databas cerddi guto'r glyn


Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt, fl. c. 1429–m. 1452

Robert Trefor oedd mab hynaf ac etifedd Edward ap Dafydd o Fryncunallt. Cerddi Guto yw’r unig rai sydd wedi goroesi iddo:

  • ‘Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 103);
  • ‘Marwnad Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 104);
  • ‘Marwnad Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt’ (cerdd 105).

Er nad cerddi penodol i Robert yw’r ddwy gyntaf, maent yn cynnwys elfen gref o fawl iddo ef yn ogystal â’i dad, Edward, a’i dri brawd: Siôn, Edward a Rhisiart. Ymhellach arnynt, gw. y nodyn ar Edward ap Dafydd a’i deulu.

Achres
Seiliwyd yr achres ganlynol ar wybodaeth yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 14; WG2 ‘Tudur Trefor’ 14B; HPF iv: 16. Nodir y rhai a enwir yng ngherddi 103–5 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.

stema
Achres Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt

O edrych ar batrwm enwi’r teulu, gwelir eu bod yn tueddu i ddilyn yr arfer draddodiadol o enwi’r mab hynaf ar ôl y tad neu’r taid, a dichon fod Robert wedi ei enwi ar ôl Robert Pilstwn, ei daid ar ochr ei fam.

Priododd Robert ag Elsbeth ferch Gwilym o’r Penrhyn, sef chwaer i noddwr Guto, Wiliam Fychan ap Gwilym (105.47 [m]erch Wilym). Ei hail briodas oedd hon, a’i gŵr cyntaf oedd un o frodyr yr Iarll Grey, Rhuthun. Ni chafodd Robert a hithau blant, ond yr oedd gan Robert eisoes fab anghyfreithlon, Wiliam Trefor, a fu, yn ôl Robert Vaughan (Pen 287, 55), yn Siaplen i Sion ap Richard abad llanegwystl p’decessor i esgob Dauydd ap Ien ap Ieth ap Jenn Baladr.

Dyddiadau
Ar ddalen strae yn Pen 26, 97–8, ceir cofnod cyfoes yn nodi i Robert Trefor farw ar 27 Hydref 1452: Obitus Roberti Trevor vigilia apostolorum Symonis et Jude anno domini MCCCCLII (gw. Phillips 1970–2: 74). Cadarnheir y dyddiad gan Robert Vaughan yn Pen 287, 55. (Ni cheir ffynhonnell i’r dyddiad 1442 a roddir yn WG1 ‘Trefor’ 14.) Fe’i claddwyd yng Nglyn-y-groes, fel y tystia Guto (105.44–5), sy’n awgrymu’n gryf iddo fod yn noddwr i’r abaty yn ystod ei fywyd. Fel y gwelir isod, 1429 yw’r cyfeiriad cynharaf ato, ond yr oedd eisoes yn ddigon hen i gymryd swydd o awdurdod erbyn hynny. Os oedd ychydig yn hŷn na’i frawd, Siôn Trefor, a fu farw yn 1493, anodd credu iddo gael ei eni cyn dechrau’r bymthegfed ganrif.

Ei yrfa
Cawn dipyn o wybodaeth gan Guto am Robert Trefor. Mae’n amlwg mai ef oedd pennaeth effeithiol Bryncunallt erbyn y 1440au, er bod ei dad, Edward, yn dal ar dir y byw pan ganwyd y gerdd gyntaf (103.35–42). Awgryma Guto hefyd fod gan Robert ddylanwad yng Nghroesoswallt (103.45). Wrth ganu marwnad i Edward, cadarnha Guto mai Robert bellach oedd y pennaeth, a’r un a etifeddodd ddoethineb a [g]ras ei dad (104.42). Fel y tad, molir Robert am ei ran allweddol yn y gwaith o gadw rheolaeth a threfn yn y wlad, ac fe’i gelwir yn gyfreithiwr grym (105.51). Wrth ganu marwnad Robert, awgryma Guto iddo ddal swyddogaeth farnwriaethol o ryw fath yn Is Conwy, lle gweithredai’n nerthog tuag at y cadarn, a trugarog wrth y gwan (105.55–8). At hynny, gweithredai’n arw a thanbaid yn Ninbych (105.60) yn ei swyddogaeth fel maer a meistr (105.61). Ond bellach, a Robert wedi marw, mae’n rysyfwr (Saesneg reciever) a swyddog i Iesu (105.63–4). Lle gynt bu’n mynd ag arian i’r dug o Iorc, bellach mae’n mynd at Dduw gyda thaliadau o weithredoedd teilwng (105.65–74). Yn sicr mae geiriau Guto’n awgrymu y bu i Robert gyfrifoldebau am arian yn Ninbych, a’i fod wedi gweithredu fel resyfwr yn ystod ei yrfa, o bosibl yn y fwrdeistref honno.

Meddai Robert Vaughan amdano yn Pen 287, 55: Robert Trevor obiit 1452 y gwr ymma fu Stiwart Dinbech, Sirif Sir y Fflint vstus a Siambrlen Gwynedd. Ac eithrio’r ffaith ei fod yn ddirprwy stiward yn Ninbych yn 1443 (gw. isod), ni chafwyd tystiolaeth ddogfennol i ategu unrhyw un o’r swyddi penodol hyn. Fodd bynnag, mae’n amlwg iddo ddal amryw swydd gyhoeddus. Arbennig o berthnasol, o safbwynt yr hyn a ddywed Guto amdano, yw’r ffaith iddo gael ei benodi’n rysyfwr Holt yn 1429, ac yn rysyfwr cyffredinol arglwyddiaeth Powys yn 1435. Cyfeirir isod at y swyddi hyn ynghyd â gwybodaeth arall am weithgarwch Robert:

1429 Gyrrodd bwrdeisiaid Holt betisiwn at Joan de Beauchamp (m. 1435), yn protestio am benodiad Robert Trefor (a gysylltir yno â Threfalun) i swydd rysyfwr Brwmffild ac Iâl. Collwyd y ddogfen wreiddiol, ond goroesodd copi ohoni o’r unfed ganrif ar bymtheg (gw. Pratt 1977). Sail yr anfodlondrwydd oedd y ffaith fod Robert Trefor yn ŵyr i Robert Pilstwn a bod ei nain yn chwaer i Owain Glyndŵr. Robert Pilstwn, meddent, oedd y gŵr a fu’n gyfrifol am ymosod ar gastell Holt yn 1401, a dim ond by strenght of yowr forsayd tenants & burges and english officers your Sayd Castell & towne was savyd unbrend …
1435 8 Rhagfyr Penodwyd William Borley yn stiward yng nghestyll, maenorau a thiroedd y brenin yn arglwyddiaeth Powys, a Robert Trefor yn rysyfwr cyffredinol yno (CPR 1429–36, 497).
1437 5 Ionawr Cofnodir i Thomas Pulford gael ei benodi’n sietwr sir y Fflint, yn yr un modd ag y bu Robert Trefor cyn hynny (CPR 1436–41, 39).
1441 Enwir Robert a’i dad, Edward, yng nghyswllt derbyn tir yn Nanheudwy (LlGC Puleston 935).
1443/4 Yng nghasgliad dogfennau arglwyddiaeth Rhuthun ceir tair dogfen wedi eu dyddio 1443/4 sy’n ymwneud â throsglwyddo tir yn Ninbych lle enwir Robert ab Edward/Robert Trefor fel dirprwy stiward yn y fwrdeistref honno. Y stiward ar y pryd oedd William Burlegh/Burley (LlGC Arglwyddiaeth Rhuthun, rhifau 103, 753, 766).
1446 24 Mawrth Rhoddwyd maddeuant cyffredinol am unrhyw droseddau a gyflawnwyd cyn 10 Mawrth 1446 ac wedyn i Robert Trefor, gentilman, mab Edward ap Dafydd o’r Waun, gan ei gysylltu hefyd â Halston ac â Wigington (CPR 1441–6, 415).

Llyfryddiaeth
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Pratt, D. (1977), ‘A Holt Petition, c. 1429’, TCHSD 26: 153–5


Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration