Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn pum llawysgrif sy’n dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr hynaf yw BL 31055 yn llaw Thomas Wiliems ac o’r testun hwn y mae’r gweddill yn tarddu. Copïau o BL 31055 yw Pen 221, LlGC 675A, Pen 240, a chopi yw BL 31092 o LlGC 675A. Ar bwys yr amrywiad iso ar Asaf a geir yn llinell 1, gellid dadlau bod dylanwad mwy nag un ffynhonnell ar destun Thomas Wiliems, naill ai ar ffurf cynsail a oedd eisoes yn cynnwys amrywiad a ddaethai o ryw destun arall neu ynteu ar ffurf ail gynsail, ond mwy tebygol, efallai – a nodweddiadol o arferion Thomas Wiliems – yw mai awgrymu diwygiad a wna (ymhellach, gw. 1n). Mae’n debyg mai o gynsail ysgrifenedig y tardda ei destun ond mae’n llwgr mewn mannau ac odid na cheid mwy o oleuni yn hyn o beth pe bai testunau eraill o statws annibynnol wedi goroesi. Seiliwyd y testun golygyddol ar BL 31055.
Trawsysgrifiad: BL 31055.
1 Asaf Ceir y ffurfiau Asa, Asaff hefyd. Yn BL 31055 ysgrifennwyd iso fel amrywiad ar Asaf (cf. 41), efallai oherwydd y gynghanedd, ac fe’i dewiswyd yn Pen 240 (a cf. GGl). Fodd bynnag, gellir cyfrif yr f yn berfeddgoll a cheir enghreifftiau eraill o hyn yng ngwaith Guto, e.e. 18a.4, 27.38.
10 lle GGl lle’i, BL 31092 lle.
19 lèg-harnais BL 31055 teg harnais. Mae’n amlwg fod teg yn wallus gan y dylid bod wedi ei dreiglo’n deg, ac nid yw ei ystyr yn taro’n foddhaol yn y cyd-destun. Mae lèg-harnais, ar y llaw arall, yn taro’n burion yng nghanol disgrifiad o arfau Dafydd ab Edmwnd, a cham bach sydd i ddiwygio t yn l. Cf. 73.9 A phâr cadarn lèg-harnais a’r nodyn. Nis rhestrir yn GPC 2058. Yn GGl darllenir deg harnais.
21 Nid atebir y ddwy d yn Band ac adwaen ac anarferol yw dodi’r acen ar y geiriau gwan dy a di. Diau, felly, fod y llinell yn llwgr. Gellid ei diwygio’n Banid wn dy benwn di gan roi cynghanedd draws gydag odl fewnol.
29 a Os cywir y dehongliad o’r cwpled, disgwylid gweld na, er y ceid n berfeddgoll felly. Nid yw a, serch hynny, yn anghywir ynddo’i hun.
30 na BL 31055 a. Gellid ei ddeall i ddynodi â yn yr ystyr ‘gyda’, hynny yw ‘bod mewn / wrth’, er mai chwithig yw hynny. O’i ddiwygio yn na, ceir gwell synnwyr a cynghanedd lawnach.
31 gŵydd BL 31055 gwŷdd. Mae’n ansicr beth yw arwyddocâd yr acen grom, ac weithiau bydd y copïwyr yn dodi un ar ôl y llythyren y bwriadwyd ef ar ei chyfer yn hytrach na throsti. Nid oes anhawster, felly, i deall y gair i olygu gŵydd yma yn hytrach na gwŷdd ‘coed’.
31–2 Gthg. GGl lle hepgorwyd y cwpled hwn. Felly hefyd yn Pen 240 lle ceir bwlch yn cyfateb. Amlwg fod y llinellau wedi peri tipyn o benbleth o ran eu hystyr ac amlwg fod llygredd yma.
32 y mwnci Yn BL 31055 ysgrifennodd Thomas Wiliems gyntaf ym danko s cyn eu croesi allan a dodi y mwnki uwchlaw. Gall mai ymgais i wneud synnwyr o ddarlleniad y gynsail yw y mwnki (peth a fyddai’n nodweddiadol o Thomas Wiliems fel copïwr), a’r unfed ganrif ar bymtheg yw dyddiad yr enghraifft gyntaf o mwnci a restrir yn GPC 2509. Anodd bod yn sicr beth oedd y darlleniad cywir. Sylwer hefyd fod y gynghanedd yn anghywir.
33 ni BL 31055 na ond diwygir er mwyn y synnwyr, cf. GGl.
39 dylluan Gthg. GGl ddylluan. BL 31055 dyllûan. Ceir y ffurfiau tylluan a dylluan, gw. GPC 3674.
48 daw’r BL 31055 dawair (sef ‘deuai’r’, gw. GGl 351), ond anghywir felly yw aceniad y gynghanedd. Diwygir, gan hynny, ond gan wneud y llinell yn fyr o sillaf.
52 o’i rwysg Gan y cyfeirir at un o’r yw (51) a bod cenedl ffurf unigol yw, sef ywen, yn fenywaidd, efallai y dylid darllen rhwysg. Fodd bynnag, gan mai trosiad am ddyn yw’r ywen, dichon fod rhyw personol yn drech na chenedl ramadegol yn yr achos hwn.
54 a gwraf BL 31055 a gredaf. Diwygir er mwyn y synnwyr a’r gynghanedd. Yn GGl darllenir ac oedaf ond anhysbys yw’r ffurf oedaf.
59–60 dywaid / … coriaid Felly BL 31055 ond llwgr yw’r testun. Mae’r darlleniad coriaid yn gwbl foddhaol ond mae angen odl unsill ar ei gyfer. Yn GGl ceisir datrys y broblem trwy ddarllen dy daid ond ni cheir cynghanedd felly. Anodd yw cynnig diwygiad boddhaol. Gellid cael cytseinedd cywir drwy gynnig diwygio dywaid yn das laid (‘tomen fudreddi’ neu’r cyffelyb) ond mae’n gwestiwn pa mor gydnaws fyddai’r geiriau hyn ag ieithwedd y canu dychan.
Cywydd dychan yw hwn i’r bardd Dafydd ab Edmwnd. Mae’n debyg mai’r un cefndir sydd iddo ag i gerdd 66, a oedd hithau’n gerdd i ddychanu’r un gŵr. Ynddo dewisa Guto ddychanu Dafydd ab Edmwnd, drachefn, am ei fod yn fach o gorff a hefyd am ei fod yn filwr. Byddai disgwyl i Ddafydd wasanaethu fel milwr yn ôl y gofyn, a’r rheswm mae Guto yn ei ddychanu am hyn, mae’n debyg, yw am ei fod yn ei weld fel rhywun rhy foethus a da ei fyd i fod yn filwr o’r iawn ryw (gw. llinellau 21–6). Roedd Guto, ar y llaw arall, yn filwr cydnerth, gwydn a phrofiadol. Wrth ymosod ar Ddafydd gwna ddefnydd gyson o goegni.
Gellir rhannu’r gerdd yn dair rhan. Yn gyntaf sonnir am Ddafydd ab Edmwnd fel milwr gan gyfeirio at rannau o’i arfwisg (1–36). Yn ail, fe’i dygir i mewn i gyd-destun y canu brud eithr gan ei gyffelybu i’r gelyn y sonia’r proffwydoliaethau amdano, nid i’r Mab Darogan (37–50). Yn olaf, fe’i cyffelybir i rai o arwyr y gorffennol, megis Alecsander ac Arthur, gan ddiweddu trwy ei annog i fynd i wlad Ieuan Fendigaid i goncro corachod fel ef ei hun (51–62).
Dyddiad
Megis yn achos cerdd 66, nid oes unrhyw wybodaeth i’n cynorthwyo i ddyddio’r gerdd, a’r mwyaf y gellir ei ddweud yw ei bod yn fwy tebygol o fod wedi ei chyfansoddi yn gynharach yn hytrach nag yn ddiweddarach yn oes Guto.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXIX.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell.
Cynghanedd: croes 37% (23 llinell), traws 37% (23 llinell), sain 19% (12 llinell), llusg 7% (4 llinell).
1 Asaf Sef esgob cyntaf Llanelwy, gw. LBS i: 177–85. Hanai Dafydd ab Edmwnd o Hanmer, ac mae’n debyg iddo fyw ym Mhwllgwepra yn Llaneurgain hefyd, gw. CLC2. Roedd y tri lle yn sir y Fflint ac felly yn esgobaeth Llanelwy. Yn ogystal ag Asaf, ceir y ffurfiau Asa, Asaff hefyd.
2 gwas y dryw Math o ditw; GPC 1590 ‘blue titmouse, Parus caeruleus’.
4 Dinbych Cf. 66.33–4 Aeth i Ddinbech i lechu / I’r ffau fawr, gŵr ar ffo fu.
5 cedwid Ffurf lai cyffredin ar berson trydydd unigol y modd gorchmynnol, gw. GMW 129; cf. 19.19 Cedwid Duw ceidwad Dwywent.
7 ystẃnd Yn ôl GPC 3349 (d.g. stwnt), ‘casgen, twba agored’, o’r Saesneg stond. Os felly, awgrymir bod Dafydd ab Edmwnd yn foliog. Ar y llaw arall, yn GGl 351 terddir y gair o’r Saesneg stunt ‘anifail neu bren y rhwystrwyd ei dwf’. Fodd bynnag, yn OED Online s.v. stunt, n.1, dyddiad yr enghraifft gynharaf o’r gair yn yr ystyr honno yw 1726. Cf. 68.15–16 lle dychana Guto Ddafydd ab Edmwnd drachefn, Gwae fi rwymo gafr Iemwnt / wrth ystác ar waith ystẃnt [‘barrel’].
8 Iemwnd Ffurf Gymraeg ar Edmwnd; 36 Iemwnt.
9–10 dau cant / O’r llu brith Ymddengys mai pryfed a olygir. Cyffelybir, felly, y pum mil o wŷr a fwriwyd gan Ddafydd (7–8) i’r creaduriaid hyn er mwyn bychanu ei filwriaeth.
12 uwch gwynt Dichon mai ffordd o fynegi rhagoriaeth y werin (11) yw’r ymadrodd yn y fan hon.
12 Adar Llwch Gwin Gw. 48.53–4.
13 mwyeri Efallai na ddylid ei ddeall yn llythrennol ac mai crafiadau a’r cyffelyb yn sgil brwydro a olygir. Amrywiad yw’r ffurf ar mieri.
17 cymwll Cymerir mai ffurf dreigledig hwn yw gymwll y testun ond nis ceir yn GPC 773 ac ansicr yw ei darddiad. Esboniad posibl yw mai cyfuniad ydyw o cyn- a pwll, cf. cynnwll, o cyn- a twll, ‘lle gwag’, GPC 797 (ar n + p → m yn cymwll, cf. amwyll o an- + pwyll). Dylid sylwi hefyd fod yr amrywiad gymwll yn digwydd mewn amryw o lawysgrifau am gynnwll yn y llinell o awdl gyffes Gruffudd ap Maredudd Rhag tanllyd sybwll, tinllwyth fflam gynnwll ‘Rhag [y] gors danllyd, ciwed y din [o’r] twll [llawn] fflam’ (GGMD ii, 15.41), pwynt a allai olygu bod tebygrwydd ystyr rhwng y ddau air. Ni rydd GPC 766 unrhyw enghreifftiau o cymwll fel amrywiad ar cymwyll ‘crybwyll’.
17 cemaer Cymerir mai ffurf dreigledig hwn yw gemaer y testun ond, megis cymwll, nis ceir yn GPC 460 ac ansicr, drachefn, yw ei darddiad. Gellir cynnig mai cam ‘drwg’ yw’r elfen gyntaf ac mai aer ‘brwydr’ yw’r ail. Ar cam yn troi yn cem weithiau mewn cyfuniad, cf. camair / cemair.
21 Nid atebir y ddwy d yn band ac adwaen ac anarferol yw dodi’r acen ar y geiriau gwan dy a di. Gw. hefyd 21n (testunol).
22 bêr gwyddau Ymddengys fod Guto yn cyffelybu’r ffon (neu’r waywffon) a ddygai benwn (21) Dafydd i ffon a ddefnyddid i hel gwyddau.
23–6 Ymddengys mai’r hyn a wneir yn y llinellau hyn yw cyffelybu arfau Dafydd i bethau moethus a domestig er mwyn dilorni ei gadernid fel milwr.
27–8 Ni byddy … / Wrth Ar yr ymadrodd, gw. GMW 214.
30 cist Os cywir y dehongliad, gw. GPC 484 (b) ar yr ystyr ‘bedd’.
30 caer castell Ymddengys y ddau air yn gyfystyr. Yn ôl GPC 384 (b), gall caer olygu hefyd ‘mur, magwyr, rhagfur, gwrthglawdd, gwarchglawdd’ a rhoddir enghreifftiau o 1567 ymlaen. Byddai’r ystyr honno yn taro yma, er hynny; cf. 85.49 a’r nodyn.
31 gwrw Ffurf amrywiol ar gwryw, gw. GPC 1742. Ynmddengys ei fod yn air unsill yma. Ni cheir enghraifft arall ohono yng ngwaith Guto.
31 esgair Ynglŷn â’r corff, yr ystyr fwyaf cyffredin yw ‘coes, gar’, GPC 1242 (a). Yn ôl ibid. (b), golyga ‘aelod’ hefyd, er na restrir ond dwy enghraifft, y naill o’r nawfed ganrif a’r llall o’r ddeunawfed ganrif. Serch hynny, byddai’r ystyr ‘aelod’ yn yr ystyr ‘adain’ yn gweddu’n well yma na ‘choes’ ynglŷn â gŵydd.
32 Atebir n gan m, arwydd arall o lygredd testunol, mae’n debyg (gw. hefyd 32n (testunol)).
35 Yn y bar olaf nid atebir yr h ac mae’r s yn rhagflaenu’r acen o sillaf megis mewn cynghanedd groes anhydyn.
37 Merddin Y bardd chwedlonol a daroganwr a oedd yn ffigur enwog yn y traddodiad barddol Cymreig, gw. CLC2 527.
37–50 Adleisir y canu brud. Portreedir Dafydd ab Edmwnd mewn modd anffafriol, â’r geiriau [g]wadd (38), [c]ranc (44), âb (48) a ddefnyddir yn y canu brud am y gelyn, gw. Evans 1938: 161. Negyddol neu ddychanol hefyd yw [t]ylluan (39), brân (40), Asen (41), ennain oeri (42), Llwynog (43).
40 y brut Tebyg nad at unrhyw waith daroganol neilltuol y cyfeirir ond at y traddodiad brud yn gyffredinol.
40 brân Arwyddocâ Rys ap Thomas neu Harri VII fel arfer.
42 ennain oeri Cyfeirir at un o’r trychinebau a ragwelir yn yr adran o ‘Frut y Brenhinedd’ Sieffre o Fynwy a elwir yn ‘Broffwydoliaeth Myrddin’, sef y bydd dyfroedd twym Caerfaddon yn oeri; gw. BD 109 Ena yr oerant eneint Badvn, a’e dyured yachvydavl a uagant agheu.
45 Hen Gyrys Hen Gyrys o Iâl, diarhebwr a enwir yng ngeiriadur John Davies yn y rhagair i’r diarhebion yno. Sonnir amdano yma fel brudiwr a ddaroganodd i nain (47) Dafydd ab Edmwnd ond, hyd y gwyddys, nid oes canu brud wedi ei briodoli iddo.
46 Gwersau’r âb Cyfeiriad tebygol at ‘Broffwydoliaeth y Wennol’, darn o frud rhyddiaith, lle dywedir ynghylch genedigaeth gelyn y mab darogan: ‘Ym mol y llewes y ceir mab dall yr hwn a enir yn ap ac a fegir yn wadd’, gw. Richards 1952–3: 244; cf. GDGor 4.40n, 3.44; GDID XXIII.50.
46 cor Syr Rys Crybwyllir gŵr o’r enw Syr Rhys yn 66.49 a’r tebyg yw mai’r un dyn ydyw yno â’r Syr Rhys a ddychanodd Guto yng ngherdd 101a. Y tebyg yw mai ef a olygir yma hefyd. Ar y treiglad yn dilyn Syr, cf. 14.5, 97.27.
47 nain Yn ôl WG1 ‘Hanmer’ 2, merch Dafydd ap Maredudd o Halchdyn ydoedd ond ni wyddys ei henw.
51 saith yw o’r oes hen Mae’n ansicr beth yn union a arwyddoceir trwy sôn am un o saith yw o’r oes hen. Dichon mai ffordd ydyw o ddweud bod yr ywen yn un o grŵp o yw dethol ac oedrannus sydd o’r herwydd yn braff ac urddasol. Mae’n bosibl hefyd fod rhyw chwedl neu draddodiad yn y cefndir.
51 yw Mae’n bosibl mai’r ferf a olygir, ond os ywen, ceir cyfatebiaeth rhwng hynny a sgallen yn y llinell nesaf i’r graddau mai planhigion yw’r ddau, a gwrthgyferbyniad hefyd rhwng maint y naill a bychander y llall sy’n gyson â chywair y gerdd ac yn gwneud y cwpled yn fwy effeithiol.
53 Alecsander gwncwerwr Sef Alecsander Fawr, y cadfridog o Roegwr bydenwog, 356–323 C.C. Mewn Triawd triphlyg fe’i henwir, ynghyd ag Arthur (55), yn un o’r naw milwr gwrolaf, ag urddasaf o’r holl vyd, TYP3 133.
54 oedd leiaf Cf. GLGC 213.13–14 Alecsander … oedd / yn leiaf un o’i luoedd a gw. y nodyn yno; cf 55–6n.
55–6 Arthur … / Oedd lai Ar Arthur, gw. 53n. Diddorol yw geiriau Guto, sydd fel pe baent yn awgrymu traddodiad, megis yn achos Alecsander Fawr (54n), ei fod yn fychan o gorff.
59 gwlad Ieuan Cyfeirir at y stori dra phoblogaidd ar ffurf llythyr ynghylch y cymeriad Ieuan Fendigaid (neu Ieuan Offeiriad, neu’r Preutur Siôn) lle portreedir ef fel brenin ar wlad dra chyfoethog a llawn rhyfeddodau ym mhellafoedd y Dwyrain. Fe’i cyfieithwyd i’r Gymraeg, gw. Edwards 1999.
60 Draw … coriaid Cf. Edwards 1999: 3 lle rhestrir yr holl greaduriaid rhyfedd sy’n trigo yng ngwlad Ieuan: yn eu plith enwir correit.
61–2 O mynni … einioes, / Ymwan … a myn y groes Cf. cywydd Iolo Goch i Edward III, GIG I.51–2 Cymod â’th Dduw, nid camoes, / Cymer yn dy gryfder groes. Annog Edward y mae Iolo (hyd ibid. ll. 60) i fynd ar groesgad i adennill y Tir Sanctaidd. Cyfeirir at y Mab Darogan yn gwneud hyn yn y canu brud. Yn yr achos hwn, wrth gwrs, rhan o goegni’r gerdd yw cyffelybu Dafydd ab Edmwnd i groesgadwr mawr.
Llyfryddiaeth
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistula Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Evans, R.W. (1938), ‘Trem ar y Cywydd Brud’, B.B. Thomas (ed.), Harlech Studies: Essays Presented to Dr. Thomas Jones (Cardiff)
Richards, W.L. (1952–3), ‘Cywyddau Brud Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd o Fathafarn’, LlCy 2: 244–54.
This cywydd is a satire of the poet Dafydd ab Edmwnd. It probably shares the same background as poem 66, which was also a satirical poem for the same poet. Here Guto again satirizes Dafydd ab Edmwnd because he is physically small and also because he is a soldier. Dafydd would be expected to serve as a soldier when needed, and Guto probably satirizes him because he believes him to be too comfortably well off to be a proper soldier (see 21–6 in particular). Guto, on the other hand, was a robust, tough and experienced soldier. In attacking Dafydd he makes constant use of sarcasm.
The poem can be divided into three sections. First, Dafydd ab Edmwnd is mentioned as a soldier and reference made to parts of his armour (1–36). Secondly, he is brought into the context of prophetic verse but by comparing him to the enemy, which the prophecies mention, and not to the liberating Son of Prophecy (37–50). Finally, he is likened to some of the heroes of the past, such as Alexander and Arthur, and, to conclude, he is encouraged to go to the land of Prester John to conquer dwarfs like himself (51–62).
Date
As with poem 66, there’s nothing in the poem which could help date it, and the most that can be said is that it was more probably composed earlier rather than later in Guto’s life.
The manuscripts
The poem has been preserved in five manuscripts which date from the end of the sixteenth century to the nineteenth. The oldest, BL 31055, is in the hand of Thomas Wiliems and is the source of the other copies and the basis of the edited text. It is corrupt in parts and no further independent copies have survived which might help to emend them confidently.
Previous edition
GGl poem LXXIX.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 62 lines.
Cynghanedd: croes 37% (23 lines), traws 37% (23 lines), sain 19% (12 lines), llusg 7% (4 lines).
1 Asaf Bishop of St Asaph, see LBS i: 177–85. Dafydd ab Edmwnd hailed from Hanmer, and he probably lived in Pwllgwepra in Northop too, see NCLW 143–4. The three places were in Flintshire and so in the diocese of St Asaph. As well as Asaf, the forms Asa, Asaff are found too.
2 gwas y dryw A kind of tit; GPC 1590 ‘blue titmouse, Parus caeruleus’.
4 Dinbych Cf. 66.33–4 Aeth i Ddinbech i lechu / I’r ffau fawr, gŵr ar ffo fu ‘He went to Denbigh to hide / in the great lair, he was a man on the run.’
5 cedwid A less common form of the third person singular imperative, see GMW 129; cf. 19.19 Cedwid Duw ceidwad Dwywent ‘May God preserve the guardian of both regions of Gwent.’
7 ystẃnd According to GPC 3349 s.v. stwnt ‘barrel, open tub’, from the English stond. If so, the implication is that Dafydd ab Edmwnd is pot-bellied. Nevertheless, in GGl 351 the word is derived from English stunt ‘an animal or wood of arrested growth’. However, in OED Online s.v. stunt, n.1, the first instance of the word in that sense is dated to 1726. Cf. 68.15–16 where Guto satirizes Dafydd ab Edmwnd again, Gwae fi rwymo gafr Iemwnt / wrth ystác ar waith ystẃnt ‘Woe is me that Edmwnd’s goat / has been bound to a heap shaped like a barrel.’
8 Iemwnd A Welsh form of Edmwnd; 36 Iemwnt.
9–10 dau cant / O’r llu brith Insects, apparently. So the 5,000 men struck down by Dafydd (7–8) are likened to these creatures in order to belittle his military prowess.
12 uwch gwynt The words are possibly a device here to express the excellence of the gwerin (11).
12 Adar Llwch Gwin See 48.53–4.
13 mwyeri Perhaps it is not meant to be taken literally and that scratches and the like caused by military combat are meant. The form is a variant of mieri.
17 cymwll It is assumed that gymwll in the text is the lenited form of cymwll, but it is not listed in GPC 773 and its derivation is uncertain. It could be explained as a combination of cyn- and pwll (‘pit, pool’), cf. cynnwll, from cyn- and twll, ‘space’, GPC 797 (on n + p → m in cymwll, cf. amwyll from an- + pwyll). It should be noted too that the variant gymwll is found in a number of manuscripts for gynnwll in a line of Gruffudd ap Maredudd’s confessional awdl, Rhag tanllyd sybwll, tinllwyth fflam gynnwll ‘from the burning bog, arse horde of the flame-filled pit’ (GGMD ii, 15.41), a point that could signify a similarity of meaning between the two words. GPC 766 gives no examples of cymwll as a variant of cymwyll ‘mention’.
17 cemaer It is assumed that gemaer in the text is the lenited form of this word but, as with cymwll, it is not listed in GPC 460 and its derivation is, again, uncertain. It may be suggested that the first element is cam ‘bad’ and that aer ‘battle’ is the second one. On cam becoming cem in compounds, cf. camair / cemair.
21 The two ds in band and adwaen are not answered and it is unusual to place the accent on the weak words dy and di.
22 bêr gwyddau It appears that Guto is comparing the stick (or spear) which bore Dafydd’s penwn (21) to a stick used to drive geese.
23–6 It appears that in these lines Dafydd’s armour is likened to luxurious domestic articles so as to disparage his strength as a soldier.
27–8 Ni byddy … / Wrth On the expression, see GMW 214.
30 cist If the interpretation is correct, see GPC 484 (b) for the meaning ‘grave’.
30 caer castell The two words appear to be synonymous. According to GPC 384 (b), caer can mean ‘wall, rampart, bulwark’ and examples are given from 1567 onwards. That sense would nonetheless suit the context here; cf. 85.49 and the note.
31 gwrw A variant of gwryw, see GPC 1742. It seems to be monosyllabic here. There is no other instance of the form in Guto’s work.
31 esgair In relation to the body, the most common meaning is ‘leg, shank’, GPC 1242 (a). According to ibid. (b), it means ‘limb’ too, although only two examples are given, one from the ninth century and the other from the eighteenth. However, the sense ‘limb’, understood as ‘wing’, would be more appropriate here than ‘leg’ in relation to a goose.
32 n is answered by m, another sign, probably, of textual corruption.
35 In the final bar the h is not answered and the s precedes the accent by a syllable as in a cynghanedd groes anhydyn.
37 Merddin The legendary poet and vaticinator who was a renowned figure in the Welsh poetic tradition, see NCLW 522.
37–50 These lines remind us of prophetic verse. Dafydd ab Edmwnd is portrayed in an unfavourable light, especially in the words gwadd (38), cranc (44), âb (48) which are used in prophetic verse for the enemy, see Evans 1938: 161. Tylluan (39), brân (40), Asen (41), ennain oeri (42), Llwynog (43) too are negative or satirical.
40 y brut Probably the prophetic tradition generally rather than any particular work of prophecy.
40 brân It usually signifies Rhys ap Thomas or Henry VII.
42 ennain oeri A reference to one of the disasters foreseen in the section of Geoffrey of Monmouth’s ‘Brut y Brenhinedd’ (‘Chronicle of the Kings’) called ‘Proffwydoliaeth Myrddin’ (‘Myrddin’s Prophecy’), namely that the warm waters of Bath will become cold; see BD 109 Ena yr oerant eneint Badvn, a’e dyured yachvydavl a uagant agheu ‘Then the baths of Bath will become cold, and its healing waters will breed death.’
45 Hen Gyrys Old Cyrys of Yale, an author of proverbs mentioned in John Davies’s dictionary in the foreword to the proverbs. Guto refers to him here as a vaticinator who prophesied to Dafydd ab Edmwnd’s nain (47) but, as far as is known, there is no prophetic verse ascribed to him.
46 Gwersau’r âb In all likelihood a reference to ‘Proffwydoliaeth y Wennol’, a prose prophecy, in which the son of prophecy’s enemy is described as an ape born of a lioness and reared as a mole, see Richards 1952–3: 244; cf. GDGor 4.40n, 3.44; GDID XXIII.50.
46 cor Syr Rys A man called Syr Rhys is mentioned in 66.49 who is probably the same person as the Syr Rhys whom Guto satirized in 101a. He is probably meant here too. On the mutation following Syr, cf. 14.5, 97.27.
47 nain According to WG1 ‘Hanmer’ 2, she was the daughter of Dafydd ap Maredudd of Halghton but her name is not known.
51 saith yw o’r oes hen It is uncertain what exactly is signified by mentioning one of saith yw o’r oes hen. It is possibly a way of saying that the yew is one of a group of old and select yew trees which are therefore solid and distinguished. It may also be that there is some tale or tradition in the background.
51 yw Possibly the verb here, but if Guto is referring to a yew tree, then it corresponds to sgallen in the next line inasmuch as both are plants, with a contrast too between the size of the one and the smallness of the other, which is in keeping with the spirit of the poem and makes the couplet more effective.
53 Alecsander gwncwerwr Alexander the Great, the world-famous Greek general (356–323 B.C.). He is named in a triple triad, along with Arthur (55), as one of naw milwr gwrolaf, ag urddasaf o’r holl vyd ‘nine bravest and most noble warriors of the whole world’, TYP3 133.
54 oedd leiaf Cf. GLGC 213.13–14 Alecsander … oedd / yn leiaf un o’i luoedd ‘Alexander was the smallest of his hosts’ and see ibid.n.; cf 55–6n.
55–6 Arthur … / Oedd lai On Arthur, see 53n. Guto’s words are interesting as they seem to reflect a tradition, as with Alexander the Great (54n), that he was physically small.
59 gwlad Ieuan A reference to the very popular story in the form of a letter regarding the personage Ieuan Fendigaid (or Ieuan Offeiriad, or Preutur Siôn), ‘Prester John’, where he is portrayed as king of a country abounding in wealth and wonders in the Far East. It was translated into Welsh, see Edwards 1999.
60 Draw … coriaid Cf. Edwards 1999: 3 where all the strange creatures living in Prester John’s country are listed: among them correit ‘dwarves’ are mentioned.
61–2 O mynni … einioes, / Ymwan … a myn y groes Cf. Iolo Goch’s cywydd to Edward III, GIG I.51–2 Cymod â’th Dduw, nid camoes, / Cymer yn dy gryfder groes ‘with your God, no bad practice, / take the cross in your strength’, IGP 1.51–2. Iolo is exhorting Edward (up to ibid. l. 60) to go on a crusade to regain the Holy Land. The Son of Prophecy doing this is mentioned in prophetic verse. In this case, of course, it is part of the sarcasm of the poem to compare Dafydd ab Edmwnd to a great crusader.
Bibliography
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistula Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Evans, R.W. (1938), ‘Trem ar y Cywydd Brud’, B.B. Thomas (ed.), Harlech Studies: Essays Presented to Dr. Thomas Jones (Cardiff)
Richards, W.L. (1952–3), ‘Cywyddau Brud Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd o Fathafarn’, LlCy 2: 244–54.
Dychenir y bardd Dafydd ab Edmwnd mewn tri chywydd a briodolir i Guto (cerddi 66, 67 a 68). Yn y cyntaf dychmygir ei fod yn llwynog a helir gan fintai o feirdd ac yn yr ail fe’i dychenir fel llipryn llwfr. Yn y trydydd cywydd fe ddychenir cal Dafydd am iddo ganu cywydd i Guto (cerdd 68a) lle dychenir maint ei geilliau. At hynny, canodd Dafydd englyn dychan i Guto (cerdd 68b). Cyfeirir at yr anghydfod rhyngddynt gan Lywelyn ap Gutun mewn cywydd dychan i Guto (65.47n). Priodolir 77 o gerddi i Ddafydd yn DE. Cywyddau yw’r rhan fwyaf ohonynt ond ceir awdlau ac englynion hefyd. Cerddi serch yw bron deuparth o’i gywyddau, llawer ohonynt yn brydferth eu disgrifiadau a gorchestol eu crefft, ond ceir hefyd rai cerddi mawl, marwnad, gofyn, crefydd a dychan.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Edwin’ 11, ‘Hanmer’ 1, 2, ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2, DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd, GMRh 3 ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B 66r–7r. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Gan Enid Roberts yn unig (GMRh 3) y ceir yr wybodaeth am fam Dafydd a’r ffaith ei fod yn gyfyrder i’w athro barddol, Maredudd ap Rhys (nid oedd gan Fadog Llwyd fab o’r enw Dafydd yn ôl achresi Bartrum). Gwelir bod Edmwnd, tad Dafydd, yn gyfyrder i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Os cywir yr wybodaeth a geir yn LlGC 8497B, roedd Dafydd yn frawd yng nghyfraith i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt.
Ei yrfa
Roedd Dafydd yn fardd disglair a phwysig iawn ac yn dirfeddiannwr cefnog. Hanai o blwyf Hanmer ym Maelor Saesneg, ac mae’n debyg hefyd iddo fyw ym Mhwllgwepra yn Llaneurgain, sir y Fflint, sef bro ei fam. Roedd yn berchen ar Yr Owredd, prif aelwyd teulu’r Hanmeriaid, a llawer o diroedd eraill yn Hanmer. Maredudd ap Rhys (gw. GMRh) oedd ei athro barddol a bu Dafydd, yn ei dro, yn athro i ddau fardd disglair arall, sef Gutun Owain a Thudur Aled, a ganodd ill dau farwnadau iddo hefyd. Roedd Dafydd hefyd yn ffigwr tra phwysig yn y traddodiad barddol oherwydd ei ad-drefniant, a arhosodd yn safonol wedyn (er gwaethaf peth gwrthwynebiad), o gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn 1451 gerbron Gruffudd ap Nicolas, taid Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais. Ymhellach arno, gw. DE; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Edmwnd; DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd.