databas cerddi guto'r glyn

Meini Gwerthfawr


Roedd rhinweddau arallfydol yn perthyn i feini gwerthfawr yn yr Oesoedd Canol. Meddu’r pŵer i amddiffyn y corff rhag anhwylderau a gwella afiechydon oedd eu prif rhinwedd ac o ganlyniad, cafwyd traddodiad o’r hyn a elwir yn ‘lapidari’, sef ysgrifau canoloesol ar gerrig gwerthfawr a’u rhinweddau.

Defnyddid rhai meini gwerthfawr hefyd i lunio llinyn o gerrig neu leiniau a ddefnyddid i weddïo. Pwrpas cadwyn fel hon a elwir hefyd yn baderau neu rosari oedd i gyfrif gweddïau mewn gwasanaeth Cristnogol.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration