databas cerddi guto'r glyn

Swyddogion

A court official in the Welsh Laws of Hywel Dda, Peniarth MS 28, f.8v (Digital Mirror).
A court official in the Welsh laws
Click for a larger image

Mae Cyfraith Hywel Dda, cyfraith frodorol y Cymry, yn egluro trefn y llys Cymreig yn ystod Oes y Tywysogion a chyn y goncwest Edwardaidd.[1] Enwir yno nifer o swyddogion a oedd yn ymwneud â threfn ddomestig y llys, rhai ohonynt wedi eu darlunio yn llawysgrif Peniarth 28. Roedd cryn newid wedi digwydd erbyn y bymthegfed ganrif, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol, ond roedd cynnal gwleddoedd yn parhau'n weithgaredd bwysig i'r uchelwyr ac mae'n debyg iddynt ddilyn trefn gymharol debyg i'w cyndeidiadu. Er bod rhai enwau ar y swyddogion wedi newid, roedd eu swyddogaethau'n debyg iawn.

Gelwir y sawl a oedd yng ngofal coginio’r bwyd yn gog.[2]. Y cigydd oedd yn gyfrifol am baratoi’r cig a’r cog oedd yn gyfrifol am ei goginio ac yn y tai cyfoethocaf, roedd ganddo weision eraill i'w helpu i greu'r gwahanol brydau a danteithion. Roedd gan gogydd Rhisiart Cyffin, deon of Bangor, banter, sef swyddog a oedd yng ngofal y pantri, i'w helpu ym Mhlas yr Esgob:

Tŷ’r gŵr a’i banter a’i gog 
Yw tridawn cwrtiwr oediog. 
the man’s house, his panter and his cook
are the three blessings of an old courtier.

(cerdd 58.15-16)


Roedd y rhan fwyaf o'r bwyd yn cael ei goginio yn y gegin, fel yn nhŷ Syr Siôn Mechain yn Llandrinio yn ôl Guto'r Glyn, ble'r oedd pantri cegin (cerdd 85.28); ond roedd y cigoedd yn cael eu coginio ar gigiwalen ger y prif le tân hefyd (gw. Offer coginio). Yn achlysurol mae'r beirdd yn moli'r cogydd yn anuniongyrchol tra'n trafod y dewis o fwyd, fel y gwna Guto yn ei foliant i'r wledd yn y Penrhyn, cartref Wiliam Fychan ap Gwilym:

Seigiau, gwirodau gwridog, 
Saith gwrs a welais i’th gog. 
Dy blas ni welwyd eb wledd, 
Dy blaid, llonaid holl Wynedd, 
prydau, gwirodau cochlyd,
gwelais saith cwrs gan dy gogydd.
Ni welwyd dy blas heb wledd,
llond holl Wynedd yw dy deulu,

(cerdd 57.25-8)


Y ddau swyddog a oedd yn gyfrifol am weini’r bwyd i’r gwesteion oedd y bwtler a’r sewer. Daw’r gair bwtler o’r Saesneg butler ac mae’n parhau’n air cyfarwydd i ni heddiw. Ond yn y bymthegfed ganrif roedd yn gofalu am y seler win ac yn tollti diodydd. Roedd swyddog arall o'r enw cerfydd (neu’r amrywiad cyfrydd) yn gyfrifol am rannu cwrw. Nid gweini'r bwyd yn unig oedd gwaith y sewer; roedd disgwyl iddo flasu'r bwyd yn ogystal. Mae ei enw wedi ei fenthyg o'r Saesneg Canol sewer 'an attendant at meal'.[3] Roedd yr holl swyddogion hyn a oedd yn gweini ac yn blasu'r bwy yn bresennol yng nghastell Rhaglan fel y sonia'r beirdd yn eu cerddi moliant i'r Herbertiaid.[4]

Cyfeirir at swyddogion a oedd yn croesawu ac yn cymell y gwesteion i'r byrddau hefyd yn y farddoniaeth. Mae'r isier, sy'n fenthyciad o'r Saesneg 'usher', yn was a oedd yn arwain yn bobl i'r neuadd, a gwaith y porthor oedd gwarchod y drws. Rhestrir y swyddogion hyn mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi i Syr Rhisiart Herbert; noddwr a oedd yn ddigon cyfoethog i gael swyddogion di-rif i gyd-fynd ag ysblander yr adeilad a ddisgrifir gan Guto'r Glyn (gw. cerdd 22 a Colbrwg).[5]Roedd rhestru’r swyddogion hyn yn ffordd o ddangos ehangder darpariaeth y noddwr ei hun, ynghyd â'i berchentyaeth hael.

Bibliography

[1]: Gw. T.M. Charles-Edwards, M.E. Owen, and P. Russell (eds), The Welsh King and his Court (Cardiff, 2000).
[2]: Geiriadur Prifysgol Cymru s.v. cog²
[3]: The Oxford English Dictionary, s.v. sewer, n.².
[4]: Gw. yn arbennig D.F. Evans, Gwaith Hywel Swrdwal a’i deulu (Aberystwyth, 2000), poem no.5.
[5]: D. Johnston, Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), poem no.114.40.
<<<Gwraig uchelwr      >>>Llestri
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration