
TecstiliauBoed yn rhai cain o dramor neu’n rhai lleol, roedd tecstiliau’n amlhau yn gyflym yng nghyfnod Guto. Roedd y diwydiant gwlân brodorol yn cynyddu’n gyflym, ond roedd modd prynu tecstiliau cain fel sidan, melfed, damasg a du o lir hefyd mewn marchnadoedd yng Nghymru. At hynny, addurnid llawer o wisgoedd y cyfnod â ffwr a brodwaith i ddangos statws yr uchelwyr. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru