Y llawysgrifau
Ceir copi o’r gerdd hon mewn 25 llawysgrif. Mae darlleniadau amrywiol y testunau cynharaf yn awgrymu bod tri neu bedwar fersiwn o’r gerdd. Ac eithrio Brog I.2 maent oll yn dilyn yr un drefn llinellau, sef 1–68. Mae’r testun yn anghyflawn yn Llst 120 a LlGC 3061D, a chwpled yn unig a geir yn Pen 221.
Copïwyd y testun i LlGC 3049D o ffynhonnell goll a oedd, fe ymddengys, yn perthyn i draddodiad llawysgrifau Dyffryn Conwy, sef X1 yn y stema. Ond awgryma’i ddarlleniad o moel a thrwm (5) am Moel Othrwm fod enw’r mynydd hwnnw’n anghyfarwydd iddo. Mae testun Gwyn 4 hefyd yn tarddu o X1, ond yn achos y gerdd hon mae’r gwahaniaethau rhwng y ddau destun ychydig yn fwy na’r arfer. Er enghraifft, mae Gwyn 4 yn darllen othrwm (5), deo (enw a geir yn LlGC 3049D, gw. 9n), yn iau (55), a mine (58) a credir (61). Copi o Gwyn 4 a geir yn LlGC 21248D. Perthyn Pen 99 i X1 o ran darlleniadau llinellau 17, 18, 23, 28 a 29 ond ceir ynddo hefyd rai o’r un darlleniadau â X2. Yn betrus, felly, yr awgrymir ei fod yn tarddu o X1. Collwyd llinellau 1–32 yn Llst 120 ond gan fod ynddo’r un darlleniadau unigryw â Pen 99 yn llinellau 49 a 60, gellir awgrymu’n weddol hyderus ei fod yn gopi o Pen 99. Diwedd y cywydd sydd ar goll yn LlGC 3061D, sef llinellau 61–8, ond yn wahanol i gerdd 50, mae’n ymddangos fod y copi yn LlGC 3061D y tro hwn yn deillio o Pen 99.
Ni cheir gwahaniaethau mawr iawn rhwng fersiynau o’r gerdd sy’n tarddu o X1 a’r copïau sy’n tarddu o X2, sef BL 14969 a BL 14976. Gall fod cydberthynas rhyngddynt (gw. yn arbennig 13, 17, 18 a 23). Nodweddir hwy’n bennaf gan eu darlleniadau ar gyfer llinellau 5, 29, 32 a 56. Gellir bod yn weddol sicr fod BL 14969 a BL 14976 yn tarddu o’r un ffynhonnell (yr un gerdd sy’n dilyn yn y ddwy lawysgrif) a gellir awgrymu bod perthynas hefyd â BL 14978. Rhydd BL 14978 yr un darlleniad llwgr a thrwm yn llinell 5 a’r amrywiad unigryw or eiddaw yn llinell 56 ond rhydd hefyd fân amrywiadau sy’n cytuno â C 2.114, e.e. gwych a ieuainc yn llinell 28, neu dro arall sy’n cytuno ag X1, er enghraifft, ei ragorau yn llinell 29. Mae testun Pen 152 eto yn anodd i’w leoli a gellid awgrymu o’i ddarlleniadau o linellau 29 a 56 (sy’n fân amrywiadau) ei fod yn perthyn i X2. Ond sylwer mai othrwm a ddarllenir yn llinell 5 a duw yn llinell 9: dau ddarlleniad sy’n cytuno â BL 14978, ond sy’n wahanol i BL 14969 a BL 14976. Tybed, felly, i’r ddau gopi gael eu dylanwadu gan fwy nag un testun o’r gerdd?
Saif C 2.114 ar wahân oherwydd ei ddarlleniad o linellau 9, 24 a 32 yn bennaf. Gan ei fod yn gopi cynnar mae’r ffaith iddo gadw’r enw Moel Othrwm yn llinell 5 yn dystiolaeth werthfawr (ac ni welir cysylltiad rhyngddo a’r testunau cynnar eraill sydd â’r darlleniad hwnnw, e.e. Gwyn 4). Sylwer, fodd bynnag, mai gan C 2.114 a BL 14978 yn unig y cadwyd y darlleniad ’mordwyodd yn 53: awgrym o bosibl fod perthynas rhwng y ddau destun. At hynny, maent hefyd yn rhannu’r un darlleniadau o linellau 28 a 58. Mae J 139 yn gopi o C 2.114 a LlGC 552B yn ei dro yn gopi o J 139.
Mae’r copi yn Brog I.2 tipyn yn wahanol i’r gweddill gyda threfn llinellau amrywiol a chwpledi coll, sef 7–10, 49–50 a 63–4. Rhydd hefyd ddarlleniadau unigryw, gw. 1, 5, 18, 24, 57 a 61. Sylwer i linell 9 achosi problemau i’r copïwyr eraill hefyd (maent naill ai’n darllen enw neu duw neu ddarlleniad unigryw yn achos C 2.114). Tybed, felly, a oedd y llinell hon yn anodd ei darllen neu wedi ei niweidio yn y gynsail a bod rhai copïwyr wedi ceisio dyfalu, neu, yn achos Brog I.2, wedi hepgor y cwpled yn gyfan gwbl? Ar y cyfan, nid yw Brog I.2 yn destun da iawn; mae X1, X2 a C 2.114 yn rhagori o ran darlleniadau.
Trawsysgrifiadau: Gwyn 4, C 2.114 a BL 14969.
1 biau’r enw Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio Brog I.2, lle bv’r enw. Efallai i’r llinell nesaf (lle bu ran) ddylanwadu ar Brog I.2.
5 Moel Othrwm Enw ar fynydd ger Nannau yw Moel Othrwm, ond ymddengys i rai copïwyr cynnar ei gamddeall. Mae Gwyn 4 a Pen 99 yn cytuno mai moel othrwm yw’r darlleniad ond ceir moel a thrwxm yn LlGC 3049D: camddarllenwyd a am o yn y gynsail o bosibl. Yn ddiddorol ddigon, mae’r llawysgrifau sy’n tarddu o X2 hefyd yn darllen moel a thrwm (ac eithrio Pen 152) sy’n awgrymu iddynt wneud yr un camgymeriad â LlGC 3049D yn annibynnol. Rhydd C 2.114 moel orthrwm: ymddengys i’r ddwy ffurf ar yr enw priod fodoli ym marddoniaeth y cyfnod, cf. TA LVII.44 A’th wŷr am Foel Orthrwm fawr (ond rhaid gwrthod orthrwm yma oherwydd y gynghanedd). Unigryw a gwallus yw darlleniad Brog I.2 y moel oedd rwm.
7–10 Collwyd y bedair llinell hyn yn Brog I.2.
9 gan yt ddwyn, Duw Llinell anodd gan na cheir patrwm amlwg yn y llawysgrifau. Anghyson yw darlleniadau’r llawysgrifau sy’n tarddu o X1: gann yt ddwyn enw yn LlGC 3049D, Gan yt ddwyn deo yn Gwyn 4 a Gan yt ddwyn dduw yn Pen 99. Gan lawysgrifau X2 ceir y darlleniadau canlynol: gann vt ddwyn enw yn BL 14969, gan yt ddwyn dvw yn BL 14978 a Gann vt ddwyn dduw yn BL 14976. Didreiglad yw dwyn yn C 2.114 ac unigryw yw darlleniad gweddill y llinell gan roi cynghanedd wallus: glan yt dwyn denw. Efallai, fel yr awgrymir uchod, fod y llinell hon yn anodd i’w darllen yn y gynsail ac i hynny arwain at ddarlleniad llwgr (yn enwedig gan fod d ac e yn debyg ac n ac u yn debyg). Mae GGl yn dilyn Gan yt ddwyn, Dduw, gynt y ddau ond Pen 99 yw’r testun cynharaf a rydd y darlleniad hwnnw ac nid oes rhaid treiglo Duw (gall wrthsefyll treiglad am ei fod yn digwydd ar ôl yr orffwysfa). O ran synnwyr, mae Duw yn well a chymryd mai ef yw’r person a gyferchir yn y cwpledi hyn a bod dwyn yn golygu ‘cipio ymaith drwy farwolaeth’.
11 a gad, Duw Sef darlleniad X2 a C 2.114. Ymddengys i’r diffyg treiglad ar ôl y ffurf ail unigol gorchmynnol gad beri cryn ddryswch i’r copïwyr yma. Treiglir Duw yn feddal yn X1: a gad dduw yn LlGC 3049D; A gad ddeo yn Gwyn 4 (ymddengys i’r cywiriad gael ei nodi gan law ddiweddarach). Y broblem yw’r gynghanedd gan na ellir cael cynghanedd gywir gyda’r treiglad meddal. Ni cheir darlleniad GGl, O gad Duw, yn yr un llawysgrif. Dichon i Brog I.2 hefyd newid ei ddarlleniad gan mai gettid Duw sydd yn y testun hwnnw (ac ymddengys fod LlGC 3061D hefyd wedi diwygio’r llinell: a gâd hil (dduw) o goed hwn).
12 yn wyrda Felly X1 (ac eithrio Pen 99), X2 a Brog I.2. Yr unigol wrda yw darlleniad y gweddill. Cryfach yw’r ddelwedd os derbynnir y lluosog wyrda yma, hynny yw, fod hil Dafydd fel pren wardwn, sef coeden bêr neu ellyg.
13 i’r Wengraig Darlleniad X2, C 2.114 a Brog I.2; ceir i wengraig gan X1. Dehonglir y Wengraig fel enw lle yn 50.50, dan y Wengraig. Yn arferol cynhwysir y fannod, gw. 13n Y Wengraig (esboniadol).
16 i’n magu Anodd gwybod ai yn magu, i’m magu, neu i’n magu a gynrychiolir gan wahanol ffurfiau’r llawysgrifau yma. Mae’r gynghanedd o blaid i’n, sef darlleniad LlGC 3049D a Brog I.2 (y llawysgrifau cynharaf sy’n darllen im yw Gwyn 4 a C 2.114). Y ffurf person cyntaf lluosog sydd fwyaf ystyrlon hefyd, cf. 18 a’n mag, a bod Guto’n siarad ar ran y beirdd a fu’n clera yn Nannau.
18 a’n mag eilwaith Ceir y darlleniad unigryw yw magoliaeth yn Brog I.2.
21 am win a rhoddion Felly’r llawysgrifau i gyd ac eithrio Brog I.2 mae /n/ rhwydd i mine i rhoddion.
23 oen ... ynn Darlleniad X1, X2 a C 2.114. Rhydd Brog I.2 ddarlleniad unigryw, vn ... yw enw.
24 ddyrras Dilynir X1 ac X2 ar sail yr ystyr gan fod dyrras sef ‘diras’ yn fwy addas yma. Ceir y darlleniad dyrys yn C 2.114, BL 14978 a Brog I.2.
28 a ieuainc Y darlleniad ac ieuainc a geir yn LlGC 3049D a Brog I.2 ac mae’n bosibl i X2 geisio gwella’r gynghanedd wrth ei newid yn gwych ievaink yw a chowir. Dilynir Gwyn 4, BL 14978 a C 2.114 yma a darllen a ieuainc.
29 ei ragorau Darlleniad X1 a C 2.114 gwr mawr i ragore. Rhydd y treiglad meddal ar ôl y rhagenw blaen ei (a gynrychiolir gan i gan amlaf yn y llawysgrifau) r ganolgoll. Ceir darlleniad gwahanol yn X2 sef a rhagorau sy’n rhoi cynghanedd draws ac mae’n bosibl i’r copïwyr geisio addasu’r gynghanedd i osgoi r ganolgoll. Rhydd Brog I.2 ddarlleniad unigryw sef o ragorau.
32 bendith Dduw i’w dai Dilynir X1 a Brog I.2 a darllen i’w dai, cf. 26.8 bendith Dduw i’th dai! O dderbyn darlleniad y gweddill, sef Dduw’n ei dai, osgoir n wreiddgoll, ond mae’n bosibl mai dyna pam y bu i’r copïwyr addasu’r llinell.
41 da rhed Anodd yw gwybod yn union ai’r rhagenw blaen trydydd unigol ei neu’r geiryn rhagferfol y a gynrychiolir gan i yn narlleniadau’r llawysgrifau yma yn dilyn da. Hefyd, nid oes cysondeb o ran dull dynodi ‘rh’ ac felly anodd yw gwybod a geir yma dreiglad meddal (a awgrymai mai ei sy’n gywir). Ceir da i red yn LlGC 3049D ac os y dilynir hwnnw ceir llinell seithsill a chynghanedd gywir ond nid yw’n rhoi cystal ystyr. Y darlleniad da i rhed a geir gan weddill llawysgrifau X1; mae X2 a Brog I.2 hefyd yn darllen da i rhed neu da i Red sy’n awgrymu mai da y rhed yw’r darlleniad. Mae’r ystyr yn well o ddarllen da y rhed deubarc ond rhaid hepgor y (drwy gywasgiad) fel a wneir yn C 2.114 a darllen da rhed yma.
46 oedd fwyaf ei ffon Sef darlleniad X1 a C 2.114. Ymddengys i’r darlleniad fwya i ffon (a rydd bron pob copi) arwain at yr angen am sillaf ychwanegol yma ac mai hynny sy’n gyfrifol am ddarlleniad X2: a fu Ffwc (dilynir hynny hefyd yn Pen 152), a Brog I.2: fv ffwg penn fy fwya i ffonn. Gan fod LlGC 3049D a Gwyn 4 yn darllen fwyaf ei dilynir hynny yma.
47 gorfu wŷr Rhaid arbed sillaf yma: mae X1 ac X2 yn darllen y gorfu wŷr a C 2.114 yn hepgor y; dilynir hynny yma. Anghywir yw’r gynghanedd yn Brog I.2 sydd â’r darlleniad gorfv gwyr.
49–50 Collwyd y cwpled hwn yn Brog I.2.
53 a ’mordwyodd Cf. C 2.114 a BL 14978 am mordwyodd; yn X1, X2 a Brog I.2 ceir am ardwyodd. Anodd yw penderfynu rhyngddynt. Byddai a’m ardwyodd ‘a’m hamddiffynnodd’ yn rhoi ystyr dda yng nghyswllt sant, er na wyddys pam y byddai Guto’n cyfeirio’n arbennig at Fordeyrn, sant a gysylltir â Nantglyn, Dinbych, fel nawddsant iddo. Fodd bynnag mentrir dehongli darlleniad C 2.114 a BL 14978 yn gywasgiad o a ymordwyodd, gan ddeall y ferf ymordwyo yn amrywiad ar mordwyo ‘hwylio (dros), mordeithio, morio’ yn ôl GPC 2488. (Ni chafwyd enghraifft arall o ymordwyo, ond cf. teithio/ymdeithio, ac er y disgwylid ymfordwyo, cf. amfod → amod, GPC 234.) Credir mai cyfeiriad sydd yma at chwedl am y sant Mordeyrn yn croesi’r dyfroedd i Enlli ar gefn ei geffyl (ymhellach ar y chwedl honno, gw. 53n (esboniadol)).
55 i minnau Ceir darlleniad unigryw yn Gwyn 4, sef yn iau (cf. LlGC 21248D a LlGC 3021F).
56 â’r Darlleniad X1 a C 2.114 yw ar heiddaw a dehongli hynny fel â’r sydd fwyaf ystyrlon yma. Mae X2 a Brog I.2 yn darllen or eiddaw.
58 i minnau unfaint Mae’r gynghanedd braidd yn anarferol yma oherwydd ceir n berfeddgoll o flaen yr acen yn ail hanner y llinell. Ond dyma ddarlleniad mwyafrif y llawysgrifau (X1, C 2.114 a BL 14978) ac mae’n bosibl mai ymgais i gywirio’r gynghanedd a geir yn X2, ymy o vn faint.
60 drwy’r Felly pob llawysgrif ac eithrio Brog I.2 i’r.
61 o’m cleddir Fel yn achos llinell 55, ceir darlleniad unigryw yn Gwyn 4, sef om credir.
63–4 Ni cheir y cwpled hwn yn Brog I.2.
Cywydd i Ddafydd ap Meurig Fychan o Nannau a’i wraig Elen ferch Hywel ap Rhys o Rug, i ddiolch am farch a gafodd y bardd, un o’r rhoddion mwyaf traddodiadol a roddid i fardd gan ei noddwr (gw. Huws 1997: 143). Y termau a ddefnyddir yn y cywydd am y ceffyl arbennig hwn yw march (llinellau 37, 56–8), hacnai (50) a gorwydd (65) ond disgrifiad byr iawn o’r anifail a geir mewn cymhariaeth â’r gerdd ofyn am farch gan Guto ar ran Rheinallt ap Rhys Gruffudd, sef cerdd 39. Casglwn fod y march a dderbyniodd yn un coch neu rudd (40, 56), yn gyflym, yn fawr ac yn nerthol (38, 39, 58), ac yn un cystal â meirch yr arwr Ffwg a’r saint Mordeyrn a Siôr.
Ymranna’r gerdd yn dair rhan, ac er bod dyfalu’r march yn fyr, mae’r bardd yn dilyn patrwm sylfaenol y cerddi gofyn a diolch (Huws 1998: 87). Yn y rhan gyntaf (1–32), molir Meurig Fychan, tad Dafydd, ynghyd â’r ddau frawd Hywel a Meurig Llwyd, taid a hen ewythr Meurig Fychan a noddwyr amlwg yn Nannau yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg. Disgrifiad o’r llys a’r wledd a ddaw nesaf a chanmol haelioni a lletygarwch Dafydd ac Elen. Cyfeirir yn benodol at bersonoliaeth wrol a theg Dafydd: awgrym o bosibl iddo ymhél â’r gyfraith, ac mae’r ffaith ei fod yn gwybod [t]eiriaith (30) yn ategu hynny.
Yn y rhan nesaf (33–58), cawn wybod gan y bardd fod y cyw eryr, sef Dafydd, yn cwyno bod march du Guto wedi cael ei ddwyn. O’r herwydd mae’n anfon march llawn o nerth at y bardd, sef un coch, unlliw â’r hyddod. Disgrifir y march yn un cyflym ond sydd hefyd yn dda am drotian ac felly’n addas i gludo gŵr nad oedd ei olwg yn dda, fel Guto ei hun. Â’r bardd rhagddo i gymharu ei hun â’r arwr lled chwedlonol Ffwg fab Gwarin a dreuliodd gyfnod o ddallineb fel Guto gan ddibynnu’n helaeth ar ei geffyl (45–52). Aiff y bardd i wir ysbryd y gerdd a gofyn yn ychwanegol am waywffon a gallu rhyfelgar Ffwg fel ei fod yn gallu trechu mân feirdd y glêr: Ac i lawr fil o’r glêr fân! Cyfeirir nesaf at ddau sant a oedd yn enwog am eu meirch: Mordeyrn a arweiniodd lu o bobl i Ynys Enlli ar gefn ei farch euraid (53–4), a Sant Siôr a fu’n ymladd draig ar gefn ei farch (57–8).
Yn rhan olaf y gerdd (59–68) dychmyga’r bardd ei hun yn marchogaeth i’r fynachlog lle y gobeithia y bydd yn cael ei gladdu. Dywed y bydd ef a’r march yn wobr neu yn ebedyw i Ddafydd, sef taliad i arglwydd y tir ar farwolaeth deiliaid (61–4). Mae’r modd y mae’n henwi … hyn i Ddafydd yn adleisio ieithwedd ewyllysiau ac yn awgrymu mai’r hyn a ddymunai’r bardd yw bod Dafydd yn cael y march fel tâl, er nad yw Guto’n un o’i ddeiliaid. Mae’n debygol mai abaty Cymer yw tŷ Ferned y cyfeirir ato yma (59). I gloi, mae’n dymuno bendith ar Ddafydd, ond yr uchafbwynt yw’r fendith ar Elen gan mai hi a anogodd Ddafydd i roi march i’r bardd.
Dyddiad
Nid yw’n bosibl cynnig dyddiad pendant i’r gerdd hon. O ran y cyfeiriadau at olwg diffygiol y bardd, mae’n bosibl ei bod yn perthyn i tua’r 1480au.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXXVII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 68 llinell.
Cynghanedd: croes 66% (45 llinell), traws 19% (13 llinell), sain 13% (9 llinell), llusg 2% (1 llinell).
3 Glan Feurig Mentrir ei ddehongli yn enw lle, er na chafwyd enghraifft arall ohono. Yng nghwpled cyntaf y cywydd cyfeiriwyd at bron draw sydd biau’r enw a drig, sef enw Meurig (Meurig Fychan, tad Dafydd, neu Feurig Llwyd, ei hen daid). O ddeall yr elfen Glan i olygu ‘llechwedd, llethr’ neu ‘fryncyn’ (gw. GPC 1399), gallwn ystyried Glan Feurig yn enw lle, yn ddisgrifiad o’r fron y saif Nannau arni; cf. 6n.
4 cludeiriodd glod Ar cludeirio ‘pentyrru, crugio, amlhau, ychwanegu, casglu ynghyd’, gw. GPC 509. Mae’r gystrawen yn awgrymu mai Glan Feurig (hynny yw Nannau) sydd wedi cynnull clod.
5 Moel Othrwm Mynydd ger Nannau yn Llanfachreth yw Moel Othrwm, gw. 50.21n Moel Othrwm.
6 brig y Lan Ymddengys fod y Lan neu Glan yn gyfeiriad at rywle penodol yn gysylltiedig â Nannau, gw. 3n.
7 Hywel Hywel ap Meurig Fychan ab Ynyr Fychan, gw. 49.1–2n.
8 Meurig Llwyd Meurig Llwyd ap Meurig Fychan ab Ynyr Fychan, gw. 49.1–2n.
9 y ddau Sef y ddau frawd Hywel a Meurig Llwyd (gw. 7n ac 8n).
10 Nannau Gw. 49.3n Nannau. Cf. llinell gan Dudur Aled i Hywel ap Dafydd ap Meurig, TA LVII.5 Gad in un i gadw Nannau.
12 wardwn Benthyciad o’r Saesneg, gw. OED Online s.v. warden, n.2 ‘An old variety of baking pear’. Defnyddir gellyg, afalau neu ffrwythau tebyg yn drosiadol gan y beirdd i ddelweddu ffrwythlondeb y noddwr a’i ddisgynyddion, cf. 86.57–8 Pwmpa ar wyrda yw’r un, / Pwngarned, penaig arnun’.
13 y Wengraig Gw. 49.7n.
13 mariangrys Cyfuniad o marian a crys. Rhoddir yr ystyron ‘gro, cerrig mân’ neu ‘draeth graeanog’ i marian yn GPC 2350–61, ac yn y gorffennol ceid calch drwy falu cregyn ar lan y môr. Ai delwedd o adeilad wedi ei orchuddio gan haen o farian, sef math o galch, a geir yma? Cf. 90.33–4 Y wlad oll a wŷl ei dâl / A’i grys fal y maen grisial (am Foeliwrch; ymhellach, gw. Tai ac Adeiladau: Gwneuthuriad: Gwaith maen).
14 Dafydd Gw. Dafydd ap Meurig Fychan.
18 Elen Sef Elen ferch Hywel ap Rhys o Rug, gw. Dafydd ap Meurig Fychan.
24 dyrras Amrywiad ar diras neu di-ras, gw. GPC 1031 ‘anrasol, drygionus, drwg, anfad, diffaith, ffiaidd, anllad’.
30 teiriaith Canmolir Dafydd ap Meurig Fychan yma am ei ddealltwriaeth o dair iaith, sef Cymraeg, Saesneg a Lladin, yn ôl pob tebyg. Er hynny, gall mai cyfeiriad ydyw at dair iaith y gyfraith sef cyfraith Hywel, cyfraith yr Eglwys a chyfraith Rhufain, gw. MacCana 1970: 62–79. Ceir awgrym yn y gerdd foliant i’w dad, Meurig Fychan, i Ddafydd ap Meurig Fychan ymhél â’r gyfraith fel ei dad, gw. Dafydd ap Meurig Fychan.
31 mwy’i ardreth … / No deg Cymerir mai ‘cyllid’ neu ‘gyfoeth’ yw ystyr ardreth yma, gw. GPC 183 d.g. adreth2. Er bod yma ormodiaith, ceir digon o dystiolaeth fod gan stad Nannau diroedd helaeth yn ei meddiant erbyn diwedd y bymthegfed ganrif, yn ymestyn i’r gorllewin hyd at yr arfordir, gw. Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd.
35 cyw eryr Sef mab i arwr. Awgryma hyn fod Dafydd yn ŵr ifanc o hyd, cf. oen difalch (23) a ieuainc a chywir (28).
36 hacnai Benthyciad o’r Saesneg hackney, gw. GPC 1799 ‘march o faintioli canolig’ neu ‘geffyl marchogaeth’. Dyma awgrym fod y ceffyl a gafodd Guto yn un a ddefnyddid i deithio arno yn hytrach nac i ryfela neu i hela.
40 rhudd Mae’r ansoddair rhudd (cf. 56 march rhudd) a’r ddelwedd unlliw â’r hyddod (40) yn awgrymu mai math o frowngoch tywyll neu liw castan yw lliw march Guto.
42 tuth Sef ‘trot, symudiad ar gyflymder rhwng trotian a charlamu’, gw. GPC 3655.
43 er dalled wyf Cyfeiria Guto yn aml yn ei gerddi diweddaraf at ei ddallineb, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu ei fod wedi colli ei olwg yn llwyr. Yn wir mae’r ansoddair dalled yma yn sicr yn awgrymu bod graddau i’r dallineb, a’r tebyg yw nad oedd yn hollol ddall, cf. cerdd 117.
43–4 Nid arbed … / Ŵr neu wal, er na welwyf Ergyd y cwpled yw bod y ceffyl hwn yn un nad yw’n osgoi rhwystrau arferol, er bod y sawl sydd ar ei gefn yn ddall.
45 dall Dyma ddisgrifiad diddorol o Ffwg fab Gwarin (gw. 46n). Ceir cyfeiriadau niferus at ei allu rhyfelgar, ei waywffon a’i farch ym marddoniaeth y cyfnod, ond anghyffredin yw manylu mwy amdano na hynny. Yn ôl y rhamant Eingl-Normanaidd a gofnodwyd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg (gw. 46n) collodd Ffwg ei olwg am saith mlynedd yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd (Wright 1855: 182).
45 gwayw llinon Deellir llinon yma fel ‘onnen; o bren onn’ ac yn ddisgrifiad o’r gwayw, ‘gwaywffon’, gw. GPC 2184.
46 Ffwg Ffwg fab Gwarin neu Fulk Fitzwarine, herwr yn ystod cyfnod y Brenin John, gw. DNB Online s.n. Fitzwarine family. Tyfodd chwedlau gwerin o’i gwmpas a chroniclwyd ei hanes mewn rhamant Eingl-Normanaidd a gofnodwyd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg (gw. Wright 1855: v–vi a Hathaway et al. 1975). Ceir sawl stori amdano’n brwydro ar gefn ei farch, fel y sonia Guto yma, ac mae’r beirdd yn hoff iawn o gyfeirio ato mewn cerddi gofyn am feirch, cf. 39.49, GIG XXXIII.50 a GLl 9.53.
48 iau Ar amrywiol ystyron iau, gw. GPC 2002; efallai mai ‘ffon neu waywffon hir’ sy’n rhoi’r ystyr orau yma.
53 Mordëyrn Sant na cheir llawer o wybodaeth amdano. Cysegrwyd eglwys a ffynnon iddo yn Nantglyn ger Dinbych ond ei ffynnon yn unig sydd wedi goroesi, ymhellach gw. Henken 1987: 193–5 a LBS iii: 502–4. Canodd Dafydd ap Llywelyn ap Madog gerdd fawl iddo, gw. Lake 1979: cerdd 3, lle sonnir am Mordeyrn yn arwain llu o bobl dros y môr i Ynys Enlli gan ddisgrifio’r march fel march euraid, sy’n cytuno â disgrifiad Guto yma o Fordeyrn a’i [f]arch melyn.
57 march Siors Sant Siôr, sef nawddsant Lloegr er y bedwaredd ganrif ar ddeg (ceid y ffurf Siôr hefyd gan Guto, gw. 107.6); daeth delweddau a cherfluniau yn portreadu’r sant ar gefn ei geffyl yn ymladd yn erbyn draig yn boblogaidd o tua’r un cyfnod, gw. ODCC3 664–5. Am enghreifftiau o’r bymthegfed ganrif, gw. Marks and Williamson 2003: 218, 397 a 408. March gwyn gan amlaf yw march Siôr, efallai ar sail y ddelweddaeth a geir yn Datguddiad 19.11. Mae’r cyfeiriadau at ei farch ym marddoniaeth y cyfnod yn weddol gyffredin, gw. GLGC 30.19–20 Os ar draed, ar ddewr gwaedu, / Os ar farch, fal Sain Siôr fu; GMBr 11.32, GLM LXXV.31–4 a GPhE 2.40.
57 eirch y saint Cyfeiriad at y beddau yn yr abaty.
59 tŷ Ferned Dyma gyfeiriad at un o’r abatai Sistersaidd, a’r gŵr dan sylw yw Bernard o Clairvaux (1090–1153) a wnaeth sylfaenu’r drefn Sistersaidd yng Nghymru o’r flwyddyn 1131 ymlaen. Ond pa abaty a feddylir yma? I abaty Glyn-y-groes y teithiai Guto’n aml at ei noddwr yr Abad Dafydd ab Ieuan, ac yno, fe ymddengys, y bwriadai dreulio blynyddoedd olaf ei fywyd. Ond dichon mai cyfeiriad sydd yma at abaty Cymer oherwydd y cysylltiad â Nannau.
62 ebedyw Sef ‘taliad i arglwydd y tir ar farwolaeth deiliaid’, gw. GPC 1155.
63 heiniar Fe’i deellir yn ffigurol yma, sef ‘tâl’ neu ‘wobr’, gw. GPC 1840.
64 Dafydd Sef Dafydd ap Meurig Fychan.
65 gorwydd Sef ‘march’ neu yn Saesneg ‘stallion’, gw. Huws 1997: 146. Dyma un o’r termau cynharaf am farch; ymhellach, gw. Kelly 1997: 50–1.
67 hafddydd Disgrifiad o harddwch Elen sydd yma, ond mae’n bosibl iawn hefyd mai yn ystod yr haf y canodd Guto’r cywydd hwn. Erbyn blynyddoedd olaf ei yrfa dywed Guto wrthym ei fod yn clera yn weddol agos i Lyn-y-groes ym misoedd yr haf ac yn treulio’r gaeaf yng nghwmni’r Abad Dafydd yn yr abaty.
68 Elen Gwraig Dafydd ap Meurig Fychan. Diddorol mai Elen, yn ôl y bardd, oedd yr un a wnaeth annog ei gŵr, Dafydd, i anfon march at Guto.
Llyfryddiaeth
Hathaway, E.J. et al. (1975) (eds.), Fouke le Fitz Waryn (Oxford)
Henken, E.R. (1987), Traditions of the Welsh Saints (Cambridge)
Huws, B.O. (1997), ‘ “Praise lasts longer than a horse”: Poems of Request and Thanks for Horses’, S. Davies and N.A. Jones (eds.), The Horse in Celtic Culture: Medieval Welsh Perspectives (Cardiff), 141–61
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Kelly, P. (1997), ‘The Earliest Words for “Horse” in the Celtic Language’, S. Davies and N.A. Jones (eds.), The Horse in Celtic Culture: Medieval Welsh Perspectives (Cardiff), 43–59
Lake, A.C. (1979), ‘Gwaith Dafydd ap Llywelyn ap Madog, Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog, a Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan’ (M.A. Cymru [Abertawe])
MacCana, P. (1970), ‘The Three Languages and the Three Laws’, SC v: 62–79
Marks, R. and Williamson, P. (2003) (eds.), Gothic: Art for England 1400–1547 (London)
Wright, T. (1855) (ed.), The History of Fulk Fitz Warine, an Outlawed Baron in the Reign of King John (London)
This is a poem to thank Dafydd ap Meurig Fychan of Nannau and his wife Elen daughter of Hywel ap Rhys of Rug for a horse that Guto received as a gift, one of the most traditional gifts given to a poet by his patron (see Huws 1997: 143). The words march ‘horse’ (lines 37, 56–8), hacnai ‘hackney’ (50) and gorwydd ‘steed’ are used for the horse in this poem, but in comparison to poem 39, where Guto requests a horse on behalf of Rheinallt ap Rhys Gruffudd, the description of the animal is very short. Presumably, the horse is red (40, 56), fast, large and strong (38, 39, 58), and equal to the horses of St Mordeyrn, St George and the hero Fulk Fitzwarine.
There are three sections to the poem and although the dyfalu section (where the poet describes the animal) is short, the poet follows the basic pattern of poems to thank and to request (Huws 1998: 87). In the first section (1–32), Meurig Fychan, Dafydd’s father, is praised as well as his (Meurig’s) grandfather and great uncle, Hywel and Meurig Llwyd, who were well-known patrons of poets in the fourteenth century. This is followed by a description of the court and the feast, highlighting Dafydd and Elen’s generosity and hospitality. There is a specific reference to Dafydd’s fair and virtuous nature: this suggests that he was involved with the law, as does the fact that he knew three languages (30).
In the next section (33–58) we hear that Dafydd is concerned after Guto’s black horse is stolen. As a result, Dafydd sends him a red horse: ‘a red lion of the same colour as stags’ and ‘full of strength’. The horse has a fast gallop but a steady trot and is therefore suitable to carry a man who is partially blind, like Guto (see 43n). He compares himself to the hero Fulk Fitzwarine who was also blind for some time and depended greatly on his horse (45–52). In this section, Guto enters fully into the spirit of the poem: he also asks for a spear and Fulk’s strength to fight, so that ‘thousands of the petty poets would go down!’ Next he mentions two saints who had famous horses: St Mordeyrn, who guided a crowd of people to Bardsey Island on his golden horse, and St George who fought a dragon on his horse (57–8).
In the last section (59–68) Guto imagines himself arriving on horseback at a monastery, the place where he hopes to be buried. Both of them – the horse and himself – shall be a prize or a ‘heriot’ for Dafydd (61–4). The wording, ‘bequeathing this to Dafydd’, echoes the wording used in wills. Presumably, Guto wants Dafydd to receive the horse as payment, although Guto is not one of his tenants. It is likely that the house of St Bernard referred to here is Cymer abbey. Lastly, the poet wishes Dafydd and Elen to be blessed, especially Elen, as she was the one who encouraged her husband to give him a horse.
Date
It is not possible to give an accurate date of composition for this poem. The references to the poet’s failing eyesight may suggest a date late in his life, possibly the 1480s.
The manuscripts
This poem occurs in 25 manuscripts. There are possibly three or four versions of the poem. LlGC 3049D and Gwyn 4 are closely related. As is the case with a number of other poems by Guto’r Glyn, they clearly derive from the same source (X1 in the stemma). However, there are some differences between the two: for example, LlGC 3049D misunderstood the place name Moel Othrwm (5). It is probable that Pen 99 derives from the same source, although some readings may suggest a relationship with X2. BL 14969 and BL 14976 are also closely related, but since some readings are unique, it is possible that they derive from a different source: X2. However, the dissimilarities between the X2 manuscripts and BL 14969 and BL 14976 are minimal.
BL 14978, C 2.114 and Brog I.2 are the other early copies of the poem and they all offer some unique readings. BL 14978 sometimes agrees with X1, sometimes with C 2.114, but it seems more closely related to X2. C 2.114 has some readings that should be considered carefully, especially Moel Othrwm (5) and ’mordwyodd (53); readings that could have been present in the original version of the poem. Brog I.2 is not a good copy of the poem; some lines are missing and the line order is also different.
Previous edition
GGl poem LXXXVII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 68 lines.
Cynghanedd: croes 66% (45 lines), traws 19% (13 lines), sain 13% (9 lines), llusg 2% (1 line).
3 Glan Feurig It is possible to interpret this as a place name, although there are no other examples. In the first couplet of the poem, the poet notes that ‘To the hill yonder belongs the renown which will endure,’ and this ‘renown’ belongs to someone called Meurig (Meurig Fychan, Dafydd’s father, or Meurig Llwyd, his great-grandfather). If we understand the element glan as ‘slope, hill-side’ or ‘hillock’ (see GPC 1399), Glan Feurig can be taken as a place name (possibly another name for ‘Nannau’) describing Nannau’s location on the slope of a hill, cf. 6n.
4 cludeiriodd glod For cludeirio ‘to heap, accumulate, increase, augment, gather, assemble’ see GPC 509. The syntax suggests that Glan Feurig (or Nannau) has ‘accumulated’ praise.
5 Moel Othrwm A mountain near Nannau in Llanfachreth, see 50.21n Moel Othrwm.
6 brig y Lan It is possible that y Lan or Glan is a reference to a specific place associated with Nannau, cf. 3n.
7 Hywel Hywel ap Meurig Fychan ab Ynyr Fychan, see 49.1–2n.
8 Meurig Llwyd Meurig Llwyd ap Meurig Fychan ab Ynyr Fychan, see 49.1–2n.
9 y ddau That is, the two brothers Meurig and Hywel (see 7n and 8n).
10 Nannau See 49.3n Nannau. Cf. a line by Tudur Aled to Hywel ap Dafydd ap Meurig, TA LVII.5 Gad in un i gadw Nannau ‘Leave us one to care for Nannau.’
12 wardwn Borrowed from the English warden, see OED Online s.v. warden, n2 ‘An old variety of baking pear’. Pears, apples and other fruits are used figuratively by the poets to portray the fruitfulness of a patron and his descendants, cf. 86.57–8 Pwmpa ar wyrda yw’r un, / Pwngarned, penaig arnun’, ‘The same man is a large apple and a pomegranate / amongst noblemen, a leader over them.’
13 y Wengraig See 49.7n.
13 mariangrys A combination of marian and crys ‘shirt’. GPC 2350–61 gives the meanings ‘gravel, pebbles’ or ‘gravelly shore’ for marian and, in the past, lime was obtained by grinding shells on the beach. Is this an image for a house covered with a layer of gravel or lime? Cf. 90.33–4 Y wlad oll a wŷl ei dâl / A’i grys fal y maen grisial ‘The whole land will see its gable end / and its shirt like the rock-crystal’ (on Moeliwrch; see further Houses and Buildings: Construction: Masonry).
14 Dafydd See Dafydd ap Meurig Fychan.
18 Elen Wife of Dafydd ap Meurig Fychan and daughter of Hywel ap Rhys of Rug.
24 dyrras A variant of diras or di-ras, see GPC 1031 ‘graceless, naughty, wicked, infamous, vile, abominable, lewd’.
30 teiriaith The poet commends Dafydd ap Meurig Fychan for his knowledge of three languages, presumably Welsh, English and Latin. It could also be a reference to the three languages of the law: the law of Hywel Dda, the law of the Church and the law of Rome, see MacCana 1970: 62–79. In the poem to his father, Meurig Fychan, it is suggested that Dafydd was involved with the law like his father, see Dafydd ap Meurig Fychan.
31 mwy’i ardreth … / No deg ‘Revenue’ or ‘wealth’ are possible meanings for ardreth here, see GPC 183 s.v. adreth2. There is plenty of evidence for Nannau’s wealth by the end of the fifteenth century, with its lands reaching as far as the coast, see Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd.
35 cyw eryr A son of a hero. This suggests that Dafydd was still a young man, cf. oen difalch ‘a modest lamb’ (23), and ieuainc a chywir ‘fine’ and ‘young’ (28).
36 hacnai A borrowing from the English hackney, see OED Online s.v. hackney ‘A horse of middle size and quality, used for ordinary riding, as distinguished from a war-horse, a hunter, or a draught-horse.’ This suggests that the purpose for Guto’s horse was for ordinary riding rather than for hunting or fighting.
40 rhudd This adjective meaning ‘red’ (cf. 56 march rhudd ‘red horse’) as well as the image unlliw â’r hyddod ‘a red lion of the same colour as stags’ (40), suggests that the horse is a chestnut colour.
42 tuth For tuth ‘trot, canter, fast movement’ see GPC 3655.
43 er dalled wyf Guto often refers to his blindness in his later poems although this does not indicate that he had lost his sight completely. Indeed, the adjective dalled suggests that his blindness was a matter of degree and most probably he was not completely blind, cf. poem 117.
43–4 Nid arbed … / Ŵr neu wal, er na welwyf It seems that the horse will not avoid normal obstacles, although the one riding it has lost his sight.
45 dall This is an interesting description of Fulk Fitzwarine (see 46n). References to Fulk’s warlike nature, his spear and his horse are plentiful in the poetry of the period, but further details are unusual. According to the Anglo-Norman romance, Fulk lost his sight for seven years during the latter part of his life (Wright 1855: 182).
45 gwayw llinon For llinon ‘spear(s)’ see GPC 2184.
46 Ffwg Fulk son of Gwarin or Fulk Fitzwarine was an outlaw during the reign of King John, see DNB Online s.n. Fitzwarine family. Stories about him grew and his legend was noted in an Anglo-Norman romance at the beginning of the fourteenth century (see Wright 1855: v–vi and Hathaway et al. 1975). There are many stories about him fighting ar ei farch ‘on his horse’, as Guto mentions here, and other poets also refer to him in their poems to request or offer thanks for horses, e.g. GIG XXXIII.50 and GLl 9.53; cf. 39.49.
48 iau See GPC 2002 for the many meanings of iau; ‘a long spear’ here.
53 Mordëyrn We do not know a great deal about this saint. There is a church and a well dedicated to him in Nantglyn, Denbigh (but only his well has survived), see Henken 1987: 193–5 and LBS iii: 502–4. The poet Dafydd ap Llywelyn ap Madog composed a praise poem to him (Lake 1979: poem 3) in which the poet recounts how Mordeyrn and his horse guided a crowd of people to Bardsey Island. His horse is described as march euraid ‘golden horse’, which agrees with Guto’s description here of Mordeyrn and his march melyn ‘yellow horse’.
57 march Siors St George, patron saint of England since the fourteenth century. Images and effigies portraying him fighting a white dragon on his horse became popular from about the same period, see ODCC3 664–5 and for examples from the fifteenth century, see Marks and Williamson 2003: 218, 397 and 408. His horse is usually white, possibly because of the reference in the Book of Revelations 19.11. Reference to his horse in fifteenth-century poetry is quite common, see GLGC 30.19–20, GMBr 11.32, GLM LXXV.31–4 and GPhE 2.40.
57 eirch y saint The graves at the abbey.
59 tŷ Ferned A reference to one of the Cistercian abbeys. Bernard of Clairvaux (1090–1153) was responsible for the Cistercian order in Wales from 1131 onwards. But which abbey is Guto referring to here? Guto travelled often to Valle Crucis abbey in Llangollen to see his patron, Abbot Dafydd ab Ieuan, and it seems he intended to spend his last days there. However, Cymer abbey seems more likely because of its connection with Nannau.
62 ebedyw ‘A dead chattel of a deceased tenant due by legal custom to the lord of whom he held’, see GPC 1155 or OED Online s.v. heriot.
63 heiniar Figuratively here for ‘payment’ or ‘prize’, see GPC 1840.
64 Dafydd Dafydd ap Meurig Fychan.
65 gorwydd ‘Stallion’, see Huws 1997: 146; one of the earliest words for a horse, see Kelly 1995: 50–1.
67 hafddydd A description of Elen’s beauty. It is also possible that the poem was composed during the summer. In his old age, it seems that Guto preferred to clera close to Valle Crucis abbey during the summer months while spending the winter at the abbey with his patron, Abbot Dafydd.
68 Elen The wife of Dafydd ap Meurig Fychan. Interestingly, Elen, according to the poet, encouraged her husband to give the horse to Guto.
Bibliography
Hathaway, E.J. et al. (1975) (eds.), Fouke le Fitz Waryn (Oxford)
Henken, E.R. (1987), Traditions of the Welsh Saints (Cambridge)
Huws, B.O. (1997), ‘ “Praise lasts longer than a horse”: Poems of Request and Thanks for Horses’, S. Davies and N.A. Jones (eds.), The Horse in Celtic Culture: Medieval Welsh Perspectives (Cardiff), 141–61
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Kelly, P. (1997), ‘The Earliest Words for “Horse” in the Celtic Language’, S. Davies and N.A. Jones (eds.), The Horse in Celtic Culture: Medieval Welsh Perspectives (Cardiff), 43–59
Lake, A.C. (1979), ‘Gwaith Dafydd ap Llywelyn ap Madog, Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog, a Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan’ (M.A. Cymru [Abertawe])
MacCana, P. (1970), ‘The Three Languages and the Three Laws’, SC v: 62–79
Marks, R. and Williamson, P. (2003) (eds.), Gothic: Art for England 1400–1547 (London)
Wright, T. (1855) (ed.), The History of Fulk Fitz Warine, an Outlawed Baron in the Reign of King John (London)
Roedd Dafydd ap Meurig Fychan yn fab i Feurig Fychan ap Hywel o Nannau a’i wraig, Angharad ferch Dafydd. Cerddi Guto yw’r unig gerddi a oroesodd i Ddafydd a’i wraig, Elen ferch Hywel. Canodd gerdd i’r holl deulu (cerdd 49) a cherdd i ddiolch (cerdd 51) i Ddafydd ac Elen am rodd o geffyl.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 51 A. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Dyddiadau
Etifeddodd Dafydd ap Meurig Fychan stad Nannau wedi marwolaeth ei dad, Meurig Fychan ap Hywel. Gwelir ei enw yng nghasgliad llawysgrifau Nannau yn 1480, ond gan fod bwlch yn y cofnodion rhwng 1460 a 1480, ymddengys mai rywbryd yn ystod y cyfnod hwnnw y daeth Nannau i’w ddwylo ef. Yn 1471/2, gwyddom iddo wasanaethu Edward IV gan fod cyfeiriad ato fel rhingyll Tal-y-bont, swydd y bu ynddi drwy gydol teyrnasiad Edward IV (Parry 1958: 94). Fodd bynnag, nid oes sôn amdano yng nghyfnod Harri VII, a gall hyn fod yn arwyddocaol yn ôl Parry (ibid. 99): ‘Possibly Dafydd made a slight mistake and over-trimmed his sails, with the result that he held no office in his county under Henry Tudor.’ Deillia hyn o’r farn fod teulu Nannau yn ystod y rhyfeloedd cartref wedi cefnogi’r blaid a fyddai’n rhoi’r mwyaf o elw ac awdurdod iddynt hwy, boed honno’n blaid Lancastr neu’n blaid Iorc.
Ceir ambell gyfeiriad ato yn niwedd y bymthegfed ganrif, sef cyfeiriadau yn ymwneud â thiroedd ym Meirionnydd gan fwyaf. Cofnodir iddo brynu rhandir ym Mhenllyn yn 1480, iddo ddadlau ynglŷn â’i etifeddiaeth yn 1487 ac iddo ennill tir a oedd yn perthyn i’r Goron yn Llwyngwril yn 1490 (Parry 1958: 98; Thomas 2001: 220). Mae’r achos llys ynglŷn â’r olaf wedi goroesi, lle cyflwynodd Dafydd ddeiseb yn Llys y Sesiwn Fawr yng Nghaernarfon o flaen Syr William Stanley (Parry 1958: 99 a 103). Mae Guto hefyd yn awgrymu ei fod yn weithgar ym myd y gyfraith, ond ni cheir unrhyw brawf pellach o hynny. Yr hyn sy’n unigryw am Ddafydd ap Meurig Fychan yw bod ei ewyllys wedi goroesi. Fe’i profwyd yn 1494. Gadawodd arian i sawl adeilad, megis abaty Cymer (lle dymunai gael ei gladdu), eglwys Llanfachreth ac eglwys y Santes Fair yn Nolgellau. Diddorol hefyd yw’r rhodd o wyth geiniog a roes tuag at y gwaith o wydro’r ffenestri yng nghapel Marchogion Sant Ieuan yng Ngwanas, adeilad a sefydlwyd fel ysbyty gan y marchogion yn yr Oesoedd Canol cynnar ond sydd bellach wedi diflannu. Ei ferch hynaf, Angharad, a etifeddodd y rhan fwyaf o gyfrifoldebau’r stad, sy’n awgrymu bod ei fab, Hywel, yn rhy ifanc i’w olynu pan fu farw. At hynny, cafodd ei bum merch arall gyfrannau teilwng iawn o gynnyrch y stad. Yn wir, mae’r rhoddion yn sylweddol ac yn gofnod gwerthfawr o gyfoeth stad Nannau ar ddiwedd y bymthegfed ganrif (ibid. 105–6; Pryce 2001: 286; Owen and Smith 2001: 113).
Elen ferch Hywel ap Rhys o Rug
Gwraig Dafydd ap Meurig Fychan oedd Elen ferch Hywel ap Rhys o Rug yn Edeirnion. Roedd ei thaid, Rhys ap Dafydd o Rug, yn ddisgynnydd i Owain Brogyntyn, arglwydd Edeirnion yn ystod y ddeuddegfed ganrif (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 20). Ei wraig ef oedd Gweurful ferch Madog, ond ailbriododd hithau wedi marwolaeth Rhys a symud i fyw yn Abertanad. Yn Abertanad rhoes Gweurful nawdd i Guto, a ganodd farwnad iddi (cerdd 88), a bu ei mab o’i hail briodas, Dafydd Llwyd, yntau’n noddwr i’r beirdd. A dychwelyd at ei phriodas gyntaf â Rhys ap Dafydd, ei mab o’r briodas honno, Hywel ap Rhys, a etifeddodd Rug, a phriododd yntau Farged ferch Siôn Eutun o Barc Eutun (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 21; Carr 1961–4: 298). Roedd Siôn Eutun hefyd yn un o noddwyr Guto. Nid oes unrhyw wybodaeth am ddyddiadau Elen ei hun ac ni wyddom pryd y priododd Ddafydd ap Meurig Fychan. Nid oes sôn am blant Dafydd ac Elen yng ngherddi Guto, ond mae’n debyg mai eu mab, Hywel, a etifeddodd Nannau wedi marwolaeth Dafydd yn 1494. Canodd Tudur Aled i Hywel pan ddaeth i’w etifeddiaeth (TA cerdd LVII), a chanodd Mathau Brwmffild farwnad iddo c.1540 (GMB cerdd 10).
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301
Jones, E.D. (1953–6), ‘The Family of Nannau (Nanney) of Nannau’, Cylchg CHSFeir 2: 5–15
Owen, D.H. and Smith, J.B. (2001), ‘Government and Society 1283–1536’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 60–136
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’ (M.A. Cymru [Bangor])
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Smith, Ll.B. (2001), ‘Towns and Trade’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 225–53
Thomas, C. (2001), ‘Rural Society, Settlement, Economy and Landscapes’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 168–224
Gw. Dafydd ap Meurig Fychan ac Elen ferch Hywel o Nannau