databas cerddi guto'r glyn

Y drefn ddomestig


Roedd trefn ddomestig y wledd yn hollbwysig i sicrhau fod y bwyd yn cael ei goginio a'i baratoi yn gywir. Byddai'n cymryd misoedd i drefnu gweldd fawr i ddathlu gŵyl fel y Nadolig. Roedd rhaid archebu'r cynhwysion angenrheidiol i'r cogydd megis y sbeisys; dewis a pharatoi'r prif gig a phrynu, neu, o bosibl, mewnforio'r gwinoedd. Gwraig yr uchelwr oedd yn bennaf gyfrifol am yr ochr ddomestig hon o'r cartref. Roedd y bwyd ei hun yn cael ei goginio a'i weini gan swyddogion a oedd â gwahanol swyddogaethau yn ystod y wledd. Y cogydd a'i weision oedd yn gyfrifol am goginio'r amrywiaeth eang o sawsiau a seigiau; roedd swyddogion eraill yn gofalu am weini'r diodydd neu'n syml i groesau'r gwesteion. Ceir ambell gyfeiriad yn y farddoniaeth at y llestri a'r offer coginio a ddefnyddid ac mae Guto'r Glyn yn hoff iawn o'r steil a'r ysblander oedd gan y tai cyfoethocaf a'r abatai i'w cynnig.

Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration