databas cerddi guto'r glyn


Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor, fl. c.1470–m. 1492

Diogelwyd yn y llawysgrifau gyfanswm nid ansylweddol o ddeunaw cerdd i Risiart Cyffin gan saith o feirdd. Canodd Guto chwe chywydd iddo:

Diogelwyd pedair cerdd i Risiart gan Dudur Aled:

  • awdl fawl, TA cerdd VIII;
  • cywydd i ofyn meini melin gan Risiart ar ran gŵr a elwir ‘y Meistr Hanmer o Faelor’, ibid. cerdd CXX;
  • englynion dychan i Risiart ac i’w feirdd, yn cynnwys Rhys Pennardd, Ieuan Llwyd a Lewys Môn, ibid. cerdd CXLI;
  • englyn mawl i Risiart a dychan i’w olynydd, ibid. cerdd CXLV.

Canwyd tri chywydd dychan i Risiart gan Lywelyn ap Gutun:

  • cystadlu am Alswn o Fôn a dychan i Risiart, GLlGt cerdd 8;
  • dychan i Risiart yn ymwneud â chardota ŵyn, ibid. cerdd 9;
  • dychan i Risiart ynghylch Alswn ac i’w feirdd, lle enwir Rhys Pennardd, Hywel Rheinallt a Lewys Môn, ibid. cerdd 10.

Diogelwyd dau gywydd iddo gan Lewys Môn:

  • ateb i’r cywydd cyntaf uchod o waith Llywelyn ap Gutun, lle amddiffynnir Rhisiart ynghylch Alswn o Fôn, GLM cerdd XV;
  • marwnad, ibid. cerdd XVII.

Ceir hefyd rai cerddi unigol i Risiart gan feirdd eraill:

  • cywydd mawl gan Hywel Rheinallt i Santes Dwynwen lle molir Rhisiart fel person eglwys a gysegrwyd iddi yn Llanddwyn ym Môn;
  • cywydd gofyn am ychen gan Ieuan Deulwyn i’r Abad Dafydd Llwyd o Aberconwy, Rhisiart a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV;
  • cywydd mawl i Risiart gan Syr Siôn Leiaf, lle dychenir Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, Salisbury 2011: 101–18.

At hynny, canodd Lewys Daron gywydd i ofyn march gan un o feibion Rhisiart, Dafydd Conwy, ar ran Siôn Wyn ap Maredudd (GLD cerdd 22).

Achres
Seiliwyd y goeden achau isod ar Salisbury 2011: 73–77. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor

Roedd Rhisiart yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Syr Gruffudd ab Einion o Henllan.

Ei yrfa
Y tebyg yw fod Rhisiart wedi dechrau ei yrfa eglwysig fel person eglwys blwyf y Gyffin yng nghwmwd Arllechwedd Isaf ym mis Mai 1470 (codwyd yr holl wybodaeth o Salisbury 2011). Cafodd Rhisiart ei ddyrchafu’n ddeon Bangor rywdro rhwng y dyddiad hwnnw a 12 Mai 1478, sef dyddiad y cofnod cynharaf lle gelwir ef yn ddeon. Bu’n ddeon gydol wythdegau’r bymthegfed ganrif a bu farw, yn ôl pob tebyg, ar 13 Awst 1492, a’i gladdu yng nghorff yr eglwys.

Fel deon y cyfarchai’r beirdd Risiart ymron ym mhob cerdd, ond gwnaeth y beirdd yn fawr hefyd o’r ffaith ei fod yn berson eglwys Llanddwyn ym Môn. At hynny, dengys rhannau o’r cerddi a ganwyd iddo gan Guto iddo fod yn weithgar yn ailadeiladu rhannau o’r eglwys a’r esgopty ym Mangor (58.7–10; 59.3–14). Yn sgil ei gefnogaeth i Harri Tudur derbyniodd arian er mwyn adeiladu siantri wedi ei gysegru i Santes Catrin yng nghorff yr eglwys. Rhoes hefyd ffenestr liw ac ynddi ddarluniau o Santes Catrin a Santes Dwynwen ym mur de-ddwyreiniol y gangell. Ar waelod y ffenestr honno ceid enw Rhisiart gyda’r teitl Magistri o’i flaen, teitl a adleisir yn hoffter y beirdd o gyfeirio ato fel mastr Rhisiart. Ymddengys ei fod yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.

Roedd cyfraniad Rhisiart i fywyd diwylliannol ei ddydd yn sylweddol. Rhoes fwy o nawdd i feirdd nag unrhyw ŵr crefyddol arall a ddaliodd swydd yn un o bedair esgobaeth Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, o safbwynt genre ceir amrywiaeth eang iawn yn y cerddi a ganwyd iddo neu ar ei gais, oherwydd canwyd iddo ddigon o fawl confensiynol, yn ôl y disgwyl, ond canwyd hefyd lawer o gerddi ysgafn neu ddychanol. Awgrym cryf y cerddi yw ei fod gyda’r iachaf ei hiwmor o’r noddwyr oll.

Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118


Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration