Y llawysgrifau
Ceir y gyfres englynion hon mewn tair llawysgrif, sef Pen 99, LlGC 1553A a CM 12. Ceir pedwar englyn yn Pen 99, ond ceir saith yn LlGC 1553A, a chopi yw CM 12 o Pen 99. Tybed a hepgorwyd y tri englyn olaf o Pen 99 oherwydd barnu cynnwys y pumed yn anweddus? Pur debyg yw testun Pen 99 i’r rhan gyfatebol o destun LlGC 1553A a gellir eu holrhain i’r un gynsail. Mae’r tair llawysgrif yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol. Seiliwyd y testun golygyddol ar destunau Pen 99 a LlGC 1553A.
Trawsysgrifiadau: Pen 99, LlGC 1553A.
1 y Gellid hefyd ystyried darlleniad LlGC 1553A yn damwain lle gallai yn gynrychioli ein.
5 gwraig LlGC 1553A wraig, ond gallai’r gwrthrych ar ôl person trydydd unigol presennol mynegol y ferf fod yn ddidreiglad neu’n dreigledig, gw. TC 190.
5 ar graig or graig a geir yn Pen 99 ond gwell yw darlleniad LlGC 1553A.
8 dew LlGC 1553A y dyn, darlleniad na rydd gystal synnwyr ac a wna’r llinell yn rhy hir o sillaf.
9 oes bilin oes silin sydd yn y llawysgrifau (a cf. GGl) ond ni rydd gynghanedd ac anfoddhaol yw’r synnwyr, felly diwygir. Â bilin cf. 24 biliodd.
17–28 Yn LlGC 1553A yn unig y ceir y llinellau hyn.
17 lawdr LlGC 1553A lowdwr. Diwygir er mwyn hyd y llinell.
24 LlGC 1553A y blaidd dv a biliodd i din. Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf, felly gellir ei diwygio yn blaidd du a biliodd neu’n y blaidd du biliodd, gan hepgor y rhagenw perthynol fel y gwneir yn aml yn y farddoniaeth.
25 taer LlGC 1553A tai r. Diwygir er mwyn y synnwyr.
27 ni ddeil LlGC 1553A i ddail ond anfoddhaol yw’r synnwyr a’r gystrawen felly, a diwygir.
27 yrhwng LlGC 1553A rhwng. Diwygir er mwyn hyd y llinell.
Cyfres o englynion unodl union yw’r gerdd hon lle honna Guto fod blaidd wedi ymosod ar geilliau Tudur Penllyn. Yn GGl 93, yn dilyn y dyfyniad o’r rhaglith i Pen 99, ceir y geiriau ‘Ateb i Ieuan ap Tudur Penllyn’, ond ni cheir y geiriau hyn yn rhagflaenu nac yn dilyn y gerdd yn y llawysgrif hon nac yn y ddwy lawysgrif arall ychwaith (LlGC 1553A, CM 12) ac mae’n sicr mai at dad Ieuan, Tudur, yr anelwyd yr englynion hyn.
Diau, fel y dywed Jerry Hunter (1997: 43), mai’r cefndir i’r gerdd yw achlysur pan wnaed Tudur Penllyn yn gyff clêr ar y testun fod blaidd wedi mynd â cheilliau’r bardd, a cheir cyfres o englynion a ganodd Tudur yn neithior Dafydd Amhredudd Fychan sydd, yn ddiau, yn cynrychioli’r ateb a roddodd Tudur Penllyn i’r beirdd a’i testuniodd (cerdd 46b). Mae’r englynion a ganodd Ieuan ap Tudur Penllyn ar yr un achlysur, hwythau, wedi goroesi (cerdd 46a).
Awgrymodd ôl Hunter (1997: 42–3, 47, 48) fod y beirdd a destuniai’r pencerdd yn glêr yn yr ystyr o fod yn feirdd israddol ac mai dyna pam na chofnodid eu cerddi gan amlaf, yn wahanol i atebion y pencerdd. Prin, er hynny, y gellid galw ymosodiadau Guto’r Glyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn yn waith beirdd israddol – a chofier hefyd fod Hywel Cilan a Gutun Owain ymysg y beirdd eraill a ddychanodd Dudur Penllyn ar yr un achlysur (gw. cerdd 46b). Beth bynnag fo’r rheswm am brinder cerddi’r glêr yn y llawysgrifau, dengys y dystiolaeth hon, o leiaf, fod rhai ohonynt ymysg beirdd gorau’r oes.
Ceir rhai enghreifftiau eraill o englynion cyff clêr yn y llawysgrifau, megis y rheini rhwng Gruffudd Hiraethog a beirdd eraill (GGH cerdd 151), ond yn y tair cerdd dan sylw y ceir y cipddarlun cliriaf a chynharaf sy’n bod o’r math hwn o ganu a pherthyn iddynt gryn bwysigrwydd o’r herwydd.
Dyddiad
Cyfnod blodau Ieuan oedd c.1465–c.1500 (GTP xxxiv), a chyfnod ei dad oedd c.1415/20–c.1485 (GTP xiii), a gellir cynnig, felly, mai rywbryd rhwng c.1465 a c.1485 y canodd Guto ei englynion.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXIV.
Mesur a chynghanedd
Saith englyn unodl union, ar yr un brifodl -in.
Cynghanedd (gan hepgor ail linell yr englynion o’r cyfrif): croes 27% (6 llinell), traws 54.5% (12 llinell), sain 14% (3 llinell), llusg 4.5% (1 llinell).
1wŷr … werin Mae’r cyfarchiadau hyn yn peri meddwl am ddechrau baled.
5 Ni … haidd Yr ystyr yw nad yw’r blaidd yn caniatáu i wraig fynd ar gyfyl y math o leoedd a enwir. Ymysg y mathau o fannau sy’n hoff gan fleiddiaid mae creigleoedd, gw. Fychan 2006: pennod un. Ni chyfyngant eu hymborth i gig yn unig ychwaith, gan fwynhau llystyfiant a phlanhigion hefyd.
10 Merddin Cyffelyba Guto Dudur Penllyn yn chwareus i’r bardd chwedlonol a’r daroganwr Myrddin, gw. CLC2 527.
12 athro Cyfeiriad at awdurdod Tudur Penllyn fel bardd; cf. disgrifiad Guto o Lywelyn ab y Moel yn 82.40 fel athro gwawd.
12 cethin Gallai gyfeirio at liw Tudur Penllyn neu at ei gymeriad; dichon fod yr amwysedd yn fwriadol.
17–18 gwaith … / I Wladus … Chatrin Dichon mai difyrrwch cnawdol yw arwyddocâd gwaith yma ac mai cariadon i Dudur Penllyn yw Gwladus a Chatrin. Yn ôl WG2 ‘Meirion Goch’ 3 (A), Gwerful ferch Ieuan Fychan oedd enw ei wraig, ac enw wyres iddo yno yw Catrin.
21 coginio a wnaeth Deellir 19 blaidd yn oddrych y ferf.
22 graens na chwmin Cf. 97.51–4 Sinsir a felir ar fwyd / A graens da rhag yr annwyd. / Sinamwm, clows a chwmin, / Suwgr, mas i wresogi’r min.
24 Blaidd du a biliodd ei din Deellir y geiriau hyn yn frawddeg ychwanegol. Gellid gwneud Blaidd du yn oddrych 21 Coginio a wnaeth, hynny yw ‘coginio a wnaeth ... y blaidd du a ddigroenodd ei din fwyd o’i geilliau a’i bidin’, ond byddai hyn yn llai naturiol ac mae’r geiriau Blaidd du a biliodd ei din yn ychwanegu at y ddrama.
Llyfryddiaeth
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
This poem is a series of englynion unodl union in which Guto maintains that a wolf had attacked Tudur Penllyn’s testicles. In GGl 93, following the citation of the preface to Pen 99, we find the words ‘Ateb i Ieuan ap Tudur Penllyn’ (‘Response to Ieuan ap Tudur Penllyn’), but these words neither precede nor follow the poem in this manuscript or in the other two (LlGC 1553A, CM 12) and these englynion were certainly directed at Ieuan’s father, Tudur.
As Jerry Hunter (1997: 43) asserts, the backdrop to the poem is probably some occasion on which Tudur Penllyn was made a cyff clêr (‘minstrels’ butt of satire’) on the theme that the wolf has taken the poet’s testicles, and there is extant a series of englynion which Tudur sang at the wedding-feast of Dafydd Amhredudd Fychan which no doubt represents Tudur Penllyn’s reply to the poets who ridiculed him (poem 46b). The englynion that Ieuan ap Tudur Penllyn sang on the same occasion have also survived (poem 46a).
Hunter (1997: 42–3, 47, 48) suggested that the poets who satirized the pencerdd (‘master-bard’) were clêr (‘minstrels’) in the sense of being inferior poets and this is why their poems were not usually recorded, unlike the responses of the pencerdd. The poems of Guto’r Glyn and Ieuan ap Tudur Penllyn, however, can scarcely be described as the work of inferior poets – and it should also be recalled that Hywel Cilan and Gutun Owain were among the other poets who lampooned Tudur Penllyn on the same occasion (see poem 46b). Whatever the explanation for the dearth of poems composed by the clêr in the manuscripts, this piece of evidence, at least, shows that some of them were among the best poets of the day.
There are other instances of englynion directed at a cyff clêr in the manuscripts, such as those exchanged between Gruffudd Hiraethog and other poets (GGH poem 151), but the three poems under notice afford us the clearest and earliest snapshot of this kind of composition and as such are of considerable importance.
Date
Ieuan flourished c.1465–c.1500 (GTP xxxiv), and his father’s years were c.1415/20–c.1485 (GTP xiii). It may therefore be proposed that Guto sang the englynion sometime between c.1465 and c.1485.
The manuscripts
The poem has been preserved in three manuscripts: Pen 99, LlGC 1553A and CM 12, which is a copy of Pen 99. Pen 99 has four englynion, but LlGC 1553A has seven. The last three englynion were possibly omitted in Pen 99 because the content was considered unseemly. The text of Pen 99 is pretty similar to the corresponding part of LlGC 1553A and they can be derived from the same exemplar. The three manuscripts have links with north and mid Wales and none with the South. The edited text is based on Pen 99 and LlGC 1553A.
Previous edition
GGl poem XXXIV.
Metre and cynghanedd
Seven englynion unodl union on the same main rhyme, -in.
Cynghanedd (discounting the second line of the englynion): croes 27% (6 lines), traws 54.5% (12 lines), sain 14% (3 lines), llusg 4.5% (1 lines).
1 wŷr … werin These salutations are reminiscent of the opening of a ballade.
5 Ni ... haidd The meaning is that the wolf does not permit a woman to go anywhere near the kind of places mentioned. Among the kinds of places which wolves like are rocky terrain, see Fychan 2006: chapter one. Neither do they limit their diet solely to meat but enjoy vegetation and plants too.
10 Merddin Guto likens Tudur Penllyn playfully to the legendary poet and vaticinator Myrddin (Merlin), see NCLW 522.
12 athro A reference to Tudur Penllyn’s authority as a poet; cf. Guto’s description of Llywelyn ab y Moel in 82.40 as Athro gwawd ‘authority on song’.
12 cethin It could refer either to Tudur Penllyn’s colouring or character; the ambiguity is probably deliberate.
17–18 gwaith … / I Wladus … Chatrin It may be that gwaith signifies carnal diversion here and that Gwladus and Catrin are sweethearts of Tudur Penllyn’s. According to WG2 ‘Meirion Goch’ 3 (A), his wife’s name was Gwerful daughter of Ieuan Fychan, and a grand-daughter of his mentioned there is named Catrin.
21 coginio a wnaeth 19 blaidd is taken as the subject of the verb.
22 graens na chwmin Cf. 97.51–4 Sinsir a felir ar fwyd / A graens da rhag yr annwyd, / Sinamwm, clows a chwmin, / Suwgr, mas i wresogi’r min ‘Ginger is ground on food / and excellent grains to keep against the cold, / cinnamon, cloves and cummin, / sugar, mace to warm the lips’.
24 Blaidd du a biliodd ei din These words are taken as an additional sentence. Blaidd du could be made the subject of 21 Coginio a wnaeth, i.e., ‘the wicked wolf that skinned his arse cooked ... food from his testicles and prick’, but this appears less natural, and the words Blaidd du a biliodd ei din add to the drama of the event.
Bibliography
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Ieuan ap Tudur Penllyn yw awdur cerdd 46a, sef cyfres o englynion sy’n dychanu ei dad, Tudur Penllyn, a oedd hefyd yn fardd. Canodd Guto gyfres debyg o englynion ar yr un pwnc (cerdd 46) a chanodd Tudur yntau gyfres arall o englynion i’w amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn y cerddi hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.
Achres
Olrheiniai Ieuan ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.
Fel y gwelir, roedd Ieuan yn nai i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.
Ei yrfa
Cafodd Ieuan ei eni tua 1433–40, yng Nghaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn, mae’n debyg, a bu farw tua 1500. Credir i gyfnod ei ganu ymestyn o c.1458–65 hyd ddiwedd y ganrif. Priodolir 15 cerdd iddo ac ynddynt ceir moli a marwnadu, gofyn a dychan. Ymysg y sawl y canodd iddynt roedd aelodau o deuluoedd Abertanad, yr Wyddgrug, Ynysymaengwyn a Gwydir, ac fel llawer o feirdd eraill canodd i’r Abad Dafydd ab Owain. Yn ogystal â’i dad, roedd ei fam, Gwerful ferch Ieuan Fychan, a’i chwaer, Gwenllïan, yn feirdd. Ymhellach, gw. GTP; ByCy Ar-lein s.n. Ieuan ap Tudur Penllyn.