databas cerddi guto'r glyn

Bwyd


Roedd y darpariaeth o fwyd mewn gwledd yn bwysig iawn i’r beirdd. Cyfeirir at bob math o wahanol fwydydd, fel y bara, y gwahanol fathau o gigoedd, amryfal lysiau a ffrwythau a hefyd y sbeisys a’r perlysiau.
The high table is full of food of all sort at Cochwillan.
A feast at Cochwillan
Click for a larger image

Mae’r beirdd hefyd yn pwysleisio faint o fwyd a weinid mewn gwledd. Byddai’r wledd yn cynnwys sawl pryd neu gwrs gwahanol, fel a welir ar y bwrdd yng Nghochwillan (gw. Ail-lunio Cochwillan.) Gair a ddefnyddir yn aml am ddysglaid o fwyd neu gwrs o fewn y wledd yn y farddoniaeth yw saig neu seigiau. Defnyddir y gair ansodd neu ansawdd hefyd yn yr un modd, weithiau’n golygu ‘gwledd’ yn gyffredinol ac weithiau, yn fwy penodol, ddanteithion y wledd.[1]

Cafodd Guto’r Glyn amryw fodd ar ansoddau ‘llawer math o ddanteithion’ (cerdd 97.39) yng ngwledd Sieffrai Cyffin yng nghastell Croesoswallt a disgrifiodd abaty Glyn-y-groes fel Llys rydd ym y sydd, ansoddau - llu dalm ‘Mae i mi lys hael, bwydydd i lu niferus’ (cerdd 113.1). Cafodd hefyd sawl pryd gwahanol ym Mhenrhyn:

Seigiau, gwirodau gwridog, 
Saith gwrs a welais i’th gog. 
prydau, gwirodau cochlyd,
gwelais saith cwrs gan dy gogydd.

(cerdd 57.25-6)



Bibliography

[1]: Am ymdriniaeth fanwl, gw. A.M. Edwards, ‘“Food and Wine for all the World”: Food and Drink in Fifteenth-century Poetry’, yn D.F. Evans, B.J. Lewis ac A. Parry Owen (goln), Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013).
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration