Y llawysgrifau
Dau gopi yn unig a geir o’r gerdd hon yn y llawysgrifau, y naill (LlGC 3050D) yn gopi agos iawn o’r llall (LlGC 17114B), a’r ddau destun yn perthyn i ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Fel sy’n gyffredinol wir am gerddi Guto’r Glyn yn LlGC 17114B, mae’r testun yn bur dda ond nid yn ddi-fai, ac mae ambell linell lwgr (cf. 13n isod); mae tuedd ynddi hefyd i gynnwys ffurfiau llafar (cf. vowyd (5), fynne (15), myne (28), na chyredd (36)), ac i beidio â nodi cywasgiadau (e.e. 15n isod).
Trawsysgrifiad: LlGC 17114B.
6 erglyw LlGC 17114B evrglyw, y gellid ei ddeall yn gyfuniad o aur + glyw ‘arglwydd’, ond disgwylid treiglad meddal i’r ail elfen a haws yw dilyn awgrym GGl 363 mai gwall ydyw am erglyw, ail unigol gorchmynnol (neu drydydd unigol presennol) y ferf erglywed. Ceir yr un gwall yn GGDT 15.3 Erglyw, llawysgrif L Eurglyw. Am y treiglad yma, cf. HCLl V.82 Erglyw Dduw storia arglwyddes dirion.
10 ym weled Dilynir y rhaniad geiriau a geir yn y llawysgrif; ond rhoddai ymweled ystyr dda hefyd, gan ddeall rhodd ymweled i olygu rhodd yn sgil ymweld.
13–14 Gwnâi dwyll ym, y gwyndyll haidd, / Am ei deiau meudwyaidd LlGC 17114B gwnae dwyll ym gwndyll hedd / am y diav vevdwyedd: ond mae’r cwpled fel y saif yn y llawysgrif yn broblemus, gan fod llinell 13 sillaf yn fyr, bod gwndyll yn ffurf anhysbys, ac er bod meudwyedd, 14, yn ddigon posibl fel ffurf (gyda’r terfyniad haniaethol -edd), dyma’r unig enghraifft ohoni. Fodd bynnag, wrth ymyl y llinell yn LlGC 17114B, ychwanegodd llaw diweddarach (sef William Wynn, Llangynhafal (1709–60), yn ôl pob tebyg) y darlleniad canlynol: gwnaed dwyll im y gwyntyll haidd am ei deiau meudwyaidd. Rhydd y darlleniad hwn lawer gwell ystyr, ond y cwestiwn yw ai diwygiad ysbrydoledig gan Wynn ydoedd hyn neu a oedd yn dibynnu ar destun sydd bellach wedi ei golli (a gwyddom fod ganddo gasgliad mawr o lawysgrifau)? Pa un bynnag, credir bod y darlleniad hwn yn debygol o fod yn nes at y darlleniad gwreiddiol na’r hyn a geir yn LlGC 17114B. Mae nifer o ffurfiau llafar yn LlGC 17114B (fel yn nifer o lawysgrifau’r gogledd-ddwyrain yn yr unfed ganrif ar bymtheg) ac mae’n bosibl yr ysgrifennwyd meudwyedd (yn lle meudwyaidd) ac yn sgil hynny yr addaswyd y brifodl yn llinell 13 (haidd → hedd) i gyfateb. Mae dilyn Wynn a darllen yr enw lluosog deiau (lluosog dwbl tŷ) yn rhoi ystyr a chynghanedd well ar gyfer llinell 14, ac os derbynnir yr ansoddair meudwyaidd yna mae diau yn amhosibl yma.
Deellir gwyndyll yn ffurf gynnar ar gwyntyll (a esbonnir yn GPC 1780 yn fenthyciad o’r Saesneg Canol windylle – mae’n bosibl y cafwyd gwyndyll → gwyntyll drwy dybio mai gwynt oedd yr elfen gyntaf). Fodd bynnag 1588 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf o’r gair yn GPC, ac felly mae elfen o ansicrwydd yn parhau parthed y cwpled hwn.
14 am Darlleniad LlGC 17114B; GGl Au, o bosibl er mwyn cael cynghanedd sain. Gwrthodir hynny ar sail ystyr, a chymryd bod m wreiddgoll yn y llinell.
15 Efô’n fardd a fynnai’i fod LlGC 17114B y fo yn fardd a fynne i fod, sydd heb ei chywasgu’n nawsill. Diwygiwyd yn ddiangen yn GGl a darllen a fyn ei fod.
17 gwnelid Mae’r darlleniad gwreiddiol yn LlGC 17114B yn aneglur, gwna[ ] lid. Dyfelir mai e a ddaw ar ddiwedd y gair cyntaf, yna fe’i cywirwyd (o bosibl gan brif law’r testun â phin teneuach), drwy roi rhyw lythyren dros yr e ac ychwanegu d o bosibl ac yna l drosti (ond heb newid y lid sy’n dilyn). Anodd gwybod yn union beth sydd i fod yno, a dyfaliad copïydd LlGC 3050D oedd gwna lid. Gan na rydd llid Duw synnwyr yma yng nghyswllt cynnal y tŷ, derbynnir awgrym GGl a chymryd mai gwnelid, trydydd unigol gorchmynnol y ferf gwneud sydd yma, cf. 7.43 Gwnelid Duw gynnal oed dydd.
19 groes Yn LlGC 17114B darllenwyd gras yn wreiddiol, yna ychwanegodd yr un llaw e uwchben rhwng yr a a’r s; mae’n bosibl fod strôc ysgafn yn newid yr a yn o, ond mae’r cywiriad yn aneglur ac felly darllenwyd graes yn LlGC 3050D. Nid oes amheuaeth nad groes sy’n gywir, a bod plas y groes yn gyfeiriad at y fynachlog, y cyfeiria’r beirdd ati hefyd fel Pant-y-groes, gw. 110.6n.
32 fy ngheifn Camddarllenodd golygyddion GGl Fy nghefn yma (o bosibl gan nad oes dot neu strôc ar yr i). Mae llinell 33 gerennydd gron yn cadarnhau mai trafod perthynas waed rhwng Guto a Gruffudd ap Dafydd a wneir.
35 fu’n nodi Gthg. LlGC 17114B vin odi; derbynnir dehongliad GGl, er bod newid fu’n → fin yn llai tebygol mewn testun o’r gogledd nag y byddai mewn testun deheuol.
38 ab LlGC 17114B ap. Mae angen b ar gyfer y gynghanedd. Ceir ab gan amlaf gan y beirdd o flaen llafariaid, ond ceir ambell enghraifft o flaen cytsain, e.e. GLGC 99.41 Bwa saeth, Dafydd ab Siôn, 139.20 neb mal Ieuan ab Moelwyn.
40 mae LlGC 17114B y mae, sy’n peri i’r llinell fod yn rhy hir.
51 no’u LlGC 17114B noi (cf. GGl no’i) ond yn aml ni wahaniaethid yn orgraffyddol rhwng y rhagenw trydydd unigol a lluosog yn y llawysgrifau cynnar, a chymerir bod Guto yn dweud bod yr awen y mae ef yn ei dymuno yn uwch na bonedd y beirdd-uchelwyr sy’n ceisio’i ddisodli: cf. 49–50.
52 cleirch LlGC 17114B cleiriach (a’r cywiriad ym mhrif law’r testun). Am cleiriach, cf. 46, ond mae angen ffurf unsill yma i gynganeddu â cledd, ac felly darllenir y ffurf amrywiol cleirch. Gedy hyn y llinell yn fyr o sillaf, ac felly mentrir ychwanegu’r fannod o flaen cledd.
52 fin y cledd LlGC 17114B vin kledd. Gw. y nodyn blaenorol.
53 ysgithr LlGC 17114B ysgwthur, cf. GGl ysgwthr a ddyfynnir yn GPC 3850 dan yr ystyr ‘darn (bach neu doredig), dernyn, dryllyn’, &c. Diwygir, gan fod ysgithr yn rhoi llawer gwell ystyr yn y cwpled hwn, sy’n sôn am faedd yn ymosod â’i ên a’i ddannedd. Gw. 53n (esboniadol).
54 i gnoi LlGC 17114B; gthg. GGl a gnôi.
56 daroganfaedd LlGC 17114B dyro ganvaedd, camraniad. Ni fyddai’r ferf ail unigol orchmynnol, dyro, yn taro deuddeg yma, ac mae dyrogan yn amrywiad digon cyffredin ar darogan (gydag ansawdd yr a yn ansicr mewn sillaf ragobennol).
57 drichwymp LlGC 17114B dri chwymp (cf. GGl). Mae angen gair cyfansawdd i ateb ymdrechwn.
59 o chaid LlGC 17114B o chad (felly GGl); ond gan mai berf bresennol/ddyfodol a geir yn y prif gymal yn y llinell nesaf, rhoddai berf amherffaith amodol well ystyr yma. Cf. 112.3–4 Anturus fydd hynt tros fôr / O chaid Rhufain uwch Trefor! (a cf. 21.14 a 61.6).
65 Troi un i mewn trwy enw maith LlGC 17114B; yn LlGC 3050D ceir troi vn trwy enw maith, sef yr unig le y bu i’r copïwr lithro wrth godi’r testun, gan adael y llinell yn fer. Testun LlGC 3050D a ddefnyddiodd golygyddion GGl, lle awgrymwyd darllen Troi un y mae trwy enw maith er mwyn adfer hyd y llinell.
Prif bwrpas y gerdd hon, a ganwyd yn ystod abadaeth Dafydd ab Ieuan yng Nglyn-y-groes (c.1480–1503), yw mynegi cwyn am ymddygiad rhai beirdd penodol am iddynt geisio disodli Guto o’i safle yn yr abaty.
Heb unrhyw ragymadroddi â Guto ati’n syth yn y llinellau cyntaf i esbonio’r hyn sy’n peri gofid iddo (llinellau 1–8): tra bod rhai yn llawenhau wrth ei weld yn mwynhau lletygarwch yr Abad Dafydd yn y fynachlog, mae eraill yn eiddigeddus, yn cwyno ac yn herio’i hawl i fod yno o gwbl. Bywyd da’r fynachlog yn Iâl, a’i melys win, yw sail yr eiddigedd.
Yn y llinellau nesaf (9–16) sonnir am helynt arall (ail drin) a ddigwyddodd ar ŵyl Trunio Sant (29 Mehefin, gw. 9n), unwaith eto oherwydd eiddigedd yn sgil yr holl roddion a dderbyniasai Guto gan ei noddwr. Yr adeg honno, esbonia, bu i Syr Siôn Leiaf (bardd, a mab i’r bardd Ieuan ap Gruffudd Leiaf) ei dwyllo gan dorri’r addewid a wnaethai i ildio’i le i Guto: Syr Siôn, anudon wedy, / Leiaf a roes ei le fry: / Gwnâi dwyll ym, … / Am ei deiau meudwyaidd (11–14). Ond yn yr achos hwnnw, er bod Syr Siôn wedi mynnu mai ef oedd y bardd â’r hawl ar ei le, heriodd Gwerful hynny a’i guro gan ei ddisodli yntau. Mae’n bosibl mai’r ail drin hon y cyfeiria Guto ati yw’r helynt a fu yn llys y Deon Rhisiart Cyffin ym Mangor, pan ganodd Syr Siôn Leiaf gywydd i geisio disodli Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain o’r llys hwnnw (gw. Salisbury 2011: 97–118). Yn y cywydd hwnnw mae Syr Siôn yn cymharu Rhisiart Cyffin â Beuno Sant a drechodd dair gormes, sef Llywarch Hen, Elen a [Ch]yndrwyn farchog, gan uniaethu’r tri hyn yn eu tro â Guto’r Glyn, Gwerful Mechain a Hywel Grythor. Yn yr un modd, mae tri bardd yn poeni Guto yng Nglyn-y-groes, a neilltuir pedair llinell yr un i’w disgrifio: Maredudd ap Rhys o Riwabon, Gruffudd ap Dafydd, ceifn i Guto ond un y mae ei dwyll yn waeth nag eiddo dieithryn, ac yn olaf Edward ap Dafydd ap Gwilym sy’n ceisio codi ofn ar yr hen fardd. Yng ngoleuni cywydd Syr Siôn Leiaf gallwn dybio bod arwyddocâd i’r ffaith fod Guto yn cyfeirio at y tri hyn fel gormeswyr (62).
Maredudd ap Rhys, arth Riwabon (30), yw’r unig un o’r tri bardd hyn y gallwn ei adnabod. Yn ôl Enid Roberts, GMRh 5, gan ddilyn D.R. Thomas (1908–13: i, 502; iii, 184, 286), ‘yr oedd yn ficer Rhiwabon yn 1430 [neu o bosibl c.1440 neu c.1445], yn rheithor y Trallwm yn 1450, ac yn segur-reithor Meifod yr un pryd.’ Os yw Roberts yn gywir yn derbyn ei farwnad i’r Brenin Edward IV fel ei waith dilys, gallwn dybio iddo ganu tan o leiaf 1483 (gw. GMRh cerdd 13). Ni chadwyd unrhyw gerddi ganddo y gallwn eu dyddio ar ôl y gerdd honno. Mae’n annhebygol fod Maredudd wedi byw lawer yn hirach, os yw’r dyddiadau uchod yn gywir.
O ran dyddiad, felly, gallwn awgrymu lleoli cywydd Guto cyn canol yr 1480au, efallai pan oedd y berthynas rhwng y bardd a’i noddwr yn un weddol newydd, digon newydd felly i’r beirdd eraill deimlo fod gobaith ganddynt i’w ddisodli ac i’w yrru oll o’m bro allan (44). Teimla Guto fod ganddo hawl ar [r]an o’r llys (26), a dywed na fyddai’n fodlon ildio’r rhan honno hyd yn oed am arian. Ond pa fath o ran a oedd ganddo’n union? Ai lle penodol megis ystafell, rhan o ystafell neu wely, a hynny yn rhinwedd ei swyddogaeth neu statws fel corodïydd neu fardd? Yn sicr mae’r cyfeiriad at ei le yn y fynachlog fel ei annedd (45) yn caniatáu i ni dybio ei fod yn ystyried y fynachlog fel cartref o ryw fath, boed hynny efallai am gyfnodau yn unig yn ystod y flwyddyn, megis adeg gŵyl neu yn ystod misoedd oer y gaeaf (e.e. 111.48, 113.55). Cyfeiria Guto at ei swydd mewn cerddi eraill i’r abad (117.18, ac yn y lluosog yn 111.37 swyddau) ac mae’n ddigon posibl mai at amgylchiadau’r gerdd hon y cyfeiria Guto wrth sôn am ei swydd yn moli’r Abad Dafydd yn un o’i gerddi olaf, 117.21–2, Er cased gan rai cyson / Fy swydd, ni thawaf â sôn.
Yn rhan olaf y gerdd hon (39 ymlaen), mae’r bardd yn amddiffyn ei hun yn erbyn y tri bardd-uchelwr sy’n ceisio’i ddisodli un ai trwy eiriau angharedig (yn achos Maredudd ap Rhys), drwy dwyll (yn achos Gruffudd ap Dafydd) neu drwy godi ofn arno â cherdd fer (yn achos Edward ap Dafydd ap Gwilym). Mae’n debygol iawn mai drwy eu cerddi y cyflwynodd y tri bardd eu her i Guto, ac wrth reswm, os cerddi i’w datgan yn gyhoeddus oeddynt, nid oes rhaid credu bod y tri bardd yn gwbl o ddifrif am ei ddisodli, er bod ymateb ffyrnig Guto yn awgrymu hynny (os nad yw hynny hefyd yn rhan o’r hwyl).
Mae’r tri bardd, yn ôl Guto, yn uchelwyr (40), ac er bod eu llinach yn uwch na’i un ef, mae eu crefft, meddai, yn is ei safon (49–50). Defnyddiodd Cynddelw Brydydd Mawr yntau’r un ddadl yn y ddeuddegfed ganrif wrth ymryson â Seisyll Bryffwrch am benceirddiaeth llys Madog ap Maredudd. Efallai fod Seisyll yn uchel ei dras, ond o safbwynt barddoniaeth, dywed Cynddelw mai ef, heb amheuaeth, yw’r bardd gorau (GCBM ii, 12.9–12).
Wrth i’r gerdd dynnu at ei therfyn mae Guto yn ymwroli, ac yn datgan ei barodrwydd i ymladd dros ei le, gan awgrymu fod y tri bardd haerllug eisoes wedi cael rhyw fath o droedle yn y fynachlog: Am dri chwymp yr ymdrechwn meddai ac yng nghwpled olaf y gerdd apelia at yr abad (heb gyfeirio’n uniongyrchol ato) i ymwrthod ag unrhyw gytundeb a wnaethai yn y gorffennol â’r tri hyn, ac i’w dderbyn ef, Guto, yn unig: Troi un i mewn trwy enw maith, / Troi amod y tri ymaith!
Fel yn achos rhai eraill o gerddi Guto i’r abad, rhaid gofyn ym mhle y’i canwyd y gerdd hon? Mae’r defnydd o’r adferfau draw (5) ac obry (18) wrth gyfeirio at y fynachlog yn awgrymu rhywle arall heblaw’r fynachlog, ond anodd yw gwybod pa mor lythrennol y dylid deall cyfeiriadau fel hyn. (Gweler ymhellach nodyn cefndir cerdd 110 lle cynigir y gall mai yng nghartref secwlar yr abad yn Nhrefor y canwyd y gerdd honno, fel moliant i’r abad yng ngŵydd ei deulu ei hun.)
Dyddiad
c.1480–5.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd CXVII; CTC cerdd 67.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 68% (45 llinell), sain 17% (11 llinell), traws 15% (10 llinell).
5 draw Rhydd Guto’r argraff nad yn yr abaty y canodd y cywydd hwn; cf. 18 obry a gw. y nodyn cefndir uchod.
9 Truniaw Nawddsant Llandrinio yng nghwmwd Deuddwr ym Mhowys, cartref noddwr arall i Guto, Syr Siôn Mechain (gw. cerddi 84, 85). Ychwanegwyd ei ddyddiad gŵyl ar 29 Mehefin gan law ddiweddar at galendr yn llaw Gutun Owain yn Pen 186, gw. LBS iv: 265.
10 draw Y tro hwn, cyfeirir at lys y Deon Rhisiart Cyffin ym Mangor, lle digwyddodd yr helynt y sonnir amdano yn llinellau 9–16.
11–12 Syr Siôn … / Leiaf Bardd-offeiriad, mab Ieuan ap Gruffudd Leiaf, a ganodd gywydd i Risiart Cyffin yn ceisio disodli Guto’r Glyn, Hywel Grythor a Gwerful Mechain o’i lys ym Mangor, gw. Salisbury 2011: 97–8 et passim. Prin yw’r cerddi a gadwyd ganddo, ond yn ogystal â’r cywydd i Risiart Cyffin ceir cywydd ganddo o bosibl i’r Fernagl, cywydd serch a chywydd cyffes (ibid. 97). Gw. ymhellach y nodyn cefndir uchod ac am ei achau, gw. Ieuan ap Gruffudd Leiaf.
13 gwyndyll haidd Gw. 13–14n (testunol). Ar y ffurf (llawysgrif gwndyll), gw. GPC 1780 d.g. gwyntyll ‘winnowing-fan’: fe’i deellir yn y cyswllt hwn am declyn i nithio haidd (yn drosiadol am Syr Siôn Leiaf, o bosibl fel un sy’n lledu twyll a chelwydd). Cynigir yn betrus yn GPC ibid. ei fod yn fenthyciad o’r Saesneg Canol windylle. Ond 1588 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf o’r gair yn GPC, ac felly mae’r darlleniad yn parhau’n ansicr.
14 meudwyaidd Defnyddia Guto’r gair meudwy am un sydd wedi encilio i fynachlog ac yn byw bywyd fel mynach, yn hytrach nag am ‘ancr, ermid’, sef crefyddwr sy’n byw mewn unigedd oherwydd ei grefydd, gw. GPC 2882, a cf. 112.11–12 Os offis nofis a wnaf, / Os meudwy, nid ysmudaf. Cyfeirio at dai crefydd a wna [t]eiau meudwyaidd yma, llefydd yr encilir iddynt.
15 bod Fe’i deellir yn syml fel y berfenw; posibilrwydd arall yw mai enw ‘preswylfod, trigfan’ ydyw (GPC 293 d.g. bod1), a’r gair yn gyfeiriad at y ffaith fod Syr Siôn yn mynnu ei ‘le’. Ond prin iawn yw’r enghreifftiau o’r gair hwnnw yn y cyfnod dan sylw ac eithrio mewn enwau lle.
16 Gwerfyl Gwerful Mechain, gw. uchod ar y cefndir. Roedd hi, gyda Guto, yn un o’r beirdd y ceisiodd Syr Siôn Leiaf eu gyrru allan o lys Rhisiart Cyffin ym Mangor (am y gerdd, gw. Salisbury 2011: 101–3). Ond gan mai hi, yn ôl Guto yma, aeth â’r gorfod, gallwn dybio iddi drechu Syr Siôn (mewn ymryson) ac felly ddiogelu ei lle yno.
18 Egwystl Hen enw ar y drefgordd lle lleolwyd Glyn-y-groes ac a ddefnyddir gan y beirdd ar ei ben ei hun, neu gyda Llan, Llyn neu Glyn am yr abaty, gw. 105.44n.
19 Plas-y-groes O gofio hoffter y beirdd o amlhau ffurfiau Cymraeg ar enw’r abaty, fe’i deellir yn enw lle ar lun Pant-y-groes (110.6, 112.58) a Pant yr Hengroes (110.38), &c. Ond gellid deall plas yn enw cyffredin, cf. 113.19 plas Egwestl.
19 Powlys Cyffelybir abaty Glyn-y-groes i gadeirlan Sain Paul yn Llundain, a hynny, fe ddichon, oherwydd ei faint a’i boblogrwydd gan bererinion a gwesteion. Ymddengys mai ffurf ddeusill sydd i’r enw yma: y ffurf unsill a welir yn 22.26, 99.8 a chan Gutun Owain (er gwaethaf yr orgraff yn y ddwy enghraifft gyntaf), GO LVI.7–8 Siôn Edwart … / I blas ef ail i Bowlys oedd, LV.16 Powlys y Wavn yw’r plas yno, XXI.25 Powls a Iork yn vn plas yw (am Lyn-y-groes).
Roedd hen gadeirlan Sain Paul, a losgwyd yn nhân mawr Llundain yn 1666, yn un o eglwysi mwyaf Ewrop. Fe’i darluniwyd naw mlynedd cyn y drychineb honno gan Wenceslaus Hollar yn 1657.
Hen gadeirlan Sain Paul, www.bbc.co.uk/history/british/civil_war_revolution/gallery_st_pauls_01.shtml
23 palis irglyd Ystyr sylfaenol palis yw ‘rhes o byst, polion, barrau haearn, &c., ar eu sefyll yn y ddaear fel amddiffynfa, &c., ffens, clwyd’, GPC 2674, ac mae’n bosibl y cyfeiria’r bardd yma at ffens neu wal amddiffynnol o gwmpas y fynachlog, a’r wal honno newydd ei chodi (ir) ac yn gysgodol (clyd). Posibilrwydd arall yw mai cyfeirio’n ffigurol a wna palis at y fynachlog (plas) ei hun fel amddiffynfa, ac felly byddai’r ystyron ‘llewyrchus, llawn bywyd’ yn bosibl hefyd i ir, ibid. 2026–7. A dilyn y dehongliad mwy llythrennol, gallwn gymryd bod y wal neu’r ffens allanol hwn hefyd yn amgylchynu’r berllan a’r winllan sydd felly ar dir mewnol yr abaty: cf. Price 1952: 88, ‘Somewhere within the precincts of the abbey were the work-shops, malthouse, bakehouse, granary, herb-garden, orchards and dovecotes, because everything essential for the use of the premises was made within its boundaries which were marked either by a wall or dyke.’ Ai’r ‘wall or dyke’ yw’r palis y cyfeiria Guto ato?
27 Maredudd … fab Rhys Y bardd Maredudd ap Rhys, y golygwyd ei gerddi yn GMRh, a gw. y nodyn cefndir uchod.
28 dwylys Ffordd arall o ddweud bod Maredudd ap Rhys yn mynnu cael ei dalu’n ddwbl. Ond mae cyfeiriadau eraill gan Gutun Owain a Guto yn y canu i’r Abad Dafydd at ddwylys a allai fod yn berthnasol; gw. 113.71n lle awgrymir y gall mai cyfeirio at ddwy lys annibynnol sydd yno, sef llys secwlar teulu’r abad yn Nhrefor ar y naill law a llys yr abaty ar y llall.
29 Anfones ym anfwyn sôn A anfonodd Maredudd ap Rhys gerdd ddychan i Guto yn ei wawdio ac yn herio’i le yn yr abaty, o bosibl drwy ddatgeiniad?
31–3 Gruffudd … / … / Ap Dafydd Bardd a oedd, meddai Guto, yn geifn iddo (gw. 32n), ond a’i twyllodd drwy gyfansoddi cywydd coeth er mwyn ceisio’i ddisodli o Lyn-y-groes. Yn anffodus nid oes modd gwybod pwy oedd y bardd hwn. Priodolir cywydd Maredudd ap Rhys i’r gwynt i ryw Ruffudd ap Dafydd ap Rhys yn C 2.616 (gw. GMRh cerdd 14, a’r drafodaeth ar ei hawduraeth ibid. 9–10) – ai bardd arall o’r gogledd-ddwyrain oedd hwn? Ni phriodolir iddo ragor o gerddi yn y mynegeion.
Cadwyd cywydd yn gofyn crwth gan Faredudd ap Tomas o Borthaml dros Ddafydd o Lŷn dan enw Gruffudd ap Dafydd ap Hywel, bardd y priodolir iddo chwe cherdd yn MCF. 1457–1547 yw dyddiadau Maredudd ap Tomas yn ôl Dafydd Wyn Wiliam (1993: 7), ac felly gallai Gruffudd ap Dafydd fod wedi canu iddo yn yr 1480au. Ond ni chafwyd tystiolaeth i gysylltiad rhyngddo a Glyn-y-groes nac a’r gogledd-ddwyrain.
Posibilrwydd arall yw Gruffudd ap Dafydd Fychan, un o feirdd Tir Iarll, gŵr y mae Guto o bosibl yn cyfeirio ato yn ei gywydd dychan i Ddafydd ab Edmwnd ac a enwir yn rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd, Huws 2004: 86. Wrth annog pobl ar draws Cymru i erlid Dafydd, ac ar ôl cyfeirio at Lawdden tu hwnt i Hafren a Hywel ab Owain ym Mhowys, mae’n enwi Gruffudd ap Dafydd Fychan (Gruffudd fab Dafydd, d’ofyn, / Fychan deg, cneifiwch y dyn, 66.47–8) cyn enwi Syr Rhys (ibid. 49–50). Roedd Gruffudd ap Dafydd Fychan yn un o’r beirdd a fu’n ymryson â Hywel Dafi yn sgil marwnad yr olaf i Ieuan ap Hywel Swrdwal (Bowen a Rowlands 1954–5: 107–14; TLlM 35–7). Mae cywydd Guto i Ddafydd ab Edmwnd yn sicr yn awgrymu bod Guto yn adnabod Gruffudd ap Dafydd Fychan, ond ni chafwyd unrhyw gyfeiriad i awgrymu cysylltiad rhwng Gruffudd a Glyn-y-groes, ac mae’r ffaith mai bardd o Forgannwg ydoedd yn ôl pob tebyg yn ei gwneud hi’n annhebygol ei fod yn perthyn i Guto.
32 ceifn GPC 389 d.g. caifn, ceifn ‘perthynas o’r radd nesaf ar ôl cyfyrder, trydydd cefnder’. He further describes this relationship as cerennydd gron (33) yn cadarnhau bod perthynas waed rhwng Guto a Gruffudd ap Dafydd, gw. 31–3n.
32 cyfoeth Roedd ystod ehang o ystyron iddo yn yr Oesoedd Canol, a gallai hefyd yma olygu ‘awdurdod’ (yn gyfeiriad posibl at statws Guto fel bardd yn yr abaty).
35–8 Edward … / … / Ap Dafydd … / Ab Gwilym Bardd anhysbys arall, a fu’n ceisio disodli Guto drwy godi ofn arno. Nis enwir yn rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd, Huws 2004: 83–8 (ond sylwer ar y cyfeiriad at Dai ap Gwilym o Dirnion a ychwanegwyd at y rhestr gan law arall, a allai fod yn dad o bosibl i’r Edward dan sylw). Er gwaethaf ei batronymig llawn, ni chafwyd hyd i’r bardd hwn yn MCF. Fodd bynnag tyn Catrin Davies (CTC 139) sylw at gerdd grefyddol a briodolir i ryw ‘E D’ yn Llst 173, 285, ond dichon fod honno’n perthyn i oes diweddarach.
36 cyrraedd Am ystyron y ferf hon, gw. GPC 808. Efallai mai ‘achub mantais ar’ sydd orau yma.
36 cerdd fer Tybed a gyflwynodd Edward ap Dafydd ap Gwilym englyn dychanol i Guto? Cf. 29n.
37–8 beunydd y bu / … i’m bygylu Gellid hefyd ei ddeall yn is-gymal enwol, yn wrthrych i nodi: ‘Edward … a fu’n datgan â cherdd fer iddo fy nychryn yn feunyddiol’.
40 uchelwyr Mae’n amlwg mai gwŷr o dras uchel oedd Maredudd ap Rhys, Gruffudd ap Dafydd ac Edward ap Dafydd ap Gwilym. Yn sicr mae’r achau yn cadarnhau tras uchel y cyntaf (Maredudd ap Rhys), a oedd yn perthyn i linach Tudur Trefor, drwy Iorwerth Foel o Bengwern. Ond dadl Guto yn y llinellau nesaf yw er eu bod yn uwch o waed iachau nag ef, fod ansawdd eu crefft yn is (49–50).
47 plas Fe’i deellir yn yr ystyr ‘palas, llys’ am fynachlog Glyn-y-groes, cf. 19 Plas-y-groes. Ond gall mai ‘lle’ yn syml yw’r ystyr yma (o’r Saesneg place), gw. GPC 2819.
50 pensaer gynt At bwy y cyfeirir? Ai Guto ei hun? Neu a gyfeirir at y pen crefftwr enwog o’r gorffennol, Twbal-Cain, y gof a ddisgrifir yn Genesis 4.22? (Arno, gw. GHD 25.28n.)
51 pennach Gradd gymharol pen ‘prif, goruchel, … pwysig, ac iddo flaenoriaeth, … o fri’, GPC 2727 d.g. pen1.
52 cleirch Ffurf amrywiol ar y gair cleiriach a geir yn llinell 46. Gw. 52n (testunol) a GPC 496.
53 ysgithr GPC 3836 ‘dant hir pigog, yn enw. un sy’n ymwthio o geg gaeedig’, &c., sy’n nodweddu anifeiliaid gwyllt megis blaidd, ci, baedd, &c. Yn 53–6 mae Guto yn ei gymharu ei hun â baedd gwyllt ymosodol: cf. disgrifiad Iolo Goch o Syr Hywel y Fwyall, GIG II.59–60 Ysgithredd baedd disgethrin, / Asgwrn hen …
54 serth Un ai ‘syth, unionsyth’ am y gên, neu’n ddisgrifiad o’r geiriau a ddaw o enau’r bardd, ‘anghwrtais, anfoesgar, sarhaus’, &c., gw. GPC 3233 d.g. serth1. A yw’n ddaroganfaedd am ei fod yn rhag-weld beth fydd yn digwydd os bydd y tri bardd hyn yn dod i geisio’i ddisodli? Am gyfeiriadau at faedd mewn darogan, cf. GIG 177–8.
56 cenfaint Gair amwys: yng nghyswllt baedd, yr ystyr ‘haid (yn enw. am foch)’ sydd amlycaf, a dichon fod Guto yma’n bygwth y beirdd sy’n ceisio dwyn ei le gan ymuniaethu â baedd, anifail sy’n enwog am ei dueddiad i fwyta’i berchyll ei hun. Defnyddir cenfaint hefyd am ‘[g]ymdeithas grefyddol, cwfaint’, a gall hynny hefyd fod yn berthnasol yng nghyswllt Glyn-y-groes, gw. GPC 462. Mae’n siŵr y byddai’r amwysedd wrth fodd Guto.
65–6 Troi un i mewn … / Troi amod y tri ymaith! Mae’r modd y mae Guto yma’n annog ei noddwr yn hyderus i’w dderbyn ef ac i wrthod y beirdd eraill yn dwyn i gof eiriau Cynddelw Brydydd Mawr yn llys Madog ap Maredudd, GCBM i, 1.34 A mi, ueirt, y mewn a chwi allan! Tybed a oedd Guto yn gyfarwydd â cherdd Cynddelw?
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. a Rowlands, E.I. (1954–5), ‘Ymryson rhwng Hywel Dafi a Beirdd Tir Iarll’, LlCy 3: 107–14
Huws, D. (2004), ‘Rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd’, Dwned, 10: 79–88
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
Wiliam, D.W. (1993), Y Canu Mawl i Deulu Porthamal (Llangefni)
The main purpose of this poem, sung during the abbacy of Dafydd ab Ieuan (c.1480–1503) in Valle Crucis, is to voice a complaint about the behaviour of a few specific poets who had been trying to oust Guto from his position in the abbey.
Without any preamble, Guto explains about the circumstances that are causing him grief (lines 1–8): whilst some are happy to see him enjoying Abbot Dafydd’s hospitality in the abbey, others are jealous and complaining, and challenging his right to be there at all. It is the good life that Guto is enjoying in the abbey in Yale along with its melys win ‘sweet wine’ that is causing this jealousy.
In the following lines (9–16), he mentions a second conflict (ail drin) which seems to have happened on St Trunio’s feast day (29 June, see 9n), once again because of jealousy over Guto’s frequent gifts from his patron. On that occasion, he explains, Syr Siôn Leiaf (a poet, and son of the poet Ieuan ap Gruffudd Leiaf) had tricked him and broken a promise to give up his place for Guto: Syr Siôn, anudon wedy, / Leiaf a roes ei le fry: / Gwnâi dwyll ym, y gwyndyll haidd, / Am ei deiau meudwyaidd ‘Syr Siôn Leiaf yielded his place yonder, / then followed a breach of promise: / he was deceiving me, that winnowing fan for barley, / regarding his houses of retreat’ (11–14). But although Syr Siôn had claimed that it was he who had the right to stay there, he was subsequently challenged by Gwerful who won and ousted him. It is possible that this second conflict was the trouble in Dean Rhisiart Cyffin’s court in Bangor, when Syr Siôn Leiaf sang a poem to try to oust Guto, Hywel Grythor and Gwerful Mechain from that court (see Salisbury 2011: 97–118). In that poem Syr Siôn compares Rhisiart Cyffin to St Beuno who defeated the three oppressors (gormes), namely Llywarch Hen, Elen and Cyndrwyn farchog, identifying the three in turn with Guto’r Glyn, Gwerful Mechain and Hywel Grythor. In the same way, there are three poets troubling Guto in Valle Crucis, and four lines are devoted to describing each one: Maredudd ap Rhys from Rhiwabon, Gruffudd ap Dafydd, Guto’s third cousin, but one whose treachery is worse than that of a stranger, and Edward ap Dafydd ap Gwilym who is trying to scare the old poet. As Guto refers to the three poets who are causing him grief as gormeswyr ‘oppressors’ (62), we can assume that he has Syr Siôn’s poem in mind.
Of the three poets named, we can only be sure about the identity of Maredudd ap Rhys, arth Riwabon ‘bear of Rhiwabon’ (30). According to Enid Roberts, GMRh 5, following Thomas (1908–13: i, 502; iii, 184, 286), Maredudd ap Rhys was vicar in Ruabon in 1430 (or perhaps later in c.1440 or c.1445), a rector in Welshpool in 1450, and a sinecure rector of Meifod at the same time. If Roberts is correct in believing that the elegy for King Edward IV is indeed Maredudd’s genuine work, then he must have been composing poetry until at least 1483 (see GMRh poem 13). It is unlikely that Maredudd lived much longer, if the dates above are correct.
We can tentatively date Guto’s poem to the early 1480s, perhaps when the relationship between poet and abbot was a fairly new one, seeing that the three other poets thought they could oust him and send him oll o’m bro allan ‘completely from my land’ (44). Guto claims that he has a right to a rhan o’r llys ‘share of the court’ (26), and says that he would not give it up even for money. But what sort of rhan did he have in Valle Crucis? Was it a physical space of some sort, such as a room or bed, because of his position or status as a corrodiary or poet? The fact that he refers to the abbey as his annedd (45) suggests that he considered it as his ‘home’, even if only for specific periods during the year, such as in the cold winter months or at feast times (e.g. 111.48, 113.55). He mentions his swydd ‘position, status’ within the abbey in other poems (117.18, and in the plural in 111.37 swyddau), and the following couplet, in one of Guto’s final poems, may possibly refer specifically to the circumstances of this poem: 117.21–2, Er cased gan rai cyson / Fy swydd, ni thawaf â sôn ‘Despite how disagreeable the orderly ones / find my position, I will not be quiet.’
In the final part of this poem (39 onwards), Guto defends himself against the three gentlemen poets who are trying to oust him through unkind words (Maredudd ap Rhys), through treachery (Gruffudd ap Dafydd) or by frightening him by means of a ‘short poem’ (Edward ap Dafydd ap Gwilym). The three poets are likely to have challenged Guto by means of poetry, and of course, as the poems were likely to have been performed to an audience, we do not necessarily have to take their threats too literally. However, Guto’s angry response may suggest differently (although that may also be part of the act).
The three poets, according to Guto, are uchelwyr ‘gentlemen’ (40), but although their lineage is more elevated than his, their craft, he claims, is of a lower standard (49–50). This reminds us of the argument used by the twelfth-century poet Cynddelw Brydydd Mawr in a contest with Seisyll Bryffwrch for the position of pencerdd ‘chief poet’ in the court of Madog ap Maredudd. Seisyll, claimed Cynddelw, may well be of a high lineage, but as regards poetry it is he, Cynddelw, who deserves to be the chief poet (GCBM ii, 12.9–12).
Towards the end of the poem, Guto becomes more confident and voices his readiness to fight for his place, suggesting that the three bold poets have already gained some sort of foot-hold at the abbey: Am dri chwymp yr ymdrechwn ‘I would be ready to strive for three downfalls’, he says and in the final couple of the poem he appeals to the abbot (without referring directly to him) to refute any contract he had made in the past with these three, and to recive him, Guto, alone: Troi un i mewn trwy enw maith, / Troi amod y tri ymaith! ‘allowing one to turn in on account of his far-reaching fame, / and rejecting the promise of the three!’
As in other poems by Guto for the abbot, it is not completely clear where this poem was sung. The use of the adverbs draw ‘over there’ (5) and obry ‘yonder, down there’ (18) to refer to the location of the abbey implies that he sang it somewhere else, but it is unclear how literally one should take such references. (See further the preliminary note to poem 110 where it is suggested that it was sung in the abbot’s secular home in Trefor – a praise poem for the abbot in the presence of his own family.)
Date
c.1480–5.
The manuscripts
Only two copies of this poem have survived in manuscript, one (LlGC 3050D) being a very close copy of the other (LlGC 17114B) and both copies belonging to the second half of the sixteenth century. As is usually true of Guto’r Glyn’s poetry in LlGC 17114B, the text is good but not without some faults, and there are a few corrupt lines. The edited text is based on the copy in LlGC 17114B.
Previous editions
GGl poem CXVII; CTC poem 67.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 68% (45 lines), sain 17% (11 lines), traws 15% (10 lines).
5 draw Guto implies that it was not at the abbey that he sang this poem; cf. 18 obry and see the preliminary notes above.
9 Truniaw The patron saint of Llandrinio in the commote of Deuddwr in Powys, the home of Sir Siôn Mechain, another of Guto’s patrons (see poems 84, 85). The date of Trunio’s feast day on 29 June was added by a recent hand to a calendar in the hand of Gutun Owain in Pen 186, see LBS iv: 265.
10 draw This time Guto is referring to the court of Rhisiart Cyffin in Bangor, where the events which are discussed in lines 9–16 occurred.
11–12 Syr Siôn … / Leiaf A poet-priest and son of Ieuan ap Gruffudd Leiaf. Syr Siôn composed a poem for Rhisiart Cyffin in which he tried to oust Guto’r Glyn, Hywel Grythor and Gwerful Mechain from Rhisiart’s court in Bangor, see Salisbury 2011: 97–8 et passim. Only a few of his poems have survived: as well as the poem for Rhisiart, he has a love poem, a confession poem and another to the Vernicle (ibid. 97). See further the preliminary note above, and on his lineage, see Ieuan ap Gruffudd Leiaf.
13 gwyndyll haidd LlGC 17114B gwndyll hedd (rhyming with vevdwyedd); gwndyll is unknown. However a later hand (probably William Wynn, Llangynhafal (1709–60)), suggested reading gwyntyll haidd in the margin, which gives good sense here. (Did William Wynn, who had a collection of manuscripts, have access to another text of this poem?) For gwyntyll ‘winnowing-fan’, see GPC 1780: it is understood as a reference to a tool for scattering barley (figuratively for Syr Siôn Leiaf, possibly as one who spreads treachery and lies). GPC ibid. suggests that it may be a borrowing from Middle English windylle. However, as the earliest example of gwyntyll given is dated 1588, there is still some uncertainty regarding the reading.
14 meudwyaidd Guto uses meudwy for a person who has retreated to a monastery to live like a monk, rather than for ‘anchorite, hermit’, one who has retired into solitary life, GPC 2882, and cf. 112.11–12 Os offis nofis a wnaf, / Os meudwy, nid ysmudaf ‘If I can accomplish the office of a novice, / if I can be a monk, I won’t depart.’ Teiau meudwyaidd refers to religious houses here, places of retreat.
15 bod The verbal noun; another possibility is ‘abode, dwelling’ (GPC 293 s.v. bod1), the word being a reference to the fact that Syr Siôn is insisting on his ‘place’. But apart from its use in place names, bod in this meaning is rare in this period.
16 Gwerfyl Gwerful Mechain, see the preliminary note above. Gwerful, along with Guto, was one of the poets whom Syr Siôn Leiaf tried to oust from Rhisiart Cyffin’s court in Bangor (for the poem, see Salisbury 2011: 101–3). But as it was Gwerful, according to Guto here, who aeth â’r gorfod ‘gained the upper hand’, we may assume that she defeated Syr Siôn (in a bardic dispute) and made sure of her place there.
18 Egwystl The old name of the township where Valle Crucis is located, and which is often used by the poets on its own, or with Llan, Llyn or Glyn for the abbey, see 105.44n.
19 Plas-y-groes The poets used various names for Valle Crucis, therefore this combination is understood as a place name, similar to the forms Pant-y-groes (110.6, 112.58) and Pant yr Hengroes (110.38), &c. But plas could well be a generic name here, cf. 113.19 plas Egwestl.
19 Powlys Valle Crucis abbey is compared to St Pauls cathedral in London, probably because of its size and its popularity with pilgrims and guests. Powlys seems to have two syllables here: it has one in 22.26, 99.8 and in poems by Gutun Owain (despite the orthography of the two first examples): GO LVI.7–8 Siôn Edwart … / I blas ef ail i Bowlys oedd ‘Siôn Edward … / his place/palace was second to St Pauls’, LV.16 Powlys y Wavn yw’r plas yno ‘That place/palace is the St Pauls of Chirk’, XXI.25 Powls a Iork yn vn plas yw ‘St Pauls and York [cathedrals] in one place/palace’ (of Valle Crucis).
The old cathedral church of St Pauls, which was destroyed in the fire of London in 1666, was one of the largest churches in Europe. This drawing was made of it nine years before the disaster, by Wenceslaus Hollar in 1657.
Old St Pauls, www.bbc.co.uk/history/british/civil_war_revolution/gallery_st_pauls_01.shtml
23 palis irglyd For palis ‘palisade, stockade, a paling, fence, wattle, trellis’, see GPC 2674. The poet may be referring to a sheltering (clyd) fence or wall which encompassed the abbey, with the adjective ir perhaps suggesting it was newly built (see GPC 2025–6 for ir). Palis could also refer figuratively to the abbey itself as a fortress, and ir could therefore mean ‘thriving, flourishing’ (ibid.). If we opt for the more literal interpretation, we can assume that this outer wall or fence also encircled the orchard and vineyard, which would have been within the abbey’s precincts: cf. Price 1952: 88, ‘Somewhere within the precincts of the abbey were the work-shops, malthouse, bakehouse, granary, herb-garden, orchards and dovecotes, because everything essential for the use of the premises was made within its boundaries which were marked either by a wall or dyke.’ Is Guto referring to this ‘wall or dyke’ here?
27 Maredudd … fab Rhys The poet Maredudd ap Rhys whose work was edited in GMRh, and see the preliminary note above.
28 dwylys Another way of claiming that Maredudd ap Rhys insisted on being paid double. But there are other references to dwylys ‘two courts’ in the poetry of Gutun Owain and Guto to Abbot Dafydd which may be relevant: see 113.71n where it is suggested that the poets are referring to two independent courts, the abbot’s family home in Trefor on the one hand and the abbey itself on the other.
29 Anfones ym anfwyn sôn Did Maredudd ap Rhys send Guto a satirical poem, mocking him and challenging his place in the abbey, possibly by means of a reciter?
31–3 Gruffudd … / … / Ap Dafydd A poet, who, according to Guto, was his ceifn ‘third cousin’ (see 32n), but who tricked him by composing a cywydd coeth ‘fine cywydd’ to try to oust him from Valle Crucis. Unfortunately I have been unable to identify this poet. Maredudd ap Rhys’s poem to the wind is ascribed to one Gruffudd ap Dafydd ap Rhys in C 2.616 (see GMRh poem 14, and the discussion on its author, ibid. 9–10) – was he also a poet from the north-east? No other poems are ascribed to him in the indices.
A certain Gruffudd ap Dafydd ap Hywel composed a poem to request a crwth from Maredudd ap Tomas of Porthaml on behalf of Dafydd of Llŷn, and a further five poems are ascribed to him in MCF. Maredudd ap Tomas’s dates, according to Dafydd Wyn Wiliam (1993: 7), are 1457–1547, and thus Gruffudd ap Dafydd may well have sung to him in the 1480s. However there is no evidence for his presence in Valle Crucis or in the north-east of Wales.
Another possibility is Gruffudd ap Dafydd Fychan, one of the poets of Tir Iarll in Glamorgan, whom Guto possibly names in his satire for Dafydd ab Edmwnd and who is named in Gutun Owain’s list of craftsmen, see Huws 2004: 86. He encourages people from all over Wales to persecute Dafydd, and after naming Llawdden from beyond the river Severn and Hywel ab Owain from Powys, he names Gruffudd ap Dafydd Fychan (Gruffudd fab Dafydd, d’ofyn, / Fychan deg, cneifiwch y dyn, ‘Gruffudd ap Dafydd Fychan, I’m asking you, / shear the man’ 66.47–8) before naming Syr Rhys (ibid. 49). Gruffudd ap Dafydd Fychan was one of the poets who engaged in debate with Hywel Dafi as a result of the latter’s elegy to Ieuan ap Hywel Swrdwal (Bowen and Rowlands 1954–5: 107–14; TLlM 35–7). Guto’s poem for Dafydd ab Edmwnd clearly suggests that he knew this Gruffudd ap Dafydd Fychan, but there is no evidence to connect Gruffudd with Valle Crucis, and the fact that he comes from Glamorgan makes it unlikely that he was related to Guto.
32 ceifn GPC 389 d.g. caifn, ceifn ‘third or distant cousin, relative or kinsman of the fourth degree’. The further description of Gruffudd as cerennydd gron ‘a full relation’ (33) confirms that there was a blood relationship between Guto and Gruffudd ap Dafydd, see 31–3n.
32 cyfoeth A word with a wide range of meanings in the Middle Ages; it could mean ‘authority’ here (possibly a refernce to Guto’s status as a poet in the abbey).
35–8 Edward … / … / Ap Dafydd … / Ab Gwilym Another unknown poet who tried to oust Guto and frighten him. He is not named in Gutun Owain’s list of craftsmen, Huws 2004: 83–8 (however a certain Dai ap Gwilym o Dirnion was added to the list by a later hand, and could possibly be his father). Despite his unusually full patronymic, his name is not found in MCF. However, Catrin Davies, CTC 139, draws attention to a religious poem which is ascribed to a certain ‘E D’ in Llst 173, 285, but that poem is likely to be a more recent composition.
36 cyrraedd For its meanings, see GPC 808. ‘Take advantage of’ is probably the best meaning here.
36 cerdd fer Did Edward ap Dafydd ap Gwilym present a satirical englyn to Guto? Cf. 29n.
37–8 beunydd y bu / … i’m bygylu This could also be taken as a subordinate nominal clause, the object of nodi: ‘Edward … who pronounced with a short poem that he frightened me daily’.
40 uchelwyr Maredudd ap Rhys, Gruffudd ap Dafydd and Edward ap Dafydd ap Gwilym were obviously of noble birth. The lineages certainly confirm that Maredudd ap Rhys belonged to the lineage of Tudur Trefor, through Iorwerth Foel of Pengwern. But Guto’s argument in the following lines is that although these three are more elevated than he o waed iachau ‘as regards the blood of their lineage’, their craft is of a lower standard (49–50).
47 plas ‘Palace, court’, of Valle Crucis, cf. 19 Plas-y-groes. But plas could mean simply ‘place’ (from the English place), see GPC 2819.
50 pensaer gynt To whom is Guto referring? To himself? Or to a famous master craftsman from the past, such as Tubal-cain, the blacksmith described in Genesis 4.22? (On him, see GHD 25.28n.)
51 pennach Comparative degree of the adjective pen ‘chief, head (adj.), … supreme, principal, … important, taking precedence, … eminent’, GPC 2727 s.v. pen1.
52 cleirch Variant form of cleiriach, which was found in line 46; see GPC 496.
53 ysgithr GPC 3836 ‘tusk, fang, (canine) tooth, also fig.’. In 53–6 Guto compares himself to a fierce wild boar: cf. Iolo Goch’s description of Sir Hywel of the Axe, GIG II.59–60 Ysgithredd baedd disgethrin, / Asgwrn hen … ‘The tusks of a fierce boar, / An ancient bone …’.
54 serth Either ‘straight, vertical’ describing the jaws, or a description of Guto’s words, ‘discourteous, uncivil, insulting’, &c., see GPC 3233 s.v. serth1. Is he a daroganfaedd ‘boar of prophecy’ because he can foresee what will happen if these three continue to try to oust him? For references to baedd ‘boar’ in prophetic poetry, cf. GIG 177–8.
56 cenfaint Ambiguous: boar, in connection with a ‘herd (esp. of pigs)’ is the most likely, and Guto is probably threatening the poets who are trying to oust him, by identifying himself with a boar, an animal famed for its tendency to devour its own offspring. But cenfaint can also mean a ‘religious community, convent, congregation’, and that meaning could also be relevant here, describing the religious community of Valle Crucis, see GPC 462. Guto would certainly have enjoyed the ambiguity.
65–6 Troi un i mewn … / Troi amod y tri ymaith! The way Guto appeals confidently to his patron to accept him and to reject the other poets reminds us of Cynddelw Brydydd Mawr’s words in Madog ap Maredudd’s court in Powys, GCBM i, 1.34 A mi, ueirt, y mewn a chwi allan! ‘And, poets, in will I go, and you out!’
Bibliography
Bowen, D.J. and Rowlands, E.I. (1954–5), ‘Ymryson rhwng Hywel Dafi a Beirdd Tir Iarll’, LlCy 3: 107–14
Huws, D. (2004), ‘Rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd’, Dwned, 10: 79–88
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
Wiliam, D.W. (1993), Y Canu Mawl i Deulu Porthamal (Llangefni)
Mae cyfanswm o un ar ddeg o gerddi gan Guto sy’n gysylltiedig â’r Abad Dafydd ab Ieuan wedi goroesi yn y llawysgrifau. Ymddengys mai Dafydd oedd prif noddwr y bardd yn ei henaint. Canodd bum cerdd iddo’n uniongyrchol: dau gywydd mawl (cerddi 112, 117); dwy awdl foliant (cerddi 111, 113); cywydd diolch am fwcled (cerdd 110). Cyfeirir at Ddafydd mewn chwe chywydd arall: cerdd a ganodd Guto i amddiffyn ei le yn abaty Glyn-y-groes lle molir Dafydd (cerdd 116); myfyrdod crefyddol wedi ei ysbrydoli gan gerydd a dderbyniodd gan Ddafydd (cerdd 118); mawl i’r Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell a ganodd Guto ar gais Dafydd, yn ôl pob tebyg (cerdd 115); gofyn ar ran Dafydd i gael benthyg Llyfr y Greal gan Drahaearn ab Ieuan o Ben-rhos (cerdd 114); gofyn wyth ych gan Ddafydd, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (cerdd 108); diolch i Ddafydd ac i Risiart Cyffin, deon Bangor, am wella briw (cerdd 109). At hynny, y tebyg yw fod englyn olaf Guto (cerdd 119) wedi ei ganu yng Nglyn-y-groes pan oedd Dafydd yn abad, fel y farwnad a ganodd Gutun Owain ar farwolaeth Guto (cerdd 126; cf. cyfeiriad at Guto yn XXV.9–10). Yn wir, canodd Gutun wyth o gerddi eraill i Ddafydd: pedwar cywydd mawl (GO cerddi XXIV, XXVIII, XXIX, XXX); tair awdl foliant (ibid. cerddi XXV, XXVI, XXVII); awdl-gywydd (ibid. cerdd XXXI). Tudur Aled yw’r unig fardd arall y gellir ei gysylltu â Dafydd. Cyfeiriodd ef ato mewn cywydd a ganodd i ŵr o’r enw Rhys ynghylch rhodd o farch a roes i’r abad (TA cerdd LXIX).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 1, 2. Dangosir mewn print trwm y rhai hynny a enwir yn y cerddi a ganodd Guto i Ddafydd. Gwelir mai prin iawn yw’r cyfeiriadau yn y cerddi at ei hynafiaid.
Achres yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes
Ei yrfa
Mae’n debygol fod Dafydd wedi ei eni yn Nhrefor ym mhlwyf Llangollen. Ni cheir enw ei fam yn yr achresi, a hynny’n ôl pob tebyg am iddo gael ei genhedlu y tu allan i briodas. O ganlyniad, bu’n rhaid i Ddafydd, fel ei gyfoeswr, Rhisiart Cyffin, deon Bangor, geisio caniatâd gan y Pab er mwyn ymgymryd â swydd eglwysig. Fe’i gwnaed yn fynach Sistersaidd fel ei dad, Ieuan. Dysgwn o farddoniaeth Guto’r Glyn a Gutun Owain iddo fod ganddo wallt tywyll (110.4 angel du; 112.19 [g]ŵr gloywddu; 113.77 du llawenddoeth; GO XXXI.23).
Yn 1480 olynodd Dafydd ei gyd-noddwr, yr Abad Siôn ap Rhisiart, yn abad Glyn-y-groes ac yn 1485 fe’i penodwyd yn ddirprwy i abadau Sistersaidd Fountains yn swydd Efrog a Woburn yn swydd Rhydwely (Bedfordshire) yn y gwaith o ad-drefnu’r urdd yng Nghymru a Lloegr. Yn yr un flwyddyn fe’i penodwyd gan Harri VII i arwain tîm o ymchwilwyr, yn cynnwys Gutun Owain a Syr Siôn Leiaf (gw. 116.11–12n), yn y gwaith o lunio achres Gymreig y brenin. Erbyn 1496 roedd hefyd yn warden eglwys blwyf golegol Pedr Sant yn Rhuthun, a chaniatawyd iddo gadw’r swydd honno a’i abadaeth pan benodwyd ef yn esgob Llanelwy ar 8 Ionawr 1500. Fodd bynnag, esgobaeth fer a gafodd, oherwydd bu farw tua diwedd 1503.
Yn wahanol i’w olynydd yn yr esgobaeth, yr Abad Dafydd ab Owain, ni oroesodd cerddi i Ddafydd o’i gyfnod yn esgob. Ei abadaeth yng Nglyn-y-groes oedd uchafbwynt ei yrfa, i bob diben, ac adlewyrchir ei lwyddiant fel abad yn y cerddi a ganwyd iddo yno. Gwyddys bod yr Abad Dafydd ab Owain, a fu yntau’n abad yn Ystrad-fflur, Ystrad Marchell ac Aberconwy, wedi derbyn addysg yn Rhydychen, ond ni cheir gwybodaeth am addysg Dafydd ab Ieuan. Fodd bynnag, mae’n eglur oddi wrth y farddoniaeth ei fod yn ŵr dysgedig (112.29–30; cerdd 114; GO XXIV.29–30, XXV.19, XXVIII.45) a’i fod yn hyddysg ym myd cerdd dafod a cherdd dant. Geilw Guto ef yn [dd]iwael brydydd â chanddo’r ddawn i gyfeilio fel y telynor enwog, Brido (113.58–60; cf. GO XXIV.39–40, XXVIII.47–52, XXXI.46). Fel y dengys y ffaith iddo siarsio Guto i ganu i Dduw, ymddengys mai’r canu crefyddol oedd ei briod faes: O gwna Dafydd gywydd gwiw, / Ef a’i rhydd i Fair heddiw (118.5–6). Yn anffodus, ni oroesodd dim o’i waith.
Ac yntau’n ŵr cydnerth a fedrai saethu â bwa (GO XXIV.33–6, XXVIII.33–4), y tebyg yw mai ei brif gyfraniad i fywyd y fynachlog oedd ei waith adeiladu. Dywed Guto iddo ail-doi’r abaty gyda phren derw o fryn Hyrddin gerllaw (112.33–4) a chyflogi seiri crefftus i weithio ar rannau eraill o’r adeilad (112.45–56; 113.13–14, 69–73; GO XXVI.62). Mae’n bur debygol mai yn ystod abadaeth Dafydd yr adeiladwyd ystafelloedd newydd yr abad uwchben y gysegrfa a’r cabidyldy, a ddyddir i ail hanner y bymthegfed ganrif (Robinson 2006: 291).
Ymhellach ar Ddafydd, gw. DNB Online s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; CTC cerddi 57–75 a’r drafodaeth arnynt.
Llyfryddiaeth
Robinson, D.M. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)