Y llawysgrifau
Cadwyd testun o’r gerdd hon yn Pen 57 (c.1440), a chopi uniongyrchol o’r llawysgrif honno gan John Jones, Gellilyfdy, yw’r un yn Pen 312. Mae’r copi yn bwysig iawn yn achos deuddeg llinell olaf y gerdd gan fod ail hanner y llinellau ar goll yn Pen 57 oherwydd traul ar y llawysgrif. Ymddengys fod y testun cyfan yn ddarllenadwy yn amser John Jones oherwydd fe geir y llinellau’n llawn yn ei gopi ef. Defnyddiwyd Pen 312 i lenwi’r bylchau yn y trawsysgrifiad o destun Pen 57. Heblaw hynny mae ansawdd testun Pen 57 yn ddi-fai hyd y gellir barnu.
Trawsysgrifiad: Pen 57.
1 seythydd Y ffurf a geir yn Pen 57 yw seithydd, ac er na nodir ffurf amrywiol ar saethydd yn GPC 3160, ceir y ffurfiau seithydd a seythydd mewn dyfyniadau yno o destunau rhyddiaith o’r drydedd ganrif ar ddeg. Gallai’r ffurf hon godi trwy gydweddiad â maes / meysydd.
26 gwawd Collwyd llythyren olaf y gair yn Pen 57, ond fe’i ceir yn y copi yn Pen 312.
46 o oror Ni cheir yr arddodiad yn Pen 312, a’r tebyg yw nad oedd yn Pen 57 ychwaith, ond mae ei angen er mwyn hyd y llinell a’r synnwyr.
Mae’r cywydd hwn i Rys ap Dafydd ap Rhys yn nodedig am y modd y cynhelir un ddelwedd estynedig o’r dechrau i’r diwedd, sef y syniad o ganu cerdd fawl fel saethu at darged, a hynny’n fodd i gyfleu pwysigrwydd Rhys fel noddwr. Cf. 107.27–32.
Dyddiad
1435–40.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XC.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 56 llinell.
Cynghanedd: croes 50% (28 llinell), traws 18% (10 llinell), sain 30% (17 llinell), llusg 2% (1 llinell).
21 Anhuniawg Cwmwd sy’n ymestyn ar hyd arfordir Ceredigion rhwng Henfynyw a Llanrhystud.
22 caeriwrch Iwrch (Saesneg roebuck), math o garw bychan bywiog a geid yng Nghymru gynt. Cf. cywydd llatai Dafydd ap Gwilym, ‘Yr Iwrch’, DG.net cerdd 46.
22 Uwch Aeron Rhan ogleddol Ceredigion, gw. 10.16n.
38 Pedr Anodd gwybod beth yw arwyddocâd y cyfeiriad hwn. Yr eglwys agosaf a oedd yn gysegredig i Bedr oedd Llanbedr Pont Steffan.
40 iarll y ddadl Cf. iarll y gerdd, 10.50.
43 trafael Cymerir mai benthyciad yw hwn o’r Saesneg, travaill, ffurf ar travel ‘taith’. Er na nodir enghraifft o’r benthyciad hwnnw cyn ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg yn GPC d.g. trafael2, fe nodir enghreifftiau o’r ferf trafaeliaf 2 ‘teithio’ o’r bymthegfed ganrif. Cf. hefyd pen-trafaeliwr, 73.43.
44 Rhys hael Awgrymodd Salisbury 2009: 82 y gallai hwn fod yn gyfeiriad at yr Abad Rhys o Ystrad-fflur, gwrthrych cerddi 5–9.
46 Peris Afon sy’n llifo i’r môr yn Llansanffraid ger pentref Llan-non. Mae Glan Peris, Hafod Peris a Phencraig Peris yn enwau ar ffermydd ger yr afon hyd heddiw.
Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
This poem to Rhys ap Dafydd ap Rhys is remarkable for the way in which a single trope is sustained throughout, the archer shooting at a target as a metaphor for the poet praising a patron, used as a means of conveying Rhys’s importance to Guto. Cf. 107.27–32.
Date
1435–40.
The manuscripts
The edited text is based on that in Pen 57 (c.1440) which seems entirely satisfactory apart from the fact that the ends of the last twelve lines are missing due to damage. These can be restored from the copy of that manuscript in Pen 312.
Previous edition
GGl poem XC.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 56 lines.
Cynghanedd: croes 50% (28 lines), traws 18% (10 lines), sain 30% (17 lines), llusg 2% (1 line).
21 Anhuniawg A commote which extends along the shore of Cardigan Bay between Henfynyw and Llanrhystud.
22 caeriwrch Roebuck, a type of small deer formerly found in Wales. Cf. Dafydd ap Gwilym’s love-messenger poem, ‘Yr Iwrch’, DG.net poem 46.
22 Uwch Aeron The northern part of Ceredigion, see 10.16n.
38 Pedr It is difficult to tell the significance of this reference. The nearest church dedicated to Saint Peter was Llanbedr Pont Steffan.
40 iarll y ddadl Cf. iarll y gerdd, 10.50.
43 trafael This is taken to be a borrowing from the English travaill, a variant form of travel. Although the earliest instance of this borrowing noted in GPC s.v. trafael2 is from the second half of the sixteenth century, instances of the verb trafaeliaf 2 are noted from the fifteenth century. Cf. also pen-trafaeliwr, 73.43.
44 Rhys hael Salisbury 2009: 82 suggests that this could be a reference to Abbot Rhys of Strata Florida, the subject of poems 5–9.
46 Peris A river which flows into the sea at Llansanffraid near the village of Llan-non. Glan Peris, Hafod Peris and Pencraig Peris survive today as names of farms near the river.
Bibliography
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Rhys ap Dafydd oedd noddwr cerdd 11. Ni cheir unrhyw gerddi eraill iddo.
Achres
Ni roddir ei ach gan Bartrum, ond cyfeirir at ei wyres, ‘Gwenh. Fechan f. Jenkin ap Rhys ap Dafydd ap Rhys of Anhuniog’, yn WG2 ‘Cydifor ap Dinawal’ 9D fel gwraig Dafydd Llwyd ab Ieuan o’r Creuddyn.
Ei yrfa
Daliodd Rhys ap Dafydd amryw swyddi yn llywodraeth leol sir Aberteifi, ac Anhuniog yn enwedig, rhwng 1423 a 1439, a bu farw 1439–40 (Griffiths 1972: 310). Mae’n debyg, felly, fod cywydd Guto yn perthyn i’r cyfnod 1435–40. Ar sail y cyfeiriad at oror Peris (11.46), gellir lleoli cartref Rhys ap Dafydd rywle yng nghwm afon Peris sy’n llifo i’r môr yn Llansanffraid ger Llan-non yng ngogledd cwmwd Anhuniog.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)