databas cerddi guto'r glyn

Gwraig uchelwr


Disgwylid i’r gwragedd a’u gwŷr ofalu am ddarparu gwleddoedd ac yn null llawer o feirdd eraill, canmolai Guto'r gŵr a’r wraig ar y cyd wrth sôn am eu darpariaeth o fwyd a diod (gw. cerdd 10.7-8, cerdd 49.25-28). Fodd bynnag, y wraig oedd yn bennaf cyfrifol am y drefn ddomestig.[1] Amlygir hyn yn y gerdd i Siân Bwrch o'r Derfrudd (cerdd 81). Mae Guto'r Glyn yn nodi'n eglur mai Sian a fu'n gyfrifol am y dewis eang o fwyd a diod mewn gwledd yn y Drefrudd:

Ansawdd arglwyddes Fawddwy 
A fyn i hen fyw yn hwy, 
A’i gwledd hi a giliodd haint, 
A’i gwin oedd well nog ennaint, 
A’i llyn a’m gwnâi’n llawenach, 
A’i thân onn a’m gwnaeth yn iach. 
Danteithfwyd arglwyddes Mawddwy
sy’n mynnu i’r hen fyw yn hwy,
a’i gwledd hi a yrrodd afiechyd i ffwrdd,
a’i gwin oedd yn well nag ymolchfa meddyginiaethol,
a’i diod a’m gwnâi’n fwy llawen,
a’i thân onn a’m gwnaeth yn iach.

(cerdd 81.65-70)

A wife holding a dish in the Welsh Laws of Hywel Dda, Peniarth 28 MS, f.22v (Digital Mirror).
A wife holding a dish in the Welsh laws
Click for a larger image

Wrth gwrs, nid y gwragedd eu hunain a fyddai’n coginio’r bwyd ond y cog neu’r cogydd, a swyddogion eraill oedd yn gweini’r bwyd a'r diod. Ond mae'n debyg mai'r wraig oedd â gofal am brynu’r cynnyrch o flaen llaw yn ôl cyfrifon stadau y tai.[2] Yn wir, mae'n debyg bod ganddi ran weithredol ran cael gafael ar y nwydd gan ddweud yn union wrth y swyddogion beth i'w brynu.[3] Nid yw’n syndod felly i’r beirdd glodfori gwragedd yn benodol am y ddarpariaeth o fwyd a diod. Dywed Guto'r Glyn yn ei foliant Sieffrai Cyffin i'w wraig Siân ferch Lawrence Stanstry o Groesoswallt gadw llygad barcud ar y paratoi cyn y wledd:

Lliwio sew â llysieuoedd 
Llaw Siân ar y llysiau oedd, 
Llaw’n gog oll yn y gegin, 
Llaw ’n ei gwaith yn llenwi gwin. 
Roedd llaw Siân ar y llysiau
yn rhoi lliw i botes â llysiau,
llaw’n gogydd yn y gegin i gyd,
llaw’n gweini gwin yn ei gwaith.

(cerdd 97.57-60)


Roedd merched a gwragedd ifainc yn cael eu dysgu i reoli'r agwedd ddomestig hon a disgwylid i swyddogion y llys eu parchu fel rhai a oedd ac awudrudod o fewn y cartref.[4] Er enghraifft, bu Elen ferch Robert Pilstwn yn rhannu medd ers iddi fod yn ferch ifanc (cerdd 53.2) ac mae Isabel, merch Joan Burgh, mor gwrtais a'i mam o ran cynnig bwyd a diod yn ôl Guto (cerdd 81.51-2). Wedi marwolaeth y gwragedd, ymddengys fod Guto'n hiraethu am eu gwleddoedd. Yn ei farwnad i Gweurful ferch Madog o Abertanad dywed ei fod yn drist gan nad oes gwleddoedd bellach yn ei llys: O chladdwyd, yn iach, wleddoedd! (cerdd 88.36). Pwrpas cyfeiriadau fel hyn yw pwysleisio haelioni a lletygarwch y gwragedd.

Bibliography

[1]: J.C. Ward ‘English Noblewomen and the local community’ yn D. Watt (ed.), Medieval Women in their Communities (Cardiff, 1997), 189; J.C. Ward (cyf.), Women of the English Nobility and Gentry 1066-1500 (Manchester, 1995). Am y wraig yng Nghymru gw. D. Johnston, ‘Lewys Glyn Cothi, Bardd y Gwragedd’, Taliesin 74 (Haf 1991), 68-77; S. Davies, ‘Y ferch yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol’, Cof Cenedl 9 (1994), 3-32.
[2]: J.C. Ward, Women of the English Nobility and Gentry, 1066-1500 (Manchester, 1995), 170-81.
[3]: B.A. Henisch, The Medieval Cook (Woodbridge, 2009), 109.
[4]: B.A. Henisch, The Medieval Cook, 109.
>>>Swyddogion
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration