Anifeiliaid
Roedd sawl rheswm dros ffermio anifeiliaid yn y cyfnod hwn. Un o’r rhesymau pwysicaf dros gadw anifeiliaid oedd ar gyfer darparu bwyd, megis cig, cynnyrch llaeth, wyau, ac ati. Roedd gwlân a lledr hefyd yn gynnyrch pwysig, a chedwid rhai anifeiliaid i weithio’r tir, megis ychen i dynnu’r aradr (gw. offer ffermio), neu feirch i’w marchogaeth. Gwerthid anifeiliaid mewn marchnadoedd ac roedd rhaid porthmona’r anifeiliaid i gyrraedd y marchnadoedd hynny, boed hynny’n bell neu’n agos, fel a wnaeth Guto'r Glyn yn ôl cerdd 44. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru