databas cerddi guto'r glyn

Tai ac adeiladau

Raglan castle
Raglan castle
Click for a larger image

 Cerfiwyd a grafiwyd yn grych
 Cyrff y derw fal crefft eurych,
 Llys goed a main oll ysgwâr,
 Llawn gwydr, meillion ac adar.
(cerdd 22.41-44)

Daeth ailadeiladu hen gartref teuluol yn boblogaidd iawn yng Nghymru'r bymthegfed ganrif. Yn dilyn y difrod a achoswyd yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau’r ganrif, roedd angen cryn dipyn o waith ar lawer o'r tai. Gellir profi i rai ohonynt gael eu hailadeiladau trwy dechneg a elwir yn ‘dendrocronoleg’ sy’n dweud yn union pa flwyddyn y torrwyd i lawr y coed a ddefnyddiwyd i godi’r tŷ. Wrth eu hailadeiladu, daeth y tai yn arwyddion gweladwy o statws uchel y teulu o ran eu pensaernïaeth a'u gwneuthuriad ac amlygid cyfoeth a chwaeth yr uchelwr yn ei ddewis o ddodrefn, y lleoedd tân, a'r crefftwaith pren; pethau sydd hefyd yn ennyn canmoliaeth beirdd y cyfnod.

Ymwelodd Guto’r Glyn â chartrefi ar hyd a thraws Cymru a thros y ffin yn Lloegr (gw. Map o'r cartrefi). Canodd gerddi yn uniongyrchol i ddathlu ailadeiladu rhai o gartrefi ei noddwyr, sef Colbrwg yn y Fenni (cerdd 22), y Faenor, Aberriw (cerdd 38), Moeliwrch, Llansilin (cerdd 90) a chartref person plwyf Llandrinio (cerdd 85). Rhoddir sylw hefyd i adeiladwaith rhai o'r abatai.

Erys lleoliad tua ugain cartref yn anhysbys i ni heddiw. Am y gweddill, ailadeiladwyd nifer ohonynt mewn cyfnodau diweddarach yn ffermdai neu'n blastai, a'r rheini, o bosibl, wedi eu lleoli ar safle’r hen dŷ neuadd. Gan nad oes llawer o’r cartrefi hyn wedi goroesi’r canrifoedd, mae disgrifiadau Guto a’i gyd-feirdd yn gofnod pwysig o sut yr edrychai’r tai hyn ar eu gorau.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration