databas cerddi guto'r glyn

Dysg a gwybodaeth

A religious man reading, a detail from a fifteenth century window at the All Saints' Church, Gresford.
A religious man reading
Click for a larger image

Molir yr uchelwyr yn aml am eu gwybodaeth eang, yn enwedig am eu haddysg a’u gwybodaeth o’r gyfraith. Ond ychydig a wyddom am ddysg y Cymry yn y bymthegfed ganrif. Cyfeirir weithiau at ddarllen yng nghartrefi’r noddwyr ac mae’n debyg fod llythrennedd yn rhan bwysig o’u diwylliant. Gan fod chwech o’r ‘pedair camp ar hugain’ yn ymwneud â dysg a gwybodaeth, sef barddoniaeth, canu a chyweirio telyn, darllen Cymraeg, herodraeth a thynnu arfau, canu cywydd gan dant a chanu cywydd pedwar ac acennu, gallwn dybio mai dyma’r math o wybodaeth y disgwylid i uchelwyr ei dysgu ac iddynt dderbyn addysg yn y meysydd hyn yn rhywle yn ystod eu bywydau.



Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration