Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 11 llawysgrif sy’n dyddio o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r testunau’n cynnwys 64 o linellau. Ni cheir llawer iawn o amrywio geiriol yn y testunau, yr un yw trefn eu llinellau ac uchel yw safon cywirdeb cyffredinol eu darlleniadau, ac eithrio llinell 59, sydd hefyd yn profi eu bod yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig (gw. y nodyn). Mae llawysgrifau’r gerdd yn gysylltiedig â gogledd Cymru.
Gellir rhannu’r llawysgrifau yn ddwy ffrwd, sef LlGC 3057D a X (‘Cynsail Dyffryn Conwy’). Byddai’n bosibl dadlau mai copi yw testun LlGC 3057D, yntau, o gynsail X a bod y gwahaniaethau rhwng darlleniadau hwn ac eiddo Gwyn 4 a LlGC 3049D i’w priodoli i’w gopïwr. Gallai hynny yn sicr fod yn wir am y gwallau ynddo nas ceir yn y ddau destun arall, ond mewn dau fan mae ei ddarlleniadau yn rhagori ar eu heiddo hwy, sef yn glwyd (10) yn lle gwlyd a llall (27) yn lle iarll. Er hynny, os cywiriadau yw’r rhain, ni fyddai angen crebwyll mawr i’w gwneud, a gadewir y mater ar hynny.
Yn LlGC 3057D ceir yn agos i’r gerdd hon gerdd arall (td. 304) i Risiart Cyffin (cerdd 59), sy’n awgrymu ffynhonnell o gerddi’n ymwneud â Chyffin.
Seiliwyd y testun golygyddol ar LlGC 3057D, Gwyn 4, LlGC 3049D.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3057D, Gwyn 4, LlGC 3049D.
1 deliais GGl Delwais, darlleniad a geir am y tro cyntaf yn Pen 99 (a’r testunau sy’n tarddu ohono).
5 o’m GGl o’r, megis yn X. Rhydd synnwyr boddhaol ond mwy penodol yw o’m.
6 wna Darlleniad X. Gellid ystyried hefyd wnai LlGC 3057D.
8 tyrs GGl tors, megis yn X. Gellir y naill ddarlleniad neu’r llall.
10 glwyd Gthg. Gwyn 4 a LlGC 3049D Gwlyd, gwall amlwg.
11 y mae’n Felly X. Gthg. LlGC 3057D yma yn, darlleniad sy’n gofyn deall berf.
11 glaf Yn Pen 99 cynigiodd llaw arall yr amrywiad glau fel petai i wella’r synnwyr, ond tebyg mai trefn anarferol ’n glaf ym a barodd iddo wneud hyn (gw. hefyd 11n (esboniadol)).
16 yr LlGC 3057D ar (ond Llst 123 ’r a Pen 104 yr), a gellir ystyried y darlleniad hwn hefyd. Ond ymddengys yr eiloes ‘yr eilwaith’ yn fwy naturiol yn y cyd-destun gan fod Guto yn derbyn ail driniaeth at ei glwyf trwy fynd at ddeon Bangor hefyd.
26 tai’r tair a geir yn y llawysgrifau ond ar sail y cyd-destun mae’n haws credu mai tai’r a olygir yn hytrach na’r rhifolyn. Sôn am y fynachlog, a ddisgrifir fel eglwys (cf. 6 [t]eml Iâl), a’r hyn sydd ynddi yr ydys, a defnyddir tai yn yr un ystyr ag ynglŷn â llys uchelwr. GGl tair.
27 llall Felly LlGC 3057D, a dengys y gynghanedd mai dyna sy’n gywir. Gthg. Gwyn 4 a LlGC 3049D iarll.
29 dywod Felly Gwyn 4; LlGC 3057D dyfawd, LlGC 3049D dyvod, ond darllenir dywod (cf. Gwyn 4) er mwyn y gynghanedd. Ar y ffurfiau hyn, gw. G 431; GMW 124.
30 ’meingefn Derbynnir darlleniad LlGC 3057D ymeingefyn (Gwyn 4 a LlGC 3049D meingefyn).
32 o’m Felly Gwyn 4 a LlGC 3049D om; cf. 1 o glwyf; 5 o’m briw; gthg. LlGC 3057D im.
39–40 o’m … / A’m … i’m Felly Gwyn 4, LlGC 3049D. Gthg. LlGC 3057D im … / im … am ond ystyr y cwpled yw bod y cusan iachaol a gafodd Guto gan Ddafydd ab Ieuan (ac a gawsai hwnnw gan Risiart Cyffin) wedi mynd o’i ên a’i drawswch (sef y man lle cusanwyd ef) i’w asennau.
48 ond o’i ben Felly LlGC 3049D (cf. GGl). Yn LlGC 3057D onty ben, Gwyn 4 ont oi ben newidiwyd d yn t er mwyn cyfateb i’r t yn Ennaint, ond ceir nt = nd yn aml gan Guto.
52 iach Yn LlGC 3057D ysgrifennwyd iawn yn gyntaf ac yna dodi iach yn ei le.
54 yw Felly Gwyn 4. LlGC 3049D yn. LlGC 3047D y a’i ddilyn yn uwch i fyny gan lythyren aneglur. Gellir dewis, felly, rhwng yw ac yn ond gwell o ran synnwyr yw yw.
55 o’i LlGC 3057D o, ond mwy penodol a boddhaol yw o’i.
56 mal Felly LlGC 3057. Ceir mil, sy’n anfoddhaol, yn X (ac eithrio Pen 99).
58 a dyf nerth o’i deufin Gthg. LlGC 3057 a dyfo nerth deyfin ond ni rydd hyn gystal synnwyr.
59 pena et Felly Gwyn 4. Llwgr yw darlleniadau LlGC 3057D pma o ieth a LlGC 3049D pmaieth. Nid oes dim rheswm dros feddwl nad yw diwygiad Salesbury yn Gwyn 4 yn gywir gan y rhydd ystyr a chynghanedd burion. Diau i’w ddysg Ladin helaeth a’r gair kwlpa (LlGC 3057D a LlGC 3049D; Gwyn 4 cülpa) sy’n dilyn ei alluogi i sylweddoli bod yma ymadrodd Lladin cyfarwydd iddo (gw. hefyd 59n (esboniadol)). Diddorol yw sylwi ar ymgais Wiliam Bodwrda yn Llst 123 i ddiwygio pma o ieth LlGC 3057D yn penydiaeth, er na rydd gynghanedd.
Cywydd yw hwn i ddiolch i Ddafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes, a Rhisiart Cyffin, deon Bangor, am wella’r briw a gafodd Guto pan dorrodd dair o’i asennau. Gan ei fod yn crybwyll yr enw Dafydd (13) a’r cyfenw y Cyffin (36) ond nid enw’r dean (17), credai I. Williams (GGl 361) mai i un gŵr o’r enw Dafydd Cyffin y cyflwynwyd y gerdd, a hwnnw’n debygol o fod yr un person â Dafydd Cyffin, gwrthrych cerdd 94 (er mai yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn Llangedwyn, y trigai ef). Ond gan mai i ddau ŵr y cyflwynwyd y gerdd hon, mae’n dilyn nad oes rhaid cyplysu’r enwau Dafydd a Chyffin, a gwyddom oddi wrth ffynonellau eraill, gan gynnwys pum cerdd arall gan Guto sy’n ymwneud â’r Cyffin (cerddi 58–61, 108), mai Rhisiart oedd ei enw cyntaf.
Esbonia Guto ei fod wedi torri ei asennau trwy faglu a’i fod yn bwriadu mynd i fynachlog Glyn-y-groes i geisio cymorth Harri Sant (8), sef eiriolaeth Harri VI am iachâd (gw. 8n). Yno hefyd, ym moethusrwydd palis Dafydd, gallai orffwys ac ymadfer (1–14). Try Guto i grybwyll gŵr arall, sef deon Bangor, sydd yntau’n darparu gwleddoedd hael iddo (15–18), cyn dychwelyd at Ddafydd ab Ieuan a’i ddisgrifio fel [b]rawd (19n) i’r deon a chanmol ei haelioni a gweddi mynaich yr abaty (19–26). Daw’r pendil yn ôl at y deon a deallwn fod rhywun ym Mangor wedi ei hysbysu am ddamwain Guto. O ganlyniad, rhoddodd gusan i Ddafydd – a oedd, mae’n amlwg, ym Mangor – i’w gludo at Guto yng Nglyn-y-groes er mwyn ei iacháu (27–36). Ac yntau wedi derbyn cusan y deon trwy Ddafydd, try i ganmol i’r cymylau ei effeithiau iachaol arno (37–50) a diwedda trwy ddathlu ei adferiad i iechyd gan ddiolch i’r deon am ei waredigaeth (51–64).
Drwy’r gerdd, cusan Rhisiart Cyffin yw’r canolbwynt, ac yn hyn gwelir Guto yn gwneud defnydd o rai o ddelweddau cywyddau serch i gusan (ymhellach, gw. 32n, 55–6n; GLl 147), gyda’r gwahaniaeth mai cusan gan ddyn, nid merch, sydd yma. Fodd bynnag, gellir tybio nad cusan serch ydoedd ond mynegiant o fendith ysbrydol a gras iachaol.
Dyddiad
Roedd Rhisiart Cyffin yn ddeon Bangor o 1478, os nad yn gynharach, hyd 1492; a Dafydd ab Ieuan yn abad Glyn-y-groes o c.1480 hyd 1503. Gellir cynnig dyddio’r gerdd, felly, yn gynnar yn y cyfnod 1480–92, ac mae hyn yn cyd-fynd â chyfeiriad Guto ato’i hun fel esgudwas oesawg (52).
Golygiad blaenorol
GGl cerdd CXI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 73% (47 llinell), traws 12.5% (8 llinell), sain 12.5% (8 llinell), llusg 2% (1 llinell).
5 y brenin Sef Harri VI, fel yr eglurir yn 8.
6 teml Iâl Sef abaty Sistersaidd Glyn-y-groes ar lan afon Eglwyseg yng nghwmwd Iâl.
8 Harri Sant Gw. 5. Fe’i hystyrid yn sant a merthyr ar ôl ei lofruddio yn y Tŵr yn 1471; eiriolid arno megis ar saint eraill a phriodolid iddo lawer o wyrthiau, gan gynnwys gwyrthiau iacháu, gw. Knox and Leslie 1923. Oni bai mai trosiad yw ei enw yma am Ddafydd ab Ieuan, gall fod congl neu greirfa yn abaty Glyn-y-groes wedi ei neilltuo ar gyfer defosiwn i Harri ac mai eiriol arno am wellhad, gyda’r tyrs hir, y mae Guto yn y cwpled hwn.
11 Y drefn resymegol yw Y mae i mi yn glaf win a gwledd.
13 Dafydd Sef Dafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes, c.1480–1503, y canodd Guto nifer o gerddi iddo; cf. 20–1, 33–4, 56.
17 dean doeth Cyfeirir ato yn 36 fel y Cyffin. Rhisiart Cyffin oedd deon Bangor (15) ar y pryd.
17 rôi i’r Mae angen cywasgu’r cyfuniad yn unsill ar gyfer hyd y llinell.
17 dyn dall Ystrydeb: roedd y deillion, fel y mud a’r cloff, yn enghraifft o’r math o bobl y disgwylid i noddwr eu cynorthwyo.
19 brawd Nid yn yr ystyr lythrennol ond ‘brawd ffydd’ neu ‘gyfaill’.
20 Abram Y patriarch Hebreaidd y sonnir amdano yn yr Hen Destament ac a ystyrir yn rhagflaenydd ysbrydol yr Eglwys Cristnogol, gw. ODCC3 6. Sylwer bod dwy ffurf ar ei enw yn y Beibl, sef Abram ac Abraham (ar y rheswm, gw. Genesis 17.5–7).
20 Iâl Gw. 6; WATU 94, 284.
22 Nudd Sef Nudd ap Senyllt, a oedd, ynghyd â Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain ac yn safon o haelioni gan y beirdd, gw. TYP3 5–76, 464–65; WCD 509.
22 dan un iau Sef, fe ymddengys, yr un iau ag y mae deon Bangor dano. Os felly, mae Guto yn cyffelybu Dafydd a’r deon i ddau ych dan yr iau gan olygu eu bod yn gyffelyb o ran eu rhinweddau.
26 eglwys Sef y fynachlog, trwy gydgymeriad; cf. 6 [t]eml Iâl.
28 Palis Deinioel, plas Dwynwen Sefydlodd Deiniol fynachlog Bangor (Bangor Fawr yn Arfon) yn y chweched ganrif, gw. CLC2 188, a chyfranogai Rhisiart Cyffin, felly, fel deon Bangor, yn ei enwogrwydd. Roedd Rhisiart hefyd yn rheithor eglwys Llanddwyn ym Môn, gw. GLlGt 108.
30 torri ’meingefn Tebyg fod yma or-ddweud. Ynglŷn ag ystyr meingefn, rhydd GPC 2411, ‘Y rhan gulaf o’r cefn, meinedd y cefn, hefyd yn drosiadol; cefn (llyfr) …’. Dichon mai ‘small of the back’ yw’r ystyr yma.
32 clo fy min Cf. yr hyn a ddywed Llawdden am gusan a dderbyniodd gan ferch, GLl 5.17 Hwn mi a’i cuddiaf yn hawdd, 36 Y mae’n glo ar fy min glân. Cyffredin yw’r gair clo gan y beirdd ynglŷn â chusan oherwydd synio am y cusan a roddid gan rywun fel peth oedd yn cloi gwefusau’r sawl a’i derbyniai.
33–6 Cesglir bod Dafydd ab Ieuan wedi derbyn cusan gan Risiart Cyffin ym Mangor i’w drosglwyddo i Guto yn abaty Glyn-y-groes.
35 Hynny yw, cusanodd yr abad Guto.
38 hwn Sef y cusan, sydd hefyd yn oddrych y ferf Gwnaeth yn y llinell ddilynol.
42 yr ugeinmil saint Sef yr 20,000 o saint a oedd, yn ôl traddodiad, wedi eu claddu ar Ynys Enlli.
48 ennaint y Badd Cyfeirir at y ffynhonnau twym iachaol yng Nghaerfaddon y sonia’r beirdd yn fynych amdanynt, gw. 81.7n.
51 esgudwas oesawg Sylwer ar y gwrtheiriad.
55–6 myrr … / … tus Cf. GLl 6.37–8 Mawr oedd flas, debygaswn, / Myrr a thus, ym yr aeth hwn (am gusan).
58 o’i deufin Cyfeirir at 57 efengyl.
59 pena et culpa Talfyriad o’r ymadrodd Lladin indulgentia a culpa et a poena ‘rhyddhad oddi wrth euogrwydd ac oddi wrth gosb [pechod]’. Fe’i ceid mewn rhai gwritiau maddau (‘writs of indulgence’), gw. www.newadvent.org/cathen s.v. Indulgences; ODCC3 834–5.
60 y Pab Os pennaeth Eglwys Rufain a olygir, dylid nodi na chyhoeddwyd gwrit maddau gan unrhyw bab na chyngor: gw. www.newadvent.org/cathen s.v. Indulgences. Os gwyddai Guto hynny, yna Rhisiart Cyffin yw’r Pab y cyfeirir ato yma (cf. 27). Fodd bynnag, mae’n gwestiwn a fyddai Guto wedi gwybod, a diau yr edrychai llawer ar y maddeuebau a werthid gan bardynwyr ffug fel pe baent wedi derbyn sêl bendith y Pab; cf. hefyd Williams 1976: 520–1.
61 pardwn o Eitwn Cyfeiriad at Eutun, y drefgordd ym mhlwyf Erbistog i’r de o Wrecsam ac i’r dwyrain o Riwabon, Maelor Gymraeg. Ar amrywiol ffurfiau ar yr enw yn y testunau (Saesneg Eyton), gw. G 465; WATU 68; GGDT 33. Nid yw’n eglur ai Rhisiart Cyffin y mae Guto yn ei gysylltu â’r lle ynteu’r pardwn. Os y cyntaf, ni wyddys digon am Gyffin i allu gwerthfawrogi’r cyfeiriad; os yr ail, a oedd rhyw reswm dros gysylltu Eitwn â phardynau?
63 pwmpa GPC 2941 ‘afal (mawr), ?ffrwyth, ?pren ffrwythau’.
63 pump einioes Ffordd arall o ddweud ‘bywyd maith’. Efallai fod yma hefyd chwarae ar pumoes, sef y pum cyfnod am yr amser rhwng y Creu a dyfodiad Crist yn ôl cronoleg yr Oesoedd Canol, gw. GPC 2928.
Llyfryddiaeth
Knox, R. and Leslie, S. (1923) (eds.), The Miracles of King Henry VI (Cambridge)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
This is a cywydd to thank Dafydd ab Ieuan, abbot of Valle Crucis, and Rhisiart Cyffin, dean of Bangor, for healing a wound that Guto received when he broke three of his ribs. Since he mentions the name Dafydd (13) and the surname Cyffin (36) but not the first name of the dean (17), I. Williams (GGl 361) suggested that the poem was presented to one man called Dafydd Cyffin who was likely to be the same person as the Dafydd Cyffin of poem 94 (although it was in north-east Wales, at Llangedwyn, that he resided). However, as the poem was presented to two men, it is not necessary to couple the names Dafydd and Cyffin, and we know from other sources, including five other poems by Guto concerned with Cyffin (poems 58–61, 108), that his first name was Rhisiart.
Guto explains that he broke his ribs when he stumbled and that he intends to go to Valle Crucis abbey to seek the assistance of Harri Sant (8), namely the intercession of Henry VI for a cure (see 8n). There, amid the luxury of palis Dafydd ‘Dafydd’s palace’, he could also rest and recover (1–14). Guto then mentions another man, the dean of Bangor, who also provides him with generous meals (15–18), before describing Abbot Dafydd ab Ieuan as the dean’s brawd ‘brother’ (19n) and praising his generosity and the prayers of the abbey’s monks (19–26). The pendulum swings back to the dean and we are given to understand that someone in Bangor has told him of Guto’s accident. Consequently, the dean gave Dafydd – who was clearly at Bangor – a kiss to take to Guto in Valle Crucis in order to heal him (27–36). Having received the dean’s kiss via Dafydd, Guto now turns to extol its curative effects on him (37–50) and concludes by celebrating his restoration to good health and thanking the dean for his deliverance (51–64).
Throughout the poem Rhisiart Cyffin’s kiss is the focus of attention, and here we see Guto making use of some of the images found in love cywyddau to kisses (further, see 32n, 55–6n; GLl 147), with the difference being that this kiss is from a man, not a woman. However, it may be supposed that it was not a pure love kiss but an expression of spiritual blessing and healing grace.
Date
Rhisiart Cyffin was dean of Bangor from 1478, if not earlier, to 1492; Dafydd ab Ieuan was abbot of Valle Crucis from c.1480 to 1503. A date early in the period 1480–92 may be suggested for the poem, which is in keeping with Guto’s reference to himself as esgudwas oesawg (52).
The manuscripts
The poem has been preserved in 11 manuscripts dating from the second half of the sixteenth century to the nineteenth, all from north Wales. There is not much variation between the texts, the line sequence is the same and the general standard of the readings is high. They probably all derive ultimately from a common written exemplar. The texts may be divided into two groups represented by LlGC 3057D on the one hand, and Gwyn 4 and LlGC 3049D (deriving from the lost ‘Conwy Valley Exemplar’) on the other. In LlGC 3057D, close to this poem, there is another poem to Rhisiart Cyffin (poem 59), which suggests that there was a group of poems concerned with Cyffin. The edited text is based on LlGC 3057D, Gwyn 4 and LlGC 3049D.
Previous edition
GGl poem CXI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 73% (47 lines), traws 12.5% (8 lines), sain 12.5% (8 lines), llusg 2% (1 line).
5 y brenin Henry VI, as explained in 8.
6 teml Iâl Valle Crucis abbey is located on the banks of the river Eglwyseg in the commote of Yale.
8 Harri Sant See 5. He was regarded as a saint and martyr after his murder in the Tower in 1471; his intercession was asked for like that of other saints and many miracles were attributed to him, including curative ones, see Knox and Leslie 1923. Unless his name is a metaphor here for Dafydd ab Ieuan, there may have been a corner or reliquary in the abbey reserved for devotion to Henry where Guto asked him for a cure, with the tyrs hir ‘long candles’.
11 The logical order is Y mae i mi yn glaf win a gwledd.
13 Dafydd Dafydd ab Ieuan, abbot of Valle Crucis, c.1480–1503, to whom Guto sang a number of poems; cf. 20–1, 33–4, 56.
17 dean doeth He is referred to in 36 as y Cyffin. Rhisiart Cyffin was dean of Bangor (15) at the time.
17 rôi i’r They must be elided for the line to have seven syllables.
17 dyn dall A stereotypical reference: the blind, like the dumb and lame, were an example of the kind of people whom patrons were expected to assist.
19 brawd Not in the literal sense but ‘brother in faith’ or ‘friend’.
20 Abram The Hebrew patriarch mentioned in the Old Testament and considered the spiritual forerunner of the Christian Church, see ODCC3 6. Note that there are two biblical forms of his name, Abram and Abraham (for an explanation, see Genesis 17.5–7).
20 Iâl See 6; WATU 94, 284.
22 Nudd Nudd ap Senyllt, who, with Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain and regarded by the poets as a standard of generosity, see TYP3 5–76, 464–5; WCD 509.
22 dan un iau The same yoke, apparently, as the dean of Bangor was under. If so, Guto is comparing Dafydd and the dean to two oxen under the yoke in the sense that they are similar in their virtues.
26 eglwys The monastery, by synecdoche; cf. 6 teml Iâl.
28 Palis Deinioel, plas Dwynwen St Deiniol founded the monastery of Bangor (Bangor Fawr in Arfon) in the sixth century, see NCLW 174, and so Rhisiart Cyffin, as dean of Bangor, participated in his fame. Rhisiart was also rector of the church of Llanddwyn in Anglesey, see GLlGt 108.
30 torri ’meingefn There is probably some exaggeration here. Regarding the meaning of meingefn, GPC 2411 defines it (translated) as, ‘The narrowest part of the back, spine of the back, also metaphorically; back (of a book) …’. Perhaps the meaning here is ‘small of the back’.
32 clo fy min Cf. Llawdden’s account of a kiss which he received from a girl, GLl 5.17 Hwn mi a’i cuddiaf yn hawdd (‘I shall conceal this easily), 36 Y mae’n glo ar fy min glân (‘it is a lock on my goodly mouth’). The word clo is common with the poets regarding a kiss because the kiss given by someone was thought of as something that locked the lips of whoever received it.
33–6 Dafydd ab Ieuan has received a kiss from Rhisiart Cyffin at Bangor to be conveyed to Guto at Valle Crucis abbey.
35 I.e., the abbot kissed Guto.
38 hwn The kiss, which is also the subject of the verb Gwnaeth in the following line.
42 yr ugeinmil saint The 20,000 saints who, according to tradition, were buried on Bardsey Island.
48 ennaint y Badd A reference to the hot baths at Bath which the poets mention frequently, see 81.7n.
51 esgudwas oesawg Note the oxymoron.
55–6 myrr … / … tus Cf. GLl 6.37–8 Mawr oedd flas, debygaswn, / Myrr a thus, ym yr aeth hwn ‘Great was the taste, methinks, / of myrr and frankincense, it entered me’ (of a kiss).
58 o’i deufin Reference is made to 57 efengyl.
59 pena et culpa An abbreviation of the Latin phrase indulgentia a culpa et a poena (‘release from guilt and from punishment [of sin]’). It occurred in some writs of indulgence, see www.newadvent.org/cathen s.v. Indulgences; ODCC3 834–5.
60 y Pab If the head of the Church of Rome is meant, it should be noted that no writ of indulgence was issued by any pope or council (see www.newadvent.org/cathen s.v. Indulgences). If Guto knew that, then Rhisiart Cyffin is the Pab referred to here (cf. 27). However, it is questionable whether Guto would have known, and many people no doubt looked on the indulgences sold by false pardoners as if they had been approved by the Pope; cf. also Williams 1976: 520–1.
61 pardwn o Eitwn A reference to Eutun (in English Eyton), the township in the parish of Erbistock to the south of Wrexham and to the east of Ruabon, Maelor Gymraeg. On the various forms of the name in the texts, see G 465; WATU 68; GGDT 33. It is not clear whether it is Rhisiart Cyffin or the pardwn that Guto is associating with the place. If the first, not enough is known of Cyffin to be able to appreciate the reference; if the second is meant, was there some special reason for associating Eitwn with pardons?
63 pwmpa GPC 2941 ‘(large) apple, ?fruit-tree’.
63 pump einioes Another way of saying ‘long life’. There may also be play here on pumoes, namely the five ages spanning the period between the Creation and the coming of Christ according to medieval chronology, see GPC 2928.
Bibliography
Knox, R. and Leslie, S. (1923) (eds.), The Miracles of King Henry VI (Cambridge)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Mae cyfanswm o un ar ddeg o gerddi gan Guto sy’n gysylltiedig â’r Abad Dafydd ab Ieuan wedi goroesi yn y llawysgrifau. Ymddengys mai Dafydd oedd prif noddwr y bardd yn ei henaint. Canodd bum cerdd iddo’n uniongyrchol: dau gywydd mawl (cerddi 112, 117); dwy awdl foliant (cerddi 111, 113); cywydd diolch am fwcled (cerdd 110). Cyfeirir at Ddafydd mewn chwe chywydd arall: cerdd a ganodd Guto i amddiffyn ei le yn abaty Glyn-y-groes lle molir Dafydd (cerdd 116); myfyrdod crefyddol wedi ei ysbrydoli gan gerydd a dderbyniodd gan Ddafydd (cerdd 118); mawl i’r Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell a ganodd Guto ar gais Dafydd, yn ôl pob tebyg (cerdd 115); gofyn ar ran Dafydd i gael benthyg Llyfr y Greal gan Drahaearn ab Ieuan o Ben-rhos (cerdd 114); gofyn wyth ych gan Ddafydd, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (cerdd 108); diolch i Ddafydd ac i Risiart Cyffin, deon Bangor, am wella briw (cerdd 109). At hynny, y tebyg yw fod englyn olaf Guto (cerdd 119) wedi ei ganu yng Nglyn-y-groes pan oedd Dafydd yn abad, fel y farwnad a ganodd Gutun Owain ar farwolaeth Guto (cerdd 126; cf. cyfeiriad at Guto yn XXV.9–10). Yn wir, canodd Gutun wyth o gerddi eraill i Ddafydd: pedwar cywydd mawl (GO cerddi XXIV, XXVIII, XXIX, XXX); tair awdl foliant (ibid. cerddi XXV, XXVI, XXVII); awdl-gywydd (ibid. cerdd XXXI). Tudur Aled yw’r unig fardd arall y gellir ei gysylltu â Dafydd. Cyfeiriodd ef ato mewn cywydd a ganodd i ŵr o’r enw Rhys ynghylch rhodd o farch a roes i’r abad (TA cerdd LXIX).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 1, 2. Dangosir mewn print trwm y rhai hynny a enwir yn y cerddi a ganodd Guto i Ddafydd. Gwelir mai prin iawn yw’r cyfeiriadau yn y cerddi at ei hynafiaid.
Achres yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes
Ei yrfa
Mae’n debygol fod Dafydd wedi ei eni yn Nhrefor ym mhlwyf Llangollen. Ni cheir enw ei fam yn yr achresi, a hynny’n ôl pob tebyg am iddo gael ei genhedlu y tu allan i briodas. O ganlyniad, bu’n rhaid i Ddafydd, fel ei gyfoeswr, Rhisiart Cyffin, deon Bangor, geisio caniatâd gan y Pab er mwyn ymgymryd â swydd eglwysig. Fe’i gwnaed yn fynach Sistersaidd fel ei dad, Ieuan. Dysgwn o farddoniaeth Guto’r Glyn a Gutun Owain iddo fod ganddo wallt tywyll (110.4 angel du; 112.19 [g]ŵr gloywddu; 113.77 du llawenddoeth; GO XXXI.23).
Yn 1480 olynodd Dafydd ei gyd-noddwr, yr Abad Siôn ap Rhisiart, yn abad Glyn-y-groes ac yn 1485 fe’i penodwyd yn ddirprwy i abadau Sistersaidd Fountains yn swydd Efrog a Woburn yn swydd Rhydwely (Bedfordshire) yn y gwaith o ad-drefnu’r urdd yng Nghymru a Lloegr. Yn yr un flwyddyn fe’i penodwyd gan Harri VII i arwain tîm o ymchwilwyr, yn cynnwys Gutun Owain a Syr Siôn Leiaf (gw. 116.11–12n), yn y gwaith o lunio achres Gymreig y brenin. Erbyn 1496 roedd hefyd yn warden eglwys blwyf golegol Pedr Sant yn Rhuthun, a chaniatawyd iddo gadw’r swydd honno a’i abadaeth pan benodwyd ef yn esgob Llanelwy ar 8 Ionawr 1500. Fodd bynnag, esgobaeth fer a gafodd, oherwydd bu farw tua diwedd 1503.
Yn wahanol i’w olynydd yn yr esgobaeth, yr Abad Dafydd ab Owain, ni oroesodd cerddi i Ddafydd o’i gyfnod yn esgob. Ei abadaeth yng Nglyn-y-groes oedd uchafbwynt ei yrfa, i bob diben, ac adlewyrchir ei lwyddiant fel abad yn y cerddi a ganwyd iddo yno. Gwyddys bod yr Abad Dafydd ab Owain, a fu yntau’n abad yn Ystrad-fflur, Ystrad Marchell ac Aberconwy, wedi derbyn addysg yn Rhydychen, ond ni cheir gwybodaeth am addysg Dafydd ab Ieuan. Fodd bynnag, mae’n eglur oddi wrth y farddoniaeth ei fod yn ŵr dysgedig (112.29–30; cerdd 114; GO XXIV.29–30, XXV.19, XXVIII.45) a’i fod yn hyddysg ym myd cerdd dafod a cherdd dant. Geilw Guto ef yn [dd]iwael brydydd â chanddo’r ddawn i gyfeilio fel y telynor enwog, Brido (113.58–60; cf. GO XXIV.39–40, XXVIII.47–52, XXXI.46). Fel y dengys y ffaith iddo siarsio Guto i ganu i Dduw, ymddengys mai’r canu crefyddol oedd ei briod faes: O gwna Dafydd gywydd gwiw, / Ef a’i rhydd i Fair heddiw (118.5–6). Yn anffodus, ni oroesodd dim o’i waith.
Ac yntau’n ŵr cydnerth a fedrai saethu â bwa (GO XXIV.33–6, XXVIII.33–4), y tebyg yw mai ei brif gyfraniad i fywyd y fynachlog oedd ei waith adeiladu. Dywed Guto iddo ail-doi’r abaty gyda phren derw o fryn Hyrddin gerllaw (112.33–4) a chyflogi seiri crefftus i weithio ar rannau eraill o’r adeilad (112.45–56; 113.13–14, 69–73; GO XXVI.62). Mae’n bur debygol mai yn ystod abadaeth Dafydd yr adeiladwyd ystafelloedd newydd yr abad uwchben y gysegrfa a’r cabidyldy, a ddyddir i ail hanner y bymthegfed ganrif (Robinson 2006: 291).
Ymhellach ar Ddafydd, gw. DNB Online s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; CTC cerddi 57–75 a’r drafodaeth arnynt.
Llyfryddiaeth
Robinson, D.M. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Diogelwyd yn y llawysgrifau gyfanswm nid ansylweddol o ddeunaw cerdd i Risiart Cyffin gan saith o feirdd. Canodd Guto chwe chywydd iddo: diolch am bwrs (cerdd 58); diolch am baderau (cerdd 59); gofyn gwalch gan Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares ar ran Rhisiart (cerdd 60); gofyn teils gan Risiart ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Henllan (cerdd 61); gofyn wyth ych ar ran Rhisiart gan yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris (cerdd 108); diolch i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes ac i Risiart am wella briw (cerdd 109). Diogelwyd pedair cerdd i Risiart gan Dudur Aled: awdl fawl, TA cerdd VIII; cywydd i ofyn meini melin gan Risiart ar ran gŵr a elwir ‘y Meistr Hanmer o Faelor’, ibid. cerdd CXX; englynion dychan i Risiart ac i’w feirdd, yn cynnwys Rhys Pennardd, Ieuan Llwyd a Lewys Môn, ibid. cerdd CXLI; englyn mawl i Risiart a dychan i’w olynydd, ibid. cerdd CXLV. Canwyd tri chywydd dychan i Risiart gan Lywelyn ap Gutun: cystadlu am Alswn o Fôn a dychan i Risiart, GLlGt cerdd 8; dychan i Risiart yn ymwneud â chardota ŵyn, ibid. cerdd 9; dychan i Risiart ynghylch Alswn ac i’w feirdd, lle enwir Rhys Pennardd, Hywel Rheinallt a Lewys Môn, ibid. cerdd 10. Diogelwyd dau gywydd iddo gan Lewys Môn: ateb i’r cywydd cyntaf uchod o waith Llywelyn ap Gutun, lle amddiffynnir Rhisiart ynghylch Alswn o Fôn, GLM cerdd XV; marwnad, ibid. cerdd XVII. Ceir hefyd rai cerddi unigol i Risiart gan feirdd eraill: cywydd mawl gan Hywel Rheinallt i Santes Dwynwen lle molir Rhisiart fel person eglwys a gysegrwyd iddi yn Llanddwyn ym Môn; cywydd gofyn am ychen gan Ieuan Deulwyn i’r Abad Dafydd Llwyd o Aberconwy, Rhisiart a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV; cywydd mawl i Risiart gan Syr Siôn Leiaf, lle dychenir Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, Salisbury 2011: 101–18. At hynny, canodd Lewys Daron gywydd i ofyn march gan un o feibion Rhisiart, Dafydd Conwy, ar ran Siôn Wyn ap Maredudd (GLD cerdd 22).
Achres
Seiliwyd y goeden achau isod ar Salisbury 2011: 73–77. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor
Roedd Rhisiart yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Syr Gruffudd ab Einion o Henllan.
Ei yrfa
Y tebyg yw fod Rhisiart wedi dechrau ei yrfa eglwysig fel person eglwys blwyf y Gyffin yng nghwmwd Arllechwedd Isaf ym mis Mai 1470 (codwyd yr holl wybodaeth o Salisbury 2011). Cafodd Rhisiart ei ddyrchafu’n ddeon Bangor rywdro rhwng y dyddiad hwnnw a 12 Mai 1478, sef dyddiad y cofnod cynharaf lle gelwir ef yn ddeon. Bu’n ddeon gydol wythdegau’r bymthegfed ganrif a bu farw, yn ôl pob tebyg, ar 13 Awst 1492, a’i gladdu yng nghorff yr eglwys.
Fel deon y cyfarchai’r beirdd Risiart ymron ym mhob cerdd, ond gwnaeth y beirdd yn fawr hefyd o’r ffaith ei fod yn berson eglwys Llanddwyn ym Môn. At hynny, dengys rhannau o’r cerddi a ganwyd iddo gan Guto iddo fod yn weithgar yn ailadeiladu rhannau o’r eglwys a’r esgopty ym Mangor (58.7–10; 59.3–14). Yn sgil ei gefnogaeth i Harri Tudur derbyniodd arian er mwyn adeiladu siantri wedi ei gysegru i Santes Catrin yng nghorff yr eglwys. Rhoes hefyd ffenestr liw ac ynddi ddarluniau o Santes Catrin a Santes Dwynwen ym mur de-ddwyreiniol y gangell. Ar waelod y ffenestr honno ceid enw Rhisiart gyda’r teitl Magistri o’i flaen, teitl a adleisir yn hoffter y beirdd o gyfeirio ato fel mastr Rhisiart. Ymddengys ei fod yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.
Roedd cyfraniad Rhisiart i fywyd diwylliannol ei ddydd yn sylweddol. Rhoes fwy o nawdd i feirdd nag unrhyw ŵr crefyddol arall a ddaliodd swydd yn un o bedair esgobaeth Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, o safbwynt genre ceir amrywiaeth eang iawn yn y cerddi a ganwyd iddo neu ar ei gais, oherwydd canwyd iddo ddigon o fawl confensiynol, yn ôl y disgwyl, ond canwyd hefyd lawer o gerddi ysgafn neu ddychanol. Awgrym cryf y cerddi yw ei fod gyda’r iachaf ei hiwmor o’r noddwyr oll.
Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118