Chwilio uwch
 
13 – Moliant i Ddafydd ap Tomas o Flaen-tren
Golygwyd gan Dafydd Johnston


1Dafydd, brydydd a brawdwr,
2Dywaid ym (dyddiau daed, ŵr!)
3Ai rhydd i’ch awenydd chwi
4Troi a dyfod trwy Deifi?
5Ai rhydd y wlad am d’adaw?
6Os rhydd, llyma drennydd draw.
7Rhydd yw ym rhoi hawddamawr
8A rhoi hawdd fyd bob rhodd fawr.
9Hir ydd wyf ar herw, Ddafydd,
10Nid hir dim ond torri dydd.
11Blin yw tor oed â Blaen-tren
12Bumgwyl, ac ni bu amgen.
13Blin oedd ym faddau dy blas
14O baud yma, fab Domas.
15Blinais es pedair blynedd
16Ar gwrw’r Mars; gorau yw’r medd.
17Gollyngodd o’m gwall angof
18Fy min wtres gwin tros gof.
19Dy fedd nis gadawaf i,
20Dy win yw fy nadeni.

21Af i Flaen-tren uwchben byd,
22Wybr uchel a bair iechyd.
23Af i’r lan a’m ariannodd,
24Af i’r rhiw fwyaf fy rhodd.
25Af, ac ni byddaf i’m byw
26Mwy heb wylfeistr Mabeilfyw.
27Wtla mud es talm ydwyf,
28Dewi â thi, diwaith wyf.
29Drwg oedd ym drwy geuedd iad
30Dewi unawr amdanad.
31Grwn a fydd segur ennyd
32Ac yna dwg gnwd o ŷd.
33Tafawd segurwawd y sydd
34A wna awen o newydd.
35Mae’n torri gwawd mewn tir gŵydd
36I brydu lle bu’r adwydd,
37A branar yw’r berw yna,
38A’r cnwd ŷd yw’r canu da.

39Nid naturiol ym foli
40Onid hael o’th annwyd di.
41Mae campau’r teidiau a’r tad,
42Mae swrn o’u moesau arnad.
43I ti y doeth cynnal tŷ
44A chanu (rhyw ywch hynny)
45A chorff a thegwch a hyd
46A chyfoeth i chwi hefyd,
47A gallu ’n sir, gwell no swrn,
48Gaerfyrddin, gryf ei arddwrn,
49A thir yn sir Is Aeron,
50A cherdd a digrifwch hon.
51Rhoddi i bob rhai a wyddost,
52Prydu’n rhad, peri dwyn rhost.
53Bwyd a gwin i’r byd a gair
54Heb weddu ’n Llanybyddair.
55Llywia di yn lle deuwr
56Lle dy hendad a’th dad, ŵr:
57Tir y plwyf a’r tai a’r plas
58A theml Ddafydd a Thomas.

59Duw a droes gwiail Moesen
60A fu i’n prynu’n un pren.
61Troes Duw yt rent dy hendad,
62Tri wyd dy hun i’r tre tad.
63Tri dyn o Lywelyn lân,
64Trioed gŵr ar y traean.
65Y Trihael y’ch portreiwyd,
66Y tri’n un ym Mlaen-tren wyd.

1Dafydd, bardd a barnwr,
2dywed wrthyf (dyddiau da i ti, ŵr!)
3a ydyw’ch bardd yn rhydd
4i fynd a dod drwy afon Teifi?
5A ydyw’r wlad yn agored oherwydd dy ymadawiad?
6Os yw’n agored, byddaf yno y diwrnod ar ôl yfory.
7Rwyf yn rhydd i roi cyfarchiad
8a dymuno bendith bob tro y caf rodd fawr.
9Rwyf wedi bod ar ffo ers amser hir, Dafydd,
10nid oes dim byd yn hir o’i gymharu â thorri pwyntmant.
11Diflas yw colli cyfarfod ym Mlaen-tren
12ar bump o wyliau, ac ni fu’n wahanol erioed.
13Byddai wedi bod yn ddiflas i mi beidio â bod yn dy blas
14petaet ti yma, fab Tomas.
15Rwyf wedi diflasu ers pedair blynedd
16ar gwrw’r Mers; medd yw’r ddiod orau.
17Oherwydd fy anghofrwydd esgeulus
18collodd fy min bob cof am gyfeddach gwin.
19Ni adawaf dy fedd,
20dy win yw fy adenedigaeth.

21Af i Flaen-tren uwchben y byd,
22mae awyr uchel yn peri iechyd.
23Af i’r llechwedd a roddodd arian i mi,
24af i’r rhiw lle roedd fy rhodd fwyaf.
25Af, ac ni fyddaf fyth eto
26heb drefnwr gwleddoedd Mabelfyw.
27Herwr mud ydwyf ers tro,
28o beidio â chanu i ti rwyf yn ddi-waith.
29Peth drwg i mi drwy geudod fy mhen
30oedd tewi amdanat un awr.
31Bydd darn o dir wedi ei aredig yn segur am dipyn
32ac wedyn bydd yn dwyn cnwd o ŷd.
33Mae yna dafod bardd segur
34a wna farddoniaeth o’r newydd.
35Mae’n torri moliant mewn tir heb ei drin
36er mwyn barddoni lle bu’r tir braenar,
37a braenar yw’r ysbrydoliaeth farddol,
38a’r cnwd ŷd yw’r cerddi da.

39Nid yw’n naturiol i mi foli
40neb ond un hael o’th natur di.
41Mae rhagoriaethau dy deidiau a’th dad
42a llawer o’u cwrteisi’n perthyn i ti.
43Etifeddaist letygarwch
44a barddoni (mae hynny yn dy natur di)
45a chorff a harddwch a thaldra
46ac ystad i chi hefyd,
47a phŵer yn sir Gaerfyrddin,
48mwy na llawer, yr un cryf ei arddwrn,
49a thir yn rhanbarth Is Aeron,
50a barddoniaeth a diddanwch y fro hon.
51Gwyddost sut mae rhoi i bawb
52a barddoni’n ddi-dâl ac archebu cig rhost.
53Ceir bwyd a gwin i’r byd i gyd
54heb gyfyngu yn Llanybydder.
55Yn lle dau ŵr rheola di
56gartref dy daid a’th dad, ŵr:
57tir y plwyf a’r cartrefi a’r plasty
58a chysegrfan Dafydd a Thomas.

59Trodd Duw wiail Moses
60yn un goeden a fu’n waredigaeth i ni.
61Trodd Duw incwm dy daid i ti,
62rwyt ti dy hun yn dri yn y dreftadaeth.
63Tri dyn o Lywelyn pur,
64boed tair oes gŵr ar y trydydd.
65Fe’ch darluniwyd fel y Tri Gŵr Hael,
66y tri’n un ym Mlaen-tren wyt ti.

13 – In praise of Dafydd ap Tomas of Blaen-tren

1Dafydd, poet and judge,
2tell me (good days to you, sir!)
3is your poet free
4to come and go through the river Teifi?
5Is the land free because of your departure?
6If it is free, I’ll be there the day after tomorrow.
7I am free to give a greeting
8and bestow a blessing each time I receive a great gift.
9I have been in exile for a long time, Dafydd,
10nothing is long compared to breaking an appointment.
11It is painful to break a tryst with Blaen-tren
12on five festivals, and it was always so.
13It would have been painful for me to be away from your mansion
14if you had been here, son of Thomas.
15For four years I have been tired
16of the beer of the March; mead is best.
17Because of my forgetfulness
18my lips have lost the memory of carousing wine.
19I will not leave your mead,
20your wine is my regeneration.

21I will go to Blaen-tren on top of the world,
22high air brings good health.
23I will go to the slope which funded me,
24I will go to the hillside where my gift was greatest.
25I will go, and all my life I will never again
26be away from the feast-master of Mabelfyw.
27I have been a dumb outlaw for a long while,
28by not singing to you I am without work.
29It was bad for me in the cavity of my skull
30to stay silent about you for a single hour.
31A piece of ploughed land is idle for a while
32and then it brings forth a crop of corn.
33There is an idle poet’s tongue
34which will make poetry anew.
35It is cutting praise on uncultivated land
36to fashion poetry where the fallow was,
37and the poetic inspiration there is the fallow land,
38and the crop of corn is the good song.

39It is not natural for me to praise
40anyone except a generous one of your nature.
41You possess the accomplishments of your grandfathers and father
42and a good deal of their courteous manners.
43You inherited hospitality
44and poetry (that is in your nature)
45and a tall handsome body
46and an estate for you as well,
47and power in Carmarthenshire,
48greater than many, strong-wristed one,
49and land in the region of Is Aeron,
50and its poetry and entertainment.
51You know how to give to all men,
52to sing without payment, to order roast meat.
53There is food and wine for all the world
54unconfined in Llanybydder.
55In place of two men govern
56the home of your grandfather and your father, man:
57the land of the parish and the homes and the mansion
58and the sanctuary of Dafydd and Thomas.

59God turned Moses’s rods
60into one tree for our salvation.
61God turned your grandfather’s income to you,
62You yourself are three in the patrimony.
63Three men from pure Llywelyn,
64may the third have three men’s lifetimes.
65You have been portrayed like the Three Generous Ones,
66you are the three in one in Blaen-tren.

Y llawysgrifau
Ceir testun o’r gerdd mewn pedair ar bymtheg o lawysgrifau a gopïwyd rhwng canol yr unfed ganrif ar bymtheg a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (ond y cwpled cyntaf yn unig a geir yn Pen 221). Gellir dosbarthu’r testunau’n bedwar fersiwn sy’n debyg iawn i’w gilydd o ran darlleniadau, ond bod dechrau’r gerdd ar goll mewn dau fersiwn. Mae fersiwn Bod 1 (cynsail testunau Pen 100, Llst 133, Pen 152 [i] a LlGC 428C) yn dechrau â llinell 19. Yn fersiwn Pen 99 (cynsail testunau Pen 152 [ii] a CM 12) cyfunwyd y gerdd hon o linell 7 ymlaen â rhan gyntaf cerdd 27 (efallai yn sgil troi dwy ddalen yn y gynsail). Tardda’r ddau fersiwn cyflawn o gynseiliau coll a gynrychiolir gan dri thestun yr un. X1 yw’r casgliad coll a gopïwyd mewn tair llawysgrif o Ddyffryn Conwy, LlGC 3049B, LlGC 8497B a Gwyn 4. X2 yw’r ffynhonnell gyffredin y tu ôl i LlGC 17114B (y testun cynharaf, tua 1560, a ffynhonnell testun C 5.167), LlGC 6681B a C 1.550 (cf. cerdd 87). Mae lle i gredu bod C 1.550 yn gopi o LlGC 6681B, gan fod tair cerdd i’w cael yn yr un drefn yn y ddwy lawysgrif (cerddi 24, 42 a hon), ond mae’r ffaith na chodwyd y cywiriadau yn nhestun LlGC 6681B yn llinellau 37 a 43 yn awgrymu fel arall. Heblaw’r llinellau coll ar ddechrau’r gerdd nid oes gwahaniaeth o ran nifer na threfn llinellau rhwng y pedwar fersiwn, a diau eu bod i gyd yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig yn y pen draw.

Seiliwyd y testun golygedig ar LlGC 17114B, LlGC 8497B a Bod 1.

Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, LlGC 8497B a Bod 1.

stema
Stema

2 dyddiau daed  Nid oes cefnogaeth yn y llawysgrifau i ddarlleniad GGl, dydd däed. Rhaid felly fod daed (o da yt) yn ffurf unsill (cf. GLGC 147.6), er na nodir enghraifft o ffurf luosog yr ymadrodd dydd da yn GPC 1119.

4 troi … trwy  LlGC 17114B yw’r unig lawysgrif sy’n treiglo’r ddau air, a gellir cymryd bod dechrau’r llinell newydd yn atal y treiglad a ddisgwylid.

14 baud … Domas  Nid yw’n glir beth yn union oedd darlleniad X1, ond mae’n bosibl ei fod yn wallus o ran cynghanedd fel y gwelir yn Gwyn 4, baud … Thomas. Os felly, cafwyd cynigion gwahanol i’w gywiro yn LlGC 3049B, baud … Domas, a LlGC 8497B, baut … Tomas. Amwys hefyd yw tystiolaeth llawysgrifau X2: LlGC 17114B baut … tomas, LlGC 6681B a C 1.550 baud … Domas. Mae Pen 99 hefyd o blaid baut … Tomas, ond mae’n fwy tebygol y byddai Guto’n defnyddio’r ffurf ferfol gyda -d ac yn treiglo’r enw priod ar ôl mab (gw. TC 108–9 a cf. cerdd 70.16, ond gthg. 19.7 a 71.24).

18 wtres gwin  Nid oes cefnogaeth yn y llawysgrifau i ddarlleniad GGl, wres y gwin.

25  Mae’r llinell hon yn wahanol ym mhob fersiwn, a’r tebyg yw ei bod yn wallus yn y gynsail. Dilynir Bod 1, ond dichon mai ymgais oedd hwnnw i gywiro un o’r fersiynau chwesill, X1, af ni byddaf …, neu X2, ac ni byddaf … Ceir cynnig arall i gywiro hyd y llinell yn Pen 99 Mi af ni byddaf …

27–30  Mae’r ddau gwpled hyn o chwith yn Bod 1, a’r drefn honno a ddilynwyd yn GGl. Nid yw’r naill fersiwn na’r llall yn cyfiawnhau’r treiglad annisgwyl ar ddechrau ll. 28.

37 a branar  Dilynwyd Bod 1 yn GGl, A’r branar, ond mae’r dystiolaeth yn gryfach dros ddarlleniad y testun.

43  Mae’n debyg fod y llinell hon yn fyr yn y gynsail, fel y gwelir yn LlGC 3049B a Gwyn 4, I ti doeth kynal ty, ac mai ymgais i gywiro’r hyd oedd y ty LlGC 8497B a Pen 99, a dy dy Bod 1. Mae darlleniad y testun, I ti y doeth, yn seiliedig ar fersiwn X2, a hawdd yw gweld sut y diflannodd y geiryn y yng nghesail llafariad arall.

44 chanu  Mae channwr GGl yn seiliedig ar gywiriad yn Pen 100 a dderbyniwyd i destun Pen 152. Mae’n debyg mai’r cymhelliad dros y cywiriad oedd osgoi’r odl dybiedig â gair olaf y llinell.

Dyma gywydd i Ddafydd ap Tomas, noddwr y canodd Guto awdl foliant iddo hefyd (gw. y gerdd flaenorol). Yr un rhinweddau a folir yma, sef ei letygarwch a’i allu fel bardd. Fe ymddengys fod Dafydd ap Tomas oddi cartref pan luniwyd y gerdd, ac mae Guto’n datgan ei fwriad i ymweld â Blaen-tren ar ôl absenoldeb hir. Ymddiheura am beidio â chanu i Ddafydd ers amser maith, a defnyddir tir braenar fel cyffelybiaeth i gyfleu’r syniad o ddwyn ffrwyth ar ôl cyfnod o segurdod ymddangosiadol. Pwysleisir etifeddiaeth Dafydd o ran ei natur foesol a’i dreftadaeth faterol, a chloir trwy honni ei fod yn cyfuno holl gynhysgaeth ei dad a’i daid yn yr un modd ag y cyfunwyd tair gwialen Moses i wneud pren y Groes.

Dyddiad
1436–61.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd XII.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (28 llinell), traws 32% (21 llinell), sain 18% (12 llinell), llusg 8% (5 llinell).

1 brydydd a brawdwr  Cf. 12.38.

4  Byddai teithiwr o’r gogledd yn croesi afon Teifi ger Llanybydder er mwyn cyrraedd Blaen-tren.

16 cwrw’r Mars  Roedd ardaloedd yn y Gororau megis Gweble (Weobley) ac Amwythig yn enwog am eu cwrw. Cf. cwrw Amwythig, GIG X.73, a cwrw Gweble GLGC 190.33.

22  Cf 38.1–2.

26 Mabeilfyw  Gw. 12.14. Mae tystiolaeth y llawysgrifau’n gyson o blaid y ffurf hon.

28 dewi  Nid yw’n amlwg pam y treiglir yma.

41–2  Pwysleisir yn 12.37–8 fod Dafydd wedi etifeddu ei ddawn fel bardd oddi wrth ei daid.

49 sir Is Aeron  Is Aeron oedd yr ardal i’r de o afon Aeron, felly defnyddir sir yma mewn ystyr lac.

54 gweddu  Nodir yr enghraifft hon yn GPC 1610 dan yr ystyr ‘ffitio, cael lle, derbyn, dal, cynnwys, genni’, ac mae hynny’n bosibl os cymerir mai ‘er na ellir eu cynnwys’ yw ystyr heb weddu, ond gwell fyddai deall gweddu yn yr ystyr ‘cyfyngu’, a allai fod yn ddatblygiad o ystyr sylfaenol y gair, ‘mynd neu roi dan yr iau’.

54 Llanybyddair  Llanybydder yng nghwmwd Mabelfyw, y plwyf lle safai Blaen-tren.

59–60  Cyfeirir at hanes y tair gwialen a dyfodd o enau Adda yn y bedd yn ôl y testun apocryffaidd ‘Ystoria Adda’ neu ‘Efangel Nicodemus’; Williams and Jones 1876–92: ii, 245–50. Daeth y tair yn eiddo i Foses, ac yn amser y Brenin Dafydd fe’u cyfunwyd yn un pren, ac o’r pren hwnnw y gwnaethpwyd y groes y croeshoeliwyd Iesu Grist arni. Cf. 82.56.

61  Ar yr odl lusg, cf. 22.15n

63 Llywelyn  Hen-daid Dafydd.

65 Y Trihael  Tri Hael Ynys Prydain, sef Nudd, Mordaf a Rhydderch, gw. TYP3 5–7.

Llyfryddiaeth
Williams, R. and Jones, G.H. (1876–92) (eds.), Selections from the Hengwrt MSS (2 vols., London)

This is a cywydd in praise of Dafydd ap Tomas, a patron to whom Guto also sang an awdl (see poem 12). The same virtues are praised here, that is his hospitality and his capability as a poet. Both poems belong to the same period, 1436–61. It appears that Dafydd ap Tomas was away from home when this poem was composed, and Guto states his intention to visit Blaen-tren after a long absence. He apologizes for not addressing any poems to Dafydd for a long time, and fallow land is used as a trope to represent the idea of productivity after a period of apparent idleness. Dafydd’s inheritance is emphasized both in terms of his moral character and his material patrimony, and the poem concludes by claiming that he combines all that he has inherited from his father and grandfather in the same way as the three rods of Moses were combined to form the wood of the Cross.

Date
1436–61.

The manuscripts
Nineteen manuscript copies of the poem have survived, all apparently deriving directly or indirectly from a common exemplar, although some lack the first six lines and others the first eighteen. The edited text is based on LlGC 17114B, LlGC 8497B and Bod 1.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem XII.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 42% (28 lines), traws 32% (21 lines), sain 18% (12 lines), llusg 8% (5 lines).

1 brydydd a brawdwr  Cf. 12.38.

4  A traveller from the north would need to cross the river Teifi near Llanybydder in order to reach Blaen-tren.

16 cwrw’r Mars  Marcher towns such as Weobley and Shrewsbury were famous for their beer. Cf. cwrw Amwythig (‘Shrewsbury beer’), GIG X.73, and cwrw Gweble (‘Weobley beer’) GLGC 190.33.

22  Cf 38.1–2.

26 Mabeilfyw  See 12.14. The manuscripts agree on this form here.

28 dewi  There is no apparent reason for the mutation.

41–2  It is noted in 12.37–8 that Dafydd inherited his poetic gift from his grandfather.

49 sir Is Aeron  Is Aeron was the region to the south of the river Aeron, so sir (literally ‘shire’) is being used loosely here.

54 gweddu  This example is noted in GPC 1610 under the sense ‘to fit (into) . . . be contained in’, and that is possible if heb weddu is understood to mean ‘although they cannot be contained’, but it gives better sense to take gweddu as ‘to confine’, a development of the primary meaning, ‘to yoke’, cf. DG.net 10.31.

54 Llanybyddair  Llanybydder in the commote of Mabelfyw, the parish in which Blaen-tren was located.

59–60  The story of the three rods which grew from Adam’s mouth in the grave is related in the apocryphal text ‘Ystoria Adda’ or ‘Efangel Nicodemus’, Williams and Jones 1876–92: ii, 245–50. The three came into the possession of Moses, and in the time of King David they were combined into one piece of wood, from which was made the cross on which Christ was crucified. Cf. 82.56.

63 Llywelyn  Dafydd’s great-grandfather.

65 Y Trihael  The ‘Three Generous Ones of the Island of Britain’, Nudd, Mordaf and Rhydderch, see TYP3 5–7.

Bibliography
Williams, R. and Jones, G.H. (1876–92) (eds.), Selections from the Hengwrt MSS (2 vols., London)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Dafydd ap Tomas o Flaen-tren, 1436–61

Dafydd ap Tomas o Flaen-tren, fl. c.1436–61

Top

Noddwr cerddi 12 a 13 oedd Dafydd ap Tomas. Canodd Lewys Glyn Cothi gerddi i’w wraig, Gwenllïan, ac i’w fab, Rhys (GLGC cerddi 41–4). At hynny, canodd Syr Phylib Emlyn gywydd i ofyn march gwyn gan Rys ap Dafydd (GSPhE cerdd 2).

Achres
Roedd Dafydd yn un o ddisgynyddion Rhydderch ap Tewdwr Mawr o deulu brenhinol Deheubarth. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Rhydderch ap Tewdwr’ 3; WG2 ‘Rhydderch ap Tewdwr’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Ddafydd mewn print trwm.

lineage
Achres Dafydd ap Tomas o Flaen-tren

Ei yrfa
Daliodd Dafydd swydd bedel cwmwd Mabelfyw am bum mlynedd ar hugain rhwng 1436 a 1461, fel ei dad a’i daid o’i flaen, a bu’n ddirprwy fforestwr Glyncothi a Phennant yn 1456–8 (Griffiths 1972: 360–1, 399). Ei gartref oedd Blaen-tren ym mhlwyf Llanybydder. Dyna’r enw a roddir yng nghywydd Guto iddo (cerdd 13) a hefyd yn y cerddi a ganodd Lewys Glyn Cothi i’w wraig Gwenllïan a’u mab Rhys (gw. uchod). Yn awdl Guto sonnir am Rhiw Tren (12.25) mewn cyd-destun sy’n awgrymu mai enw arall ydyw ar gartref Dafydd. Nodir yr enw Coed-tren hefyd yn achresi Bartrum (WG1). Mae’n debygol fod y llys ar yr un safle â Glantren-fawr heddiw (Jones 1987: 11–12). Afon fechan yw Tren sy’n llifo i afon Dyar ger Llanybydder, ac mae honno yn ei thro’n llifo i afon Teifi.

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
Jones, F. (1987), Historic Carmarthenshire Homes and their Families (Carmarthen)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)