databas cerddi guto'r glyn

Eglwysi


Sir Siôn Mechain was the parson of Llandrinio, c.1470.
Llandrinio church
Click for a larger image
Roedd eglwys y plwyf yn chwarae rôl enfawr ym mywyd pob unigolyn, ac roedd yn ofynnol i bawb fynychu gwasanaethau’r Eglwys. Roedd cartrefi gwŷr eglwysig hefyd yn bwysig i’r beirdd a chan fod llawer o wŷr eglwysig wedi derbyn addysg ac yn ymddiddori mewn barddoniaeth ac yn hanes Cymru (gw. Diddordebau uchelwyr: Dysg a gwybodaeth), roeddent yn noddwyr hael iawn.

Yn anffodus, ailadeiladwyd llawer o’r eglwysi yn ddiweddarach, er bod ambell eglwys wedi cadw ei ffenestr liw, llawr, neu furlun o gyfnod Guto’r Glyn. Ceir rhai gwrthrychau hefyd megis llestri cymun, cerfluniau addurniadol neu ddelwau Crefyddol (gw. Crogau a delwau). Roedd delw o Grist ar y groes neu’r Forwyn Fair yn hynod o arwyddocaol yn y cyfnod hwn a chanodd nifer o feirdd gerddi i’r delwau hyn yn eu heglwysi plwyf.

Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration