databas cerddi guto'r glyn

Y brigawn


Roedd brigawn (‘brigandine’ yn Saesneg) yn siaced o frethyn, canfas neu ledr wedi ei chryfhau y tu mewn gan blatiau bach o haearn. Yn aml rhoddid haen arall o ryw ddeunydd ceinach drosti, a’r cyfan wedi’i ddal at ei gilydd gan rybedi niferus yr oedd eu pennau’n creu patrymau trawiadol, addurniadol.[1] Gallai fod yn fath cymharol rad o arfwisg, ond cynhyrchid rhai brigawns cain a drud hefyd. Roedd ysgafnder a hyblygrwydd y brigawn yn ei wneud yn boblogaidd gan filwyr o bob haen o’r gymdeithas.

Ceir tystiolaeth am ddefnydd brigawns ymhlith uchelwyr Cymru yn un o gerddi Guto, sef y cywydd i ofyn brigawn gan Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad. Cyfeirir at yr arfwisg yn y gerdd hon fel pais (cerdd 98.33, 37, 40-2, 57) ac fel pâr (34, 35) yn ogystal ag fel brigawn dur o Byrgwyn draw (36).[2]

Un manylyn arbennig o ddiddorol yw bod Guto yn crybwyll brestblad (brest) ac arno rest neu wanas ar gyfer gwaywffon:

Brest dur o Baris dirion 
Ac ar y frest rest o Rôn. 
brest ddur o Baris dirion
ac ar y frest rest o Rouen.

(cerdd 98.43-4)


Mae’n debyg, felly, fod y bardd yn cyfeirio at frigawn a chanddo un neu ddau blât mawr dros y frest, fel bod sail ddigon cadarn i gysylltu rest gwaywffon.[3]

Mae’n ymddangos mai haenau ‘dybledig’ y brigawn sy’n cael eu disgrifio yn nes ymlaen yn y gerdd:

Dyblwyd ar waith y dabler 
Dyblig o’r sirig a’r sêr; 
dyblwyd gorchudd wedi ei greu o’r sidan a’r sêr
ar lun y dabler;

(cerdd 98.47-8)


Mae’r gymhariaeth â thabler, sef y bwrdd a ddefnyddid ar gyfer math cynnar o ‘backgammon’ (tabler oedd enw’r gêm ei hun hefyd, gw. gemau bwrdd, yn awgrymu bod Guto’n gyfarwydd â byrddau a blygai’n ddau hanner gyda cholyn fel y gellid eu cau pan nad oeddynt yn cael eu defnyddio, fel yr un a ddarganfuwyd yn nryll llong rhyfel y Brenin Harri VIII, y Mary Rose.[4] Gall fod cymhariaeth yma hefyd rhwng trefn reolaidd platiau’r brigawn a’r patrwm ar y bwrdd.

Mae’r llinellau a ddyfynnir uchod yn awgrymu hefyd fod gan y brigawn haen allanol foethus o sirig ‘sidan, damasg’, a’r sêr, mae’n debyg, yn cynrychioli pennau’r rhybedi niferus a oedd yn creu patrwm addurniadol (weithiau byddent yn cael eu goreuro, hyd yn oed). [5] Crybwyllir y rhybedi (hoelion) yn uniongyrchol yn llinellau 55-6: Metel teg, metelwyd hon / Mal helm â mil o hoelion ‘Metel teg, metelwyd hon /fel helm a chanddi fil o rybedi.’

Crybwyllir platiau bach haearn y brigawn mewn nifer o linellau. Mae un darn, mae’n ymddangos, yn disgrifio eu trefniant taclus, gorgyffyrddol:

Dulliwyd am ŵr o’r dellt mân 
Dulliad tros dillad Trystan, 
Pob dulliad, caead cuall, 
Mal llong dros emyl y llall. 
ymdrefnwyd trefniant wedi ei greu o’r dellt bychain
am gorff gŵr dros ddillad Trystan,
pob trefniant, gorchudd cyflym,
fel llong dros ymyl y llall.

(cerdd 98.49-52)


Mewn rhannau eraill o’r gerdd disgrifir y platiau fel grisiau teg (53), plu gosawg (59), cen gleisiad (60), teils dur ... / tebyg i’r to cerrig hen (63-4), ysglodion gwynion ‘naddion gwynion’ (61), ysglatys o’r wisg g’letaf ‘llechi ar y wisg galetaf’ (62) a pheithynau ‘llechi, teils’ (70). Agwedd arall ar y gymhariaeth hon â theils yw cyfeiriad y bardd at daelwriaeth . . . teiler gwych, ac yn yr un cwpled gelwir y brigawn yn fetel eurych, / taeliwr a gof (65-6). Mae’r cyfeiriad at eurych yn ategu’r dyb mai math cain iawn o arfwisg a ddisgrifir yma.

Awgrymir ansawdd y brigawn hefyd gan y ffaith fod Guto’n crybwyll Melan (Milan), un o’r canolfannau pwysicaf ar gyfer cynhyrchu arfwisgoedd:

Grisiau teg mal gwres y tân 
Gyda’r maels mal gwydr Melan. 
Grisiau teg fel gwres y tân
sydd gyda’r maels fel dur o Filan.

(cerdd 98.53-54)


Serch y gymhariaeth hon â dur Milan, dywedir mewn llinellau eraill fod y brigawn wedi dod o Fyrgwyn ‘Burgundy’, y frest o Baris a’r r(h)est o Rôn (Rouen) (36, 43-4)! Er nad oes angen dehongli cyfeiriadau o’r fath yn llythrennol bob tro, nid amhosibl fod y brigawn wedi ei addasu drwy ychwanegu brestblad a rest gwaywffon a gynhyrchid mewn lleoedd gwahanol.

Manylyn diddorol arall yn y gerdd yw’r sôn am faels (‘mail’) yn y darn uchod (llinell 54). Gellid dehongli hwn yn gyfeiriad at y brigawn ei hun, am ei bod yn debygol fod ystyr eang i fael(s), fel y Saesneg ‘mail’ (gw. arfwisg fael). Fodd bynnag, mae’n bosibl iawn fod Guto yn cyfeirio at fael yn yr ystyr sy’n fwyaf cyfarwydd heddiw, sef arfwisg o dolenni haearn, a honno’n cael ei gwisgo ar y cyd â’r brigawn neu oddi tano - efallai crys cyfan o fael, neu ddarnau ar wahân megis coler, llewys a ‘sgert’.[6]

Mae’r cyfeiriad at y brigawn fel neuadd (68) yn dwyn i gof gymariaethau pensaernïol Guto mewn cerddi eraill, yn enwedig ei gywydd i ofyn am saeled. Dywed fod y brigawn rhag ymladd ‘ar gyfer ymladd’ (68) a chyfeiria yn fwy penodol at ei rinwedd wrth amddiffyn ei berchennog drwy ei alw’n bais rhag gwayw Sais a’i saeth ‘tiwnig i ddiogelu rhag gwaywffon a saeth Sais’ (40).

Bibliography

[1]: A.W. Boardman, The Medieval Soldier in the Wars of the Roses (Stroud, 1998), 140-1, a D. Edge and J.M. Paddock, Arms and Armour of the Medieval Knight (London, 1996), 118-120.
[2]: O ran pâr, gellid cymharu’r Saesneg ‘pair of brigandines’, a hefyd ‘pair of plates’, gw. ‘The Oxford English Dictionary’, www.oed.com, s.v. brigandine a plate 9(a).
[3]: C. Ffoulkes, The Armourer and his Craft (London, 1912), 50, ac Edge and Paddock, Arms and Armour, 120, 161.
[4]: D. Childs, The Warship Mary Rose: the Life and Times of King Henry VIII’s Flagship (London, 2007), 87-8; mae darlun o fwrdd tebyg o’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn y Codex Manesse, ffol. 262v.
[5: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. sirig, serig²; C. Blair, European Armour circa 1066 to circa 1700 (London, 1958), 79, ac Edge and Paddock, Arms and Armour, 120.
[6]: Blair, European Armour, 40, a C. Gravett, English Medieval Knight 1400-1500 (Oxford, 2001), 8-9, 60.
<<<Arfwisg fael      >>>Yr helm
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration