databas cerddi guto'r glyn

Cerddoriaeth

Musicians on the Cotehele Cupboard
Musicians on the Cotehele Cupboard
Click for a larger image

Roedd cerddoriaeth yn chwarae rhan amlwg ym mywyd cymdeithasol y beirdd a’r uchelwyr trwy’r Oesoedd Canol. Ceid sŵn offerynnau, fel y delyn a’r crwth ac ambell i offeryn arall yn ystod y wledd, yn enwedig mewn gwleddoedd i ddathlu gwyliau arbennig yn nhai’r uchelwyr ac yn yr abatai. Defnyddid yr offerynnau hyn ar gyfer cerddoriaeth seciwlar ac o bosibl yn gyfeiliant i’r farddoniaeth, ac felly’n fath cynnar o gerdd dant (yn yr ystyr fodern). Offeryn arall y rhoddir cryn sylw iddo gan Guto’r Glyn yw’r corn hela. Cyfansoddodd gerdd i ofyn am y corn (cerdd 99) gan ddisgrifio’r offeryn yn fanwl a’i gymharu i wrthrychau ac offerynnau eraill.

Math gwahanol iawn o gerddoriaeth oedd cerddoriaeth eglwysig ac roedd iddi rôl unigryw o fewn muriau’r eglwysi a’r abatai. Clywid siantiau’r mynachod a pherfformiadau lleisiol o fewn yr abatai a sain hyfryd yr organ mewn rhai eglwysi. Roedd Guto’r Glyn yn ymwelydd cyson â’r abatai, a gallwn dybio ei fod yn gyfarwydd iawn â chanu crefyddol a cherddoriaeth gysegredig.[1]

Bibliography

[1]: Ymhellach ar gerddoriaeth yng ngwaith Guto'r Glyn gw. S. Harper, 'Musical imagery in the poetry of Guto’r Glyn (fl.c.1435-90)', yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 00-00.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration