Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Dafydd ab Ieuan, fl. c.1450

Dafydd ab Ieuan oedd noddwr cerdd 69, lle ymbil Guto ar y Grog yng Nghaer am iachâd ar ran ei noddwr. Nid yw’n eglur pwy yw’r Dafydd hwn. Fe’i enwir gan Guto fel Dafydd … Fab Ieuan … fab Llywelyn (69.13–16), ond nid enwir ei fro. Rhestrir tri gŵr o’r enw hwnnw yn WG1:

  • Dafydd ab Ieuan ap Llywelyn o linach Aleth ym Maldwyn, gŵr a anwyd c.1400 yn ôl dull Bartrum o rifo’r cenedlaethau (WG1 ‘Aleth’ 8);
  • Dafydd ab Ieuan Goch ap Llywelyn o linach Elystan Glodrydd ym Maesyfed, gŵr arall a anwyd c.1400 (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 22);
  • Dafydd ab Ieuan Gwyn ap Llywelyn Welw o linach Einion ap Llywarch yn Sir Gâr, gŵr a anwyd c.1370 (WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 13).

Mae enw’r Dafydd cyntaf yn cyd-daro’n agosach na’r lleill â’r hyn a geir yng nghywydd Guto. At hynny, fe’i lleolir ym Maldwyn ac felly’n nes at Gaer na Maesyfed neu sir Gaerfyrddin. Gall fod yn arwyddocaol fod y saint a enwir yn y gerdd, sef Melangell, Dwynwen a Chynhafal, yn gysylltiedig â’r Gogledd a’r Canolbarth (69.45n, 46n, 51n). Mae’n bosibl, felly, mai’r Dafydd hwnnw oedd noddwr Guto ond, yn anffodus, ni cheir sicrwydd. Nodir mwy nac un Dafydd arall posibl yn WG2. O ran ei ddyddiadau, ni ellir ond awgrymu ei fod yn fyw c.1450.