databas cerddi guto'r glyn

Sidan


Roedd y grefft o wehyddu sidan yn parhau i fod yn ddirgelwch ym Mhrydain yn y bymthegfed ganrif ac roedd yn rhaid mewnforio'r defnydd o’r Cyfandir. O’r herwydd, daeth yn symbol o statws a moethusrwydd. Ond gan fod modd prynu sidan cain mewn ffeiriau a marchnadoedd yng Nghymru a oedd yn gwerthu cynnyrch tramor, yn enwedig ar gyrion y porthladdoedd, daeth sidan yn fwy poblogaidd. Defnyddid sidan hefyd fel edafedd i frodio ar ddillad yr uchelwyr ac ar dapestrïau. Gweler enghraifft o sidan addurnedig o'r Eidal yng nghasgliadau Amgueddfa Fictoria ac Albert.

Mae’r farddoniaeth yn llawn cyfeiriadau at sidan. Un o’r geiriau hynafol am sidan yw pali, sef math o sidan a brodwaith arno, gair benthyg o’r Ffrangeg, fel nifer o enwau ar decstiliau o’r cyfnod hwn. Mae’r ddau bwrs a dderbyniodd Guto’r Glyn, y naill gan Risiart Cyffin a’r llall gan Gatrin ferch Maredudd a Dafydd Llwyd o Abertanad, yn cael eu disgrifio fel rhai o sidan, a chyda’r cyntaf mae’r gair pali yn cael ei ddefnyddio: Blaenrhodd o bali unrhyw ‘Rhodd ddewisol wedi ei wneud o bali o’r un safon’ (cerdd 58.39). Disgrifir y pwrs hwn fel un o sidan Siêb ‘wedi ei gwneud o sidan o Siêp’ (cerdd 58.53), sef cyfeiriad at farchnad enwog yn Llundain a oedd yn mewnforio defnyddiau cain. Mae’r tecstiliau a enwir yn y gerdd sy’n disgrifio’r ail bwrs hefyd yn debyg iawn; dyma bwrs o gaerau sidan (cerdd 87.58) a chaiff ei ddisgrifio hefyd yn goffr sirig (cerdd 87.20). Fel y pali uchod, roedd sirig hefyd yn air hynafol am sidan.

Cyfeirir yn y farddoniaeth at wisgoedd o sidan, sef dillad gan amlaf wedi eu haddurno â brodwaith sidanaidd neu ymylwe o sidan. O’r herwydd daeth yn air i ddynodi statws uchel ac fe’i cyplysir yn aml â defnyddiau eraill drudfawr, megis melfed.

<<<Gwlân      >>>Melfed
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration