Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Dafydd Mathau o Landaf, fl. c.1424–58

Dyma wrthrych cerdd 17, lle rhoddir yr wybodaeth a ganlyn: i. ei enw yw Dafydd Mathau; ii. fe’i cysylltir â Chaerdydd a Morgannwg, ac yn benodol â Llandaf; iii. mae ei wallt yn ddu; iv. mae’n briod â gwraig o’r enw Gwenllïan; v. mae’n fab, fe ymddengys, i Fathau ab Ieuan, sydd wedi marw; vi. rhannwyd eiddo ei dad rhwng tri o wŷr, sef Dafydd ei hun a’i ddau frawd, yn ôl pob tebyg; vii. mae ganddo bedwar mab.

Achres
Ceir ach Dafydd Mathau yn WG1 ‘Gwaithfoed’ 4 a 5, ac eiddo ei wraig yn ‘Godwin’ 4. Dyma fersiwn cryno (dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto mewn print trwm, a thanlinellir enw’r noddwr):

stema
Achres Dafydd Mathau o Landaf

Roedd yn wir ddau frawd ganddo, sef Robert a Lewis, sy’n gyson â’r hyn a ddywed Guto. Marwnadwyd Lewis Mathau gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 10).

Ei ddyddiadau
Rhydd WG1 y dyddiadau 1425–94 ar gyfer Dafydd Mathau, heb nodi ffynhonnell. Yn GGl2 346 dywedir iddo farw yn 1504. Mae hyn yn anghywir: dyddiad marw ei ŵyr, Dafydd Mathau ap Tomas Mathau ap Dafydd Mathau, oedd 1504. Erys ewyllys y Dafydd Mathau hwnnw ar glawr, wedi ei dyddio i’r flwyddyn honno (GIF 118; Matthews 1898–1911, iii: 102); claddwyd ef yn Llundain. Dychwelwn, felly, at Ddafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan. Nodir ei farw yn 1484 yn ByCy 582, ond yn 1461 y bu farw yn ôl Butler 1971: 410. Ni nodir ffynhonnell y dyddiadau hyn.

Ceir cofnodion am Ddafydd Mathau ar gyfer y blynyddoedd 1424–48. Yn 1424 bu’n dyst i freinlen a roddwyd gan Richard Beauchamp, iarll Warwick, yng Nghaerdydd. Yn 1427 enwir ef yn ddeiliad tir yng Nghoety. Yn 1431 bu’n dyst, ynghyd â’i ddau frawd, i drosglwyddiad tir yn yr As Fach, a bu’r tri wrthi’n tystio i brydles tir i’r un dyn, Hywel Carn, yn yr un lle yn 1432. Enwir Dafydd eto yn ddeiliad tir rhydd yn 1437. Yn 1440 tystiodd i adferiad tir yn arglwyddiaeth Ogwr i Abaty Margam. Yn 1448 tystiodd, gyda’i frawd Lewis Mathau a mab ei frawd arall, Tomas ap Robert Mathau, i brydles tir yn yr As Fach. Am y cyfeiriadau hyn, gw. GHS 163; Clark 1893–1910, iv: 1513–19, 1528–30, 1545, 1551; Butler 1971: 637, nodyn 162; Clark 1893–1910, iv: 1561, 1608.

Mewn cwest ar eiddo Syr Siors Mathau, a gynhaliwyd yn 1559, rhoddir manylion am hanes cynnar y teulu a’u tiroedd. Nodir bod maenor Corntown wedi ei rhoi i Ddafydd Mathau a’i wraig Gwenllïan yn 1435, a’i bod i fynd i’w mab Tomas ar ôl iddynt farw, neu i fab arall, Siôn, pe digwyddai i Domas farw heb etifedd erbyn hynny (Matthews 1898–1911, iii: 82–6). Yn fwy diddorol, sonnir hefyd am weithred o’r flwyddyn 1458 a drosglwyddodd faenorau Llanbedr-y-fro a Glaspwll i John Neville (mab Richard Neville, iarll Warwick) ac i Ddafydd Mathau a’i fab Tomas, y ddau’n farchogion, i ddisgyn i linach Reynborn Mathau, mab arall i Ddafydd Mathau, pe diffygiai llinach Tomas. Roedd Dafydd yn fyw o hyd yn 1458, felly. Fodd bynnag, ni fu Tomas yn farchog: ysgwïer ydoedd o hyd adeg ei farwolaeth (Matthews 1898–1911, iii: 102). Ynglŷn â’r honiad fod Dafydd Mathau ei hun yn farchog, y cwbl y gellir ei ddweud yw nad oedd ef yn farchog pan ganodd Guto’r Glyn ei gywydd iddo. Cwbl anghredadwy fyddai i fardd mawl Cymraeg ganmol gŵr a urddwyd heb grybwyll y ffaith.

Bu farw Tomas a Reynborn, meibion Dafydd Mathau, yn fuan ar ôl ei gilydd yn 1470. Trigai’r ddau ym Mryste erbyn hynny, fe ymddengys, ac fe’u claddwyd yn eglwys Sant Marc, neu Ysbyty Gaunt, yn y ddinas honno. Yn ewyllys Reynborn sonnir am diroedd yng Nghoety a Glynogwr a etifeddasai oddi wrth ei dad. Sonnir hefyd am siantri a sefydlwyd yn eglwys gadeiriol Llandaf yn ôl ewyllys olaf Dafydd Mathau (Matthews 1898–1911, iii: 102). Dyna brawf sicr fod Dafydd Mathau wedi marw, felly, cyn 1470. Ceir manylion am siantri Dafydd Mathau mewn arolwg a wnaed yn 1546, pan oedd yn cael ei chynnal o hyd (Jones 1934: 148–9; diolchaf i Dr Katharine Olson am y cyfeiriad).

Ei feddrod
Ceir traddodiad fod beddrod Dafydd Mathau i’w weld o hyd yn eglwys gadeiriol Llandaf. Y cerflun yn unig a erys heddiw, wedi ei osod ar sylfaen ddiaddurn (Bardo and Gray 2007: 16, DWH i: 240).

stema
Corffddelw dybiedig Dafydd Mathau yn eglwys gadeiriol Llandaf. Llun: Barry J. Lewis.

Collwyd gweddill y beddrod a ddisgrifir yn arolwg Browne Willis o’r eglwys yn 1719. Nid ymddengys fod arysgrif arno hyd yn oed adeg honno:

This is said to be the Monument of David Matthew the Great, who was Standard-Bearer to Edward IV, and was murther’d at Neath ... by some of the Turberviles, with whom he was at Variance (Willis 1719: 25).

Nododd Richard Symonds y beddrod yn 1645 a’i briodoli i ‘great David Mathew, standard bearer to K.’, ond ni roddir enw’r brenin (Lang 1859: 213). Er nad oes arysgrif i gadarnhau mai delw Dafydd Mathau yw hon, mae’n amlwg fod aelodau o’r teulu wedi cael eu claddu yn y gadeirlan. Saif beddrod Syr Wiliam Mathau, brawd Dafydd Mathau II, a beddrod Christopher Mathau (ap Reynborn ap Dafydd Mathau) gerllaw’r gorffddelw hon, ac mae arysgrifau arnynt sy’n cadarnhau pwy sydd yn y beddau. Am y manylion lliwgar a rydd Browne Willis, rhaid bod â meddwl agored, gan nad oes tystiolaeth arall amdanynt.

Ei nawdd i farddoniaeth
Nid oes cerddi eraill i Ddafydd Mathau wedi goroesi. Ceir cywydd mawl i ryw Ddafydd Mathau gan y bardd Llawdden, sy’n agor fel a ganlyn:

Duw a rannodd drwy einioes
Dau Ddafydd, Mathau, i’m oes:
Un a fu’n dda ’n ei fywyd,
Arall a fag yr holl fyd (GLl 27.1–4).

Mae bron yn sicr mai’r ŵyr, Dafydd Mathau ap Tomas ap Dafydd Mathau, yw gwir wrthrych y cywydd hwn, nid Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan, y gŵr yr ydym yn ymwneud ag ef yma. Dadleuodd golygydd GLl mai Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan a’i dad yng nghyfraith, Dafydd ap Gwilym, yw’r dau Ddafydd a grybwyllir yn llinell 2: ond mae’r coma a roddodd y golygydd ar ôl Dafydd yn dra chwithig, ac o gofio bodolaeth y ddau Ddafydd Mathau, y taid a’i ŵyr, nid oes ei angen. Sôn y mae’r bardd am weld dau ŵr o’r enw Dafydd Mathau yn ystod ei einioes. O’r rhain, sonnir am un yn yr amser gorffennol (llinell 3) gan ddangos ei fod wedi marw, a’r llall yw gwrthrych y gerdd. Mae hyn hefyd yn esbonio pam y geilw’r gwrthrych yn gwaladr Dafydd ap Gwilym a Llwyth Godwin. Tras gwraig Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan yw hwn, fel y sylwodd y golygydd, ac mae’r ymadroddion hyn yn awgrymu perthynas drwy waed, nid drwy briodas. Ni ddisgwylid yr ieithwedd hon mewn cywydd i’r taid, ond diflannu a wna’r anhawster o dderbyn mai Dafydd Mathau ap Tomas, ŵyr Dafydd Mathau a’i wraig, yw’r gwrthrych. Canwyd y cywydd ar ôl 1469, oherwydd mae’n enwi Watgyn ap Tomas ap Rhosier o Hergest yn noddwr arall i’r bardd, ac etifeddodd hwnnw Hergest ar ôl marwolaeth ei dad ym mrwydr Banbri yn 1469 (GLl 7). Mae hynny’n gyson â thystiolaeth ewyllys Reynborn Mathau, sy’n dangos bod Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan wedi marw cyn 1470.

Cydnabyddiaeth
Hoffwn ddiolch i Rhianydd Biebrach am ei chymorth gyda rhai o’r pwyntiau uchod ac yn arbennig am ddangos i mi gopïau o ewyllysiau Tomas a Reynborn Mathau.

Llyfryddiaeth
Bardo, D. and Gray, M. (2007), ‘The Power and the Glory: The Medieval Tombs of Llandaff Cathedral’, The Welsh Journal of Religious History, 2: 6–26
Butler, L.A.S. (1971), ‘Medieval Ecclesiastical Architecture in Glamorgan and Gower’, yn T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 379–415
Clark, G.T. (1893–1910) (ed.), Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgancia pertinent (Cardiff)
Jones, E.D. (1934), ‘Survey of South Wales Chantries, 1546’, Arch Camb 89: 135–55
Lang, C.E. (1859) (ed.), Diary of the Marches of the Royal Army During the Great Civil War Kept by Richard Symonds (London)
Matthews, J.H. (1898–1911) (ed.), Cardiff Records (Cardiff)
Willis, B. (1719), A Survey of the Cathedral-church of Landaff (London)