Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn, yn gyflawn gan amlaf, mewn 17 llawysgrif a godwyd rhwng trydydd chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw’r amrywiadau geiriol rhwng y testunau yn fawr nac yn niferus, a’r un drefn llinellau sylfaenol a geir ynddynt heb fawr o fylchau (ond y cwpled cyntaf yn unig a geir yn Pen 221). Tybir bod y testunau i gyd i’w holrhain i un gynsail ysgrifenedig, ac mae gan bob un (ac eithrio LlGC 642B sy’n ansicr ei darddiad) gyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru.
Ymranna’r testunau’n dri phrif fath yn ôl llinell 28. Ceir y math cyntaf yn LlGC 17114B lle darllenir yw’r trydydd. Ceir yr ail fath yn X1 (‘Cynsail Dyffryn Conwy’) y trydydd. Yn olaf, ceir X3 lle darllenir mae’r trydydd. Cwpled yn unig sydd yn Pen 221, ond mae’r darlleniad drwc yn ei neges (2) yn ei chysylltu â LlGC 6681B sy’n perthyn i fersiwn LlGC 17114B. Ymddengys mai testunau cymysgryw yw CM 12, LlGC 673D.
Nid oes un o’r tri fersiwn hyn yn rhagori ar y lleill, a bu’n rhaid defnyddio eu tystiolaeth gyfun wrth lunio testun golygyddol. Ceir y testunau pwysicaf yn llawysgrifau ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol. Seiliwyd y testun golygyddol ar LlGC 17114B, LlGC 8497B, Pen 72 a C 2.617.
Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, LlGC 8497B, Pen 72, C 2.617.
1 Mi a euthum i ’Mwythig Gthg. GGl Mi euthum i Ymwythig a cf. Pen 152 Mi a euthum a geir yn y llawysgrifau cynharach ac eithrio C 5.167 lle darllenir [ ]i evthvm (ond gellir priodoli hynny i gamgopïo LlGC 17114B). Fel arall, i neu i’r a geir yn llawysgrifau’r gerdd o flaen ’Mwythig.
6 Noe Gthg. GGl Nöe sy’n rhoi cynghanedd wallus.
6 heb ei roi’n nes Darlleniad LlGC 8497B, Pen 72; cf. LlGC 3049D heb i roines. Gthg. GGl heb roi nes, a geir yn Gwyn 4 a cf. LlGC 17114B heb roi ynes. Nid yw ystyr heb roi nes yn eglur ond o ddarllen heb ei roi’n nes, cymerir mai at neges yn y llinell flaenorol y cyfeirir (roedd neges yn enw gwrywaidd a benywaidd yn y cyfnod, gw. GPC 2562–3). Gellid hefyd ddeall roi i gynrychioli rhoi, gan ddarllen ei rhoi’n a chymryd ei i gyfeirio at brân, ond mwy canolog i’r cwpled yw neges a cheir y gyfatebiaeth r = r yn y gynghanedd.
8 o’i Gthg. GGl I’w, darlleniad Gwyn 4, ond yr un yw’r ystyr (ar o’i ‘i’w’, gw. GMW 4, 53; Williams 1922: 19–20).
10 Tomas eos a geir yn LlGC 8497B, camgymeriad amlwg a gafwyd trwy ailadrodd yr un gair yn y llinell flaenorol.
15 ganwr Y sillafiad ganwr a geir amlaf yn y llawysgrifau (gan gynnwys y rhai cynnar) a rhydd synnwyr boddhaol. Llai cyffredin yw gannwr. Ceir ganwr yn y tri fersiwn o’r gerdd chwe gwaith yn eu testunau cynharaf a phwysicaf, sef LlGC 17114B, LlGC 8497B, Gwyn 4, C 2.617, Pen 72 a Pen 99. Ceir gannwr yn y tri fersiwn dair gwaith, ond yn fersiwn LlGC 17114B copi ydyw o’r testun hwnnw, felly yn oedd y darlleniad gwreiddiol. Mae’r testunau eraill, ar y llaw arall, sef LlGC 3049D ac LlGC 642B, ymysg testunau cynharaf X1 a X2. Er cydnabod bod enghreifftiau yn y llawysgrifau o n am nn, eto mae’r copïwyr at ei gilydd yn gydwybodol yn eu defnydd o orgraff, ac yn yr achos dan sylw gwelir bod y dystiolaeth yn pwyso mwy o blaid ganwr; cf. GO XIX.24 Bid gwin a bwyd i ganwr. Gthg. GGl gannwr (awgrym o helaethrwydd mawr o win).
22 ar Gthg. GGl O, darlleniad nas ceir ond yn Pen 99 a hynny fel ‘cywiriad’ (aor fwrdd).
24 y rhent i rroi a geir yn fersiwn LlGC 17114B. Rhydd hyn synnwyr da ond haws fyddai ysgrifennu rroi am rhent na rhent am rroi ac ychwanega rhent at gynnwys y cwpled trwy’r syniad penodol o arian yn troi’n rhodd. Yn bwysicach, ceir tystiolaeth dau fersiwn o’r gerdd (X1 ac X2) yn erbyn un.
28 y LlGC 17114B yw’r, X2 mae’r. Diau mai methiant ar ran y copïwyr i sylweddoli bod y trydydd yn dibynnu ar ferf a oedd eisoes wedi ei mynegi yn y llinell flaenorol, sef a rydd, a fu’n gyfrifol am yr amrywiadau hyn. Sylwer hefyd, yn achos darlleniad LlGC 17114B, na ddisgwylid i’r ffurf yw ar y ferf bod, eithr mae, ddilyn ymadrodd adferfol yn nhrefn gymysg neu annormal y frawddeg.
29 daly Gthg. GGl Dal sy’n cyfateb i ddarlleniad LlGC 8497B a C 2.617. Dal y a geir yn Gwyn 4 a LlGC 3049D. Ymddengys mai dal y a oedd yn X1 ac mai ymgais i’w ‘gywiro’ er mwyn hyd y llinell yw dal, lle nad oedd angen, yn hytrach, ond darllen y ffurf unsill arall daly.
47–8 ydiw … / … wiw ydyw … yw a geir yn X1 ond ni rydd yw lawer o synnwyr.
52 phrebant Diddorol sylwi mai phrebend a geir yn LlGC 8497B, ond nid yn yr un o’r llawysgrifau eraill, a hynny, yn ddiau, am i Thomas Wiliems ei newid dan ddylanwad y Saesneg prebend y benthyciwyd y gair ohono (gw. GPC 2870).
56 blawr blaenawr a geir yn X1 ond ni rydd gystal synnwyr a gwna’r llinell yn rhy hir o sillaf. Yn LlGC 8497B hepgorwyd yn (a geir yn yr holl lawysgrifau eraill) ar ddechrau’r llinell er mwyn unioni’r hyd.
62 dwymn Gthg. GGl dwym. Yn X1, dwym a geir yn LlGC 8497B, dwymyn yn Gwyn 4, dwym yn yn LlGC 3049D a dwymn yn C 2.617. Cf. hefyd ddarlleniadau testunau fersiwn LlGC 17114B dwym yn / dwymvn / dwymyn. Ymddengys mai dwymyn oedd yng nghynsail y gerdd ac i hwnnw naill ai gael ei gamddeall neu’i gamysgrifennu yn dwyn yn (‘ein’) neu ynteu ei dalfyrru yn dwym neu dwymn er mwyn hyd y llinell. Mae angen ffurf unsill ond yn LlGC 8497B yn unig y ceir dwym ac mae tuedd yn Thomas Williems i ‘gywiro’ ei destun ar dro. Mae dwymn C 2.617, ar y llaw arall, yn rhoi’r nifer cywir o sillafau i’r llinell ac yn cadw n y darlleniadau eraill. (Ar y ffurfiau amrywiol twym, twymn, twymyn, gw. GPC 3665 d.g. twym1.)
64 ato Dyma’r darlleniad mwyaf cyffredin. Ceir eto yn LlGC 8497B a rhai llawysgrifau diweddarach ond ni rydd gystal synnwyr.
Llyfryddiaeth
Williams, I. (1922) (gol.), Cyfranc Lludd a Llefelys (ail arg., Bangor)
Thema’r cywydd hwn yw ymweliad gan Guto, ar ran Tomas ap Rhys, â’r Abad Tomas o Amwythig. Roedd Tomas ap Rhys wedi gofyn iddo frysio ar ei neges ond temtiwyd Guto i oedi yn yr abaty am ysbaid gan wleddoedd danteithiol a chwmnïaeth hyfryd yr abad. Yno y bu iddo gyfarfod hefyd â Syr Siôn Mathau, person Llanarmon-yn-Iâl, a oedd yntau wedi ei hudo gan ei groeso’r abad. Ymrydd Guto i foli lluniaeth, cymeriad, dysg a sancteiddrwyd yr abad a therfyna trwy fynegi dymuniad i ymweld ag ef eto.
Ni lwyddwyd i ddarganfod pwy yn union oedd Tomas ap Rhys, ond gellir awgrymu, gan iddo anfon Guto at grefyddwr a bod Guto yn cyfeirio at yr abad fel [b]rawd (10) Tomas, y dichon mai crefyddwr ydoedd yntau. Roedd gŵr o’r enw yn abad mynachlog Sistersaidd Hendy-gwyn ar Daf, 1491–?1527, ond yn rhy ddiweddar. Sylwer hefyd fod Guto yn cyfeirio at Tomas ap Rhys fel y mab (4), a allai ddynodi ei fod yn ddyn cymharol ifanc.
Yn CTC 506, cyfeirir at uchelwr o’r enw Thomas ap Rys o Groesoswallt a Baschurch a grybwyllir yn y ‘Calendr Rholiau Patentau’ y bu iddo dderbyn pardwn cyffredinol ar 6 Mai 1478 am droseddau a gyflawnwyd ganddo, ‘ond er fod dyddiad a lleoliad y ddogfen hon yn gweddu’n hwylus iawn â’r hyn a wyddys am Domas ap Rhys Guto, eto braidd yn feiddgar fyddai cyplysu’r ddau hyn yn bendant’.
Cwestiwn a gyfyd yw sut, os Sais oedd Abad Tomas o Amwythig, y deallai foliant Guto iddo? Yn achos cywydd Guto i Edward IV (cerdd 29), awgrymir y gall fod y bardd ei hun wedi egluro’r geiriau iddo, a thynnir sylw at y ffaith i Guto dderbyn taliad ddwywaith, yn 1476–7 a 1477–8, am ei wasanaeth fel minstrel dros dywysog Cymru yn Amwythig (cf. hefyd gerddi gan feirdd megis Iolo Goch a Lewys Glyn Cothi i noddwyr a drigai ar y Gororau nad oeddynt yn Gymry a hanai o deuluoedd a noddai farddoniaeth, e.e., GIG XX; GLGC cerdd 123). Yn sicr, gallai Guto fod wedi egluro geiriau’r gerdd dan sylw i’r abad Tomas, ond cofier hefyd, gan fod Amwythig ar y Gororau a’r sir yn llawer Cymreiciach y pryd hwnnw nag ydyw heddiw, y byddai’n syndod pe na bai Saeson yno â gwybodaeth o’r Gymraeg, megis yr oedd Cymry a chanddynt wybodaeth o’r Saesneg. Yn hyn o beth, diddorol yw disgrifiad Guto o’r abad fel Sain Pawl ... dros ein plaid (33 a gw. y nodyn).
Dyddiad
Os yn ystod abadaeth Thomas Ludlow (gw. Abad Tomas o Amwythig) y canwyd hi, yna rhywbryd rhwng 1433 a 1459 y bu hynny, efallai tua 1445. Gallai’r gerdd yn hawdd, o ran ei hysbryd, fod yn perthyn i gyfnod cynnar Guto (ystyrier hefyd y geiriau Gwas yn 2 a Mab ... / Maeth yn 17–18).
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd XXIV; CTC 226–7.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 50% (33 llinell), traws 32% (21 llinell), sain 15% (10 llinell), llusg 3% (2 linell).
2 Esbonnir y rheswm am yr oedi yn 13.
2 neges Nid esbonnir yn y gerdd beth oedd natur hon.
3–4 Tomas … / Ap Rhys Gw. uchod.
5–8 Ar stori brân Noa, gw. Genesis 8.6–7. Cf. hefyd BY 9.7–11 A gwedy eiste y llong ar vynyd Armenia ac ympen y deugeinved dyd yn y seith[uet] dyd ar hugeint o’r seithuet mis yr [anuon]es Noe y vran [yn gennat y geissyaw tir ac nyt ymchwel]awd y vran y’r llong.
8 tewlong Sef arch Noa.
10 brawd Sef abad Amwythig. Dichon mai ‘cyfaill’ neu ‘frawd yn y ffydd’ (mewn ystyr lac) yw’r ystyr. Gw. GPC 311 d.g. brawd1 1 (b).
14 yr arglwydd abad Sef abad Amwythig (18). Dengys y cyfeiriad ato yn 43–4 fel ŵr … / Du mai Benedictiad ydoedd (adwaenid y Benedictiaid hefyd fel y Mynaich Duon), ac enw tŷ Benedictiaid Amwythig oedd abaty Saint Pedr a Paul. Gelwir yr abad yn 62 yn Arglwydd Domas a gw. Abad Tomas o Amwythig.
17–18 Mab … / Maeth Hynny yw, megis mab maeth, gw. hefyd uchod.
17–22 Ar sail y berfau yn yr amser amherffaith, ymddengys fod Guto wedi ymweld â’r abad o’r blaen.
20 Ysbaen neu rasbi Ystyr rasbi yn ôl GPC 2975 yw ‘math o win (?coch melys)’. Digwydd yn aml gydag Ysbaen yn y farddoniaeth.
21–2 Gwahaniaetha Guto rhwng godidowgrwydd bwydydd yr abad a’r urddas a deimlai o eistedd wrth yr un bwrdd ag ef i’w bwyta. Collir hyn yn atalnodiad GGl A’i fwydau (fy nef ydoedd) / O fwrdd y sant, f’urddas oedd.
24–30 Cymharer yr hyn a ddywed Williams (1976: 377) am y llinellau hyn, ‘It is never safe to take the poetic effusions too literally; but this reference to expenditure on the upkeep of the household, the provision of charity, and the maintenance of conventual worship, learning, and buildings, does in fact just about cover the main channels of monastic expenditure at this time.’ Anghywir, fodd bynnag, yw Williams yn disgrifio gwrthrych cerdd Guto fel Siôn Mathau, a hynny fel prior y fynachlog; ar Siôn Mathau, gw. 47–8n.
27 Yn Williams 1976: 380–1 dywedir am y llinell hon, ‘Guto’r Glyn was discreetly silent as to what proportion of the prior’s [sic, gw. 24–30n] income was devoted to that purpose. The average house at that time spent about 3 per cent of its income on compulsory charity. Whether that was true of Welsh houses the haphazard sketchiness of the Valor returns makes it impossible to determine.’
28 trydydd Dyma ddarlleniad yr holl lawysgrifau. Gan ei fod yn cyfeirio at yr enw benywaidd rhan yn 24, disgwylid y ffurf fenywaidd trydedd (wedi ei threiglo’n drydedd) ac nid y ffurf wrywaidd, yr un modd ag y ceir threuliaw yn 26. Ymddengys hyn yn enghraifft o dreisio cywirdeb gramadegol er mwyn y gynghanedd. A oedd tuedd weithiau i feddwl am drefnolion, pan wahenid hwy oddi wrth yr enwau a oleddfent, yn enwau gwrywaidd?
30 Dysgu’r mydr, dasg ramadeg Cyfeiriad at yr abad yn addysgu preswylwyr y fynachlog. Ceir y trawiad mydr … gramadeg sawl gwaith gan Guto: 18.43–50 Mae pwys hwn ym mhob synnwyr / A phob dilechdyd, Raff ŵyr, / Cyfraith a phedeiriaith deg, / Awgrym, mydr a gramadeg, / Cerddor gyda’r cywirddant, / Doeth yw ’ngherdd dafod a thant / A mwya’ ystronomïwr: / Ym mhob rhyw gamp mae praw gŵr; 102.23–6 Ysgol rad, ddisglair ydyw, / A thref i’r pregethwyr yw, / A gwŷr mydr a gramadeg / Yn teimlo Duw mewn teml deg (am Groesoswallt). Cf. hefyd GIRh 3.15–16 Dysgais yn brifdda drahydr, / Dysg deg, ramadeg a’i mydr a gw. y nodyn yno. Tebyg mai gramadeg fel un o bynciau’r trivium canoloesol a olyga Ieuan, a’r farddoniaeth a ddyfynnid wrth ei astudio wrth mydr, ond gall fod yr ymadrodd wedi cylchredeg yn ehangach hefyd gan gynnwys gramadeg a mydryddiaeth mewn ieithoedd brodorol megis y Gymraeg. Tebyg mai gramadeg a mydryddiaeth Ladin a ddysgai’r Abad Tomas yn y fynachlog.
31 Sant Grigor fu’r doctor da Y tebyg yw mai cyfeiriad sydd yma at y ddoethuriaeth mewn diwinyddiaeth a enillodd yr abad yn Rhydychen yn 1433 (gw. Abad Tomas o Amwythig), ac fe’i cyffelybir o ran ei ddysg i Gregor Fawr (c.540–604), y pedwerydd a’r olaf o Dadau’r Eglwys Orllewinol, gw. ODCC3 710–11.
31–6 Yn y llinellau hyn cyffelyba Guto’r abad i saith o ddynion duwiol, chwech ohonynt yn saint. Mae’n werth nodi y ceir bucheddau o bob un o’r saint hyn yn y ‘Legenda Aurea’, gw. Graesse 1890, a dichon fod Guto yn gyfarwydd â hwy mewn rhyw ffurf, cf. 34n, 36n.
32 Sain Tomas Un o’r deuddeg apostol, gw. ODCC3 1624. Efallai mai pwynt y gymhariaeth yma yw geiriau Tomas wedi i Grist, yn dilyn ei atgyfodiad, ddweud wrtho am gyffwrdd â’i glwyfau a pheidio â bod yn anghredadun, ‘Fy Arglwydd a’m Duw’ (Ioan 20.28). Trwy lefaru felly, ef oedd y cyntaf i gyffesu’n agored ddwyfolder Crist; cf. 34n.
32 yma Yn y fynachlog ac o hyn allan. Gwrthgyferbynna â fu’r gorffennol yn y llinell flaenorol.
33 Sain Pawl … dros ein plaid Apostol y Cenhedloedd, gw. ODCC3 1243–6. Ai cyfeiriad at Gymry, naill ai yn y fynachlog neu’r tu allan iddi, neu’r ddau, yw ein plaid? Os felly, byddai’r gymhariaeth â Paul yn briodol iawn os oedd yr abad yn estyn allan at y Cymry yn yr un modd ag yr âi Paul yr Efengyl at bobl heblaw ei bobl ei hun. Gw. hefyd uchod.
34 Sieron y conffesoriaid Cysylltir enw Jerôm (c.342–420) yn bennaf â’i orchest yn cyfieithu’r Beibl i’r Lladin o’r ieithoedd gwreiddiol, gw. ODCC3 872–3, a dichon felly fod Guto yn canmol Syr Bened am ei wybodaeth o’r Ysgrythur. Nid yw ystyr conffesoriaid mor eglur yma. Yn ôl GPC 551, golyga ‘un sy’n proffesu ei ffydd yn gyhoeddus ac yn glynu wrthi yn wyneb erledigaeth’ neu ‘offeiriad sy’n gwrando cyffesu pechodau ac yn gorchymyn penyd am y cyfryw a rhoi gollyngdod’. Dichon mai’r ail ystyr sydd yma, ond ni ddylid diystyru’r ystyr gyntaf ychwaith. Ymosododd Jerôm yn hallt ar sawl heresi, megis Pelagiaeth, Ariaeth ac Origeniaeth, ac yn y ‘Legenda Aurea’ dyfynnir y geiriau hyn o eiddo Severus amdano, Graesse 1890: 658, Hieronymus praeter fidei meritum dotemque virtutum non solum latinis atque graecis, sed etiam hebraeis ita litteris instructus est, ut se illi in omni scientia nemo audeat comparare, cui jugis adversus malos pugna perpetuumque certamen. Oderunt eum haeretici, quia eos impugnare non desiit, oderunt clerici, quia vitam eorum insectatur et crimina, sed plane boni omnes et mirantur et diligunt. Nam qui eum haereticum esse arbitrantur, insaniunt; totus semper in lectione, totus in libris est, non die, non nocte requiescit, aut legit aliquid aut semper scribit ‘Heblaw haeddiant ei ffydd a’i gynhysgaeth o rinweddau, roedd Jerôm mor hyddysg nid yn unig mewn llên Ladin ond hefyd mewn llên Roeg a Hebraeg fel nad yw neb yn beiddio ei gymharu ei hun ag ef mewn unrhyw gangen o wybodaeth. Yn erbyn y drygionus roedd ei frwydr yn ddi-baid a’i ymdrech yn wastadol. Mae hereticiaid yn ei gasáu gan nad yw ef yn peidio ag ymosod arnynt, mae clerigwyr yn ei gasáu am ei fod yn ceryddu eu buchedd a’u troseddau, ond mae pobl dda i gyd yn ei edmygu a’i garu o lwyrfryd calon. Oherwydd mae’r rheini sy’n ei ystyried yn heretig yn gwallgofi; ymrydd yn gyfan gwbl i ddarllen bob amser, yn gyfan gwbl i’w lyfrau, nid yw’n gorffwys na dydd na nos, mae naill ai’n darllen rhywbeth neu bob amser yn ysgrifennu.’ Diau bod hyn yn fath o gyffesu; ar gyffesu’r Efengyl, cf. 32n Sain Tomas. Os felly, cyffelyba Guto Syr Bened i Jerôm nid yn unig am ei ddysg Feiblaidd ond hefyd am ei ddatganiad o’i ffydd.
36 Selyf, Awstin, Silfester Roedd Selyf (Solomon), mab Dafydd Broffwyd, yn enwog am ei ddoethineb, gw. TYP3 497. Sant Awstin o Hippo (354–430) oedd y mwyaf o’r Tadau Eglwysig. Roedd ei ddylanwad ar ddiwinyddiaeth hyd at yr Oesoedd Canol yn enfawr ac arddull ei ryddiaith yn firain, gw. ODCC3 129–32. Roedd Silfester yn esgob Rhufain o 314 hyd 335 ar adeg bwysig iawn yn hanes yr Eglwys ond ychydig iawn a wyddys amdano mewn gwirionedd, ac yn ddiweddarach ceir chwedlau amdano megis honno a honnai iddo fedyddio’r Ymherodr Custennin, gw. ODCC3 1576–7. Adroddir ei fuchedd gan Jacobus de Voragine a’i disgrifiodd fel aspectu angelicus, sermone nitidus, integer corpore, sanctus opere, consilio magnus, fide catholicus, spe patientissimus, caritate diffusus ‘yn angylaidd ei olwg, yn goeth ei air, yn lluniaidd ei gorff, yn sanctaidd ei weithredoedd, yn ddoeth ei gyngor, yn Gatholig ei ffydd, yn hirymarhous ei obaith, yn ddibrin ei gariad’, Graesse 1890: 70–1. Mewn dadl rhyngddo a deuddeg o brif ddysgedigion yr Iddewon a gynhelir gerbron yr Ymherawdwr Custennin Fawr ynghylch rhagoriaeth Cristnogaeth ar Iddewiaeth, dengys allu mawr yn trechu ei wrthwynebwyr â’i air ac â’i ddoethineb. Os gwyddai Guto am y fuchedd hon – ac yr oedd y ‘Legenda Aurea’ yn dra phoblogaidd trwy’r Oesoedd Canol diweddar – byddai’r geiriau Synhwyrau, parablau pêr yn ddisgrifiad priodol iawn ohono.
43–4 gŵr … / Du Sef Benedictiad oherwydd lliw’r wisg, gw. hefyd 14n.
45 Llanarmon-yn-Iâl Prif eglwys Iâl, gw. WATU 102. Roedd hi wedi ei sefydlu ar safle hen glas.
46 diofal Am fod Siôn Mathau wedi gadael ei swydd i ymweld â’r abad, gw. y cwpled nesaf.
47–8 Syr Siôn … / Mathau Yn ôl Lloyd 1939–41: 127, ‘Ni cheir yr enw yma yn rhestr abadau’r Amwythig, a haws gennyf gredu mai gŵr ar drwydded ydoedd Siôn yn yr abaty, fel Guto ei hun’; dilynwyd Lloyd gan Ifor Williams, GGl 326. Nid oes sôn amdano ychwaith yn Jones 1965 nac yn Thomas 1908–13: ii, 83. Fe’i trafodir yn CTC 506 ond heb gyrraedd casgliad pendant. Sylwyd yn WG1 ‘Gwaithfoed’ 5 ar John Mathew, a anwyd tua 1400, mab Syr Dafydd Mathau o Landaf, ond nid yw’n debygol y byddai rhywun mor bell i ffwrdd yn dal personiaeth Llanarmon-yn-Iâl. Sylwyd hefyd, yn WG1 ‘Llywelyn Fraisg’ a WG2 ‘Llywelyn Fraisg’ (A), ar John Mathews fab Mathew ab Ieuan ap Maredudd a anwyd tua 1430 ac a oedd â chysylltiadau â Llanyblodwel, swydd Amwythig. Mae ei leoliad yn fwy addawol a gellid addasu dyddiadau Bartrum er mwyn ei gael o fewn cyfnod canu’r gerdd.
50–62 Byrdwn y llinellau yw bod Guto yn dymuno (yn ei ddychymyg ac â’i dafod yn ei foch) mynd yn glerigwr digon uchel ei statws i gael cydwledda â’r abad. Sylwer, er hynny, nad mynach (a berthynai i’r glerigaeth reolaidd) y mae’n bwriadu bod ond aelod o’r glerigaeth secwlar, fel y dengys y geiriau prebant (52), periglawr (56), offeiriad (58). Tebyg mai haws fyddai iddo gyrraedd y nod felly na thrwy fod yn fynach! Ymhellach – ac yn ddiddorol – ymresyma, mewn dull esgynnol a chynnil, os yw’n gymwys i fod yn beriglawr blawr heb lên, ei fod yn gymwys, ar gyfrif ei awen, i fod yn offeiriad, ac os yn offeiriad, yn brelad ar gyfrif ei wyneb padrïarch / A chorun mwy no charn march (59–60).
51 corun ODCC3 1643 d.g. tonsure, ‘The shaving of all or part of the head, traditionally a distinctive feature of monks and clerics in the RC Church’. Sylwer nad peth a gysylltid â mynaich yn unig ydoedd yn y cyfnod.
52 prebant GPC 2870 d.g. prebend, ‘cyflog a delir gan eglwys gadeiriol neu eglwys golegol i ganon neu aelod o’r cabidwl; tir, degwm, &c., sy’n ffynhonnell i’r gyflog honno; (swydd) prebendari’.
56 periglawr GPC 2774, ‘Offeiriad (plwyf), cyffeswr, person, rheithor, ficer, curad, clerigwr (sy’n dal bywoliaeth); clerc (llys)’. Awgryma’r cyd-destun fath distadl neu dlawd o offeiriad.
56 blawr Efallai mai meddwl am fath cyffredin o beriglor a nodweddid gan wallt llwyd y mae Guto.
57 o chriba’ fy iad Ymddengys nad oedd y math o offeiriad (58) a oedd gan Guto mewn golwg yn eillio’i ben.
59 Cywesgir Mae i er mwyn hyd y llinell.
64 Eutun Yn ôl GGl 327, ‘trefgordd ym mhlwy Bangor, ger Wrecsam’; gw. WATU 68. Ond golygai hynny y byddai’n rhaid i Guto droi yn ei ôl gryn bellter i’r gogledd ar ei ffordd i Amwythig. Tybed, felly, ai Eyton on Severn, i’r dwyrain o Amwythig, a olygir? Rhyngddo a’r abaty yn Amwythig yr oedd afon Hafren yn ogystal â ffordd yn ddolen gyswllt; cf. CTC 507.
65 trefi’r llyn Geiriau amwys, oherwydd gall tref olygu ‘cartref, annedd’ yn ogystal â Saesneg ‘town’, a llyn ‘ddiod’ yn ogystal â ‘lake’. Fodd bynnag, dichon fod awgrym yn y cyfeiriad at y Fforied yn llinell nesaf y cwpled mai yno yr oeddynt. Os felly, tebyg mai ‘cartrefi, anheddau’ yw ystyr trefi yma, ac os ‘diod’ yw ystyr llyn, gellir cynnig mai ‘tafarndai’ (a fyddai wrth fodd crwydryn cwmnigar fel Guto ar ei deithiau) yw trefi’r llyn. Ond cofier bod abaty Amwythig yn sefyll ar lan afon Hafren, ac yn ôl map ohono fel y gallai fod wedi edrych tua 1400, ceid pysgodfa sylweddol y tu cefn iddo (Ross 1993: 20). A yw’n bosibl mai cyfeiriad at lyn pysgod wrth ochrau’r fynachlog sydd yma? Ymddengys y posibilrwydd hwn yn llai tebygol, er hynny.
66 Mynega Guto y cysêt yr hoffai fod yn ddeiliad darn o dir y fynachlog.
66 fferm Sylwer nad yr ystyr fodern sydd iddo yma ond un dechnegol. Ar ystyron y Saesneg ferm(e) y benthyciwyd y Gymraeg ohono (GPC 1284), gw. yn enwedig MED d.g. ferme, 1 (a), ‘The arrangements by which one has the use of land (or has the privilege of collecting revenues) in return for fixed payments; a lease; a stewardship.’
66 Fforied Cyfeirir, mewn dull talfyredig, at yr ardal yn Amwythig lle safai’r fynachlog, sef Abbey Foregate. Cf. nodyn a geir yn Pen 99 ar bwys y gerdd (yn llaw William Maurice, yn ôl GGl 327), tudalen 209, ar gyfer y llinell hon: ‘Abbie = Forehead in Salop wrth Bont y Saison’. Ystyr y term abbey foregate (yr enwyd yr ardal ar ei ôl) yw’r ardal ger prif fynedfa mynachlog lle deuai eraill i fyw gan godi tai yno. Ar y Saesneg foregate / foryate y benthyciwyd Fforied ohono, gw. MED d.g. Amlwg mai o’r ail ffurf y daw Fforied, gw. hefyd GGl 327.
Llyfryddiaeth
Graesse, T. (1890) (ed.), Jacobi a Voragine Legenda Aurea Vulgo Historia Lombardica Dicta (editio tertia, Vratislaviae)
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve, Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541: XI The Welsh Dioceses (London)
Lloyd, J.E. (1939–41), ‘Gwaith Guto’r Glyn’, B x: 126–7
Ross, I. (1993), The Abbey of St Peter and St Paul and Parish Church of The Holy Cross Shrewsbury: A Benedictine Foundation (Much Wenlock)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
The theme of this cywydd is a visit by Guto, on behalf of Tomas ap Rhys, to Abbot Thomas of Shrewsbury. Tomas ap Rhys had asked him to hurry on his errand but Guto was tempted by the delicious feasts and delightful company of the abbot to linger in the abbey for a while. There he also meets Sir Siôn Mathau, parson of Llanarmon-yn-Iâl, who had also been bewitched by the abbot’s hospitality. Guto proceeds to praise the victuals, character, learning and holiness of his host and concludes by expressing his wish to visit him again.
It has not proved possible to establish with any certainty the exact identity of Tomas ap Rhys, but it may be suggested, as he sent Guto to a religious and as Guto refers to the abbot as a brawd (10) of Tomas, that he too was a religious. There was a man of the same name who was abbot of the Cistercian monastery of Hendy-gwyn ar Daf, 1491–?1527, but that is too late. Note also that Guto calls Tomas ap Rhys y mab (4), which could signify that he was a relatively young man.
In CTC 506, Catrin T. Beynon Davies cites a reference to a gentleman called Thomas ap Rys of Oswestry and Baschurch mentioned in the ‘Calendar of Patent Rolls’ who received a general pardon on 6 May 1478 for offences committed but, as she concedes, although the date and location in this document tallies well with what is known of Tomas ap Rhys, it would nonetheless be somewhat rash to equate the two.
The question that arises is how, if Abbot Thomas of Shrewsbury was an Englishman, would he comprehend Guto’s eulogy? In the case of Guto’s cywydd to Edward IV (poem 29), it is suggested that the poet may have explained the words to him, and attention is drawn to the fact that Guto received payment twice, in 1476–7 and 1477–8, for his service as a minstrel for the prince of Wales in Shrewsbury (cf. also poems by poets such as Iolo Goch and Lewys Glyn Cothi to patrons dwelling in the March who were not Welsh, e.g. GIG XX; GLGC poem 123). Guto could certainly have explained the words of the present poem to Abbot Thomas, but it should also be remembered, as Shrewsbury was in the March and the county much more Welsh in character at the time than it is today, that it would be surprising if there were no English there without a knowledge of Welsh, just as there were Welsh with a knowledge of English. In this respect, it is interesting to note Guto’s description of the abbot as Sain Pawl ... dros ein plaid (33 and see the note).
Date
If the poem was sung during the abbacy of Thomas Ludlow (see Abbot Thomas of Shrewsbury), that would have been sometime between 1433 and 1459, perhaps around 1445. The poem could easily, in spirit, be a product of Guto’s early period (consider also the words gwas in line 2 and Mab ... / Maeth in 17–18).
The manuscripts
The poem has been preserved in 17 manuscripts, mostly complete and copied over a period extending from the third quarter of the sixteenth century to the nineteenth century. The verbal variations between the copies are neither great nor numerous, and they exhibit the same basic line sequence with few gaps (but with Pen 221 containing only the opening couplet). The texts probably all trace back to a single written exemplar. With the exception of LlGC 642B, whose origin is presently uncertain, the manuscripts all have links with north and mid Wales with none of southern origin. The texts fall into three main types, none of which offers generally better readings than the others and whose evidence needs to be used in combination. The editorial text is based on LlGC 17114B, LlGC 8497B, Pen 72, C 2.617.
Previous editions
GGl poem XXIV; CTC 226–7.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 50% (33 lines), traws 32% (21 lines), sain 15% (10 lines), llusg 3% (2 lines).
2 The reason for the delay is given in 13.
2 neges The nature of this is not stated in the poem.
3–4 Tomas … / Ap Rhys See above.
5–8 On the story of Noah’s crow, see Genesis 8.6–7. Cf. also BY 9.7–11 A gwedy eiste y llong ar vynyd Armenia ac ympen y deugeinved dyd yn y seith[uet] dyd ar hugeint o’r seithuet mis yr [anuon]es Noe y vran [yn gennat y geissyaw tir ac nyt ymchwel]awd y vran y’r llong (‘And after the ship had settled on the mountain of Armenia, on the fortieth day on the twenty-seventh day of the seventh month Noah sent the crow as a messenger to seek land, and the crow did not return to the ship’).
8 tewlong I.e., Noah’s ark.
10 brawd The abbot of Shrewsbury. The meaning could be ‘friend’ or ‘brother in the faith’ (in a loose sense). See GPC 311 s.v. brawd1 1 (b).
14 yr arglwydd abad I.e., abad Amwythig (18). The reference to him in 43–4 as ŵr … / Du shows that he was a Benedictine (the Benedictines were also known as the Black Monks), and the name of the Benedictine house at Shrewsbury was the abbey of St Peter and St Paul. The abbot is named in 62 as Arglwydd Domas, and see Abbot Thomas of Shrewsbury.
17–18 Mab … / Maeth I.e., like a mab maeth, see also above.
17–22 On the basis of the verbs in the imperfect tense, it would appear that Guto had visited the abbot previously.
20 Ysbaen neu rasbi The meaning of rasbi according to GPC 2975 is ‘raspis, type of (?sweet red) wine’. It occurs frequently with Ysbaen ‘Spain’ in the poetry.
21–2 Guto distinguishes between the magnificence of the abbot’s victuals and the distinction he felt while sitting at the same table as him to consume them. This is lost in the punctuation in GGl A’i fwydau (fy nef ydoedd) / O fwrdd y sant, f’urddas oedd.
24–30 Cf. the comment, Williams 1976: 377, on these lines, ‘It is never safe to take the poetic effusions too literally; but this reference to expenditure on the upkeep of the household, the provision of charity, and the maintenance of conventual worship, learning, and buildings, does in fact just about cover the main channels of monastic expenditure at this time.’ Williams is, however, incorrect in describing the subject of Guto’s poem as Siôn Mathau, and as prior of the monastery; on Siôn Mathau, see 47–8n.
27 In Williams 1976: 380–1, the following is said about this line, ‘Guto’r Glyn was discreetly silent as to what proportion of the prior’s [sic, see 24–30n] income was devoted to that purpose. The average house at that time spent about 3 per cent of its income on compulsory charity. Whether that was true of Welsh houses the haphazard sketchiness of the Valor returns makes it impossible to determine.’
28 trydydd This is the reading of all the manuscripts. As it refers to the feminine noun rhan in 24, one would have expected the feminine form trydedd (lenited to drydedd) and not the masculine form, in the same way as threuliaw occurs in 26. This looks like a case of violating grammatical principle for the sake of cynghanedd. Was there a tendency sometimes to think of ordinals, when separated from the nouns they qualified, as masculine nouns?
30 Dysgu’r mydr, dasg ramadeg An allusion to the abbot educating the inmates of the monastery. The combination mydr … gramadeg occurs several times in Guto’s work: 18.43–50 Mae pwys hwn ym mhob synnwyr / A phob dilechdyd, Raff ŵyr, / Cyfraith a phedeiriaith deg, / Awgrym, mydr a gramadeg, / Cerddor gyda’r cywirddant, / Doeth yw ’ngherdd dafod a thant / A mwya’ ystronomïwr: / Ym mhob rhyw gamp mae praw gŵr ‘This man’s authority lies in every kind of wisdom / and all branches of dialectic, descendant of Ralph, / law and four fair languages, / arithmetic, metrics and grammar, / a musician with the tuning string, / he is wise in poetry and harp music, / and the greatest of astronomers: / in every achievement there is the mark of a man’; 102.23–6 Ysgol rad, ddisglair ydyw, / A thref i’r pregethwyr yw, / A gwŷr mydr a gramadeg / Yn teimlo Duw mewn teml deg ‘It’s a bright, free school, / and it’s a town for the preachers, / and for poets and scholars / who handle God in a fair temple’ (of Oswestry). Cf. also GIRh 3.15–16 Dysgais yn brifdda drahydr, / Dysg deg, ramadeg a’i mydr ‘I learnt most excellently and powerfully, / fair learning, grammar and its verse’, and see the note. Ieuan probably meant grammar as one of the subjects of the medieval trivium, and the poetry quoted while studying it by mydr, but the expression could also have circulated more widely to include grammar and metrics in vernacular languages such as Welsh. Abbot Thomas probably taught Latin grammar and metrics at the monastery.
31 Sant Grigor fu’r doctor da An allusion, probably, to the doctorate in theology that the abbot gained at Oxford in 1433 (see Abbot Thomas of Shrewsbury), and he is likened in his learning to Gregory the Great (c.540–604), the fourth and last of the Fathers of the Western Church, see ODCC3 710–11.
31–6 In these lines Guto compares the abbot to seven godly men, six of them saints. It is worth noting that the lives of each one of these saints appear in the ‘Legenda Aurea’, see Graesse 1890, and Guto may have been acquainted with them in some form, cf. 34n, 36n.
32 Sain Tomas One of the twelve apostles, see ODCC3 1624. Perhaps the point of the comparison is Thomas’s words after Christ, following his resurrection, told him to touch his wounds and not to be an unbeliever, ‘My Lord and my God’ (John 20.28). By speaking thus, he was the first to confess openly Christ’s divinity; cf. 34n.
32 yma In the monastery and henceforth. It contrasts with fu’r of the past in the preceding line.
33 Sain Pawl … dros ein plaid The Apostle of the Gentiles, see ODCC3 1243–6. Is ein plaid a reference to Welsh people, either within the monastery or outside of it? If so, the comparison with Paul would be very appropriate if the abbot reached out to the Welsh in the same way as Paul took the Gospel to people other than his own. See also above.
34 Sieron y conffesoriaid The name of St Jerome (c.342–420) is associated chiefly with the translation of the Bible into Latin from the original languages, see ODCC3 872–3, and Guto may therefore be praising Sir Benet for his knowledge of Scripture. The meaning of conffesoriaid is not so clear here. Conffesor can mean one who professes his faith publicly and clings to it in the face of persecution, or a priest who hears the confession of sins, enjoining penance for them and granting absolution, see GPC 551. The latter sense may be meant here but the former should not be discounted either. Jerome attacked several heresies vehemently, such as Pelagianism, Arianism and Origenism, and in the ‘Legenda Aurea’ the following words of Severus are quoted regarding him, Graesse 1890: 658, Hieronymus praeter fidei meritum dotemque virtutum non solum latinis atque graecis, sed etiam hebraeis ita litteris instructus est, ut se illi in omni scientia nemo audeat comparare, cui jugis adversus malos pugna perpetuumque certamen. Oderunt eum haeretici, quia eos impugnare non desiit, oderunt clerici, quia vitam eorum insectatur et crimina, sed plane boni omnes et mirantur et diligunt. Nam qui eum haereticum esse arbitrantur, insaniunt; totus semper in lectione, totus in libris est, non die, non nocte requiescit, aut legit aliquid aut semper scribit ‘Besides the merit of his faith and his endowment of virtues, Jerome was so versed not only in Latin, but also in Greek and Hebrew, literature that nobody dares to compare himself with him in any branch of knowledge. Against the wicked his fight was unceasing, his struggle relentless. Heretics hate him because he does not cease to attack them, clergy hate him because he berates their lives and crimes, but all good people both admire and love him openly. For those who consider him a heretic are insane; he is always totally absorbed in reading, totally in books, he does not rest day or night, he is always either reading or writing something.’ This is doubtless a kind of confessing; on confessing the Gospel, cf. 32n Sain Tomas. If so, Guto compares Sir Benet to Jerome not only for his biblical learning but also for his statement of his faith.
36 Selyf, Awstin, Silfester Solomon, son of David, was distinguished for his wisdom, see TYP3 497. St Augustine of Hippo (354–430) was the greatest of the Church Fathers. His influence on theology up till the Middle Ages was enormous and his prose style brilliant, ODCC3 129–32. Silvester was bishop of Rome from 314 to 335 at a very important time in the history of the Church but very little is actually known of him, and at a later stage legends about him are found, such as the one claiming that he baptized the Emperor Constantine, see ODCC3 1576–7. His life is related by Jacobus de Voragine who describes him as aspectu angelicus, sermone nitidus, integer corpore, sanctus opere, consilio magnus, fide catholicus, spe patientissimus, caritate diffusus ‘angelic in appearance, refined in word, shapely in body, holy in works, wise in counsel, Catholic in faith, most patient in hope, unstinting in love’, Graesse 1890: 70–1. In a dispute between him and twelve of the chief learned men of the Jews held before the Emperor Constantine concerning the superiority of Christianity over Judaeism, he shows great ability in defeating his opponents with his words and wisdom. If Guto had a knowledge of this life – and the ‘Legenda Aurea’ were very popular throughout the Middle Ages – the words Synhwyrau, parablau pêr would be a very appropriate description of him.
43–4 gŵr … / Du A Benedictine because of the colour of his garment, see also 14n.
45 Llanarmon-yn-Iâl The principal church of Yale, see WATU 102. It had been established on the site of an old clas.
46 diofal Because Siôn Mathau had left his occupation to visit the abbot, see the next couplet.
47–8 Syr Siôn … / Mathau According to Lloyd 1939–41: 127, this name is not found in the register of the abbots of Shrewsbury, therefore Siôn was probably a guest at the abbey, like Guto himself. Lloyd was followed by Ifor Williams, GGl 326. There is no mention of him either in Jones 1965 or in Thomas 1908–13: ii, 83. He is discussed too in CTC 506 but without reaching any definite conclusions. In WG1 ‘Gwaithfoed’ 5 there is mentioned a John Mathew, born around 1400, son of Sir Dafydd Mathau of Llandaf, but it is unlikely that someone so far away would occupy the parsonage of Llanarmon-yn-Iâl. In WG1 ‘Llywelyn Fraisg’ and WG2 ‘Llywelyn Fraisg’ (A), there are also mentioned John Mathews son of Mathew ab Ieuan ap Maredudd, born around 1430, who had links with Llanyblodwel, Shropshire. His locality is more promising and Bartrum’s dates could be adjusted to fit him into the period when the poem was sung.
50–62 The burden of these lines is that Guto wishes (in his imagination and with tongue in cheek) to become a cleric of sufficiently high status to feast with the abbot. It should be noted, though, that he does not intend to be a monk (monks belonged to the regular clergy) but a member of the secular clergy, as indicated by the words prebant (52), periglawr (56), offeiriad (58). It would probably be easier for him to achieve his goal like that, than by becoming a monk! Further – and interestingly – he reasons subtly and progressively, if he is eligible to be a periglawr blawr heb lên ‘a grey cleric without learning’, that he is eligible, on account of his muse, to be a priest, and if a priest, a prelate on account of his wyneb padrïarch / A chorun mwy no charn march ‘the face of a patriarch / and a crown larger than a horse’s hoof’ (59–60).
51 corun ODCC3 1643 s.v. tonsure, ‘The shaving of all or part of the head, traditionally a distinctive feature of monks and clerics in the RC Church.’ Note that it was not something associated only with monks at the time.
52 prebant GPC 2870 s.v. prebend, ‘prebend, stipend; (corps of a) prebend; prebendary, prebendaryship’.
56 periglawr GPC 2774, ‘(parish) priest, confessor, parson, rector, vicar, curate, clergyman, incumbent; clerk (of court)’. The context suggests that he was a lowly or impoverished kind of priest.
56 blawr Perhaps Guto is thinking of a common type of cleric characterized by grey hair.
57 o chriba’ fy iad It appears that the kind of offeiriad (58) whom Guto had in mind did not shave his head.
59 Mae i is elided for the sake of the length of the line.
64 Eutun According to GGl 327, this was a township in the parish of Bangor, by Wrexham; see WATU 68. However, that means that Guto would have to turn back for a considerable distance on his way to Shrewsbury. One wonders, therefore, whether it is Eyton on Severn, to the east of Shrewsbury, that is meant. Between it and the abbey at Shrewsbury was the river Severn as well as a route to serve as a link; cf. CTC 507.
65 trefi’r llyn These words are ambiguous as tref can mean ‘home, dwelling’ as well as ‘town’, and llyn ‘drink’ as well as ‘lake’. However, the reference to Fforied in the next line of the couplet may suggest that that is where they were located. If so, the meaning of trefi is probably ‘homes, dwellings’, and if llyn means ‘drink’, it may be suggested that the expression denotes ‘taverns’ (which would appeal to a sociable wanderer like Guto on his travels). On the other hand, it should be remembered that Shrewsbury abbey stands on the banks of the river Severn, and according to a map of it as it might have looked around 1400, there was a substantial fish-pond behind it (Ross 1993: 20). Could llyn therefore be an allusion to the greater than usual area of water along the sides of the monastery? This possibility nonetheless appears less likely.
66 Guto expresses the conceit that he would like to be tenant of a piece of the monastery land.
66 fferm Note that it does not have the modern sense here but a technical one. On the meanings of English ferm(e) from which the Welsh was borrowed (GPC 1284), see in particular MED s.v. ferme, 1 (a), ‘the arrangements by which one has the use of land (or has the privilege of collecting revenues) in return for fixed payments; a lease; a stewardship.’
66 Fforied A reference, in curtailed fashion, to the location of the monastery in Shrewsbury, namely the Abbey Foregate. Cf. a note by the Pen 99 copy of the poem (in the hand of William Maurice, according to GGl 327), page 209, with reference to this line: ‘Abbie = Forehead in Salop wrth Bont y Saison’, and also ‘Shrewsbury. The meaning of the term abbey foregate (after which the area was named) is the area by the main entrance of the monastery where others came to live, building houses there. On English foregate / foryate from which Fforied was borrowed, see MED s.v. Fforied clearly comes from the second form, see also GGl 327.
Bibliography
Graesse, T. (1890) (ed.), Jacobi a Voragine Legenda Aurea Vulgo Historia Lombardica Dicta (editio tertia, Vratislaviae)
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve, Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541: XI The Welsh Dioceses (London)
Lloyd, J.E. (1939–41), ‘Gwaith Guto’r Glyn’, B x: 126–7
Ross, I. (1993), The Abbey of St Peter and St Paul and Parish Church of The Holy Cross Shrewsbury: A Benedictine Foundation (Much Wenlock)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 77) i’r Abad Tomas, sef yr unig un gerdd a ddiogelwyd iddo yn y llawysgrifau.
Ei abadaeth
Roedd Tomas yn perthyn i’r Benedictiad, oherwydd i’r urdd honno y perthynai unig abaty Amwythig yn y cyfnod, sef abaty Saint Pedr a Paul. Cyfeiriodd Guto at Domas fel [g]ŵr … / Du (77.43–4) ac fel Mynaich Duon yr adwaenid y Benedictiaid (ar yr abaty, gw. CTC 505).
Yn y bymthegfed ganrif roedd tri gŵr o’r enw Tomas yn bennaeth ar abaty Amwythig: i. Thomas Prestbury alias Shrewsbury a etholwyd yn 1399 ac a fu farw yn 1426; ii. Thomas Ludlow a etholwyd yn 1433 ac a fu farw yn 1459; a iii. Thomas Mynde a etholwyd yn 1460 ac a fu farw yn 1498 (Gaydon 1973: 37). Yn ôl Lloyd (1939–41: 127), Thomas Mynde a roddodd nawdd i Guto (eithr ni sonia am y lleill) ac fe’i dilynwyd gan Ifor Williams yn GGl 326 ac yn CTC 505–6. Fodd bynnag, yn ôl Emden (1957–9: 1172), cafodd Thomas Ludlow radd Doethur mewn Diwinyddiaeth ar 27 Awst 1433 yn Rhydychen, a chyfeiria Guto at ei noddwr fel doctor da (77.31). Mae’n fwy tebygol, felly, mai hwn oedd noddwr Guto, a mwy cydnaws â’i flynyddoedd ef fel abad nag ag eiddo Thomas Mynde yw ysbryd y gerdd, a allai’n hawdd fod yn perthyn i gyfnod cynnar Guto.
Llyfryddiaeth
Emden, A.B. (1957–9), A Biographical Register of the University of Oxford (3 vols., Oxford)
Gaydon, A.T. (1973) (ed.), A History of Shropshire, vol. ii (Oxford)
Lloyd, J.E. (1939–41), ‘Gwaith Guto’r Glyn’, B x: 126–7