Chwilio uwch
 
6 – Cwyn am absenoldeb yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur
Golygwyd gan Dafydd Johnston


1Y mae dolur i’m dilyn,
2A thrymder yw hanner hyn.
3Oes, myn Mair, es mwy no mis,
4A’m pôr ymy a’i peris:
5Mynediad fy mhenadur
6I Loegr fflwch o loywgor Fflur,
7Rhoes, orau moes, aur a medd,
8Rhys fyneichlys fynychwledd,
9Rhugl abad, rhywiawg loywbor,
10Rhaglaw cerdd, anrheglyw côr,
11Dinag hil, deunaw Calan,
12Dafydd, Gaeo lywydd glân,
13Urddawl fab, arddelw a fyn,
14Aur loywlyfr, ŵyr Lywelyn.
15Nid un yn y daioni
16Neb dan nef â’n abad ni.
17Eurfaglawg, erfai eglur,
18A goroff lyw o gôr Fflur.

19Boed ebrwydd, f’arglwydd yw fo,
20Da ei lên, y dêl yno.
21Ni bydd llu’r gwledydd, llwyr glod,
22Nos ddiofn nes ei ddyfod.
23Pedwar Sul, myn Pedr, y sydd,
24Er ban aeth eurben ieithydd
25I Ryd, er maint a rodiwyf,
26Ychen rym, achwyn yr wyf.
27Calon nid aeth, winfaeth wen,
28Erioed uwch i Rydychen.
29Trwm a maith yw trum y mis,
30Trymach no charchar trimis.
31Mwy y sydd yn y mis hwn,
32Mwy o ddyddiau, meddw oeddwn,
33Nog ymlaen yn neg mlynedd,
34Nid chwarau maddau y medd.
35Cofiawn diddawn a’m deddyw,
36Cyfnod hir i’r cwfent yw.
37Anelw oedd ym yn y wlad
38Aros heb wiwRys Abad.
39Hir yw’r dydd, herwr diddawn,
40Hwy’r nos, ei haeru a wnawn,
41A byr, ym Duw, eb rwym dig,
42Ban oedd yng nghôr Beneddig.
43Nid cyhyd ar hyd yr haf
44Ag yw er Calan Gaeaf.
45Mis y’i gelwir, ym Iesu,
46Tair blynedd am fedd ym fu.
47Glŷn ynof galon unig,
48Galar athrugar o thrig.
49Nid hyfryd, ennyd anwyl,
50Neuadd Rys oni ddaw’r ŵyl.
51Gwael fyddai’r ŵyl nis gwelwn,
52A gwael yw pob gŵyl eb hwn.
53Dyfod a wna mab Dafydd,
54O daw, gwyn fy myd o’r dydd.
55Ac oni ddaw canllaw cant
56Y traed ataw a redant.

57Y mae deuwr i’m deol
58O wenllys Rys ar ei ôl:
59Un yw hiraeth, enw hoywrym,
60Cariad yw’r llall, curiawdr llym.
61Nid af i’w ball na’i allor,
62Ni’m gad y cariad i’r côr,
63A marw ydwyf am rodiaw
64Ei glawstr ef a’i eglwys draw.

1Mae poen yn fy nilyn,
2a digalondid yw hanner hyn.
3Oes, yn enw Mair, ers mwy na mis,
4a’m harglwydd a’i hachosodd i mi:
5ymadawiad fy mhennaeth
6o eglwys ddisglair Fflur i Loegr fawr,
7rhoddodd aur a medd yn y modd gorau,
8Rhys â’r llys llawn mynachod a’r gwleddoedd mynych,
9abad celfydd, arglwydd disglair a bonheddig,
10llywydd barddoniaeth, rheolwr rhoddion eglwys,
11llinach hael Dafydd, deunaw dydd Calan,
12rheolwr hardd Caeo,
13mab ordeiniedig, dymuna gydnabod,
14llyfr aur disglair, ŵyr Llywelyn.
15O ran daioni nid oes neb yn y byd
16cystal â’n habad ni.
17Llywydd annwyl o eglwys Fflur
18â’r ffon fagl aur, gwych o glodfawr.

19Boed iddo ddod yno yn fuan,
20ef yw fy arglwydd, da ei ysgolheictod.
21Ni bydd pobl yr ardaloedd, moliant llwyr,
22yn treulio’r un nos heb ofn nes iddo ddod.
23Mae pedwar Sul, yn enw Pedr,
24ers i’r ieithydd â’r pen euraid
25fynd i Rydychen rymus,
26faint bynnag y byddaf yn crwydro rwy’n cwyno.
27Nid aeth calon foneddicach erioed
28i Rydychen, un wen wedi ei magu ar win.
29Trwm a hir yw golwg y mis,
30trymach na thri mis mewn carchar.
31Mae mwy yn y mis hwn,
32mwy o ddyddiau, meddw oeddwn,
33nag sydd mewn deng mlynedd ar eu hyd,
34nid peth braf yw hepgor medd.
35Daeth meddyliau diwerth i mi,
36cyfnod hir i’r fynachlog yw.
37Di-fudd oedd i mi aros
38yn yr ardal heb yr Abad Rhys da.
39Hir yw’r dydd, crwydrwr diwerth,
40hwy yw’r nos, dyma oedd fy honiad,
41a byr, yn enw Duw, heb gaethiwed cas,
42pan oedd ef yn eglwys Benedict.
43Nid oedd yr haf cyfan mor hir
44â’r amser sydd wedi bod ers Calan Gaeaf.
45Dywedir mai mis ydyw, yn enw Iesu,
46i mi mae wedi bod fel tair blynedd o ran [diffyg] medd.
47Mae calon unig yn glynu ynof,
48os erys bydd yn achos gofid ofnadwy.
49Ni fydd neuadd Rhys yn lle braf
50oni ddaw ef dros yr ŵyl, cyfnod diflas.
51Gwael fyddai’r ŵyl pan na fyddwn yn ei weld,
52a gwael yw pob gŵyl heb y gŵr hwn.
53Fe ddaw mab Dafydd,
54os daw, bydd yn ddiwrnod dedwydd i mi.
55Ac oni ddaw’r un sy’n cynnal cant o bobl
56bydd fy nhraed yn rhedeg ato ef.

57Mae dau ŵr yn fy ngyrru allan
58o lys teg Rhys yn ei absenoldeb:
59un yw hiraeth, enw pwerus,
60cariad yw’r llall, un llym sy’n peri dihoeni.
61Nid af i’w orsedd na’i allor,
62ni fydd cariad yn gadael i mi fynd i’r gangell,
63ac rwyf yn marw o eisiau tramwyo
64ei fynachlog a’i eglwys acw.

6 – Complaint about Abbot Rhys ap Dafydd’s absence from Strata Florida

1Pain is following me,
2and depression is half of it.
3Yes it has, by Mary, for more than a month,
4and my lord has caused it for me:
5the departure of my master
6from Fflur’s bright church to wide England,
7he gave gold and mead in the best fashion,
8Rhys with the court of monks and frequent feasts,
9skilful abbot, bright noble lord,
10president of poetry, church’s gift-governor,
11unstinting lineage of Dafydd, eighteen New-year’s days,
12fair ruler of Caeo,
13ordained son, he wishes to acknowledge,
14bright golden book, grandson of Llywelyn.
15For goodness there is no one in the world
16to equal our abbot.
17Beloved governor from Fflur’s church
18with golden crozier, splendidly illustrious.

19May he come there soon,
20he is my lord, good is his scholarship.
21The people of the regions will not spend a single night
22without fear, complete praise, until he returns.
23It is now four Sundays, by St Peter,
24since the golden-headed linguist
25went to mighty Oxford,
26however much I wander I am complaining.
27No nobler heart ever went
28to Oxford, white one nurtured on wine.
29The month has a long and heavy aspect,
30heavier than three months imprisonment.
31There is more in this month,
32more days, I was drunk,
33than in ten years on end,
34giving up mead is no game.
35Useless thoughts have come to me,
36it is a long period for the monastery.
37It was unprofitable for me to stay
38in the region without the good Abbot Rhys.
39The day is long, worthless wanderer,
40the night is longer, I would declare,
41and it was short, by God, without any harsh bond,
42when he was in St Benedict’s church.
43The whole summer was not as long
44as it has been since All Saints’ day.
45They say it is a month, by Jesus,
46to me it is like three years for [lack of] mead.
47A lonely heart sticks within me,
48if it remains it will cause terrible distress.
49Rhys’s hall will not be pleasant
50if he does not come for the festival, joyless time.
51The festival would be wretched if I did not see him,
52and every festival is wretched without him.
53The son of Dafydd will come,
54if he comes, the day will be a happy one for me.
55And if he who maintains a hundred people does not come
56my feet will run to him.

57There are two men who banish me
58from Rhys’s fair court in his absence:
59one is longing, powerful name,
60love is the other, harsh one who causes pining.
61I will not go to his throne or his altar,
62love will not let me go to the chancel,
63and I am dying for want of frequenting
64his cloister and his church yonder.

Y llawysgrifau
Cadwyd testun o’r gerdd hon mewn dwy lawysgrif: Pen 57 (c.1440), a chopi uniongyrchol o’r testun hwnnw a geir gan John Jones, Gellilyfdy, yn Pen 312. Ar Pen 57 yn unig, felly, y seiliwyd y testun golygedig. Mae ansawdd y testun yn ddi-fai hyd y gellir barnu, heblaw am ddau achos o amwysedd orgraffyddol a drafodir isod.

Trawsysgrifiad: Pen 57.

stema
Stema

22 ddiofn Dilynir Pen 57 gan gymryd mai f led lafarog a geir yn ddyfod (cf. 9.45), ond gellid darllen ddi-ofn gan roi cynghanedd drychben.

27 wen  Pen 57 wen, ffurf a ddylai gynrychioli wên gan fod y copïydd hwn yn arfer dyblu n ar ddiwedd gair unsill i ddynodi sillaf fer. Ceir wenn yn Pen 312, a wen yn GGl, a dyma sydd orau o ran synnwyr wrth gyfeirio at y galon.

49 anwyl  Pen 57 annwyl, ond mae’r ystyr yn well o gymryd mai ffurf ar anhwyl sydd yma.

Roedd yr Abad Rhys wedi bod yn Rhydychen ers dros fis pan ganodd Guto’r cywydd hwn. Sonnir am gyfnod o fis ers Calan Gaeaf (llinellau 43–5), ac felly mae’n debyg mai yn gynnar ym mis Rhagfyr y cyfansoddwyd y gerdd, gyda’r bwriad o annog Rhys i ddychwelyd i Ystrad-fflur erbyn gŵyl y Nadolig (49–50).

Ni ddywedir beth oedd pwrpas ymweliad Rhys â Rhydychen, ond mae’n siŵr fod y pwyslais ar ei ysgolheictod (14, 20, 24) yn berthnasol. Sefydlwyd coleg Sistersaidd Sant Bernard yn Rhydychen (Coleg Sant Ioan bellach) yn 1437, ac fel yr awgrymodd Salisbury (2009: 71) mae’n debygol fod Rhys wedi ymweld â’r coleg adeg ei sefydlu neu’n fuan wedyn.

Fel y sylwodd Salisbury (2009: 70), ni chyferchir Rhys yn uniongyrchol o gwbl yn y gerdd, ac mae’n debygol, felly, mai cynulleidfa wreiddiol y gerdd oedd mynachod Ystrad-fflur a oedd yr un mor anfodlon â’r bardd ynghylch absenoldeb yr abad ar adeg bwysig yn y calendr crefyddol. Ond mae’r bardd o leiaf yn cymryd arno na all fynd i Ystrad-fflur yn absenoldeb Rhys, gan ei fod yn cloi’r gerdd trwy bersonoli dau emosiwn sy’n ei gadw oddi yno, sef hiraeth a chariad.

Dyddiad
1437–40.

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd VIII; CTC cerdd 97.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 59% (38 llinell), traws 14% (9 llinell), sain 25% (16 llinell), llusg 2% (1 llinell).

8  Cf. 8.38.

11 deunaw Calan  Gellid deall hyn fel y cyfnod yr oedd Rhys wedi bod yn abad Ystrad-fflur, ond posibilrwydd arall, fel yr awgrymodd Salisbury (2009: 70) yw bod hyn yn dynodi’r cyfnod yr oedd Guto wedi bod yn derbyn nawdd gan Rys, ac, os felly, mae’n rhaid fod Guto wedi arfer cyswllt ag Ystrad-fflur er pan oedd yn ifanc iawn. Ar y llaw arall, gallai deunaw fod yn rhif delfrydol yma i ddynodi cyfnod maith.

12 Dafydd  Dafydd ap Llywelyn, tad yr Abad Rhys.

12 Caeo  Cwmwd yn y Cantref Mawr, sir Gaerfyrddin, sef cynefin Rhys mae’n debyg, cf. 9.6.

14 Llywelyn  Taid yr Abad Rhys, ar ochr ei dad.

25–6 Rhyd / Ychen  Gw. y nodyn cefndir uchod.

34 chwarau  Y ffurf hon a geir yn Pen 57, ac er nas nodir yn GPC d.g. chwarae, chware, mae ei hangen er mwyn odl y gynghanedd sain. Cf. 3.42 Mathau, i warau â’i wŷr!

35 cofiawn  Ymddengys mai ffurf ffug ar y lluosog cofion sydd yma, gw. CD 250.

42 Beneddig  Sant Bened neu Sant Benedict (c.480–c.550), awdur y Rheol a fu’n sylfaen i fynachaeth y gorllewin.

Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar ganu Guto’r Glyn i Rys, abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84

Abbot Rhys had been in Oxford for over a month when Guto composed this poem. Reference is made to a period of a month since All Saints’ day (lines 43–5), so the poem was probably composed early in December, with the purpose of urging Rhys to return to Strata Florida in time for the Christmas festival (49–50).

It is not clear why Rhys had gone to Oxford, but the emphasis on his scholarship (14, 20, 24) is surely relevant. The Cistercian order established St Bernard’s College (now St John’s) at Oxford in 1437, and as suggested by Salisbury (2009: 71), it is likely that Rhys visited the college on the occasion of its establishment or soon afterwards.

As Salisbury noted (2009: 70), Rhys is not addressed directly in the poem at all, and it is likely, therefore, that the original audience was the monks of Strata Florida who would have been just as dissatisfied as the poet about the absence of their abbot at such an important occasion in the religious calendar. But the poet appears to claim that he cannot go to Strata Florida in Rhys’s absence, since he concludes the poem by personifying two emotions which keep him from there, longing and love.

Date
1437–40.

The manuscripts
The poem is preserved in two manuscripts, Pen 57 (c.1440) and a copy of that text by John Jones, Gellilyfdy in Pen 312. The edited text is based on that in Pen 57 which seems entirely satisfactory.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem VIII; CTC poem 97.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 59% (38 lines), traws 14% (9 lines), sain 25% (16 lines), llusg 2% (1 line).

8  Cf. 8.38.

11 deunaw Calan  Literally ‘eighteen New Year’s days’, this could be understood as the length of time Rhys had been abbot of Strata Florida, but another possibility, as suggested by Salisbury (2009: 70), is that this denotes the period Guto had received patronage from Rhys, and if so Guto must have had a connection with Strata Florida from a very early age. On the other hand, deunaw could be an ideal number representing a long period.

12 Dafydd  Dafydd ap Llywelyn, father of Abbot Rhys.

12 Caeo  A commote in Carmarthenshire, probably Rhys’s native region, cf. 9.6.

14 Llywelyn  Abbot Rhys’s grandfather, on his father’s side.

25–6 Rhyd / Ychen  See the background note above.

42 Beneddig  St Benedict (c.480–c.550), author of the Rule which was the basis of western monasticism.

Bibliography
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur, 1430–m. 1440/1

Yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur, fl. c.1430–m. 1440/1

Top

Yr Abad Rhys yw gwrthrych cerddi 5–9, a cheir cyfeiriadau eraill ato yn 30.37–8, 46 ac yn 115.25. Ni ddiogelwyd cerddi iddo gan feirdd eraill, ond cyfeirir ato mewn cerddi i’w olynwyr gan Ddafydd Nanmor (DN XXV.8, 64) a Ieuan Deulwyn (ID XXXI.4).

Achres
Yr unig dystiolaeth dros ei ach yw’r cyfeiriadau yng ngherddi Guto, lle nodir mai Dafydd ap Llywelyn oedd enw ei dad (6.11–14; 8.37, 73). Fe’i gelwir hefyd yn ŵyr Domas (7.39), ac mae’n debyg mai tad ei fam oedd hwnnw (ond gw. nodyn esboniadol 7.39).

lineage
Achres yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur

Disgrifir Dafydd ap Llywelyn fel [C]aeo lywydd glân (6.12), ac yn y farwnad sonnir am [dd]wyn cywoeth dynion Caeaw (9.6), felly gellir casglu bod Rhys yn hanu o deulu uchelwrol blaenllaw yng nghwmwd Caeo. Ni lwyddwyd i leoli Rhys yn achau P.C. Bartrum (WG1 a WG2), ond mae’n bosibl, fel y dadleuodd Salisbury (2009: 61–2), ei fod yn ŵyr i’r Llywelyn ap Gruffydd Fychan a ddienyddiwyd yn Llanymddyfri yn 1401 am arwain byddin y brenin ar gyfeiliorn yn hytrach nag ar drywydd ei ddau fab a oedd yng nghwmni Owain Glyndŵr (gw. Griffiths: 1972, 367, lle nodir bod Dafydd ap Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn fedel Caeo yn 1389–92 ac yn ddirprwy fedel yn 1395–6 a 1400–1). Ni nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Dafydd yn WG1 ‘Selyf’ 6, ond mae’n bosibl ei fod wedi ei hepgor o’r achresi am mai Rhys oedd ei unig fab a hwnnw’n ddi-blant am ei fod yn ŵr eglwysig. Ar y llaw arall, nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Morgan Foethus a fu’n abad Ystrad-fflur. Ni noda Bartrum ei ffynhonnell ar gyfer hynny, ac nid oes ateg yn y rhestrau o abadau, ond mae bylchau yn y rhestrau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed. Dichon hefyd fod dryswch wedi digwydd rhwng Morgan a Rhys gan fod tad Rhys wedi ei hepgor o ach y teulu.

Ei yrfa
Y cyfeiriad cynharaf at Rys fel abad Ystrad-fflur yw un dyddiedig 13 Chwefror 1433 sy’n sôn amdano ymhlith nifer o uchelwyr a oedd i fod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch abad y Tŷ Gwyn (CPR 1429–35, 295). Ond mae tystiolaeth fod ei abadaeth wedi dechrau o leiaf dair blynedd cyn hynny. Mewn dogfen ddyddiedig 26 Mawrth 1442, yn amser olynydd Rhys, yr Abad Wiliam Morus, sonnir am gyflwr yr abaty fel hyn (CPR 1441–6, 95–6):The abbot and convent of the house of St. Mary, Stratflure, South Wales, have shown the king that the said house is situated in desolate mountains and has been spoiled by Owen Gleyndour and his company at the time of the Welsh rebellion, the walls of the church excepted, and that it is not probable that the same can be repaired without the king’s aid, and that Richard, late abbot, was deputed as collector of a whole tenth granted to the king by the clergy of the province of Canterbury in his ninth year and to be levied from the untaxed benefices within the archdeaconry of Cardican, in the diocese of St. Davids, and collector of a fourth part of a moiety of a tenth granted by the same on 7 November in the twelfth year and to be levied within the same archdeaconry, and collector of a whole tenth granted by the same on 29 April in the fifteenth year to be levied within the same archdeaconry, and collector of another tenth granted by the same in the eighteenth year, to be levied within the same archdeaconry, and collector of a subsidy granted by the same in the eighth year and to be levied from all chaplains within the same archdeaconry, and that at the time of the levying of the tenth in the eighteenth year the said late abbot was committed to the prison within the castle of Kermerdyn by the king’s officers by reason of divers debts recovered against him and there died.Gwelir bod Rhys (neu Richard fel y’i gelwir yma) yn casglu trethi ar ran y brenin yn wythfed flwyddyn teyrnasiad Henry VI, sef rhwng 1 Medi 1429 a 31 Awst 1430. Gwelir hefyd ei fod wedi ei garcharu yng nghastell Caerfyrddin am ddyledion yn neunawfed flwyddyn Henry VI, sef 1439/40, ac iddo farw yno. Mewn cofnod arall dyddiedig 18 Chwefror 1443 nodir bod ei olynydd, Wiliam Morus, wedi bod yn abad ers dwy flynedd (ibid 151–2), felly gellir casglu i Rys farw tua diwedd 1440 neu ddechrau 1441. Gellir derbyn, felly, y dyddiadau 1430–41 a roddir ar gyfer ei abadaeth gan Williams (2001: 297), a chymryd mai ffurf Saesneg ar Rhys oedd Richard, fel y gwelir yn y ddogfen uchod.

Yn y cywydd am salwch Rhys mae Guto’n annog yr abad i drechu ei salwch drwy ei atgoffa iddo lwyddo i drechu gwrthwynebiad gan abadau a lleygwyr (5.43–56). Sonnir am hawlwyr yn ei erlid, a gallai hynny fod yn gyfeiriad at achos yn 1435 (28 Mai) pan orchmynnwyd iddo ymddangos gerbron Llys y Siawnsri i ateb cyhuddiad o ysbeilio tir ac eiddo abaty Sistersaidd Vale Royal (swydd Gaer) yn Llanbadarn Fawr (CCR; gw. Williams 1962: 241; Salisbury 2009: 67). Cyfeirir hefyd yn llinellau 47–8 at ymgais gan fawrIal i’w ddiswyddo, sef, yn ôl pob tebyg, abad abaty Sistersaidd Glyn-y-groes yng nghwmwd Iâl. Nid oes cofnod o wrthdaro rhwng abadau Ystrad-fflur a Glyn-y-groes yn ystod abadaeth Rhys, ond gwyddys i Siôn ap Rhys, abad Aberconwy, ddifrodi abaty Ystrad-fflur a dwyn gwerth £1,200 o’i eiddo yn 1428 (Robinson 2006: 269). Fel yr awgrymodd Salisbury (2009: 68), mae’n debygol iawn mai Rhys ei hun a fu’n gyfrifol am ddiswyddo’r Abad Siôn a phenodi gŵr o’r enw Dafydd yn ei le yn Aberconwy, merch-abaty Ystrad-fflur, yn 1431. Diau mai gweithredoedd awdurdodol o’r fath sydd gan Guto mewn golwg yma.

Yn ôl Guto roedd Rhys yn ŵr dysgedig, da ei lên (6.20), ac yn ôl pob tebyg mae cerdd 6 yn cyfeirio at ymweliad ganddo â choleg Sistersiaidd Sant Berned a sefydlwyd yn Rhydychen yn 1437. Fel y gwelir yn y dyfyniad uchod, difrodwyd abaty Ystrad-fflur yn ddifrifol yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, a thystia Guto i Rys dalu am waith atgyweirio’r adeiladau (8.16–18, 57–8). Dichon mai hyn, yn ogystal â’i haelioni cyffredinol, a fu’n gyfrifol am ei ddyledion erbyn diwedd ei fywyd, fel yr awgryma Guto’n gynnil yn niweddglo ei farwnad (9.75–84).

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972) The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Williams, G. (1962), The Welsh Church from Conquest to Reformation (Cardiff)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)