databas cerddi guto'r glyn

Gemau bwrdd


Gwyddbwyll a sïes
Gwyddbwyll yw’r gyntaf o’r gemau bwrdd a restrir ymhlith y ‘bedair camp ar hugain’. Fe’i crybwyllir hefyd mewn chwedlau rhyddiaith cynharach, sef ‘Breuddwyd Maxen’, ‘Breuddwyd Rhonabwy’ a ‘Peredur’, ac yn y farddoniaeth.[1] Ceir yr enghraifft gynharaf o’r gair mewn cerdd o fawl i Guhelyn Fardd (fl. c.1100-c.1130).[2] Bu cryn ddadlau ynglŷn ag union ystyr gwyddbwyll yn yr Oesoedd Canol, ond credir erbyn hyn ei bod yn wahanol i’r wyddbwyll a chwaraeir heddiw ac yn fwy tebyg i dawlbwrdd, a drafodir isod.[3]

Roedd y gêm yr ydym yn ei galw’n ‘wyddbwyll’ heddiw, neu ffurf gynnar arni, wedi ei chyflwyno i Loegr yn sgil y Goncwest Normanaidd ac wedi dod yn boblogaidd ym mhob haen o’r gymdeithas erbyn yr Oesoedd Canol diweddar.[4] Ceir y gair sïes, ffurf Gymraeg ar y Saesneg ‘chess’, am y tro cyntaf mewn cerdd o waith Rhys Goch Eryri (c.1365-c.1440). Mae’r ffaith fod sïes yn cael ei chrybwyll mewn rhestr o gampau sydd hefyd yn cynnwys gwyddbwyll yn ategu’r syniad mai dwy gêm wahanol oeddynt.[5] Ceir cyfeiriadau eraill at sïes gan Lewys Glyn Cothi a Ieuan ap Rhydderch, ac mae Hywel Swrdwal yn crybwyll nid yn unig sïes ond hefyd y cyfuniad siec mad sy’n fenthyciad o’r Saesneg ‘check mate’.[6]

Tawlbwrdd
Fel gwyddbwyll, mae gan dawlbwrdd hanes hir. Fe’i crybwyllir nifer o weithiau mewn testunau cyfraith sy’n dyddio o gyfnod llywodraethwyr annibynnol Cymru - yr oedd, er enghraifft, yn un o’r pethau a roddid gan y brenin i’r ynad llys ac i’r bardd teulu.[7] Chwaraeid tawlbwrdd â ‘brenin ac wyth (neu ddeuddeg) o wŷr ar un ochr yn chwarae yn erbyn un ar bymtheg (neu bedwar ar hugain) o wŷr ar yr ochr arall sy’n ceisio atal y brenin rhag symud’.[8] Er ei bod yn ymddangos bod y termau tawlbwrdd a gwyddbwyll yn gallu cael eu trin yn gyfystyr weithiau erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, mae’r ffaith fod y ddwy yn cael eu cynnwys ar wahân ymhlith y ‘bedair camp ar hugain’ yn dangos eu bod yn cael eu hystyried yma fel gemau gwahanol.[9

Ni cheir cyfeiriad at wyddbwyll na sies gan Guto’r Glyn, ond mae’r cyfeiriad at dawlbwrdd yn ei foliant i Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin yn dangos ei fod yn gwybod yn dda am y gêm hon:

Ni fedrai iarll pan fu drin 
Warae cnocell â’r Cnwcin; 
Gwarae a wnaeth ein gŵr nod 
Towlbwrdd gwŷr duon Talbod, 
Gwarae bars â’r Mars y mae, 
Eithr y gŵr aeth â’r gwarae. 
Ni fedrai iarll pan fu’n frwydr
chwarae cis â’r mab o’r Cnwcin;
chwarae a wnaeth ein rhyfelwr hynod
dawlbwrdd gwŷr duon Talbod,
chwarae bars â’r Mers y mae,
ond y rhyfelwr a enillodd y gêm.

(cerdd 79.49-54)


Gellir uniaethu’r chwarae cis a’r chwarae bars yn y darn hwn â gemau cwrt chwarae sy’n boblogaidd gan blant hyd heddiw, a Guto’n eu defnyddio’n drosiadol i ganmol doniau Syr Rosier mewn rhyfel. Trosiadol hefyd yw ei gyfeiriad at dawlbwrdd ac mae’n debyg ei fod yn gysylltiedig â digwyddiad penodol a grybwyllir gan Lewys Glyn Cothi yntau: tawlbwrdd gwŷr duon Talbod, / tros y bwrdd gwnaed Rhys eu bod.[10] Byddai unrhyw fath o gêm fwrdd rhwng dau berson yn cynnig trosiad defnyddiol ar gyfer beirdd, wrth gwrs, wrth iddynt ddisgrifio gwrthdaro neu ryfel. Ystyr drosiadol wahanol sydd i dawlbwrdd mewn cerdd a briodolir i Ddafydd ap Gwilym, sy’n cyffelybu’r sêr i ddarnau’r gêm.[11]

Tabler a ffristial
Cyfeirir hefyd dabler ym marddoniaeth y cyfnod, sef ffurf gynnar ar ‘backgammon’, neu’r bwrdd a ddefnyddid ar ei chyfer.[12] Fel yn achos y termau eraill am gemau mae peth ansicrwydd am union ystyr y gair a gallai fod wedi cyfeirio at amryw gemau tebyg. Yn yr un modd â ‘backgammon’ heddiw, roedd tabler (a elwid yn table(s) yn Saesneg yn aml) yn cael ei chwarae drwy rolio deis i benderfynu symudiad y darnau ar y bwrdd.[13] Yn ei gerdd i ofyn brigawn (math o arfwisg), mae Guto’r Glyn yn cymharu ei wneuthuriad â thabler:

Dyblwyd ar waith y dabler 
Dyblig o’r sirig a’r sêr; 
dyblwyd gorchudd wedi ei greu o’r sidan a’r sêr
ar lun y dabler;

(cerdd 98.47-8)


Mae Guto hefyd yn crybwyll y dabler deg yn ei gerdd i ofyn corn hela (gw. isod), a chyfansoddodd Siôn Tudur (bu farw yn 1602) gywydd cyfan i ofyn tabler dros ei noddwr.[14] Fe all mai math o ‘backgammon’ oedd ffristial hefyd, a gynhwysir ymhlith y ‘bedair gamp ar hugain’, er bod ‘disiau’ a ‘blwch disiau’ yn ystyron posibl eraill.[15]

Betio
Mae Guto’r Glyn yn cyfeirio at dabler, hasard a chard yn ei gywydd i ofyn corn hela ar ran Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun:

Ni chyll arian ychwaneg, 
Nid arfer o’r dabler deg; 
 chroes ni chwery hasard, 
O chair corn ni chwery card. 
nid yw’n colli arian bellach,
nid yw’n gwneud defnydd o’r dabler deg;
nid yw’n chwarae hasard â darn o arian,
os ceir corn ni bydd yn chwarae gêm gardiau.

(cerdd 99.55-8)


Un o ystyron y gair Saesneg ‘hazard’, y benthycwyd hasard ohono, oedd gêm a chwaraeid â disiau. Ymddengys fod iddi amrywiol reolau, ond ei phrif egwyddor oedd taflu disiau a chwarae siawns. Mae cyfeiriad Guto at groes mewn perthynas â hasard yn awgrymu darn o arian (yn dangos arwydd y groes), a chrybwyllir gamblo yn fwy uniongyrchol yn y llinell gyntaf a ddyfynnir uchod.

Yn y gerdd hon mae’n ymddangos fod Guto’n feirniadol o dabler, hasard a chard - yr awgrym yw y byddai ei noddwr, pe bai’n derbyn y corn hela, yn rhoi’r gorau i’r gemau hyn ac yn troi at weithgareddau mwy buddiol! Er bod gan gemau eu lle anrhydeddus ymhlith y 'bedair camp ar hugain', felly, ac yn rhan o ddiddanwch a rhialtwch cartref uchelwrol, ceir awgrym yma fod y fath chwarae’n gallu mynd yn rhy bell wrth fetio a gamblo..[16] Canodd Lewys Glyn Cothi yntau gywydd mawl i Lewys ab Watcyn lle cyfeirir at hoffter y corff (mewn gwrthgyferbyniad â’r enaid) o chwarae gemau tebyg yng nghartref ei noddwr. Yn ôl Cynfael Lake, ‘synhwyrir bod y ddau fardd yn cynnig beirniadaeth gynnil a gofalus’. .[17]Cyfarwyddir y beirdd yn Statud Gruffudd ap Cynan (1523) i beidio mynd i dafarnau neu i gornelau kuddiedic i chwarrau disiau neu gardiau neu warae arall am dda.[18]

Bibliography

[1]: M. Hughes, ‘ “A chwaryy di wydbwyll?”: ystyr ac arwyddocâd y gêm “gwyddbwyll” mewn Chwedlau Cymraeg Canol’, Llên Cymru, 32 (2009), 33-57.
[2]: J.E.C. Williams, P.I. Lynch ac R. Geraint Gruffydd (goln.), Gwaith Meilyr Brydydd a’i Ddisgynyddion, ynghyd â Dwy Awdl Fawl Ddienw o Ddeheubarth (Caerdydd, 1994), 2.17.
[3]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950- ), 1754; Hughes, ‘ “A chwaryy di wydbwyll?” ’.
[4]: C. Reeves, Pleasures and Pastimes in Medieval England (Stroud, 1995), 77-9.
[5]: D.F. Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), 12.25-8; Hughes, ‘ “A chwaryy di wydbwyll?” ’, 35.
[6]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 208.4; R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003), 3.110; D.F. Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a'i deulu (Aberystwyth, 2000), 11.49-50.
[7]: A.R. Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Caerdydd, 1960), 10.9, 13.15.
[8]: Geiriadur Prifysgol Cymru, 3458, a gw. ymhellach F. Lewis, ‘Gwerin Ffristial a Thawlbwrdd’, The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1941), 185-205, and Hughes, “ ‘A chwaryy di wydbwyll?’ ”, 35-9.
[9]: Hughes, ‘ “A chwaryy di wydbwyll?” ’; 37-8; ‘Dafydd ap Gwilym.net’161.69n.
[10: Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, 104.49-50, a gw. y nodiadau am gerdd Guto (79.51-2n).
[11]: ‘Dafydd ap Gwilym.net’, 161.69; awgryma H.M. Edwards, ‘Ar Drywydd y Cywyddwyr Cynnar: Golwg Newydd ar Gywydd y Sêr’, Dwned, 16 (2010), 11-49, y gall mai Llywelyn Goch ap Meurig Hen a ganodd y cywydd hwn.
[12]: Geiriadur Prifysgol Cymru, 3404.
[13]: ‘The Oxford English Dictionary’ , s.vv. tabler, n.1, a table, n. 18; Reeves, Pleasures and Pastimes, 75-6.
[14]: E. Roberts (gol.), Gwaith Siôn Tudur (2 gyf., Caerdydd, 1980), cerdd rhif 112.
[15]: Geiriadur Prifysgol Cymru, 1315, a gw. hefyd ‘Dafydd ap Gwilym.net’, 161.69n.
[16]: Lake 1996: 98.
[17]: Lake 1996:97
[18]: J.H. Davies, ‘The Roll of the Caerwys Eisteddfod of 1523’, Transactions of the Liverpool Welsh National Society (1904-5), 87-102 (97).
>>>Campau corfforol
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration