Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 34 llawysgrif. Fel yn achos cerddi eraill Guto’r Glyn, mae LlGC 3049D, LlGC 8497B a Gwyn 4 yn ffurfio grŵp sy’n tarddu, yn ôl pob tebyg, o gynsail gyffredin. Gelwir hwy yn ‘grŵp Dyffryn Conwy’ isod. Mae LlGC 17114B yn ochri â hwy gan mwyaf. Mae dau o gopïau Wmffre Dafis, sef LlGC 3056D a Llst 35, bron yn unffurf â’i gilydd, fel hefyd CM 5. Penbleth yw copi arall Wmffre Dafis, Brog I.2, sydd weithiau’n rhannu darlleniadau unigryw y grŵp hwn, ond weithiau hefyd yn anghytuno’n sylfaenol â hwy. Amheuaf fod Brog I.2 yn gopi cyfansawdd, wedi ei seilio’n rhannol ar gynsail LlGC 3056D, Llst 35 a CM 5, ac yn rhannol ar gopi arall. Mae LlGC 3057D a C 2.114 yn debyg iawn i’w gilydd, ond nid yw eu hunion berthynas yn eglur. Cytuna C 3.37 â hwy weithiau, ond droeon eraill â grŵp Dyffryn Conwy. Fel yn achos cerddi eraill Guto’r Glyn, mae Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn (yn yr achos hwn LlGC 21290E, Llst 134, LlGC 970E a C 5.44), yn debyg i’w gilydd ond eto heb fod union natur y berthynas yn amlwg. Yn olaf, mae Llst 155 a LlGC 3047C yn gopïau sâl ac anodd eu cysylltu â’r lleill. Mae’r copïau eraill yn ddibynnol ar y rhai a enwyd neu’n rhy debyg iddynt i haeddu sylw pellach. At ei gilydd mae’r copïau’n debyg iawn, fel y gellir amau bod un gynsail y tu ôl iddynt oll yn y pen draw. Wrth olygu’r gerdd rhoddwyd sylw i’r holl lawysgrifau a enwyd uchod, sef 18 ohonynt i gyd.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, LlGC 17114B, LlGC 3056D, LlGC 3057D.
1 y Nis ceir yn LlGC 17114B, copïau Wmffre Dafis na LlGC 3057D.
3 fydd Gthg. tri chopi Wmffre Dafis, CM 5 a LlGC 3047C fyth (cywirwyd yn fydd yn yr olaf).
3 nis gorfyddwn Ni rydd y gair hwn gynghanedd gywir yn y chwe chopi lle ceir fyth yn hanner cyntaf y llinell (gw. y nodyn blaenorol). Gwelwyd eisoes fod LlGC 3047C wedi newid fyth yn fydd gan adfer y gynghanedd. Yn CM 5 ar y llaw arall ceir nis gorfythwn yn ail hanner y llinell, ac yn Brog I.2 nid esgorwnn, darlleniad cwbl wahanol ond sy’n cynganeddu ag os gwir (yn hytrach na fyth). Yn ei ddau gopi arall cadwodd Wmffre Dafis y gynghanedd wallus.
4 och LlGC 3056D, Llst 35, CM 5, Stowe 959, Llywelyn Siôn a LlGC 3047C gwae, ond och yn y lleill, gan gynnwys copi arall Wmffre Dafis, Brog I.2. Mae’r dystiolaeth yn gyfartal yma ond mae’r cymeriad yn ffafrio och. Prin fod gwahaniaeth o ran ystyr.
4 och finnau, os gau Llywelyn Siôn os gav gwae vinnav, cystrawen symlach sydd hefyd yn creu cymeriad boddhaol â dechrau llinell 3, ond mae’r holl gopïau eraill o blaid y drefn a ddilynwyd yn y testun.
4 os CM 5 od, C 2.114 oy.
4 nas Grŵp Dyffryn Conwy a C 3.37 nis, CM 5 nad.
5 dal Syr Llst 155 dala sr’, rhy hir o sillaf; Llywelyn Siôn dala, heb syr.
7 pam nad LlGC 3049D pan a d-, LlGC 8497B pannad, Gwyn 4, LlGC 21290E a LlGC 3047C pan nad, LlGC 17114B panad; pam nad yn y lleill. Fe geir panad (pa nad) yn yr ystyr ponid, sef yn cyflwyno cwestiwn negyddol, gw. GPC 2848 d.g. ponid2. Fodd bynnag, mae mwyafrif y copïau o blaid pam nad yma.
7–8 wylym … / … ym Gthg. Brog I.2, Stowe 959 a Llywelyn Siôn wylyn … yn, LlGC 3057D a C 2.114 wylym … yn (cywirwyd wylym yn wylyn yn y ddwy). Mae WG 324 yn disgrifio ffurf person cyntaf lluosog yr amser amherffaith yn -ym fel ‘rare, and doubtless artificial’, gan ddyfynnu enghraifft o waith Gruffudd Hiraethog (16g.), ond fe geir enghreifftiau eraill gan Guto, gw. 61.16 oeddym, 69.58 anrhegym. Yn sicr ceir cefnogaeth helaeth dros wylym … ym yn y llawysgrifau. Gwir fod y gwibio rhwng y lluosog yn 7 a’r unigol yn 8 yn sydyn, ond pe derbynnid wylyn’ … yn byddai’r testun yn gwibio’r un mor sydyn o’r trydydd person i’r cyntaf. Derbyniwyd wylym … ym, felly.
8 o’i Gthg. grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 3057D, C 2.114 a C 3.37 i. Mae’r lleill o blaid o’i.
8 ddal LlGC 17114B a Llst 155 ddala; ddal yn y lleill. Derbyniwyd ddal, felly. Eto yn 26 a 60 mae angen y ffurf daly (gw. isod). Gall fod Guto wedi defnyddio’r ddwy ffurf, ond mewn gwirionedd mae’n amhosibl gwybod ar sail y dystiolaeth yn y llawysgrifau.
9–10 Y drefn yw 10, 9 yng nghopïau grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 17114B a C 3.37. Yn y copïau hyn ni cheir y cysylltair a ar ddechrau 10, ac felly mae’r ddwy linell yn rhydd i ymgyfnewid.
9 am aur LlGC 3057D a C 2.114 a mawr.
10 a nêr Felly copïau Wmffre Dafis (ond Brog I.2 ner heb y cysylltair), CM 5, LlGC 3057D, C 2.114, Stowe 959 a LlGC 3047C; cf. Llywelyn Siôn ner a, Llst 155 awnair. Ar sail y darlleniadau hyn gellir derbyn a nêr. Gwelir llygriad mwy pellgyrhaeddol yng ngrŵp Dyffryn Conwy, LlGC 17114B a C 3.37 avr, a gododd efallai dan ddylanwad llinell 9. Mae’r llinell sillaf yn brin ynddynt, a cheir y ar ôl aur yn LlGC 8497B i gywiro hyd y llinell.
10 Mawnd Felly’r llawysgrifau ac eithrio LlGC 3056D, Llst 35, CM 5, Stowe 959, Llywelyn Siôn a LlGC 3047C lle ceir mwnd. Y ffurf yn 54 yw Mawnt, wedi ei chadarnhau gan y brifodl. Mae’r orgraff yn -nd yn cyd-fynd â’r gynghanedd yn y llinell hon, ond nodwedd ar gynghanedd Guto’r Glyn yw bod nt ac nd yn gallu cyfateb i’w gilydd, gw. CD 219. Gellid dadlau dros adfer Mawnt yma ar sail yr enghraifft sicr yn 54, ond penderfynwyd cadw -nd y llawysgrifau.
10 o Felly Gwyn 4, LlGC 3057D, C 2.114, C 3.37, Stowe 959, Llywelyn Siôn, Llst 155 a LlGC 3047C; gthg. LlGC 3049D, LlGC 8497B a LlGC 17114B a, Wmffre Dafis a CM 5 y (= yn). Gan fod o, a ac y(n) yn eiriau diacen a thebyg eu sain, nid syndod bod cymaint o amrywio yma. Dilynir arweiniad y mwyafrif.
12 breiniawl LlGC 17114B breniaxl.
16 o’i Gthg. LlGC 17114B, Brog I.2, LlGC 3057D, C 2.114, Stowe 959, Llywelyn Siôn, Llst 155 a LlGC 3047C o. Mae’r synnwyr yn gryfach o dderbyn o’i, fel yng ngrŵp Dyffryn Conwy, dau gopi arall Wmffre Dafis a C 3.37.
17–18 Nis ceir yn Stowe 959 na chopïau Llywelyn Siôn.
18 garm weiddi Brog I.2 garmweddir, LlGC 3057D a C 2.114 garm gwedi, LlGC 3047C garm wedi (mae’r tri olaf yn darllen gormod yn lle gormodd yn hanner cyntaf y llinell).
19–20 Nis ceir yn LlGC 3047C.
19 i Gymru Stowe 959 ynghymry.
21–2 eisoes (cerddwr … / Deryw Yn GGl triniwyd y cwpled hwn fel diweddglo adran gyntaf y gerdd, sef cwyn y bardd am gaethiwed Rhisiart Gethin. Nid esbonnir yno sut y’i dehonglwyd, ond cymeraf fod y golygyddion yn deall eisoes yn ei ystyr ddiweddar a deryw fel petai’n cyfeirio at y bardd (cerddwr) wedi marw o alar. Fodd bynnag, ystyr arferol eisoes cyn yr 16g. oedd ‘er hynny, eto i gyd’, gw. GPC 1200, ac awgryma hynny fod y cwpled hwn yn agor ail adran y gerdd, lle adroddir y llawenydd a ddaeth yn sgil clywed nad oedd Syr Rhisiart wedi ei ddal wedi’r cwbl. Yn sicr, yn GGl mae’r adran honno’n dechrau braidd yn ddisyfyd gyda llinell 23; mae 21–2 yn ffurfio trobwynt esmwythach. Deellir deryw yn amhersonol: trodd pethau allan yn dda (deg) ar gyfer y tëyrn du.
21 cerddwr Gthg. LlGC 3057D, C 2.114, Stowe 959, Llywelyn Siôn a LlGC 3047C kerddor. Gellid derbyn y naill neu’r llall, heb fawr o wahaniaeth o ran yr ystyr. Gw. y nodyn esboniadol.
22 deryw’n deg Gthg. Brog I.2 devriw yn deg, LlGC 3057D a C 2.114 dy Ryw yn deg, Stowe 959 dyry yn deg, Llywelyn Siôn a dery n dig neu aderyn dig, LlGC 3047C deiriw yn deg.
23 dug Stowe 959 doeth.
23 pwrsifand Gthg. LlGC 3056D a Brog I.2 pwrsmand, LlGC 3057D a C 2.114 pwrssimant, Stowe 959 pwrsvand, Llywelyn Siôn pysbant. Rhaid dilyn y copïau eraill a derbyn pwrsifand er bod y llinell felly’n wythsill ar yr olwg gyntaf. Y tebyg yw, fodd bynnag, fod modd cywasgu’r ail sillaf: mae aceniad y gair Saesneg gyfatebol, cf. OED Online s.v. pursuivant, n. and adj., yn awgrymu bod yr acen ar y sillaf gyntaf. Am enghreifftiau tebyg lle mae angen cywasgiad, cf. GLM LX.65 a GST I.369.
24 chwedlau Brog I.2, LlGC 3057D, C 2.114 a LlGC 3047C chwedl, Stowe 959 a chwedl, Llst 155 a hwedle.
25 ddywaid Gthg. Wmffre Dafis a CM 5 ddowad, Stowe 959 ddwad, LlGC 3047C ddyfod. Yr amser presennol ddywaid a gefnogir gan y copïau eraill.
26 o ddaly’r Mae ddaly’n unsill ar gyfer hyd y llinell, ac felly ni chyfrifir -y yn llafariad, ond serch hynny ceir ffurf gywasgedig y fannod ’r ar ei ôl er mwyn y gynghanedd; am enghreifftiau tebyg, gw. 66.11, 90.20, 108.58. Parodd hyn ddryswch ymhlith y copïwyr. Dilynir LlGC 3049D, Gwyn 4 a LlGC 17114B. Rhy hir yw LlGC 3057D, C 2.114 a Stowe 959 o ddal y, C 3.37 o ddalar a Llst 155 o ddala. Ni cheir o yn LlGC 8497B ddaly’r, Wmffre Dafis (ond ni ellir darllen dechrau’r llinell yn Llst 35), CM 5, Llywelyn Siôn a LlGC 3047C ddala’r. Diau fod o wedi ei hepgor yn y rhain oherwydd y ffurf ddeusill ddala’r (neu yn achos LlGC 8497B, oherwydd cyfrif ddaly’r yn ddeusill). Sylwer bod C 3.37, lle ceir o ddalar, wedi hepgor i o ail hanner y llinell, diau am yr un rheswm. Er bod y llawysgrifau o blaid dal yn llinellau 5 ac 8, ni ellir derbyn y ffurff honno yma: dim ond un copi, Stowe 959, sy’n ei chefnogi, ac ni ellir cael ’r ar ei hôl. Gw. hefyd 31n, 59n.
26 gwalch Stowe 959 a Llst 134 gwr.
26 i ddiawl Stowe 959 y ddail, Llst 134 a C 5.44 i ddail, LlGC 970E i ddair.
26 air LlGC 3057D ail, LlGC 970E aur, Llst 155 ai.
27 plant Llywelyn Siôn chwant.
29 wnâi’r LlGC 3047C wnai.
30 i’n Gwyn 4 yn ei.
31 caeth Gthg. Wmffre Dafis, CM 5, Stowe 959 a Llywelyn Siôn koeth.
31 dal iôr Felly LlGC 3049D, Gwyn 4 a LlGC 17114B; gthg. LlGC 8497B, LlGC 3056D, Llst 35, CM 5, LlGC 3057D, C 2.114, Stowe 959 a LlGC 3047C dal ior, Brog I.2 a C 3.37 dala ior, Llywelyn Siôn ddala r kethin, Llst 155 dylawr kethin. Hawdd gweld sut y daeth y ddau ddarlleniad olaf i fod, sef drwy gyfrif d(d)ala yn ddeusill ac felly hepgor sillaf arall (cf. 26n). Nid mor hawdd yw penderfynu pa ffurf i’w rhoi yn y testun golygedig. Derbyniwyd dal oherwydd bod nfier o gopïau amrywiol eu perthynas yn cynnwys y ffurf hon.
32 ef Brog I.2 y fo.
33 ’y nghred LlGC 3047C Angred.
34 nad Wmffre Dafis, CM 5, LlGC 3057D, C 2.114 a C 3.37 nid, Stowe 959 ar.
34 nid oes Stowe 959 ny dyw.
34 onid Grŵp Dyffryn Conwy a C 3.37 ond y, LlGC 17114B ond, Brog I.2 air ond. Ymddengys fod onid wedi ei gywasgu, diau ar fwy nag un achlysur yn hanes trosglwyddo’r gerdd, a bod ond y ac air ond yn gynigion gwahanol i adfer hyd cywir i’r llinell.
35 a difa LlGC 3057D a C 2.114 Y difa.
35 ar a’i dyfod LlGC 3049D a rai /n/ dyfood, Wmffre Dafis, CM 5, Llywelyn Siôn a LlGC 3047C ar i davod, C 3.37 yr hai ai dyfod, Stowe 959 ar u dyvod.
36 a rhai Wmffre Dafis, CM 5, Llywelyn Siôn a LlGC 3047C y rhai, Stowe 959 a Llst 155 ar rai.
37–8 Nis ceir yn Stowe 959 na chopïau Llywelyn Siôn.
37 gilwg Llst 155 golwg.
38 fân Mae grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 3057D, C 2.114, C 3.37, Llst 155 a LlGC 3047C, yn cefnogi fân; gthg. LlGC 17114B, Wmffre Dafis a CM 5 wan, a dderbyniwyd yn GGl. O ran yr ystyr gellid derbyn y naill neu’r llall, ond mae tystiolaeth y llawysgrifau rywfaint yn gryfach o blaid fân.
38 yn LlGC 3056D, Llst 35 a CM 5 sy /n/.
41–2 Nis ceir yn LlGC 3047C; y drefn yn C 2.114 yw 42, 41.
42 nid … yn y LlGC 3056D, Llst 35 a CM 5 ag nid … mewn.
42 er rhai LlGC 3049D er hai /n/, LlGC 17114B er yrhai.
44 cwsg … cant Stowe 959, Llywelyn Siôn a Llst 155 gwsg … gant. Yn ôl y rhain, felly, herio Syr Rhisiart tra y mae’n cysgu yw’r ystyr, ond mae mwyafrif y copïau o blaid cwsg … cant, ac felly’n sôn am y gelyn yn ei herio yn eu breuddwyion. Yn C 3.37 ceir gwsg … cant, sy’n torri’r gynghanedd.
44 nis Dilynir Brog I.2, LlGC 3057D, C 2.114, Stowe 959, LlGC 970E a LlGC 3047C. Ceir y darlleniad tebyg nyd yng ngweddill copïau Llywelyn Siôn. Gthg. grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 17114B a C 3.37 lle dd, LlGC 3056D, Llst 35 a CM 5 lle /r/ a Llst 155 lle. Mae’n anodd ar y naw penderfynu rhwng nis a lle’dd yma, ac mae goblygiadau mawr ar gyfer y stema, oherwydd mae’r newid o’r naill un i’r llall yn newid trawiadol nad yw’n debygol o fod wedi digwydd ddwywaith yn annibynnol; felly, o beidio â derbyn lle ’dd, mae’n fwy neu lai’n anochel credu bod yr holl gopïau sy’n ei gynnwys yn tarddu o gynsail gyffredin yn y pen draw (X1 yn y stema). Ceir nis mewn copïau o’r gogledd ac o’r de, ac mae’n rhoi ystyr ardderchog. Mae lle ’dd ar y llaw arall yn gyfyngedig i ddau grŵp o gopïau gogleddol a’r copi ansicr ei berthynas Llst 155, ac yn llai boddhaol o ran ystyr. Byddai lle ’dd anturia cant yn golygu ‘lle y mae cant o wŷr yn mentro’, sef yn eu cwsg. Mae nis anturia cant yn tanlinellu neges y cwpled i’r dim. Mater tywyll sut y gallai lle ’dd fod wedi dod i fodolaeth yma, ac erys eginyn o amheuaeth am y darlleniad cywir. Petasem yn cymryd mai lle ’dd a geid yma’n wreiddiol, gallem esbonio nis fel ffrwyth dylanwad onis yn 43; ac os felly, byddai’n rhaid hepgor X1 o’r stema a derbyn, mae’n debygol, fod y llawysgrifau sy’n cynnig nis neu nid yn perthyn yn agosach i’w gilydd er gwaethaf eu rhychwant daearyddol.
44 anturia Gwyn 4 anturio, Stowe 959 a Llywelyn Siôn antyryay, Llst 155 dwetter i.
47–8 Nis ceir yn LlGC 3057D na C 2.114.
47 boreuddydd Ceir y ddeusain yn y gair hwn ym mhob copi ac eithrio Llst 155 boreddydd.
48 ei bryd Stowe 959 y byd.
48 ys Stowe 959 a Llywelyn Siôn os.
49 â’r breuddwyd C 3.37 or brevddwyd, Stowe 959 a Llywelyn Siôn ar vraiddwyd.
50 o nerth Llywelyn Siôn wrth, LlGC 3057D, C 2.114 a Stowe 959 nerth.
50 hyn LlGC 8497B yn, LlGC 3057D, C 2.114 a Llst 155 hwn, Stowe 959 honn.
50 yn LlGC 3056D, Brog I.2, LlGC 3057D, C 2.114 a LlGC 3047C yn i (cywirwyd yn yr olaf drwy ddileu yn), C 3.37 mae yn, Llywelyn Siôn a n (ond nid LlGC 21290E lle ceir yn).
50 wrthwyneb Stowe 959 a Llywelyn Siôn ygwrthwyneb.
51–2 Nis ceir yn LlGC 3047C.
51 Ebrwydd y tyr breuddwyd hir Yng nghopïau Wmffre Dafis a CM 5 ceir llinell wahanol iawn: i bwriad hwy ai bryd hir.
51 y tyr LlGC 3057D, C 2.114, Stowe 959 a Llywelyn Siôn y try, Llst 155 oi tyb.
52 i Llywelyn Siôn hwy.
52 hwynt a Stowe 959 ynttwy, Llst 155 oni.
53 na helied Gthg. Wmffre Dafis a CM 5 na helient, Stowe 959 a Llywelyn Siôn na helynt, Llst 155 o heliwwid, LlGC 3047C na heliant. Gellid derbyn na helient, gan ddeall gorgwn mewn cyfosodiad â’r goddrych a fynegir gan y terfyniad -ent yn hytrach nag yn oddrych y ferf ei hun, a hynny heb newid yr ystyr. Ond cymeraf fod y ffurfiau yn -nt yn y copïau hyn wedi dod i mewn dan ddylanwad gair olaf y llinell. na helied a geir yng nghopïau grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 17114B, LlGC 3057D, C 2.114 a C 3.37, a dilynwyd hwy yma.
53 ein hoyw alawnt LlGC 3049D a Gwyn 4 yn hoyw alwant, CM 5 yn hoywliw alawnt, LlGC 3057D, C 2.114 a Llywelyn Siôn yn nehevlawnt, Stowe u nyhylawnt.
54 gorgwn mân Llst 155 gwrgan nwn.
54 gwinau Gwyn 4 gwyr, LlGC 3056D, Llst 35, LlGC 3057D, C 2.114 a LlGC 3047C gwin, Stowe 959 gwynny, Llywelyn Siôn gwyn. Yn y copïau hyn ymddengys fod ynganu garw yn ddeusill wedi arwain at golli sillaf arall; mae’n anodd deall y newid pellach yn Stowe 959.
56 eu helw yntwy LlGC 3056D, Llst 35, C 3.37 a Llywelyn Siôn i helynt hwy, CM 5 i hel hwyntwy, Stowe 959 ny helwynt twy, LlGC 3047C i helw hwynt hwy.
56 o heliant hwn Stowe 959 ryw helynt twnn, Llywelyn Siôn or helaint hwnn (ac eithrio LlGC 970E a C 5.44 or helynt hwnn), Llst 155 o helynt hwn.
57–64 Nis ceir yn LlGC 3047C.
57 o’r Stowe 959 a Llst 155 ay.
58 fu LlGC 970E a C 5.44 sy.
59 dal Felly LlGC 17114B, copïau Wmffre Dafis, CM 5, LlGC 3057D, C 2.114, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn; hefyd yn LlGC 8497B, ond yno diwygiad ar ran Thomas Wiliems ydyw, yn ôl pob tebyg, gan y ceir dal y yn LlGC 3049D a dal i yn Gwyn 4. Gthg. C 3.37 a Llst 155 dala.
59 dielw Wmffre Dafis, CM 5 a Stowe 959 devliw, LlGC 3057D a C 2.114 di eliw, Llywelyn Siôn du loew neu di loew. Yn GGl derbyniwyd duliw, darlleniad nas ceir yn yr un o’r copïau a ystyriwyd yma.
59 hoywfalch LlGC 17114B hoiw walch.
60 â Stowe 959 ay, Llywelyn Siôn oi.
60 dwylaw’r LlGC 3056D a Llst 35 dwylaw y, CM 5, LlGC 3057D a C 2.114 dwylaw.
60 yw LlGC 3057D a C 2.114 y, LlGC 970E yn; nis ceir yn LlGC 8497B, sef diwygiad nodweddiadol gan Thomas Wiliems i unioni hyd y llinell.
60 daly’r Felly LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 a LlGC 17114B; gthg. LlGC 3056D, Llst 35, CM 5, LlGC 3057D a C 2.114 dal y, Brog I.2, C 3.37, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Llst 155 dala /r/. Fel yn achos 26n, dim ond daly’r a all foddhau anghenion y gynghanedd a hyd y llinell yma.
61–4 Nis ceir yn Stowe 959 na chopïau Llywelyn Siôn.
62 nid gwâr Dilynir grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 17114B, LlGC 3057D, C 2.114, C 3.37 a Llst 155; gthg. Wmffre Dafis nai gwyr, CM 5 na gwyr. Nid yw’r darlleniadau olaf hyn yn rhoi synnwyr da: disgwylid na’i wŷr, yn cyfeirio’n ôl at Syr Rhisiart Gethin. Rhaid dilyn darlleniad y copïau eraill. Gellid darllen y llinell gyfan ar ei hyd a deall nad yw’r Ffrancwyr yn wâr ac eithrio o ran eu ffordd o siarad, ac eto nid yw hynny’n hollol foddhaol, gan nad yw geiriau’r gelyn yn wâr yn ôl 63–70. Gwell, felly, gydio â’u geiriau wrth y llinell flaenorol a thrin nid gwâr fel sangiad. Yn GGl derbyniwyd nid gwŷr, gan gyfuno’r ddau ddarlleniad. O ran yr ystyr mae’n gweddu’n burion – siarad fel gwŷr y mae’r Ffrancwyr, ond nid ymddwyn fel gwŷr – ac eto mae’n ddiwygiad rhy fentrus.
62 â’u Gwyn 4 a LlGC 17114B a, LlGC 3057D i, Llst 155 oi.
65 eiu Stowe 959 ay.
65 gwangost Wmffre Dafis a CM 5 gwngost.
66 air ym myd Dim ond LlGC 8497B sy’n sillafu hyn mewn modd diamwys fel air ym myd. Yn y lleill ceir air y myd neu air ymyd, ac eithrio’r canlynol: LlGC 3049D a LlGC 970E air myd, gweddill copïau Llywelyn Siôn airav m\yd. Gellid darllen air ’y myd ‘gair fy anwylyd’, a deall bod Guto’n dweud na cheir ymhlith gelynion Syr Rhisiart Gethin y geirwiredd sy’n ei nodweddu yntau.
67–8 Nis ceir yn LlGC 3047C.
67 a’u brad Llst 155 I brad.
67 a’u bryd Stowe 959 oy bryd.
68 braw Llst 155 briw.
69 Nudd ail Llywelyn Siôn n\y ddail.
Fel yn achos y gerdd flaenorol, y gwrthrych yw Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin ab Owain o Fuellt, milwr proffesiynol a fu’n ymladd ym myddin Lloegr yn Ffrainc. Mae’n debyg fod y cywydd hwn yn perthyn i 1438, ar ôl i Guto ddychwelyd adref. Clywsai Guto fod Syr Rhisiart wedi ei ddal gan y Ffrancwyr, ond buan y daeth yn amlwg mai cyfeiliornus oedd y newyddion. Fe fu, mae’n debygol, ryw helbulon ger Mantes ym mis Tachwedd 1437, pan yrrwyd milwyr ychwanegol i’r dref, ac mae’n bosibl mai hwn oedd yr achlysur a roes fod i’r sïon cyfeiliornus. Os felly, perthyn y cywydd i fisoedd cynnar 1438.
Mae llinellau 1–20 yn amlinellu’r neges frawychus a glywsai Guto, sef bod ei arwr yn nwylo’r Ffrancwyr. Mae’r bardd yn siarad fel petai yn parhau i fod yn ansicr am ffawd Syr Rhisiart: mae’n wylo’n ddireolaeth ac mae ofn wedi treiddio’i fron. Eto, fe ddaw’n amlwg o 21 ymlaen ei fod mewn gwirionedd wedi cael cadarnhad nad ydyw pethau felly. Daeth negesydd o Normandi gyda’r newyddion llawen fod Syr Rhisiart yn rhydd o hyd (21–4). Beia Guto’r Normaniaid am ddweud celwyddau. Mawr yw ei anniddigrwydd a’i ddrwgdeimlad tuag at bobl Normandi. Craidd achos y Saeson yn Ffrainc oedd mai Harri VI oedd arglwydd cywir y wlad, a Normandi’n arbennig. Disgwylid i boblogaeth Normandi gefnogi eu gwir frenin, Harri VI. Mae ieithwedd Guto yn 25–70 yn ddadlennol, felly, o ran awgrymu mor ddwfn oedd y gagendor rhwng gobaith a realiti yn hyn o beth.
Dyddiad
Yn gynnar yn 1438 yn ôl pob tebyg. Am ymdriniaeth, gw. uchod a Syr Rhisiart Gethin.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd II.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 70 llinell.
Cynghanedd: croes 46% (32 llinell), traws 23% (16 llinell), sain 29% (20 llinell), llusg 3% (2 linell).
6 llawnwin Ansoddair ‘llawn gwin, yn llifo â gwin’, ac enw ‘llawnder o win’ yn ôl GPC 2117. Eto, mae’r holl enghreifftiau yn awgrymu mai enw ydyw a bod iddo ryw ystyr fwy penodol sy’n cyfeirio at fath arbennig o win. Awgrymaf mai gwin pur, heb ei gymysgu â dŵr, yw llawnwin.
9 Nudd Un o hoff gymeriadau’r beirdd oedd Nudd ap Senyllt, un o’r Tri Hael (gw. TYP3 5–6, 464–6 a WCD 509); y ddau arall oedd Rhydderch Hael a Mordaf Hael. Patrwm o haelioni yw Nudd.
10 Mawnd Mantes, tref a leolir ar afon Seine rhwng Rouen, prifddinas Normandi, a Pharis. Roedd Syr Rhisiart Gethin yn gapten ar y dref.
10 Normandi Ardal yng ngogledd Ffrainc a oedd yn ganolbwynt i’r Rhyfel Can Mlynedd o 1436 ymlaen hyd at ei ddiwedd yn 1453.
20 Buellt Ardal enedigol Syr Rhisiart Gethin.
21 cerddwr Fe’i deellir yn gyfystyr â cerddor, gw. GPC 466–7 d.g. cerddwr1, gan nad oes enghraifft o’r gair yn yr ystyr ‘un sy’n cerdded’ cyn diwedd y ddeunawfed ganrif, gw. GPC 467 d.g. cerddwr2. Mae’r ergyd yn ansicr, serch hynny. Yn betrus deellir Iesu yn oddrych i oedd, a deellir cerddwr fel ‘crefftwr, gwneuthurwr, celfyddwr’. Yn GPC 467 priodolir yr ystyr hon i cerddor yn unig, ond gan fod cerdd yn gallu golygu ‘crefft’ mewn Cymraeg Canol, nid oes rheswm dros wrthod deall cerddwr yn yr ystyr ‘crefftwr’, &c. Mab saer oedd Iesu, wrth gwrs, ond yma cyfeirir ato fel y ‘gŵr celfydd’ a greodd y sefylla hapus a ddisgrifir gan y bardd yn y llinellau nesaf. Iesu sy’n gyfrifol am ryddid Rhisiart Gethin. Fel arall, rhaid atalnodi’r llinell yn wahanol: Eisoes (cerddwr oedd!), Iesu, a deall mai Rhisiart Gethin yw’r cerddwr (am ei fod yn ymwneud â barddoniaeth?) a bod Iesu yn gyfarchiad.
22 Deryw’n deg am dëyrn du Am y gystrawen, cf. GGMD i, 3.164 Darfu am ddraig llu llwyr orthrymder ‘digwyddodd trallod llwyr oherwydd [marwolaeth] pennaeth llu’, ac YMTh 57.2 A deryv am keduyv a chaduan ‘yr hyn a ddigwyddodd ynghylch Cedfyw a Chadfan’. Ni cheir enghreifftiau o’r ymadrodd darfu am X yn yr ystyr ‘bu farw X’ cyn yr unfed ganrif ar bymtheg yn ôl GPC 892.
23 pwrsifand Negeseuwr, gw. GPC 2945. Gw. 23n (testunol) am nifer y sillafau yn y llinell.
27 plant … Normandi Goddefiad cyffredin yng ngwaith Guto yw bod -nt ac -nd yn ateb ei gilydd, gw. CD 219; gthg. 10n (testunol).
31 cethin Chwaraeir ar enw Syr Rhisiart. Ystyron cethin yn ôl GPC 471 yw ‘rhuddgoch, tywyll, melynddu’ neu ‘gwyllt, cas, milain’. Rhoddwyd y ddwy ystyr yn yr aralleiriad gan ei bod yn debygol fod y ddwy’n berthnasol yma.
43 nos dlos Deellir hyn gyda gweddill y llinell: ‘oni ddaliasant ef ar ryw noswaith hardd’.
46 gŵr Hynny yw, Syr Rhisiart.
47 y boreuddydd Hynny yw, pan fydd y sawl sy’n breuddwydio yn deffro.
47–8 breuddwyd gwrach … / Wrth ei bryd Cf. y ddihareb breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys, y ceir enghraifft ohoni mor gynnar â’r 13g. (GPC 322).
54 corgwn Cŵn bach, gw. GPC 561.
54 Mawnt Gw. 10n.
56 yntwy Am y ffurf hon, gw. GPC 1942 d.g. hwynt-hwy. Rhaid ei chywasgu er mwyn hyd y llinell.
57 o’r Cf. y defnydd o o’r mewn ebychiadau heddiw (o’r diwedd, o’r mawredd, o’r nefoedd, etc.).
58 megis saethu sêr Hynny yw, yn hollol ofer.
59 dielw hoywfalch Deellir hyn yn ddisgrifiad o’r sawl a geisiodd ddal Syr Rhisiart, yn rhy falch o lawer a heb ddwyn unrhyw elw o’i weithred.
62 onid â’u geiriau Hynny yw, ni chaiff Syr Rhisiart fyth ei ddal go iawn, dim ond rhywbeth y sonnir amdano ydyw.
65 gwangost Ystyr arferol cost mewn Cymraeg Canol oedd ‘traul, trafferth, poen’, GPC 569 d.g. cost1. Honnir na wnaeth y gelyn fawr o ymdrech i wireddu’r bwriad.
66 heb air Hynny yw, mor garbwl yw eu sgwrs (cf. 63) fel mai anodd yw deall unrhyw air ymysg y dadwrdd.
69 Nudd Gw. 9n.
Like the previous poem, the recipient of this cywydd is Sir Richard Gethin ap Rhys Gethin ab Owain of Builth, a professional soldier who fought in the English armies in France. The cywydd probably belongs to 1438, when Guto’r Glyn had returned home from France. Guto had heard that Sir Richard had been captured by the French, but it soon became clear that the news was incorrect. There were, we may conjecture, disturbances around Mantes in November 1437, when reinforcements were sent to the town, and it is possible that these gave rise to the false rumour. If so, the poem belongs to early 1438.
Lines 1–20 outline the fearful message which Guto received, that his hero was in the hands of the French. The poet speaks as if he were still in doubt about Sir Richard’s fate: he weeps uncontrollably and fear has pierced his heart. All the same, it becomes clear from 21 onwards that he has actually received confirmation that things are not so. A messenger came from Normandy bearing the glad news that Sir Richard was in fact free (21–4). Guto blames the Normans for telling lies. His anger and his rancour against the people of Normandy are savage. The English maintained that Henry VI was the rightful possessor of France, and of Normandy in particular. The population of Normandy were expected to support their rightful king, Henry VI. Guto’s language in 25–70 is, therefore, revelatory in suggesting how deep was the gulf between expectation and reality.
Date
Early in 1438, probably. See above and Sir Richard Gethin for discussion.
The manuscripts
This poem occurs in 34 manuscripts. As with other poems by Guto’r Glyn, LlGC 3049D, LlGC 8497B and Gwyn 4 form a group which derives, in all probability, from a common exemplar. LlGC 17114B generally sides with them. Two of Humphrey Davies’s copies, LlGC 3056D and Llst 35, are almost identical to each other, as also is CM 5. Humphrey Davies’s other copy, Brog I.2, is a problem: it sometimes shares distinctive readings with this group, but on other occasions it is quite different. I suspect that Brog I.2 is a composite version, based partly on the exemplar of LlGC 3056D, Llst 35 and CM 5, and partly on a different copy. LlGC 3057D and C 2.114 are very similar to each other, but their precise relationship is unclear. C 3.37 sometimes agrees with them, sometimes with LlGC 3049D, &c. As is the case with other poems of Guto’r Glyn, Stowe 959 and Llywelyn Siôn’s copies (here LlGC 21290E, Llst 134, LlGC 970E and C 5.44) resemble one another but without the relationship being clear. Finally, Llst 155 and LlGC 3047C are poor copies, difficult to connect with the others. The remaining copies are dependent on those which have been named or too similar to them to be considered further. All the copies are in fact quite similar, suggesting a common exemplar behind all of them. In editing the poem all 18 manuscripts named in this paragraph were considered.
Previous edition
GGl poem II.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 70 lines.
Cynghanedd: croes 46% (32 lines), traws 23% (16 lines), sain 29% (20 lines), llusg 3% (2 lines).
6 llawnwin An adjective ‘full of wine, flowing with wine’, and a noun ‘plenitude of wine’ according to GPC 2117. However, all of the examples suggest that it is specifically a noun with a more precise meaning, referring to a particular kind of wine. I suggest that llawnwin refers to pure wine, unmixed with water.
9 Nudd Nudd ap Senyllt, one of the Three Generous Men, a favourite character of the poets (see TYP3 5–6, 464–6 and WCD 509); the other two were Rhydderch Hael and Mordaf Hael. Nudd is a paradigm of generosity.
10 Mawnd Mantes, a town on the river Seine between Rouen, the capital of Normandy, and Paris. Sir Richard Gethin was captain of Mantes.
10 Normandi A region in the north of France, central to the last phase of the Hundred Years’ War from 1436 until the end of the war in 1453.
20 Buellt The cantref of Builth in mid Wales, Sir Richard Gethin’s native region.
21 cerddwr This is taken to be synonymous with cerddor, see GPC 466–7 s.v. cerddwr1, since there is no example of the alternative meaning ‘walker’ attested before the end of the eighteenth century, see GPC 467 s.v. cerddwr2. All the same, the sense is not clear. Tentatively, Iesu is taken to be the subject of oedd, and cerddwr is taken to mean ‘craftsman, manufacturer, artist’. In GPC 467 these meanings are given to cerddor only, but seeing that cerdd can mean ‘craft’ in medieval Welsh, there is no reason why cerddwr cannot mean ‘craftsman’, &c. Jesus was the son of a carpenter, of course, but here he is being described as the ‘skilled man’ who crafted the happy situation described by the poet in the next lines. It is Jesus who is responsible for the freedom of Richard Gethin. Alternatively, we must give the line a different punctuation: Eisoes (cerddwr oedd!), Iesu, taking Richard Gethin to be the cerddwr (because he practises poetry?) and Iesu as vocative.
22 Deryw’n deg am dëyrn du For the syntax, cf. GGMD i, 3.164 Darfu am ddraig llu llwyr orthrymder ‘utter wretchedness occurred on account of the [death of the] leader of a host’ and YMTh 57.2 A deryv am keduyv a chaduan ‘what happened regarding Cedfyw and Cadfan’. Though darfu am X can mean simply ‘X perished’ today, that construction is not attested before the sixteenth century according to GPC 892.
23 pwrsifand A poursuivant, a messenger, see GPC 2945. The word is stressed on the first syllable in Welsh (and English), and here the middle syllable is probably elided for the sake of the syllable count.
27 plant … Normandy Guto frequently allows himself the licence of matching -nt and -nd in cynghanedd and rhyme, see CD 219.
31 cethin A play on Sir Richard’s name. cethin according to GPC 471 means ‘ruddy, dark, tawny’ neu ‘wild, fierce, rough’. Both sets of meanings are probably relevant here.
43 nos dlos Taken with the rest of the line: ‘unless they took him one fine night’.
46 gŵr That is, Sir Richard.
47 y boreuddydd That is, when the dreamer awakes.
47–8 breuddwyd gwrach … / Wrth ei bryd Cf. the proverb breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys, attested as early as the thirteenth century (GPC 322). A witch’s dream follows her desires – but that does not make it come true.
54 corgwn Little dogs, plural of corgi, see GPC 561.
54 Mawnt See 10n.
56 yntwy For this form, see GPC 1942 s.v. hwynt-hwy. The first vowel must be elided for the sake of the length of the line.
57 o’r Cf. the use of o’r in exclamations today (o’r diwedd, o’r mawredd, o’r nefoedd, etc.).
58 megis saethu sêr That is, utterly pointless.
59 dielw hoywfalch This is taken to be a description of whowever tried to capture Sir Richard: the culprit was too proud by half and he failed to draw any benefit from his actions.
62 onid â’u geiriau That is, Sir Richard will never really be caught: it is a possibility to be talked about but never achieved.
65 gwangost The usual meaning of cost in medieval Welsh was ‘expense, trouble, charge’, GPC 569 s.v. cost1. The poet asserts that there is little real commitment behind the enemy’s intentions.
66 heb air That is, their talk is so corrupt (cf. 63) that it is difficult even to make out the words amidst the babble.
69 Nudd See 9n.
Canodd Guto’r Glyn ddau gywydd i Syr Rhisiart Gethin (cerddi 1 a 2), a chanwyd un arall gan Ieuan ap Hywel Swrdwal (GHS cerdd 24). Ar sail y rhain gwyddom fod Syr Rhisiart yn gysylltiedig â Buellt (1.8, 2.20, GHS 24.16). Gwyddom hefyd mai Rhys Gethin oedd enw ei dad (1.18 a GHS 24.10) ac mai enw ei daid, sef tad Rhys Gethin, oedd Owain (GHS 24.10). Mae Ieuan ap Hywel Swrdwal yn disgrifio Rhys Gethin fel gŵr a dorrai siad Sais (GHS 24.32). Gan fod y bardd eisoes wedi awgrymu y carai Rhisiart Gethin achub ei wlad ef ei hun, sef Cymru, rhag gormes, mae hyn yn edrych fel awgrym fod Rhys Gethin wedi ymladd o blaid Owain Glyndŵr, ac yn wir fe geir tystiolaeth sy’n ategu hynny (Fychan 2007: 11–17).
Achres
Ceir ach Syr Rhisiart Gethin yn WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9. Mae’n cytuno â’r cerddi o ran enw’r tad a’r taid. Dangosir y rheini a enwir gan Guto mewn print trwm a thanlinellir enw’r noddwr.
Achres Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin
Gyrfa Syr Rhisiart Gethin
Yn ôl nodyn yn Pen 121, yn Ffrainc yr urddwyd Rhisiart Gethin yn farchog (gw. WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9). Mae’r beirdd hwythau’n cyfeirio ato fel marchog (1.11, 1.40, GHS 24.2, 24.68). Rhaid ei fod wedi ei urddo erbyn 1433/4 oherwydd mae dogfen sy’n dwyn y dyddiad hwnnw yn ei alw’n Richardus Ghethyne, chevalier, de Wallia (Stevenson 1864: 543).
Mae’r cyfan sy’n hysbys am ei yrfa yn ymwneud â’i wasanaeth yng ngogledd Ffrainc. Dyma amlinelliad o’i yrfa, gan nodi mewn cromfachau y ffynhonnell wreiddiol neu’r ffynhonnell eilaidd a ddefnyddiwyd:
1424 (17 Awst) Ymladdodd ym mrwydr Verneuil (rhestr o enwau’r sawl a ymladdodd yno, mewn trawsysgrifiad o’r 16g., Stevenson 1864: 394). 1424 (19 Hydref) Capten Exmes (mwstwr, SoldierLME (www.medievalsoldier.org)) 1429 (Mai–Mehefin) Roedd gyda Mathau Goch yn dal Beaugency yn erbyn Jeanne o Arc; fe’u gorfodwyd i ildio’r dref (cronicl Jehan de Waurin, Hardy 1879: 282). 1429 (Gorffennaf/Awst) Arweiniodd gwmni o 160 o wŷr ym myddin John, dug Bedford, i amddiffyn cyffiniau Paris rhag Jeanne o Arc (Curry 1994: 61, ar sail dogfen yn y Bibliothèque nationale). 1432 (oddeutu Mai) Yn gapten Mantes, rhoddodd 1,100 o livres tournois yn fenthyg i John, dug Bedford, ar gyfer costau gwarchae Lagny (Williams 1964: 214, ond nid yw hi’n enwi ei ffynhonnell). 1432 (21 Medi) Capten Mantes (Marshall 1975: 259). 1433–4 Nodir ei enw fel capten a beili Mantes, gan restru’r niferoedd dan ei reolaeth, a’i alw’n chevalier, sef marchog (dogfen yn rhestru’r capteiniaid yn Ffrainc rhwng Gŵyl Fihangel 1433 a Gŵyl Fihangel 1434, Stevenson 1864: 543). 1434 (29 Mawrth) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME). 1434 (16 Ebrill) Capten ar fyddin yn y maes (mwstwr, SoldierLME). 1434 (29 Mehefin) Roedd canran o arsiwn Mantes i ffwrdd yn y Gâtinais ac yng ngwarchae Montfort (mwstwr, SoldierLME). Nid yw’n eglur a oedd Rhisiart Gethin gyda hwy. 1435 Nodir ei enw fel un o gapteiniaid dug Bedford, heb nodi ei fod yn gapten ar unrhyw dref (rhestr o enwau capteiniaid John dug Bedford, mewn trawsysgrifiad o’r 16g., Stevenson 1864: 436). Mae’n bosibl ei fod yn gapten ar Conches am gyfnod: noda Marshall (1975: 240) fod dogfen yn cyfeirio ato fel capten y dref, rywdro cyn tua mis Medi 1435. Ond roedd Henry Standish yn gapten yno ar 6 Gorffennaf (Marshall 1975: 240), Richard Burghill tua mis Medi (Marshall 1975: 241) a Standish eto ar 6 Hydref (SoldierLME). 1435 (1 Tachwedd) Nodir ei fod yn farchog, yn feili ac yn gapten Mantes (derbynneb am gyflogau’i filwyr, Siddons 1980–1: 535). 1436 (30 Mawrth) Capten Mantes (Marshall 1975: 259). 1437 (26 Chwefror) Capten Mantes (Marshall 1975: 259). 1437 (22 Mai) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME). 1437 (12 Tachwedd) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME). 1438 (31 Mawrth) Capten Conches (mwstwr, SoldierLME). 1438 (22 Ebrill) Nodir ei fod yn farchog, yn gyn-feili ac yn gyn-gapten Mantes (derbynneb am gyflogau’i filwyr, Siddons 1980–1: 536). 1438 (5 Mai) Nodir ei fod yn feili Evreux ac yn gapten Conches (derbynneb a gyfeiriwyd at rysyfwr cyffredinol Normandi, Siddons 1980–1: 536). 1438 (7 Tachwedd) Capten Conches (mwstwr, SoldierLME). 1438 (20 Rhagfyr) Comisiynydd dros Edmund Beaufort yn Maine ac Anjou (enwir ef mewn cytundeb rhwng Beaufort a John II, dug Alençon, a Charles o Anjou, Joubert 1889: 269–76).Blynyddoedd olaf Syr Rhisiart Gethin a dyddiadau’r cerddi
Ymddengys fod Syr Rhisiart Gethin wedi gadael Mantes rywdro rhwng 12 Tachwedd 1437, sef dyddiad ei fwstwr olaf yno, a 28 Chwefror 1438, pan oedd Sir Thomas Hoo yn gapten (SoldierLME). Mae’r rheswm yn amlwg: fe’i gwnaed yn gapten Conches ac yn feili Evreux. Fe’i hapwyntiwyd yn gapten Conches erbyn 31 Mawrth, ond yn fuan wedyn mae’n diflannu: dyddiad ei fwstwr olaf yn Conches yw 7 Tachwedd 1438. Mwstrodd Richard Burghill y garsiwn yn Conches ar 21 Tachwedd (SoldierLME), felly nid oedd Rhisiart Gethin bellach yn gapten ar y dref honno. Erbyn hynny mae’n debygol ei fod yn gwasanaethu yn Maine ac Anjou, fel y tystia llythyr Edmund Beaufort, dyddiedig 20 Rhagfyr 1438. Nid oes sôn amdano wedi hynny.
Mae diflaniad Syr Rhisiart Gethin o’r cofnodion ar ôl diwedd 1438 yn awgrymu’n gryf iawn ei fod wedi marw tua’r adeg honno. Os felly, ni all fod cerddi Guto’r Glyn yn perthyn i gyfnod ei wasanaeth dan Richard, dug Iorc, yn 1441, gwasanaeth y ceir tystiolaeth ddogfennol drosto, nac i unrhyw gyfnod wedi hynny. Mae’n ymddangos bod rhaid derbyn, felly, fod Guto wedi gwasanaethu yn Ffrainc cyn 1441. Yr achlysur amlwg fyddai ymweliad cyntaf dug Iorc, sef yn 1436.
Mae Guto’n dweud yn eglur fod Rhisiart yn rheoli Mantes (1.6 beili Mawnt, 1.10, 21, 32, 48, 56, 2.10 nêr Mawnd, 2.54). Nid cyfeirio at y gorffennol y mae: anogir Rhisiart i gadw’r dref rhag y Ffrancwyr. Nid yw Guto’n crybwyll Conches. Mae Ieuan ap Hywel Swrdwal, ar y llaw arall, yn fwy annelwig: mae’n sôn am fynd i chwilio am Risiart yn Rouen, Mantes a Conches (GHS 24.9–14). Prifddinas Normandi oedd Rouen, ac felly byddai’n ddigon naturiol sôn amdani yn y cyd-destun, ond mae’r lleill yn lleoedd arbennig: rhaid bod rhyw gysylltiad rhwng Syr Rhisiart â’r ddau le hyn.
Roedd perthynas Rhisiart Gethin â Mantes wedi dechrau yn 1432, fe ymddengys, a pharhaodd tan ddiwedd 1437 neu ddechrau 1438. Gan hynny, rhaid bod y ddau gywydd o eiddo Guto’r Glyn wedi eu canu yn ystod y blynyddoedd 1436–8. Gan fod Ieuan ap Hywel Swrdwal yntau’n sôn am wasanaeth milwrol Guto yn Ffrainc, rhaid bod ei gywydd yntau’n perthyn i’r un cyfnod. Ond mae’r cyfeiriad at Conches yn awgrymu y dylid ei briodoli i’r flwyddyn 1438, oherwydd nid oes cysylltiad hysbys rhwng Syr Rhisiart a’r dref honno cyn hynny. Mae’r posibilrwydd ei fod wedi bod yn gapten ar y dref am ysbaid fer yn 1435 yn tywyllu pethau, oherwydd os gwir hynny, gallai Ieuan fod wedi crybwyll Conches fel lle ac iddo gysylltiad â Syr Rhisiart unrhyw bryd yn y cyfnod 1436–8.
Yn ymarferol, rhaid gwrthod 1436: dyna’r amser pan oedd Guto ei hun yn Ffrainc. Cyrhaeddodd lluoedd dug Iorc Normandi ym mis Mehefin. Os gwasanaethodd Guto am chwe mis, fel roedd yn gyffredin, byddai wedi gadael ddiwedd 1436 neu tua dechrau 1437. Y tebyg yw iddo ganu cerdd 1 yn ôl yng Nghymru yn y flwyddyn honno neu yn 1438. Gan fod Ieuan ap Hywel Swrdwal yn cyfeirio at gywydd Guto ar gyfer Syr Rhisiart, ac yn wir yn adleisio darnau o gerdd 1 gan Guto, rhaid bod ei gywydd yntau’n dyddio i 1437x1438, i 1438 yn ôl pob tebyg ar sail y cyfeiriad at Conches.
Mae dyddiad cerdd 2 yn ansicr. Mae’n sôn am fraw a gafodd y bardd wrth glywed yn anghywir fod Syr Rhisiart wedi ei ddal gan y gelyn. Nid oes modd dyddio’r digwyddiad hwn yn sicr, ond mae’n werth awgrymu un posibilrwydd. Fel y nodwyd, gwnaed mwstwr garsiwn Mantes ar 12 Tachwedd 1437, a Syr Rhisiart Gethin yn gapten ar y pryd. Ar 30 Tachwedd ceir cofnod o fwstwr arall (SoldierLME). Y tro hwn, milwyr a anfonwyd i Mantes dan Sir Lewis Despoy a fwstrwyd. Gelwir hwy yn ‘expeditionary army/garrison reinforcements’. Ni chlywn ddim am Syr Rhisiart mewn perthynas â Mantes ar ôl 12 Tachwedd: y cyfeiriad nesaf ato yw fel capten Conches ar 31 Mawrth 1438. Rhaid bod rhywbeth wedi digwydd yn Mantes neu gerllaw i orfodi’r Saeson i anfon byddin yno ym mis Tachwedd 1437. Awgrymaf fod rhyw wrthdaro rhwng y garsiwn a’r Ffrancwyr wedi digwydd, ac mai dyna’r achlysur pan aeth Syr Rhisiart Gethin ar goll am ysbaid, gan godi’r sïon gwag y cwyna Guto mor hallt amdanynt.
Canodd Lewys Glyn Cothi i nai Syr Rhisiart Gethin, sef Lewis ap Meredudd o Lanwrin, Cyfeiliog (GLGC cerdd 197). Yn y gerdd honno mae’n atgoffa Lewis o gampau ei ewythr ar y Cyfandir (ibid. 197.28, 35–8, 51–2).
Llyfryddiaeth
Curry, A. (1994), ‘English Armies in the Fifteenth Century’, A. Curry and M. Hughes (eds.), Arms, Armies and Fortifications in the Hundred Years War (Woodbridge), 39–68
Fychan, C. (2007), Pwy Oedd Rhys Gethin? Yr Ymchwil am Gadfridog Owain Glyndŵr (Aberystwyth)
Hardy, W. (1879) (ed.), Recueil des croniques et anciennes istoires de la Grant Bretaigne, a present nomme Engleterre par Jehan de Waurin (London)
Joubert, A. (1889), ‘Documents inédits pour servir à l’histoire de la guerre de Cent-Ans dans le Maine de 1424 à 1444, d’après les Archives du British Muséum et du Lambeth Palace de Londres’, Revue historique et archéologique de Maine, 26: 243–336
Marshall, A.E. (1975), ‘The Role of English War Captains in England and Normandy, 1436–1461’, (M.A. Wales [Swansea])
Siddons, M. (1980–2), ‘Welsh Seals in Paris’, B xxix: 531–44
Stevenson, J. (1864) (ed.), Letters and Papers Illustrative of the Wars of the English in France During the Reign of Henry the Sixth, King of England, ii.2 (London)
Williams, E.C. (1963), My Lord of Bedford, 1389–1435: being a life of John of Lancaster, first Duke of Bedford, brother of Henry V and Regent of France (London)