Y llawysgrifau
Cadwyd ymryson Guto’r Glyn a Hywel Dafi mewn 49 o lawysgrifau. Mae’r copïau’n amrywio’n sylweddol ac yn aml nid oes arweiniad clir i’w gael yn y llawysgrifau. Defnyddiwyd y copïau a ganlyn wrth lunio testun y cywydd hwn: LlGC 3056D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, Ba (M) 5, Pen 63, Pen 83, BL 14882, Brog I.2, CM 5, C 3.37, CM 27, BL 14971, BL 31061, C 2.68, Brog I.1, LlGC 3057D, J 137, Llst 155, Stowe 959, LlGC 16964A, LlGC 5282B, pum copi Llywelyn Siôn (Llst 134, C 2.630, C 5.44, LlGC 6511B, LlGC 970E) a Llst 55. O’r rhain, mae LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68 yn ffurfio grŵp; mae Ba (M) 5, J 137, BL 14882 a LlGC 3057D yn ffurfio grŵp arall; copïau o gynsail gyffredin yw C 3.37 a CM 27; ceir perthynas bosibl rhwng Pen 83 a LlGC 16964A; ac mae pum copi Llywelyn Siôn bron yn unffurf â’i gilydd. Mae’r stema a gynigir yn arbennig o betrus ac ansicr gan yr ymddengys fod cryn groesffrwythloni wedi bod ar waith. Mae’r llawysgrifau nas defnyddiwyd wrth lunio’r golygiad yn tarddu o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd.
Mae dewisiadau GGl yn nodedig o fympwyol yn achos y gerdd hon, ac yn aml penderfynwyd yno ddilyn un copi yn nannedd yr holl gopïau eraill. Nodais ambell enghraifft o hyn isod.
Collwyd 1–42 o Pen 83. Detholiadau yn unig a geir yn Llst 55.
Trawsysgrifiadau: Pen 103, LlGC 3057D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, LlGC 3056D, Pen 63.

Stema
1 yw Ceir y fannod ar ôl y gair hwn yn LlGC 3056D, LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, CM 5, C 3.37, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959 (wedi ei hychwanegu), Llst 155 a Llst 55 a phob copi Llywelyn Siôn ond Llst 134, ac fe’i derbyniwyd yn GGl. O ran y gystrawen, fodd bynnag, gwell yw ei hepgor fel y gellir cydio dysg â mwynwyr yn y llinell nesaf yn hytrach na gadael y llinell honno’n ddigyswllt. Y tebyg yw bod y fannod wedi ei hychwanegu yn y copïau hyn dan ddylanwad mae’r yn ail hanner y llinell. Nid yw’n effeithio ar y gynghanedd.
1 yno mae’r Llst 55 am avr.
1 yno LlGC 3051D yma, Brog I.1 a BL 31061 ymro.
1 mae’r Ni cheir y fannod yn Brog I.1 na BL 31061.
2 mwynwyr LlGC 3051D, C 3.37 a CM 27 mw(y)nwr.
2 o wlad Llywelyn Siôn yngwlad.
2 Sermania Pen 63, C 3.37 a CM 27 normania. Mae orgraff Sermania yn amrywio yn y llawysgrifau, ond dewisais y ffurf fwyaf cyffredin. Y ffurfiau eraill yw LlGC 3051D, Ba (M) 5, BL 14971, C 2.68 a LlGC 5282B siermania, C 2.114 germania, BL 14882 siar mania, Llst 134 a LlGC 970E iermania.
3 mynnu LlGC 3056D, C 2.114, C 3.37 a CM 27 mine, Pen 63 minav, BL 31061 mwyn, J 137 mynnv (cywirwyd yn mynnav).
3 waelod LlGC 3056D a C 2.114 wlad y (cywirwyd yn waelod yn y cyntaf). Ceir y ar ôl waelod yn LlGC 17114B, Pen 103, BL 14882 (ychwanegiad), Brog I.2, CM 5, C 3.37, CM 27, BL 14971, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B. Nid oes ei angen ar gyfer yr ystyr ac mae’n gwneud y llinell yn rhy hir oni chywesgir mynnu o. Efallai mai presenoldeb y a arweiniodd at roi wlad yn lle waelod yn LlGC 3056D a C 2.114.
3 grodir Ymranna’r llawysgrifau yma: ceir grodir yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, BL 14882, Brog I.2, CM 5, BL 14971, C 2.68, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5283B, ond brodir yn LlGC 3056D, C 2.114, Pen 63, C 3.37, CM 27, LlGC 16964A, Stowe 959, copïau Llywelyn Siôn a Llst 155 (brodyr yn yr olaf).
4 mwyn aur tawdd C 2.114 mewn avr tawch, Brog I.1 a LlGC 5282B mwyn o avr tawdd, BL 31061 mae avr tawdd, Llst 134 a LlGC 970E mewn aur tawdd (cywirwyd mewn yn mwyn yn yr olaf).
4 a minio’r LlGC 3056D, C 2.114, CM 5, C 3.37, CM 27 a J 137 (cywiriad) yn minio/r/, LlGC 17114B minio ir (derbyniwyd yn GGl), Pen 63 a meinior, LlGC 16964A a mainior, Llywelyn Siôn a maini or, Llst 155 a manior, LlGC 5282B meini /r/, Llst 55 er minio ’r.
5–10 Nis ceir yn C 2.114.
5 mae BL 31061 imae.
5 ym Nis ceir yn LlGC 17114B, BL 31061, LlGC 3057D na LlGC 5282B.
5 yn Nis ceir yn BL 14882, Brog I.1 na BL 31061.
5 ’mro C 2.68 môr.
6 Oes … segurach Ni cheir oes yn LlGC 3051D, BL 14971, Brog I.1, BL 31061, LlGC 16964A a thri o gopïau Llywelyn Siôn, ond ceir yn o flaen segurach i gadw saith sillaf yn y llinell. Yn Llst 134 a LlGC 6511B ceir oes ac yn, a dilewyd oes yn y cyntaf. Yn Llst 155 ceir avr (cywirwyd yn oes ac), ac yn o flaen segurach eto.
7–8 Nis ceir yn Pen 103.
7 mae cwarel aur LlGC 3051D maen kwarel ym, BL 31061 mae kwarel avl, LlGC 3057D may kwarel ym.
7 caer lân C 3.37 kator lan, BL 31061 kae glan.
8 greiglwyth LlGC 3051D, Ba (M) 5, Brog I.1 a BL 31061 grvglwyth, C 3.37 griglwyth, C 2.68 gryglwyth, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Llst 155 graiglys. Derbyniwyd gruglwyth yn GGl ond nid yw’r llawysgrifau o blaid hynny.
8 i’r LlGC 3056D y.
9 mwy LlGC 17114B, CM 5 amwy, BL 14971, Brog I.1, BL 31061, Stowe 959 amwy yw, LlGC 5282B mwy yw.
9 rhent LlGC 5282B rhan.
9 fy rhent C 2.68 fv Rent.
9 fy rhi C 2.68 faur i, BL 31061 fri, Stowe 959 fy rif.
10 o LlGC 3051D, Pen 103, C 2.68, LlGC 16964A, Stowe 959 a Llst 155 yn (felly GGl), BL 14882 a LlGC 3057D y, Brog I.2 a.
11 a mwy LlGC 3051D, BL 14971, Brog I.1, BL 31061 a Stowe 959 mwy yw, C 2.114 mwy.
12 no Brog I.1 nod.
12 dau fwynwr LlGC 17114B dav o fwynwyr, Ba (M) 5, C 2.114 a BL 14882 dav fwynwyr, LlGC 3057D dav fwniwr.
12 hyd Fenis C 2.114 o drer fenis.
13 gwrser olwyn Pen 63 gwrser olyn, CM 27 gŵr siriolwyn, LlGC 16964A gwrsser olwym. Camrannwyd yr ymadrodd yn GGl gŵr serolwyn, yn groes i’r llawysgrifau.
14 a rôi erioed BL 14882 a J 137 yrioed a roed (yn J 137 cywirwyd yn a roe irroyd), Ba (M) 5 er ioed aroe, LlGC 5282B Irioed a roer.
14 yr Brog I.2 i; nis ceir yn BL 14882.
14 ynn LlGC 16964A ym.
16 aed Pen 103 ar.
16 y Llst 155 yn.
16 ’r Llywelyn Siôn ar.
17 i lys Pen 103 illys, BL 14971 yw lys.
18 Herbart Mae’r llawysgrifau’n amrywio o ran -art neu -ert, ond -art sydd yn y mwyafrif. Gthg. -ert yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, BL 14882, C 2.68 a BL 16964A.
18 y Nis ceir yn LlGC 3056D na BL 14882.
18 bo’r Pen 103 boyr, BL 14882 bvr.
19 o fewn awr LlGC 16964A a Llst 155 Ievan awr, Stowe 959 a Llywelyn Siôn yr vn (felly GGl, yn groes i fwyafrif mawr y llawysgrifau).
19 wyf C 2.68 af.
19 un Stowe 959 a Llywelyn Siôn o ran; LlGC 3056D, Pen 103, BL 14882, CM 5, C 3.37, CM 27, C 2.68, LlGC 3057D, LlGC 16964A, LlGC 5282B a Llst 155 yn. Nid yw yn yn rhoi synnwyr yma.
19 oroen Llst 155 orren.
20 Phawl C 2.68 ffawb.
20 gweles Felly LlGC 3056D, LlGC 17114B, BL 14882, Pen 63, C 2.68, Ba (M) 5, J 137, Llst 155 a LlGC 5282B; gthg. LlGC 3051D gweled, Pen 103, Brog I.2, CM 5, C 3.37 a CM 27 gwelais, C 2.114 a LlGC 3057D gwelodd, BL 14971, Stowe 959 a Llywelyn Siôn gwelas (ac felly GGl), Brog I.1 a BL 31061 yn gweled, LlGC 16964A gwalas.
20 a phoen Llst 155 oi phen.
21 innau LlGC 3056D, Pen 63, C 3.37 a CM 27 yno, Pen 103 yn ner.
21 gwal LlGC 17114B gwlad, BL 31061 gwael, Llywelyn Siôn gwalh, LlGC 5282B gwyl.
22 Gwent LlGC 3056D gwaed.
22 Bwrdiaws Mae’r llawysgrifau yn amrywio’n fawr yma, ac ni ellir adfer y ffurf wreiddiol gydag unrhyw radd o sicrwydd. Rhaid ystyried tystiolaeth cywydd ateb Hywel Dafi hefyd, gan y ceir yr un gair ganddo ef (gw. 20a.24), er nad yw’n dilyn o reidrwydd fod y ddau fardd wedi arddel yr un ffurf. O ran y llinell hon, dim ond yn LlGC 3057D y ceir bwrdiaws. Y ffurf fwyaf cyffredin yw bwrdais (LlGC 3056D, BL 14882, Pen 63, C 3.37, CM 27, BL 14971, J 137 a LlGC 5282B); ceir hefyd bwrdiws (LlGC 17114B), bwrdias (Ba (M) 5, LlGC 3051D, C 2.114, C 2.68 a Stowe 959 yn wreiddiol), bwrdiawns (Pen 103, Brog I.2, LlGC 16964A, Stowe 959 (cywiriad), Llywelyn Siôn a Llst 155), bwrdiwns (CM 5), bwrdavs (cywiriad yn BL 14971), bwrdiais (BL 31061). Yn Brog I.1 cafwyd gwrdiaw drwy gywasgu’r gair â’r un blaenorol (?Gwent yn wreiddiol). Yn 20a.31 ceir bwrdiawns (LlGC 3056D, Pen 103, Brog I.2, BL 31061, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Pen 83), bwrdiwns (LlGC 17114B, CM 5, Pen 63, C 3.37 a CM 27), bwrdias (LlGC 3051D, C 2.114 a C 2.68), bwrdais (BL 14882), bwrdiws (BL 14971), bwrdiaws (LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137). Collwyd y rhan berthnasol o Brog I.1, Llst 155 a LlGC 5282B. At dref Bordeaux y cyfeirir, tref a chwaraeai rôl flaenllaw yn y fasnach win rhwng Ffrainc a Phrydain. Gallwn wrthod bwrdais a bwrdiais fel camgymeriad ar ran rhai copïwyr nad adwaenent yr enw lle. Ceir cryn gefnogaeth yn y llawysgrifau ar gyfer bwrdiawns, ond mae’r n yn tarfu ar y gynghanedd yn llinell Guto’r Glyn. Gellid ei chyfrif yn enghraifft o n berfeddgoll, ond haws yw cymryd nad oedd n yma’n wreiddiol, yn enwedig o gofio na cheir n yn yr enw Ffrangeg y seiliwyd yr enw Cymraeg arno. Crybwyllir yr enw gan feirdd eraill. Yn GDEp 7.8 ceir Fwrdiaws, wedi ei gadarnhau gan yr odl, fel hefyd yn GRhB 34.3 Bwrdiaws, yn odli â haws. Yn GLGC 105.29 mae Fwrdios yn odli ag wythnos. I ddychwelyd at yr ymryson: mae digon o dystiolaeth yn y llawysgrifau dros y ddeusain aw, ac yn wyneb y ddwy enghraifft gadarn o Bwrdiaws gan feirdd a oedd yn agos o ran amser at Guto’r Glyn, Bwrdiaws yw’r ffurf a fabwysiadwyd yn y golygiad. Gthg. GGl lle derbyniwyd bwrdais.
22 y BL 14882 ai; nis ceir yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, Brog I.2, CM 5, Pen 63, BL 14971, C 2.68, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A a Stowe 959; dilewyd y gair yn CM 27. Y tebyg yw iddo gael ei hepgor o’r copïau hyn yn sgil peidio â chywasgu baradwys.
23–6 Nis ceir yn Stowe 959.
23–4 Nis ceir yn LlGC 3056D, LlGC 3051D, Brog I.2, Pen 63, C 3.37 na CM 27.
23 a Nis ceir yn C 5.44 na LlGC 970E, a dilewyd ef yn LlGC 6511B.
23 phoen LlGC 16964A pho, Llst 155 ffo y.
23 herwyr Llst 155 herwir.
23 ffyn Pen 103 affyn, Llywelyn Siôn au ffoen (ond nid Llst 134, a dilewyd y gair cyntaf yn C 2.630).
24 I’r rhai ffeils rhôi warae â ffon Mae’r llinell hon yn eithriadol o lwgr yn y llawysgrifau. Mae i’r rhai ffeils yn sicr (ac anwybyddu’r mân amrywiadau a nodir isod), fel hefyd â ffon. Mae mwyafrif y copïau sy’n cynnwys y llinell hon yn cynnig rhyw ffurf ar y berfenw warae, a cheir rhyw ffurf ar y ferf rhoi o’i flaen yn y rhan fwyaf hefyd. Dyma sail y darlleniad a dderbyniwyd. Pen 103 yn unig sy’n rhoi’r llinell yn union fel yn y golygiad, ond o gymryd y dystiolaeth yn ei chrynswth ceir digon o ateg i bob elfen yn y llinell. Isod trafodir yr elfennau fesul un, ond nodir yn gyntaf y fersiynau a lygrwyd yn fwy difrifol: C 2.114 ef aroer hyr ir war hon, CM 5 i rai ffeils ni chwery a ffon, LlGC 16964A a Llst 155 o roi phailst i chw(a)re a phon, Llywelyn Siôn ny wyr ffailst chwarav o ffon. Yn GGl ceir Rhai ffeils a rydd her â ffon.
24 i’r rhai LlGC 17114B a Ba (M) 5 irai, Pen 103 ir rai, BL 14882 a C 2.68 i rai, BL 14971 ir rhai, Brog I.1 ir, BL 31061 yrhai, LlGC 3057D ir hai, J 137 irhai, LlGC 5282B I rhai; cf. hefyd yr amrywiadau yn y nodyn blaenorol. Amhosibl bod yn sicr ai i rai ynteu i’r rhai a ddylai fod yma, ac nid yw’r gynghanedd yn helpu. Nid yw’n effeithio ar yr ystyr.
24 ffeils C 2.68, Brog I.1 a BL 31061 ffeilst, cf. hefyd LlGC 16964A, Llywelyn Siôn a Llst 155 (uchod).
24 rhôi LlGC 17114B arroe, BL 14882, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B i rydd, C 2.68 ry, Brog I.1 ire, BL 31061 i Rroi. Gellid derbyn rhôi, rhydd neu rhy yma, er mai digon pitw yw’r dystiolaeth dros yr olaf mewn gwirionedd. Nid yw’r gynghanedd yn torri’r ddadl rhwng rhydd a rhôi, gan y gellid derbyn cynghanedd draws yma (os gall warae ateb i’r rhai; cofier hefyd fod i rai yn ddarlleniad posibl). Gwrthrych y ferf yw Herbert, gan mai ef a drafodir o linell 13 ymlaen, ond gellid deall rhoi fel berfenw yn hytrach na ffurf trydydd unigol amherffaith.
24 warae LlGC 17114B daro, BL 14882 chware, BL 14971, Ba (M) 5 a J 137 war (dilewyd g ar ddechrau’r gair yn Ba (M) 5), C 2.68 warrai, LlGC 5282B waer; nis ceir yn BL 31061.
24 â BL 14971 y, BL 31061 ar; nis ceir yn C 2.68, Brog I.1, Ba (M) 5, J 137 na LlGC 5282B.
25–8 Yn BL 14882, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B y drefn yw 27–8, 25–6.
25–6 Nis ceir yn Brog I.1 na BL 31061.
25 gŵr LlGC 17114B, CM 5, BL 14971 a C 2.68 gwyr, Pen 103 a C 2.114 y gwr.
25 rhag Pen 103, LlGC 16964A, Llst 155 a LlGC 5282B fal.
25 treisio LlGC 16964A treission.
26 tros LlGC 17114B, Pen 103, BL 14882, CM 5, BL 14971, C 2.68, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A, Llst 155 a LlGC 5282B troes.
26 Went LlGC 3056D y wlad, Brog I.2 wlad.
26 y Nis ceir yn C 2.114 na LlGC 5282B.
26 Pretur Llywelyn Siôn Prester, LlGC 5282B petr. Mae’r orgraff yn amrywio yn y copïau eraill ond hon yw’r ffurf fwyaf cyffredin.
27 marchog Brog I.1 march.
27 a BL 14971 y.
27 gwewyr C 3.37 a BL 31061 gwywyr (cywirwyd yn gwewyr yn yr olaf), Brog I.1 gweyr, LlGC 5282B gwyr.
28 wledd LlGC 3057D rent, J 137 ladd. Addasodd Guto’r llinell hon ar gyfer marwnad Wiliam Herbert (24.10). O’r llinell honno y daw’r darlleniad ladd.
28 o LlGC 3051D oi.
29 mawr LlGC 3051D, Pen 63, C 3.37 a CM 27 mwy.
29 fu ’n Pen 103 ywr, C 2.114 a fv yn, BL 14882, Brog I.2 a Llywelyn Siôn fyr, Pen 63, C 3.37 a CM 27 fv ir, C 2.68, BL 31061 a J 137, LlGC 3057D, LlGC 16964A a LlGC 5282B fvr, Stowe 959 ny r. Anodd penderfynu rhwng fu ’n a fu i’r, ond nid yw’n effeithio odid ddim ar yr ystyr.
29 Israel BL 31061 yskrael, J 137 i fael, Llst 155 yr eissiael.
29 gaffaeliad LlGC 17114B gyff eiliaid, LlGC 3051D gyssayliad, LlGC 16964A, Stowe 959 a Llywelyn Siôn gyfaeliad, Llst 155 geveliad.
30 Salmon C 2.68, LlGC 16964A a Llst 155 Samson.
30 a’i LlGC 3051D, Pen 103, J 137, LlGC 16964A, Llywelyn Siôn, Llst 155 a LlGC 5282B i.
30 dad LlGC 17114B daid.
31–4 Yn LlGC 3057D y drefn yw 33–4, 31–2, fel hefyd yn Stowe 959 lle ychwanegwyd y llinellau ar yr ymyl gyda 43–4.
31–2 Nis ceir yn LlGC 3056D, Pen 103, C 2.114, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 16964A na Llst 155. Hawdd gweld sut y’i hepgorwyd, gan fod y geiriau sesiwn a dad yn 33–4 yn dwyn i gof yn naturiol dad a Salmon (a fu’n enwog fel barnwr) yn 30. Ond heb y cwpled hwn nid oes gwir synnwyr yn y rhan hon o’r gerdd. Yn benodol, mae angen sôn am Wiliam er mwyn egluro’r rhagenwau ei a hwn yn 34. Nid at Salmon a Dafydd y cyfeiriant, wedi’r cwbl, ond at Herbert a’i dad, Syr Wiliam ap Tomas. Yn Pen 103 saif 43–4 yma.
31 am Felly LlGC 3051D, BL 14882, CM 5, BL 14971, C 2.68, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, Stowe 959, Llywelyn Siôn a LlGC 5282B; gthg. LlGC 17114B yn. Rhoddai yn synnwyr da ac nid oes rhaid ateb m yn mwy yn y gynghanedd, ond mae’r llawysgrifau yn gryf o blaid am. Gw. hefyd 32n.
31 mwy yw’n BL 14882, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B y mae.
31 ’n Stowe 959 r; nis ceir yn LlGC 17114B.
32 a’r LlGC 3051D or, Stowe 959 am. am yw’r arddodiad a ddefnyddir yn gyson gyda’r ferf sôn, gw. GPC 3319–20, felly ni ellir derbyn ar nac â’r. Golyga hynny fod yn rhaid derbyn a’r, ac mae hynny wedyn fwy neu lai yn ein gorfodi i dderbyn am Ynys Went yn wrthrych sôn, fel y gellir cydio a’r ddau Wiliam wrth weddill y frawddeg. Dealler: ‘mwy eto yw ein broliant ninnau am deyrnas Gwent a’r ddau Wiliam urddol’.
33–6 Yng nghopïau Llywelyn Siôn y drefn yw 35–6, 33–4.
33 wŷs C 3.37 wyiddis, Llst 155 wyddis.
33 ’n y Pen 103 a BL 14882 vn, BL 14971 /n/ vn, J 137 yn.
34 ei dad LlGC 3056D, Pen 103 a LlGC 3057D y tad.
34 doeth Brog I.2 hael.
34 o dywaid LlGC 17114B adawed, LlGC 3051D o gedid (felly GGl), BL 14882 a ddoetai, Pen 63 o dawiad.
35–6 Nis ceir yn LlGC 3056D, C 2.114, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, LlGC 16964A na Llst 155. Hawdd fyddai hepgor y cwpled hwn mewn cyfres o linellau ar y cymeriad geiriol ni(d).
35 nid C 2.68 ond; nis ceir yn Stowe 959.
35 cryf i Gaerdyf LlGC 17114B a CM 5 rrydd i gaer dydd, Stowe 959 kryf i gaer dydd; dengys y rhain ddryswch oherwydd bod yr enw Caerdyf wedi troi’n Caerdydd yn yr iaith ddiweddarach. Mewn llawysgrifau eraill ceir cryf Caerdyf (Pen 103, BL 14882, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B), gan hepgor yr arddodiad a chymryd Caerdyf fel goddrych brawddeg enwol. Mae hyn yn gadael yn llinell yn fyr. Yn Pen 103 ceir akw ar ôl Caerdyf i adfer hyd y llinell.
35 o BL 14971 y, C 2.68 a Llywelyn Siôn i.
37 myn LlGC 3057D yn.
38 aur C 2.114 wr, ac felly GGl.
40 Syr Raff BL 31061 sarff.
42 a C 2.114 ef a.
42 wŷr C 2.114 wyd.
43–6 Yn LlGC 17114B, CM 5, BL 14971 a C 2.68 y drefn yw 45–6, 43–4.
43–4 Nis ceir yn LlGC 3051D. Yn Pen 103 mae’n sefyll rhwng 30 a 33, yn lle 31–2 nas ceir yn y llawysgrif hon (gw. uchod). Yn Stowe 959 ychwanegwyd y cwpled ar yr ymyl, ar y cyd â 33–4, 31–2 ac yn eu dilyn, gw. uchod.
43 gadu C 2.114 gado, Stowe 959 a gady. Yn LlGC 5282B ceir gador drwy gywasgu gadu neu gado ac or.
43 rosyn BL 14971 y Rhossyn, Llst 155 y rossyn, LlGC 5282B rossyssyn (cf. y nodyn blaenorol am gador, lle collwyd sillaf).
44 a’r Pen 103, C 2.114, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a Stowe 959 y, C 2.68 a.
44 o Raglan Brog I.1 or ragla, BL 31061 ar galan.
44 ynn CM 27 vn; nis ceir yn Brog I.1.
46 prydydd gŵr Pen 63 bardd ir gwr, CM 27 prydydd y gŵr, C 2.68 prydyddwr, Brog I.1 ibrydydd gwr.
47 o’r Llywelyn Siôn o.
48 hwn ni chân haeach C 2.114 ni chan hwn.
49–50 Y drefn yn C 2.68 yw 50, 49.
49 mal CM 5 mawl, Llst 155 mab.
50 gwŷr LlGC 5283B gwr.
50 mwy Brog I.2 mwyn, C 2.68 mae, Llywelyn Siôn mwy o.
51–2 Nis ceir yn Brog I.1.
51 Ceir cwpled ychwanegol o flaen y llinell hon yn LlGC 5282B: gwell I gwelais I treissiaw / na bwrw tryth heb rhaid draw.
52 na LlGC 17114B a CM 5 vn, LlGC 3051D an, Stowe 959 yn.
52 gwych C 2.114 gwyn.
52 onid un LlGC 17114B ond ivn, BL 31061 ond.
53–4 Yn BL 31061 ceir yn lle’r llinellau hyn gwpled o gywydd ateb Hywel Dafi (20a.27–8), diau oherwydd tebygrwydd geiriau agoriadol y ddau gwpled (ni chyrch/ni chyrchaf). Yn Brog I.1 ysgrifennwyd yr un cwpled yn yr un lle (ond collwyd 51–2 yno) ac yna fe’i dilewyd. Gallwn ddyfalu bod y copïydd wedi ei ddileu pan gyrhaeddodd yr un cwpled yn y cywydd ateb.
53 chyrch CM 5 cherdd.
54 threigl C 2.114 a BL 14882 threigla.
56 y LlGC 17114B mor.
56 un LlGC 16964A y.
57–60 Y drefn yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, BL 14971, C 2.68 a Llst 55 yw 59–60, 57–8. Nid yw’n amharu ar yr ystyr. Eto mae mwyafrif y llawysgrifau o blaid y drefn 57–60. Ni ellir bod yn sicr am C 2.114 oherwydd ni cheir 57–8 ynddi.
57 y Pen 103, BL 14882 a LlGC 5282B nid.
57 ci LlGC 5282B kri.
57 ni helio LlGC 17114B a CM 5 nid ymlid, Pen 103 yn hela, BL 14882 a J 137 ni heilio.
57 rhag BL 14882 kyn.
58 onid BL 14882, Brog I.2, CM 5, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959, Llst 155, Llst 55 a Pen 83 ond, LlGC 5282B nid. Er bod nifer sylweddol o lawysgrifau yn cefnogi ond, mae’r llinell yn rhy fyr. Dengys y darlleniadau amrywiol yng ngweddill y llinell (gw. isod) sut yr aeth gwahanol gopïwyr ati i ddatrys y broblem hon. Yn y copïau lle nad ychwanegwyd sillaf arall rywle yn y llinell, rhaid deall eu bod yn cyfrif carw yn ddeusill.
58 carw LlGC 3051D, CM 27, J 137 a LlGC 16964A y karw.
58 hwn nid LlGC 17114B nid vn, LlGC 3051D a C 2.68 nid, BL 14882, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D a Llst 55 hwnw nid, Pen 63 efo nid, Brog I.2, C 3.37 a CM 27 ef nid (felly GGl).
59–60 Yn LlGC 3057D y drefn yw 60, 59.
59 heb BL 14971 ond.
59 gware C 3.37 a CM 27 gwaref.
60 llong Llst 155 llonge.
60 fyned LlGC 17114B syflyd.
60 lle C 3.37 a CM 27 llef.
60 Ar ôl y llinell hon ceir cwpled ychwanegol yn LlGC 3056D a CM 5: nid ansawdd bwyd or vn saig / nid amhevthyn yr vn wraig. Yn BL 14971 fe’i ceir ar ôl 58 (ond y drefn yno yw 59–60, 57–8, cf. uchod). Yn J 137 fe’i hychwanegodd gan law arall ar ôl 56 (noder yr amrywiadau … ansod … o).
61–2 heb gerdded … / Ei bregeth Mae’r cwpled hwn yn benbleth. Dim ond tair llawysgrif agos gysylltiedig â’i gilydd sy’n rhoi’r darlleniad a dderbyniwyd, sef LlGC 17114B, LlGC 3051D a CM 5. Ceir rhywfaint o ateg yn Llst 155 a Pen 83, lle ceir heb gerdded … a ffregeth. Ond yn y lleill i gyd, sef mwyafrif llethol y llawysgrifau, ceir yn cerdded … heb bregeth. Eto, sut y gallai hynny gyd-fynd â chŵyn y bardd yma? Holl bwynt y cyhuddiad yw bod Hywel, er ei fod efallai yn fardd teilwng ei waith, yn bradychu ei grefft drwy wrthod symud o Raglan. Felly mae’n debyg i saethydd nad yw’n anelu ond at un nod, i gi nad yw’n hela ond ceirw, i ŵr nad yw’n fodlon chwarae ond un gêm, ac i long nad yw’n symud o’r porthladd. Byddai sôn am bregethwr sy’n crwydro ond heb bregethu yn difetha’r ergyd yn llwyr: pregethwr sy’n pregethu, ond dim ond i’r un gynulleidfa bob tro, sydd ei eisiau yma. Daw hyn yn gliriach byth o ystyried y ddau gwpled nesaf, lle cymherir Hywel i ddyn anabl, ancr neu feudwy. O ran yr ystyr, felly, rhaid derbyn heb gerdded ac ei bregeth neu â phregeth. Ond os felly, pam y mae’r lleill i gyd yn cynnig yr un darlleniadau llwgr? Rhaid bod y llygru wedi digwydd fwy nag unwaith. Tybed a oedd syniad y brawd fel crwydryn mor gryf nes disodli heb o 61 i 62? Derbyniodd GGl yn … heb.
61 yn BL 14882 yw.
63–70 Mae trefn y cwpledau hyn yn amrywio’n sylweddol yn y llawysgrifau ac nid oes arweiniad clir ynddynt. I raddau helaeth rhaid dewis ar sail rhesymeg ac ystyr. Dechreuwn gyda 69–70, lle mae’r dystiolaeth gryfaf: mae eu safle o flaen 71 yn gadarn ac wedi ei ategu gan LlGC 3056D, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn, Llst 155, LlGC 5282B a Pen 83. Yr eithriadau yw LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68 lle safant ar ôl 62. Mae’r ystyr yn erbyn y safle ar ôl 62 oherwydd mae’r cwpled yn tarfu ar rediad y synnwyr: mae 63–6, sy’n pardduo Hywel fel crupl neu feudwy, yn dilyn yn naturiol y gyfres o gymariaethau anffafriol yn 55–62 sydd oll yn cynnwys y thema diffyg symud. Ar y llaw arall, mae 69–70 yn mynd yn dda o flaen 71.
Mae trefn 67–8 yn fwy problemus. Nis ceir o gwbl yn LlGC 3056D, C 2.114, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 16964A, Stowe 959 yn wreiddiol (fe’u hychwanegwyd gan y brif law), Llst 155 na Pen 83. Yn y llawysgrifau hynny lle disodlwyd 69–70 mae 67–8 yn dod yn uniongyrchol o flaen 71 (felly LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68). Yn BL 14882, LlGC 3057D, J 137, Stowe 959 (drwy ychwanegiad) a LlGC 5282B ceir y drefn fel yn y golygiad, sef 67–70. Yn olaf, yng nghopïau Llywelyn Siôn mae’r cwpled rhwng 65–6 a 63–4. Mae’r copïau sy’n cynnwys 67–8, felly, yn eu rhoi tua diwedd yr adran broblemus hon o’r gerdd, o flaen 69–70 lle na ddisodlwyd y rheini, ac yn sicr ar ôl i’r gyfres o gymariaethau difrïol ddod i ben. Ceir digon o ateg i’w dilysrwydd yn y llawysgrifau, a hefyd ddigon o ateg ar gyfer eu rhoi o flaen 69–70. Gallwn esbonio’r drefn ryfedd yng nghopïau Llywelyn Siôn drwy gymryd eu bod wedi eu hychwanegu at ei gynsail ef (neu’n gynharach) yn sgil eu colli ynghynt, ond yn y lle anghywir. Posibilrwydd arall, fodd bynnag, yw mai 63–4 yn unig a ddisodlwyd yng nghynsail Llywelyn Siôn. Wedi’r cwbl, mae 67–8 yn eu lle cywir ar ôl 65–6 ac wedyn daw 63–4 ac yna 69–70.
Erys i drafod 63–6. Amrywio y mae trefn y rhain yn y llawysgrifau. Dilynir LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971, C 2.68, LlGC 16964A, Stowe 959, Llst 155 a Pen 83. Yn LlGC 3056D, BL 14882, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B y drefn yw 65–6, 63–4, ac yng nghopïau Llywelyn Siôn, fel y gwelwyd, ceir 65–8, 63–4. Yn C 2.114 ceir 65–6, 61–4. Nid yw newid trefn 63–6 yn amharu fawr ar yr ystyr, ond mae dwy ystyriaeth o blaid y drefn fel y’i rhoddir yn y golygiad: i. mae cherdda yn 64 yn adleisio gerdded yn 61, ac mae rodd yn 65 yn cael ei adleisio gan rown yn 67. Yn anffodus nid yw’r ystyriaethau hyn mor amlwg yn y copïau sy’n ategu’r drefn 63–6 eu hunain. Yn gyntaf, mae nifer ohonynt yn rhoi 69–70 rhwng 62 a 63, gan ddifetha’r cysylltiad a awgrymais rhwng cherdda (64) a gerdded (61). Trafodwyd y llawysgrifau hyn eisoes uchod, sef LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68. Yn ail, collwyd 67–8 o LlGC 16964A a Llst 155. Erys Stowe 959 fel y unig gopi sy’n rhoi’r drefn yn union fel y mae yn y golygiad – ac ychwanegiad yw 67–8 yno! Eto, o adfer 69–70 i’w priod le, fel ym mwyafrif mawr y copïau, ac o adfer 67–8 i’w priod le, eto gan bwyso ar nifer dda o gopïau, ceir trefn resymol a dealladwy yn y llawysgrifau hyn.
63 ai LlGC 16964A, Llst 155 a Pen 83 a.
63 crupl LlGC 16964A kypyl.
63 o’r C 2.114 ir.
64 na C 2.114, BL 14882, BL 14971, C 2.68, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn, Llst 155 a Pen 83 ni. Gellid derbyn ni yma ond ceir digon o dystiolaeth dros na.
64 cherdda LlGC 3051D [ ]erdd at, BL 14882 a LlGC 5282B cherddai i, Brog I.2, C 3.37 a CM 27 cherdd i, C 2.68 cherddaf, BL 31061 cherddai, LlGC 3057D cherdded.
64 urddas C 3.37 o vrddas.
65 ai Stowe 959 os; nis ceir yn C 2.114 sydd fel petai’n cyfrif angkar yn ddeusill.
65 pam y Brog I.2 bann, Pen 63 pann i, C 2.68 pan, J 137 a Llst 155 pan i, LlGC 5282B pen I. Derbyniodd GGl pan.
66 os Nis ceir yn BL 31061.
66 ermid LlGC 17114B ermed, BL 14882 ernyd, Brog I.2, C 3.37 a CM 27 ermin, Llst 155 a Pen 83 (h)ermynt, Llst 55 ermig.
66 cafas Pen 103, Pen 63 a LlGC 3057D kafos, Brog I.1 a BL 31061 egas, Llywelyn Siôn ve gas.
67 mi C 2.68 ni.
68 er LlGC 17114B i (felly GGl).
69 maent C 3.37 amaen.
69 gywyddau Pen 103 igowyddav, C 2.114, C 3.37 a CM 27 am gywydde.
69 mêl Llst 155 a nel.
70 i’m Pen 103, BL 14882, Brog I.2, BL 31061, LlGC 3057D, LlGC 16964A, Stowe 959, Ba (M) 5, Llst 155, LlGC 5282B a Pen 83 in, C 2.114 yn y. Ymranna’r llawysgrifau, felly, o ran i’m neu i’n, ond mae’r gynghanedd o blaid i’m. Efallai fod y ffurf person cyntaf lluosog yn y llinell nesaf wedi dylanwadu ar y copïau sy’n cynnwys i’n.
71 och am rai (o chaem Ailgyfansoddi yn LlGC 5282B: nychv yr ym nachaem.
71 och LlGC 17114B os.
71 rai LlGC 3056D a C 2.114 Roi (felly GGl).
71 o Pen 103 oni.
71 chaem LlGC 17114B, Pen 103, C 3.37 a CM 27 chem, BL 14882 a J 137 chayn, BL 31061 chawn, Llywelyn Siôn chai ym.
71 ei BL 14971, LlGC 16964A, Llst 155 a Pen 83 o; nis ceir yn Pen 103 na BL 31061.
72 a’i Stowe 959 u, Pen 83 a (cywirwyd yn ai gan law arall).
72 o Went LlGC 17114B, Brog I.1 a BL 31061 or ty.
73 fal y LlGC 17114B fo ai, CM 5 modd y.
73 wrth LlGC 5282B am.
74 i BL 14971 a LlGC 5282B o.
75 rodiaw Pen 103, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B rodior, C 3.37 a Brog I.1 rodio y, LlGC 16964A rodi.
76 awn Llst 155 a Pen 83 af.
76 innau Pen 63, Llst 134, C 2.630 a LlGC 6511B ninnav, a ddilynwyd yn GGl.
77 eled LlGC 3056D aed a llythyren anodd ei darllen, y cyfan wedi ei gywiro i eled, Brog I.2 aed e, C 3.37 a CM 27 aed o, LlGC 3057D eled e.
77 i Fôn Pen 103, C 2.68, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B yfo, BL 14882 y fo (cywirwyd yn i Fôn ond dilewyd y cywiriad), CM 5 yfo (darlleniad amrywiol, ceir i fôn yn y testun), BL 14971 efô, Brog I.1 afon; i Fôn yn y lleill. Dewisodd GGl efô er gwaethaf cryfder y dystiolaeth dros i Fôn, mae’n debygol oherwydd credu na allai Guto alw Ynys Môn yn wlad iddo, gw. y nodyn esboniadol am drafodaeth.
77 y LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B ir, BL 14882 ir (cywirwyd yn i ond dilewyd y cywiriad), C 3.37 i, LlGC 16964A i (cywirwyd yn i’r gan law arall), C 2.68 iw, Brog I.1 a BL 31061 ar. Mae’r llawysgrifau sy’n darllen efô, etc., yn tueddu i ddarllen i’r yma oherwydd y synnwyr.
78 i Dim ond LlGC 17114B sy’n cynnig ir.
78 Efenni Ceir darlleniad teirsill (efeni, yfenni etc) yn Pen 103, C 2.114, Brog I.2, Brog I.1 a BL 31061, ond fenni a geir fel arall. Byddid yn cywasgu’r enw ar ôl yr arddodiad i, beth bynnag. Nid oes yr un copi’n cywasgu’r geiryn yr/ydd o flaen af. Yn LlGC 3056D ysgrifennwyd fenis a’i gywiro’n fenni, yn LlGC 17114B ceir fenis.
78 yr BL 14971, C 2.68, LlGC 16964A, Llywelyn Siôn, Llst 155 a Pen 83 ydd.
Mae’r ymryson hwn yn codi cwr y llen ar agwedd dau fardd tuag at y grefft farddol. I Guto’r Glyn, ni ellir sôn am fardd nad yw’n clera, nad yw’n teithio o gartref i gartref. Mae Hywel Dafi, ar y llaw arall, yn dewis aros yn ei unfan yn fath o fardd llys parhaol i Syr Wiliam Herbert o Raglan. Wrth gwrs ceir gor-ddweud gan y ddau. Gwyddom o gorff gwaith Hywel Dafi ei fod wedi teithio’n helaeth, gan gynnwys mynd i Wynedd. Eto, er mwyn y ddadl (a’r hiwmor) mae’r ddau fardd yn creu gagendor mwy rhwng ei gilydd nag a fodolai mewn gwirionedd.
Mae cywydd Guto’r Glyn yn agor â darn helaeth o fawl i Syr Wiliam Herbert sy’n cyfrif am fwy na hanner y gerdd. Diau fod Guto, cyn annog Hywel Dafi i ymadael â Rhaglan, yn awyddus i sicrhau na theimlai Herbert fod ei berchentyaeth ef yn cael cam. Mae Guto’n pwysleisio mor gyfoethog a hael yw Herbert: iddo yntau mae Rhaglan cystal â mwynglawdd, ond dyma un man lle nad oes angen unrhyw ymdrech i gael ei aur gwerthfawr (llinellau 1–12). Bydd Guto’n mynd yno adeg gŵyl (15–18). Yna (19–24) mae’n cyflwyno amrywiad trawiadol ar yr hen dopos ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’: mae’r bardd yn profi perchentyaeth hael Wiliam Herbert, ond ar yr un pryd yn gweld y cosbion y mae Herbert yn eu dyfarnu i ddrwgweithredwyr. Dyma ef yn teimlo fel Paul, y sant a gafodd weledigaeth o nef ac o uffern. Eto mae’n cymeradwyo agwedd ddigymrodedd Herbert tuag at droseddwyr oherwydd ei fod wedi gosod trefn ar Went (25–6). Cymherir Wiliam a’i dad, Syr Wiliam ap Tomas (yntau’n noddwr i Guto gynt), â Solomon a Dafydd yn y Beibl. Mae’n eglur fod Wiliam ap Tomas wedi marw (33–4): digwyddodd hyn yn 1445 (Thomas 1994: 11). I gloi’r adran hon o’r gerdd, mae Guto’n cymharu Herbert â phedwar marchog enwog ac yn dymuno hir oes iddo (37–44).
Wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel bardd mawl, gall Guto droi at ddigrifwch: mae hi’n bryd gwneud ei gyd-fardd iau, Hywel Dafi, yn gyff gwawd. Gwna hyn yn gyntaf drwy awgrymu nad yw Hywel yn fawr o ddyn: yn lle’r cywyddau mawl i wŷr go iawn y mae Guto’n eu canu, mae’n well gan Hywel wenieithio merched (45–50). Mae un eithriad, yn sicr, sef Syr Wiliam Herbert, a folir yn selog gan Hywel. Ond mae Guto’n troi hyn hefyd yn arf yn ei erbyn. Nid yw Hywel, yn ôl Guto, byth yn mynd ar gylch clera o’r math a ddisgwylir gan fardd, ond yn hytrach yn aros yn barhaus yn Rhaglan. Mewn cyfres o gymariaethau gwatwarus mynega Guto ei ddirmyg tuag at yr ymagwedd eiddil hon: mae Hywel fel saethydd sy’n gwrthod anelu at fwy nag un nod, fel ci hela nad yw ond yn hela ceirw, fel gŵr sy’n mynnu chwarae’r un gêm o hyd, fel llong nad yw’n hwylio, fel brawd pregethwr nad yw’n mynd o amgylch y wlad (55–62). Neu efallai mai crupl ydyw (63) neu ancr neu feudwy (65). Os yr olaf, mae’n amhriodol fod Hywel yn cael cymaint o fudd (66): wedi’r cwbl, ni ddylai meudwy hel cyfoeth!
I gloi’r cywydd, mae Guto’n amlygu ei awydd i hudo Hywel o’i le. Fel y bydd Hywel yn nodi yn ei gywydd ateb, mae eironi yn yr adran hon o’r gerdd sy’n tanseilio’r safbwynt y mae Guto wedi bod yn ei amddiffyn hyd yn hyn: ei bwrpas, wrth wawdio Hywel, yw ceisio bachu safle gyfforddus Hywel iddo ef ei hun (76). Dyma gloi’r gerdd gydag elfen o hiwmor hunanwatwarus y bydd ei wrthwynebydd yn gallu cydio ynddi, ac, wrth gwrs, gyda chompliment arall i Herbert.
Pwynt o ddiddordeb mawr yn yr ymryson hwn yw ei fod yn datgelu i ni fro Guto’r Glyn. Geilw Hywel ef yn ‘un o feirdd … Gwynedd’ (20a.39–40) ac mae’n amlwg hefyd o ddirmyg Guto tuag at y deheuwr Hywel (cf. 47) nad un o’r De mohono. Mae arwyddocâd y cyfeiriad at Ynys Môn fel y wlad fau yn 77 yn ansicr. Nid oes tystiolaeth arall fod Guto’n hanu o Fôn, ac mae crynswth ei waith yn pwyso o blaid rhywle yng ngogledd-ddwyrain Cymru, felly ymddengys mai pars pro toto ydyw Môn am Wynedd. Os chwiliwn am le y mae ei enw yn cynnwys yr elfen glyn, ac sydd ar yr un pryd wedi ei leoli tua’r gogledd-ddwyrain ac eto yn rhan o Wynedd, y dewis amlwg yw Glyndyfrdwy yn Edeirnion.
Dyddiad
Gelwir Wiliam Herbert yn Syr Wiliam (13). Urddwyd ef yn farchog adeg y Nadolig 1452, gw. DNB (Online). Dengys 20a.21 fod mam Herbert yn fyw o hyd adeg yr ymryson. Yn ôl GLGC 577 a DNB2 26.729 bu farw Gwladus Gam, mam Herbert, yn 1454, ond ni lwyddais i olrhain ffynhonnell yr wybodaeth hon. Os yw’n gywir, fodd bynnag, dyna ddyddio’r ymryson i’r cyfnod 1452x1454, yn weddol gynnar yng ngyrfa Herbert.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LX; Rolant 1976: cerdd 11; Lewis 1982: cerdd 9.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 78 llinell.
Cynghanedd: croes 56% (44 llinell), traws 29% (23 llinell), sain 8% (6 llinell), llusg 6% (5 llinell).
2 Mwynwyr o wlad Sermania Yn 1459 cafodd Almaenwr o’r enw Adrian Sprinkler holl fwyngloddiau arglwyddiaeth Casnewydd, nid nepell o Raglan, ar les, gw. Griffiths 2008: 276n77.
4 tawdd Mewn perthynas ag aur golyga ‘pur, coeth’, gw. GPC 3456 d.g. tawdd1.
6 segurach Am yr ystyr ‘hawdd, rhwydd, didrafferth’, gw. GPC 3205 (3).
8 creiglwyth Cyfeirir, yn ôl pob tebyg, at adeiladwaith trwchus castell Rhaglan.
8 Rhaglan Cartref Syr Wiliam Herbert, castell mawreddog yn arglwyddiaeth Brynbuga (bellach yn sir Fynwy).
10 mwyndir Mwysair yn dibynnu ar wahanol ystyron mwyn yn Gymraeg, sef ‘hyfryd, tirion’, ‘mwyn metal’, ‘budd, lles’.
13 cwrser March rhyfel cydnerth, gw. GPC 649.
17 osai Math o win gwyn melys, gw. GPC 2657 ac OED Online s.v. osey.
18 tai Cyffredin yw defnyddio’r lluosog wrth gyfeirio at gartref uchelwr yn y cyfnod hwn, diau am fod mwy nag un adeilad ynghlwm.
20 Pawl, gweles nef a phoen Yr Apostol Paul. Testun apocryffaidd a ddarllenid yn eang oedd y ‘Visio Pauli’ a ddarluniai’r apostol yn ymweld ag uffern a’r nef ac yn gweld tynged wahanol y rhai pechadurus a’r rhai cyfiawn. Ceir fersiwn Cymraeg Canol o’r testun, gw. Parry-Williams 1926–7.
22 Bwrdiaws Bordeaux yn ne-orllewin Ffrainc. O’r dref honno y deuai llawer o’r gwin a fewnforid i Brydain yn y cyfnod hwn. Fe’i crybwyllir gan Hywel Dafi yn ei gywydd ateb.
26 y Pretur Siôn Brenin-offeiriad chwedlonol y credid ei fod yn teyrnasu rywle yn y dwyrain, yn enwedig yn India. Cyfeiria Hywel Dafi ato yn ei gywydd ateb (20a.19–20). Gw. Edwards 1999.
30 Salmon a’i dad Dafydd oedd tad Solomon.
31 ynys Yn yr ystyr ‘teyrnas, rhanbarth’.
32 dau Wiliam Syr Wiliam ap Tomas a’i fab Syr Wiliam Herbert.
32 urddolion Urddwyd y ddau’n farchogion, Syr Wiliam ap Tomas yn 1426 a’i fab yn 1452, gw. Griffiths 1998: 80–1 a DNB2 26.730.
33 sesiwn Llys cyfreithiol.
35 Caerdyf Caerdydd oedd prif ganolfan arglwyddiaeth Morgannwg lle daliai Syr Wiliam Herbert swydd y siryf, gw. Thomas 1994: 44 a Pugh 1971: 196.
39 Syr Gei Sir Guy of Warwick, arwr rhamant Saesneg boblogaidd. Mae’r beirdd yn cyfeirio ato’n aml, cf. GSCyf 6.19n a GLl 9.56n. Nid oes rheswm dros dreiglo enw ar ôl syr, felly nid yr arwr Arthuraidd Cai sydd yma.
39 Syr Gawen Gawain, Gwalchmai, arwr Arthuraidd.
40 Syr Ffwg Fulk fitz Waryn, arwr rhamant y cyfeirir ato’n fynych gan y Cywyddwyr, e.e. GIG 195 a GGLl 11.57n.
40 Syr Raff Enw hynafiad yw Syr Raff yn 18.44n a hefyd yn GLGC 87.39, mae’n ymddangos, ond arwr chwedlonol ydyw yma, gellir tybied, ac yn TA LXIV.25 a GDID XV.2. Awgrymir dau arwr rhamant yn TA 604, sef Ralph the Collier a Raoul de Cambrai. Nid yw’r naill na’r llall yn debygol. Gwladwr cyffredin yw Ralph the Collier, arwr rhamant Sgoteg (Rauf Coilyear), ac mae Raoul de Cambrai yn gymeriad digon amheus a losgodd eglwys yr oedd pobl ddiniwed yn llochesu ynddi. Efallai fod GGl 344 yn gywir wrth awgrymu mai Sir Ralph Mortimer ydyw, er y disgwylid enw cymeriad rhamant i gyd-fynd â’r tri enw arall. Arglwydd grymus yn y Gororau a Chymru oedd Ralph Mortimer, a briododd â Gwladus Ddu, merch Llywelyn Fawr. Bu farw yn 1246.
41 tyrnau Twrn oedd cylch siryf drwy’r sir a oedd dan ei reolaeth, cylch a gynhelid ddwywaith y flwyddyn, gw. OED Online s.v. tourn. Ni nodir yr ystyr yn GPC 3662.
46 prydydd gŵr Sef bardd a ganai gerddi mawl, cf. yr ymadroddion cywydd mab a cywydd gŵr (GGl ix).
47 Hywel, un o’r Deheuwyr Nid yw’n sicr o ble yr hanai Hywel Dafi, ond fe’i cysylltir yn bennaf â Brycheiniog a sir Fynwy, gw. Johnston 2005: 254–5.
49 Meirchiawn Ceir nifer o gymeriadau o’r enw hwn, gw. TYP3 447–8 a WCD 464–5, ond ni sonnir am yr un ohonynt mewn perthynas â chanu serch.
61 brawd Sef brawd crwydrol, aelod o urdd y Dominicaniaid a grwydrai’r wlad yn pregethu.
64 mynych urddas Gan fod Guto’n mynd ymlaen i gyhuddo Hywel o ymagweddu fel crefyddwr, mae’n bosibl ei fod yn chwarae ar yr ystyron ‘mynych’ a ‘mynaich’ yma.
65 ancr Meudwy a drigai mewn cell a gaewyd â brics neu gerrig fel na allai fynd allan, gw. Hamilton 1986: 185.
65–6 pam y câi rodd? / Os ermid, cafas ormodd Mae Guto’n cwyno bod Hywel yn derbyn rhoddion: fel ancr neu feudwy, dylai ymwrthod â’r syniad o ddal eiddo personol.
73–4 Fal y twyllwyd … / Y Sais Fe geid hen jôc am y Cymry’n codi cymaint o stŵr yn y nef nes bod Pedr wedi agor y pyrth, gweiddi ‘Caws pobi!’ y tu allan, aros i’r holl Gymry ruthro allan ac yna gau’r pyrth ar eu holau. Fe’i hadroddir yn Rhŷs 1901: 599–600 yn dilyn ffynhonnell o’r unfed ganrif ar bymtheg. Dichon mai fersiwn Cymreig coll o’r jôc sydd mewn golwg yma, un a wnâi’r Saeson yn gyff gwawd yn lle’r Cymry.
76 yno Hynny yw, Rhaglan.
77 Môn Gw. nodyn cefndir.
78 Gefenni Ardal o amgylch tref y Fenni, gw. 19.9n.
Llyfryddiaeth
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Griffiths, R.A. (1998), The Reign of King Henry VI (second ed., Stroud)
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Hamilton, B. (1986), Religion in the Medieval West (London)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Parry-Williams, T.H. (1926–7), ‘Breuddwyd Pawl’, B iii: 81–9
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Rolant, E. (1976) (ed.), Poems of the Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c. 1375–1525 (Dublin)
Rhŷs, J. (1901), Celtic Folklore: Welsh and Manx (Oxford)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
This bardic dispute reveals something of the attitudes of two poets regarding the craft of poetry. For Guto’r Glyn, there can be no question of calling someone a poet who does not engage in clera, that is, the regular touring from house to house which seems to have been typical for late medieval Welsh poets. Hywel Dafi, on the other hand, prefers to remain in one place as a kind of permanent court poet attached to Sir William Herbert of Raglan. Of course, there is exaggeration on both sides. We know from the totality of Hywel Dafi’s works that he travelled extensively, even as far as Gwynedd. Nevertheless, for the sake of the argument (and the humour) both poets conspire to create a much deeper gulf between them than existed in reality.
Guto’r Glyn opens his poem with extensive praise for Sir William Herbert, occupying more than half the text. It is probable that Guto wanted to ensure, before urging Hywel Dafi to leave Raglan, that Herbert would not feel that the standard of his hospitality was being slighted. Guto emphasises how rich and generous Herbert is: Raglan is as good as a mine, but a mine which requires no effort on the part of the miner (Guto himself) in order to get hold of its precious metal (1–12). Guto is accustomed to go there at festival times (15–18). Next (19–24) he offers a striking variant on the traditional topos ‘strong towards the strong, meek towards the meek’: the poet himself is able to bear witness to William Herbert’s generosity and hospitality, but while he is there he witnesses the punishments which Herbert is exacting against wrongdoers. He feels like St Paul, who was granted a vision of heaven and of hell. All the same, he approves of Herbert’s harsh treatment of criminals, because he has restored order to Gwent (25–6). William and his father, Sir William ap Tomas (also a patron of Guto formerly) are compared to Solomon and David from the Bible. It is clear that William ap Tomas is dead (33–4): he died in 1445 (Thomas 1994: 11). To conclude this section of the poem, Guto compares Herbert with four famous knights and wishes him a long life (37–44).
Having performed his duties as a praise poet, Guto can turn to humour: it is time to make a laughing-stock of his younger colleague, Hywel Dafi. He first suggests that Hywel is not much of a man: in place of the proper praise poems for real men which Guto composes, Hywel prefers to charm women (45–50). There is one exception, to be sure, Sir William Herbert, whom Hywel praises constantly. But Guto makes this too into a source of criticism. Hywel, according to Guto, never goes on the kind of poetic circuit which is expected of a poet, but rather spends all his time in Raglan. In a series of mocking comparisons Guto expresses his contempt for this feeble attitude: Hywel is like an archer who only ever aims at one target, like a hound which only hunts red-deer stags and no other animal, like a man who insists on playing the same game all the time, like a ship which never sets sail, or like a friar who never goes about preaching (55–62). Or perhaps he is a cripple (63) or an anchorite or a hermit (65). If the latter, is is inappropriate that Hywel should earn so much of a reward (66). After all, a hermit should not seek to accumulate treasure!
To close his poem, Guto tells us that he is eager to entice Hywel from his cushy berth. As Hywel will note in his response, there is an irony in this part of the poem which undermines the viewpoint which Guto has been defending up till now: his purpose, in mocking Hywel, is actually to claim Hywel’s place for himself (76). Thus the poem ends with an element of self-mockery which Guto’s opponent will be able to use as a weapon against him, and needless to say it implies also a final compliment to Herbert.
A further interesting point about this bardic dispute is that it tells us something about Guto’s own home territory. Hywel calls him ‘one of the poets … of Gwynedd’ (20a.39–40) and it is obvious from Guto’s contemptuous attitude towards the southerner Hywel (cf. 47) that he was not himself a native of south Wales. It is unclear how literally we should take the reference in line 77 of Guto’s poem to Anglesey as y wlad fau ‘my country’. There is no other evidence that Guto came from Anglesey, and furthermore the bulk of his work points rather to north-east Wales. It may well be that Anglesey is a pars pro toto expression for Gwynedd. If we are looking for a place whose name contains the element glyn, and which is at once in or near north-east Wales and at the same time part of Gwynedd, then the obvious choice is Glyndyfrdwy in Edeirnion.
Date
In 13 Herbert is called Syr William. Herbert was knighted at Christmas 1452, see DNB (Online). 20a.21 shows that Herbert’s mother must still have been alive at the time of this bardic debate. GLGC 577 and DNB2 26.729 say that Gwladus Gam, Herbert’s mother, died in 1454, but I have been unable to trace the source of this information. If it is true, however, it dates the bardic dispute to 1452x1454, fairly early in Herbert’s career.
The manuscripts
There are 49 manuscript copies of this bardic dispute. There is much variation and little which makes any one copy or group of copies notably better than any other. The following copies were used to make the edition: LlGC 3056D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, Ba (M) 5, Pen 63, Pen 83, BL 14882, Brog I.2, CM 5, C 3.37, CM 27, BL 14971, BL 31061, C 2.68, Brog I.1, LlGC 3057D, J 137, Llst 155, Stowe 959, LlGC 16964A, LlGC 5282B, five copies by Llywelyn Siôn (Llst 134, C 2.630, C 5.44, LlGC 6511B and LlGC 970E) and Llst 55. Of these, LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 and C 2.68 form a group; Ba (M) 5, J 137, BL 14882 and LlGC 3057D form another group; C 3.37 and CM 27 derive from a common exemplar; there may well be a close relationship between Pen 83 and LlGC 16964A; and the five copies in the hand of Llywelyn Siôn are almost uniform. The mauscripts which were not used to make the edition derive from those which were.
The editorial choices made in GGl were particularly arbitrary in the case of this poem, not infrequently following a single copy in the teeth of all the others. I have pointed out a few examples in the notes.
Pen 83 lacks 1–42. Llst 55 contains only extracts.

Stemma
Previous editions
GGl poem LX; Rolant 1976: poem 11; Lewis 1982: poem 9.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 78 lines.
Cynghanedd: croes 56% (44 lines), traws 29% (23 lines), sain 8% (6 lines), llusg 6% (5 lines).
2 Mwynwyr o wlad Sermania In 1459 a German named Adrian Sprinkler leased all the mines in the lordship of Newport, not far from Raglan, see Griffiths 2008: 276n77.
4 tawdd With reference to gold it means ‘pure, refined’, see GPC 3456 s.v. tawdd1.
6 segurach For the meaning ‘easy, effortless’, see GPC 3205 (3).
8 creiglwyth Probably a reference to the mighty stonework of Raglan Castle.
8 Rhaglan The home of Sir William Herbert, a splendid castle in the lordship of Usk (now in Monmouthshire).
10 mwyndir Several meanings are combined here: mwyn can mean ‘gentle, pleasant’, ‘ore’ and ‘benefit, advantage’.
13 cwrser A powerful warhorse, see GPC 649.
17 osai A kind of sweet white wine, see GPC 2657 and OED Online s.v. osey.
18 tai Often used in the plural in this period to refer to a single dwelling, probably because a gentry house consisted of several buildings.
20 Pawl, gweles nef a phoen The Apostle Paul. The Visio Pauli was an apocryphal text which was very widely read. It showed the apostle visiting heaven and hell and witnessing the very different fates of the sinful and the just. There is a medieval Welsh translation, see Parry-Williams 1926–7.
22 Bwrdiaws Bordeaux in south-west France. Much of the wine imported into Britain in this period came from there. It is mentioned by Hywel Dafi in his response.
26 Y Pretur Siôn A legendary priest-king who was believed to rule somewhere in the east, particularly in India. Hywel Dafi mentions him in his response (20a.19–20). See Edwards 1999.
30 Salmon a’i dad King David was Solomon’s father.
31 ynys In the meaning ‘kingdom, region’.
32 dau William Sir William ap Tomas and his son Sir William Herbert.
32 urddolion Both were knighted, Sir William ap Tomas in 1426 and his son in 1452, see Griffiths 1998: 80–1 and DNB2 26.730.
33 sesiwn A court of law.
35 Caerdyf Cardiff was the centre of the lordship of Glamorgan, of which Sir William Herbert was sheriff, see Thomas 1994: 44 and Pugh 1971: 196.
39 Syr Gei Sir Guy of Warwick, a popular English romance hero. The Welsh poets often refer to him, cf. GSCyf 6.19n and GLl 9.56n. There is no reason to expect lenition after syr, so this is probably not the Arthurian hero Cai.
39 Syr Gawen Gawain, Arthurian hero.
40 Syr Ffwg Fulk fitz Waryn, a romance hero often referred to by the Welsh poets, e.g. GIG 195 and GGLl 11.57n.
40 Syr Raff Syr Raff is an ancestor’s name in 18.44n and also in GLGC 87.39, apparently, but here he ought to be a legendary figure, in all probability, as also in TA LXIV.25 and GDID XV.2. Two romance heroes are suggested in TA 604, namely Ralph the Collier and Raoul de Cambrai. Neither is a likely object of comparison here. Ralph the Collier is an ordinary countryman, the hero of a Scottish romance (Rauf Coilyear), while Raoul de Cambrai is also a fairly dodgy character who burnt down a church in which innocent people where sheltering. GGl 344 may be right to suggest that Sir Ralph Mortimer is the Syr Raff mentioned here, though we would ideally expect the name of a romance hero to match the other three names. Ralph Mortimer was a powerful marcher lord who married Gwladus Ddu, the daughter of Llywelyn the Great, and died in 1246.
41 tyrnau A tourn was a sheriff’s circuit of the area under his supervision, held twice a year, see OED Online s.v. tourn. The meaning is not noted in GPC 3662 s.v. twrn.
46 prydydd gŵr I.e. a poet who composes praise poetry, cf. the expressions cywydd mab and cywydd gŵr for ‘praise poem’ (GGl ix). The literal meaning is ‘man’s poet’.
47 Hywel, un o’r Deheuwyr It is not certain where Hywel Dafi came from, but his main connections are with Breconshire and Monmouthshire, see Johnston 2005: 254–5.
49 Meirchiawn Several characters bear this name, see TYP3 447–8 and WCD 464–5, but none of them is associated with love poetry.
61 brawd I.e. a friar preacher, a member of the Dominican Order. Dominicans travelled all over the country preaching.
64 mynych urddas Since Guto proceeds to accuse Hywel of behaving like a religious, it is possible that he is playing on the meanings ‘frequent’ and ‘monks’ here. Mynych can be a plural form of mynach ‘monk’.
65 ancr An anchorite, a kind of hermit who dwelt in a cell walled up with bricks or stone so that he could not leave, see Hamilton 1986: 185.
65–6 pam y câi rodd? / Os ermid, cafas ormodd Guto complains that Hywel is receiving gifts: if he is an anchorite or a hermit, he should reject the idea of personal property.
73–4 Fal y twyllwyd … / Y Sais There is an old joke told about the Welsh making so much noise in heaven that St Peter opened the gates, shouted Caws pobi (‘toasted cheese’), waited for all the Welsh to rush out and then closed the gates behind them. It is retold in Rhŷs 1901: 599–600 from a sixteenth-century source. Guto may well be referring to a lost, Welsh version of the joke, directed this time against the English.
76 yno I.e. Raglan.
77 Môn See background note.
78 Gefenni A region around the town of Abergavenny, see 19.9n.
Bibliography
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Griffiths, R.A. (1998), The Reign of King Henry VI (second ed., Stroud)
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Hamilton, B. (1986), Religion in the Medieval West (London)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Parry-Williams, T.H. (1926–7), ‘Breuddwyd Pawl’, B iii: 81–9
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Rolant, E. (1976) (ed.), Poems of the Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c. 1375–1525 (Dublin)
Rhŷs, J. (1901), Celtic Folklore: Welsh and Manx (Oxford)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)