Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris, fl. ail hanner y bymthegfed ganrif

Nid oes cerdd wedi goroesi gan Guto’r Glyn i Ddafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ger Llandegla yn Iâl, ond wrth ganu i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes yn negawd olaf ei yrfa, dywed wrthym fod Dafydd yn un o’i brif noddwyr ar y pryd. Yn ei gywydd yn gofyn am ychen ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor, gofynna Guto am ddau ych yr un gan bedwar noddwr, sef yr Abad Dafydd, Siôn Edward o Blasnewydd, Siôn Trefor o Bentrecynfrig a Dafydd Llwyd: Dafydd, lliw dydd, Llwyd o Iâl / Dewrder a chlod ei ardal, / Haelaf a gwychaf o’r gwŷr / Ond y tad, oen Duw, Tudur (108.33–6; a’r llinell olaf yn awgrymu o bosibl fod tad Tudur ar dir y byw). Mewn cywydd arall, enwa Guto’r un pedwar noddwr eto, gan gyfeirio’n arbennig at y croeso cynnes a gâi yn llys Dafydd Llwyd: Llys Dafydd, dedwydd yw’r daith, / Llwyd o Iâl, lle da eilwaith (117.59–60).

Cadwyd y cerddi canlynol gan feirdd eraill i Ddafydd Llwyd:

  • cywydd moliant gan Gutun Owain (GO cerdd XL)
  • cywyddau marwnad gan Gutun Owain (ibid. cerdd XLI) a Thudur Aled (TA cerdd LXXIV).

Cadwyd cerddi gan feirdd eraill, fodd bynnag, i ddau o feibion Dafydd Llwyd, Tudur Llwyd a Siôn Llwyd. Dyrchafwyd Siôn yn abad Glyn-y-groes yn dilyn marwolaeth yr Abad Dafydd ab Ieuan yn 1503. Canodd tri bardd farwnad i Dudur Llwyd a fu farw, yn ôl pob tebyg, oherwydd gwenwyn yn y gwaed ar ôl cael fflaw yn ei fys (GLM LXVIII.11–12):

  • Siôn ap Hywel (GSH cerdd 8)
  • Tudur Aled (TA cerdd LXXIX)
  • Lewys Môn (GLM cerdd LXVIII).

Cadwyd pedair cerdd i Siôn Llwyd, yr abad:

  • awdl foliant gan Dudur Aled (TA cerdd I; CTC 161)
  • cywydd moliant gan Dudur Aled (ibid. cerdd XXVIII; CTC 167)
  • cywydd ‘I ofyn crythor ac ofni ei gael’ gan un ai Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan neu Siôn Phylib (CTC 158)
  • cywydd moliant gan Lewys Môn (GLM cerdd LXVII; CTC 165).

Achres
Seilir yr achres ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Sandde Hardd’ 10; WG2 ‘Sandde Hardd’ 10A; GO 223. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Llinach Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris

Priododd Dafydd Llwyd â Mallt, aeres Gronw ab Ieuan ap Dafydd Llwyd o Hafod-y-bwch a Bers, yn 1468–9; disgynnai hi o deulu’r Hendwr (GO 223, 225 a Pen 287, 349). Priododd eu mab, Tudur Llwyd, â Chatrin ferch Siôn Edward o Blasnewydd yn y Waun, un o’r pedwar noddwr y cyfeiriodd Guto atynt mewn cerddi ar ddiwedd ei oes, fel y gwelwyd uchod.