Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor, fl. c. 1470–m. 1492
Diogelwyd yn y llawysgrifau gyfanswm nid ansylweddol o ddeunaw cerdd i Risiart Cyffin gan saith o feirdd. Canodd Guto chwe chywydd iddo:
Diogelwyd pedair cerdd i Risiart gan Dudur Aled :
awdl fawl, TA cerdd VIII; cywydd i ofyn meini melin gan Risiart ar ran gŵr a elwir ‘y Meistr Hanmer o Faelor’, ibid. cerdd CXX; englynion dychan i Risiart ac i’w feirdd, yn cynnwys Rhys Pennardd, Ieuan Llwyd a Lewys Môn, ibid. cerdd CXLI; englyn mawl i Risiart a dychan i’w olynydd, ibid. cerdd CXLV. Canwyd tri chywydd dychan i Risiart gan Lywelyn ap Gutun :
cystadlu am Alswn o Fôn a dychan i Risiart, GLlGt cerdd 8; dychan i Risiart yn ymwneud â chardota ŵyn, ibid. cerdd 9; dychan i Risiart ynghylch Alswn ac i’w feirdd, lle enwir Rhys Pennardd, Hywel Rheinallt a Lewys Môn, ibid. cerdd 10. Diogelwyd dau gywydd iddo gan Lewys Môn:
ateb i’r cywydd cyntaf uchod o waith Llywelyn ap Gutun, lle amddiffynnir Rhisiart ynghylch Alswn o Fôn, GLM cerdd XV; marwnad, ibid. cerdd XVII. Ceir hefyd rai cerddi unigol i Risiart gan feirdd eraill:
cywydd mawl gan Hywel Rheinallt i Santes Dwynwen lle molir Rhisiart fel person eglwys a gysegrwyd iddi yn Llanddwyn ym Môn; cywydd gofyn am ychen gan Ieuan Deulwyn i’r Abad Dafydd Llwyd o Aberconwy, Rhisiart a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV; cywydd mawl i Risiart gan Syr Siôn Leiaf, lle dychenir Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, Salisbury 2011: 101–18. At hynny, canodd Lewys Daron gywydd i ofyn march gan un o feibion Rhisiart, Dafydd Conwy, ar ran Siôn Wyn ap Maredudd (GLD cerdd 22).
Achres Seiliwyd y goeden achau isod ar Salisbury 2011: 73–77. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor
Roedd Rhisiart yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Syr Gruffudd ab Einion o Henllan.
Ei yrfa Y tebyg yw fod Rhisiart wedi dechrau ei yrfa eglwysig fel person eglwys blwyf y Gyffin yng nghwmwd Arllechwedd Isaf ym mis Mai 1470 (codwyd yr holl wybodaeth o Salisbury 2011). Cafodd Rhisiart ei ddyrchafu’n ddeon Bangor rywdro rhwng y dyddiad hwnnw a 12 Mai 1478, sef dyddiad y cofnod cynharaf lle gelwir ef yn ddeon. Bu’n ddeon gydol wythdegau’r bymthegfed ganrif a bu farw, yn ôl pob tebyg, ar 13 Awst 1492, a’i gladdu yng nghorff yr eglwys.
Fel deon y cyfarchai’r beirdd Risiart ymron ym mhob cerdd, ond gwnaeth y beirdd yn fawr hefyd o’r ffaith ei fod yn berson eglwys Llanddwyn ym Môn. At hynny, dengys rhannau o’r cerddi a ganwyd iddo gan Guto iddo fod yn weithgar yn ailadeiladu rhannau o’r eglwys a’r esgopty ym Mangor (58.7–10; 59.3–14). Yn sgil ei gefnogaeth i Harri Tudur derbyniodd arian er mwyn adeiladu siantri wedi ei gysegru i Santes Catrin yng nghorff yr eglwys. Rhoes hefyd ffenestr liw ac ynddi ddarluniau o Santes Catrin a Santes Dwynwen ym mur de-ddwyreiniol y gangell. Ar waelod y ffenestr honno ceid enw Rhisiart gyda’r teitl Magistri o’i flaen, teitl a adleisir yn hoffter y beirdd o gyfeirio ato fel mastr Rhisiart . Ymddengys ei fod yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.
Roedd cyfraniad Rhisiart i fywyd diwylliannol ei ddydd yn sylweddol. Rhoes fwy o nawdd i feirdd nag unrhyw ŵr crefyddol arall a ddaliodd swydd yn un o bedair esgobaeth Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, o safbwynt genre ceir amrywiaeth eang iawn yn y cerddi a ganwyd iddo neu ar ei gais, oherwydd canwyd iddo ddigon o fawl confensiynol, yn ôl y disgwyl, ond canwyd hefyd lawer o gerddi ysgafn neu ddychanol. Awgrym cryf y cerddi yw ei fod gyda’r iachaf ei hiwmor o’r noddwyr oll.
Llyfryddiaeth Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned , 17: 73–118
Dewis person arall
Angharad ferch Dafydd o Nannau
Angharad ferch Dafydd o’r Cryniarth
Ann Herbert, iarlles Penfro, fl. c.1449–m. 1486
Catrin ferch Maredudd o Abertanad
Dafydd Bromffild o Fers, fl. c.1467
Dafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn, fl. c.1444–m. 1461/2
Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd, fl. c.1450au–m. 1465–9
Dafydd Llwyd ap Gruffudd, fl. c.1440–m. 1465, a Chatrin ferch Maredudd, m. 1465, o Abertanad
Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris, fl. ail hanner y bymthegfed ganrif
Dafydd Mathau o Landaf, fl. c.1424–58
Dafydd Nanmor, fl. c.1445–m. 1485–90
Dafydd ab Edmwnd, fl. c.1450–97
Dafydd ab Ieuan, fl. c.1450
Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth, fl. c.1472–80
Dafydd ap Llywelyn ap Hwlcyn
Dafydd ap Meurig Fychan, fl. c.1471/2–m. 1494, ac Elen ferch Hywel, fl. c.1480au, o Nannau
Dafydd ap Tomas o Flaen-tren, fl. c.1436–61
Edward IV, 1442–83
Edward Trefor ab Edward o Fryncunallt
Edward ap Dafydd o Fryncunallt, fl. c.1390–m. 1445, a’i deulu
Edward ap Hywel, fl. c.1450, a Gwenllïan ferch Rhys, fl. c.1450, o’r Faenor
Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad, fl. c.1450
Elen ferch Hywel o Nannau
Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch, fl. c.1400–50
Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn, fl. c.1406–48
Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol, fl. c.1461–m. 1483
Gruffudd ap Llywelyn o’r Chwaen
Gruffudd ap Rhys o Iâl, fl. c.1450
Gutun Owain, fl. c.1451–98
Gwenhwyfar ferch Elis Eutun o’r Plas Newydd
Gwenllïan ferch Rhys o’r Faenor
Gweurful ferch Madog o Abertanad, fl. c.1430–60
Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, fl. c.1425–67
Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares, fl. c.1482–m. 1504
Huw Lewys ap Llywelyn o Brysaeddfed, fl. c.1461–85
Hywel Dafi, fl. c.1450–80
Hywel Grythor, fl. c.1480–1500
Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch, fl. c.1408–50
Hywel ab Owain o Lanbryn-mair, fl. c.1400–50/75
Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron, fl. c.1399–c.1439
Ieuan Deulwyn, fl. c.1460–88
Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, fl. c.1432–m. 1476/7
Ieuan ab Einion o’r Cryniarth, fl. c.1399–1435, a’i dylwyth
Ieuan ap Gruffudd Leiaf, fl. c.1450–1500
Ieuan ap Tudur Penllyn, 1433/40–c.1500
Llywelyn ab y Moel, fl. c.1395/1400–m. 1440
Llywelyn ap Gutun, 1430/40–c.1500
Maredudd ab Ifan Fychan o Gedewain, fl. c.1450
Maredudd ap Hywel o Groesoswallt, fl. c.1463–1503
Mathau Goch o Faelor, fl. c.1423–m. 1450
Meibion Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn, fl. c.1451–1503/4
Meurig Fychan ap Hywel Selau, c.1400–60, ac Angharad ferch Dafydd, fl. c.1450au, o Nannau
Meurig ap Llywelyn o Fodsilin
Morgan ap Rhosier o Wynllŵg, fl. c.1417–48
Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter, fl. c.1430au
Rheinallt ap Rhys Gruffudd, fl. c.1450
Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor, fl. c.1470–m. 1492
Rhobert ab Ieuan Fychan o Goetmor, fl. c.1475
Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral, fl. c.1444–m. 1469
Rhys Grythor, fl. c.1480–1520
Rhys ap Dafydd o Uwch Aeron, fl. c.1423–m. 1439/40
Rhys ap Llywelyn o Fodychen
Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd, fl. c.1440
Risiart Trefor ab Edward o Fryncunallt
Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt, fl. c. 1429–m. 1452
Siancyn Hafart o Aberhonddu, fl. c.1430–50
Sieffrai Cyffin ap Morus, fl. c.1460–75, a Siân ferch Lawrence Stanstry, fl. c.1460–7, o Groesoswallt
Siân Bwrch ferch William Clopton o’r Drefrudd
Siân ferch Lawrence Stanstry o Groesoswallt
Siôn Abral o’r Gilwch, fl. c.1409–m. 1443
Siôn Dafi o Felwern, fl. c.1450–68
Siôn Edward o Blasnewydd, fl. c.1474–m. 1498, a’i wraig, Gwenhwyfar ferch Elis Eutun, m. 1520
Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun, fl. c.1439–m. 1477
Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai, fl. c.1438–m. 1480
Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, c.1413–m. 1460
Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig
Siôn ap Madog Pilstwn o Hafod-y-wern, fl. c.1450–65
Syr Bened ap Hywel, person Corwen, fl. c.1439–65
Syr Gruffudd ab Einion o Henllan, fl. c.1478–92
Syr Hywel ap Dai o Laneurgain, fl. c.1476–84
Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin o Fuellt, fl. c.1424–38
Syr Rhisiart Herbert o Golbrwg, fl. c.1457–m. 1469
Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, 1448/9–1525
Syr Rhys, fl. c.1465–71
Syr Rosier Cinast ap Gruffudd o’r Cnwcin, fl. c.1454–m. 1495/6
Syr Siôn Bwrch ap Huw Bwrch, 1414–71, a Siân Bwrch ferch William Clopton, fl. c.1419–44/5, o’r Drefrudd
Syr Siôn Mechain, person Llandrinio, fl. c.1470
Syr Water Herbert, c.1461–m. 1507
Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, c.1380au–m. 1445
Syr Wiliam, offeiriad Merthyr Tudful, fl. c.1440
Tomas Salbri ap Harri Salbri o Leweni, fl. c.1447–m. 1490, a’i dylwyth
Tomas ap Watgyn o Landdewi Rhydderch, fl. c.1441
Trahaearn ab Ieuan o Ben-rhos, fl. 1454–1480au
Tudur Aled ap Rhobert o Iâl, fl. c.1465–1525
Tudur Penllyn, 1415/20–c.1485
Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn, fl. c.1420–m. 1483
Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi, fl. c.1462–m. 1524
Wiliam Herbert o Raglan, ail iarll Penfro, 1455–90
Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, c.1423–m. 1469
Wiliam Rodn ap Richard Rodn o Holt, fl. c.1445–67
Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, fl. c.1466–m. 1500
Yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, fl. c.1480–m. 1503
Yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell, fl. c.1480/5–m. 1513
Yr Abad Dafydd o Faenan
Yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur, fl. c.1430–m. 1440/1
Yr Abad Siôn ap Rhisiart o Lyn-y-groes, fl. c.1455–80
Yr Abad Tomas o Amwythig, fl. c.1433–m. 1459