Chwilio uwch
 
103 – Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt
Golygwyd gan Ann Parry Owen


1Yr eryrod arwraidd,
2Anherchog o rywiog wraidd,
3Eneidiau inni ydyn’
4A’n tyrau aur i’n tir ŷn’.
5On’d teg o benaethiaid ŷnt wy?
6Ein hyder, pyst Nanheudwy,
7Ac Adar teg, wedi’r taid,
8Llwch Gwin yn llochi gweniaid.
9Un faner â chaterwen
10Yw Edwart, brenhinwart bren,
11A’i feddiant fwyfwy iddo
12A’i frig yn amgylch ei fro;
13Ei glod cyn amled â’r glaw,
14Ei ddail yw’r aur o’i ddwylaw.

15Mae o’i frig, urddedig ynn,
16Yno goed, enwog ydyn’,
17A pheunod, ystod oesteg,
18A phlaid o Frytaniaid teg.
19Byth ni ad (bython’ oediawg!)
20Duw ar y rhif dorri rhawg.
21Uddun’ ystad ffynadwy,
22Wyrion teg i Awr ŷnt hwy;
23Ceraint gwych, cywirynt ged,
24I’r gŵr a ddaw â’r gwared
25Ac wyrion Robert garwr
26Ap Risiart, orau gwart gŵr.
27O daw rhyw ymdaro rhawg
28Ac ymwan ar feirch gemawg,
29Enw gwiwlan, yno gwelir
30Ceirw teg yn cwncwerio tir.
31Y rhain a fyn y rhan fawr,
32Rhiau ymylau Maelawr;
33Eryrod a oreurir
34Yn Swydd y Waun, orsedd wir.

35Un ohonun’ a henwaf
36O flaen neb, difilain naf:
37Robert a gaiff goreubarch,
38Trefor bost, trefi ar barch;
39Ac ef yw enaid Trefawr
40A Salmon o wyrion Awr.
41Baner aur ar ben yr allt,
42Brenin cenedl Bryncunallt,
43Ac angel, oruchel rydd,
44A dawn Cymry i’w adenydd.
45Enaid Croesoswallt wyneb,
46Cymen ni wna cam â neb;
47A’i frodyr yn wŷr un wedd
48Yn rhedeg mewn anrhydedd:
49Siôn a fyn seinio ei fawl,
50Edwart a Risiart rasawl.
51Aeth yn fy nghof eu gofwy,
52Angylion haelion ŷn’ hwy:
53Pwyll gyfion, pell ogyfarch,
54Pyst y gwŷr ifainc a’u parch.
55Pand diofal eu calyn?
56Panid heirdd y peunod hyn?
57Un wedd, pe iawn ei addef,
58(Un oedd ag engylion nef)
59Â’u tad y sydd benadur
60Ac enaid pawb, o gnawd pur.

1Yr eryrod arwrol
2a gyferchir gan lawer ac sy’n disgyn o dras bonheddig,
3anwyliaid i ni ydynt
4a’n tyrau gwych ar gyfer ein tir.
5Onid ydynt yn benaethiaid hardd?
6Ein gobaith sicr, cynhalbyst Nanheudwy,
7ac, yn dilyn y taid,
8yn Adar Llwch Gwin teg yn rhoi lloches i’r gwan.
9Tebyg ei faner i dderwen lydan ei brig
10yw Edward, pren cynhaliol amddiffynfa frenhinol,
11a’i awdurdod yn cynyddu iddo
12a’i egin o amgylch ei fro;
13ei glod sydd mor gyson â’r glaw,
14ei ddail yw’r aur o’i ddwylo.

15Yn tyfu o’i frigau, yn urddasol ar ein cyfer,
16mae yno goed, enwog ydynt,
17a pheunod bythol-hardd eu hynt
18a phlaid o Frythoniaid gwych.
19Ni fydd Duw byth yn caniatáu (boed iddynt fod yn hir eu hoes!)
20dorri ar y nifer yn y dyfodol.
21Mae eu hamgylchiadau’n ffyniannus,
22wyrion hardd i Awr ydynt hwy;
23cadwent eu haddewid am rodd, berthnasau gwych
24i’r gŵr a ddaw â’r waredigaeth
25ac wyrion Robert ap Rhisiart, y carwr,
26yr amddiffynfa orau sydd i ddyn.
27Os daw rhyw ymrafael yn y man
28a brwydro ar feirch wedi eu haddurno â gemau,
29yno y gwelir, yn deilwng a phur eu clod,
30y ceirw teg yn goresgyn tir.
31Y rhain sy’n hawlio’r rhan fawr,
32arglwyddi gororau Maelor;
33caiff yr eryrod eu hanrhydeddu
34yn Swydd y Waun, trigfan berffaith.

35Enwaf un ohonynt
36o flaen neb arall, arglwydd mwyn:
37Robert a gaiff yr anrhydedd mwyaf,
38cynhalbost Trefor, ei drigfannau’n llawn urddas;
39ac ef yw enaid Trefor
40a Solomon o blith disgynyddion Awr.
41Baner aur ar ben yr allt,
42brenin tylwyth Bryncunallt,
43ac angel, goruchel o hael,
44a bendith Cymry yn ei adenydd.
45Enaid ardal Croesoswallt,
46un doeth nad yw’n gwneud cam â neb;
47a’i frodyr yn wŷr o’r un natur
48yn mynd rhagddynt yn gyflym mewn urddas:
49Siôn sy’n dymuno cael datgan ei fawl,
50Edward a Rhisiart graslon.
51Cofiais i ymweld â hwy,
52angylion hael ydynt:
53teg eu barn, enwog o bell,
54cynheiliaid y dynion ifanc a gwrthrych eu parch.
55Onid dibryder yw eu canlyn?
56Onid hardd yw’r peunod hyn?
57O’r un wedd, os yw’n briodol honni hyn,
58(yr un wedd ag angylion nef)
59â’u tad sy’n bennaeth
60ac yn anwylyd gan bawb, o gnawd pur.

103 – In praise of the sons of Edward ap Dafydd of Bryncunallt

1The valiant eagles,
2greeted by many and springing from a noble stock,
3they are our cherished ones
4and our magnificent towers for our land.
5Aren’t they handsome chieftains?
6Our hope, pillars of Nanheudwy,
7and, following their grandfather,
8the fair Birds of Llwch Gwin who shelter the weak.
9Edward’s banner is like a wide-spreading oak,
10he is the supporting cruck of a royal fortification,
11with his authority ever increasing
12and his shoots encompassing his land;
13his praise is as constant as the rain,
14his leaves are the gold pieces from his hand.

15Growing from his shoots, noble for us,
16are trees there, they are famous,
17and peacocks whose course is eternally fine
18and a host of handsome Britons.
19God will never allow (may they enjoy a long life!)
20their number to be diminished in the future.
21Their circumstances are thriving,
22they are fine descendants of Awr;
23they would fulfil their promise of a gift, excellent kinsmen
24to the man who will bring salvation
25and the grandsons of Robert ap Risiart, the one who loves,
26man’s best defence.
27If battle should ensue in the future,
28with jousting upon jewelled horses,
29there we will see, worthy and pure their praise,
30the handsome stags conquering land.
31These lay claim to the great share,
32the lords of Maelor’s borders;
33the eagles will be honoured
34in Chirkland, a perfect dwelling place.

35I will name one of them
36before anyone else, a gentle lord:
37Robert will receive the greatest honour,
38the pillar of Trefor whose dwellings are full of esteem;
39and he is the soul of Trefor
40and Solomon amongst the descendants of Awr.
41A gold banner on the crest of the hill,
42the king of Bryncunallt’s kin,
43and an angel, eminently generous,
44with the blessing of the Welsh in his wings.
45The soul of Oswestry’s land,
46a wise man who does no injustice to anyone;
47and his brothers are men of the same nature
48proceeding swiftly in glory:
49Siôn who desires that his praise be proclaimed,
50gracious Edward and Risiart.
51I remembered to visit them,
52they are generous angels:
53of fair judgement, widely eminent,
54the pillars of the young men and the object of their respect.
55Aren’t we free from care under their leadership?
56Aren’t these peacocks handsome?
57Of similar countenance, if it’s right to assert this,
58(a similar countenance to that of the angels of heaven)
59to their father who is the chieftain
60and the cherished one of all, of pure flesh.

Y llawysgrifau
Ceir testun o’r gerdd mewn pymtheg llawysgrif a gopïwyd rhwng canol yr unfed ganrif ar bymtheg a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg; cwpled yn unig a geir yn Pen 221. Mae perthynas agos rhwng yr holl destunau, nifer ohonynt yn dangos olion copïo uniongyrchol o’i gilydd ac mae’n bur debyg eu bod yn tarddu o gynsail gyffredin, a oedd, fe allwn gredu, yn agos iawn at destun Guto ei hun. Nid yw’n hawdd diffinio’r union berthynas rhwng y llawysgrifau gan ei bod yn amlwg fod ambell destun wedi ei golli. Credir bod dau brif draddodiad wedi eu sefydlu yn gynnar yn hanes copïo’r gerdd, a chyfeirir yn y nodiadau isod at y rhain fel traddodiad LlGC 17114B a thraddodiad X1.

LlGC 17114B
Mae testun C 5.167 i bob golwg yn gopi uniongyrchol o LlGC 17114B. Fodd bynnag, mae ambell ddarlleniad yn LlGC 17114B wedi ei gywiro, o bosibl gan law’r testun, ond ni chodwyd y cywiriadau hynny i gyd yn C 5.167 sy’n awgrymu i’r copi hwnnw gael ei wneud cyn rhai o’r cywiriadau (e.e. codwyd y cywiriad yn llinell 1, ond nid yr un i linell 15 bendeddic). Posibilrwydd arall, wrth gwrs, yw bod y ddau destun yn gopïau ffyddlon iawn o ffynhonnell gyffredin sydd bellach ar goll.

Mae LlGC 17114B a’r copi yn C 5.167 yn tarddu’r o’r gogledd-ddwyrain, ac mae cysylltiad agos rhyngddynt a theulu Trefor. Mae LlGC 17114B yn cynnig testun da iawn ond nis ddefnyddiwyd gan olygyddion GGl (er nodi rhai amrywiadau o C 5.167). Dyma’r unig lawysgrif sy’n rhoi’r cwpled 57–8 a dderbynnir yn y golygiad hwn.

X1
Ymddengys fod gweddill y copïau i gyd yn tarddu o draddodiad a elwir yn X1 yn y stema. Nodweddir y rhain gan rai darlleniadau sy’n wahanol i eiddo LlGC 17114B: e.e. eryraidd (1), a thrafodir eraill yn y nodiadau isod.

Ceir yn BL 31056 yn aml ddarlleniadau sy’n ei chysylltu’n nes â LlGC 17114B na gweddill llawysgrifau’r traddodiad hwn, a cheir yma olion o orgraff Cymraeg Canol. Tybir, felly, fod BL 31056 yn perthyn yn bur agos i X1.

Mae gweddill y llawysgrifau yn tarddu o draddodiad lle darllenwyd a trwy fawr barch (38) a cywraint y ged (23). Cyfeirir at y traddodiad hwn fel X2, a gwelir bod yr holl lawysgrifau sy’n weddill yn perthyn i’r traddodiad hwn, er bod peth elfen o groesffrwythloni o’r traddodiadau eraill mewn ambell le.

Ymranna llawysgrifau X2 bellach yn ddau grŵp: y llawysgrifau sy’n cytuno â Brog I.2 ac yn darllen i glod yn llinell 13 a llawysgrifau sy’n dilyn LlGC 3056D gan ddarllen a’i glod.

Mae J 101 yn gopi uniongyrchol o Brog I.2, ac mae LlGC 20574A a LlGC 20968B yn perthyn yn agos iddi. Mae ambell ddarlleniad yn LlGC 20968B (llawysgrif a gopïwyd yn y gogledd-ddwyrain yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg) yn ei chysylltu â LlGC 17114B (e.e. hon yw’r unig lawysgrif yn nhraddodiad X1 sy’n darllen seinio (49)) ac anodd yw esbonio hynny, oni thybir bod yma elfen o ddylanwad (llafar efallai) y llawysgrifau hynny a darddai o’r un ardal.

Perthyn y ddau destun arall gan Wmffre Dafis, LlGC 3056D a Llst 35, yn agos i’w gilydd, a gall yr ail fod yn gopi o’r gyntaf, neu fod y ddwy yn gopi o’r un ffynhonnell. Gellir olrhain y proses copïo rhwng y llawysgrifau Llst 35 → Llst 30 → Pen 152 → LlGC 428C yn weddol fanwl. Er bod Llst 133 yn amlwg yn perthyn i’r grŵp hwn, nid yw’n cynnwys rhai o’r newidiadau a wnaethpwyd yn Llst 35, ac felly rhaid tybio’i bod yn perthyn yn nes at LlGC 3056D neu ynteu at ffynhonnell honno. Er mai dilyn Llst 35 a wna Llst 30, mae’n amlwg fod testun arall gan Wmffre Dafis hefyd gerllaw wrth gywiro. Er enghraifft, yn llinell 55 dilynodd Llst 35 a darllen yw kalyn, ond yna cywirodd y darlleniad yn i kalyn (sef darlleniad LlGC 17114B) a dyna’r darlleniad a geir yn Pen 152; mae yw calyn Llst 133 yn awgrymu ei fod yn cadw darlleniad Llst 35 (neu LlGC 3056D).

Ar y cyfan dilynodd golygyddion GGl draddodiad X2 (a gynrychiolir yma gan LlGC 3056D). Ni chynhwyswyd yn y drafodaeth isod y llawysgrifau sy’n tarddu o gopïau hysbys.

Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, BL 31056 a LlGC 3056D.

stema
Stema

1 arwraidd  Yn LlGC 17114B ysgrifennwyd erwraidd cyn ychwanegu v uwchben rhwng yr e a’r r; cf. C 5.167 eurwraidd. Ni chafwyd tystiolaeth bellach dros ffurf eurwraidd, ond mae’n berffaith bosibl fel ffurf, er braidd yn drwsgl, yn enwedig mewn llinell agoriadol cerdd. Braidd yn wan yw’r darlleniad eryraidd a geir yn y llawysgrifau eraill, ac a fabwysiadwyd yn GGl, er y gellid dadlau dros ffigur tarddiadol. O ddychwelyd at ddarlleniad gwreiddiol LlGC 17114B, erwraidd, cynigir bod y ffurf hon yn llurguniad ar arwraidd, neu hyd yn oed yn amrywiad ffonolegol (cyffredin yw i lafariad golli ei hunion ansawdd mewn sillaf wan ragobennol. Diddorol yw nodi bod arwraidd wedi ei ychwanegu fel amrywiad gan law ddiweddarach yn Llst 30.

5 teg o benaethiaid  Mae’r llinell yn wyth sillaf ym mwyafrif y llawysgrifau ac eithrio Llst 35 lle dileodd Wmffre Dafis yr arddodiad o er mwyn arbed sillaf (teg o benaethiaid). Ceir llinellau wyth sillaf yn achlysurol gan Guto, ond dichon y bwriedid ynganu b(e)naethiaid yn ddeusill neu gywasgu (y)nt hwy yn unsill.

8 gweniaid  Cf. LlGC 17114B a BL 31056, ac er nad yw GPC 1571 d.g. gwan1 yn cydnabod y ffurf hon fel lluosog gwan, ceir yno’r dyfyniad canlynol o Feibl 1588, Eseia 35.3 [c]ryfhewch y gliniau gwenniaid; cf. hefyd y ddwy ffurf trueiniaid a trueniaid a nodir yn GPC 3621 fel lluosog truan. Dichon mai dyma’r ffurf a oedd yn y gynsail, er nad yw hynny o reidrwydd yn golygu mai’r ffurf honno a ddefnyddiodd Guto ei hun.

10 Edwart, brenhinwart  O ran yr odl -art, dilynir mwyafrif y llawysgrifau (cf. 50); ond yn LlGC 17114B ceir Ed’ brenhinward. Mewn geiriau benthyg o’r Saesneg y ceir y terfyniad hwn, ac mae ansicrwydd hyd heddiw ynglŷn ag union ynganiad y gytsain derfynol, yn enwedig mewn geiriau lluosillafog. Cf. EEW 242 lle nodir bod -rd yn troi yn -rt yn gyffredin mewn benthyciadau o’r Saesneg, ond bod tystiolaeth hefyd dros -rt yn troi yn -rd. Y terfyniad -art a geir gan amlaf gan Lewys Glyn Cothi yn ei lawysgrifau ef ei hun, ond -ard gan Hywel Dafi, e.e. ceir odl lusg rhwng herbard a warden ganddo yn Pen 67, 44 (ll. 11). Mae’r ffaith fod Guto yn odli Edwart â’r gair unsill art yn 104.9–10, yn ddadl dros gymryd mai ‘Edwart’ yw’r ynganiad yma.

13 ei glod  Mae mwyafrif y llawysgrifau yn darllen i glod, ond mae’r llawysgrifau sy’n perthyn i grŵp LlGC 3056D yn darllen ai glod.

13 â’r glaw  Cf. LlGC 17114B a’r glaw, rhydd llawysgrifau X1 a glaw. Dichon i’r fannod gael ei hepgor yn y llawysgrifau diweddarach er mwyn cael cyfatebiaeth well o ran y gynghanedd draws (Ei glod … â glaw); am ei chynnwys, cf. 34.18 Â’r glod yn amlach no’r glaw.

15 o’i frig  Cf. LlGC 17114B a BL 31056; o frig a geir yn y gweddill. Yn y llinellau blaenorol bu’r bardd yn disgrifio Edward y tad, ac yn y cwpled hwn mae’n troi i gyflwyno ei epil, sef y coed sy’n tyfu o’i frig.

15 urddedig  Darlleniad llawysgrifau X1; yn LlGC 17114B ysgrifennwyd benndeddic ac yna’i ddileu ac ychwanegu vrddedic uwchben, mewn inc tywyllach, gan law debyg iawn i law’r testun. Darlleniad C 5.167 yw bendeddic, ac os cywir bod y testun hwnnw’n gopi uniongyrchol o LlGC 17114B, yna rhaid credu i’r copi gael ei wneud cyn cywiro LlGC 17114B, neu bod y ddwy lawysgrif yn codi’r testun o’r un ffynhonnell. (Cf. 1n.)

Gall copïydd LlGC 17114B (neu law ychydig yn ddiweddarach) fod wedi sylweddoli bod benndeddic yn wallus oherwydd y gynghanedd, a’i gywiro o’i ben a’i bastwn ei hun yn vrddedic, neu gall fod wedi codi’r cywiriad o destun arall (cf. 36n ar o flaen). Mae’n bosibl iddo gamddehongli orgraff Cymraeg Canol lle ceid symbol debyg i b am ‘u’ a d ar ganol gair am ‘d’ neu ‘dd’. Darlleniad yr holl lawysgrifau eraill yw vrddedig, ac yn sgil y cywiriad cynnar yn LlGC 17114B, cymerir mai dyma’r darlleniad cywir.

15 ynn  Yn safle’r brifodl ceir yn yn LlGC 17114B, ac yn y gweddill ynn. Odlir ag ydyn yn llinell 16, ac mae ŷn’ (o ŷnt) neu ynn (‘i ni’) yn bosibl, oherwydd caniateir i’r ddwy ffurf odli ag ydyn’ gan Guto. Byddai urddedig ŷn’ yn ddarlleniad gwan yma, yn rhy debyg i enwog ydyn’ yn llinell 16.

17 oesteg  Darlleniad LlGC 17114B (ond y t yn aneglur). Ac eithrio Llst 133, sy’n darllen asteg, rhydd y llawysgrifau eraill i gyd osteg, sef ffurf dreigledig gosteg ‘tawelwch, seibiant’ neu ‘cerdd’. Y gair cyfansawdd oesteg sy’n rhoi’r ystyr orau yma, a thybir iddo gael ei newid yn y llawysgrifau diweddarach yn ffurf fwy hysbys.

18 Frytaniaid  vrytanied a geir yn LlGC 17114B, ffurf lafar sy’n difetha’r odl fewnol yn y llinell. Mae ffurfiau llafar yn nodwedd o’r llawysgrifau cynnar o’r gogledd-ddwyrain, ond prawf y llinell hon nad yw’r ffurfiau hynny o reidrwydd yn ddilys.

21 uddun’  Cf. LlGC 17114B a BL 31056; fe’i diweddarwyd yn iddyn yn y llawysgrifau eraill.

23–4 Ceraint gwych, cywirynt ged, / I’r gŵr …  Mae’r modd mae’r llawysgrifau’n ymrannu’n grwpiau o ran darlleniad y cwpled hwn yn allweddol o ran deall eu cyd-berthynas. Yn LlGC 17114B darllenir keraint gwych kowirynt ged / Ir gwr addaw ar gwared; yn BL 31056, sy’n tarddu o X1, ceir Ceraint gwiw cowraint ged / ywr gwyr addaw ar gwared; ac yn y gweddill sy’n tarddu o X2, darllenir keraint gwiw kowraint y ged / ywr gwyr a ddaw or gwared (cf. LlGC 3056D).

Diddorol yw newid gwych yn gwiw (neu fel arall): mae’r ddau air yn gyfystyr ac yn gyffredin yn y cyfnod, ac nid oes ystyriaethau cynghanedd o safbwynt y newid, felly mae’n debygol bod yma enghraifft o’r cof llafar yn addasu (boed hynny’n gof Guto ei hun neu’n gof datgeiniaid). Gall y naill neu’r llall fod yn ‘gywir’, ond derbynnir darlleniad LlGC 17114B am ei bod yn gyffredinol nes at y ffynhonnell.

Mae gwahaniaeth semantig rhwng y fersiynau: mae LlGC 17114B yn moli’r meibion, sydd yn [g]eraint gwych … I’r gŵr ddaw â’r gwared; yn y gweddill y meibion eu hunain yw’r gwŷr a ddaw o’r (/â’r) gwared. Nid oes amheuaeth nad fersiwn LlGC 17114B sy’n gywir, a bod y bardd yn cyfeirio yma at y ffaith fod y meibion hyn yn perthyn i Owain Glyndŵr (gw. 23–4n (esboniadol)). Dichon na wyddai’r copïwyr diweddarach am y cyswllt teuluol hwn ac iddynt addasu’r cwpled i fod yn ddisgrifiad o haelioni cyffredinol y meibion.

25 wyrion Robert  Robert yw’r ffurf yn LlGC 17114B a BL 31056; Rhobart a geir yn y llawysgrifau eraill. Nid yw’r gynghanedd o gymorth yma, ond o’r enghreifftiau eraill o’r gair a geir ym marddoniaeth Guto, cadarnheir y terfyniad -ert gan odl gyda pert yn 105.15–16, a chan odl â gwfert yn 104.37; gan hynny, dyna’r terfyniad a dderbyniwyd yma. Cf. 37n.

Anos yw penderfynu ynglŷn â’r gytsain flaen: Robert neu Rhobert. Awgrymir R- gan LlGC 17114B a BL 31056, ond Rh- gan fwyafrif y gweddill. Hefyd, gan na wahaniaethid yn orgraffyddol rhwng rh- ac r- bob tro, gall Robert y llawysgrifau hynaf gynrychioli’r ynganiad ‘Rhobert’. Nid oes ystyriaethau cynghanedd yma, ond o edrych ar enghreifftiau eraill o’r enw yng ngwaith Guto, ymddengys fod y ddwy ffurf yn bosibl (er cydnabod, wrth gwrs, nad yw’r bardd wastad yn poeni am ateb h), e.e. 100.68 Deugi Robert a gribaf, 100.24 Rhobert, ysgwïer hybarch. Ar sail cynghanedd llinell 37 isod, cymerir yn betrus mai Robert yw’r ffurf gysefin yn y llinell bresennol.

26 Risiart  Fel yn achos Robert, gw. y nodyn blaenorol, anodd penderfynu pa un ai Risiart neu Rhisiart yw’r ffurf gysefin. Y talfyriad Ryc’ a geir yn LlGC 17114B, a thra bod BL 31056 yn ffafrio Risiart, mae llawysgrifau X2 yn ffafrio Rhisiart. Yng nghywydd Guto i Risiart Gethin, mae’r gynghanedd yn bleidiol dros y ffurf Rhisiart, 1.41; mae’r gynghanedd yn ffafrio Risiart yn llinell 50 isod.

26 orau  Y ffurf ansafonol ore a geir yn y llawysgrifau cynharaf, ond orev yn Llst 35 a goreu yn BL 31092, hynny yw, gan gopïwyr sy’n tueddu safoni ffurfiau. Y ffurf ore mae’n debyg oedd yn y gynsail, sy’n adlewyrchu ynganiad llafar y gogledd-ddwyrain (mae’r -e derfynol, yn lle -au, hefyd yn nodwedd ar iaith Gutun Owain, fel y gwelir, er enghraifft, yn ei destun o’r Gramadeg, Williams (1927–9): 207–21.

27 ymdaro  Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio LlGC 20574A a Pen 152 sy’n rhoi ymdaraw (cynghanedd sain gadwynog). Dilynir y llawysgrifau hynaf sy’n rhoi cynghanedd groes gyda dwy r yn ateb un yn ail hanner y llinell a chyda’r orffwysfa yn syrthio ar rhyw sydd braidd yn chwithig i’n clustiau ni, ond nid yn anarferol o ran barddoniaeth y cyfnod. Dichon mai’r elfennau hyn a barodd i gopïwr benderfynu addasu’r llinell yn gynghanedd sain.

34 yn Swydd y Waun  Darlleniad LlGC 17114B; llawysgrifau X1 ar. Rhydd yn gynghanedd draws gydag r ganolgoll, a rhydd ar gynghanedd groes syml. O ran ystyr y cwpled, gellir deall un ai bod yr eryrod ar Swydd y Waun yn rhai a oreurir (am ‘eryr ar’, cf. 3.5, 110.1), neu ynteu fod yr eryrod yn rhai a oreurir yn Swydd y Waun. Mae’r ffaith fod yr epithet ar ddiwedd llinell 34, orsedd wir, yn disgrifio Swydd y Waun yn hytrach na’r eryrod o bosibl yn pleidio dros yn, a haws deall sut y byddai yn wedi ei newid yn ar er mwyn cryfhau’r gynghanedd, na bod ar wedi ei newid yn yn.

36 o flaen  Darlleniad llawysgrifau X1; gthg. LlGC 17114B ymlaen a gywirwyd, o bosibl gan yr un llaw, yn o vlaen ar ôl i’r testun gael ei gopïo i C 5.167. Rhydd ymlaen gynghanedd draws ag m wreiddgoll; ceir cynghanedd draws gyda chyfateb-iaeth gyflawnach o ddarllen o flaen. Mae’r ddau ddarlleniad yn gyfystyr (defnyddir y ddau arddodiad gan Guto o flaen neb, cf. 48.2 o flaen neb a 62.23 ymlaen neb), a thybir bod copïydd LlGC 17114B, a oedd o bosibl yn dibynnu ar ei gof yma, wedi cofnodi ymlaen yn anghywir, ac wrth siecio ei destun yn ddiweddarach wedi sylweddoli hynny a chywiro’r darlleniad. (Cf. y sylwadau ar 15 urddedig.) Gwallus yn amlwg yw darlleniad BL 31056 a o flaen neb diflin haf.

37 Robert  Darlleniad LlGC 17114B Robt’, ond Robert yn llinell 25; Robart a geir yn llawysgrifau X1. Dadleuwyd dros Robert yn 25n, felly dyna roddir yma (gyda GGl) er cydnabod ei bod hi’n ddigon tebygol y byddai bardd wedi defnyddio dwy ffurf ar yr un enw yn yr un gerdd.

38 trefi ar barch  LlGC 17114B tryevi arbarch (gyda’r e wedi ei hysgrifennu dros yr y gan yr un llaw), C 5.167 trevi ar barch; darlleniad y llawysgrifau eraill i gyd yw a trwy fawr barch, ac eithrio BL 31056 lle na cheir a. Mae angen prifodl acennog yma ar gyfer y gynghanedd, cf. GHD 4.7–8 Llwyth Gruffudd yw’r budd, ar barch, / Llin Robin llawn oreubarch. O gymryd mai trefi ar barch oedd y darlleniad gwreiddiol, a dyma’r darlleniad anos, gellir tybio iddo gael ei newid i’r darlleniad mwy ‘synhwyrol’ sy’n parchu’r patrwm cytseiniol, trwy fawr barch (darlleniad BL 31056), a chan fod hynny’n rhoi llinell fer, bod â wedi ei hychwanegu wedyn er mwyn rhoi’r sillaf ychwanegol heb effeithio ar y gynghanedd na’r ystyr (darlleniad y llawysgrifau eraill i gyd).

42 brenin cenedl  LlGC 17114B brenin kenedyl; mae’r gweddill i gyd yn darllen a bron cenedl, yn awgrymu mai dyna oedd yn X1. Er mai cyfeirio at frenin Lloegr a wna brenin gan amlaf gan Guto, ceir ambell enghraifft ganddo am ‘bennaeth’ yn fwy cyffredinol, 21.63 brenin ein iaith (am Wiliam Herbert), 91.16 brenin yr haelion (am Hywel ab Ifan Fychan). O dderbyn y darlleniad bron, gellid ei ddeall yn ffigurol am un sy’n ‘fynwes’ neu’n ‘galon’ i’w genedl (cf. 9.31 Marw ’y nghalon, a’m bron a’m braich).

Yn betrus y derbynnir darlleniad LlGC 17114B yma. O’i blaid mae’r cymeriad llythrennol yn y cwpled. Mae nifer o’r llinellau cyfagos (39, 40, 43, 44) yn dechrau â’r cysylltair a, felly tybed a lithrodd llygad rhyw gopïydd ac ysgrifennu a brenin cenedl, a roddai llinell hir o sillaf, a bod y darlleniad hwn wedi ei newid yn a bron cenedl er mwyn arbed y sillaf ac osgoi cael dwy n yn ateb un yn y gynghanedd?

43 oruchel rydd  Darlleniad LlGC 17114B a Llst 133. Rhydd mwyafrif y llawysgrifau orywchel neu oruwchel rydd, fel petaent i gyd yn dilyn ei gilydd gyda’r ffurf anarferol ar y gair cyntaf (nad yw’n cael ei gofnodi yn GPC); yn BL 31056 darllenir ar vchelwydd a LlGC 20968B yn uchel rydd, darlleniadau y mae’n rhaid eu gwrthod ar sail mydr a chynghanedd. O edrych ar y stema, mae’n rhaid cymryd bod copïydd Llst 133 wedi cywiro’r ffurf oruwchel a oedd yn ei ffynhonnell.

44 adenydd  Darlleniad LlGC 17114B, sydd ar yr olwg gyntaf yn peri i’r llinell fod yn hir o sillaf ond o’i gadw gellid tybio bod Cymry i’w yn cywasgu’n ddeusill. Yn y llawysgrifau eraill i gyd arbedir y sillaf drwy ddarllen denydd, a gwallus yn sicr yw BL 31056 a Llst 133 devnydd.

49 seinio  Darlleniad LlGC 17114B a LlGC 20968B; synio a geir yn y lleill i gyd. Nid oes yr un enghraifft arall o synio na seinio ym marddoniaeth Guto, ond o gymryd mai datgan neu leisio oedd ystyr seinio (cf. GGLl 9.67 Lle seinia lliaws annerch, am Forgannwg), rhydd y darlleniad hwn well ystyr na synio ‘ystyried’, &c., er nad yw hwnnw’n amhosibl.

50 Edwart  Cf. 10n.

50 Risiart  Gw. uchod 26n; mae’r gynghanedd yma’n ffafrio Risiart fel ffurf gysefin, yn hytrach na Rhisiart.

53 pell ogyfarch  Mae’r holl lawysgrifau, ac eithrio LlGC 17114B, yn trin ogyfarch yn ddau air, heb sylweddoli, efallai, ei fod yn ffurf dreigledig gogyfarch. Ceisiwyd rhesymoli’r darlleniad yn BL 31056 drwy ddarllen pell gyfarch, ond rhoddodd hynny linell fer, felly ychwanegwyd o yn hanner cyntaf y llinell: pwyll o gyfion, darlleniad na rydd fawr o synnwyr.

54 pyst y gwŷr  Darlleniad gwreiddiol LlGC 17114B, sy’n rhoi ystyr dda gan mai disgrifio’r meibion a wneir (cf. 6 pyst Nanheudwy). Ond yna cywirwyd y darlleniad (?gan yr un llaw) yn post, ac yn BL 31056 darllenir post ywr gwyr, sydd yn chwithig. Pyst a geir yn yr holl lawysgrifau eraill. Anodd derbyn darlleniad cywiriedig LlGC 17114B, ac er y byddai darlleniad BL 31056 yn dderbyniol, rhaid cymryd mai darlleniad gwreiddiol LlGC 17114B sy’n gywir yma.

56 panid  Darlleniad LlGC 17114B; rhydd llawysgrifau X1 ffurf ar ponid, sef ffurf arall ar y geiryn gofynnol. Roedd y ddwy ffurf yn hysbys yn y cyfnod yn ôl GPC 2848, ac mae’n amlwg fod ponid yn fwy cyffredin yn ôl y dystiolaeth. Mae’n fwy tebygol, felly, fod panid wedi ei newid yn ponid yn hytrach nag fel arall: cf. DG.net 68.41 panid dyrys (darlleniad rhai o’r llawysgrifau hynaf) lle y ceid ponid (neu hyd yn oed penyd) yn rhai o’r llawysgrifau diweddarach.

57–8  Yn LlGC 17114B yn unig ceir y cwpled hwn, ac mae’r cymeriad llafarog o blaid ei gynnwys. Cymherir pryd a gwedd y meibion yma i eiddo angylion, cymhariaeth a leisiwyd eisoes yn llinellau 43–4 wrth ddisgrifio Robert Trefor, ac yn fwy penodol yn llinell 52 lle disgrifiwyd y brodyr i gyd fel angylion haelion. Mae’n rhaid fod y cwpled wedi ei hepgor gan ddatgeiniad cynnar: gwelir tuedd i gwpledi fynd ar goll ar ddiwedd cywyddau yn enwedig, oherwydd pallu’r cof, efallai.

58 oedd  Yn LlGC 17114B ceir llinell drom drwy esgynnydd y d olaf, a all fod yn arwydd dileu; oedd a gopïwyd i C 5.167.

Llyfryddiaeth
Williams, G.J. (1927–9), ‘Gramadeg Gutun Owain’, B iv: 207–21

Cerdd foliant yw hon i bedwar mab Edward ap Dafydd o Fryncunallt yn y Waun, sef Robert Trefor, Siôn Trefor, Edward a Rhisiart, a enwir, yn ôl pob tebyg, yn nhrefn eu hoedran. Yr un drefn a welir yng ngherdd 104 a hefyd yn yr achau sy’n gysylltiedig â’r teulu. Molir y tad yn fyr yn llinellau 9–14, ac felly gallwn fod yn hyderus fod y cywydd wedi ei ganu cyn 25 Ebrill 1445, dyddiad ei farwolaeth. (Gw. Edward ap Dafydd.)

Teitl y gerdd yn y llawysgrifau cynharaf yw k’ meibion Ed’ ap dd’, ac ar ôl rhoi sylw bychan i’r tad (llinellau 9–14), yr eryrod arwraidd (1), ei bedwar mab, a gaiff y prif sylw. Gallwn dybio bod Edward yn hen ŵr erbyn i Guto ganu’r cywydd hwn ym mhedwardegau’r bymthegfed ganrif, ac mae’r ddelwedd ohono fel [c]aterwen (9), sef derwen aeddfed lydan ei changhennau, yn ddelwedd addas am un â gofal amddiffynnol dros ei fro: A’i frig yn amgylch ei fro (12). Estynnir y ddelwedd o’r coed drwy ddisgrifio’r meibion fel coed sy’n datblygu o frigau’r gaterwen hon. Pwysleisir cadernid y teulu drwy ddatgan yn hyderus na fydd Duw byth yn torri ar eu rhif: Byth ni ad (bython’ oediawg!) / Duw ar y rhif dorri rhawg (19–20).

Elfen bwysig yn hawl ac awdurdod y teulu wrth gwrs yw eu llinach, a’r ffaith eu bod yn tarddu o rywiog wraidd (2). Mae gwaed teuluoedd Pilstwn a Threfor yn llifo yn eu gwythiennau: gan eu bod yn ddisgynyddion i Awr drwy Wenhwyfar ferch Adda Goch, eu nain ar ochr eu tad (gw. 22n), a hefyd yn wyrion i Robert ap Rhisiart Pilstwn (25–6) ar ochr eu mam, Angharad. Mam Angharad oedd Lowri, chwaer Owain Glyndŵr, a chyfeiria Guto hefyd yn gynnil at y ffaith fod y meibion hyn felly’n berthnasau (ceraint) i Owain, a ddisgrifir fel y gŵr a ddaw â’r gwared (23–4). Mae’r disgrifiad hwn ohono’n awgrymu bod chwedlau’n ei gysylltu â’r mab darogan a ddychwelai i wared y Cymry rhag gorthrwm wedi dechrau datblygu’n fuan ar ôl ei farwolaeth. Dywedir ymhellach os bydd brwydro yn yr ardal hon yn y dyfodol, a hynny, fe gesglir, yn gysylltiedig â dychweliad Owain, yna bydd y pedwar mab fel ceirw teg (30) yn barod i goncro’r tir, ac i ymsefydlu fel eryrod yn Swydd y Waun (33–4).

Neulltuir gweddill y cywydd i ganmol y pedwar mab, gan roi’r sylw blaenaf i’r mab hynaf a henwaf, meddai Guto, o flaen neb (35–6). Hwn yw Brenin cenedl Bryncunallt (42), sydd yn angel gwarcheidwol dros ei bobl ac yn un y mae’r Cymry yn cael bendith yn ei adenydd (43–4). Er bod Edward yn dal yn fyw, mae’n amlwg mai Robert, erbyn canu’r cywydd hwn, oedd pennaeth ymarferol teulu Bryncunallt. Mae’r cyfeiriad ato fel Solomon ei linach (40 Salmon o wyrion Awr), yn awgrymu ei ddoethineb ac yn wir, wrth farwnadu’r tad yn ddiweddarach, dywed Guto mai dyma’r nodwedd a etifeddodd Robert gan ei dad: 104.41–2 Robert gwfert a gafas / Ei brif ddoethineb a’i ras. (Ymhellach arno a’r swyddi gweinyddol a chyfreithiol a ddaliai yn y Mers, gw. Robert Trefor.) Enwir y tri mab arall – Siôn, Edwart a Rhisiart – ynghyd mewn un cwpled (49–50), gan awgrymu bod Siôn yn noddi barddoniaeth (Siôn a fyn seinio ei fawl) a phriodoli graslondeb i’r ddau arall. Clöir y cywydd drwy ddychwelyd at y ddelwedd o’r meibion fel engylion nef, yn unwedd â’u tad, Edward, sydd yn bennaeth dwyfol bron drostynt (60 o gnawd pur). Gwelir yn y ddau gywydd nesaf i’r teulu hwn (cerddi 104 a 105) fod y syniad o berthynas y noddwyr hyn â’r nefoedd yn un y dychwelir eto ato, tybed ai oherwydd y ffaith fod y teulu’n noddwyr i abaty Glyn-y-groes?

Dyddiad
Cyn 25 Ebrill 1445, dyddiad marw Edward ap Dafydd.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd XVI.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (25 llinell), traws 28% (17 llinell), sain 20% (12 llinell), llusg 10% (6 llinell).

2 anherchog  Ansoddair o’r enw annerch. Ceir -nh- ym mhob llawysgrif, ac er bod yr h yn anorganig, cyffredin yw ffurfiau megis anherchai, anherchion yn y llawysgrifau yn gyffredinol, ac weithiau atebir yr h yn y gynghanedd, cf. TA CXXV.50 Mae ’n i harch a’m anherchai. Nid yw’n cael ei hateb yng nghynghanedd y llinell dan sylw, ond gan nad yw Guto yn ateb h yn gyson, fe’i cynhwysir yma gan ddilyn y llawysgrifau.

3 eneidiau  Cyffredin yw enaid am noddwr, yn cyfleu’r ffaith ei fod yn annwyl gan y bardd yn ogystal â’i fod yn ‘[b]erson neu bennaeth sy’n bywhau ac ysbrydoli’, gw. GPC 1211–12 dan ystyron 3 a 4; cf. 60 isod a GLlG 8.66 F’eneidiau, fi ni adan’ (Llywelyn Goch am Hywel a Meurig Llwyd o Nannau).

4 tyrau  Defnyddir tŵr yn aml yn ffigurol am ‘arweinydd neu ryfelwr cadarn’ (GPC 3660), a dyna yw’r prif ystyr yma; cadwyd y trosiad yn yr aralleiriad, gan gofio i’r bardd ddyfalu meibion Edward ap Dafydd fel tyrau yn ei farwnad i’w fab Robert Trefor, 105.7–12 Dra adodd Duw i redeg / Edwart hael a’i dyrau teg, / Castell oedd ef i Drefawr / A’i bedwar mab, dyrau mawr. / Aeth Duw ymaith â deuwr, / Y tad a’r pedwerydd tŵr.

5  Llinell wythsill onis cywesgir (gw. 5n testunol), un ai drwy hepgor yr arddodiad yn y cyfuniad teg o benaethiaid (fel y gwnaeth Wmffre Dafis yn Llst 35), neu drwy ynganu ŷnt wy yn unsill (’nt wy).

6 pyst Nanheudwy  Disgrifiad o’r meibion. Yr oedd cwmwd Nanheudwy yn un o dri chwmwd Swydd y Waun (y ddau arall oedd Mochnant Is Rhaeadr a Chynllaith). Ymrannai Nanheudwy yn dair rhingyllaeth: Isclawdd (a’i chanolfan yn y Waun, lleoliad Bryncunallt), Llangollen (a enwyd ar ôl y drefgordd) a’r Glyn, ac yn Isclawdd a Llangollen oedd prif ddaliadau tir y teulu hwn.

7 wedi’r taid  Dafydd ab Ednyfed Gam, taid y meibion ar ochr eu tad, Edward, neu Robert ap Rhisiart Pilstwn, eu taid ar ochr eu mam, Angharad. Gw. yr ach yn y nodyn ar Edward ap Dafydd. Ar yr arddodiad wedi yn yr ystyr ‘yn null’ yn ogystal ag ‘ar ôl’, gw. GPC 3730. Yr ystyr gyntaf sydd orau yma.

7–8 Adar … / Llwch Gwin  GPC2 30 ‘mythical birds (?griffins), also fig’. Ceir sawl cyfeiriad atynt yn y farddoniaeth wrth foli noddwr a oedd yn ymladdwr grymus neu’n amddiffynnwr gwych ar ei bobl: cf. GGLl 14.64 Adar Llwch Gwin ym ydynt (am Hywel a Meurig Llwyd o Nannau), ac esbonnir yn y nodyn ar y llinell honno eu bod yn ‘Adar chwedlonol sy’n cyfateb, o bosibl, i griffins yn Saesneg ac a oedd yn gyfrifol am godi Alecsander Fawr i’r awyr mewn cawell, un ym mhob congl, er mwyn iddo fedru nodi safle byddinoedd Gog a Magog a oedd yn dod i’w erbyn’; cf. DN XVI.59–64 a tt. 159–91, lle cyfeiria Dafydd Nanmor at yr adar yng nghyswllt Alecsander Fawr.

Yn LlGC 3049D, 1, ceir hanes a gofnodwyd ar ddechrau’r 17g. am Ddrudwas ap Tryffin, mab brenin Denmarc, yn derbyn gan i wraig dri ederyn llwch gwin a hwynt a wnaent beth bynag ar a archai i meistr. Trefnwyd brwydr rhwng Drudwas a’r Brenin Arthur heb ddyfod ir maes ond nhw illdav, a gorchmynnodd Drudwas ar i’r adar ladd y person cyntaf i gyrraedd y maes gan fwriadu cyrraedd yn hwyr ei hun. Ond gohiriwyd Arthur gan chwaer Drudwas, a oedd ordderch i arthvr, a phan gyrhaeddodd Drudwas y maes, gan ddisgwyl darganfod Arthur yn gelain, ymosododd yr adar arno ef, eu meistr, a’i ladd. Wrth ei larpio yn entyrch [sic] awyr i adnabod a wnaethant a disgin ir llawr drwy nethvr oernad dosturi yn y byd am ladd drvdwas i meistr ac yn sgil y drasiedi canasant gân, ac awgrymir mai dyna oedd cyd-destun englyn a briodolir i Lywarch Hen ac a dyfynnir ar ddiwedd yr hanes yn y llawysgrif. Tyn Rachel Bromwich sylw at y ffaith fod copi gwell o’r englyn yng ngramadeg Gutun Owain sy’n awgrymu bod y traddodiadau hyn am yr Adar Llwch Gwin yn hysbys yng ngogledd-orllewin Cymru yn ail hanner y 15g.: TYP3 330 Drudwas ap Tryffin trwm i ddiwarnawd / Rhac trallawd a gorddin / Adwyth oedd ar gyffredin / Adar ai lladdawdd llwch gwin. Gan mai natur amddiffynnol yr adar sy’n berthnasol yng nghyd-destun cywydd Guto, mae’n ddigon posibl mai’r chwedl hon oedd ym meddwl y bardd.

10 brenhinwart  Cyffredin yw gwart yn odli ag Edwart (neu Risiart) gan Guto, ac nid yw’n hawdd penderfynu ar ei union ystyr bob tro. Yn GPC 1586–7 ceir dyfyniadau o waith Guto dan yr ystyron ‘caethiwed, … gwarchodaeth, … cysgod, nodded, amddiffyn’, ‘cwrt mewnol (castell), … amddiffynfa’, ‘gosgordd, gosgorddlu, gwarchodlu; adran o fyddin’, Yng nghyswllt y cyfeiriadau pensaernïol eraill a geir yn y rhan hon o’r cywydd, efallai mai’r ail ystyr sydd flaenaf yma. Tybed a yw’r elfen brenin yma yn awgrymu mai cyfeirio at gastell y Waun a wneir, a oedd yn nwylo’r Cardinal Cardinal Henry Beaufort (m. 1447) ar y pryd? Tybed a oedd gan Edward rôl weinyddol o bwys yng ngweinyddiaeth Swydd y Waun, yr oedd ei phencadlys yn y castell hwnnw?

10 pren  Ers y cyfnod cynharaf mae pren yn Gymraeg wedi golygu ‘coeden’ (e.e. pren afalau), y deunydd ei hun (Saesneg ‘wood’), yn ogystal â’r deunydd defnyddiol (Saesneg ‘timber’), gw. GPC 2873. Fe’i ceir yn drosiad cyffredin gan y beirdd am arglwydd y mae ei wehelyth yn niferus fel coeden amlganghennog, neu fel un sy’n amddiffyn ei bobl fel pren cynhaliol neu nenbren mewn adeilad. Diau mai’r ail ystyr a geir yn y sangiad hwn yng nghyswllt ‘amddiffynfa frenhinol’ (brenhinwart), ond gan fod y bardd yn mynd rhagddo i gyfeirio at Edward a’i feibion yn ffigurol fel coeden ac ysbrigau yn tarddu ohoni, byddai’r ystyr gyntaf yn bosibl hefyd.

12 brig  Ysbrigau, Saesneg ‘spring’, sy’n tyfu o goeden yn sgil y proses coppicing o gynyddu cnwd coed, gw. y nodyn cefndir uchod. Fe’i ceir yma’n ffigurol am ddisgynyddion Edward ap Dafydd: cf. 70.4–5 Pren ir o bob barwn yw, / Pren a’i frig ym mhob bron fry.

12 yn amgylch  Arddodiad cyfansawdd ‘(all) around, round about’, GPC2 210. Mae’r bardd yn parhau’r trosiad yma: mae canghennau’r goeden (epil Edward) yn ymestyn yn amddiffynnol dros y diriogaeth.

13 Ei glod cyn amled â’r glaw  Er mai dagrau niferus sydd fel arfer yn cael eu cymharu â llif y glaw, ceir enghraifft arall gan Guto o gymharu cysondeb clod â’r glaw, gyda’r ddwy elfen eto’n cynganeddu, cf. 34.17–18 Harri a wnaeth ei heuraw / Â’r glod yn amlach no’r glaw.

14 ei ddail yw’r aur  Cf. 80.30 Eurddail ym a rydd o’i law a hefyd GO XXXIII.63 I bawb y rrydd aur val be bai ddail gwŷdd.

15–16 Mae o’i frig … / Yno goed  Gw. 12n brig ac am y syniad cyffredin fod disgynyddion arglwydd yn tyfu’n goed o’i amgylch, cf. 63.7–8 Colonau Nannau a’i nerth, / Coed ir ym mrig gwaed Ierwerth a GDEp 11.9–10 Epil ddwyfil o Ddafydd / A dyf yn goed fwy no gwŷdd, a gw. ibid. 13–14 am drafodaeth gyffredinol ar y ddelwedd.

17 peunod  Cf. 56 Panid heirdd y peunod hyn? Ceir paun yn gyffredin gan y Cywyddwyr yn drosiadol am noddwr bonheddig, ac yn aml yn benodol am feibion neu ddisgynyddion, cf. Iolo Goch am feibion Tudur o Fôn, GIG V.35–6, Plant Tudur, fy eryr fu, / Peunod haelion penteulu; Llawdden am dri mab Owain ap Gruffudd o Riwsaeson, GLl 6.32 Pand ieuainc peunod Owain?, a chan Ieuan ap Hywel Swrdwal am dri mab Rosier Fychan, GHS 26.5–6, Dygwn ni, mae’n deg y nod, / … achau’r peunod. Y meibion sydd dan sylw yma hefyd.

19 bython’  Ar bython(t), ffurf amrywiol ar y trydydd unigol presennol dibynnol bônt, cf. bwyf/bythwyf, a gw. PKM 36.28 cadarnhau y uann y bythont, a’r nodyn ibid. 185.

20 ar y rhif dorri rhawg  Am yr ymadrodd torri (ar) (y) rhif yn golygu ‘lleihau nifer’, cf. Tudur Aled mewn cywydd i Dudur Llwyd, Bodidris, sydd fel petai’n adlais o’r llinell hon gan Guto, TA LII.23–5 Bob gŵyl dy ddisgwyl ydd wyf, / A’th frodyr, … / Eithr o’r rhif ni thorro rhawg. Ond torrwyd ar rif y teulu ym Mryncunallt, fel y dywed Guto yn ei farwnad i Robert Trefor, 105.23 Torred rhif tyrau Trefawr.

21 uddun’  Un o ffurfiau Cymraeg Canol ar drydydd lluosog yr arddodiad i, gw. GMW 60.

22 Awr  Cyndaid Edward ap Dafydd ar ochr ei fam, Gwenhwyfar ferch Adda Goch ab Ieuaf ab Adda ab Awr: gw. Edward ap Dafydd. Credid mai Awr a roes ei enw i Trefawr; cf. Glenn 1925: 1, ‘Trefor … the earlier form of which is supposed by some to have been Trev Awr, or the Tref or vill of Awr, the latter being the name of several of Tudur’s descendants’; Roberts 1974: 73, ‘nid oes a wnelo’r Trefor hwn â na “môr” na “mawr”; Tref-Awr ydyw, sef tiriogaeth arbennig cyff-cenedl o’r enw Awr’. Ond tybed, mewn gwirionedd, ai enghraifft o ffug-etymoleg yw hyn, gan fod Trefor, wrth gwrs, yn enw cyffredin drwy Gymru, cf. Lloyd-Jones 1928: 38. Dichon mai’r traddodiad hwn am gyswllt Awr a Trefor sy’n esbonio’r mynych gyfeiriadau at Awr yn y canu i’r teulu hwn. Gw. ymhellach 110.10n.

23 cywirynt ged  Am y ferf cywiro yma, cf. Pen 18, 26 (a ddyfynnir yn GPC 834) ar brenhin agywirawd iddaw pob peth or aedewis idaw. ‘Cyflawni addewid’ yw’r ystyr.

23–4 Ceraint gwych … / I’r gŵr a ddaw â’r gwared  Digwydd gwared gan amlaf yn y farddoniaeth un ai yng nghyswllt gwaredigaeth neu achubiaeth ddwyfol, neu mewn cyswllt daroganol am y waredigaeth y bydd y mab darogan yn ei chynnig i’w bobl. Yn y cwpled hwn nid oes amheuaeth nad Owain Glyndŵr yw’r gŵr a ddaw â’r gwared, ac mai cyfeirio a wna Guto at y ffaith fod nain y meibion, sef Lowri ferch Gruffudd Fychan, yn chwaer i Owain Glyndŵr. Yn y cwpled nesaf enwir eu taid, gŵr Lowri, sef Robert ap Rhisiart Pilstwn. Mae’r cyfeiriad hwn at Owain Glyndŵr yn awgrymu bod chwedlau am ei ddychweliad wedi datblygu’n fuan ar ôl ei farwolaeth (fel a ddigwyddodd yn achos Owain Lawgoch). Nodir ar ddalen yn llawysgrif Pen 26, 98 (a gofnodwyd rhwng 1439 a 1461 yn ôl pob tebyg gan aelod o deulu Trefor Bryncunallt), mai yn 1415 y bu Owain farw: Obitus Owani Glyndwr die sancti Mathei apostoli anno domini millesimo CCCCXV, gw. Phillips 1970–2: 59–76.

25–6 Robert garwr … / Ap Risiart  Byddai ‘perthynas’, ‘cyfaill’, ‘anwylyd’ neu ‘un sy’n caru’, yn ystyron posibl, gw. GPC 435, ond diau mai’r ystyr gyntaf sydd orau yma, a’r bardd yn pwysleisio cysylltiadau teuluol teulu Bryncunallt. Robert ap Rhisiart Pilstwn oedd tad Angharad, gwraig Edward ap Dafydd. Mae’n debygol mai Rhisiart Pilstwn, tad Robert, oedd y cyntaf yn y teulu i noddi beirdd Cymraeg, a hynny yn ei gartref yn Emral. Cadwyd cywydd yn gofyn am delyn iddo gan Ruffudd Fychan o Fôn, GSRh cerdd 11. Drwy briodas Rhisiart â Lleucu ferch Madog Foel sicrhaodd y teulu hwn ddisgynyddiaeth o linach tywysogion Powys a phriododd eu mab hynaf, Robert, y cyfeirir ato yma, â Lowri, un o chwiorydd Owain Glyndŵr, gan gryfhau ymhellach gyswllt y teulu â’r hen bendefigaeth Gymraeg. Ymhellach ar y teulu gw. WG1 ‘Puleston’ a Charles 1972–3: 22–6, 43.

28 meirch gemawg  Cf. TA II.84 cwrser gemog.

32 ymylau Maelawr  Saif Bryncunallt a’r Waun Isaf yn nwyrain cwmwd Nanheudwy, yn agos iawn i’r ffin â Maelor Gymraeg.

34 Swydd y Waun  Arglwyddiaeth y Waun, neu Chirkland, a gynhwysai dri chwmwd, sef Nanheudwy (gw. 6n), Mochnant Is Rhaeadr a Chynllaith.

34 gorsedd wir  Dyma’r unig enghraifft o’r gair gorsedd ym marddoniaeth Guto. Gall fod yn gyfeiriad cyffredinol at Swydd y Waun fel ‘preswylfod’ berffaith, neu’n fwy penodol at ‘lys’ y teulu ym Mryncunallt.

37 a gaiff goreubarch  Cysefin y gwrthrych oedd yn arferol yn y cyfnod hwn ar ôl ffurf trydydd unigol presennol mynegol ‘cysylltiol’ y ferf (e.e. ar ôl berf berthynol, fel a geir yma); gw. TC 189, ‘pe cyfrifid pob esiampl yng ngweithiau bardd fel D[afydd] N[anmor] gwelid mai cadw cysefin y gwrthrych ar ôl amryw ffurfiadau’r 3ydd un. P. Myn. oedd y rheol’, a gw. ymhellach ibid. 207–8.

37–8 Robert … / Trefor bost  Chwaraeir ar enw mab hynaf Edward ap Dafydd, Robert Trefor: gellir dehongli Trefor yma fel enw lle (ardaloedd Trefor Isaf a Threfor Uchaf yn Nanheudwy) neu gyfenw teuluol, ac felly hefyd yn llinell 39. Olrheiniai’r teulu eu llinach yn ôl i Dudur Trefor, ac er ei bod yn ymddangos mai meibion Edward ap Dafydd, Robert Trefor a’i frawd Siôn Trefor, oedd y cyntaf o’r gangen hon o’r teulu i arddel Trefor fel cyfenw yn y bymthegfed ganrif, fe’i defnyddiwyd yn achlysurol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, er enghraifft gan y ddau Siôn Trefor a fu’n esgobion Llanelwy. (Gw. ymhellach Edward ap Dafydd.)

38 ar barch  Am y cyfuniad hwn, cf. Ieuan Tew Ieuanc: Gw 32, Oen llawfaeth, ennill hefyd / Er Duw ar barch, air da’r byd. Am ar gydag enw i ‘ffurfio ymad. adfl. yn dynodi cyflwr, stad, dull, proses, &c.’, gw. GPC2 401 d.g. ar1 8(e). Felly gyda trefi ar barch, gellid cymharu ymadrodd megis byd ar gynnydd.

40 Salmon  Ffurf arferol Guto ar yr enw Solomon, ond ceir ganddo hefyd yr hen ffurf Gymraeg Selyf. Cofir Solomon am ei ddoethineb, ac ymddengys mai dyna’r gynneddf a etifeddodd Robert gan ei dad, Edward, 104.41–2 Robert gwfert a gafas / Ei brif ddoethineb a’i ras.

40 Awr  Gw. 22n.

41–2 Baner aur ar ben yr allt / … Bryncunallt  Cf. 105.39–42 Canu bûm ym Mryncunallt, / Cwyno’r wyf acw ’n yr allt. Trefgordd i’r dwyrain o bentref presennol y Waun oedd Bryncunallt, wedi ei lleoli ar dir uchel uwchben y dyffryn.

43 angel  Yr oedd Guto yn hoff o alw noddwr yn angel, yn enwedig dynion ifanc: cf. y disgrifiad o bedwar mab Edward ap Dafydd fel Pedwar angel a welwn / Yn cynnal nef, hendref hwn, 104.53–4, ac am Harri Ddu, Yng nglan Aur angel ynn yw, 32.12. Yn ymhlyg yn y trosiad mae canmoliaeth i’r noddwr fel amddiffynnydd a chynheiliad ei bobl heb sôn am ei rinweddau moesol. Estynnir y trosiad i’r llinell nesaf gyda’r cyfeiriad at adenydd. Gan mai enw gwrywaidd yw angel, rhaid deall oruchel rydd sy’n dilyn yn ymadrodd cyfosodol er mwyn cyfrif am y treiglad meddal.

44 Cymry  Er ei ddeall yma am y bobl, gall yn hawdd mai at wlad y cyfeirir gan mai’r un oedd y ffurf ar gyfer y wlad a’r bobl yn oes Guto, fel y prawf yr odl yn aml.

44 i’w adenydd  Posibilrwydd arall yw ei ddeall yn gyfuniad o i = ‘yn’ a’r rhagenw (‘yn ei adenydd’), er bod GMW 199 yn nodi mai yn unig mewn cywasgiad â’r rhagenw cyntaf a’r ail unigol y ceir i yn yr ystyr honno. Cywesgir Cymry i’w yn ddeusill er mwyn hyd y llinell.

45 Croesoswallt wyneb  Cymerir mai ‘arwyneb, ardal’ yw ystyr wyneb yma, ond yr oedd hefyd ystyron megis ‘anrhydedd, parch, statws’ yn y cyfnod cynnar (cf. yr ymadrodd colli wyneb, a gw. GPC 3742), ac mae’n bosibl mai dyna’r ystyr yma (‘un sy’n anrhydedd i Groesoswallt’). Cofnodir enwau Robert, Siôn, Edward a Rhisiart Trefor fel bwrdeiswyr yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12), ac er mai meibion Siôn Trefor ab Edward ap Dafydd yw’r pedwar hyn, yn ôl pob tebyg, tybed a oedd gan Robert Trefor y gerdd bresennol yntau ddaliadau yno yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif?

48 rhedeg  Anodd penderfynu ar ei union ystyr, ond cf. 105.7–8 Dra adodd Duw i redeg / Edwart hael.

49 Siôn  Siôn Trefor (a adwaenir yn gyffredin fel Siôn Trefor Hen er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a sawl Siôn Trefor arall yn y teulu hwn). Ar ôl i Robert farw heb blentyn cyfreithlon yn 1452, Siôn oedd y prif etifedd.

50 Edwart a Risiart  Y ddau frawd iau. Yn Pen 127, 195, dan Nanheudwy, enwir iohn trevor a Richart a gwenhwyvar ev chwaer gwraic ottwel wrsle yn blant i Edward ap Dafydd. Tybed nad enwir Robert yno am iddo farw’n gynnar, ac efallai Edward yr un fath? Neu mae’n bosibl mai’r ffaith na chafodd y ddau blant cyfreithlon a gadwodd eu henwau allan o’r llyfrau achau.

51 aeth yn fy nghof  Er na restrir y cyfuniad mynd i gof yn GPC2 93–4, cf. GPC 936 dyfod yn ei gof, – yng nghof ‘to come to one’s memory or rememberance, remember’ (enghreiffiau o 1551) a dyfod i gof ‘to come to (one’s) memory, remember or be reminded (of), occur to’ (enghreifftiau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg).

54 pyst y gwŷr ifainc  Cyffredin gan Guto wrth foli noddwr yw cyfeirio at awdurdod neu boblogrwydd y noddwr hwnnw gyda’r ifainc yn benodol, cf. 3.5 Eryr yw ar wŷr ieuainc (am Fathau Goch), a molir Ieuan Fychan o Bengwern a oedd hefyd yn fardd a thelynor am boblogrwydd ei ganu ymysg yr ifainc, 106.55–6 Os Ieuan a gân y gainc, / Llawen fydd y llu ifainc.

60 Ac enaid pawb, o gnawd pur  Disgrifiad o’r tad, Edward ap Dafydd, sy’n anwylyd pur ei gnawd i bawb. Os cyfeirir at y ‘cnawd’ yn yr ystyr ddiwinyddol yma, gall [c]nawd pur ddisgrifio person daionus yn gyffredinol (hynny yw rhydd o [b]echawd y cnawd, chwedl Gruffudd ap Maredudd, GGMD ii, 3.212; cf. GDID XII.21 Llywelyn, ganeidwyn gnawd). Rhoddir i cnawd hefyd yr ystyron ‘perthynas o waed, câr, cyfnesaf’ yn GPC 518 d.g. cnawd1, ac mae’n bosibl mai moli tras dilychwin Edward a wneir yma, cf. 2 o rywiog wraidd.

Llyfryddiaeth
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Glenn, T.A. (1925), History of the Family of Mostyn of Mostyn (London)
Lloyd-Jones, J. (1928), Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (Caerdydd)
Phillips, J.S.R. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Rackham, O. (1990), Trees and Woodland in the British Landscape: The Complete History of Britain’s Trees, Woods and Hedgerows (London)
Roberts, E. (1974), ‘Llys Ieuan, Esgob Llanelwy’, TCHSDd 23: 70–103
Smith, Ll.O.W. (1970), ‘The Lordships of Chirk and Oswestry 1282–1415’ (Ph.D. University of London)

This is a poem in praise of the four sons of Edward ap Dafydd of Bryncunallt, Chirk, namely Robert Trefor, Siôn Trefor, Edward and Rhisiart, probably named in order of their age. (This same order is given in poem 104 and also in the genealogies.) Their father, Edward ap Dafydd, is praised briefly in lines 9–14, so we can be confident that the poem was composed before 25 April 1445, when Edward died. (See Edward ap Dafydd.)

The poem’s title in the earliest manuscript is k’ meibion Ed’ ap dd’ (‘cywydd for the sons of Edward ap Dafydd’), and following the brief description of the father, it is on the ‘valiant eagles’ (1), Edward’s four sons, that Guto focuses. We can presume that Edward was an old man by the 1440s, and the image of him as a ‘wide-spreading oak’ (9 [c]aterwen) is apt for a patriarchal leader with his offspring defending his land (12). The image is extended further by describing the sons as trees springing from this central oak tree. The family’s steadfastness is emphasized as the poet claims confidently that God will never diminish their number (19–20).

A key element in the family’s claim to authority was their lineage and the fact that they sprang ‘from a noble stock’ (2 o rywiog wraidd). The blood of both the Trefor and Puleston families flow in their veins: they are descendants of Awr of the Tudur Trefor clan on their father’s side (see 22n) and the grandchildren of Robert ap Rhisiart Puleston (25–6), on the side of their mother, Angharad. Her mother, Lowri, was the sister of Owain Glyndŵr, and Guto also discreetly refers to the fact that the sons are therefore related (23 ceraint) to Owain, ‘the man who will bring salvation’ (24 gŵr a ddaw â’r gwared). This description of Owain suggests that tales had begun to circulate fairly soon after his death, identifying him with the ‘son of prophecy’ who would return one day to deliver the Welsh from oppression. Should there be fighting in this region in the future, then the four sons will be ready to conquer the land, as ‘handsome stags’ (30 ceirw teg), ready to establish themselves as eagles presiding over Chirkland (33–4).

The remainder of the poem is given to praising each of the four sons in turn, giving most attention to the eldest, Robert, who ‘I will name’, says Guto, ‘before anyone else’ (35–6 a henwef / O flaen neb). He is ‘king of Bryncunallt’s kin’ (42), a guardian ‘angel’ for his people, and one in whom the Welsh derive a blessing from his ‘wings’ (43–4). Although Edward is still alive, it is Robert who is now the effective head of Bryncunallt. He is the wise Solomon of his family (40), and Guto notes later, in his elegy for Edward ap Dafydd, that it was Robert who inherited his father’s wisdom (104.41–2). (For the administrative and legal posts he held in the March, see Robert Trefor.) The other three sons, Siôn, Edward and Rhisiart, are named together in one couplet (49–50): Siôn is a patron of poetry (49) and to the other two Guto attributes graciousness. At the end of the poem, Guto returns to the image of the sons as ‘angels of heaven’, like their father, Edward, who is as a holy chieftain ‘of pure flesh’ guarding them (60 o gnawd pur).

Date
The poem was sung before 25 April 1445, when Edward ap Dafydd died.

The manuscripts
The poem occurs in 15 manuscripts, ranging in date between the middle of the sixteenth century and the nineteenth century; there is only one couplet in Pen 221. The texts are all closely related, many showing signs of direct copying from each other, and it is very likely that they all derive from a common source, which was probably not far from Guto’s own text, be that in oral or written form. As some manuscripts have obviously been lost with time, it has not been easy to define the exact relationship between the surviving copies in the stemma. However, it seems that the surviving manuscripts can be grouped into two main traditions: those following LlGC 17114B and those deriving from X1.

LlGC 17114B comes from north-east Wales and has strong connections with the Trefor family. It offers a very good text, but wasn’t used as a source in GGl (although the editors noted some variant readings from its copy in C 5.167). This is the only manuscript that gives lines 57–8 which are accepted in this edition.

All the other copies derive from a lost source named X1 in the stemma, and they all share some common readings.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem XVI.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 42% (25 lines), traws 28% (17 lines), sain 20% (12 lines), llusg 10% (6 lines).

3 eneidiau  Enaid is often used figuratively of a patron who is ‘beloved’, also conveying the fact that he is a ‘person or ruler who animates or inspires’, see GPC 1211–12 under 3 and 4; cf. 60 below and GLlG 8.66 F’eneidiau, fi ni adan’ ‘My dear ones, they will not abandon me’ (Llywelyn Goch of the brothers Hywel and Meurig Llwyd of Nannau).

4 tyrau  Tŵr is used figuratively ‘often of a strong leader or warrior’ (GPC 3660), as it is here; however, the metaphor is retained in the translation, as Guto further describes Edward ap Dafydd’s four sons as ‘towers’ in his elegy for Robert Trefor, 105.7–12 Dra adodd Duw i redeg / Edwart hael a’i dyrau teg, / Castell oedd ef i Drefawr / A’i bedwar mab, dyrau mawr. / Aeth Duw ymaith â deuwr, / Y tad a’r pedwerydd tŵr ‘Whilst God allowed generous Edward / and his fine towers to prosper, / Trefor’s castle was he / and his four sons its great towers. / God has taken away two men, / namely the father and one of the four towers.’

5  The line has eight syllables unless the preposition o is omitted or elided, in teg o benaethiaid, or ŷnt wy is contracted into one syllable (’nt wy).

6 pyst Nanheudwy  The sons. Nanheudwy was one of the three commotes of Chirkland (the other two being Mochnant Is Rhaeadr and Cynllaith). Nanheudwy was further subdivided into three parts: Isclawdd (with its administrative centre in Chirk, where Bryncunallt was located), Llangollen (named after the township) and Glyn. The Trefor family held land mainly in Isclawdd and Llangollen.

7 wedi’r taid  Either Dafydd ab Ednyfed Gam, the sons’ grandfather on their father’s side, or Robert Pulseton, their grandfather on their mother’s side, Angharad, see the lineage in the note on Edward ap Dafydd. For wedi ‘in the manner of’ as well as ‘after’, see GPC 3730. The first meaning is best here.

7–8 Adar … / Llwch Gwin  GPC2 30 ‘mythical birds (?griffins), also fig’. They often feature in the poetry, figuratively for a patron who is either a brilliant soldier or a staunch defender of his people: cf. GGLl 14.64 Adar Llwch Gwin ym ydynt (‘They are my mythical birds’, of Hywel and Meurig Llwyd, Nannau), and see the note which explains that they probably correspond to the English griffins, the mythical birds that raised Alexander the Great up into the sky in a basket, one in each corner, so that he could work out the position of his enemies. Dafydd Nanmor also alludes to the birds and Alexander; cf. DN XVI.59–64, pp. 159–91.

In LlGC 3049D, 1, there is a tale (recorded at the beginning of the seventeenth century) about Drudwas ap Tryffin, son of the king of Denmark, who received ‘from his wife three adar llwch gwin and they would do anything that their master asked of them’. A combat was arranged between Drudwas and King Arthur ‘with no one except for those two on the field’, and Drudwas commanded the birds to kill the first person to arrive at the battlefield. He had planned to arrive late, but Arthur was delayed by Drudwas’s sister ‘who was Arthur’s mistress’, and when Drudwas finally arrived, expecting to find Arthur’s corpse, the birds attacked and killed their master. They tore him to pieces high in the sky, but then ‘they recognised him and they fell to the earth with a terrible cry of sorrow … because they had killed Drudwas, their master’. In LlGC 3049D the tale ends with an englyn attributed to Llywarch Hen: however, Rachel Bromwich drew attention to a better copy of the englyn which is found (without the accompanying prose tale) in Gutun Owain’s grammar (see TYP3 330), which suggests that traditions about the Adar Llwch Gwin were known in north-east Wales in Guto’s time, and Guto may well have been familiar with this version. As it is the birds’ defensive nature that is relevant in the poem, he may well have been drawing upon his knowledge of this tale.

10 brenhinwart  The second element, gwart, often rhymes with Edwart (or Risiart) in Guto’s poetry, but its exact meaning is not always clear: GPC 1586–7: 1. ‘prison, imprisonment, … custody, … guard, watch, … shelter, protection, defence’ or 2. ‘ward (of castle), fortification, keep’. As there are other architectural metaphors in this part of the poem (4n and 6n), the second meaning may be more suitable here. The element brenhin- ‘pertaining to the king, royal’, may suggest a reference to Chirk castle, which was in the hands of Cardinal Henry Beaufort (d. 1447) at this time. Did Edward have an adminitrative role in Chirkland, whose headquarters was in the castle?

10 pren  From earliest times pren in Welsh could mean ‘tree’ (as in pren afalau ‘apple tree’), ‘wood’ or ‘timber’, see GPC 2873. It occurs frequently as a metaphor for a patron – either one who has many branches to his family, or one who defends or supports his people like a supporting cruck in a building. It is the latter meaning that is probably relevant here, however, as Guto proceeds to describe Edward and his offspring figuratively as a tree with shoots springing from it, the first meaning could also be relevant.

12 brig  ‘Spring’ or ‘shoots’, which grow from a tree after coppicing. It is used figuratively here of Edward ap Dafydd’s offspring: cf. 70.4–5 Pren ir o bob barwn yw, / Pren a’i frig ym mhob bron fry ‘he’s a verdant tree descending from every baron, / a tree with its top in every hill-side on high’.

13 Ei glod cyn amled â’r glaw  The poets usually compare flowing tears with rainfall, however it is the constancy of rainfall that Guto has in mind here as he describes Edward’s fame, cf. 34.17–18 Harri a wnaeth ei heuraw / Â’r glod yn amlach no’r glaw ‘Harry has made her golden with praise more profuse than rain’.

14 ei ddail yw’r aur  Cf. 80.30 Eurddail ym a rydd o’i law ‘he gives me pieces of gold from his hand’, also GO XXXIII.63 I bawb y rrydd aur val be bai ddail gwŷdd (‘He gives everyone pieces of gold as if they were leaves from a tree’).

15–16 Mae o’i frig … / Yno goed  See 12n brig, and for further descriptions of a lord with his descendants growing as trees around him, cf. 63.7–8 Colonau Nannau a’i nerth, / Coed ir ym mrig gwaed Ierwerth ‘Nannau’s columns and strength, / verdant trees at the head of Ierwerth’s kin’, and GDEp 11.9–10 Epil ddwyfil o Ddafydd / A dyf yn goed fwy no gwŷdd ‘Two thousand descendants from Dafydd grow into trees, larger than shrubs’, and for the image of offspring as trees or branches, see the discussion ibid. 13–14.

17 peunod  Cf. 56 Panid heirdd y peunod hyn? ‘Aren’t these peacocks handsome?’ The poets often use paun ‘peacock’ figuratively of a noble patron, and often of his sons or descendants, cf. Iolo Goch of the sons of Tudur from Anglesey, IGP 5.35–6, Plant Tudur, fy eryr fu, / Peunod haelion penteulu ‘children of Tudur, he was my eagle, / noble peacocks of a patriarch’; Llawdden of the three sons of Owain ap Gruffudd of Rhiwsaeson, GLl 6.32 Pand ieuainc peunod Owain? ‘Are not Owain’s peacocks young?’, and Ieuan ap Hywel Swrdwal’s poem to the three sons of Rosier Fychan, GHS 26.5–6, Dygwn ni, mae’n deg y nod, / … achau’r peunod ‘May we declaim, this is a fine aim, / … the peacocks’ lineage.’ It is Edward’s sons that Guto is describing here.

20 ar y rhif dorri rhawg  For torri (ar) (y) rhif meaning ‘to diminish in number’, cf. Tudur Aled in a cywydd for Tudur Llwyd of Bodidris, which echoes this line by Guto, TA LII.23–5 Bob gŵyl dy ddisgwyl ydd wyf, / A’th frodyr, … / Eithr o’r rhif ni thorro rhawg ‘At every feast I await you, / And your brothers, … / But from their number none will be removed in the near future’. But the number in Bryncunallt would soon be diminished, as Guto would realise in his elegy for Robert Trefor, 105.23 Torred rhif tyrau Trefawr ‘The number of Trefor’s towers has been diminished.’

22 Awr  One of Edward ap Dafydd’s forefathers on the side of his mother, Gwenhwyfar daughter of Adda Goch ab Ieuaf ab Adda ab Awr. It was thought that Awr was the second element in the name Trefawr; cf. Glenn 1925: 1, ‘Trefor … the earlier form of which is supposed by some to have been Trev Awr, or the Tref or vill of Awr, the latter being the name of several of Tudur’s descendants’; cf. Roberts 1974: 73 who also suggests that the second element of the name Trefor in relation to this particular place derives from the personal name Awr rather than from mawr ‘great’ or môr ‘sea’. But this could be an example of false etymology, as Trefor is found as a place name throughout Wales, cf. Lloyd-Jones 1928: 38. The tradition that Awr is the second element in the place name probably explains why there are so many references to Awr in the poetry written for this family. See further 110.10n.

23–4 Ceraint gwych … / I’r gŵr a ddaw â’r gwared  Gwared usually means salvation, either in a religious context, or in vaticinatory poems referring to the salvation brought about by the ‘son of prophecy’. Here the gŵr a ddaw â’r gwared (‘the man who will bring salvation’) is surely Owain Glyndŵr, and Guto is referring to the fact that the sons’ grandmother, Lowri daughter of Gruffudd Fychan, was Owain Glyndŵr’s sister. Lowri’s husband, Robert son of Richard Puleston, their grandfather, is named in the following couplet. This reference to Owain Glyndŵr suggests that tales about his return had begun to circulate shortly after his death (as happened in the case of Owain Lawgoch). According to a note in Pen 26, 98, probably written in Bryncunallt between 1439 and 1461, Owain died in 1415: Obitus Owani Glyndwr die sancti Mathei apostoli anno domini millesimo CCCCXV, Phillips 1970–2: 59–76.

25–6 Robert garwr … / Ap Risiart  Carwr usually means ‘kinsman’ in the poetry, although ‘friend’, ‘loved one’ or ‘one who loves’ are possible meanings for the noun carwr, see GPC 435, and the ambiguity may well be intentional. In these lines Guto is referring to the family’s geneological connections. Robert ap Risiart was the father of Angharad, wife of Edward ap Dafydd. It is likely that it was Robert’s father, Risiart Puleston, who was the first of the Puleston family to patronize Welsh poets in court in Emral, and a cywydd requesting a gift of a harp from him has survived, composed by Gruffudd Fychan of Anglesey, GSRh poem 11. Through his marriage to Lleucu daughter of Madog Foel, Risiart Puleston ensured that his offspring descended from the princes of Powys, and his eldest son and heir Robert, named here, married Lowri, Owain Glyndŵr’s sister, strengthening the family’s connections with the old Welsh aristocracy. See further WG1 ‘Puleston’ and Charles 1972–3: 22–6, 43.

28 meirch gemawg  Cf. TA II.84 cwrser gemog (‘a jewelled courser’).

32 ymylau Maelawr  Bryncunallt and Lower Chirk are both located in the eastern part of Nanheudwy, close to the border with Maelor Gymraeg.

34 Swydd y Waun  Chirkland, which consisted of three commotes, namely Nanheudwy (see 6n), Mochnant Is Rhaeadr and Cynllaith.

34 gorsedd wir  This is the only instance of gorsedd in Guto’s poetry, and it could refer generally to Swydd y Waun (34) as a perfect ‘dwelling place’ or more specifically to the family’s ‘seat’ or ‘court’ at Bryncunallt.

37–8 Robert … / Trefor bost  Guto plays on the name of Edward ap Dafydd’s eldest son, Robert Trefor: Trefor can be understood here, as in line 39, as a place name (Lower and Upper Trefor in Nanheudwy) or as the family epithet or surname. Both Robert and Siôn, sons of Edward ap Dafydd, used Trefor in their names, following the practice of some of their ancestors in the fourteenth century (such as the two Siôn Trefors who became bishops of St Asaph). See further on Edward ap Dafydd.

40 Salmon  This is the usual form Guto has for the biblical Solomon, but he also uses the older Welsh form Selyf. Solomon was regarded as a pattern of wisdom, the attribute that Robert inherited from his father, Edward, 104.41–2 Robert gwfert a gafas / Ei brif ddoethineb a’i ras ‘Robert, the defender, received / his prime wisdom and his gentleness.’

40 Awr  See 22n.

41–2 Baner aur ar ben yr allt / … Bryncunallt  Cf. 105.39–40 Canu bûm ym Mryncunallt, / Cwyno’r wyf acw ’n yr allt ‘I have sung in Bryncunallt, / I’m complaining yonder on the woody slope’. The township of Bryncunallt was located on a woody elevation to the east of the present village of Chirk.

43 angel  Guto often refers to his patrons, especially young men, as ‘angels’: for instance, he describes the four sons of Edward ap Dafydd as Pedwar angel a welwn / Yn cynnal nef, hendref hwn ‘it is four angels that we see guarding this heaven, his ancestral home’, 104.53–4, and Henry Griffith, Yng nglan Aur angel ynn yw ‘he is our angel on the banks of the Dore’, 32.12. Implicit in the metaphor is praise for the patron as the defender and supporter of his people as well as praise of his moral virtues. The metaphor is extended further in the following line by referring to adenydd ‘wings’. As angel is a masculine noun, the phrase oruchel rydd ‘eminently generous’ which follows must be interpreted in apposition in order to explain the mutation.

44 Cymry  It is understood to refer here to the Welsh people, but it could also mean Wales: Cymry was the usual form for both in Middle Welsh as the rhyme often proves.

44 Cymry i’w  The i has been elided to give the correct syllable count in the line.

45 Croesoswallt wyneb  For wyneb ‘surface, area’, see GPC 3742; the further meanings ‘honour, respect, status’ (ibid.) might also be relevant here, as a description of Robert Trefor (‘the honour of Oswestry’). The sons of Siôn Trefor ab Edward ap Dafydd – Robert, Siôn, Edward and Risiart Trefor – are all named in a document as burgesses of Oswestry in the second half of the fifteenth century: did Robert Trefor also hold land there in the first half of the century? See Oswestry Town Council Archives OB/A12.

48 rhedeg  Its exact meaning is unclear, but cf. 105.7–8 Dra adodd Duw i redeg / Edwart hael … ‘Whilst God allowed generous Edward / … to prosper.’

49 Siôn  Siôn Trefor. He became heir when his older brother, Robert Trefor, died without an heir in 1452.

50 Edwart a Rhisiart  The two younger brothers. In Pen 127, 195, Edward’s sons are named as iohn trevor a Richart a gwenhwyvar ev chwaer gwraic ottwel wrsle ‘John Trefor and Richard and Gwenhwyfar their sister, wife of Otwel Orsley’. Robert is probably not named as he died young or without issue: the same may be true of his brother Edward.

51 aeth yn fy nghof  The phrase mynd i gof is not listed in GPC2 93–4, but cf. GPC 936 dyfod yn ei gof, – yng nghof ‘to come to one’s memory or rememberance, remember’ (from 1551) and dyfod i gof ‘to come to (one’s) memory, remember or be reminded (of), occur to’ (from the fourteenth century).

54 pyst y gwŷr ifainc  Guto often praises his patron’s authority or popularity with the younger generation in particular: of Matthew Gough he says, 3.5 Eryr yw ar wŷr ieuainc ‘He is an eagle leading young men’, and of Ieuan Fychan of Pengwern, who was also a poet and harpist, 106.55–6 Os Ieuan a gân y gainc, / Llawen fydd y llu ifainc ‘If it is Ieuan who sings the song / the youthful crowd will be happy.’

60 Ac enaid pawb, o gnawd pur  A description of the father, Edward ap Dafydd, who is ‘of pure flesh’ and ‘cherished by everyone’. ‘Of pure flesh’ could refer to a virtuous person, free from sin (i.e. free from ‘the sin of the flesh’ to which Gruffudd ap Maredudd refers; cf. GDID XII.21 Llywelyn, ganeidwyn gnawd ‘Llywelyn, sparkling white his flesh’). However, cnawd can also refer to ‘a blood relative, relation’ (see GPC 518 s.v. cnawd1) and it’s possible that Guto is praising Edward’s pure lineage here, cf. 2 o rywiog wraidd (‘springing from a noble stock’).

Bibliography
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Glenn, T.A. (1925), History of the Family of Mostyn of Mostyn (London)
Lloyd-Jones, J. (1928), Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (Caerdydd)
Phillips, J.S.R. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Rackham, O. (1990), Trees and Woodland in the British Landscape: The Complete History of Britain’s Trees, Woods and Hedgerows (London)
Roberts, E. (1974), ‘Llys Ieuan, Esgob Llanelwy’, TCHSDd 23: 70–103
Smith, Ll.O.W. (1970), ‘The Lordships of Chirk and Oswestry 1282–1415’ (Ph.D. University of London)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Edward ap Dafydd o Fryncunallt, 1390–m. 1445, a’i deuluEdward Trefor ab Edward o FryncunalltRobert Trefor ab Edward o Fryncunallt, 1429–m. 1452Risiart Trefor ab Edward o FryncunalltSiôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig

Edward ap Dafydd o Fryncunallt, fl. c.1390–m. 1445, a’i deulu

Top

Cadwyd dwy gerdd gan Guto sy’n ymwneud ag Edward ap Dafydd, penteulu Bryncunallt yn y Waun: ‘Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 103); ‘Marwnad Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 104). Ni cheir cerddi eraill i Edward. Canodd Guto gywydd marwnad i fab hynaf Edward, Robert Trefor (cerdd 105), ac yn ddiweddarach yn ei yrfa tystia iddo dderbyn nawdd gan Siôn Trefor, ail fab Edward, ond ni chadwyd y cerddi. Perthyn ei gerddi sydd wedi goroesi i deulu Bryncunallt i’r cyfnod rhwng y 1440au cynnar a 1452. Ymhellach ar feibion Edward, gw. isod.

Achres
Mae’r achres ganlynol yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 13, 14, ‘Marchudd’ 6, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5; WG2 ‘Tudur Trefor’ 14 C1; HPF iv, 16. Nodir y rhai a enwir (neu y cyfeirir atynt yn achos Owain Glyndŵr) yng ngherddi 103–5 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.

lineage
Achres teulu Bryncunallt

Priododd y ddau frawd Iorwerth Ddu a Dafydd, meibion Ednyfed Gam, â dwy chwaer, Angharad a Gwenhwyfar, merched Adda Goch ab Ieuaf ab Adda ab Awr, gan ddod â dwy gangen o linach Tudur Trefor ynghyd. Mae’r ddisgynyddiaeth hon o Awr yn un a grybwyllir yn aml gan Guto yng nghyswllt y canu i’r teulu, o bosibl oherwydd y cyswllt tybiedig rhwng Awr a Threfor ger Llangollen, un o gadarnleoedd y teulu yn Nanheudwy (gw. 103.22n). Mab i Lywelyn, brawd Adda Goch, oedd Siôn Trefor a fu’n esgob Llanelwy 1346–57; mab i Angharad ferch Adda Goch (gwraig Iorwerth Ddu) oedd yr ail Siôn Trefor a ddaliodd yr un swydd yn 1394–1410. (Gw. Jones 1965: 38; Jones 1968: 36–46; am ganu Iolo Goch i un neu’r ddau ohonynt, gw. GIG 275–6.) Roedd yr ail Esgob Siôn Trefor hwn, felly, yn frawd i Fyfanwy y canodd Hywel ab Einion Lygliw awdl serch iddi cyn iddi briodi Goronwy Fychan o Benmynydd.

Drwy briodi Angharad ferch Robert Pilstwn, sicrhaodd Edward ap Dafydd berthynas agos â dau arall o brif deuluoedd yr ardal, sef teulu’r Pilstyniaid ar y naill law, gyda’u prif gartref yn Emral ger Wrecsam (gw. ymhellach Siôn ap Madog Pilstwn o Hafod-y-wern a Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral), a theulu Owain Glyndŵr ar y llall, hen deulu Cymraeg a allai olrhain ei linach yn ôl i dywysogion Powys a Gwynedd. Mae Guto yn ofalus i atgoffa’i gynulleidfa o’r cysylltiadau hyn (e.e. 103.23–6).

Mae’n ddigon posibl na fu Edward ei hun yn noddwr barddoniaeth, ac mai drwy ei wraig, Angharad ferch Robert Pilstwn, y daeth beirdd i ymweld ag aelwyd Bryncunallt. Ond yn sicr bu o leiaf ddau o’i feibion, Robert Trefor a Siôn Trefor, yn noddwyr beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn a Gutun Owain (gw. isod).

Ei ddyddiadau
Gallwn fod yn weddol hyderus am ddyddiad marw Edward. Yn Pen 26, 97–8, ceir dalen strae yn cynnwys nodiadau cyfoes mewn gwahanol lawiau yn dyddio rhwng 1439 a 1461 sy’n ymwneud ag ardal Croesoswallt. Cyfeiria’r cofnodion yn benodol at aelodau o deulu Trefor o Fryncunallt, ac awgryma hyn mai aelodau o’r teulu hwnnw a fu’n cofnodi. Nodir yno i Edward farw ar 25 Ebrill 1445: Obitus Edwardi ap Dafydd in festo Marci evengeliste anno domini MCCCXLV (gw. Phillips 1970–2: 76). Mae’r cyfeiriad cynharaf ato mewn dogfen wedi ei dyddio 11 Mawrth 1390 (Ba (M) 1629), a gallwn dybio iddo gael ei eni o leiaf 15–20 mlynedd cyn hynny. Roedd yn ei saithdegau o leiaf, felly, yn y 1440au pan ganodd Guto iddo a’i bedwar mab (cerdd 103), ac er ei alw’n benadur y teulu (103.59), mae’n amlwg mai ei fab hynaf, Robert Trefor, oedd pennaeth effeithiol y teulu erbyn hynny. Yn ei farwnad (cerdd 104), er mynegi tristwch mawr yr ardal o golli’r fath arweinydd dysgedig ac effeithiol, cadarnhaol yw’r neges, a’r ffocws ar y dyfodol diogel yn nwylo’r meibion. Gallwn dybio nad oedd ei farwolaeth yn annisgwyl.

Tiriogaeth
Fel y gwelir o’r achres uchod, roedd Dafydd, tad Edward, yn fab i Ednyfed Gam o Bengwern, sef penteulu un o brif deuluoedd Nanheudwy, ac un a ddatblygodd yn fawr mewn awdurdod a grym yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg drwy berchnogi tir: ‘By the fourteenth century the family of Ednyfed Gam, described in the genealogies as “of llys Pengwern in Nanheudwy”, already stood out as substantial members of the lordship’s free community’ (Smith 1987: 177). Erbyn diwedd y ganrif roedd tiroedd helaeth ganddynt yn Nanheudwy, yn enwedig yn ardaloedd y Waun, Trefor a Llangollen.

Dengys arolwg Robert Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391/2 fod tiroedd Ednyfed Gam wedi eu rhannu rhwng ei etifeddion. Iorwerth Ddu, y mab hynaf, a oedd wedi etifeddu cartref hanesyddol y teulu ym Mhengwern, Llangollen, ac roedd hefyd yn gyd-berchennog gyda’i frawd Ieuan ar bedwar gafael ac un castell (term am fesur o dir) yn nhrefgordd Gwernosbynt (Jones 1933: 58–9). Dengys yr arolwg ymhellach fod Dafydd ab Ednyfed Gam yn berchen ar un gafael a hanner yn nhrefgordd Bryncunallt ac ar felin o’r enw Grostith yn yr un drefgordd (ibid. 9). Ymddengys hefyd fod Dafydd yn berchen ar y Plas Teg yn yr Hôb, lle y byddai ei orwyr, Robert Trefor ap Siôn Trefor, yn trigo yn y dyfodol (Glenn 1925: 23).

Dysg a gyrfa
Mae’n amlwg o foliant Guto iddo fod Edward yn ŵr tra dysgedig, ac mae’r cyfeiriad penodol at ei arbenigedd ym maes y ddwy gyfraith (sifil ac eglwysig) a’r celfyddydau yn awgrymu addysg prifysgol, er nad oes unrhyw dystiolaeth allanol i ategu hynny (gw. yn arbennig 104.9–10, 21–32). Mae’n ddigon tebygol fod Edward wedi derbyn rhywfaint o’i addysg yn abaty Glyn-y-groes (sef y math o addysg a ddisgrifir yn Thomson 1982: 76–80) neu o bosibl yn ysgol Croesoswallt, a fu’n ffynnu ers blynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif (Griffiths 1953: 64–6 et passim). Gwyddom fod gan ganghennau Pengwern a Threfor o’r teulu gysylltiadau cryf â’r abaty, oherwydd claddwyd yno sawl aelod ohonynt, gan gynnwys Robert Trefor ab Edward (m. 1452), ac mae’n debygol hefyd mai yno y claddwyd Edward ei hun (gw. CTC 362, ond ni roddir ffynhonnell yr wybodaeth honno).

Nid oes tystiolaeth uniongyrchol wedi goroesi i rôl Edward yng nghyfraith a gweinyddiaeth y Waun, ac eithrio awgrym cryf Guto i’r perwyl hwnnw (cerdd 104). Ond mae’r ffaith fod ei enw’n ymddangos yn achlysurol mewn dogfennau’n ymwneud â throsglwyddo tir yn yr ardal yn dyst i’w statws yn y gymdeithas: e.e. fe’i henwir mewn dogfen a luniwyd yn y Waun ar 11 Mawrth 1390 (Ba (M) 1629); roedd yn dyst i ddogfen yn cofnodi trosglwyddo tir a luniwyd yn Nhrefor ar 15 Mai 1391 (Jones 1933: 93); roedd yn dyst i ddogfen gyffelyb yn Nhrefor Isaf ar 29 Medi 1411 (LlGC Bettisfield 977); ac enwir ef a’i fab Robert yng nghyswllt derbyn tir yn Nanheudwy yn 1441 (LlGC Puleston 935). Mae’n bosibl hefyd mai ef yw’r magister Edward Trevor a enwir yn dyst i ddogfen ddyddiedig 1427 ynglŷn â thir yn y Waun, y Waun Isaf a Gwernosbynt (LlGC Castell y Waun 920), ond gall mai ei fab oedd hwnnw. Fel sawl aelod o’r teulu hwn, cymerodd Edward hefyd ran yng ngwrthryfel a bu’n rhaid iddo fforffedu nifer o’i ddaliadau i’r arglwydd; fodd bynnag adferwyd trefn erbyn 1407, ac ar ôl iddo dalu dirwy o ugain punt adferwyd ei diroedd iddo (Carr 1976: 27).

Robert Trefor ab Edward, fl. c.1429–m. 1452
Mab hynaf ac etifedd Edward ap Dafydd. Arno, gw. Robert Trefor.

Siôn Trefor ab Edward, fl. c.1440–m. 1493
Siôn Trefor (neu Siôn Trefor Hen, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a nifer o’i ddisgynyddion â’r un enw) oedd ail fab Edward ap Dafydd, ac ef a ddaeth yn benteulu Bryncunallt ar farwolaeth ei frawd hŷn, Robert Trefor, yn 1452. Fe’i henwir yn y tair cerdd a gadwyd gan Guto i’r teulu hwn (cerddi 103–5), ac mae’n ddigon posibl mai dan ei nawdd ef y canodd Guto ei farwnad i Robert Trefor (cerdd 105). Er na chadwyd unrhyw gerddi gan Guto i Siôn ar ôl 1452, mae’n bosibl iddo fod yn noddwr iddo ar hyd ei yrfa. Tystia Guto ar fwy nag un achlysur yn y 1480au mai Siôn Trefor, a drigai ym Mhentrecynfrig erbyn hynny, oedd un o’i brif noddwyr (gw. 108.20, 117.56). Anodd credu na fyddai Guto wedi canu cerdd farwnad i Annes, gwraig Siôn, yn 1483, a dichon fod y gerdd honno, fel y gweddill o’i ganu ar yr aelwyd hon, wedi ei cholli. Canodd Gutun Owain i Siôn Trefor ac Annes ym Mhentrecynfrig, ac i’w meibion hefyd; felly hefyd Lewys Môn, Tudur Aled ac Ieuan Teiler. Cadwyd y cerddi canlynol iddynt: ‘Marwnad Annes Trefor o Bentrecynfrig’ gan Gutun Owain, 1483, GO XXXV; ‘Cywydd marwnad Siôn Trefor’, 1493 gan Gutun Owain, GO XXXVI; ‘Cywydd y tri brodyr, meibion Trefor’ (Otwel, Robert (Rhapat) ac Edward) gan Gutun Owain, cyn 1487, GO XXXVII; ‘Marwnad Robert Trefor o’r Hôb’ gan Gutun Owain, 1487, GO XXXVIII; ‘Moliant Edwart Trefor Fychan’ gan Lewys Môn, GLM LXXV; ‘Cywydd i Edwart Trefor’ gan Dudur Aled, TA LI; ‘Cywydd i Rhosier, Rhisiart ac Edward, meibion Siôn Trefor’ gan Ieuan Teiler, ar ôl 1487, Pen 127, 257. Mydryddir dyddiad marw Siôn Trefor, 1493, yng nghywydd marwnad Gutun Owain (GO XXXVI.23–30), sef dydd Gwener, 6 Rhagfyr 1493, a nodir mai ar y dydd Sul canlynol y claddwyd ef. Cadarnheir y dyddiad marw mewn cofnod yn Pen 127, 15: Oed Crist pann vv varw John trevor ap Edwart ap dd 1493 duw gwner (sic) y vied dydd o vis Racvyr. Bu farw Annes, gwraig Siôn, ddeng mlynedd ynghynt yn 1483 (GO 202). Bu iddynt bum mab, fel y gwelir o’r achres isod, a bu farw Otwel yn ifanc a bu Robert Trefor farw yn 1487. Enwir pedwar mab – Robert, Siôn, Edward a Rhisiart Trefor – fel bwrdeisiaid yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12), awgrym efallai fod Otwel wedi marw cyn Robert. Yn ei farwnad i Siôn Trefor yn 1493, enwodd Gutun Owain dri mab – Enwoc Edwart, … / Rroeser a ddwc aur rrossynn, / Rrissiart … (GO XXXVI.49, 51–2) – ac roedd wyrion hefyd (ibid. 53 Y mae ŵyrion i’m eryr). Gan nad yw Ieuan Teiler yn enwi Otwel na Robert Trefor yn ei gywydd ef, efallai i’r gerdd honno gael ei chanu ar ôl marwolaeth Robert yn 1487. Priododd Edward, a elwir weithiau’n Edward Trefor Fychan, ag Ann ferch Sieffrai Cyffin, a mab iddynt hwy oedd Siôn Trefor Wigynt y canodd Huw Llwyd iddo’n ddiweddarach (GHD cerddi 25, 26).

Achres
Mae’r achres hon yn seiliedig ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 14 a WG2 ‘Tudur Trefor’ 14 C2. Tanlinellir enwau’r noddwyr a nodir â theip trwm y rhai a enwir yng ngherddi 103–5.

lineage
Achres Siôn Trefor

Yn ôl yr achau roedd dau o feibion Siôn Trefor, Rhisiart a Rhosier, yn efeilliaid. Roedd hefyd ddwy chwaer, sef Elen a Chatrin, nas henwir yn yr un o’r cerddi.

Ei gartref
 Bryncunallt yn y Waun y cysylltir Siôn Trefor yn y cerddi a ganodd Guto rhwng c.1440 a 1452 (cerddi 103–5), ond ymddengys mai ym Mhentrecynfrig yr oedd ei brif gartref erbyn y 1480au, sef trefgordd rhwng Weston Rhyn a Llanfarthin, tua 2km i’r de o’r Waun, bellach yn swydd Amwythig. Pan ganodd Gutun Owain ei farwnad i Annes, cyfeiriodd yn benodol at alar Pentrecynfrig: Trais Duw a ’naeth, – trist yw ’nic, – / Trai canrodd Penntre Kynwrric (GO XXXV.5–6). Ac wrth farwnadu Siôn Trefor ei hun ddeng mlynedd yn ddiweddarach, er ei gysylltu hefyd â’r Waun Isaf, Bryncunallt a Chroesoswallt, ym Mhentrecynfrig yr oedd y galar ar ei lymaf: Oer galon a wna’r golwg / Yn wylo mal niwl a mwc. / Ni welaf eithyr niwlen / Y’mric Penntref Kynnric henn (GO XXXVI.31–4).

Dysg a gyrfa
Yn ei farwnad i Edward ap Dafydd, rhestra Guto’r nodweddion yn y tad a etifeddwyd gan ei feibion. Siôn Trefor, medd, a etifeddodd ddiddordebau ysgolheigaidd Edward. Ceir rhywfaint o gadarnhad allanol hefyd i hynny, oherwydd credir bellach mai Siôn a fu’n gyfrifol am gyfieithu ‘Buchedd Martin’ i’r Gymraeg (nawddsant Llanfarthin, ger Pentrecynfrig), a cheir copi o’r cyfieithiad hwnnw yn llaw Gutun Owain yn LlGC 3026C (gw. Owen 2003: 351; Jones 1945; a hefyd 104.43–4). Wrth ganu marwnad Siôn, pwysleisiodd Gutun Owain safon dysg yr athro mawr (GO XXXVI.6 et passim). Yn ei dro, trosglwyddodd Siôn y diddordebau hyn i’w fab yntau, Robert Trefor o’r Hôb, a ddisgrifiwyd gan Gutun Owain fel Kerddwr, ysdorïawr oedd / O’n heniaith a’n brenhinoedd (GO XXXVIII.29–30).

Ymddengys enw Siôn Trefor yn aml mewn dogfennau cyfoes, ond os yw’r enw yn digwydd heb enw’r tad, anodd bod yn gwbl sicr mai ato ef y cyfeirir, yn hytrach nag at un o sawl perthynas o’r un enw. Fe’i henwir ynghyd â phum gŵr a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Siôn Hanmer, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51), fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun i dderbyn comisiwn, 7 Gorffennaf 1461 (CPR 1461–7, 37). Ar 21 Medi 1474, cyfeirir ato fel rysyfwr yn swydd y Waun ac fel tyst i weithred yn trosglwyddo tir i Siôn Edward (LlGC Castell y Waun 1077); ac eto ar 3 Chwefror 1488 (ond nid fel rysyfwr y tro hwn) (LlGC Castell y Waun 9885).

Edward ab Edward, fl. ?1427– c. ?1475
Gallwn gasglu mai Edward oedd trydydd mab Edward ap Dafydd ar sail y drefn yr enwir y pedwar yng ngherddi 103, 104 ac yn yr achau. Nodir yn yr achau hefyd iddo briodi’r Arglwyddes Tiptoft ac na fu iddynt blant. Yn ôl Guto, Edward a etifeddodd gryfder corfforol ei dad: Ei faint a’i gryfder efô / Mewn Edwart mae’n eu ado (104.45–6). Ni chafwyd cyfeiriad arall ato yn y farddoniaeth, ond fe’i henwir gyda’i frodyr Robert, Siôn a Rhisiart Trefor fel bwrdais yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12). Mae’n bosibl mai ef yw’r magister Edward Trevor a enwir yn dyst i weithred ddyddiedig 1427 ynglŷn â thir yn y Waun, y Waun Isaf a Gwernosbynt (LlGC Castell y Waun 920), ond gall hefyd mai ei dad oedd hwnnw.

Rhisiart ap Edward, fl. c.1440–68
Gallwn gasglu mai Rhisiart oedd pedwerydd mab Edward ap Dafydd ar sail y drefn yr enwir y pedwar mab yng ngherddi Guto (gw. uchod ar Edward ab Edward). Fe’i henwir yntau’n fwrdais yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif ynghyd â’i frodyr Robert, Siôn ac Edward (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12). Ymddengys mai Rhisiart a etifeddodd bryd a gwedd ei dad: Ac i Risiart, ’yn Groeswen, / Ei liw a’i sut a’i lys wen (104.47–8). Ar sail y cwpled hwn, awgrymwyd y gall fod Rhisiart Trefor wedi etifeddu llys yn y Dre-wen (Whittington) (cf. Carr 1976: 49n178 a 104.47n). Cofnodir iddo fod yn gwnstabl ar gastell y Dre-wen yn 1468 (LlGC Castell y Waun F 9878).

Ceir yn y llawysgrifau ddwy gerdd, y naill wedi ei phriodoli i Rys Goch Glyndyfrdwy a’r llall i Ruffudd Nannau, sy’n sôn am garchariad Ithel a Rhys, meibion Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, gan Risiart Trefor. Ceir yr esboniad hwn yn Pen 177, 199: Ithel a Rys meib I. Vychan ap Ieuan a aethant i gastell y Drewen ddvw gwener gwyl Gadwaladr y XIIed dydd or gayaf ac a vvant yno hyd difie kyn awst O.K. 1457 (sef o 12 Tachwedd 1456 hyd 28 Gorffennaf 1457). Ni allwn fod yn sicr o’r amgylchiadau, ond cynigia Carr (1976: 39–40; cf. Charles 1966–8: 78) mai oherwydd eu cefnogaeth i’w cyfyrder, Siasbar Tudur, a phlaid Lancastr y’u carcharwyd gan Risiart, a gefnogai blaid Iorc. Yn ei gerdd, mae Rhys Goch Glyndyfrdwy yn annog y lleuad i chwilio am y brodyr yng nghestyll Lloegr, gan ofyn i Dduw eu dychwelyd yn ddiogel o’r Dre-wen (dyfynnir o destun LlGC 8497B, 190v–191v, gan briflythrennu ac atalnodi):Ysbied, chwilied yn chwyrn
Gestyll Lloegr, gorffwyll gyrn,
Am frodvr o Dvdvr daid,
Ithel a Rhys benaythiaid
Y sydd yn yr ynys hon
Yryrod, garcharorion …
Duv a ddwg i’n diddigiaw
Dav vn ben o’r Drewen draw.Byddai’n braf gwybod beth oedd safbwynt Guto’r Glyn ar yr helynt hwn. Tybed ai gyda theulu Pengwern y bu ei gydymdeimlad? Ai dyna paham na cheir rhagor o gerddi i deulu Bryncunallt ym mlynyddoedd canol ei yrfa? (Gw. ymhellach nodyn cefndir cerdd 106 a 48.38n, Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, ac ymhellach ar gerddi Rhys Goch Glyndyfrdwy a Gruffudd Nannau, gw. Bowen 1953–4: 119–20).

Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1953–4), ‘Carcharu Ithel a Rhys ab Ieuan Fychan’, Cylchg LlGC viii: 119–20
Carr, A.D. (1976), ‘The Mostyn Family and Estate, 1200–1642’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Charles, R.A. (1966–7), ‘Teulu Mostyn fel noddwyr y beirdd’, LlCy 9: 74–110
Glenn, T.A. (1925), History of the Family of Mostyn of Mostyn (London)
Griffiths, G.M. (1953), ‘Educational Activity in the Diocese of St. Asaph, 1500–1650’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, III: 64–77
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve, Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541: XI The Welsh Dioceses (London)
Jones, E.J. (gol.) (1945), Buchedd Sant Martin (Caerdydd)
Jones, E.J. (1968), ‘Bishop John Trevor (II) of St. Asaph’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, XVIII: 36–46
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Owen, M.E. (2003), ‘Prologemena i Astudiaeth Lawn o Lsgr. NLW 3026, Mostyn 88 a’i Harwyddocâd’, I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Pratt, D. (1977), ‘A Holt Petition, c. 1429’, Cylchg HSDd 26: 153–5
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84
Smith, Ll.O.W. (1970), ‘The Lordships of Chirk and Oswestry 1282–1415’ (Ph.D. University of London)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3: 76–80

Edward Trefor ab Edward o Fryncunallt

Top

Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt

Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt, fl. c. 1429–m. 1452

Top

Robert Trefor oedd mab hynaf ac etifedd Edward ap Dafydd o Fryncunallt. Cerddi Guto yw’r unig rai sydd wedi goroesi iddo: ‘Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 103); ‘Marwnad Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 104); ‘Marwnad Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt’ (cerdd 105). Er nad cerddi penodol i Robert yw’r ddwy gyntaf, maent yn cynnwys elfen gref o fawl iddo ef yn ogystal â’i dad, Edward, a’i dri brawd: Siôn, Edward a Rhisiart. Ymhellach arnynt, gw. y nodyn ar Edward ap Dafydd a’i deulu.

Achres
Seiliwyd yr achres ganlynol ar wybodaeth yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 14; WG2 ‘Tudur Trefor’ 14B; HPF iv: 16. Nodir y rhai a enwir yng ngherddi 103–5 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.

lineage
Achres Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt

O edrych ar batrwm enwi’r teulu, gwelir eu bod yn tueddu i ddilyn yr arfer draddodiadol o enwi’r mab hynaf ar ôl y tad neu’r taid, a dichon fod Robert wedi ei enwi ar ôl Robert Pilstwn, ei daid ar ochr ei fam.

Priododd Robert ag Elsbeth ferch Gwilym o’r Penrhyn, sef chwaer i noddwr Guto, Wiliam Fychan ap Gwilym (105.47 [m]erch Wilym). Ei hail briodas oedd hon, a’i gŵr cyntaf oedd un o frodyr yr Iarll Grey, Rhuthun. Ni chafodd Robert a hithau blant, ond yr oedd gan Robert eisoes fab anghyfreithlon, Wiliam Trefor, a fu, yn ôl Robert Vaughan (Pen 287, 55), yn Siaplen i Sion ap Richard abad llanegwystl p’decessor i esgob Dauydd ap Ien ap Ieth ap Jenn Baladr.

Dyddiadau
Ar ddalen strae yn Pen 26, 97–8, ceir cofnod cyfoes yn nodi i Robert Trefor farw ar 27 Hydref 1452: Obitus Roberti Trevor vigilia apostolorum Symonis et Jude anno domini MCCCCLII (gw. Phillips 1970–2: 74). Cadarnheir y dyddiad gan Robert Vaughan yn Pen 287, 55. (Ni cheir ffynhonnell i’r dyddiad 1442 a roddir yn WG1 ‘Trefor’ 14.) Fe’i claddwyd yng Nglyn-y-groes, fel y tystia Guto (105.44–5), sy’n awgrymu’n gryf iddo fod yn noddwr i’r abaty yn ystod ei fywyd. Fel y gwelir isod, 1429 yw’r cyfeiriad cynharaf ato, ond yr oedd eisoes yn ddigon hen i gymryd swydd o awdurdod erbyn hynny. Os oedd ychydig yn hŷn na’i frawd, Siôn Trefor, a fu farw yn 1493, anodd credu iddo gael ei eni cyn dechrau’r bymthegfed ganrif.

Ei yrfa
Cawn dipyn o wybodaeth gan Guto am Robert Trefor. Mae’n amlwg mai ef oedd pennaeth effeithiol Bryncunallt erbyn y 1440au, er bod ei dad, Edward, yn dal ar dir y byw pan ganwyd y gerdd gyntaf (103.35–42). Awgryma Guto hefyd fod gan Robert ddylanwad yng Nghroesoswallt (103.45). Wrth ganu marwnad i Edward, cadarnha Guto mai Robert bellach oedd y pennaeth, a’r un a etifeddodd ddoethineb a [g]ras ei dad (104.42). Fel y tad, molir Robert am ei ran allweddol yn y gwaith o gadw rheolaeth a threfn yn y wlad, ac fe’i gelwir yn gyfreithiwr grym (105.51). Wrth ganu marwnad Robert, awgryma Guto iddo ddal swyddogaeth farnwriaethol o ryw fath yn Is Conwy, lle gweithredai’n nerthog tuag at y cadarn, a trugarog wrth y gwan (105.55–8). At hynny, gweithredai’n arw a thanbaid yn Ninbych (105.60) yn ei swyddogaeth fel maer a meistr (105.61). Ond bellach, a Robert wedi marw, mae’n rysyfwr (Saesneg reciever) a swyddog i Iesu (105.63–4). Lle gynt bu’n mynd ag arian i’r dug o Iorc, bellach mae’n mynd at Dduw gyda thaliadau o weithredoedd teilwng (105.65–74). Yn sicr mae geiriau Guto’n awgrymu y bu i Robert gyfrifoldebau am arian yn Ninbych, a’i fod wedi gweithredu fel resyfwr yn ystod ei yrfa, o bosibl yn y fwrdeistref honno.

Meddai Robert Vaughan amdano yn Pen 287, 55: Robert Trevor obiit 1452 y gwr ymma fu Stiwart Dinbech, Sirif Sir y Fflint vstus a Siambrlen Gwynedd. Ac eithrio’r ffaith ei fod yn ddirprwy stiward yn Ninbych yn 1443 (gw. isod), ni chafwyd tystiolaeth ddogfennol i ategu unrhyw un o’r swyddi penodol hyn. Fodd bynnag, mae’n amlwg iddo ddal amryw swydd gyhoeddus. Arbennig o berthnasol, o safbwynt yr hyn a ddywed Guto amdano, yw’r ffaith iddo gael ei benodi’n rysyfwr Holt yn 1429, ac yn rysyfwr cyffredinol arglwyddiaeth Powys yn 1435. Cyfeirir isod at y swyddi hyn ynghyd â gwybodaeth arall am weithgarwch Robert:

1429 Gyrrodd bwrdeisiaid Holt betisiwn at Joan de Beauchamp (m. 1435), yn protestio am benodiad Robert Trefor (a gysylltir yno â Threfalun) i swydd rysyfwr Brwmffild ac Iâl. Collwyd y ddogfen wreiddiol, ond goroesodd copi ohoni o’r unfed ganrif ar bymtheg (gw. Pratt 1977). Sail yr anfodlondrwydd oedd y ffaith fod Robert Trefor yn ŵyr i Robert Pilstwn a bod ei nain yn chwaer i Owain Glyndŵr. Robert Pilstwn, meddent, oedd y gŵr a fu’n gyfrifol am ymosod ar gastell Holt yn 1401, a dim ond by strenght of yowr forsayd tenants & burges and english officers your Sayd Castell & towne was savyd unbrend … 1435 8 Rhagfyr Penodwyd William Borley yn stiward yng nghestyll, maenorau a thiroedd y brenin yn arglwyddiaeth Powys, a Robert Trefor yn rysyfwr cyffredinol yno (CPR 1429–36, 497). 1437 5 Ionawr Cofnodir i Thomas Pulford gael ei benodi’n sietwr sir y Fflint, yn yr un modd ag y bu Robert Trefor cyn hynny (CPR 1436–41, 39). 1441 Enwir Robert a’i dad, Edward, yng nghyswllt derbyn tir yn Nanheudwy (LlGC Puleston 935). 1443/4 Yng nghasgliad dogfennau arglwyddiaeth Rhuthun ceir tair dogfen wedi eu dyddio 1443/4 sy’n ymwneud â throsglwyddo tir yn Ninbych lle enwir Robert ab Edward/Robert Trefor fel dirprwy stiward yn y fwrdeistref honno. Y stiward ar y pryd oedd William Burlegh/Burley (LlGC Arglwyddiaeth Rhuthun, rhifau 103, 753, 766). 1446 24 Mawrth Rhoddwyd maddeuant cyffredinol am unrhyw droseddau a gyflawnwyd cyn 10 Mawrth 1446 ac wedyn i Robert Trefor, gentilman, mab Edward ap Dafydd o’r Waun, gan ei gysylltu hefyd â Halston ac â Wigington (CPR 1441–6, 415).

Llyfryddiaeth
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Pratt, D. (1977), ‘A Holt Petition, c. 1429’, TCHSD 26: 153–5

Risiart Trefor ab Edward o Fryncunallt

Top

Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt

Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig

Top

Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)