Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Yr Abad Tomas o Amwythig, fl. c.1433–m. 1459

Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 77) i’r Abad Tomas, sef yr unig un gerdd a ddiogelwyd iddo yn y llawysgrifau.

Ei abadaeth
Roedd Tomas yn perthyn i’r Benedictiad, oherwydd i’r urdd honno y perthynai unig abaty Amwythig yn y cyfnod, sef abaty Saint Pedr a Paul. Cyfeiriodd Guto at Domas fel [g]ŵr … / Du (77.43–4) ac fel Mynaich Duon yr adwaenid y Benedictiaid (ar yr abaty, gw. CTC 505).

Yn y bymthegfed ganrif roedd tri gŵr o’r enw Tomas yn bennaeth ar abaty Amwythig: i. Thomas Prestbury alias Shrewsbury a etholwyd yn 1399 ac a fu farw yn 1426; ii. Thomas Ludlow a etholwyd yn 1433 ac a fu farw yn 1459; a iii. Thomas Mynde a etholwyd yn 1460 ac a fu farw yn 1498 (Gaydon 1973: 37). Yn ôl Lloyd (1939–41: 127), Thomas Mynde a roddodd nawdd i Guto (eithr ni sonia am y lleill) ac fe’i dilynwyd gan Ifor Williams yn GGl 326 ac yn CTC 505–6. Fodd bynnag, yn ôl Emden (1957–9: 1172), cafodd Thomas Ludlow radd Doethur mewn Diwinyddiaeth ar 27 Awst 1433 yn Rhydychen, a chyfeiria Guto at ei noddwr fel doctor da (77.31). Mae’n fwy tebygol, felly, mai hwn oedd noddwr Guto, a mwy cydnaws â’i flynyddoedd ef fel abad nag ag eiddo Thomas Mynde yw ysbryd y gerdd, a allai’n hawdd fod yn perthyn i gyfnod cynnar Guto.

Llyfryddiaeth
Emden, A.B. (1957–9), A Biographical Register of the University of Oxford (3 vols., Oxford)
Gaydon, A.T. (1973) (ed.), A History of Shropshire, vol. ii (Oxford)
Lloyd, J.E. (1939–41), ‘Gwaith Guto’r Glyn’, B x: 126–7