databas cerddi guto'r glyn

Du o lir


Yn sgil poblogrwydd y lliw du, daeth brethyn wedi ei fewnforio o ddinas Lierre ym Mrabant yn hynod o boblogaidd. Gelwir y brethyn hwn yn du o Lir neu blac o Lir yn y farddoniaeth (sy’n fenthyciad o’r Saesneg ‘Black-a-lyre’).[1] Daeth yn boblogaidd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen gan fod y ddinas honno ym Mrabant yn enwog am gynhyrchu pob math o frethyn cain (nid du yn unig). Defnyddir y cyfeiriadau at ddu o Lir fel arfer i gymharu gwrthrychau eraill a oedd yn ddu iawn. Mae Guto, er enghraifft, yn cymharu gwallt Dafydd Cyffin fel brethyn o Liere:

Da lliwiwyd y du llawen, 
Du o lir yw, da ei lên. 
Da y lliwiwyd y gŵr du llawen,
du fel brethyn o Liere yw, da ei ddysg.

(cerdd 94.63-4)


A hefyd gwallt a gwisg Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd:

Y du hydr o’r Deheudir, 
Da ei lun mewn du o lir, 
Llew du fal dy ddillad wyd, 
Lliw nid êl llai no dulwyd! 
O ddyn dewr du ei wallt o dir de Cymru,
da ei olwg mewn dillad a wnaed o ddu o lir,
llew du wyt ti fel dy ddillad,
na foed i’r lliw fynd yn oleuach na dulwyd!

(cerdd 35.1-4)



Bibliography

[1]: 'The Oxford English Dictionary', s.v. black-a-lyre.
<<<Melfed      >>>Damasg
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration