Y llawysgrif
Un copi yn unig sydd ar glawr o’r gerdd hon, sef Pen 57 (c.1440). Perthyn y llawysgrif i ddyddiad yn ystod gyrfa gynnar Guto’r Glyn ei hun, ac mae’r testun mewn cyflwr ardderchog.
Trawsysgrifiad: Pen 57.
3 anwydau GGl A nwydau. Un gair yn y llawysgrif, ond tueddir yno i ysgrifennu gair diacen ynghlwm wrth y gair acennog sy’n dilyn. Ceir cymorth yn GPC2 344 d.g. annwyd1, lle nodir mai adffurfiad o anwydau yw nwyd, na cheir enghraifft ohono cyn 1595. Awgrymir yno y dylid darllen anwydau yma.
30 Dudful Sillefir yr enw ag y yn yr ail sillaf ddwywaith yn y llawysgrif, sef yma ac yn llinell 62, ond fel Dudful yn llinell 72, lle mae’r gynghanedd sain yn ffafrio u. Er cysondeb mabwysiadwyd Tudful, y ffurf arferol heddiw.
45 Gennydd Felly’r llawysgrif; diwygiad diangen yw gynnydd yn GGl.
50 hwn Llawysgrif honn, camgymeriad syml.
Dyma gywydd mawl i eglwyswr, sef Syr Wiliam, offeiriad Merthyr Tudful ym Morgannwg, sy’n datblygu un ddelwedd gyson ar ei hyd: yr offeiriad yn fardd serch sy’n ymrwymedig i wasanaeth ei nawddsantes. Yn y llinellau agoriadol (1–16), mae Guto’n disgrifio ymddygiad y bardd serch arferol sy’n canu i lu o ferched yn ddiwahaniaeth yn y gobaith o ennill ei wobr (sâl) gan bob un. Mae cynildeb chwareus yn ieithwedd Guto sy’n gadael cil y drws ar agor i’r posibilrwydd fod Guto yn ei gynnwys ef ei hun yn rhengoedd y beirdd hyn, er gwaethaf y ffaith nad oes unrhyw ganu serch wedi goroesi dan ei enw. Cwbl wahanol, wrth gwrs, yw’r ffordd y mae Guto’n brolio agwedd ddiwair yr offeiriad, Syr Wiliam, at ei gariad yntau, Santes Tudful. Darlunnir Wiliam yn gwneud yr un pethau yn union ag a wna cariadon bydol (17–42): mae’n crefu am y cyfle i siarad â hi, mae’n marw o serch ac mae’n gyrru llateion, sef negeswyr serch, at Dduw i ofyn iddo anrhegu’r ferch yn hael yn gyfnewid am ei ffafr. Mae yntau’n addo anrhegion iddi hefyd. Ond anrhegion duwiolfrydig yw’r rhai a roddir ganddo: clychau newydd a rhoddion hael eraill ar gyfer addurno eglwys Tudful. Ac mae’r ferch, hithau, yn ymateb yn ffafriol. Yn wahanol iawn i’r agwedd ddirmygus a arddelir gan y ferch mewn llawer o gerddi serch canoloesol, mae Tudful yn gyson ffyddlon i’w chariad (43–6). Â Guto ymlaen i restru’r cyneddfau sy’n gwneud Syr Wiliam yn deilwng o ymlyniad teyrngar ei gariad: ei dras uchelwrol, ei berchentyaeth, ei dduwiolfrydedd, ei ddoethineb a’i haelioni (47–58). Disgrifir wedyn ei wasanaeth ‘barddol’ tuag ati, sef gweini’r offeren yn ei heglwys, a chanu emynau Lladin iddi, efallai (gw. 70n). Yn y llinellau olaf, mae delwedd y cariadon yn cyrraedd diweddglo teilwng: Tudful yw’r ferch y mae Syr Wiliam yn trefnu oed (cyfarfod) â hi ar ddydd Sul, a bydd y ddau’n gwneud oed terfynol â’i gilydd yn y nef.
Dyddiad
Perthyn i’r 1430au. Dyddiad y llawysgrif (c.1440) yw’r unig ganllaw, gan na wyddys dim am y noddwr. Mae dyddiad cynharach na chanol y 1430au yn annhebygol gan nad oes tystiolaeth fod unrhyw un o gerddi Guto’n rhagflaenu’r cyfnod hwnnw, ond ni ellir bod yn sicr am hyn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XCIII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 76 llinell.
Cynghanedd: croes 62% (47 llinell), traws 26% (20 llinell), sain 11% (8 llinell), llusg 1% (1 llinell).
4 ocr Gw. GPC 2613 d.g. ocr1. Usuriaeth, rhoi benthyg arian ar log, gweithred a ystyrid yn bechadurus gan yr eglwys ganoloesol, er mor gyffredin ydoedd.
4 sâl Gw. GPC 3171 d.g. sâl2 ‘tâl … gwobr, budd, elw’. Derbyn tâl neu wobr am ganu cerddi serch i fwy nag un ferch yw’r gŵyn. Nid yw Guto yn ymhelaethu am y wobr y dymunir ei chael, boed yn un rhywiol neu’n rhodd o arian. Er y byddai’r ansoddair sâl ‘gwael’ yn gweddu’n dda yma, nid oes enghraifft ohono mor gynnar â chyfnod Guto’r Glyn, gw. GPC 3171 d.g. sâl1.
5 hwyrfun Y tebyg yw bod y defnydd o hwyr i ganmol merch i’w gysylltu â’r ystyron ‘araf, di-frys’, gw. GPC 1942 (b) a (c). Merch sy’n symud yn osgeiddig yw hwyrfun.
5 hirfyw Nid yw ‘hirhoedlog’ yn berthnasol yma, gthg. GPC 1872. Gwell ‘tal a bywiog’.
9 nis priodai Myn y synnwyr mai’r carwr sy’n gwrthod priodi’r ferch, yn hytrach na’r gwrthwyneb.
12 brawdwr Delwedd annisgwyl. Efallai mai’r ergyd yw bod y carwr sy’n canmol pob merch fel barnwr sy’n barnu’n ddiduedd bob achos sy’n dod o’i flaen, heb unrhyw deyrngarwch personol.
12 llon Gall olygu ‘cadarn’ yn ogystal â ‘llawen’, gw. GPC 2206. Yn y cyd-destun, efallai mai ‘di-fraw’ neu ‘hyderus’ sy’n gweddu orau. Nid un i ildio i gywilydd yw’r bardd serch a ddisgrifir.
13 clytiwr awdl Mae’n ailgylchu’r un hen gerdd serch ar gyfer pob merch sy’n mynd â’i fryd.
19 Trahaearn Tad y noddwr, o bosibl, gan ei bod yn arferol crybwyll enw’r tad mewn cerdd fawl, ond ni ellir bod yn sicr.
21 Mordaf Gw. WCD 483 a TYP3 451–2 ar gyfer Mordaf Hael ap Serfan, un o’r Tri Hael.
21 côr Y côr neu’n fwy cyffredinol y gangell, rhan ddwyreiniol eglwys, lle saif yr allor fawr. Yn yr Oesoedd Canol, clerigwyr yn unig a gâi fynd i’r rhan hon, gw. Bywyd Crefyddol.
22 Merthyr Merthyr Tudful.
27 diymwad deml Sangiad annelwig. Efallai mai cyfeiriad cyffredinol at eglwys Syr Wiliam ydyw, neu un ffigurol ato ef ei hun fel man a gysegrwyd i wasanaeth ei nawddsantes.
29 gwlad y wledd Am yr ystyr ‘nef’, cf. GIRh 3.135–6 Caf, a deuaf o’r diwedd, / Cyflawn rad, i wlad y wledd.
30 Tudful Nawddsantes Merthyr Tudful, Morgannwg. Ni chadwyd na buchedd na cherdd iddi ac felly mae’r traddodiadau amdani wedi mynd i ebargofiant. Meddylid amdani fel merthyres, ar sail yr enw lle, ond nid yw ystyr wreiddiol merthyr (o’r Lladin martyrium) yn eglur: ymddengys i’r gair ddod i olygu ‘eglwys’ yn syml, gw. Roberts 1992: 42, ac nad oes a wnelo â merthyrdod. Crynhoir yr ychydig sy’n hysbys o’r traddodiadau amdani yn LBS iv: 286–7, ond o ffugiadau Iolo Morganwg y daw’r rhan fwyaf o’r hyn a ddywedir yno.
33 fal y gŵyr Môn Hynny yw, mae’n ffaith gydnabyddedig mor bell â Môn, y pen pellaf i’r wlad.
34 at Duw Mae’r calediad t + d = t wedi atal y treiglad meddal a ddisgwylid.
34 llateion Negesydd y mae bardd yn dychmygu ei anfon at ferch yw llatai. Fel arfer, aderyn neu anifail a ddewisir, gw. GPC 2099. Yma mae’n ffigurol: gweddïau Syr Wiliam yw ei lateion ef (35–6).
36 llên Am ystyron llên, gw. GPC 2152. Cwmpasai’r gair y syniad o ‘llenyddiaeth’ a ‘dysg ysgrifenedig’ yn gyffredinol, yn ogystal â’r ysgrythur yn benodol. Gelwid eglwyswyr yn wŷr llên yn yr Oesoedd Canol. Cf. 46.
40 crwys Gall fod yn unigol neu’n lluosog, gw. GPC 618. Mae’r cyd-destun o blaid y lluosog yma ac yn ôl pob tebyg hefyd yn 109.25.
41 A hon beunydd a’i hannerch Pwy yw pwy yn y llinell hon? Gallai hon, sy’n cyfeirio at Dudful, fod yn oddrych neu’n wrthrych y ferf. Nid yw’r rhagenw mewnol yn a’i hannerch yn datrys y broblem ychwaith, oherwydd mewn Cymraeg Canol gellir defnyddio rhagenw mewnol i atgyfnerthu gwrthrych a grybwyllwyd eisoes. Ar sail y ffaith fod 33–40 yn trafod anerchiadau’r offeiriad at y santes, cymerir bod hyn yn parhau yn y cwpled hwn hefyd. Felly, gwrthrych y ferf yw hon, atgyfnerthu’r gwrthrych a wna’r rhagenw ’i, a goddrych dealledig y ferf annerch yw Syr Wiliam. Eto, ar sail y ffaith ddiymwad mai Tudful yw goddrych y ferf yn 43, gellid dadlau dros dderbyn hon yn oddrych yma hefyd. Os felly, Syr Wiliam yw’r rhagenw gwrthrychol ’i. Mae 42 yr un mor broblemus.
42 Yn ei swydd, un yw â’i serch Unwaith eto mae’r rhagenwau yn amwys. Gan ddilyn y dehongliad a dderbyniwyd ar gyfer 41, deellir bod Syr Wiliam yn annerch Tudful yn rhinwedd ei swydd (yn ei swydd) a bod y bardd yn honni mai’r un peth yw swydd Syr Wiliam â charu ei nawddsantes. Ond os swydd Tudful ydyw ei swydd (cf. y nodyn blaenorol), yna gellid cymharu hyn â GMB 27.28 Eiryolwch, sefwch yn ych swytau (i’r seintiau). Byddai swydd Tudful yn gyfystyr â charu ei hoffeiriad hi. Cymhlethdod arall yw y gellid deall serch yn ferf (‘un ydyw ef/hi sy’n ei garu/charu’). Ceir dwy enghraifft o’r ferf gan Gasnodyn (GC 4.7–8), ac er bod peth ansicrwydd yn eu cylch yn ôl GPC 3227, nid yw’n hawdd eu hesbonio mewn modd arall.
45 Cennydd Nawddsant Llangennydd, Gŵyr. Gw. LBS ii: 107–15.
48 addwyn dyn Am y calediad dd = d ar ôl n, gw. TC 26–7.
48 addwyn Am yr ystyr ‘addas’ gw. GPC2 80 d.g. addwyn1. Nodir enghraifft yno lle y’i defnyddir i gyfieithu’r Lladin idoneus.
52 plaid Yr ergyd yw y gallai Syr Wiliam brofi ei dras uchelwrol drwy arddangos yr ysgwieriaid sy’n berthnasau iddo.
53 Urien Urien ap Cynfarch, brenin Rheged, teyrnas a leolid rywle yng ngogledd Prydain yn y chweched ganrif.
64 hwyl Yn ramadegol gallai’n hawdd fod yn wrthrych y ferf prydu, a byddai hynny hefyd yn osgoi gwrthdaro rhwng goslef y frawddeg a’r gynghanedd. Ond mae’n anodd deall prydu hwyl. Hefyd mae 65 yn cynnwys gwrthrychau mwy addas ar gyfer prydu.
70 o ramadeg Gw. GPC 1523. Mae sawl rheswm dros gredu mai barddoniaeth Ladin a olygir yma, ac nid Cymraeg. Yn gyntaf, grammatica oedd yr enw canoloesol ar bopeth a gysylltid â dysgu’r iaith Ladin: yr wyddor a dysgu darllen ac ysgrifennu; darllen yn uchel ac atalnodi; yr hyn a alwn ni heddiw’n ramadeg, sef ffurfiau a chystrawen; elfennau iaith ffigurol a’r troeon ymadrodd; a mydryddiaeth. Meistroli grammatica oedd prif nod addysg elfennol, a grammatica oedd sylfaen addysg yn yr Oesoedd Canol. At y pwnc hwn yn ei grynswth y mae’r gair gramadeg yn cyfeirio mewn Cymraeg Canol, cf. 18.46, 102.25 a 115.24; ym mhob un o’r achosion hyn, brolio dysg Ladin y gwrthrych yw ergyd y cyfeiriad. Er ein bod ni heddiw yn galw’r traethodau ar gerdd dafod Gymraeg a grewyd yn yr Oesoedd Canol yn ‘Gramadegau’r Penceirddiaid’, nid yw’n sicr fod unrhyw un yn y cyfnod ei hun yn arfer y gair gramadeg i’w disgrifio: cerddwriaeth yw’r enw a roddir ar gynnwys y testunau hyn yn y llawysgrifau, os ceir enw o gwbl (GP xli). Rheswm arall dros feddwl mai Lladin yw’r iaith dan sylw yma yw’r cyd-destun. Mae’r bardd newydd gyflwyno’r ddelwedd o’i noddwr yn canu awdlau a chywyddau i’r santes. Mae wedi esbonio mai’r offeren yw’r cywyddau. Disgwylid chwarae tebyg ar y gair awdlau: dylent hwythau fod yn rhyw fath o gyfansoddiadau Lladin. Nid yw o reidrwydd yn dweud bod Syr Wiliam yn cyfansoddi barddoniaeth Ladin ar gyfer Tudful, fodd bynnag. Mae’n bosibl mai sôn yn llac am ganmol Tudful fel rhan o’r gwasanaethau eglwysig y mae Guto yma.
72 Sul Mae arwyddocâd deublyg i’r diwrnod, yn ôl pob tebyg. Yn gyntaf, mae Syr Wiliam yn anrhydeddu Tudful ar y diwrnod hwnnw drwy gyfrwng y gwasanaeth eglwysig. Ond y tebyg yw mai dydd Sul, oherwydd ei fod yn cynnig amser hamdden a chyfle i fynd i’r eglwys a chymysgu â phobl eraill, oedd yr amser mwyaf cyffredin i gariadon gwrdd â’i gilydd, cf. cywydd Dafydd ap Gwilym, ‘Merched Llanbadarn’, lle mae Dafydd yn nodi ei fod yn treulio pob dydd Sul yn ceisio denu sylw merched yn yr eglwys (DG.net 137.19–22). Felly mae Tudful yn dewis Syr Wiliam yn gariad ar y diwrnod hwn.
Llyfryddiaeth
Roberts, T. (1992), ‘Welsh Ecclesiastical Place-names and Archaeology’, N. Edwards and A. Lane (eds.), The Early Church in Wales and the West (Oxford), 41–4
This is a poem of praise to a cleric, Sir William, priest of Merthyr Tydfil in Glamorgan, which develops a single consistent image throughout: the priest as a love poet devoted to the service of his female patron saint. In the opening lines (1–16), Guto describes the behaviour of the typical love poet who sings to a host of different girls without prejudice, in the hope of earning his reward (sâl) from each one. Guto’s careful language rather playfully leaves open the possibility that he might be including himself in this group of poets, in spite of the lack of love poems among his surviving works. All this, of course, is in stark contrast to the chaste attitude of the priest, Sir William, to his own lover, St Tudful. He is shown doing precisely the same things as the worldly lover (17–42): he yearns for the chance to speak with her, he is dying of love and he sends llateion, or love messengers, begging God to give the girl rich rewards in exchange for her favour, while he himself promises her gifts of his own as well. But his gifts are pious ones: new bells and other generous offerings to adorn her church. And the girl, too, responds favourably. In great contrast to the contemptuous attitude which girls show in many medieval love poems, Tudful is consistently loyal to her lover (43–6). Guto proceeds to set out the qualities which make Sir William worthy of her faithful devotion: his gentle lineage, his role as head of a household, his piety, his wisdom and his generosity (47–58). Next Guto describes Sir William’s service to her as a ‘poet’: he performs mass in her church, and possibly sings Latin hymns in her honour (see 70n). In the closing lines, the image of the lovers reaches a fitting conclusion: Tudful is the girl with whom Sir William makes a lovers’ tryst on Sunday, and the pair of them will make a final tryst together in heaven.
Date
This poem belongs to the 1430s. The only guidance is the date of the manuscript (c.1440), since nothing is known of the patron himself. A date earlier than the mid-1430s is unlikely on the grounds that none of Guto’s work can be shown to be earlier than that time, though this is not a certainty.
The manuscript
Only one copy of this poem survives, namely Pen 57 (c.1440). The manuscript dates from a time during Guto’r Glyn’s early career, and the text is in excellent condition.
Previous edition
GGl poem XCIII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 76 lines.
Cynghanedd: croes 62% (47 lines), traws 26% (20 lines), sain 11% (8 lines), llusg 1 1% (1 line).
4 ocr See GPC 2613 s.v. ocr1. Usury, lending money at interest. This was an activity considered sinful by the medieval church, however commonplace in fact.
4 sâl See GPC 3171 s.v. sâl2 ‘payment, recompense, reward, gain’. The complaint is against those who compose love poems for more than one girl in the expectation of payment or reward. Guto does not tell us whether the reward which they hope to receive is sexual or financial. Sâl is not likely to be the modern adjective sâl ‘base, vile’, since there is no example of it as early as Guto’r Glyn, see GPC 3171 s.v. sâl1.
5 hwyrfun Hwyr as an epithet for girls should probably be associated with the meanings ‘slow, long, tardy’, see GPC 1942 (b) and (c). A hwyrfun is a girl who moves elegantly.
5 hirfyw ‘Long-lived’ does not fit here, contrary to GPC 1872. Better is ‘tall and lively’.
9 nis priodai The sense requires that it is the promiscuous lover who refuses marriage, rather than the girl.
12 brawdwr An unexpected image. Perhaps the sense is that the lover who praises every girl is like a judge who judges every case before him impartially, without personal loyalties.
12 llon Can mean ‘strong’ as well as ‘happy’, see GPC 2206. In the context, ‘confident’ seems to be the best translation. Our brazen love poet is not the kind to yield to shame.
13 clytiwr awdl He recycles the same old love poem for any girl who takes his fancy.
19 Trahaearn The patron’s father, possibly, since it is customary to name the father in a praise poem, but we cannot be certain.
21 Mordaf See WCD 483 and TYP3 451–2 for Mordaf Hael ap Serfan, one of the ‘Three Generous Men’.
21 côr The choir or, more broadly, the chancel, the eastern part of a church, where the high altar stands. In the Middle Ages, only clergy were permitted inside this part of the church, see Faith and Religion.
22 Merthyr Merthyr Tydfil.
27 diymwad deml A vague sangiad. Perhaps it simply refers to Sir William’s church, or else figuratively to Sir William himself as a space consecrated to the service of his patroness.
29 gwlad y wledd Literally ‘the land of the feast’. For the meaning ‘heaven’, cf. GIRh 3.135–6 Caf, a deuaf o’r diwedd, / Cyflawn rad, i wlad y wledd (‘I will have complete grace, / And come, at the end, to the land of the feast’).
30 Tudful The patron saint of Merthyr Tydfil, Glamorgan. No life of this saint or poem addressed to her has survived, and so the traditions which must once have surrounded her have been lost. Because of the place name Merthyr she was thought to be a martyr, but the original meaning of merthyr (from Latin martyrium) is not so clear: it appears that it came to mean simply ‘church’, see Roberts 1992: 42, and has nothing to do with martyrdom. The little which is known of the traditions about Tudful is collected in LBS iv: 286–7, but most of what is said there derives from the forgeries of Iolo Morganwg.
33 fal y gŵyr Môn I.e., it is an acknowledged fact as far away as Anglesey, at the opposite extreme of the country.
34 at Duw The hardening t + d = t has prevented the expected lenition.
34 llateion A llatai is a love messenger which a poet imagines sending to a girl. Usually a bird or animal is chosen as a llatai, see GPC 2099. Here the usage is figurative: Sir William’s llateion are his prayers (35–6).
36 llên For the meanings of llên, see GPC 2152. It included ‘literature’ and ‘written knowledge’ in general, as well as more specifically ‘scripture’. Churchmen could be called gwŷr llên in the Middle Ages. Cf. 46.
40 crwys This form can be singular or plural, see GPC 618. The context favours the plural here as is also probably true in 109.25.
41 A hon beunydd a’i hannerch Who is who in this line? The pronoun hon, which refers to Tudful, could be the subject or the object of the verb. Nor does the infixed object pronoun in a’i hannerch solve the problem, since in Middle Welsh it is possible to use an infixed object pronoun to reinforce an object which has already been mentioned. Since 33–40 deal with the priest’s addresses to the saint, it is assumed that this theme continues in this couplet. Accordingly, hon is the object, the pronoun ’i is simply reinforcing it, and Sir William is the understood subject. Nevertheless, given that Tudful is undoubtedly the subject of the verb in 43, it is possible to argue for hon as the subject here too. If so, the infix ’i represents Sir William. Line 42 is just as problematic.
42 Yn ei swydd, un yw â’i serch Once again the pronouns are ambiguous. Following the interpretation accepted for 41, Sir William is taken to be addressing Tudful in his proper role (yn ei swydd); the poet is saying that Sir William’s role is essentially to love his patron saint. But if ei swydd refers to Tudful’s role (cf. previous note), then we might compare the address to the saints in GMB 27.28 Eiryolwch, sefwch yn ych swytau (‘Intercede, do your bit’ (literally, ‘stand in your offices’)). Tudful’s role would then be synonymous with loving her priest. A further complication is that serch could be a verb (‘he/she is one who loves him/her’). Casnodyn has two examples of the verb (GC 4.7–8), and although GPC 3227 expresses doubt about them, they are hard to explain in any other way.
45 Cennydd The patron saint of Llangennydd (Llangennith), Gower. See LBS ii: 107–15.
48 addwyn dyn For the delenition dd = d after n, see TC 26–7.
48 addwyn For the meaning ‘suitable’, see GPC2 80 s.v. addwyn1. An example is given there in which it translates Latin idoneus.
52plaid The sense is that Sir William could demonstrate his lineage by showing off his relatives who have the rank of esquire.
53 Urien Urien ap Cynfarch, king of Rheged, a kingdom which lay somewhere in northern Britain in the sixth century.
64 hwyl Grammatically, this could easily be the object of the verb prydu, and that would also avoid having the accents of the sentence clashing with the cynghanedd. But it is difficult to understand prydu hwyl. In any case 65 provides more suitable objects for prydu.
65 odlau Awdlau, poems in monorhyme or in sections of monorhyme.
66 cywyddau Poems in cywydd metre, the commonest poetic metre in late medieval Welsh (and the metre of the present poem).
70 o ramadeg See GPC 1523. There are several reasons for thinking that Latin verse is intended here, not Welsh. Firstly, grammatica was the medieval name for everything connected with learning Latin: the alphabet and learning to read and write; reading aloud and punctuation; what we call grammar today, namely inflection and syntax; the elements of figurative language and the turns of speech; and metrics. Mastery of grammatica was the main aim of elementary education, and grammatica was the foundation of all education in the Middle Ages. This is what the word gramadeg refers to in Middle Welsh, cf. 18.46, 102.25 and 115.24; in each of these instances, the poet is praising his patrons’ abilities in Latin. Although we today call the medieval Welsh treatises on poetry ‘Gramadegau’r Penceirddiaid’, it is far from clear that contemporaries used the term gramadeg to describe them: their contents are generally described as cerddwriaeth in the manuscripts, if called anything at all (GP xli). Another reason for thinking that Latin is meant here is the context. The poet has just introduced the image of Sir William singing awdlau and cywyddau to St Tudful. He has just explained that by cywydd he means the mass. We should expect a similar conceit in awdlau, which should refer to some kind of Latin composition. This does not necessarily mean that Sir William composed Latin poetry. It is quite possible that Guto is loosely describing praise of St Tudful which formed part of the church services.
72 Sul Sunday has a double significance, in all likelihood. Firstly, Sir William honours St Tudful on this day by performing divine service. But it is also likely that Sunday, with its leisure and opportunity to meet people at church, was the commonest time for lovers to meet, cf. Dafydd ap Gwilym’s poem, ‘The Girls of Llanbadarn’, where Dafydd explains that he spends every Sunday trying to attract the attention of the girls in church (DG.net 137.19–22). Thus Tudful chooses Sir William as her lover on that day.
Bibliography
Roberts, T. (1992), ‘Welsh Ecclesiastical Place-names and Archaeology’, Nancy Edwards and Alan Lane (eds.), The Early Church in Wales and the West (Oxford), 41–4
Nid oes dim byd yn hysbys am y gŵr hwn ac eithrio’r hyn a ddywed Guto yn ei unig gywydd iddo, sef cerdd 16. Teitl a roddid yn yr Oesoedd Canol i offeiriaid heb radd oedd Syr (nid yw’n arwydd fod Wiliam yn farchog). Tad Syr Wiliam, yn ôl pob tebyg, yw’r Trahaearn a enwir yn llinell 19, ond serch hynny ni ellir lleoli Syr Wiliam yn yr achau. Nodir dau Wiliam ap Trahaearn o Forgannwg yn WG2, ond gwŷr priod ac iddynt blant oedd y ddau, rhywbeth y byddai’n anodd ei gysoni â phwyslais Guto yn y cywydd hwn ar ddiweirdeb yr offeiriad. Hefyd mae’r ddau yn perthyn i genhedlaeth 13, yr un genhedlaeth â Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, nad oedd eto’n oedolyn yn 1469, ac felly roeddent yn byw yn rhy ddiweddar ar gyfer y gerdd hon, a gofnodwyd c.1440 (gw. nodiadau testunol).
Awgryma Guto fod Syr Wiliam yn enedigol o blwyf Merthyr Tudful ei hun (46) a bod ganddo berthnasau yno sy’n wŷr o dras (51–2). Gan fod Syr Wiliam wedi gwario cryn arian ar atgyweirio ac addurno’r eglwys, heb sôn am groesawu’r beirdd i’w gartref, mae’n ymddangos ei fod yn ŵr o sylwedd. Honna Guto ei fod yn addysgedig hefyd (cf. 19, 35–6, 70).