Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn, yn gyflawn neu’n anghyflawn, mewn 46 llawysgrif sy’n dyddio o ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac eithrio Wy 1, LlGC 3049D, Gwyn 4 a’r llawysgrifau diweddar LlGC 19903A, Ba 17569, LlGC 3288B, LlGC 19497B lle digwydd ar ei ben ei hun, mae’n dilyn cerdd 68a, a diau fod y ddwy gerdd yn bodoli fel pâr cyn eu copïo. Pan fo’r ddwy gerdd ynghyd yn y llawysgrifau, gallwn gymryd mai’r un yw eu tras. Megis yn achos cerdd 68a, ceir llawer o amrywio yn y testunau o ran hyd, geiriau a threfn y llinellau. Y prif wahaniaethau rhwng stema’r gerdd hon ac eiddo cerdd 68a yw, yn gyntaf, berthynas BL 14967 a chynsail y gerdd ac ychwanegiad Wy 1, LlGC 3049D, Gwyn 4 sydd i gyd yn tarddu o’r un gynsail, X5. Nid yw’n annichon, er hynny, mai copïau oedd testunau X6 o Wy 1. Hefyd, ni cheir testun cerdd 68 yn Llst 44 sydd, yn achos cerdd 68a, yn ffurfio un o fersiynau annibynnol y gerdd honno.
Ymddengys hefyd fod perthynas rhwng Wy 1 a X4 (gw. 1–2n, 14n, 17n, 30n), er cymaint y gwahaniaeth rhyngddynt o ran hyd a threfn llinellau. Un esboniad ar hyn fyddai fod rhywun wedi dysgu Wy 1 neu ei gynsail ar ei gof gan ailadrodd y gerdd yn amherffaith mewn datganiad a gofnodwyd.
Trawsysgrifiadau: BL 14967, Wy 1, Pen 93, BL 14876.
1–2 fod, / … ormod Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Ceir fodd / ormodd yn Wy 1 (… gxl oxxxdd), BL 14966, X3, BL 14876 ac yn ychydig o destunau X4. Rhydd ystyr burion ond dichon hefyd mai hawdd fuasai llithro o fod i fodd neu fel arall, a cheir y ffurf gormodd yn ogystal â gormod.
5 i X4 ar.
7 a’i glod a’i galon Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Ceir ychydig o amrywio: Wy 1, LlGC 3050D i glod ai galon, CM 27 i glôd i galon, BL 14876 aiei glôd a’i galon.
9–10 Ai gwir bod yt, y gŵr bach, / Waglwyfen o gal afiach? Pur wahanol, ac anfoddhaol, yw darlleniad y mwyafrif testunau X4 Ai gwir bod hyd y garr bach / gwiw lwyfen o gal afiach (LlGC 834B).
14 gwn na Darlleniad BL 14967, X3, Pen 93. Rhydd Wy 1, X4 ag ni synnwyr boddhaol hefyd, er nad yw’r dystiolaeth o’i blaid mor helaeth.
16 ystác Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Gthg. LlGC 3050D, BL 14876 ystank. Yr ail ganrif ar bymtheg yw dyddiad yr enghraifft gynharaf o’r olaf a restrir yn GPC 3327 d.g. stanc.
17 Y mae arf yt fal morfarch Felly Pen 93, a cf. BL 14876 mae arf yt fal mor farch. Ceir amrywiadau eraill: BL 14967 Mae arf yt val ir morfarch, Wy 1, X4 mae arvau yt val morvarch, X3 mae arf yt val y morfarch. Gwell yw’r unigol arf na’r lluosog arfau yn y cyd-destun ac nid oes angen ir neu y o flaen morfarch o ran synnwyr. Dichon fod y llinell yn chwesill yng nghynsail y gerdd, megis yn BL 14876, a bod copïwyr wedi ceisio ei gwneud y seithsill trwy wahanol ddulliau. O’r rhain, diau mai troi mae yn y mae (Pen 93) oedd gywiraf.
18 o’i Felly BL 14967, Wy 1, BL 14876, X4, a cf. X3 o. Gthg. Pen 93.
26 faich Felly BL 14967, Wy 1, Pen 93, BL 14876; gthg. X2, X3 (ond BL 14966 bach), X4 baich. Mae’r ddau ddarlleniad mor gywir â’i gilydd.
30 chaud dwyg (A d + d yn caledu yn t) X3, BL 14876, Pen 93 chaid twyg, a cf. BL 14967 chavd tvg. Byddai Wy 1, chaut waeg, X4 chevt waeg hwythau yn rhoi synnwyr da.
31 a gwasg y gledren Felly X3 (ond BL 14886 gwsg i), a cf. BL 14967 a gwasc gledren, Wy 1 gwasc y gledren. Llwgr yw darlleniadau’r testunau eraill.
32 fforch Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau ac eithrio BL 14967 ffyrch a X4 lle mae’r cwpled yn llwgr.
33 gwna Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau ac eithrio X4 lle na cheir 33–4. Diddorol yw sylwi ar ddarlleniad Pen 93 gwaia a dderbynnir yn CMOC2 132 (gwea). Mae hwn yn ddeniadol ar un olwg (er y gellid dadlau ei fod yn gwrthdaro o ran ffurf â gwna yn 32 a 34), ond y tebyg yw mai ymgais a fu yma gan gopïwr i greu cynghanedd (draws) ar gyfer y llinell heb sylweddoli bod cynghanedd (lusg wyrdro) ynddi eisoes.
34 y ganno hon Felly Pen 93, a cf. LlGC 3049D, Gwyn 4 i gano hon, Wy 1 i gana hon. Ceir amrywio pellach yn y llawysgrifau eraill. O’r rhain BL 14876 i gowain hon sydd orau, ond ei fod yn unigryw (ond cf. y darlleniad llwgr yn BL 14967 gwni wain i hon).
35 hyd Felly BL 14967, Pen 93, X4. Ceir thid yn y llawysgrifau eraill ond ni rydd cystal synnywr na chynghanedd. Hawdd gweld sut y gallai’r th yn wrth fod wedi cael ei hailadrodd ar gam.
41 bledr Dyma’r ffurf a geir yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Mae’n amrywiad ar pledr (megis yn X4, a cf. CMOC2). Yn X3, Pen 93, lledr a ddarllenir.
43 er Felly BL 14967, Wy 1. Gellid hefyd ddarllen yn megis yn y llawysgrifau eraill.
43–4 Dyfynnir y rhain yn John Davies, Dictionarium Duplex (Londinium, 1632), d.g. tremyniad gyda darlleniad gwahanol ar gyfer 43, Y naill yw, yn neall hâd (cf. X4).
48 geilliau’r baedd … golli’r bêl Ni fynegir y fannod yn y llawysgrifau ond yn BL 14876 a hynny yn yr ail achos, yr bêl. Mae’n amlwg, er hynny, fod angen y fannod o flaen bêl, ac os felly, o flaen baedd hefyd i wella’r gynghanedd.
49 Llibin llostfawr, cerddawr cod Felly BL 14967, Wy 1, Pen 93, BL 14876. Llwgr yw darlleniadau’r llawysgrifau eraill.
51 gwedda Felly BL 14967, Wy 1, X3. Gellid hefyd ystyried Pen 93, BL 14876 gweddai.
52 Pwys y tors gyda’r fors fau Ceir cryn amrywio a llygredd yn y llawysgrifau: BL 14967 pwrs y tors gidar pers tav, Wy 1 pwys y tors gyda’r pers tav, X2: LlGC 3050D pwys y tors gida r fors fav, CM 27 pwys y dors gida/r/ fors faü, BL 14966 pwys rs gida /r/ fors favpwrs y torr gyda ’r pers tav, X3 pwrs y torr gydar peis tav (ond BL 14866 mors y torr gida r pers tav), Pen 93 dorys ynghyd ar fors fav, X4 pwrs y torr giyda r pors tav (gydag ychydig fân amrywiadau), BL 14876 pwrs y torr gyd a pors tau. Mae’r ffurfiau pers a pors a geir yn ail hanner y llinell yn rhai ohonynt yn anhysbys ac ni cheir cynghanedd gywir yn Wy 1, X3, Pen 93. Er hynny, ceir darlleniadau cywir a boddhaol eu hystyr yn X2; cf. 60 Ai rhoi’r tors wrth y fors fau.
57 anferth Gwahanol yw darlleniad X2 vn faint (ond BL 14966 o vnfaint).
57 pae ŵr pei wr a geir yn y llawysgrifau (ac eithrio X2 pa wr). Cytunir â CMOC2 yn deall pei i gynrychioli pae, gw. GPC 2667.
59 gwna’r Yn rhai o’r llawysgrifau (e.e. BL 14967, Wy 1) ni chynhwysir y fannod ond nid yw hynny o bwys o safbwynt cystrawen a synnwyr.
61 Y Dai ni allud eu dwyn Felly BL 14967, Wy 1, X3. Ceir hefyd yr amrywiadau canlynol: X2: LlGC 3050D, CM 27 yll dav ni allvd i dwyn, BL 14966 ill dwy ni ellid i dwyn, BL 14876 y ddau ni ellit i ddwyn, X4 Y ddav ni allvd i ddwyn. Mae darlleniadau X2 yn foddhaol o ran synnwyr a chywirdeb ond mae’n fwy tebygol y byddai y dai (trwy ei gamddeall) wedi ei newid yn ill dau neu y ddau na bod y rheini wedi eu newid yn y Dai. Mae darlleniadau BL 14876, X4 yn anghywir eu cystrawen.
61 eu i neu y a geir yn y llawysgrifau, a gallant ddynodi ffurf unigol neu luosog y rhagenw. Ar bwys y ddau wrthrych a grybwyllir yn y llinell flaenorol, sef tors a bors, mae’n fwy tebygol, pace CMOC2, mai’r lluosog a olygir.
65 ddwyn BL 14967, Wy 1, X2 a cf. 61 dwyn. Gellid hefyd ystyried gadw X3, X4, BL 14876 (a cf. CMOC2).
66 gado’r Felly BL 14967, Wy 1, X2: BL 14966, X3: LlGC 21290E, Llst 134, BL 14876. Yn X2: LlGC 3050D, CM 27, X3: BL 14886, X4 darllenir gad y.
Dyma ateb Guto’r Glyn i ymosodiad Dafydd ab Edmwnd arno pan dorrodd ei lengig. Ar y cefndir, gw. cerdd 68a.
Diddorol yw sylwi ar y gwahaniaeth rhwng ymagwedd Guto at ei bwnc ac eiddo Dafydd. Lle mae Dafydd yn pentyrru dyfaliad ar ben dyfaliad yn feistraidd ond yn undonnog braidd, mwy chwareus a dyfeisgar yw Guto. Dyfala yntau yn gelfydd wrth ddisgrifio cal Dafydd ond yn lle gadael ei ddychan yn benagored awgryma y dylai Dafydd ddodi ei gal anferth wrth ei dor llengig ef (sef Guto) er mwyn i Guto eu cludo gan mai ef yn unig, ac nid dyn bach main fel Dafydd, fyddai’n ddigon cryf i wneud hynny.
Mae tair rhan i’r gerdd. Yn gyntaf, cyflwyniad (llinellau 1–8), ymroi i ddychanu cal Dafydd (9–36) a chynnig datrysiad o’r sefyllfa (37–66).
Dyddiad
c.1440–69 (cf. cerdd 68a).
Golygiad blaenorol
CMOC2 130–3.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 50% (33 llinell), traws 29% (19 llinell), sain 15% (10 llinell), llusg 6% (4 llinell).
4 fal y bydd Yn CMOC2 131 dehonglir y geiriau fel cymal canlyniad gan gyfieithu hir yn y llinell flaenorol fel ‘so long’.
13 gwaeth yw no’i hyd Hynny yw, nid yw cystal ag y gellid tybio ei bod ar sail ei hyd.
15–16 Gwae fi rwymo gafr Iemwnt / Wrth ystác ar waith ystẃnt Gresyna Guto am fod corff Dafydd ab Edmwnd wedi ei ffurfio ar lun casgen (rwymo … wrth ystác). Defnyddia Guto y gair ystẃnd ynglŷn â Dafydd yn 67.7 hefyd (gw. y nodyn). Tebyg fod ergyd arbennig yn y disgrifiad ohono fel gafr Iemwnt gan y meddylid am yr afr fel creadur anllad.
21 Clawdd Offa Y ffin enwog rhwng Cymru a Lloegr a adeiladwyd gan y Brenin Offa o Mersia yn yr wythfed ganrif. Erbyn cyfnod Guto nid oedd yn rhwystr corfforol.
27 trosol y blaid Mae’n ansicr at beth y cyfeirir. Yn CMOC2 131 fe’i cyfieithir ‘the bar of the loomshaft’ ond yn ôl GPC 2815 (c), ni cheir enghraifft o blaid yn yr ystyr hon tan 1936.
30 dwyg Fe’i deellir yn gywasgiad o diwyg, er na cheir enghraifft o’r ffurf yn GPC 1062.
44 tremyniad CMOC2 133 ‘goblin’, ond geiriadurol a diweddarach yw’r ystyr honno, gw. GPC 3585 dan tremyniad2.
46 Lwmbart Un o drigolion Lombardia yn yr Eidal, gw. GPC 2068.
51 pont gwyddau Tywyll yw’r arwyddocâd.
52 tors Yr ystyr sylfaenol yw ‘ffagl’ ond yn GPC 3534 (b) ceir enghreifftiau ffigurol a throsiadol ohono. Mae’n amlwg wrth y cyd-destun mai ‘cal’ a ddynoda yma a byddai hyn yn drosiad priodol am aelod sydd megis yn poethi. Fodd bynnag, dadleua Nicholas Jacobs (1995: 297), gan mai ergyd dychan Guto yw bod cal Dafydd, er mor fawr, yn ymestyn yn llipa at y ddaear, ei bod yn fwy tebygol mai benthyciad o’r Hen Saesneg teors ‘cal’ yw tors y testun, yn hytrach nag o’r Saesneg Canol neu’r Hen Ffrangeg torche, gw. GPC. Mae’n bosibl, er hynny, fod Guto’n defnyddio tors ‘ffagl’ yn goeglyd ynglŷn â chal Dafydd ab Edmwnd.
53 potel … bestel Sef y gal a’r tor llengig.
53–4 Potel … bostiwr / Pe caid Y drefn normal fyddai Pe caid potel … bostiwr. Gellid, er hynny, ddodi coma ar ôl bostiwr, a’r gystrawen fyddai Potel … bostiwr, pe caid (honno). Yn CMOC2 132, dodir coma ar ôl bostiwr ond nid ar ôl caid, ac nid yw’n eglur sut y dehonglir y gystrawen. Ond mae ystyr y cwpled yn ddigon eglur, sut bynnag yn union yr atalnodir.
61 eu Gw. 60n (testunol).
62 Gwasgwyn Hen dalaith yn ne-orllewin Ffrainc y ceid masnach gynnar mewn meirch rhyngddi a Chymru; defnyddid yr enw’n aml am farch o’r ardal honno, gw. GPC 1597.
Llyfryddiaeth
Jacobs, N. (1995), ‘Tors (1) “ffagl” (2) “gorchudd” (3) “membrum virile” ’, SC xxx: 295–8
This is Guto’r Glyn’s retort to Dafydd ab Edmwnd’s attack on him when he ruptured himself. On the background, see poem 68a.
It is interesting to note the contrast between Guto’s approach to his subject and that of Dafydd ab Edmwnd. Where Dafydd heaps comparison upon comparison in a masterly but somewhat monotonous way, Guto is more playful and inventive. He too makes skilful comparisons in describing Dafydd’s penis but instead of leaving his satire open-ended he suggests that Dafydd should place his enormous penis by his (i.e. Guto’s) rupture for Guto to carry since he alone, and not a slender little man like Dafydd, would be strong enough to do that.
The poem divides into three parts. First, an introduction (lines 1–8), a concentrated satire of Dafydd’s penis (9–36) and a suggested solution to the matter (37–66).
Date
c.1440–69 (cf. 68a).
The manuscripts
The poem has been preserved, complete or incomplete, in 46 manuscripts dating from the second quarter of the sixteenth century to the nineteenth century. With the exception of some manuscripts where it occurs on its own, it follows poem 68a in all the manuscripts, and the two poems doubtless existed as a pair before they were transcribed. As with poem 68a, there is much variation in the texts in length, words and line sequence. The edited text is based on BL 14967, Wy 1, Pen 93, BL 14876.
Previous edition
CMOC2 130–3.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 50% (33 lines), traws 29% (19 lines), sain 15% (10 lines), llusg 6% (4 lines).
4 fal y bydd In CMOC2 131 the words are construed as a consequence clause with hir in the preceding line translated as ‘so long’.
13 gwaeth yw no’i hyd I.e. it is not as good as might be supposed on the basis of its length.
15–16 Gwae fi rwymo gafr Iemwnt / Wrth ystác ar waith ystẃnt Guto laments the fact that Dafydd ab Edmwnd’s body is barrel-shaped (rwymo … wrth ystác). Guto uses the word ystẃnd with reference to Dafydd in 67.7 too (see note). There is probably a special significance in the characterization of him as gafr Iemwnt since the goat was considered to be a wanton creature.
21 Clawdd Offa The famous frontier between Wales and England built by King Offa of Mercia in the eighth century. By Guto’s time it no longer constituted a physical barrier.
27 trosol y blaid An uncertain reference. In CMOC2 131 it is translated as ‘the bar of the loomshaft’ but, according to GPC 2815 (c), this sense does not appear until 1936.
30 dwyg It is understood as a contraction of diwyg, although no instance of the form is cited in GPC 1062.
44 tremyniad CMOC2 133 ‘goblin’, but this sense is lexicographical and later, see GPC 3585 s.v. tremyniad2.
46 Lwmbart An inhabitant of Lombardy in Italy, see GPC 2068.
51 pont gwyddau The signification is unclear.
52 tors The basic meaning is ‘flame, torch’ but in GPC 3534 (b) figurative and metaphorical instances of it are cited. It is obvious from the context that it denotes ‘penis’ here and this would be an appropriate metaphor for a member which, as it were, heats up. However, Nicholas Jacobs (1995: 297) argues that since the burden of Guto’s satire is that Dafydd’s penis for all its size stretches limply to the ground, tors in the text is more probably a loan from Old English teors ‘penis’ (rather than from Middle English or Old French torche, see GPC). It is, however, possible that Guto is employing tors ‘torch’ sarcastically for Dafydd ab Edmwnd’s penis.
53 potel … bestel Namely the penis and the rupture.
53–4 Potel … bostiwr / Pe caid The normal order would be Pe caid potel … bostiwr. However, a comma could be placed after bostiwr, and the construction would be Potel … bostiwr, pe caid (honno). In CMOC2 132, there is a comma after bostiwr but not after caid, and it is not clear how the sentence is construed. The meaning of the couplet is nonetheless clear enough, however it is punctuated.
62 Gwasgwyn An old province in south-west France which supplied horses to Wales at an early date; it was often used to denote a horse from that region, see GPC 1597.
Bibliography
Jacobs, N. (1995), ‘Tors (1) “ffagl” (2) “gorchudd” (3) “membrum virile” ’, SC xxx: 295–8
Dychenir y bardd Dafydd ab Edmwnd mewn tri chywydd a briodolir i Guto (cerddi 66, 67 a 68). Yn y cyntaf dychmygir ei fod yn llwynog a helir gan fintai o feirdd ac yn yr ail fe’i dychenir fel llipryn llwfr. Yn y trydydd cywydd fe ddychenir cal Dafydd am iddo ganu cywydd i Guto (cerdd 68a) lle dychenir maint ei geilliau. At hynny, canodd Dafydd englyn dychan i Guto (cerdd 68b). Cyfeirir at yr anghydfod rhyngddynt gan Lywelyn ap Gutun mewn cywydd dychan i Guto (65.47n). Priodolir 77 o gerddi i Ddafydd yn DE. Cywyddau yw’r rhan fwyaf ohonynt ond ceir awdlau ac englynion hefyd. Cerddi serch yw bron deuparth o’i gywyddau, llawer ohonynt yn brydferth eu disgrifiadau a gorchestol eu crefft, ond ceir hefyd rai cerddi mawl, marwnad, gofyn, crefydd a dychan.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Edwin’ 11, ‘Hanmer’ 1, 2, ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2, DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd, GMRh 3 ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B 66r–7r. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Gan Enid Roberts yn unig (GMRh 3) y ceir yr wybodaeth am fam Dafydd a’r ffaith ei fod yn gyfyrder i’w athro barddol, Maredudd ap Rhys (nid oedd gan Fadog Llwyd fab o’r enw Dafydd yn ôl achresi Bartrum). Gwelir bod Edmwnd, tad Dafydd, yn gyfyrder i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Os cywir yr wybodaeth a geir yn LlGC 8497B, roedd Dafydd yn frawd yng nghyfraith i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt.
Ei yrfa
Roedd Dafydd yn fardd disglair a phwysig iawn ac yn dirfeddiannwr cefnog. Hanai o blwyf Hanmer ym Maelor Saesneg, ac mae’n debyg hefyd iddo fyw ym Mhwllgwepra yn Llaneurgain, sir y Fflint, sef bro ei fam. Roedd yn berchen ar Yr Owredd, prif aelwyd teulu’r Hanmeriaid, a llawer o diroedd eraill yn Hanmer. Maredudd ap Rhys (gw. GMRh) oedd ei athro barddol a bu Dafydd, yn ei dro, yn athro i ddau fardd disglair arall, sef Gutun Owain a Thudur Aled, a ganodd ill dau farwnadau iddo hefyd. Roedd Dafydd hefyd yn ffigwr tra phwysig yn y traddodiad barddol oherwydd ei ad-drefniant, a arhosodd yn safonol wedyn (er gwaethaf peth gwrthwynebiad), o gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn 1451 gerbron Gruffudd ap Nicolas, taid Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais. Ymhellach arno, gw. DE; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Edmwnd; DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd.