Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Tudur Aled ap Rhobert o Iâl, fl. c.1465–1525

Ceir yma nodyn noddwr i’r bardd Tudur Aled gan mai felly y caiff ei drin mewn gosteg o englynion a ganwyd yn sgil rhodd o ddagr a roes i Hywel Grythor (cerdd 121). Fel y gwelir yn y goeden achau isod, roedd Tudur yn perthyn i linach uchelwrol ddigon urddasol. Mae’n annhebygol mai Guto a ganodd y gerdd, ond mae’n werth nodi y gall fod y ddau fardd wedi cyfarfod yn abaty Glyn-y-groes c.1490 pan oedd y naill yn hen iawn a’r llall yn ifanc (Fychan 1983: 59). Ceir cyswllt llawysgrifol rhyngddynt yn achos cerddi 123 ac 124. Ymhellach ar Dudur, gw. DNB Online s.n. Tudur Aled; TA; CLC2 732–3; Fychan 1983.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 3, ‘Hedd’ 3, 5, ‘Rhys ap Tewdwr’ 1, 4, ‘Tudur Trefor’ 47; WG2 ‘Hedd’ 5F. Ymhellach, gw. Fychan 1983: 69–70. Nodir y rheini a enwir yng ngherdd 121 mewn print trwm.

stema
Achres Tudur Aled ap Rhobert o Iâl

Llyfryddiaeth
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74