Y llawysgrifau
Ceir testun o’r gerdd mewn un ar ddeg o lawysgrifau. Y rhai cynharaf yw tair o lawysgrifau Wmffre Dafis, sef LlGC 3056D, Brog I.2 a Gwyn 1, a gopïwyd rhwng 1593 a c.1600. Ychydig iawn o wahaniaethau sydd rhwng y tri chopi, ac mae’n amlwg eu bod yn tarddu o gynsail gyffredin. Llawysgrifau Wmffre Dafis oedd ffynhonnell yr wyth copi arall a oroesodd, ac felly un fersiwn o’r gerdd sydd gennym i bob pwrpas. Mae rhai gwahaniaethau yn nhestun Llst 30, ond gan fod hwnnw yn sicr yn gopi o Gwyn 1 rhaid eu hystyried yn welliannau gan y copïydd ei hun. Ymddengys ansawdd y testun yn weddol dda ar y cyfan, ond bu’n rhaid diwygio yn llinellau 31, 37 a 42.
Gan ein bod yn hollol ddibynnol ar dystiolaeth llawysgrifau Wmffre Dafis mae lle i gwestiynu awduraeth y gerdd. Nid yw’r dyddiad ynddo’i hun yn broblem gan fod cerddi eraill o waith Guto yn dangos ei fod yn dal i ganu yn 1485 (cerddi 55, 116–18), ond o’i gymharu â chywyddau dilys Guto’r Glyn mae hwn braidd yn ddi-nod a heb ddim o nodweddion ei bersonoliaeth farddol, a rhaid ystyried y posibilrwydd fod Wmffre Dafis wedi cambriodoli cerdd ddienw i Guto (efallai oherwydd tebygrwydd llinellau 25-6 i 107.33–4).
Trawsysgrifiadau: Brog I.2 a Gwyn 1.
2 caer aur Brog I.2 kaerav.
8 maen Darlleniad gwreiddiol llawysgrifau Wmffre Dafis oedd mae/n/, ond fe’i cywiriwyd ganddo i maen yn Gwyn 1.
23 Ceir a blodau yn LlGC 3056D a Gwyn 1, ond mae’r llinell yn rhy hir. Dilewyd yr a yn Llst 30.
25 daly Hon yw’r ffurf a geir yn Gwyn 1, a dal yn LlGC 3056D a Brog I.2.
31 drud Ceir ef ym mhob un o lawysgrifau Wmffre Dafis, darlleniad sy’n rhoi cynghanedd anfoddhaol. Ychwanegwyd dr o flaen ef yn Llst 30, gan wella’r gynghanedd ond nid y synnwyr. Cynigir y diwygiad drud, ond mae draig a draw yn bosibiliadau eraill.
33 Ceir Y brwydr ym mhob llawysgrif, a’r ffurf gywasgedig bredvr yn LlGC 3056D a Gwyn 1, ond y ffordd orau o gywiro hyd y llinell yw hepgor y fannod.
37 Eingl Ceir eingil yn Brog I.2, engil yn LlGC 3056D, ac engyl yn Gwyn 1. O ran synnwyr, yr enw priod yn dynodi Saeson sydd orau, ond gair unsill ydyw, ac felly mae’r llinell yn fyr fel y saif. Gellid cywiro’r hyd trwy ddarllen â llaw.
42 bu’r drin Darlleniad llawysgrifau Wmffre Dafis yw bu dim, sy’n anfoddhaol o ran cynghanedd. Ceir y gwelliant amlwg drin yn Llst 30, ond mae hynny’n gadael r heb ei hateb yn ail hanner y llinell. Dilynir GGl wrth ychwanegu’r fannod, gan gymryd mai at frwydr Bosworth yn benodol y cyfeirir.
Rhys ap Tomas ap Gruffudd ap Nicolas o Abermarlais ym mhlwyf Llansadwrn, sir Gaerfyrddin, oedd un o gefnogwyr pennaf Harri Tudur yng Nghymru. Gellir dyddio’r cywydd hwn ar ôl dyrchafu Rhys yn farchog, a’r tebyg yw ei fod wedi ei ganu ym misoedd olaf 1485 neu yn 1486. Canodd Lewys Glyn Cothi awdl i Syr Rhys, GLGC cerdd 15, a gellir dyddio honno ar ôl genedigaeth y Tywysog Arthur yn 1486. Yn y cywydd hwn molir Syr Rhys am ei dras a’i haelioni, ac yn bennaf oll am ei allu milwrol fel ei gyndeidiau o’i flaen. Cloir trwy ei ddelweddu fel grifft, sef creadur chwedlonol a oedd yn gyfuniad o eryr a llew.
Dyddiad
1485–6.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXIII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 58 llinell.
Cynghanedd: croes 71% (41 llinell), traws 19% (11 llinell), sain 8.5% (5 llinell), llusg 1.5% (1 llinell).
1 Caerfyrddin Roedd Syr Rhys yn ddylanwadol iawn yn y dref, a daliodd swydd y maer o leiaf bedair gwaith wedi 1485, gw. Griffiths 1993: 46.
5 Syr Rys Ar y treiglad yn dilyn Syr, gw. 97.27n.
13 y tri Syr Rys Ymhlith hynafiaid Rhys ar ochr ei fam, Elisabeth o Abermarlais, roedd y milwr enwog Syr Rhys ap Gruffudd (m. 1356) a’i fab Syr Rhys Ieuanc (m. 1380) a fu’n ymladd yn Ffrainc (gw. GIG cerdd VII, GLlG cerdd 3, a GMBen cerdd 17).
16 ynys hir Ynys Prydain efallai, ond gall ynys olygu ‘gwlad’ a ‘bro’ hefyd, gw. GPC 3819.
17–18 Efallai fod hyn yn cyfeirio at y gwrthdaro ger Abermarlais a ddisgrifir gan Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 18; gw. ymhellach Griffiths 1993: 30–1.
20 Tawy Afon Tawe. Ceir yr un ffurf, ynghyd â’r un trawiad cynganeddol a’r un brifodl, yn GLGC 102.4.
21 y tair sir Sir Gaerfyrddin a sir Aberteifi, ac efallai sir Feirionnydd (gw. 53n isod).
22 Elidir Elidir Ddu ap Rhys, taid Gruffudd ap Nicolas, gw. WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 7.
25–6 Ceir cwpled tebyg iawn yng nghywydd Guto i Siôn Edward, 107.33–4.
33 Peredur Arwr y rhamant ‘Historia Peredur vab Efrawc’, a phatrwm o farchog sifalrïaidd. Ar hoffter Rhys o chwedlau’r Brenin Arthur a’r Greal gw. Griffiths 1993: 85.
33–40 Cyfeirir at frwydr Bosworth lle lladdwyd Rhisiart III (‘y baedd’).
34 brain Urien Honnai teulu Gruffudd ap Nicolas eu bod yn disgyn o Urien Rheged o’r Hen Ogledd, gw. Griffiths 1993, 8–9. Arwydd Urien oedd y tair brân ar arfbais y teulu, gw. DWH i: 98–100 a 117.
38 lladd y baedd Y baedd gwyn oedd arwydd y Brenin Rhisiart III. Mae’r berfenw lladd yn fodd i osgoi pennu pwy yn union oedd yn gyfrifol am ei ladd ar faes Bosworth, ond yr awgrym yn y darn hwn yw mai mintai o filwyr o dan arweiniad Rhys ap Tomas a’i lladdodd.
38 eilliodd ei ben Darganfuwyd ysgerbwd Rhisiart III ar safle eglwys y Brodyr Llwydion yng Nghaerlŷr yn 2012, ac yng ngoleuni’r anafiadau niferus i’r benglog, yn enwedig olion ergyd a dorrodd beth o’r asgwrn ar draws top y pen (gw. http://www.le.ac.uk/RichardIII), mae’n debyg y dylid deall hyn yn llythrennol fel cyfeiriad at dorri’r gwallt oddi ar ei ben. Goddrych gramadegol y ferf hon yw ‘y Cing Harri’, ac mae’n bosib mai Harri Tudur ei hun a wnaeth hyn fel gweithred ddefodol ar ôl i Risiart gael ei ladd. Byddid yn eillio’r gwrych oddi ar ben baedd cyn ei goginio, a’r tebyg yw mai dyna pam y torrwyd peth o wallt Rhisiart.
41 brenhinwaed Gallai Rhys olrhain ei dras ar ochr ei fam drwy Wenllïan ferch yr Arglwydd Rhys, gwraig Ednyfed Fychan, i deulu brenhinol Deheubarth, cf. GLGC 15.13–16.
43 er henwi Nid yw’n glir beth yn union yw ergyd yr ymadrodd hwn, ond cymerir yn yr aralleiriad mai ‘er mwyn’ yw ystyr er yma.
45 grifft Yr un peth â griffwnt yn 48, ‘anifail chwedlonol a chanddo ben, gylfin, adenydd a chrafangau eryr ond corff llew’, gw. GPC 1531 a cf. 50.
53 Trent Cyfeirir at afon Trent er mwyn dangos bod grym Syr Rhys yn ymestyn hyd ogledd Lloegr, cf. Iorc yn 20 a GLMorg 45.4 dros y Mars hyd Drent.
53 Tywyn Sef Tywyn, Meirionnydd, mae’n debyg, cf. GLGC 16.23–4 lle sonnir am feddiant Gruffudd ap Nicolas yn ymestyn o’r Deau i Dywyn Meirionnydd.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Rhys ap Tomas ap Gruffudd ap Nicolas of Abermarlais in the parish of Llansadwrn, Carmarthenshire, was one of Henry Tudor’s main supporters in Wales. This poem can be dated after Rhys was knighted, and it is likely to have been composed in the last months of 1485 or in 1486. Lewys Glyn Cothi composed an awdl to Sir Rhys, GLGC poem 15, which can be dated after the birth of Prince Arthur in 1486. In this cywydd Sir Rhys is praised for his noble lineage and his generosity, and in particular for his military prowess like his ancestors before him. The poem concludes by portraying him as a griffin, a legendary creature which was part eagle and part lion.
Date
1485–6.
The manuscripts
Eleven manuscript texts survive, of which the earliest are three in the hand of Humphrey Davies, copied from 1593 onwards, all deriving from a single exemplar. Since the manuscript evidence is so weak, the possibility must be considered that Humphrey Davies himself was responsible for the attribution to Guto. Although the date in itself is not a problem, since Guto is known to have been active after 1485, nevertheless the poem shows little sign of Guto’s inventive wit. If the poem was anonymous in his source, Davies may have noticed the similarity of lines 25–6 to a couplet in one of Guto’s poems, see note below.
Previous edition
GGl poem LXIII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 58 lines.
Cynghanedd: croes 71% (41 lines), traws 19% (11 lines), sain 8.5% (5 lines), llusg 1.5% (1 line).
1 Caerfyrddin Sir Rhys was very influential in the town, and he held the office of mayor at least four times after 1485, see Griffiths 1993: 46.
5 Syr Rys On the mutation following Syr, see 97.27n.
13 y tri Syr Rys Amongst Rhys’s ancestors on the side of his mother, Elisabeth of Abermarlais, were the famous soldier Sir Rhys ap Gruffudd (d. 1356) and his son Sir Rhys Ieuanc (d. 1380) both of whom fought in France (see GIG poem VII, GLlG poem 3, and GMBen poem 17).
16 ynys hir Perhaps the Island of Britain, but ynys can mean ‘land’ and ‘region’ as well, see GPC 3819.
17–18 This may refer to the encounter near Abermarlais described by Lewys Glyn Cothi, GLGC poem 18; see further Griffiths 1993: 30–1.
20 Tawy The river Tawe. The same form, with the same cynghanedd correspondence and end-rhyme, occurs in GLGC 102.4.
21 y tair sir Carmarthenshire and Cardiganshire, and perhaps Meirionethshire (see note on Tywyn in 53).
22 Elidir Elidir Ddu ap Rhys, Gruffudd ap Nicolas’s grandfather, see WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 7.
25–6 A very similar couplet occurs in Guto’s poem to Siôn Edward, 107.33–4.
33 Peredur The hero of the romance ‘Historia Peredur vab Efrawc’, and a model of the chivalric knight. On Rhys’s fondness for tales of King Arthur and the Grail see Griffiths 1993: 85.
33–40 These lines refer to the battle of Bosworth where Richard III (‘the boar’) was killed.
34 brain Urien The Gruffudd ap Nicolas family claimed descent from Urien Rheged of the Old North, see Griffiths 1993, 8–9. The three ravens on the family coat of arms were Urien’s device, see DWH i: 98–100 and 117.
38 lladd y baedd The white boar was King Richard III’s emblem. The use of the verbal noun lladd is a means of avoiding specifying who was responsible for killing him on the battlefield at Bosworth, but this passage suggests that he was killed by a troop of soldiers led by Rhys ap Tomas.
38 eilliodd ei ben Richard III’s skeleton was discovered on the site of the Grey Friars church in Leicester in 2012, and in the light of the numerous wounds to the skull, particularly traces of a blow which sliced off some of the bone from the top of the head (see http://www.le.ac.uk/RichardIII), this should probably be understood as a literal reference to cutting off the hair from the head. The grammatical subject of this verb is ‘y Cing Harri’, and it is possible that Henry Tudor himself did this as a ritual act after Richard had been killed. The bristles on a boar’s head had to be shaved off before cooking, and that is probably why some of Richard’s hair was cut off.
41 brenhinwaed Rhys was able to trace his lineage on his mother’s side back to the royal line of Deheubarth through Gwenllïan daughter of the Lord Rhys, who married Ednyfed Fychan, cf. GLGC 15.13–16.
43 er henwi The significance of this phrase is not clear, but the translation assumes that er here means ‘in order to’.
45 grifft The same as griffwnt in 48, a legendary creature with the head, beak, wings and claws of an eagle but the body of a lion, see GPC 1531 and cf. 50.
53 Trent The reference to the river Trent indicates that Sir Rhys’s power extends as far as the north of England, cf. Iorc in 20 and GLMorg 45.4 dros y Mars hyd Drent (‘over the March as far as Trent’).
53 Tywyn This is probably Tywyn in Meirionnydd, cf. GLGC 16.23–4 where Gruffudd ap Nicolas’s possessions are said to extend o’r Deau i Dywyn Meirionnydd (‘from the South to Tywyn Meirionnydd’).
Bibliography
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Noddwr cerdd 14 oedd Rhys ap Tomas o Abermarlais ym mhlwyf Llansadwrn, sir Gaerfyrddin. Bu’n noddwr hael i nifer fawr o feirdd, megis Lewys Glyn Cothi, Ieuan Deulwyn, Dafydd Llwyd o Fathafarn, Tudur Aled, Lewys Môn, Huw Cae Llwyd, Siôn Ceri a Lewys Morgannwg (GLGC cerdd 15; ID cerddi XXIV, XXXII; GDLl cerddi 7, 50; TA cerddi VII, XII, XIII, XIV; GLM cerdd LXXXVIII; GHCLl cerdd XXXII; GSC cerdd 50; GLMorg cerdd 63). Arno, gw. DNB Online s.n. Sir Rhys ap Thomas.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 7, ‘Marchudd’ 15; WG2 ‘Einion ap Llywarch’ 7 A3. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Rys mewn print trwm.
Achres Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais
Ei yrfa
Roedd teulu Gruffudd ap Nicolas yn bwerus iawn yn ardal Dyffryn Tywi ac yn gefnogwyr cryf i achos y Lancastriaid, ac yn ôl traddodiad teuluol bu Rhys yn alltud gyda’i dad ym Mwrgwyn ar ôl buddugoliaeth plaid Iorc yn 1461. Roedd Rhys yn un o gefnogwyr pennaf Harri Tudur yng Nghymru, ac fe’i hurddwyd yn farchog ar 25 Awst 1485 am ei ran ym mrwydr Bosworth ar 22 Awst, lle bu’n arwain llu o filwyr o Gymru. Daliodd nifer o swyddi blaenllaw yn llywodraeth Cymru wedyn, gan gynnwys ei benodi’n Siambrlen de Cymru am oes ar 6 Tachwedd 1485 (Griffiths 1972: 162, 189; 1993: 45–6), ond fel milwr profiadol yn bennaf oll y bu’n gwasanaethu’r brenin. Gellir dyddio cywydd Guto ar ôl dyrchafu Rhys yn farchog, a’r tebyg yw ei fod wedi ei ganu ym misoedd olaf 1485 neu yn 1486, cyn i Syr Rhys ymgartrefu yn ei lys newydd yng Nghastell Caeriw yn sir Benfro rywbryd yn y 1490au. Gellir dyddio’r awdl a ganodd Lewys Glyn Cothi i Syr Rhys ar ôl genedigaeth y tywysog Arthur yn 1486 (gw. uchod).
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)