Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Gweurful ferch Madog o Abertanad, fl. c.1430–60

Canodd Guto gywydd marwnad i Weurful ferch Madog (cerdd 88), ac mae’n sicr iddo ganu cerddi eraill iddi nas cofnodwyd. Diogelwyd cerddi iddi gan feirdd eraill:

  • cywydd gan Lawdden i ddiolch i Weurful am baun a pheunes ac i ofyn paun ganddi hi a’i gŵr, Gruffudd ab Ieuan Fychan, dros Ddafydd Llwyd o’r Drenewydd, GLl cerdd 8;
  • cywydd marwnad gan Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 212.

At hynny, canodd Lewys gerdd i un o feibion Gweurful o’i phriodas gyntaf, Gruffudd ap Rhys (ibid. cerdd 221), a chanodd Guto a beirdd eraill gerddi i un o’i meibion o’i hail briodas, Dafydd Llwyd, yn ogystal â Chatrin ei wraig.

Diogelwyd yn llawysgrif LlGC 6499B, 619–20 (hanner cyntaf y 17g.–c.1655), yr unig gopi o gywydd anolygedig i’w hail ŵr, Gruffudd ab Ieuan Fychan o Abertanad, sy’n cynnwys mawl i Weurful (llinellau 32–46):

… aml ywr henw am liw r hinon
gwenfrewy glod gwin for glan
gwerfyl liw gwawr wyl ifan
ynnill mydr yn null madawg
ai gael mor hael y mae’r hawg
aeth i thad a cherdd gadair
y byd gynt bodo gair
mwy nag vn yna i ganv
maen gwerthfawr ar faelawr fu
am bendith wyneb indeg
ar fawl da i werfyl deg
am ddyfod cawn ddiod dda
hyd dy deml attad yma
gr’ bedydd wybodau
hwyr foch dydd a hir fyw’ch dau

Mae natur y deisyfiad yn llinell olaf y dyfyniad yn awgrymu mai’r llinell honno oedd llinell olaf y gerdd, ond gan mai cwta 46 o linellau’n unig a geir yn y llawysgrif gall fod llinellau wedi eu colli o gorff y gerdd. At hynny, fel y dengys rhai darlleniadau amherffaith yn y dyfyniad, mae’n bosibl fod cynsail goll y copi a gadwyd yn LlGC 6499B yn ddiffygiol mewn mannau. Collwyd enw’r bardd gan fod rhwyg ar waelod y ddalen. Fodd bynnag, mae’n bur eglur oddi wrth yr hyn a oroesodd fod enw gan dad Gweurful naill ai fel noddwr o fri neu fel bardd mewn cyswllt â cherdd gadair, sef cerdd a gyfansoddid er mwyn ennill cadair arian fechan (gw. y cyfuniad yn GPC 465 d.g. cerdd1; 65a.48n). Mae’r cyfeiriad uchod ymhlith y cyfeiriadau cynharaf at yr arfer o wobrwyo beirdd yn y dull hwnnw, ond erys ei arwyddocâd yn dywyll gan na ddaethpwyd o hyd i fardd na noddwr o’r enw Madog ap Maredudd.

Yn HPF iv: 190–200 ceir y nodyn diddorol canlynol, a allai gyfeirio at Weurful:

Gwerfyl Hael, the heiress of Blodwel and Abertanad, was very celebrated in her day for her many noble and excellent qualities. Among innumerable verses composed in her honour we find the following record of her goodness.

Next to Gwerfyl of Gwerfa, and Gwerfyl the Good,
Stands Gwerfyl of Blodwel in prudence and blood.

Tybed a yw’r cwpled hwnnw’n deillio o linellau ym marwnad Lewys Glyn Cothi i Weurful (GLGC 212.39–42)?

Tair santes oedd i Iesu,
a rhan i Fair o’r rhain fu:
Gwenful yn ymyl gwynfa,
Urful ddoeth a Gweurful dda.

Achres
Bu Gweurful yn briod ddwywaith, yn gyntaf â Rhys ap Dafydd o Rug ac yna â Gruffudd ab Ieuan Fychan o Abertanad. Seiliwyd y goeden achau isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 21, ‘Tudur Trefor’ 17; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ F1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Gweurful ferch Madog o Abertanad

Roedd gan Weurful ddwy chwaer, sef Catrin ac Annes, ac enw ei mam oedd Marged ferch Siencyn Deca. Gwelir bod Hywel, ei mab o’i phriodas gyntaf, yn dad i Elen wraig Dafydd ap Meurig Fychan o Nannau.

Dyddiadau
Mae’n bur eglur oddi wrth y farwnad (cerdd 89) a ganodd Guto i’w mab, Dafydd Llwyd, ei bod wedi marw cyn iddo ef a’i wraig, Catrin, farw o’r pla du tua dechrau Tachwedd 1465. Fodd bynnag, nid yw union ddyddiad ei marwolaeth yn hysbys. Ac ystyried ei bod wedi cenhedlu chwech o blant gyda dau ŵr, mae’n debygol ei bod wedi ei geni cyn c.1430.

Ei henw
Enwir Gweurful bedair gwaith yn y farwnad a ganodd Guto iddi, lle ymddengys yn debygol ar sail tystiolaeth y llawysgrifau ei fod yn defnyddio dwy ffurf ar ei henw yn unol â gofynion y gynghanedd:

  • 4 Megis marwfis am Weurful;
  • 19 Dwyn Gweurul dan y garreg;
  • 28 Gweurful wen, gwae’r Fêl Ynys;
  • 50 Ar ysgôr a roes Gweurul.

Ategir y ffurf Gweurul gan dystiolaeth y cywydd a ganodd Guto i ddiolch am bwrs (cerdd 87) gan Gatrin, merch yng nghyfraith Gweurful, lle deil mwyafrif y llawysgrifau mai Gweurul yw’r ffurf a geid yno:

  • 31 Llaw Weurul oll i arall.

Yn y cywydd marwnad a ganodd Lewys Glyn Cothi i Weurful fe’i henwir chwech o weithiau. Nid yw’r gynghanedd yn ystyriaeth yn achos yr enghraifft gyntaf ond deil y gynghanedd mai Gweurful a ddefnyddid mewn un enghraifft a Gweurul mewn pedair enghraifft arall (GLGC cerdd 212):

  • 20 cwyn mawr yw’n cân am Weurul;
  • 26 do, Weurul o’i daearu;
  • 42 Urful ddoeth a Gweurful dda;
  • 46 enw Gweurul uddun’ gares;
  • 64 â Gweurul i’r drugaredd.

Er nad yw tystiolaeth y llawysgrifau mor unfrydol yn achos pa lafariaid a geid yn y goben, ai Gweur[f]ul ynteu Gwer[f]ul, ceir lle i gredu mai’r ffurf gyntaf a ddefnyddiai Guto. Wedi’r cyfan, mae’n fwy tebygol y byddai copïwyr yn hepgor -u- nac yn ei hychwanegu, a chefnogir -eu- gan lawysgrifau lle ceir cerddi eraill gan Guto sy’n cynnwys enw’r noddwraig (86.61n Afal pêr Gweurful heb ball; 87.31n Llaw Weurul oll i arall). Yn 86.10n ac 89.62n yn unig y ceir cefnogaeth gref o blaid Gwerful yn y llawysgrifau, ond derbyniwyd Gweurful yn nhestunau’r golygiadau hynny yn sgil tystiolaeth gref o blaid Gweurful mewn llinellau eraill. Sylwer mai Gweurful hefyd yw’r ffurf ar ei henw a ddefnyddir yn y cywydd marwnad a ganwyd iddi gan Lewys Glyn Cothi ac yn y cywydd a ganodd Llawdden iddi.