Y llawysgrifau
Cadwyd yr awdl hon mewn deg o lawysgrifau o drydydd chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen (ond y cwpled cyntaf yn unig a geir yn Pen 221). Mae’r testunau’n bur debyg, ac y mae’n amlwg eu bod i gyd yn tarddu o’r un gynsail yn y pen draw. Ond gan fod pob copi ond LlGC 17114B a C 5.167 yn rhannu’r gwall oes am eos yn llinell 49, rhaid eu bod yn tarddu o gynsail gyffredin lle ceid y gwall hwnnw, sef X1 yn y stema. Gw. hefyd y nodyn ar linell 56 isod. Gwyddys bod LlGC 3049B (lle mae 13–58 ar goll), Pen 77 a Gwyn 4 yn tarddu o gynsail goll arall (X2 yn y stema), a thrwy gymharu eu darlleniadau cyffredin â rhai BL 14971 a LlGC 17114B gellir adnabod gwallau yn X2.
Seiliwyd y testun golygedig ar Pen 77, BL 14971 a LlGC 17114B.
Trawsysgrifiadau: Pen 77, BL 14971 a LlGC 17114B.
6 gan hwn Y mae darlleniad GGl, gwin hwn, yn dilyn llawysgrifau X2.
10 ac i wlad Ceir a gwlad yn llawysgrifau X2.
14 Mabeilfyw Ceir mab Elvyw yma yn BL 14971, ond eilfyw a geir ym mhob llawysgrif yn 60 isod.
18 gwahodded Ceir gwahoddid yn llawysgrifau X2.
30 A Y mae’r gair hwn yn eisiau ym mhob llawysgrif, ond y mae ei angen er mwyn y synnwyr a hyd y llinell. Hawdd gweld sut y collwyd y gair o flaen a arall.
30 cannwr Darlleniad BL 14971. Ceir kynwr yn llawysgrifau X2, a kawr yn LlGC 17114B.
35 ar y bys Gan fod union ystyr yr ymadrodd yn aneglur mae’n anodd dewis rhwng hyn a darlleniad LlGC 17114B, ar i vys.
36 yw’r Y mae’r fannod yn eisiau yn BL 14971 a Gwyn 4.
43 alusen Gwyn 4 a BL 14971; ceir elusen yn Pen 77 ac ai lusen yn LlGC 17114B. Yr oedd y ffurf amrywiol hon ar elusen yn ddigon cyffredin mewn CC, gw, GPC2 181.
49 eos Y mae darlleniad GGl, oes, yn seiliedig ar Pen 77, Gwyn 4 a BL 14971, ond y mae’n anfoddhaol o ran hyd y llinell a’r synnwyr.
54 efrifed Ceir y ffurf hon yn Gwyn 4 a BL 14971, ac afrifed yn LlGC 17114B a Pen 77. A barnu wrth yr enghreifftiau a nodir yn GPC 1171 a GPC2 106 ymddengys mai hon yw’r ffurf hynaf.
56 i gan yr hydd Nid oes tystiolaeth yn y llawysgrifau dros ddarlleniad GGl, i ganu’n rhydd. Ceir i gan rhydd yn llawysgrifau X2 a BL 14971 (ychwanegwyd y fannod uwchben y llinell gan yr un llaw yn yr olaf), felly y mae’n debyg fod X1 yn wallus yn yr achos hwn eto.
Roedd Dafydd ap Tomas ap Dafydd o Flaen-tren ym mhlwyf Llanybydder yn un o ddisgynyddion Rhydderch ap Tewdwr Mawr o deulu brenhinol Deheubarth. Ei wraig oedd Gwenllïan ferch Rhys ap Dafydd.
Mae’r awdl hon yn nodedig am ei harddull lyfn a rhwydd sy’n adlewyrchu awyrgylch esmwyth a llawen y llys a ddisgrifir. Egyr trwy olrhain tras Dafydd dros dair cenhedlaeth, ac yn nes ymlaen yn y gerdd pwysleisir bod honno’n dras frenhinol (llinellau 25–32). Ar letygarwch Dafydd a’i wraig Gwenllïan y mae’r pwyslais trwy gydol y gerdd, a honnir bod gwahoddiad parhaol i’r bardd fel petai ar faeth yn eu llys a’i fod yn teithio adref pan ddaw yno o’r Gogledd. Rhoddir cryn sylw hefyd i ddawn Dafydd fel bardd, a phwysleisir nad canu mawl am dâl a wnâi fel clerwyr megis Guto ei hun, ond canu am serch a natur fel beirdd amatur yn nhraddodiad Dafydd ap Gwilym.
Dyddiad
1436–61.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XIII.
Mesur a chynghanedd
Pum englyn unodl union, dau englyn proest, a chyfres o ddeunaw o gyhydeddau hirion. Cysylltir yr englynion trwy gyrch-gymeriad, a hefyd yr englyn olaf a’r cyhydedd hir cyntaf. Mae gair olaf y gerdd, llawenydd, yn cyrchu’r gair cyntaf, llawen.
Llinellau 1–28 (heb gyfrif ail linell y pum englyn unodl union): croes 39% (9 llinell), sain 35% (8 llinell), traws 26% (6 llinell). Mae ail linell yr englynion unodl union yn llunio cynghanedd groes gyda’r cyrch mewn tri englyn, sain mewn un a thraws mewn un.
Llinellau 29–64 (heb gyfrif llinell gyntaf pob pennill lle mae’r ddau gymal wedi eu cynganeddu ar wahân): croes 72% (13 llinell), traws 28% (5 llinell).
10 gwlad Bryderi Yr hen Ddyfed, tiriogaeth Pwyll a’i fab Pryderi yn y Mabinogi.
11 Gefenni Enw’r ardal o gwmpas y Fenni, gw. 19.9n.
14 Mabeilfyw Mabelfyw, cwmwd yn y Cantref Mawr a gynhwysai blwyfi Llanybydder a Phencarreg.
19 ynyd Yr ystyr wreiddiol oedd y tridiau cyn y Grawys pryd y byddid yn gloddesta cyn yr ympryd hir, ond daeth i olygu gloddest yn gyffredinol, gw. GPC 3819.
21–3 naid Fe ymddengys fod chwarae yn yr englyn hwn ar wahanol ystyron y gair, sef yr ystyr lythrennol wrth sôn am yr hydd, a hefyd ‘ffawd’ gan gyfeirio at y Nadolig, a ‘noddfa’ gan gyfeirio at lys Dafydd.
25 Rhiw Tren Awgryma hon yn nes ymlaen yn y llinell mai enw arall ar lys Dafydd yw hwn, gw. Dafydd ap Tomas o Flaen-tren.
29 Tewdwr Hynafiad teulu brenhinol Deheubarth.
29 Dinefwr Prif lys tywysogion Deheubarth.
30 cannwr Cant o wŷr neu o filwyr, hynny yw gosgordd fawr.
33 Nudd Sef Nudd Hael ap Senyllt, un o’r Tri Hael y cyfeirir atynt yn gyffredin gan y beirdd fel safon haelioni, gw. TYP3 5–6, 464–6.
36 ŵyr Rys Cyfeirir at ei daid ar ochr ei fam, Gwenllïan ferch Rhys, gw. WG1 ‘Rhys Chwith’ 2.
41 Cynog Cynog, mab hynaf Brychan Brycheiniog yn ôl traddodiad.
45 daear Ddewi Mae nifer o eglwysi wedi eu cysegru i Ddewi Sant yn yr ardal o amgylch Henfynyw.
48 Mabwynion Mebwynion, cwmwd i’r gogledd o gwmwd Mabelfyw.
49–50 Is Coed, Gwynionydd Dau gwmwd i’r gorllewin o gwmwd Mabelfyw, rhwng afonydd Teifi ac Aeron.
54 llyfr Ofydd Cyfeirir at hwn nifer o weithiau yng nghanu serch Dafydd ap Gwilym ac eraill, ac nid yw’n glir ai llyfr penodol gan y bardd Lladin Publius Ovidius Naso a olygir (e.e. yr ‘Ars Amatoria’) ai unrhyw lyfr yn ymwneud â serch yn y traddodiad a gysylltir â’i enw, gw. DG.net 95.1n. Dichon mai llawysgrif yn cynnwys casgliad o ganu serch a olygir yma.
59 Hiriell Arwr a gysylltid yn draddodiadol â Gwynedd, gw. WCD 365–6 ac Williams 1926–7: 50–2.
Llyfryddiaeth
Williams, I. (1926–7), ‘Hiriell’, B iii: 50–2
Dafydd ap Tomas ap Dafydd of Blaen-tren in the parish of Llanybydder was a descendant of Rhydderch ap Tewdwr Mawr of the royal line of Deheubarth. His wife was Gwenllïan ferch Rhys ap Dafydd.
This awdl has a smooth flowing style which can be seen to reflect the relaxed and joyful atmosphere of the court depicted. It opens by tracing Dafydd’s lineage over three generations, and further on in the poem his royal ancestry is highlighted (lines 25–32). The main emphasis of the poem is on the hospitality provided by Dafydd and his wife Gwenllïan, and it is claimed that the poet has a standing invitation as if he were in fosterage at their court and thus travelling home when he came there from the north. Dafydd’s capability as a poet is also given a good deal of attention, and it is emphasized that he did not compose praise poems for payment like travelling minstrels such as Guto himself, but poems about love and nature like amateur poets in the tradition of Dafydd ap Gwilym.
Date
1436–61.
The manuscripts
Ten manuscript copies of the poem have survived, all apparently deriving directly or indirectly from a common exemplar. The edited text is based on Pen 77, BL 14971 and LlGC 17114B.
Previous edition
GGl poem XIII.
Metre and cynghanedd
Five englynion unodl union, two englynion proest, and a series of eighteen verses of cyhydedd hir. The englynion are connected by cyrch-gymeriad, as are the last englyn and the first cyhydedd hir. The last word of the poem, llawenydd, echoes the first, llawen.
Lines 1–28 (not counting the second line of the five englynion unodl union): croes 39% (9 lines), sain 35% (8 lines), traws 26% (6 lines). The second line of the englynion unodl union forms cynghanedd groes with the cyrch in three englynion, sain in one and traws in another.
Lines 29–64 (not counting the first line of each stanza where the two sections form cynghanedd separately): croes 72% (13 lines), traws 28% (5 lines).
10 gwlad Bryderi Dyfed, the land of Pwyll and his son Pryderi in the Mabinogi.
11 Gefenni The name of the region around the town of Abergavenny, see 19.9n.
14 Mabeilfyw Mabelfyw, a commote in the Cantref Mawr which contained the parishes of Llanybydder and Pencarreg.
19 ynyd The original meaning was the three days before Lent when people would eat their fill before the long fast, but it came to mean a feast in general, see GPC 3819.
21–3 naid This stanza seems to play on the various meanings of the word, firstly the literal meaning ‘leap’ with reference to the stag, then ‘fortune’ referring to Christmas, and finally ‘sanctuary’ referring to Dafydd’s court.
25 Rhiw Tren The feminine form hon later in the line suggests that this was another name for Dafydd’s court, see Dafydd ap Tomas of Blaen-tren.
29 Tewdwr The ancestor of the royal line of Deheubarth.
29 Dinefwr The main court of the princes of Deheubarth.
30 cannwr A hundred men or soldiers, i.e. a large troop.
33 Nudd Nudd Hael ap Senyllt, one of the ‘Three Generous Ones’ frequently referred to by the poets as a standard of generosity, see TYP3 5–6, 464–6.
36 ŵyr Rys Dafydd’s mother was Gwenllïan daughter of Rhys, see WG1 ‘Rhys Chwith’ 2.
41 Cynog St Cynog, the eldest son of Brychan Brycheiniog according to tradition.
45 daear Ddewi A number of churches are dedicated to Saint David in the area around Henfynyw.
48 Mabwynion Mebwynion, a commote to the north of Mabelfyw.
49–50 Is Coed, Gwynionydd Two commotes to the west of Mabelfyw, between the rivers Teifi and Aeron.
54 llyfr Ofydd This is mentioned several times in the love poetry of Dafydd ap Gwilym and others, and it is not clear whether a specific book by the Latin poet Publius Ovidius Naso is meant (e.g. the ‘Ars Amatoria’) or any book dealing with love in the tradition associated with his name, see DG.net 95.1n. The reference here may be to a manuscript containing a collection of love poetry.
59 Hiriell A hero traditionally associated with Gwynedd, see WCD 365–6 and Williams 1926–7: 50–2.
Bibliography
Williams, I. (1926–7), ‘Hiriell’, B iii: 50–2
Noddwr cerddi 12 a 13 oedd Dafydd ap Tomas. Canodd Lewys Glyn Cothi gerddi i’w wraig, Gwenllïan, ac i’w fab, Rhys (GLGC cerddi 41–4). At hynny, canodd Syr Phylib Emlyn gywydd i ofyn march gwyn gan Rys ap Dafydd (GSPhE cerdd 2).
Achres
Roedd Dafydd yn un o ddisgynyddion Rhydderch ap Tewdwr Mawr o deulu brenhinol Deheubarth. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Rhydderch ap Tewdwr’ 3; WG2 ‘Rhydderch ap Tewdwr’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Ddafydd mewn print trwm.
Achres Dafydd ap Tomas o Flaen-tren
Ei yrfa
Daliodd Dafydd swydd bedel cwmwd Mabelfyw am bum mlynedd ar hugain rhwng 1436 a 1461, fel ei dad a’i daid o’i flaen, a bu’n ddirprwy fforestwr Glyncothi a Phennant yn 1456–8 (Griffiths 1972: 360–1, 399). Ei gartref oedd Blaen-tren ym mhlwyf Llanybydder. Dyna’r enw a roddir yng nghywydd Guto iddo (cerdd 13) a hefyd yn y cerddi a ganodd Lewys Glyn Cothi i’w wraig Gwenllïan a’u mab Rhys (gw. uchod). Yn awdl Guto sonnir am Rhiw Tren (12.25) mewn cyd-destun sy’n awgrymu mai enw arall ydyw ar gartref Dafydd. Nodir yr enw Coed-tren hefyd yn achresi Bartrum (WG1). Mae’n debygol fod y llys ar yr un safle â Glantren-fawr heddiw (Jones 1987: 11–12). Afon fechan yw Tren sy’n llifo i afon Dyar ger Llanybydder, ac mae honno yn ei thro’n llifo i afon Teifi.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
Jones, F. (1987), Historic Carmarthenshire Homes and their Families (Carmarthen)