Golygwyd gan: Dylan Foster Evans, Barry J. Lewis, Ann Parry Owen
Casgliad o ysgrifau wedi eu hysbrydoli gan ‘Guto’r Glyn.net’, y golygiad electronig newydd o farddoniaeth Guto’r Glyn (fl. c.1435–90), a ystyrir gan lawer fel bardd Cymraeg pwysicaf y bymthegfed ganrif. Gwahoddwyd arbenigwyr ym maes hanes a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol diweddar i gyfrannu penodau yn eu dewis iaith, ac ymhlith y pynciau a drafodir mae trosglwyddiad y cerddi yn y llawysgrifau, hanes, gwleidyddiaeth, crefydd, diwylliant materol yr uchelwyr, cerddoriaeth, daearyddiaeth a rhyfela.
tt. xiv + 495 Rhagfyr 2013 clawr caled ISBN 978-1-907029-10-3
Pris: £25
I brynu'r casgliad o draethodau, cliciwch os gwelwch yn dda ar y ddolen isod i lawrlwytho ffurflen archebu PDF. Cwblhewch y ffurflen a'i dychwelyd gyda siec am y swm cywir i'r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen.
Ffurflen Archebu