Y llawysgrifau
Ceir 14 copi o’r gerdd hon yn y llawysgrifau. Wrth drafod ei thraddodiad llawysgrifol rhaid rhoi ystyriaeth i draddodiad llawysgrifol cerdd 124. Diogelwyd y ddwy ynghyd yn CM 3 a Wy 1, ond ychwanegiad (gan y brif law, fe ymddengys, sef eiddo Thomas Wiliems) yw’r gerdd hon yn yr olaf, a cherdd 124 yn unig a geid yno’n wreiddiol. Fodd bynnag, ceir y nodyn canlynol yno wrth droed cerdd 124: rhyw hen brydydd i vn a vramai ai gydymaith a wnai r llall iddaw deffro Twm er am [ ]ncian dannedd. Gwelir bod yn y nodyn eiriau cyntaf y gerdd hon, deffro Twm, ac mae’n eglur y gwyddai Wiliems am draddodiad o uniaethu’r ddwy gerdd er nad oedd ganddo gopi o’r gerdd hon (y tebyg yw ei bod yn absennol o’i ffynhonnell goll). Fe’u ceir ynghyd yn llaw William Salesbury yn CM 3 ac mae’n bosibl, felly, eu bod wedi eu copïo ynghyd yn y gynsail. Fodd bynnag, ceid y gerdd hon ar ei phen ei hun yn X (gw. y stema), a rhaid rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd mai enw bardd neu (yn fwy tebygol) bynciau’r ddwy gerdd a’u tynnodd at ei gilydd am y tro cyntaf mewn rhyw ffynhonnell goll. Dychan i synau corfforol rhywun a geir yn y ddwy gerdd. Ond o graffu ar yr hyn a ddywedir gwelir mai cwyn benodol a geir yn y gerdd gyntaf ynghylch sŵn dyn yn rhincian ei ddannedd yn ei gwsg, ac yn yr ail gerdd ddychan amhenodol i rywun a enynnodd lid y bardd am dorri gwynt yn afreolaidd! Fe’u golygir ar wahân yma, ond mae lle i gredu bod cyswllt rhyngddynt un tro.
Trawsysgrifiadau: CM 3, LlGC 1553A a Wy 1.
Teitl
Yn llaw Thomas Evans yn LlGC 1553A y ceir y teitl hwyaf: Gvto r glyn iw was oedd gidag ef yn kysgv ag yn chwrnv arhinkian danedd a rhwbio i arddyrnav drwy i hvn. Cyfeirir at was y bardd ac at rincian dannedd yn LlGC 16B a LlGC 3047C hefyd (ac at rincian dannedd wrth droed cerdd 124 yn Wy 1) a dilynir y patrwm hwnnw yn nheitl y golygiad. Diau bod yr wybodaeth hon wedi ei lloffa o’r gerdd ac eithrio’r cyfeiriad at y gwas. Ei gydymaith ydyw yn Wy 1, a allai hefyd olygu gwas. Am arwyddocâd posibl yr wybodaeth hon, gw. nodiadau esboniadol y gerdd hon.
1 dy Dilynir CM 3. Gthg. Wy 1 ac X i [ei]. Cyferchir Twm yn y modd gorchmynnol ail unigol ddwywaith yn y paladr a byddai’n annisgwyl braidd ei drin yn y person trydydd unigol yma (er mai dyna a wneir yn yr esgyll). Bernir mai er mwyn perffeithio’r gyfatebiaeth y diwygiwyd y llinell. Caniateid cytsain neu gytseiniaid gwreiddgoll yn y gair cyrch gan nad yw’n ddechrau llinell (gw. CD 281).
4 ’i Dilynir yn betrus BL 14892, BL 14969, LlGC 16B a LlGC 1553A. Nis ceir yn y llawysgrifau eraill, ond bernir ei fod naill ai’n ddealledig yno neu wedi ei lyncu gan lythyren olaf drwy.
Fel y gwelir yn nheitl y gerdd, englyn dychan yw’r gerdd hon i was y bardd a fu’n rhincian ei ddannedd yn ei gwsg. Ni fyddai’n beth anarferol i fardd rannu ystafell neu wely â’i was neu feirdd eraill wrth ymweld â thŷ noddwr, fel y tystir mewn englynion (cerdd 93) a ganodd Ieuan ap Gruffudd Leiaf a Guto i’w gilydd. Gwrthododd Ieuan rannu ei wely â Guto nac unrhyw glerwr arall gan ei fod ef o waed uwch na hwy. Tystir yn yr englyn hwn i anawsterau ymarferol y dasg o gysgu o fewn clyw i hunwr swnllyd.
Awduraeth
Yn CM 3 priodolwyd y gerdd hon i Dudur Aled gan nodi Gruffudd Hiraethog fel ffynhonnell yr wybodaeth. Ond dilëwyd y priodoliad hwnnw gan William Salesbury a rhoes Guto or Glyn yn ei le. I Guto y priodolid y gerdd hon mewn ffynhonnell goll (a elwir X), ond noder na cheir enw bardd wrth destunau Thomas Wiliems yn Wy 1 a John Jones Gellilyfdy yn LlGC 3039B. Gall, felly, fod amheuaeth ynghylch awduraeth y gerdd yn X hefyd, ac mae’n berffaith bosibl fod y gerdd yn ddienw yn y gynsail. O ganlyniad, er na cheir dim yn y gerdd ei hun i wrthod ei rhoi i Guto, mae’n annhebygol y dylid ei hystyried yn waith dilys y bardd.
Dyddiad
Mae bron yn amhosibl dyddio’r gerdd, ond mae’r ffaith ei bod yn cael ei phriodoli i Dudur Aled mewn rhai ffynonellau yn awgrymu ei bod yn perthyn i ddiwedd y bymthegfed ganrif.
Golygiad blaenorol
Ni olygwyd y gerdd hon o’r blaen.
Mesur a chynghanedd
Englyn unodl union, 4 llinell.
Cynghanedd: croes 67% (2 linell), dim traws, sain 33% (1 llinell), dim llusg. Ceir cynghanedd sain yn y llinell gyntaf yn ôl y disgwyl (gw. CD 276) a chyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell (ceir cytsain wreiddgoll ar ddechrau’r gair cyrch). Ceir cymeriad llythrennol d-.
1 Twm Sef, yn ôl teitl y gerdd mewn rhai llawysgrifau, gwas y bardd. Os derbynnir Guto fel awdur y gerdd hon diddorol nodi enw’r gŵr a dorrwyd islaw enw’r bardd ar restr y milwyr a aeth i Ffrainc yn 1441, sef Thomas Gitto (gw. Salisbury 2007: blaenddalen). Awgrymwyd bod hwn yn fab ifanc i’r bardd ac wedi teithio gydag ef i Ffrainc fel gwas (gw. Johnston 2008: 141; Salisbury 2009: 59). Ond cf. cyfeiriad Tudur Penllyn at Rys, gwas Guto (gw. 46b.8n).
2 Tyn oddyna d’erddyrn Nid yw’n gwbl eglur beth a olygir. Cynigir bod y bardd yn darlunio Twm yn cysgu fel y cysgai [c]idwm ‘blaidd’ (1) neu gi (3) gyda’i ddwylo o dan ei ên.
3 gweflau cyrn Ac ystyried bod Twm fal ci (3), gall mai ci hela’n benodol a olygir, a anogid yn ei flaen gan sŵn corn hela. Diau yr ymatebai’r cŵn i sŵn y corn drwy gyfarth ac udo, a gall, felly, mai gwefusau’r heliwr a olygir wrth [g]weflau cyrn. Ategir hyn gan y cyfeiriad at larpio esgyrn yn y llinell olaf. Ond gall hefyd mai’r hyn a wneir yw cymharu gwefusau Twm â gwefusau heliwr pan fyddai hwnnw’n canu corn. Posibilrwydd arall yw bod gwefusau Twm yn debyg i wefusau neu ran flaen y corn ei hun.
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (2008), ‘Cofiant Creadigol’, Taliesin, 135: 141–2
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
As shown in the title, this poem is a satirical englyn composed for the poet’s servant who had been gnashing his teeth in his sleep. It was not uncommon for a poet to have to share a room or bed with his servant or with other poets on a visit to a nobleman’s home, as is shown in englynion (poem 93) that Ieuan ap Gruffudd Leiaf and Guto composed for each other. Ieuan refused to share his bed with Guto or any other lowly poet as he was of princely stock. This englyn attests to the practical difficulties or trying to sleep beside a noisy bedfellow.
Authorship
In CM 3 this poem is attributed to Tudur Aled and Gruffudd Hiraethog is noted as the source of the information. Yet, the attribution was deleted by William Salesbury, who put Guto or Glyn in its place. The poem was attributed to Guto in a lost source, yet the poet’s name is absent from the copies made by Thomas Wiliems in Wy 1 and John Jones Gellilyfdy in LlGC 3039B. Therefore, there may have been uncertainty about the authorship in the source also, and it is perfectly possible that the poem was nameless from the beginning. Although Guto’s authorship cannot be disregarded on the basis of the poem’s internal evidence, it is unlikely that it was composed by him.
Date
Dating the poem is almost impossible, but the fact that it is attributed to Tudur Aled in a few sources suggests that it belongs to the end of the fifteenth century.
The manuscripts
The poem has survived in 14 manuscript copies. It was copied with poem 124 in a handful of manuscripts and both poems may have been associated at one time. The edition is based mainly upon the evidence of CM 3, LlGC 1553A and Wy 1.
Previous edition
This poem has not been edited previously.
Metre and cynghanedd
Englyn unodl union, 4 lines.
Cynghanedd: croes 67% (2 lines), no traws, sain 33% (1 line), no llusg. The cynghanedd between the words following the rhyme-word in the first line and the beginning of the second line are not included here, but consonantal cynghanedd is used.
1 Twm According to the title given to the poem in a few manuscripts, Twm was the poet’s servant. If Guto was indeed the author, it is noteworthy that one Thomas Gitto was recorded immediately below Guto’s name on a muster roll of soldiers who went to France in 1441 (see Salisbury 2007: front page). It has been suggested that he was Guto’s son who travelled with him to France as his servant (see Johnston 2008: 141; Salisbury 2009: 59). But cf. Tudur Penllyn’s reference to Rhys, Guto’s servant (see 46b.8n).
2 Tyn oddyna d’erddyrn ‘Take your wrists away from there’. The meaning is unclear. The poet may be picturing Twm sleeping like a [c]idwm ‘wolf’ (1) or a dog (3) with his hands under his chin.
3 gweflau cyrn ‘Horn-lips’. As Twm is fal ci ‘like a dog’ (3), the poet may be referring specifically to a hunting dog, who would be urged onwards by the sound of a hunting horn. Dogs would certainly react to the sound of a horn by barking and baying and, therefore, ‘horn-lips’ could be a reference to the huntsman’s lips. This interpretation is supported by the reference to scrunching bones in the last line. Yet, the poet may also be comparing Twm’s lips with a huntsman’s when a horn was blown. Another possibility is that Twm’s lips were similar to the lips or front part of the horn itself.
Bibliography
Johnston, D. (2008), ‘Cofiant Creadigol’, Taliesin, 135: 141–2
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Ceir yma nodyn noddwr i’r bardd Tudur Aled gan mai felly y caiff ei drin mewn gosteg o englynion a ganwyd yn sgil rhodd o ddagr a roes i Hywel Grythor (cerdd 121). Fel y gwelir yn y goeden achau isod, roedd Tudur yn perthyn i linach uchelwrol ddigon urddasol. Mae’n annhebygol mai Guto a ganodd y gerdd, ond mae’n werth nodi y gall fod y ddau fardd wedi cyfarfod yn abaty Glyn-y-groes c.1490 pan oedd y naill yn hen iawn a’r llall yn ifanc (Fychan 1983: 59). Ceir cyswllt llawysgrifol rhyngddynt yn achos cerddi 123 ac 124. Ymhellach ar Dudur, gw. DNB Online s.n. Tudur Aled; TA; CLC2 732–3; Fychan 1983.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 3, ‘Hedd’ 3, 5, ‘Rhys ap Tewdwr’ 1, 4, ‘Tudur Trefor’ 47; WG2 ‘Hedd’ 5F. Ymhellach, gw. Fychan 1983: 69–70. Nodir y rheini a enwir yng ngherdd 121 mewn print trwm.
Achres Tudur Aled ap Rhobert o Iâl
Llyfryddiaeth
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74