Y llawysgrifau
Ceir y gyfres englynion hon mewn tair llawysgrif, sef Pen 99, LlGC 11816B a CM 12. Ceir saith englyn yn Pen 99 ond yr un olaf yn unig a geir yn LlGC 11816B; copi yw CM 12 o Pen 99. Tebyg yw testun Pen 99 i’r rhan gyfatebol o destun LlGC 11816B ac eithrio yn llinell gyntaf yr englyn. Gellir olrhain Pen 99 a LlGC 11816B i’r un gynsail. Mae’r llawysgrifau i gyd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru. Seiliwyd y testun golygyddol ar Pen 99.
Trawsysgrifiad: Pen 99.
3 wŷl Pen 99 wyl a allai fod yn drydydd person unigol presennol mynegol y ferf gweld neu wylo. Yr ail a ddewisir yn GTP 51.3 ond os yw’r dehongliad o 3–4 yn gywir, y ferf gweld sy’n fwyaf tebygol.
4 wedi’r Mae wedi’i GTP 51.4 yn ffrwyth camddarllen i am r yn CM 12.
4 au Pen 99 iav. Amrywiad yw iau ar au ond yn ôl GPC 2002 d.g. iau2, 1671 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf. Gallai’r ffurf iau fod wedi bodoli ynghynt ond gellir priodoli i- y llawysgrif hefyd i ddylanwad -i yn yr oi blaenorol.
17 warchau Felly Pen 99; gthg. GTP 51.17 warchae, darlleniad nas ceir yn y llawysgrifau. Ar y ffurf yn -au, gw. GPC 1579.
25 Ni bydd chwiorydd, chwarae – bwriadus Gthg. LlGC 11816B Ni chair chwiorvdd ichwarae mewn brwydyr. Gellid ystyried y darlleniad hwn hefyd ond rhyfedd yw’r syniad o’r bardd yn brwydro â’i chwiorydd.
Yn y gyfres hon o engylion honna Ieuan ap Tudur Penllyn fod blaidd wedi brathu ceilliau ei dad. Yr un cefndir sydd iddi ag i ddychan Guto’r Glyn ar yr un pwnc, gw. cerdd 46, ond nid yw ei hystyr mor glir a phetrus yw’r dehongliad mewn mannau.
Dyddiad
Rhwng c.1465 a c.1485 (gw. cerdd 46).
Golygiad blaenorol
GTP cerdd 51.
Mesur a chynghanedd
Saith englyn unodl union, ar yr un brifodl -au.
Cynghanedd (gan hepgor ail linell yr englynion o’r cyfrif): croes 29% (6 llinell), traws 52% (11 llinell), sain 19% (4 llinell).
1 cachiad Rhydd GPC 374 yr ystyron ‘llwfr … llyfrddyn’ ond yng ngoleuni gweddill y gerdd mae’n anodd gwybod pam y disgrifir Tudur Penllyn felly gan ei fab. Ar y llaw arall, nid oes dim rheswm pam na ellir cyfuno bôn y ferf cachu ‘ysgarthu’ gyda’r terfyniad gweithredydd -iad i olygu ‘ysgarthwr’ hefyd. Os cywir tybio mai wrth ysgarthu y collodd Tudur Penllyn ei geilliau, yna mae’r ystyr hon yn taro’n well yma.
1 cuchiau tylluan Ai’r ergyd yw bod Tudur Penllyn yn edrych yn ddoeth-ddifrifol wrth ysgarthu? Os felly, cf. 13 heb oriau peraidd. Dichon hefyd fod awgrym mai yn y nos y bu’r digwyddiad.
3–4 Dyn … / … au Ymddengys mai’r hyn a olygir yw bod Tudur Penllyn yn gwylio ei ddŵr yn dod allan wedi iddo golli ei geilliau.
4 wedi’r radd Cynigir yn betrus mai cyfeiriad sydd yma at y ffaith fod Tudur Penllyn wedi graddio’n fardd o awdurdod. Fel hyn ceir gwrthgyferbyniad rhwng urddas Tudur Penllyn fel bardd graddedig ac anurddas ei anffawd; cf. 46.9–12 Ysbeiliodd Dudur (oes bilin – a’i cudd?), / Cywyddol fal Merddin; / Ni mynnai fwyd mewn ei fin / Eithr cwthr yr athro cethin.
4 dŵr o’i au Nid o’r iau, wrth gwrs, y daw troeth ac ymddengys na wyddai Ieuan ap Tudur Penllyn hynny. Ffurf ar (i)afu yw iau, gw. GPC2 109; sylwer, er hynny, mai 1671 yw dyddiad yr enghraifft gyntaf ohoni a restrir yn ibid. 2002.
5 bwriad Nid yw'r ystyron a roddir yn GPC 355 yn hollol addas. Mae’n bosibl mai’r weithred o fwrw ymaith neu wagio, a charthion yn wrthrych dealledig, a olygir. Byddai hynny’n gyson â pherwyl y gerdd; cf. 13.
5 gwnaethoedd Ar y ffurf, gw. GMW 131; G 696.
6 Allt-y-gwinau Ger Drws-y-nant, ym mlaen Dyffryn Wnion, sir Feirionnydd, GTP 143.
7 chwe blwydd neu iau Mae’n aneglur pam y priodolir yr oed hwn i’r blaidd; cf. 15 chwe blwydd ac iau. Dichon mai ffordd sydd yma o ddweud ei fod eisoes yn ei lawn faint a’i nerth.
7–8 a wnaeth … / … ei frad yntau Nid tan wedi ail [f]wriad Tudur Penllyn y bu hyn, gw. 13–14. Sylwer hefyd fod yntau yn dangos bod [b]rad yn cyfateb i 5 bwriad. Gan mai un o ystyron bwriad yw ‘cynllwyn, bradwriaeth’, GPC 355 (c), gall fod Ieuan ap Tudur Penllyn yn chwarae ar ystyron y gair.
13 bwriad yr eilwaith Ail [f]wriad (gw. 5) Tudur Penllyn.
13 heb oriau peraidd Cf. 1 guchiau tylluan.
14 poered Hynny yw, gan y blaidd.
16 fal y gleisiad Yr awgrym yw bod y gleisiad yntau yn cael poen yn ei fol o ganlyniad i lyncu ceilliau; cf. yr englynion dychan a ganodd y beirdd i Ruffudd Hiraethog pan wnaed ef yn gyff gwawd yn neithior Wiliam Llwyd yn Rhiwedog ar y testun iddo syrthio oddi ar gefn ei geffyl i’r llyn lle cafodd ei ysbaddu gan leisiad neu eog, GGH cerdd 151; e.e., 151.17–20, Syrthiodd, ymdrechodd o drachwant, – i’r llyn / Nid er llenwi moliant – / Y gleisiad, ocheliad chwant, / Disbaddodd dewis buddiant (Lewys ab Edward).
17 gwarchau Cyfeirir at arfer blaidd o gau am ei brae.
19 medd y mau Ai rhyw aelod o deulu Ieuan ap Tudur Penllyn a olygir? Cf. 21 medd dau. Efallai nad yw’r enghreifftiau hyn ond ffordd arall o ddweud ‘meddir wrthyf gan gydnabod / ffrind / câr’.
21 medd dau Gw. 19n; neu ai ystyr dau yma yw ‘mwy nag un’, ‘llawer’?
23 llew wedi’i wtláu Ai llew wedi ei symud o’i briod gynefin a’i ddodi mewn ffau a olygir? Gallai pwysigion cefnog y cyfnod brynu anifeiliaid gwyllt, megis eirth ac epaod, a’u cadw felly.
24 cat gwinau Cath wyllt, a oedd yn gyffredin gynt yng Nghymru; cf. GDC 15.7n.
25–6 Ni bydd chwiorydd … / Na brodyr i minnau Yn ôl WG2 ‘Meirion Goch’ 2C, roedd gan Dudur Penllyn ddwy ferch, ill dwy o’r enw Gwenllïan, a mab arall o’r enw Llywelyn.
Llyfryddiaeth
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
In this series of englynion Ieuan ap Tudur Penllyn asserts that a wolf bit his father’s testicles. It has the same background as Guto’r Glyn’s satire on the same theme, see poem 46, but its meaning is not so clear in places.
Date
Between c.1465 and c.1485 (see poem 46).
The manuscripts
The poem has been preserved in three manuscripts: Pen 99, LlGC 11816B and CM 12. There are seven englynion in Pen 99, but only the last one is found in LlGC 11816B; CM 12 is a copy of Pen 99. The text of Pen 99 is similar to the corresponding part of LlGC 11816B except in the first line of the englyn. Pen 99 and LlGC 11816B can be traced back to the same exemplar. The three manuscripts have links with north and mid Wales. The editorial text is based on Pen 99.
Previous edition
GTP poem 51.
Metre and cynghanedd
Seven englynion unodl union on the same main rhyme, -au.
Cynghanedd (discounting the second line of the englynion): croes 29% (6 lines), traws 52% (11 lines), sain 19% (4 lines).
1 cachiad GPC 374 gives the meanings ‘cowardly, ... coward’ but in the light of the rest of the poem it is difficult to know why Tudur Penllyn is so described by his son. On the other hand, there is no reason why the stem of the verb cachu ‘defecate’ could not have been combined with the agent suffix -iad to mean ‘defecator’. If it is correct to suppose that Tudur Penllyn lost his testicles when defecating, then this sense suits the context better.
1 cuchiau tylluan Is the point that Tudur Penllyn looks solemn when defecating? If so, cf. 13 heb oriau peraidd. There may also be a suggestion that the incident took place at night.
3–4 Dyn … / … au What is meant apparently is that Tudur Penllyn is watching his urine come out after losing his testicles.
4 wedi’r radd It is tentatively understood as a reference to the fact that Tudur Penllyn had graduated as a poet of authority. In this way a contrast is achieved between his dignity as a poet and the indignity of his misfortune; cf. 46.9–12 Ysbeiliodd Dudur (oes bilin – a’i cudd?), / Cywyddol fal Merddin; / Ni mynnai fwyd mewn ei fin / Eithr cwthr yr athro cethin ‘It robbed Tudur (is there a garment to conceal him?), / a poet like Myrddin; / he didn’t want food in his mouth / except the fierce master’s bum’.
4 dŵr o’i au Urine does not, of course, come from the liver and it appears that Ieuan ap Tudur Penllyn was unaware of that. Iau is a variant form of (i)afu, see GPC2 109; note, however, that 1671 is the date of the first example of it listed in ibid. 2002.
5 bwriad Not one of the meanings given in GPC 355 seems entirely appropriate. However, perhaps what is meant is an ejection, with excrement as the understood object. That would be in keeping with the tenor of the poem; cf. 13.
5 gwnaethoedd On the form, see GMW 131; G 696.
6 Allt-y-gwinau By Drws-y-nant, at the head of Dyffryn Wnion, Meirionnydd, GTP 143.
7 chwe blwydd neu iau It is unclear why this age is attributed to the wolf; cf. 15 chwe blwydd ac iau. Maybe it is a way of saying that the wolf has already reached its full size and strength.
7–8 a wnaeth … / … ei frad yntau This was not until the second bwriad of Tudur Penllyn, see 13–14. Note too that yntau shows that [b]rad corresponds to 5 bwriad. As one of the meanings of bwriad is ‘conspiracy, treachery’, GPC 355 (c), Ieuan ap Tudur Penllyn may be playing on the meanings of the word.
13 bwriad yr eilwaith The second bwriad (see 5) of Tudur Penllyn.
13 heb oriau peraidd Cf. 1 guchiau tylluan.
14 poered I.e., by the wolf.
16 fal y gleisiad The suggestion is that the salmon experiences pain after swallowing testicles; cf. the satirical englynion which some poets sang to Gruffudd Hiraethog when he was made a butt of ridicule at the wedding-feast of Wiliam Llwyd in Rhiwedog on the theme that he had fallen off the back of his horse into the lake where he was castrated by a salmon, GGH poem 151; e.g., 151.17–20, Syrthiodd, ymdrechodd o drachwant, – i’r llyn / Nid er llenwi moliant – / Y gleisiad, ocheliad chwant, / Disbaddodd dewis buddiant ‘He fell, he strove out of lust, into the lake / not so as to swell praises; / the salmon, avoidance of desire, / castrated the choice of well-being’ (Lewys ab Edward).
17 gwarchau A reference to a wolf’s habit of closing in on its prey.
19 medd y mau A reference to a member of Ieuan ap Tudur Penllyn’s family? Cf. 21 medd dau. These examples are perhaps another way of saying ‘So I am told by an acquaintance / friend / kinsman’.
21 medd dau See 19n; or does dau mean ‘more than one’, ‘many’ here?
23 llew wedi’i wtláu Is the poet thinking of a lion removed from its natural habitat and placed in a den? The rich and important people of the period could buy wild animals, such as bears and apes, and keep them in that state.
24 cat gwinau A wild cat, formerly common in Wales; cf. GDC 15.7n.
25–6 Ni bydd chwiorydd … / Na brodyr i minnau According to WG2 ‘Meirion Goch’ 2C, Tudur Penllyn had two daughters, both called Gwenllïan, and another son called Llywelyn.
Bibliography
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Ieuan ap Tudur Penllyn yw awdur cerdd 46a, sef cyfres o englynion sy’n dychanu ei dad, Tudur Penllyn, a oedd hefyd yn fardd. Canodd Guto gyfres debyg o englynion ar yr un pwnc (cerdd 46) a chanodd Tudur yntau gyfres arall o englynion i’w amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn y cerddi hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.
Achres
Olrheiniai Ieuan ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.
Fel y gwelir, roedd Ieuan yn nai i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.
Ei yrfa
Cafodd Ieuan ei eni tua 1433–40, yng Nghaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn, mae’n debyg, a bu farw tua 1500. Credir i gyfnod ei ganu ymestyn o c.1458–65 hyd ddiwedd y ganrif. Priodolir 15 cerdd iddo ac ynddynt ceir moli a marwnadu, gofyn a dychan. Ymysg y sawl y canodd iddynt roedd aelodau o deuluoedd Abertanad, yr Wyddgrug, Ynysymaengwyn a Gwydir, ac fel llawer o feirdd eraill canodd i’r Abad Dafydd ab Owain. Yn ogystal â’i dad, roedd ei fam, Gwerful ferch Ieuan Fychan, a’i chwaer, Gwenllïan, yn feirdd. Ymhellach, gw. GTP; ByCy Ar-lein s.n. Ieuan ap Tudur Penllyn.