceirw teg yn goresgyn tir.

(cerdd 103.27-30)



Bibliography

[1]: S. Davies & N.A. Jones, The Horse in Celtic Culture: Medieval Welsh Perspectives (Cardiff, 1997).
[2]: Am ymdriniaeth bellach gw. S. Davies & N.A. Jones, The Horse in Celtic Culture: Medieval Welsh Perspectives (Cardiff, 1997), 77-8.
[3]: B.O. Huws, ‘‘Praise lasts longer than a horse’: Poems of Request and Thanks for Horses’, S. Davies & N.A. Jones (eds.), The Horse in Celtic Culture: Medieval Welsh Perspectives (Cardiff, 1997), 143.
[4]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerddi 140 ac 154.
[5]: J. Clark, The medieval horse and its equipment, c.1150-c.1450 (Woodbridge, 1995), 363-4.
<<<Porthmona      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration