Y llawysgrifau
Mewn dwy lawysgrif yn unig y cadwyd y gerdd hon, sef Pen 57 (c.1440) a Pen 312, copi gan John Jones, Gellilyfdy, o’r testun yn Pen 57. Ar Pen 57 yn unig, felly, y seiliwyd y testun golygedig. Mae’r testun mewn cyflwr ardderchog, hyd y gellir barnu, ac mae’n debygol fod rhyw gysylltiad agos rhwng y sawl a’i copïodd a’r bardd ei hun.
Trawsysgrifiad: Pen 57.
3 Siancyn Llawysgrif Iankyn. Mae orgraff enwau o darddiad Saesneg yn aml yn amrywio, a siancynn yw ffurf y llawysgrif yn 53 lle mae’r gynghanedd yn cadarnhau s-.
6 ŵyr Rys Awgryma orgraff y llawysgrif (rys) fod Rys wedi ei dreiglo yma, cf. TC 108 am dreiglo ar ôl ŵyr.
12 rhwymwn Felly’r llawysgrif: nid oes sail dros ddarllen rhwymyn fel yn GGl.
13 ni chaf Llawysgrif nychaf, orgraff ganoloesol gyffredin am ni chaf. Nid yw nychaf (GGl) yn gweddu i’r cyd-destun.
20 am aur Gellid hefyd a’m aur, gan nad oes h- yn dilyn ’m yn a’m iarll ychwaith.
53 ap Llawysgrif ab. Diau fod y gwahaniaeth sain yn ansicr o flaen s, gw. yr ymdriniaeth yn CD 210–12, lle nodir mai ynganiad di-lais sydd fwyaf cyffredin o flaen s.
57 a roes Llawysgrif arroes. Mae’r copïydd yn gwahaniaethu’n gyson rhwng r a rh (a sillefir ganddo fel rr neu R), felly mae’n rhaid cymryd mai baglu a wnaeth yma.
Ymranna’r cywydd mawl hwn i Rys ap Siancyn yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf, mae’r pwyslais ar haelioni a pherchentyaeth y noddwr. Mae Rhys yn rhoi gwin ac aur a chig rhost, ac mae enwogrwydd ei wleddoedd wedi ymestyn i’r Gogledd (enwir Môn, Gwynedd a Phowys yn llinellau 18–19). Ond mae’r thema awdurdod yn amlwg iawn hefyd. Cymherir croeso Rhys i’r beirdd sy’n dod â’u mawl â gwaith swyddog ystad neu arglwyddiaeth yn casglu trethi neu renti: mae Rhys yn faer (2), yn rhysyfwr (2), yn rhaglaw (10) ac yn iestus (14). Effaith y trosiadau hyn yw dyrchafu Rhys uwchben y beirdd a phwysleisio ei awdurdod drostynt, gan awgrymu eu bod hwythau’n ddarostyngedig iddo ef. Mae’n debygol fod sail lythrennol i’r trosiadau hyn, sef fod Rhys mewn gwirionedd yn dal swyddi o’r fath. Canmolir hefyd ddysg Rhys, sy’n hysbys i’r byd cyfan (22), yn ogystal â’i gorff cydnerth (26). Cyrchfan i’r beirdd yw bwrdd y gŵr hwn (31–4).
Yn yr ail ran cawn ddarlun diddorol iawn o’r bardd a’i noddwr yn treulio’r oriau gyda’i gilydd yn astudio testunau llenyddol: llyfrau hanes Prydain (Sieffre o Fynwy yn ôl pob tebyg), bucheddau’r seintiau, achau, trioedd, chwedlau a barddoniaeth y gorffennol, gan gynnwys cerddi sy’n mynd mor bell yn ôl â’r ddeuddegfed ganrif – gwaith y Gogynfardd Cynddelw Brydydd Mawr. Unwaith eto pwysleisir awdurdod Rhys ap Siancyn: ef sy’n addysgu’r bardd yn y materion hyn, nid i’r gwrthwyneb (39–40, 49). Daw’r cywydd i ben gan ddymuno hir oes i Rys, lyfr Brytaniaid.
Dyddiad
Mae’r gerdd yn perthyn i’r 1430au. Dyddiad y llawysgrif (c.1440) yw’r unig ganllaw, gan nad yw dyddiadau’r noddwr yn eglur. Mae dyddiad cynharach na chanol y 1430au yn annhebygol am y rheswm nad oes tystiolaeth fod unrhyw un o gerddi Guto’n rhagflaenu’r cyfnod hwnnw, ond ni ellir bod yn sicr am hyn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XCII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 52% (31 llinell), traws 25% (15 llinell), sain 22% (13 llinell), llusg 2% (1 llinell).
2 maer Swyddog a reolai ystad neu arglwyddiaeth dros yr arglwydd, gan ofalu am faterion gweinyddol, ariannol a chyfreithiol, megis casglu trethi a thaliadau, gw. GPC 2311. Yma Rhys yw’r sawl sy’n casglu treth oddi wrth y beirdd, sef eu moliant iddo, cf. y nodyn nesaf.
2 rhysyfwr Swyddog a apwyntid gan arglwydd i dderbyn incwm rhyw dir neu arglwyddiaeth neu nifer o arglwyddiaethau, Saesneg ‘receiver’, gw. GPC 3143. Yma Rhys sy’n derbyn taliad o fawl gan y beirdd.
3 cyrhaeddfawl Gall cyrraedd olygu ‘dal, cael, gafael yn’ a hefyd ‘ymestyn’, gw. GPC 808. Felly’r ergyd yw bod Siancyn wedi ennill mawl, neu o bosibl fod y mawl a gâi yn ymestyn (yn bell). Mae’n debygol fod yr ansoddair hwn yn goleddfu Siancyn yn hytrach na rhwyddfab, ond mae hynny’n bosibilrwydd hefyd.
4 Rhwym a dillyngdawd yr hawl Gall fod ystyron cyfreithiol penodol i’r geiriau yn y llinell hon. Defnyddid hawl yn aml am achos a ddygid gerbron llys, gw. GPC 1828 d.g. hawl1. Gallai rhwym gyfeirio at rwym ariannol neu at garcharu rhywun. Os oedd Rhys yn gwasanaethu fel ustus (cf. 14), byddai’r cyfeiriadau hyn yn ddealladwy.
5 Rholant Nai Siarlymaen, arwr enwog yn y traddodiad Hen Ffrangeg.
7 Rhodri Rhodri Mawr ap Merfyn Frych, brenin Gwynedd c.844–c.878. Cofiai’r beirdd amdano fel teyrn delfrydol.
9 proffwyd Cf. 41n.
10 Glyn-nedd Trigai Rhys ap Siancyn yn Aberpergwm yng Nglyn-nedd, gw. Lynch 1994; Edwards 1980–1.
10 rhaglaw Prif swyddog a chynrychiolydd yr arglwydd mewn cwmwd. Esbonnir rhai o’i ddyletswyddau yn Rees 1924: 95–8. Yn eu plith roedd cyflenwi anghenion y castell, gwysio pobl o flaen llys a’u harestio, a chasglu rhenti.
12 Caniatâi Guto i nd ateb nt, gw. CD 218–19.
12 rhwymwn … fawl Cf. GLGC 41.39–40 Gwrando … / ar rwymo’r awdl orau ym Mhrydyn.
12 rhamant Am yr ystyr ‘rhyfeddod’, a ddatblygodd yn ddiau oherwydd fod rhyfeddodau mor gyffredin mewn rhamantau canoloesol, gw. GPC 3034 a GMBen 21.7 golgant rhamant ‘dihareb o gal gref’.
14 Nudd Nudd ap Senyllt, un o’r Tri Hael, gw. TYP3 5–6, 464–6 a WCD 509. Patrwm o haelioni oedd Nudd, ac am y rheswm hwn fe’i henwir yn aml gan y beirdd.
14 iestus Ffurf ar ustus ‘ynad, barnwr’, gw. GPC 3720.
15 dwg Mae’r gystrawen yn taro braidd yn chwithig ond nid ymddengys fod dehongliad mwy argyhoeddiadol i’w gael. Ceir twg yn golygu ‘digonedd … ffyniant’ yn ôl GPC 3656 d.g. twg2, ond dyfeisiad Iolo Morganwg ydyw yn ôl pob tebyg, a bid a fo am hynny, ni ddisgwylid iddo dreiglo’n feddal ar ôl a. Yn achos GDEp 12.12n A’r ail, da ’muail a dwg, awgryma’r golygydd y gall fod yn ffurf amrywiol ar dug neu’n ffurf trydydd unigol presennol tygio, tycio, ond tywyll yw’r llinell.
16 Gwalchmai Gwalchmai ap Gwyar, nai Arthur mewn rhyddiaith Arthuraidd. Yn ôl y cyfeiriadau prin ato gan y Gogynfeirdd, cesglir ei fod yn arwr a nodweddid gan ffyrnigrwydd ei ymladd, gw. TYP3 367–71 a hefyd GCBM ii, 4.182n.
21–2 Aeth dy air … / Eitha’ byd Mewn Cymraeg Canol gellid rhoi enw cyrchfan heb yr arddodiad i, gw. GMW 227–8.
22 gwybodau Yn wyneb y disgrifiad o ddysg helaeth Rhys sy’n llenwi ail hanner y gerdd, gellir aralleirio hyn yn ‘dysg’. Ond mae’n werth cofio’r ystyron ehangach ‘cwrteisi, boneddigeiddrwydd, moes’ (GPC 1745).
27 Ffawg Ffwg (Fulk) Fitzwarine, arglwydd Whittington yn swydd Amwythig, a fu’n herwr yn amser y Brenin John ac a ddaeth yn arwr y rhamant Eingl-Normanaidd Fouke le fitz Waryn. Cf. GIG III.41.
30 pypr Prisid pupur, fel sbeisys eraill o’r dwyrain, yn uchel iawn yn yr Oesoedd Canol. Gw. Wilson 1973: 277–83 am drafodaeth ar ei bwysigrwydd o amser y Rhufeiniaid ymlaen.
31 can Treiglir ef fel y gair cyntaf mewn sangiad, fe ymddengys, er nad oes angen y treiglad ar gyfer y gynghanedd. Efallai y dylid ei gysylltu â’r gair blaenorol a darllen bwrdd gan ‘bara gwyn bwrdd’.
33 dadlau Gair ac iddo sawl ystyr, gw. GPC 871. Efallai fod Guto yn cymharu llys Rhys ap Siancyn â llys barn, cf. 14.
34 ffair nod Gellid hefyd ‘man cynnal ffair’ neu, yn llai tebygol, ‘cyrchfan hardd’, gw. GPC 1275 d.g. ffair1 a ffair2 a 2587 d.g. nod1.
35 heb ofwy gwg Amwys: gellid ‘heb ymweld â gwg’, hynny yw nid gwg a fydd yn wynebu’r bardd pan ddaw i lys Rhys, neu ‘heb fod gwg yn ymweld â mi’, sef na fydd achos i’r bardd wgu ac yntau’n canmol Rhys.
35–6 gwawd … / Efrawg … o fro Gatwg Efallai nad yw’r gystrawen yn eglur ar y darlleniad cyntaf, ac yn yr aralleiriad bu’n rhaid ad-drefnu’r elfennau er mwyn cyfleu’r ystyr. Yr allwedd yw deall Efrawg yn enidol ar ôl gwawd, a chydio o fro Gatwg wrtho hefyd: gwawd Efrawg o fro Gatwg ‘mawl [iti fel] yr Efrog o fro Cadog’. Hynny yw, Rhys yw Efrog plwyf Llangatwg. Camddeallwyd y llinell yn GGl 356 gan awgrymu ‘fod y bardd Guto ap Siancyn yn dyfod o dueddau Llancarfan [prif eglwys Cadog] neu ryw Langatwg’; hynny yw, cydiwyd o fro Gatwg wrth af. Epithet yn goleddfu Efrawg yw o fro Gatwg, nid y lle mae Guto yn dod ohono.
36 Efrawg Yr Iarll Efrog, tad yr arwr Peredur, hefyd yn enw ar un o frenhinoedd mwyaf pwerus Prydain yn hanes Sieffre o Fynwy, gw. WCD 226.
36 Catwg Roedd Aberpergwm, cartref Rhys ap Siancyn, ym mhlwyf Llangatwg (Cadoxton). Amrywiad ar Cadog yw Catwg. Sant amlycaf Morgannwg oedd Cadog, a’i brif eglwys yn Llancarfan, gw. LBS ii: 14–42.
37 cyfedd Neu ‘cyd-wleddwr, cyd-yfwr’, GPC 688.
38 Bwlaen Boulogne, Ffrainc. Y ffurf arferol yn y farddoniaeth yw Bwlen, cf. GDEp 10.17 a Guto ei hun yn 75.21, 28 yn y golygiad hwn (cadarnheir y ddwy enghraifft hyn gan yr odl). Ond yma mae’r odl yn gwarantu -aen, fel sydd yn y llawysgrif.
39–40 Caf roddi cyfarwyddyd / Ym Oherwydd presenoldeb y gair ym mae’n rhaid deall ‘fe gaf wybodaeth yn cael ei rhoi i mi’ yn hytrach na ‘fe gaf gyfle i roi cyfarwyddyd’. Rhys sy’n addysgu’r bardd, nid i’r gwrthwyneb, cf. 49 hefyd.
40 teiroes byd Pum oes sydd i’r byd fel arfer, sef y cyfnodau cyn dyfodiad Crist (o Adda hyd Noa, o Noa hyd Abraham, o Abraham hyd Foses, o Foses hyd Ddafydd ac o Ddafydd hyd ymgnawdoliad Crist). Sonnir am deiroes byd hefyd gan Lywelyn ap Gutun, gw. GLlGt 2.1–2 Y meibion yn eu mebyd / A droes budd i deiroes byd. Yn y nodyn ar y llinellau hyn esbonia’r golygydd mai ‘y byd o ran ei bresennol, ei orffennol a’i ddyfodol’ yw’r ystyr. Ond gan mai at y bobl a drigai yn ystod y pum oes y cyfeiria pumoes bron yn ddieithriad, siawns nad ‘llawer o bobl’ yw ystyr teiroes yma ac yn yr enghraifft yng ngwaith Llywelyn ap Gutun.
41 Brud Daw’r gair o enw Brutus, cyndaid honedig y Brythoniaid (y Cymry). Gall gyfeirio at lyfrau hanes y Brythoniaid, yn enwedig ‘Historia Regum Britanniae’ gan Sieffre o Fynwy, a droswyd droeon i’r Gymraeg ac a adwaenir yn gyffredinol fel ‘Brut y Brenhinedd’. Ond gall hefyd mai proffwydoliaethau sydd dan sylw yma. Gelwid hwythau’n brud neu’n brut yn yr Oesoedd Canol, am eu bod yn rhag-weld y Cymry’n adfeddiannu Coron Prydain, gw. GPC 334. Mewn perthynas â cronigl (gw. 42n) gwell yw derbyn yr ystyr gyntaf.
41 byriwyd Trosiad am gyfansoddi’r Brud. Defnyddir bwrw am waith y gof yn siapio metel tawdd mewn mold, gw. GPC 356 3(a).
42 cronigl Efallai ei fod yr un peth â brud yma, sef llyfr Sieffre o Fynwy. Posibilrwydd arall yw’r cronicl Cymraeg ‘Brut y Tywysogion’ sy’n dilyn ‘Brut y Brenhinedd’ mewn rhai llawysgrifau.
42 cryno Byddai ‘cyflawn, cynhwysfawr’ hefyd yn addas, gw. GPC 624.
44 Owain Gwynedd Owain ap Gruffudd, tywysog Gwynedd 1137–70.
46 brenhinedd … ein hynys Mae llyfr Sieffre o Fynwy (gw. uchod) yn adrodd hanes nifer fawr o frenhinoedd y Brythoniaid a deyrnasai dros Ynys Prydain i gyd. Er mai ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun oedd y frenhiniaeth hon, credai Cymry’r Oesoedd Canol yn gryf ynddi.
48 trioedd Crynodebau o wybodaeth am hanes a chwedloniaeth y Cymry, wedi eu trefnu’n grwpiau o dri, gw. TYP3 am olygiad o’r rhai a erys.
48 ystorïau Hefyd ‘chwedlau’; nid yw’r ffin rhwng hanes a chwedl, rhwng ffaith a ffuglen, yn hawdd ei thynnu yn yr Oesoedd Canol. Gw. ymhellach Roberts 1974–6 am ystyron y gair hwn yn y Gymraeg.
50 odlau Ffurf luosog arferol awdl yn yr Oesoedd Canol. Awgryma’r cyfeiriad at Gynddelw Brydydd Mawr yn y llinell nesaf mai awdlau’n benodol sydd ym meddwl y bardd yma, ond fe all odlau gyfeirio at gerddi’n gyffredinol.
50 Meiriawn Ni wyddys am fardd o’r enw hwn. Y Meirion enwocaf o lawer oedd Meirion ap Tybion ap Cunedda, sefydlydd cantref Meirionnydd, ac ato ef yn ddieithriad y cyfeiria Meirion yn y farddoniaeth ganoloesol, fe ymddengys. Nid oes sôn amdano fel bardd. Efallai mai ‘awdlau Meirionnydd’ yw’r ergyd, cf. GDB 19.31n. Yn GGl 356 awgrymir bod Meiriawn yn gyfystyr â Phowys yma, ond perthynai Meirionnydd i deyrnas Gwynedd ar adegau hefyd (dyna yn sicr ergyd y cysylltiad ag ŵyr Cunedda, sefydlydd chwedlonol Gwynedd).
52 Cynddelw Cynddelw Brydydd Mawr (fl. c.1155–c.1195), y pwysicaf o Feirdd y Tywysogion.
52 gwead Cyffredin iawn yw arfer delweddau o fyd gwau am lunio barddoniaeth.
52 ceinddwbl Efallai fod ystyr dechnegol i dwbl yma mewn perthynas â gwau. Mae’n werth nodi y cysylltid enw Cynddelw â mesur clogyrnach, mesur arbennig o gain ac astrus, gw. CD 336.
57 tegoes digeirdd Amwys. Ffurf luosog digardd yw digeirdd, gw. GPC 996. Fe’i deellir yma fel sylw am gyfoeth Rhys: dyma’r math o fywyd bras y mae Duw yn ei ganiatáu i’r rhai nad ydynt yn camymddwyn. Ond posibilrwydd arall yw ‘deg oes ddi-nam’; gynt ni threiglid ansoddair ar ôl enw benywaidd yn dilyn rhifolyn uwch na dwy, a hefyd ceir ambell enghraifft o ansoddair lluosog yn sefyll y tu ôl i enw unigol ar ôl rhifolyn, gw. WS 68 lle dyfynnir enghraifft o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ pedair meillonen gwynyon.
58 nid tlawd beirdd Oherwydd fod cyfoeth Rhys yn gwarantu y cânt eu gwobrwyo’n hael ganddo.
Llyfryddiaeth
Edwards, E.E. (1980–1), ‘Cartrefi Noddwyr y Beirdd yn Siroedd Morgannwg a Mynwy’, LlCy 13: 184–206
Lynch, P. (1994), ‘Aberpergwm a’r Traddodiad Nawdd’, H.T. Edwards (gol.), Nedd a Dulais (Llandysul), 1–25
Rees, W. (1924), South Wales and the March 1284–1415: A Social and Agrarian Study (Oxford)
Roberts, B.F. (1974–6), ‘Ystoria’, B xxvi: 13–20
Wilson, C.A. (1973), Food and Drink in Britain from the Stone Age to Recent Times (London)
This cywydd of praise falls into two parts. In the first section, the emphasis is on Rhys ap Siancyn’s generosity and hospitality. He gives wine and gold and roast meat, and the fame of his feasts has reached the North (Anglesey, Gwynedd and Powys are named in lines 18–19). But the theme of authority is also prominent. The welcome which Rhys extends to the poets coming with their praise is compared with the work of an estate or lordship official collecting taxes or rents: Rhys is a maer (2), a rhysyfwr (2), a rhaglaw (10) and a iestus (14). These metaphors elevate Rhys above the poets and emphasize his authority over them, suggesting that they are in turn subject to him. It is likely that Rhys did exercise offices of this kind in reality. The poet also praises Rhys’s learning, which is familiar to all the world (22), and his impressive physique (26). His table is a meeting-place of poets (31–4).
In the second section we find a very interesting description of the poet and his patron passing the hours together in reading literary texts: books of British history (probably Geoffrey of Monmouth), lives of the saints, genealogies, triads, tales and older poetry, including poems which date back as far as the twelfth century – the work of the Gogynfardd Cynddelw Brydydd Mawr. Once more there is an emphasis on Rhys ap Siancyn’s authority: it is he who instructs the poet in these matters, not the other way round (39–40, 49). The poem concludes with a wish that Rhys, ‘the book of the Britons’, may enjoy long life.
Date
This poem belongs to the 1430s. The only guidance is the date of the manuscript (c.1440), since the dates of the patron himself are uncertain. A date earlier than the mid-1430s is unlikely on the grounds that none of Guto’s work can be shown to be earlier than that time, though this is not a certainty.
The manuscripts
This poem is preserved in only two manuscripts, Pen 57 (c.1440) and Pen 312, which is a transcript by John Jones, Gellilyfdy, of the copy in Pen 57. The edited text was therefore based solely on Pen 57. This text is in excellent condition, so far as we can tell, and it is likely that there was some close connection between the scribe and the poet himself.
Previous edition
GGl poem XCII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 52% (31 lines), traws 25% (15 lines), sain 22% (13 lines), llusg 2% (1 line).
2 maer An official who administered an estate or lordship on behalf of its lord, taking care of financial and legal affairs, including the collection of taxes and other payments, see GPC 2311. Here Rhys is the official who collects tax from the poets, namely their praise to him, cf. the next note.
2 rhysyfwr The receiver was an official appointed by a lord to receive revenues from a land or lordship or group of lordships, see OED Online s.v. receiver, n.1. Here it is Rhys who receives a payment of praise from the poets.
3 cyrhaeddfawl Cyrraedd can mean ‘arrive at, attain, get hold of’ and also ‘extend’, see GPC 808. So the idea is that Siancyn won praise, or possibly that the praise which he earned extended (far). This adjective probably qualifies Siancyn rather than rhwyddfab, though the latter is possible.
4 Rhwym a dillyngdawd yr hawl The words in this line may well have specific legal meanings. Hawl was often used of a case or claim brought before a court, see GPC 1828 s.v. hawl1. The word rhwym might refer to a financial bond or even to imprisonment. If Rhys did serve as a justice (cf. 14), these references would be easy to understand.
5 Rholant Roland, the nephew of Charlemagne, a famous hero in the Old French tradition.
7 Rhodri Rhodri Mawr (‘the Great’), king of Gwynedd c.844–c.878, son of Merfyn Frych. The poets remembered him as an ideal ruler.
9 proffwyd Cf. line 41n.
10 Glyn-nedd Rhys ap Siancyn lived at Aberpergwm in Glyn-nedd, see Lynch 1994; Edwards 1980–1.
10 rhaglaw The chief official and representative of the lord in a commote. Some of his duties are explained in Rees 1924: 95–8. Among them were provisioning the castle, summoning people to court and arresting them, and collecting rents. Rees suggests the translation ‘constable’; in Carr 1982: 63 the term ‘bailiff’ is preferred.
12 Guto allows himself the licence to answer the combination nd with nt in cynghanedd, see CD 218–19.
12 rhwymwn … fawl Cf. GLGC 41.39–40 Gwrando … / ar rwymo’r awdl orau ym Mhrydyn (‘Listen … / To the fashioning of the best poem in Britain’).
12 rhamant Literally ‘romance’, but it also developed the meaning ‘marvel, prodigy’, doubtless because marvels occur so frequently in medieval romances. See GPC 3034 and cf. GMBen 21.7 golgant rhamant ‘a prodigious penis’.
14 Nudd Nudd ap Senyllt, one of the ‘Three Generous Men’ recorded in the Triads, see TYP3 5–6, 464–6 and WCD 509. Nudd was an exemplar of generosity, which is why he is named so frequently by the poets.
14 iestus A variant form of ustus ‘justice, magistrate, judge’, see GPC 3720.
15 dwg The syntax seems slightly awkward but there does not appear to be a better interpretation. Twg is found with the meanings ‘plenty … prosperity’ according to GPC 3656 s.v. twg2, but it is very likely a coinage of Iolo Morganwg, and in any case, it should not lenite after a. In the case of GDEp 12.12n A’r ail, da ’muail a dwg, the editor suggests that it may be a variant form of dug ‘duke’ or the third person singular present form of tygio, tycio ‘be of use, avail’, but the line is obscure.
16 Gwalchmai Gwalchmai ap Gwyar, nephew of Arthur in Arthurian literature (equivalent to Gawain in non-Welsh texts). The infrequent references to him by the Gogynfeirdd of the twelfth to fourteenth centuries suggest that he was a hero noted for his ferocity in battle, see TYP3 367–71 and also GCBM ii, 4.182n.
22 Aeth dy air … / Eitha’ byd In Middle Welsh it is possible to use a noun giving a destination without the preposition i ‘to’, see GMW 227–8.
22 gwybodau On the basis of the description of Rhys’s great learning which occupies the second half of the poem, this can be translated as ‘learning’. But it is worth remembering the wider meanings ‘courtesy, politeness, mannerliness’ (GPC 1745).
27 Ffawg Fulk Fitzwarine, lord of Whittington in Shropshire, an outlaw in the time of King John who became the hero of the Anglo-Norman romance Fouke le fitz Waryn. Cf. IGP III.41.
30 pypr Pepper, along with other oriental spices, was highly valued in the Middle Ages. See Wilson 1973: 277–83 for a discussion of its importance from the Roman period onwards.
31 can Lenited in initial position in a sangiad, apparently, even though the cynghanedd does not require lenition here. Perhaps to be read together with the previous word as bwrdd gan ‘white table-bread’.
33 dadlau A word with several meanings, see GPC 871. Perhaps Guto is comparing Rhys ap Siancyn’s court to a court of law, cf. 14.
34 ffair nod Also ‘place to hold a fair’ or, less likely, ‘fine destination’, see GPC 1275 s.v. ffair1 and ffair2 and 2587 s.v. nod1.
35 heb ofwy gwg Ambiguous: ‘without the visitation of a frown’ could mean that the poet will not encounter a frown when he visits Rhys, or that he will have no reason to frown himself, since he is praising Rhys.
35–6 gwawd … / Efrawg … o fro Gatwg The construction is not transparent at first and in the translation the elements have been rearranged to convey the sense. The key is to take all these words together: Efrawg is genitive after gwawd, and o fro Gatwg goes with Efrawg. Understand: ‘praise of [you as] the Efrog of Cadog’s land’. Rhys is the Efrog of the parish of Cadoxton. The phrase was misunderstood in GGl 356 where it is suggested that o fro Gatwg refers to the poet coming from Llancarfan (Cadog’s main church) or ‘some Llangatwg’; in other words, o fro Gatwg has been taken with the verb af. In fact o fro Gatwg qualifies Efrawg. It does not refer to any place from which Guto comes.
36 Efrawg Earl Efrog, the father of the hero Peredur, also the name of one of the most powerful kings of Britain according to Geoffrey of Monmouth, see WCD 226.
36 Catwg Aberpergwm, Rhys ap Siancyn’s home, lay in the parish of Cadoxton (Llangatwg). Catwg is a variant of Cadog. Cadog was the most prominent saint of Glamorgan, with his main church at Llancarfan, see LBS ii: 14–42.
37 cyfedd Or ‘fellow-banqueter, fellow-carouser’, GPC 688.
38 Bwlaen Boulogne, France. The usual form in medieval Welsh poetry is Bwlen, cf. GDEp 10.17 and Guto himself in 75.21, 28 in this edition (both confirmed by rhyme). But here the rhyme guarantees -aen as is found in the manuscript.
39–40 Caf roddi cyfarwyddyd / Ym The word ym is inexplicable unless we understand this as ‘I’ll be given knowledge’ rather than ‘I’ll get to impart knowledge’. It is Rhys who teaches the poet, not vice versa, cf. also 49.
40 teiroes byd The poets normally refer to ‘five ages of the world’, meaning the periods before Christ (from Adam to Noah, from Noah to Abraham, from Abraham to Moses, from Moses to David and from David to the incarnation). But Llywelyn ap Gutun refers to teiroes byd, see GLlGt 2.1–2 Y meibion yn eu mebyd / A droes budd i deiroes byd (‘The lads in their youth / Who bestowed favour on the three ages of the world’). In the note on these lines the editor explains that teiroes byd refers to the past, present and future. But since pumoes almost invariably refers to people who lived during the five ages, it is likely that teiroes means simply ‘a lot of people’ in this line and in the example from Llywelyn ap Gutun.
41 Brud The word derives from the name Brutus, the alleged ancestor of the Britons (i.e. the Welsh). It can refer to works on the history of the Britons, especially the ‘Historia Regum Britanniae’ of Geoffrey of Monmouth, which was translated several times into Welsh and which is generally known in that language as ‘Brut y Brenhinedd’. But the poet may also be referring to prophecies here. They too were called brud or brut in the Middle Ages, since their subject was the eventual recovery by the Britons of the Crown of Britain, see GPC 334. Given the juxtaposition with cronigl (see 42n) it is best to accept the first meaning here.
41 byriwyd A metaphor for the composition of the Brud. Bwrw is used for the action of a smith in shaping molten metal in a mould, see GPC 356 3(a).
42 cronigl Perhaps the same thing as brud here, Geoffrey of Monmouth’s book. Another possibility is the Welsh-language chronicle ‘Brut y Tywysogion’ which follows ‘Brut y Brenhinedd’ in some manuscripts.
42 cryno This could mean ‘complete’ rather than ‘succinct’ here, see GPC 624.
44 Owain Gwynedd Owain ap Gruffudd, Prince of Gwynedd 1137–70.
46 brenhinedd … ein hynys Geoffrey of Monmouth (see above) recounts the history of many kings of the Britons who ruled over the entire island of Britain. Although this kingship existed only in Geoffrey’s imagination, the medieval Welsh believed strongly in it.
48 trioedd Triads, short summaries of lore concerning the history and stories of the Welsh, arranged in groups of three, see TYP3 for an edition of the ones which survive.
48 ystorïau Also ‘tales’; the boundary between history and story, between fact and fiction, is not easy to draw in the Middle Ages. See further Roberts 1974–6 for the meanings of this word in Welsh.
50 odlau The usual plural form of awdl in the Middle Ages. The reference to Cynddelw Brydydd Mawr in the next line may suggest that odlau refers specifically to poems in awdl metre here, but odlau can also mean poems in general.
50 Meiriawn No poet of this name is known. The most famous Meirion by far was Meirion ap Tybion ap Cunedda, the founder of the cantref of Meirionnydd, and in medieval poetry Meirion appears invariably to refer to him. There is no indication that he was known as a poet. Perhaps the sense here is ‘poems of Meirionnydd’, cf. GDB 19.31n. In GGl 356 it is suggested that Meiriawn is synonymous with Powys here, but Meirionnydd also belonged to the kingdom of Gwynedd at times (which is certainly the political message behind the connection with a grandson of Cunedda, the legendary founder of Gwynedd).
52 Cynddelw Cynddelw Brydydd Mawr ‘the tall (or great) poet’ (fl. c.1155–c.1195), the most important of the poets who served the Welsh princes in the two centuries between the arrival of the Normans and the final conquest of Wales in 1282–4.
52 gwead It is very common to use imagery from weaving to describe the fashioning of poetry.
52 ceinddwbl Dwbl may have a technical meaning here to do with weaving. It is worth noting that Cynddelw’s name was associated with the clogyrnach metre, a particularly intricate one, see CD 336.
57 tegoes digeirdd Ambiguous. Digeirdd is the plural form of the adjective digardd, see GPC 996. Here the phrase is understood as a comment on Rhys’s wealth: this is the kind of fine living which God permits to those who do not misbehave. But another possibility is ‘ten faultless ages/lives’; an adjective was not regularly lenited after a feminine noun following a numeral above two, and it was occasionally possible for a plural adjective to qualify a singular noun after a numeral, see WS 68 where an example is offered from the tale of ‘Culhwch and Olwen’ pedair meillonen gwynyon ‘four white clovers’.
58 nid tlawd beirdd Because Rhys’s wealth guarantees that they will be well rewarded.
Bibliography
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Edwards, E.E. (1980–1), ‘Cartrefi Noddwyr y Beirdd yn Siroedd Morgannwg a Mynwy’, LlCy 13: 184–206
Lynch, P. (1994), ‘Aberpergwm a’r Traddodiad Nawdd’, H.T. Edwards (ed.), Nedd a Dulais (Llandysul), 1–25
Rees, W. (1924), South Wales and the March 1284–1415: A Social and Agrarian Study (Oxford)
Roberts, B.F. (1974–6), ‘Ystoria’, B xxvi: 13–20
Wilson, C.A. (1973), Food and Drink in Britain from the Stone Age to Recent Times (London)
Rhys ap Siancyn ap Rhys yw gwrthrych cerdd 15. Trigai yn Aberpergwm ym mhlwyf Llangatwg, Glyn-nedd. Rhys yw’r aelod cyntaf o’i linach y gwyddom iddo noddi beirdd, a cheir cerddi eraill iddo gan Ieuan ap Hywel Swrdwal a Hywel Dafi (GHS cerdd 27; Lynch 1994: 16–17). Canodd nifer o feirdd eraill i’w fab Siôn, gan gynnwys Lewys Glyn Cothi, ac eraill eto i’w ŵyr Rhys ap Siôn (Lynch 1994; Edwards 1980–1: 193–4).
Achres
Disgynnydd i Einion ap Gollwyn o Wynedd oedd Rhys yn ôl yr achau (WG1 ‘Einion ap Gollwyn’ 11; WG2 ‘Einion ap Gollwyn’ 11 (F1)). Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir gan Guto, a thanlinellir enw’r noddwr.
Achres Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd
Ei ddyddiadau
Nid yw ei ddyddiadau yn sicr o gwbl, ond canwyd cerdd 15 erbyn c.1440, pan luniwyd llawysgrif Pen 57.
Arall
Mae’r pwyslais a roddir gan Guto ar ddysg Rhys ap Siancyn yn ddigamsyniol. Awgryma Guto ei fod yn ymhél â phroffwydo (15.9) yn ogystal â’i fod yn hyddysg yn y prif fathau o ddeunydd ysgrifenedig a oedd o ddiddordeb i Gymry uchelwrol yn y cyfnod hwn (15.41–52). Clywir y neges hon yn glir eto yn y cerddi eraill a dderbyniodd ef a’i ddisgynyddion.
Mae’n bosibl mai merch Rhys ap Siencyn oedd Gwladus, yr honna Guto yng ngherdd 34 fod Harri Gruffudd a’r bardd Ieuan Gethin yn ymgiprys am ei serch, gw. 34.2n (esboniadol).
Llyfryddiaeth
Edwards, E.E. (1980–1), ‘Cartrefi Noddwyr y Beirdd yn Siroedd Morgannwg a Mynwy’, LlCy 13: 184–206
Lynch, P. (1994), ‘Aberpergwm a’r Traddodiad Nawdd’, H.T. Edwards (gol.), Nedd a Dulais (Llandysul), 1–25