Noddwr cerddi 12 a 13 oedd Dafydd ap Tomas. Canodd Lewys Glyn Cothi gerddi i’w wraig, Gwenllïan, ac i’w fab, Rhys (GLGC cerddi 41–4). At hynny, canodd Syr Phylib Emlyn gywydd i ofyn march gwyn gan Rys ap Dafydd (GSPhE cerdd 2).
Achres
Roedd Dafydd yn un o ddisgynyddion Rhydderch ap Tewdwr Mawr o deulu brenhinol Deheubarth. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Rhydderch ap Tewdwr’ 3; WG2 ‘Rhydderch ap Tewdwr’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Ddafydd mewn print trwm.
Achres Dafydd ap Tomas o Flaen-tren
Ei yrfa
Daliodd Dafydd swydd bedel cwmwd Mabelfyw am bum mlynedd ar hugain rhwng 1436 a 1461, fel ei dad a’i daid o’i flaen, a bu’n ddirprwy fforestwr Glyncothi a Phennant yn 1456–8 (Griffiths 1972: 360–1, 399). Ei gartref oedd Blaen-tren ym mhlwyf Llanybydder. Dyna’r enw a roddir yng nghywydd Guto iddo (cerdd 13) a hefyd yn y cerddi a ganodd Lewys Glyn Cothi i’w wraig Gwenllïan a’u mab Rhys (gw. uchod). Yn awdl Guto sonnir am Rhiw Tren (12.25) mewn cyd-destun sy’n awgrymu mai enw arall ydyw ar gartref Dafydd. Nodir yr enw Coed-tren hefyd yn achresi Bartrum (WG1). Mae’n debygol fod y llys ar yr un safle â Glantren-fawr heddiw (Jones 1987: 11–12). Afon fechan yw Tren sy’n llifo i afon Dyar ger Llanybydder, ac mae honno yn ei thro’n llifo i afon Teifi.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
Jones, F. (1987), Historic Carmarthenshire Homes and their Families (Carmarthen)